
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Gorffennaf 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i etholiadau Cymreig.
(4) Er bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym o dan baragraff (2), nid ydynt yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad Cymreig y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar neu cyn 6 Mai 2026.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “anabl” (“disabled”) yr un ystyr ag yn adran 28(13) o Ddeddf 2024;
 mae i “cymorth ariannol” (“financial assistance”) yr un ystyr ag yn adran 31 o Ddeddf 2024;
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024;
 ystyr “etholiad Cymreig” (“Welsh election”) yw etholiad ar gyfer dychwelyd aelod o—
(a) Senedd Cymru;
(b) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
(c) cyngor cymuned yng Nghymru;
 ystyr “Gorchymyn 2025” (“the 2025 Order”) yw Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025;
 ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” (“registered political party”) yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;
 ystyr “ymgeisydd” (“candidate”) yw—
(a) mewn perthynas ag etholiad Senedd Cymru, person—
(i) sy’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd unigol, neu sydd wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd unigol, yn yr etholiad hwnnw, neu
(ii) sy’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd rhestr plaid, neu sydd wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd rhestr plaid, yn yr etholiad hwnnw;
(b) mewn perthynas ag etholiad ar gyfer aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, person sy’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd, neu sydd wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd, yn yr etholiad hwnnw;
(c) mewn perthynas ag etholiad ar gyfer aelodau o gyngor cymuned yng Nghymru, person sy’n bwriadu sefyll fel ymgeisydd, neu sydd wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd, yn yr etholiad hwnnw;
 ystyr “ymgeisydd rhestr plaid” (“party list candidate”) yw ymgeisydd mewn etholiad Senedd Cymru sydd wedi ei gynnwys ar restr o ymgeiswyr a gyflwynir gan blaid wleidyddol gofrestredig;
 ystyr “ymgeisydd unigol” (“individual candidate”) yw ymgeisydd mewn etholiad Senedd Cymru heblaw ymgeisydd rhestr plaid.
(2) Mae person wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd mewn etholiad Cymreig—
(a) mewn perthynas ag etholiad Senedd Cymru, os yw ei enwebiad—
(i) fel ymgeisydd unigol yn yr etholiad hwnnw wedi ei dderbyn fel enwebiad dilys gan y swyddog canlyniadau yn unol â rheol 14 o Atodlen 5 i Orchymyn 2025;
(ii) fel ymgeisydd rhestr plaid yn yr etholiad hwnnw wedi ei dderbyn fel enwebiad dilys gan y swyddog canlyniadau yn unol â rheol 15 o Atodlen 5 i Orchymyn 2025;
(b) mewn perthynas ag etholiad ar gyfer aelodau o gyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol, os yw ei enwebiad fel ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw wedi ei dderbyn fel enwebiad dilys gan y swyddog canlyniadau yn unol â rheol 10 o Atodlen 1 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021, neu reol 10 o Atodlen 2 iddynt;
(c) mewn perthynas ag etholiad ar gyfer aelodau o gyngor cymuned, os yw ei enwebiad fel ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw wedi ei dderbyn fel enwebiad dilys gan y swyddog canlyniadau yn unol â rheol 10 o Atodlen 1 i Reolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) (Cymru) 2021, neu reol 10 o Atodlen 2 iddynt.
RHAN 2
3 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn sefydlu cynllun ar gyfer rhoi cymorth ariannol i ymgeiswyr anabl o dan adran 28(2) o Ddeddf 2024, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y cynllun cymorth ariannol”.
(2) Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn cynnwys y cynllun cymorth ariannol.
4 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru benodi person i weithredu’r cynllun cymorth ariannol, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “gweithredwr y cynllun”.
(2) Rhaid i weithredwr y cynllun fod ag—
(a) dealltwriaeth neu brofiad o amrywiaeth eang o anableddau;
(b) dealltwriaeth neu brofiad o’r effaith y mae anableddau yn ei chael ar rôl ymgeisydd sy’n sefyll i gael ei ethol yng Nghymru;
(c) dealltwriaeth o broses etholiadau Cymreig;
(d) prosesau gweinyddol ac ariannol ar waith i weithredu’r cynllun cymorth ariannol.
(3) Ni chaiff gweithredwr y cynllun fod yn berson a eithrir.
(4) Caniateir i benodiad o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ddarostyngedig i delerau ac amodau a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(5) Caiff telerau ac amodau o dan baragraff (4) gynnwys trefniadau ar gyfer taliadau gan Weinidogion Cymru i weithredwr y cynllun at ddiben ariannu—
(a) unrhyw gymorth ariannol a delir o dan y cynllun cymorth ariannol, a
(b) costau gweithredu’r cynllun cymorth ariannol.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “person a eithrir” yr un ystyr ag yn adran 29 o Ddeddf 2024.
5 

(1) Rhaid i weithredwr y cynllun weithredu’r cynllun cymorth ariannol yn unol â gofynion y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i weithredwr y cynllun—
(a) sefydlu’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y cynllun cymorth ariannol yn unol â rheoliad 10;
(b) darparu gwasanaeth i—
(i) cynghori ymgeiswyr sy’n holi ynghylch cwmpas a pharamedrau’r cynllun cymorth ariannol, a
(ii) cynorthwyo ymgeiswyr gyda’r broses o wneud cais am gymorth ariannol o dan y cynllun cymorth ariannol;
(c) penderfynu a yw ceisiadau sydd wedi dod i law yn bodloni’r meini prawf cymhwystra a sefydlwyd yn is-baragraff (a);
(d) dyrannu’r cymorth ariannol y mae ymgeisydd yn gymwys i’w gael neu y gallai fod yn gymwys i’w gael;
(e) gwneud trefniadau ar gyfer talu a dosbarthu’r cymorth ariannol a gymeradwyir;
(f) sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod mesurau diogelu priodol yn cael eu rhoi ar waith i ddiogelu rhag unrhyw geisiadau twyllodrus a pheri na wneir unrhyw daliadau anghywir o’r cynllun cymorth ariannol;
(g) cymryd camau rhesymol i hyrwyddo’r cynllun a sut y gellir manteisio arno, ac i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r cynllun cymorth ariannol a sut y gellir manteisio arno.
6 
Yn ddarostyngedig i reoliad 7(3), caiff gweithredwr y cynllun awdurdodi’r personau a restrir ym mharagraffau (a) a (b) i gyflawni unrhyw un neu ragor o’i swyddogaethau o dan y cynllun cymorth ariannol—
(a) aelod o staff;
(b) pan mai corff yw gweithredwr y cynllun, aelodau o’r corff neu bwyllgor i’r corff.
7 

(1) Caiff gweithredwr y cynllun sefydlu panel, y cyfeirir ato fel “panel gwneud penderfyniadau”, i arfer swyddogaethau gweithredwr y cynllun a restrir yn rheoliad 5(2)(c) i (e).
(2) Rhaid i aelodau a benodir i’r panel gwneud penderfyniadau—
(a) cael eu penodi drwy broses gwneud cais a benderfynir gan weithredwr y cynllun, a
(b) bodloni’r meini prawf a nodir yn rheoliad 4(2)(a) a (b) a (3).
(3) Pan fo gweithredwr y cynllun yn sefydlu panel gwneud penderfyniadau o dan baragraff (1), ni chaiff ddirprwyo’r swyddogaethau hynny i bersonau a restrir o dan reoliad 6.
8 

(1) Rhaid i weithredwr y cynllun hefyd ddarparu canllawiau ynghylch gweithredu’r cynllun cymorth ariannol.
(2) Rhaid i’r canllawiau bennu’r wybodaeth a ganlyn—
(a) y meini prawf cymhwystra ar gyfer cais llwyddiannus am gymorth ariannol;
(b) y mathau o gymorth neu addasiadau, sy’n arwain at gostau ychwanegol i ymgeiswyr anabl, y caniateir cymeradwyo cymorth ariannol o’r cynllun cymorth ariannol ar eu cyfer;
(c) manylion ynghylch y broses gwneud cais ar gyfer y cynllun cymorth ariannol, gan gynnwys unrhyw ffurflen gais ac unrhyw amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau;
(d) manylion ynghylch y prosesau gwneud penderfyniadau a dyrannu, gan gynnwys yr amserlenni ar gyfer penderfynu ceisiadau a thalu a dosbarthu unrhyw gymorth ariannol a gymeradwyir;
(e) manylion ynghylch unrhyw broses gwyno neu adolygu mewn cysylltiad â phenderfyniadau a wneir mewn ymateb i geisiadau.
(3) Caiff y canllawiau gynnwys gwybodaeth arall sy’n cynorthwyo gweithredwr y cynllun i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â gweithredu’r cynllun cymorth ariannol.
(4) Rhaid i weithredwr y cynllun—
(a) cyhoeddi’r canllawiau ar ei wefan, a
(b) cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y canllawiau yn hygyrch i ddefnyddwyr.
RHAN 3
9 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (4), rhaid i’r cynllun cymorth ariannol ddarparu cymorth ariannol tuag at gostau ychwanegol yr eir iddynt yn rhesymol gan ymgeisydd i gael cymorth neu addasiadau i oresgyn rhwystrau sy’n ymwneud â’i anabledd ac sy’n effeithio arno o ran cymryd rhan mewn etholiad Cymreig.
(2) Rhaid i unrhyw gostau ychwanegol yr eir iddynt gan ymgeisydd o dan baragraff (1) fod yn gysylltiedig ag anabledd yr ymgeisydd.
(3) Ni chaniateir talu cymorth ariannol a ddarperir o dan y cynllun ond mewn cysylltiad â chostau ychwanegol yr eir iddynt yn rhesymol am gymorth neu addasiadau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod penodedig.
(4) Ni chaiff cymorth ariannol a ddarperir o dan y cynllun cymorth ariannol roi mantais i’r ymgeisydd wrth geisio swydd etholedig.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfnod penodedig” yw o’r dyddiad y caiff ymgeisydd mewn etholiad Cymreig ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd yn yr etholiad hwnnw hyd at y diwrnod y cyhoeddir canlyniadau’r etholiad hwnnw.
10 

(1) Rhaid i’r meini prawf cymhwystra sy’n ofynnol gan reoliad 5(2)(a) gynnwys yr amodau a ganlyn—
(a) i wneud cais am gymorth ariannol o dan y cynllun cymorth ariannol, rhaid i ymgeisydd fod yn gymwys i fod yn ymgeisydd mewn etholiad Cymreig;
(b) i gael cymorth ariannol o dan y cynllun cymorth ariannol, rhaid i ymgeisydd fod wedi ei enwebu’n ddilys fel ymgeisydd mewn etholiad Cymreig;
(c) rhaid i ymgeisydd fodloni’r diffiniad o anabl a rhaid i unrhyw amhariad fod yn bresennol—
(i) pan fydd ymgeisydd yn gwneud cais am gymorth ariannol o dan y cynllun cymorth ariannol, a
(ii) yn ystod y cyfnod pan fydd ymgeisydd yn cael unrhyw gymorth ariannol o dan y cynllun cymorth ariannol.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a), mae ymgeisydd yn gymwys i fod yn ymgeisydd mewn etholiad Cymreig os—
(a) mewn perthynas ag etholiad Senedd Cymru, nad yw wedi ei anghymhwyso rhag bod yn ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd o dan adran 16(A1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
(b) mewn perthynas ag etholiad ar gyfer aelodau o gyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned—
(i) yw ymgeisydd yn gymwys i gael ei ethol yn gynghorydd yn unol ag adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, a
(ii) nad yw ymgeisydd wedi ei anghymhwyso rhag cael ei ethol yn gynghorydd—(aa) gan unrhyw reswm a nodir yn adran 80A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972,(bb) oherwydd unrhyw benderfyniad sydd wedi ei wneud o dan adran 79 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000, neu(cc) am ddal swydd sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol fel y nodir yn adran 1(1) ac (1A) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
11 

(1) Rhaid i gais am gymorth ariannol o dan y cynllun cymorth ariannol—
(a) cael ei wneud ar y ffurf honno,
(b) cael ei gyflwyno yn y modd hwnnw, ac
(c) cynnwys yr wybodaeth honno,
a bennir gan weithredwr y cynllun.
(2) Rhaid i gais gael ei wneud o fewn unrhyw amserlenni a bennir gan weithredwr y cynllun.
(3) Rhaid i ymgeisydd ddarparu unrhyw ddogfennau eraill neu unrhyw wybodaeth arall y mae gweithredwr y cynllun yn gofyn amdanynt neu amdani pan ddaw’r cais i law neu ar ôl hynny.
(4) Rhaid i weithredwr y cynllun, o fewn yr amserlenni penodedig—
(a) gwrthod cais neu wrthod cymeradwyo cais, neu
(b) cymeradwyo cais yn llawn neu’n rhannol, yn ddiamod neu’n ddarostyngedig i’r amodau hynny a benderfynir ganddo, ac
(c) hysbysu’r ymgeisydd am ei benderfyniad.
(5) Rhaid i’r holl geisiadau gael eu hystyried a’u penderfynu ar sail ddienw.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “a bennir” a “penodedig” yw wedi ei bennu mewn canllawiau a gyhoeddir gan weithredwr y cynllun yn unol â rheoliad 8.
12 

(1) Pan wneir cais o dan y cynllun cymorth ariannol cyn i ymgeisydd (“Y”) gael ei enwebu’n ddilys mewn etholiad Cymreig, rhaid i weithredwr y cynllun gymryd unrhyw gamau sy’n ymarferol i wneud trefniadau i sicrhau bod unrhyw gymorth ariannol a gymeradwyir yn cael ei dalu i Y cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad y caiff Y ei enwebu’n ddilys.
(2) Ym mhob achos arall, rhaid i weithredwr y cynllun gymryd unrhyw gamau sy’n ymarferol i sicrhau—
(a) bod cais Y yn cael ei benderfynu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl iddo ddod i law, a
(b) bod unrhyw gymorth ariannol a gymeradwyir yn cael ei dalu i Y cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i gais Y gael ei gymeradwyo gan weithredwr y cynllun.
(3) Caiff gweithredwr y cynllun dalu’r cymorth ariannol a gymeradwyir—
(a) fel taliad uniongyrchol i gyflenwr y cymorth a gymeradwyir neu’r addasiadau a gymeradwyir, neu
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (4), fel taliad uniongyrchol i Y y mae rhaid iddo wneud ei drefniadau ei hun i gael y cymorth a gymeradwyir neu’r addasiadau a gymeradwyir.
(4) Ni chaiff gweithredwr y cynllun dalu’r cymorth ariannol a gymeradwyir i Y o dan baragraff (3)(b) oni bai ei fod wedi ei fodloni—
(a) bod Y wedi mynd i’r gost, neu y bydd Y yn mynd i’r gost, yn briodol am y cymorth a gymeradwyir neu’r addasiadau a gymeradwyir;
(b) bod Y wedi cydymffurfio, neu y bydd Y yn cydymffurfio, ag un neu ragor o amodau’r cymorth ariannol a gymeradwyir.
(5) At ddibenion paragraffau (1) a (2), caiff gweithredwr y cynllun ei gwneud yn ofynnol i Y ddarparu gwybodaeth sy’n dangos tystiolaeth o wariant neu unrhyw gamau angenrheidiol sy’n ymwneud â’r cymorth ariannol a gymeradwyir.
13 

(1) Caiff gweithredwr y cynllun roi hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol ad-dalu unrhyw ran o unrhyw gymorth ariannol a dalwyd i ymgeisydd o dan y cynllun cymorth ariannol.
(2) Cyn rhoi hysbysiad o dan baragraff (1), rhaid i weithredwr y cynllun fod wedi ei fodloni—
(a) bod y cais a gymeradwywyd y gwnaed y taliad mewn cysylltiad ag ef, neu unrhyw wybodaeth ategol a ddarparwyd gan ymgeisydd mewn perthynas ag ef, wedi cynnwys gwybodaeth a oedd yn anghywir neu’n gamarweiniol,
(b) bod unrhyw gymorth ariannol a dalwyd wedi cael ei ddefnyddio at ddiben heblaw’r diben y cafodd ei dalu ar ei gyfer, neu
(c) na chydymffurfiwyd ag unrhyw un neu ragor o’r amodau y cymeradwywyd y cais yn ddarostyngedig iddynt, neu y talwyd y cymorth ariannol yn ddarostyngedig iddynt, neu na ellir cydymffurfio â hwy.
(3) Rhaid i hysbysiad a roddir o dan baragraff (1) ei gwneud yn ofynnol i’r ymgeisydd ad-dalu’r swm a bennir yn yr hysbysiad o fewn cyfnod a bennir felly, nad yw’n llai nag 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Pan na chaiff unrhyw ran o’r swm a bennir mewn hysbysiad o dan baragraff (1) ei had-dalu o fewn cyfnod a bennir felly, caiff gweithredwr y cynllun adennill y swm sydd heb ei ad-dalu yn ddiannod fel dyled sifil.
RHAN 4
14 

(1) Rhaid i weithredwr y cynllun gadw cofnod a chyfrif cyfredol o’r canlynol—
(a) crynodeb o’r defnydd o’r cynllun cymorth ariannol gan gynnwys—
(i) nifer y ceisiadau a ddaeth i law;
(ii) y math o gymorth neu addasiadau y gofynnwyd amdano neu amdanynt gan yr ymgeiswyr;
(iii) canlyniad y ceisiadau a aseswyd, gan gynnwys y cymorth neu’r addasiadau a’r costau a gymeradwywyd;
(iv) nifer y ceisiadau a dynnwyd yn ôl a’r rhesymau dros eu tynnu’n ôl;
(b) yr holl daliadau cymorth ariannol a wnaed, a pha un a wnaed y taliadau hynny yn uniongyrchol i ymgeisydd neu’n uniongyrchol i gyflenwyr y cymorth neu’r addasiadau ar gyfer yr ymgeisydd;
(c) asesiad o gost gweithredu’r cynllun.
(2) Rhaid i weithredwr y cynllun drefnu bod y cofnodion a’r cyfrifon y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) ar gael i’w hadolygu yn dilyn hysbysiad gan Weinidogion Cymru.
(3) O ran unrhyw gofnodion ac unrhyw gyfrifon a ddarperir i Weinidogion Cymru o dan baragraff (2)—
(a) rhaid iddynt fod mewn fformat dienw, a
(b) ni chânt gynnwys gwybodaeth y gellir adnabod ymgeisydd oddi wrthi fel derbynnydd y cymorth ariannol a gymeradwyir.
(4) Rhaid i weithredwr y cynllun gadw’r cofnodion a’r cyfrifon y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) am 2 flynedd ar ôl diwrnod y pôl mewn etholiad Cymreig ac yna, oni chyfarwyddir fel arall drwy orchymyn gan yr Uchel Lys, Llys y Goron neu lys ynadon, rhaid iddo beri iddynt gael eu dinistrio.
15 

(1) Heb fod yn hwyrach na 6 mis ar ôl diwrnod y pôl mewn etholiad Cymreig, rhaid i weithredwr y cynllun gyhoeddi adroddiad.
(2) Rhaid i’r adroddiad gynnwys manylion ynghylch—
(a) sawl tro y cysylltwyd â gweithredwr y cynllun am gymorth ariannol;
(b) nifer y ceisiadau a ddaeth i law, a gymeradwywyd ac a wrthodwyd;
(c) natur anableddau’r ymgeiswyr ynghyd â manylion ynghylch y cymorth sydd ei angen y gofynnwyd am gymorth ariannol ar ei gyfer;
(d) amgylchiadau pan gymeradwywyd cymorth ariannol ond nas talwyd o fewn amserlen a oedd yn galluogi’r ymgeisydd i gael ei gynorthwyo, a’r rhesymau dros hynny;
(e) swm y cymorth ariannol a ddarparwyd gan gynnwys dadansoddiad o’r taliadau a wnaed;
(f) yr achlysuron pan ddarparwyd hysbysiad gan weithredwr y cynllun yn ei gwneud yn ofynnol ad-dalu unrhyw ran o gymorth ariannol a dalwyd i berson o dan y cynllun cymorth ariannol;
(g) adborth gan ymgeiswyr am eu profiad o ddefnyddio’r cynllun cymorth ariannol.
(3) O ran yr adroddiad a gyhoeddir o dan baragraff (1)—
(a) rhaid iddo fod mewn fformat dienw;
(b) ni chaiff gynnwys gwybodaeth y gellir adnabod ymgeisydd oddi wrthi fel derbynnydd y cymorth ariannol a gymeradwyir;
(c) ni chaiff dorri deddfwriaeth diogelu data (o fewn ystyr Deddf Diogelu Data 2018).
RHAN 5
16 

(1) Mae Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4A (treuliau etholiad: eithriadau cyffredinol), ar ôl paragraff 7A mewnosoder—“
7B. 
In respect of a local government election in Wales, a matter in respect of which expenses are paid or reimbursed in accordance with the financial assistance scheme established by the Welsh Elections Financial Assistance Scheme (Disabled Candidates) Regulations 2025 (S.I. 2025/897 (W. 157)) (to the extent that the matter does not fall within paragraph 7A).”
17 

(1) Mae Gorchymyn 2025 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 7 (treuliau etholiad: eithriadau cyffredinol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder—“
19A. 
Mater y mae treuliau yn cael eu talu neu eu had-dalu mewn cysylltiad ag ef yn unol â’r cynllun cymorth ariannol a sefydlir gan Reoliadau Cynllun Cymorth Ariannol Etholiadau Cymreig (Ymgeiswyr Anabl) 2025 (O.S. 2025/897 (Cy. 157)) (i’r graddau nad yw’r mater yn dod o fewn paragraff 17).”
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2025