
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) (Diwygio) 2025 a deuant i rym ar 18 Gorffennaf 2025.
2 
Mae Rheoliadau Dyrannu Tai a Digartrefedd (Cymhwystra) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
3 
Yn rheoliad 3 (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “a” ar ôl paragraff (p);
(b) ar ddiwedd paragraff (q), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl paragraff (q) mewnosoder—“
(r) Dosbarth R – person—
(i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
(ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;
(iii) sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi a roddir yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
(iv) nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
(v) nad yw’n berson (P)—(aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;(bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac(cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a
(vi) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.”
4 
Yn rheoliad 4(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael dyraniad o lety tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (k);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(m) person—
(i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
(ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a
(iii) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am ddyraniad o lety tai o dan Ran 6 o Ddeddf 1996.”
5 
Yn rheoliad 5(1) (personau sy’n ddarostyngedig i reolaeth fewnfudo sy’n gymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (q);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (r), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (r) mewnosoder—“
(s) Dosbarth S – person—
(i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
(ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025;
(iii) y rhoddwyd caniatâd iddo i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol â’r Rheolau Mewnfudo;
(iv) nad yw’n berson y mae ei ganiatâd yn ddarostyngedig i amod sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ei gynnal a’i letya ei hun, ac unrhyw berson sy’n ddibynnol arno, heb ddibynnu ar gronfeydd cyhoeddus;
(v) nad yw’n berson (P)—(aa) y rhoddwyd caniatâd iddo yn dilyn ymgymeriad a roddwyd gan noddwr P;(bb) a fu’n preswylio yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw neu Weriniaeth Iwerddon am lai na phum mlynedd gan ddechrau ar y dyddiad y daeth i mewn neu ar y dyddiad y rhoddodd noddwr P yr ymgymeriad mewn cysylltiad â P, pa ddyddiad bynnag yw’r diweddaraf; ac(cc) y mae ei noddwr neu, pan fo mwy nag un noddwr, o leiaf un o’i noddwyr yn dal yn fyw; a
(vi) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.”
6 
Yn rheoliad 6(2) (personau eraill o dramor sy’n anghymwys i gael cymorth tai)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (k);
(b) ar ddiwedd is-baragraff (l), yn lle “.” rhodder “; ac”;
(c) ar ôl is-baragraff (l) mewnosoder—“
(m) person—
(i) a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem ar neu cyn 23 Mehefin 2025;
(ii) a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem mewn cysylltiad â’r gwrthdaro rhwng Israel ac Iran a wnaeth ddwysáu ym mis Mehefin 2025; a
(iii) o fewn 6 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y cyhoeddodd Llywodraeth Ei Fawrhydi gyngor gyntaf i wladolion Prydeinig i adael Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, neu ddyddiad yr ymgiliad cyntaf o Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza neu Ddwyrain Jerwsalem, pa un bynnag yw’r diweddaraf, a wnaeth gais am gymorth tai o dan Ran 7 o Ddeddf 1996.”
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2025