
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2025.
2 
Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 11.
3 
Yn rheoliad 3 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “absenoldeb cysylltiedig â phlentyn”—
(i) hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (e);
(ii) ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“, neu
(g) absenoldeb profedigaeth rhiant;”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “absenoldeb profedigaeth rhiant” yr ystyr a roddir i “parental bereavement leave” yn rheoliad 3 o Reoliadau Absenoldeb Profedigaeth Rhiant 2020;”;
(c) yn y diffiniad o “tâl statudol”—
(i) hepgorer “neu” ar ddiwedd paragraff (c);
(ii) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“, neu
(e) tâl profedigaeth rhiant statudol o fewn yr ystyr a roddir i “statutory parental bereavement pay” yn adran 171ZZ6 (hawlogaeth) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992;”.
4 
Yn rheoliad 27(2) (ystyr “tâl pensiynadwy tybiedig”)—
(a) yn is-baragraff (c), ar ôl “absenoldeb mamolaeth ychwanegol,” mewnosoder “absenoldeb profedigaeth rhiant,”;
(b) yn is-baragraff (e), yn lle “neu absenoldeb tadolaeth ychwanegol” rhodder “, absenoldeb tadolaeth ychwanegol neu absenoldeb profedigaeth rhiant”.
5 
Yn rheoliad 119 (cyfraniadau aelodau)—
(a) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle “y golofn briodol ar gyfer y flwyddyn” rhodder “yr ail golofn ar gyfer y cyfnod a ddatgenir”;
(ii) yn y pennawd “Cyfradd gyfraniadau o 1 Ebrill 2018 ymlaen” yn y tabl—(aa) hepgorer y gair “o”;(bb) yn lle “ymlaen” rhodder “- 31 Awst 2025”.
(b) ym mharagraff (8), ar ôl “o dan y rheoliad hwn” mewnosoder “, rheoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”.
6 
Ar ôl rheoliad 119 mewnosoder—“
119A. 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 120 i 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldebau), rhaid i aelod actif o’r cynllun hwn dalu cyfraniadau ar ei dâl pensiynadwy blynyddol i’r cynllun mewn cysylltiad â chyflogaeth gynllun ar y gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i haen yr aelod yn y cyfnod tâl sy’n cynnwys 1 Ebrill ar gyfer y gyflogaeth honno (neu, yn achos aelod actif y mae ei aelodaeth yn dechrau ar ôl 1 Ebrill mewn unrhyw flwyddyn, i’r haen yr oedd yr aelod ynddi ar ddechrau’r aelodaeth honno).
(2) Mae’r gyfradd gyfraniadau sy’n gymwys i gyflogaeth gynllun fel y’i pennir yn y tabl canlynol, gyda’r gyfradd gyfraniadau a bennir yn y drydedd golofn o’r cyfnod a bennir yn y drydedd golofn i’w hystyried yn gymwys i’r haen a bennir yn y golofn gyntaf y mae rôl yr aelod actif a bennir yn yr ail golofn yn perthyn iddi:

Haen Rôl Cyfradd gyfraniadau o 1 Medi 2025 ymlaen
1 Diffoddwr Tân RheolaiddDiffoddwr Tân Wrth GefnDiffoddwr Tân Gwirfoddol 13.0%
2 Rheolwr CriwRheolwr Gwylfa 13.2%
3 Rheolwr GorsafRheolwr Grŵp 13.7%
4 Rheolwr Ardal 14.2%
5 Prif Swyddog Tân CynorthwyolDirprwy Brif Swyddog TânPrif Swyddog Tân 14.5%
(3) Pan fo newid yn digwydd i gyflogaeth gynllun, neu newid perthnasol sy’n effeithio ar rôl yr aelod yn ystod blwyddyn ariannol a bod y rôl ddiwygiedig yn perthyn i haen cyfradd gyfraniadau wahanol, rhaid i’r rheolwr cynllun benderfynu bod rhaid cymhwyso’r gyfradd honno a rhaid i’r rheolwr cynllun roi gwybod i’r aelod pa gyfradd gyfraniadau a gymhwysir ac o ba ddyddiad y’i cymhwysir.
(4) Pan fo’r rheolwr cynllun wedi penderfynu o dan baragraff (3) fod cyfradd gyfraniadau wahanol yn gymwys, rhaid i’r aelod dalu cyfraniadau yn ôl y gyfradd honno ar y tâl pensiynadwy y mae’r aelod hwnnw’n ei gael ar yr adeg honno.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “diffoddwr tân gwirfoddol” (“volunteer firefighter”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 (dehongli);
 mae i “diffoddwr tân rheolaidd” (“regular firefighter”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 (dehongli), ond nid yw’n cynnwys diffoddwr tân a gyflogir yn rheolwr criw, rheolwr gwylfa, rheolwr gorsaf, rheolwr grŵp, rheolwr ardal, prif swyddog tân cynorthwyol, dirprwy brif swyddog tân na phrif swyddog tân;
 mae i “diffoddwr tân wrth gefn” (“retained firefighter”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 (dehongli);
 ystyr “dirprwy brif swyddog tân” (“deputy chief fire officer”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod yn ddirprwy brif swyddog tân—
(a) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(b) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), ac
(c) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “prif swyddog tân” (“chief fire officer”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod yn brif swyddog tân—
(a) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(b) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), ac
(c) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “prif swyddog tân cynorthwyol” (“assistant chief fire officer”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod yn brif swyddog tân cynorthwyol—
(a) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(b) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), ac
(c) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “rheolwr ardal” (“area manager”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod—
(a) mewn rôl rheolwr ardal a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol ym mis Medi 2005,
(b) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(c) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), a
(d) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “rheolwr criw” (“crew manager”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod—
(a) mewn rôl rheolwr criw a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol ym mis Medi 2005,
(b) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(c) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), a
(d) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “rheolwr gorsaf” (“station manager”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod—
(a) mewn rôl rheolwr gorsaf a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol ym mis Medi 2005,
(b) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(c) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), a
(d) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “rheolwr grŵp” (“group manager”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod—
(a) mewn rôl rheolwr grŵp a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol ym mis Medi 2005,
(b) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(c) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), a
(d) ac eithrio ar sail dros dro;
 ystyr “rheolwr gwylfa” (“watch manager”) yw person (P) a gyflogir (pa un ai’n amser-cyflawn neu’n rhan-amser) gan awdurdod—
(a) mewn rôl rheolwr gwylfa a nodir yn “Fire and Rescue Services Rolemaps” a ddyroddwyd gan Gyd-gyngor Cenedlaethol Gwasanaethau Tân ac Achub yr Awdurdodau Lleol ym mis Medi 2005,
(b) ac eithrio yn ddiffoddwr tân wrth gefn neu ddiffoddwr tân gwirfoddol,
(c) ar delerau y mae’n ofynnol i P, neu y gall fod yn ofynnol i P, ymgymryd â gwaith ymladd tân odanynt neu, heb doriad ym mharhad y gyflogaeth honno, y gall fod yn ofynnol i P gyflawni dyletswyddau eraill sy’n briodol i’w rôl odanynt (pa un ai yn lle ymgymryd â gwaith ymladd tân neu’n ychwanegol at ymgymryd â gwaith ymladd tân), a
(d) ac eithrio ar sail dros dro.”
7 
Yn rheoliad 120 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith oherwydd salwch, anaf, anghydfod undebol neu absenoldeb awdurdodedig)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “rheoliad 119 (cyfraniadau aelod)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”;
(b) ym mharagraff (2), ar ôl “rheoliad 119 (cyfraniadau aelod)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”;
(c) ym mharagraff (3), ar ôl “rheoliad 119 (cyfraniadau aelod)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”;
(d) ym mharagraff (4), ar ôl “rheoliad 119 (cyfraniadau aelod)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”.
8 
Yn rheoliad 121(1) (cyfraniadau yn ystod absenoldeb o’r gwaith ar absenoldeb gwasanaeth lluoedd wrth gefn), ar y diwedd mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen).”
9 
Yn rheoliad 122 (cyfraniadau yn ystod absenoldeb cysylltiedig â phlentyn)—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl “rheoliad 119 (cyfraniadau aelod)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl “absenoldeb mabwysiadu ychwanegol” mewnosoder “, absenoldeb profedigaeth rhiant”;
(ii) ar ôl “rheoliad 119 (cyfraniadau aelod)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”.
10 
Yn rheoliad 123(1) (didynnu a thalu cyfraniadau), ar ôl “reoliad 119 (cyfraniadau aelodau)” mewnosoder “neu reoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen)”.
11 
Yn rheoliad 132(e) (taliadau i mewn i gronfa bensiwn y diffoddwyr tân) ar ôl “reoliad 119 (cyfraniadau aelodau),” mewnosoder “rheoliad 119A (cyfraniadau aelod o 1 Medi 2025 ymlaen),”.
Yr ydym yn cydsynio â gwneud y Rheoliadau hyn.
Anna Turley
Nicholas Dakin
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Fawrhydi
28 Gorffennaf 2025
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
28 Gorffennaf 2025