
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Rheolaethau Mewnforio) (Cymru) 2025.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru;
(c) yn dod i rym ar 8 Awst 2025.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “anifail sy’n dueddol i glefyd” (“susceptible animal”) yw buwch, tarw, dafad, gafr, carw, camel, lama, alpaca, gwanaco, ficwnia, neu anifail cnoi cil arall, mochyn neu eliffant;
 ystyr “cynhyrchion deilliedig” (“derived products”) yw cynhyrchion a geir drwy un neu ragor o driniaethau, trawsnewidiadau neu gamau wrth brosesu sgil-gynhyrchion anifeiliaid;
 ystyr “cynhyrchion o anifail sy’n dueddol i glefyd” (“products from a susceptible animal”) yw unrhyw un neu ragor o’r canlynol, sy’n cynnwys, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, gorff anifail sy’n dueddol i glefyd, neu sy’n deillio o anifail sy’n dueddol i glefyd—
(a) cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid;
(b) sgil-gynhyrchion anifeiliaid, neu
(c) cynhyrchion deilliedig;
 ystyr “cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid” (“products of animal origin”) yw unrhyw fwyd sy’n dod o anifeiliaid, gan gynnwys cynnyrch cig;
 ystyr “cynnyrch cig” (“meat product”) yw unrhyw fwyd a wneir o gig neu waed anifail;
 ystyr “mochyn” (“pig”) yw unrhyw anifail o deulu’r Suidae;
 ystyr “sgil-gynhyrchion anifeiliaid” (“animal by-products”) yw cyrff cyfan anifeiliaid neu rannau ohonynt, cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid neu gynhyrchion eraill a geir o anifeiliaid, na fwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl, ac eithrio cynhyrchion cenhedlol;
 ystyr “tiriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig” (“territory subject to special transitional import arrangements”) yw—
(a) un o wladwriaethau’r AEE;
(b) Ynysoedd Ffaro;
(c) Yr Ynys Las;
(d) Y Swistir.
3 
Yn ddarostyngedig i erthygl 4, ni chaiff unrhyw berson fewnforio cynhyrchion o anifail sy’n dueddol i glefyd i Gymru o diriogaeth sy’n ddarostyngedig i drefniadau mewnforio trosiannol arbennig pan fwriedir i’r cynnyrch hwnnw gael ei fwyta neu ei ddefnyddio’n bersonol.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), nid yw’r gwaharddiad yn erthygl 3 yn gymwys i—
(a) llaeth powdr babanod, bwyd babanod neu fwydydd arbennig sydd eu hangen am resymau meddygol, sydd—
(i) yn gynnyrch nad oes angen ei reweiddio cyn ei agor;
(ii) yn gynnyrch brand perchnogol sydd wedi ei becynnu i’w werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, a
(iii) yn gynnyrch sydd wedi ei gynnwys mewn pecynwaith heb ei dorri oni bai ei fod yn y broses o gael ei fwyta neu ei yfed ar adeg y mewnforio;
(b) bwyd anifeiliaid anwes sydd ei angen am resymau sy’n gysylltiedig ag iechyd, sydd—
(i) wedi ei fwriadu ar gyfer yr anifail anwes sy’n mynd gyda’r teithiwr ar adeg teithio;
(ii) yn silff-sefydlog ar dymheredd amgylchynol;
(iii) yn gynnyrch brand perchnogol sydd wedi ei becynnu i’w werthu’n uniongyrchol i’r defnyddiwr terfynol, a
(iv) wedi ei gynnwys mewn pecynwaith heb ei dorri oni bai ei fod yn y broses o gael ei fwyta ar adeg y mewnforio;
(c) bara, cacennau, bisgedi, wafflau, wafferi, rhysgiau, bara wedi ei dostio neu gynnyrch tebyg wedi ei dostio sy’n cynnwys llai nag 20% o gynhyrchion llaeth wedi eu prosesu, ac sydd—
(i) yn silff-sefydlog ar dymheredd amgylchynol neu sydd yn amlwg, ar y cam gweithgynhyrchu, wedi bod drwy broses goginio neu drin â gwres gyflawn drwy’r cyfan o’r sylwedd, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;
(ii) yn gynnyrch i’w fwyta gan bobl, a
(iii) yn gynnyrch sydd wedi ei becynnu’n ddiogel neu wedi ei selio mewn cynwysyddion glân;
(d) siocled neu felysion (gan gynnwys losin) sy’n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth wedi eu prosesu, os yw’r cynnyrch—
(i) yn silff-sefydlog ar dymheredd amgylchynol neu sydd, ar y cam gweithgynhyrchu, wedi bod drwy broses goginio neu drin â gwres gyflawn drwy’r cyfan o’r sylwedd, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;
(ii) i’w fwyta gan bobl, a
(iii) wedi ei becynnu’n ddiogel neu wedi ei selio mewn cynwysyddion glân;
(e) atchwanegiadau bwyd wedi eu pecynnu ar gyfer y defnyddiwr terfynol sy’n cynnwys cyfanswm o lai nag 20% o gynhyrchion anifeiliaid wedi eu prosesu (gan gynnwys glwcosamin neu gondroïtin) heb gynnwys cynhyrchion cig, ac
(f) pasta neu nwdls sy’n cynnwys llai na 50% o gynhyrchion llaeth wedi eu prosesu, ac eithrio pasta a nwdls wedi eu cymysgu neu eu llenwi â chynnyrch cig, sydd—
(i) yn silff-sefydlog ar dymheredd amgylchynol neu sydd, ar y cam gweithgynhyrchu, wedi bod drwy broses goginio neu drin â gwres gyflawn drwy’r cyfan o’r sylwedd, fel bod unrhyw gynnyrch amrwd wedi ei annatureiddio;
(ii) yn gynnyrch i’w fwyta gan bobl, a
(iii) yn gynnyrch sydd wedi ei becynnu’n ddiogel neu wedi ei selio mewn cynwysyddion glân.
(2) Nid yw’r esemptiadau ym mharagraff 1(a) a (b) yn gymwys pan fo person yn mewnforio mwy na chyfanswm o 2kg o’r cynhyrchion hynny.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
31 Gorffennaf 2025