
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2025.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “archiad cymhwysol” (“qualifying request”) yr ystyr a roddir yn adran 25 o Ddeddf 2024;
 ystyr “ardal forol Cymru” (“Welsh marine area”) yw’r môr sy’n gyfagos i Gymru hyd at derfyn atfor y môr tiriogaethol; ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999;
 mae i “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad seilwaith a wneir yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2024;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n cynnig gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais, am gydsyniad seilwaith (nid yw’r diffiniad hwn yn gymwys at ddibenion rheoliad 7);
 ystyr “cyfesurynnau” (“co-ordinates”) yw—
(a) cyfesurynnau lledred a hydred ar System Geodetig y Byd 1984, neu
(b) cyfesurynnau ar y Grid Cenedlaethol a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans;
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o Ddeddf 2024;
 ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972));
 mae i “datblygiad” (“development”) yr un ystyr ag yn adran 133 o Ddeddf 2024;
 mae i “datblygwr” (“developer”) yr un ystyr ag yn adran 25 o Ddeddf 2024;
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;
 ystyr “ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais” (“pre-application services request form”) yw’r ffurflen y cyfeirir ati yn rheoliad 9(1);
 ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn sydd wedi ei wneud o dan Ddeddf 2024 sy’n rhoi cydsyniad seilwaith;
 ystyr “gwasanaethau cyn gwneud cais” (“pre-application services”) yw gwasanaethau a ddarperir i berson o dan adran 27 o Ddeddf 2024 at ddiben cynorthwyo’r person i wneud cais am orchymyn cydsyniad seilwaith;
 mae i “prosiect seilwaith arwyddocaol” (“significant infrastructure project”) yr ystyr a roddir gan adran 1 o Ddeddf 2024;
 ystyr “y Rheoliadau Ceisiadau” (“the Application Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025;
 mae i “ymgynghorai statudol” (“statutory consultee” yr un ystyr ag yn rheoliad 2 o’r Rheoliadau Ceisiadau.
3 
Gweler adran 136 o Ddeddf 2024 mewn perthynas â darpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu’n awdurdodi person i—
(a) hysbysu person arall am rywbeth, neu
(b) rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno”, “rhoi” neu derm arall).
4 
Mae Atodlen 1 yn pennu mathau o brosiectau at ddibenion adran 22(2)(c) o Ddeddf 2024.
5 

(1) Rhaid i unrhyw archiad a wneir am gyfarwyddyd o dan adrannau 22 i 24 o Ddeddf 2024, a wneir gan unrhyw berson, gael ei wneud ar y ffurf briodol a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru, neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
(2) Rhaid i archiad am roi cyfarwyddyd o dan adran 22 o Ddeddf 2024 gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) ar gyfer datblygiad arfaethedig yng Nghymru, blan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd,
(b) ar gyfer datblygiadau arfaethedig yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
(c) unrhyw blaniau eraill, unrhyw luniadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig,
(d) datganiad o resymau sy’n nodi pam y dylai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu bod y datblygiad arfaethedig yn brosiect seilwaith arwyddocaol,
(e) rhestr o unrhyw gydsyniadau adran 20 a fyddai’n ofynnol pe na bai’r datblygiad arfaethedig wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd yn brosiect seilwaith arwyddocaol, ac
(f) rhestr o unrhyw gydsyniadau eraill y gellid eu tybio neu y gellid dileu’r gofyniad ar eu cyfer drwy ddarpariaeth mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith, a all fod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad arfaethedig.
(3) Rhaid i archiad am gyfarwyddyd o dan adran 24 o Ddeddf 2024 gynnwys datganiad o resymau sy’n nodi pam y dylai Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd sy’n pennu nad yw’r prosiect arfaethedig yn brosiect seilwaith arwyddocaol.
(4) Wrth wneud archiad cymhwysol am gyfarwyddyd o dan adran 22 o Ddeddf 2024, rhaid i ddatblygwr roi hysbysiad o’r archiad i—
(a) unrhyw berson a fyddai’n rhoi, yn gwneud, yn awdurdodi neu’n cadarnhau cydsyniad adran 20, a
(b) unrhyw berson a fyddai’n rhoi, yn gwneud, yn awdurdodi neu’n cadarnhau unrhyw gydsyniad y gellid ei dybio neu y gellid dileu’r gofynion ar ei gyfer drwy ddarpariaeth mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith a all fod yn ofynnol ar gyfer y datblygiad.
(5) Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio ag ystyried archiad am gyfarwyddyd nad yw’n archiad cymhwysol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, roi hysbysiad i’r person a wnaeth yr archiad gan ddarparu rhesymau pam nad yw’r archiad yn cael ei ystyried.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cydsyniad adran 20” yw caniatâd, awdurdodiad, cydsyniad, gorchymyn neu gynllun a grybwyllir yn adran 20 (effaith gofyniad am gydsyniad seilwaith) o Ddeddf 2024.
6 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael, oddi wrth ddatblygwr, archiad cymhwysol am roi cyfarwyddyd o dan adran 22 neu 24 o’r Ddeddf, rhaid iddynt benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd ai peidio o fewn 29 o ddiwrnodau i’r diwrnod y daeth yr archiad i law.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a) pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried bod angen gwybodaeth bellach i benderfynu pa un a ddylid rhoi cyfarwyddyd ai peidio, a
(b) pan fônt yn rhoi hysbysiad i’r datblygwr o fewn 15 o ddiwrnodau i’r diwrnod y daeth yr archiad i law fod angen gwybodaeth bellach.
(3) Rhaid i’r hysbysiad gynnwys—
(a) manylion yr wybodaeth bellach sydd ei hangen i benderfynu pa un a ddylid rhoi’r cyfarwyddyd ai peidio, a
(b) y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cael unrhyw ymateb i’r hysbysiad.
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan y rheoliad hwn rhaid iddynt benderfynu pa un ai i roi’r cyfarwyddyd ai peidio o fewn 29 o ddiwrnodau i’r dyddiad y mae rhaid cael ymateb.
7 

(1) Rhaid i hysbysiad a gyflwynir i dderbynnydd gan geisydd o dan adran 28(2) neu (3) o Ddeddf 2024—
(a) bod yn ysgrifenedig;
(b) cynnwys datganiad bod y ceisydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru i gyflwyno’r hysbysiad;
(c) nodi’r tir y mae’r hysbysiad yn ymwneud ag ef;
(d) pennu’r dyddiad erbyn pryd y mae ymateb i’w darparu i’r ceisydd, y mae rhaid iddo fod o leiaf 15 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad i’r derbynnydd;
(e) datgan effaith adran 28(6) i (8) o Ddeddf 2024 (troseddau o fethu heb esgus rhesymol â chydymffurfio â hysbysiad o dan adran 28(2) neu (3) ac o roi gwybodaeth anwir).
(2) Yn y rheoliad hwn mae i “y ceisydd” ac “y derbynnydd” yr ystyr a roddir yn adran 28 o Ddeddf 2024.
8 

(1) Os bydd datblygiad, pan fydd wedi ei gwblhau, yn rhannol yng Nghymru neu’n rhannol yn ardal forol Cymru, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r gofynion a osodir o dan Ran 3 a Rhan 4 o Ddeddf 2024 nac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Rhannau hynny yn gymwys.
(2) Pan fo datblygiad yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd a roddir o dan adran 22 (cyfarwyddydau sy’n pennu bod datblygiad yn brosiect seilwaith arwyddocaol) o Ddeddf 2024, caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo nad yw’r gofynion a osodir gan neu o dan yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2024 yn gymwys—
(a) adran 29 (hysbysu am gais arfaethedig);
(b) adran 30 (ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais);
(c) adran 32 (gwneud cais am gydsyniad seilwaith);
(d) adran 33 (penderfynu ar ddilysrwydd cais a hysbysu’r ceisydd);
(e) adran 35 (rheoliadau ynghylch hysbysiadau a chyhoeddusrwydd).
(3) Am 18 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, caiff Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag unrhyw ddatblygiad gyfarwyddo nad yw’r gofynion a osodir gan neu o dan yr adrannau a ganlyn o Ddeddf 2024 yn gymwys—
(a) adran 29 (hysbysu am gais arfaethedig);
(b) adran 30 (ymgynghoriad a chyhoeddusrwydd cyn gwneud cais);
(c) adran 32 (gwneud cais am gydsyniad seilwaith);
(d) adran 33 (penderfynu ar ddilysrwydd cais a hysbysu’r ceisydd);
(e) adran 35 (rheoliadau ynghylch hysbysiadau a chyhoeddusrwydd).
(4) Caiff cyfarwyddyd a roddir o dan y rheoliad hwn ymwneud ag—
(a) cais penodol, neu
(b) ceisiadau o ddisgrifiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl rhoi cyfarwyddyd o dan baragraff (1), (2) neu (3)—
(a) cyhoeddi’r cyfarwyddyd, a
(b) gosod datganiad ynghylch y cyfarwyddyd gerbron Senedd Cymru sy’n egluro ei effaith a pham y’i gwnaed.
9 

(1) Rhaid gwneud archiad am wasanaethau cyn gwneud cais a wneir i awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru ar ffurf a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu ar ffurf sydd ag effaith sylweddol debyg.
(2) Rhaid i archiad a wneir o dan baragraff (1) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) ar gyfer datblygiad yng Nghymru, blan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd,
(b) ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a
(c) unrhyw blaniau eraill, unrhyw luniadau eraill ac unrhyw wybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig.
(3) Rhaid i unrhyw ffi sy’n daladwy fynd gydag archiad o dan baragraff (1).
(4) Pan wneir yr archiad i Weinidogion Cymru, rhaid iddo hefyd gynnwys manylion unrhyw archiadau am farn sgrinio ynghylch cyfarwyddyd, neu farn gwmpasu ynghylch cyfarwyddyd sydd wedi eu gwneud o dan y Rheoliadau AEA.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y Rheoliadau AEA” yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007.
10 

(1) Rhaid i awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidogion Cymru dderbyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un dilys os yw’n cydymffurfio â’r gofynion a osodir gan reoliad 9.
(2) Pan fo’r awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn derbyn archiad fel un dilys, rhaid iddynt roi hysbysiad derbyn i’r person a wnaeth yr archiad.
(3) Rhaid i’r hysbysiad derbyn bennu’r dyddiad erbyn pryd y darperir y gwasanaethau cyn gwneud cais, y mae rhaid iddo fod yn ddim mwy na 29 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(4) Caniateir diwygio’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad derbyn drwy gytundeb ysgrifenedig rhwng yr awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) a’r person a wnaeth yr archiad.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru i ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais, cânt ddiwygio’r dyddiad a bennir mewn hysbysiad derbyn drwy gyfarwyddyd.
(6) Os yw’r awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn penderfynu na ellir derbyn yr archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, rhaid iddynt roi hysbysiad o’u penderfyniad i’r person a wnaeth yr archiad gan roi’r rhesymau dros eu penderfyniad.
11 

(1) Pan fo awdurdod cynllunio yn derbyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un dilys, rhaid iddo ddarparu’r canlynol i’r person a wnaeth yr archiad—
(a) hanes cynllunio perthnasol y safle datblygu arfaethedig,
(b) manylion unrhyw ddatganiad o dir cyffredin posibl,
(c) datganiad o faterion lleol sy’n ymwneud â’r safle datblygu arfaethedig, gan gynnwys lliniaru posibl,
(d) y fframwaith polisi lleol i’r graddau y bo’n berthnasol i’r datblygiad arfaethedig, ac
(e) cyngor ar unrhyw ymgynghoriad cyn gwneud cais y gellir ei gynnal, gan gynnwys unrhyw berson y gellir ymgynghori ag ef.
(2) Pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru yn derbyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un dilys, rhaid iddo ddarparu’r canlynol i’r person a wnaeth yr archiad—
(a) datganiad o ystyriaethau amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig,
(b) datganiad o unrhyw asesiadau amgylcheddol y gallai fod eu hangen mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig,
(c) manylion unrhyw ddatganiad o dir cyffredin posibl, a
(d) cyngor ar unrhyw ymgynghoriad cyn gwneud cais y gellir ei gynnal, gan gynnwys unrhyw berson y gellir ymgynghori ag ef.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un dilys, rhaid iddynt ddarparu’r canlynol i’r person a wnaeth yr archiad—
(a) cyngor ar ffurf a chynnwys ceisiadau,
(b) cyngor ar adroddiadau technegol y gellir eu darparu fel rhan o’r cais,
(c) cyngor ar unrhyw bolisi perthnasol,
(d) cyngor ar y weithdrefn ar gyfer gwneud, archwilio a phenderfynu ar geisiadau am gydsyniad seilwaith, ac
(e) cyngor ar unrhyw gydsyniadau y gellid eu tybio neu y gellid dileu’r gofynion ar eu cyfer drwy ddarpariaeth mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr “datganiad o dir cyffredin” yw datganiad ysgrifenedig a lunnir gan yr awdurdod cynllunio neu Cyfoeth Naturiol Cymru (yn ôl y digwydd) a’r ceisydd sy’n cynnwys gwybodaeth ffeithiol y cytunir arni am y datblygiad sy’n destun y cais.
12 

(1) Caiff datblygwr wneud archiad ysgrifenedig am gyfarfod cyn gwneud cais gydag awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd).
(2) Pan fo awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn cael archiad am gyfarfod cyn gwneud cais, rhaid iddo neu rhaid iddynt roi hysbysiad i’r person a wnaeth yr archiad, o fewn 15 o ddiwrnodau i’r diwrnod y cafwyd yr archiad, gan gadarnhau pa un a fydd cyfarfod yn cael ei gynnal ai peidio.
13 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael archiad am wasanaethau cyn gwneud cais rhaid iddynt adneuo ar y gofrestr—
(a) copi o’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais,
(b) unrhyw blan a gyflwynir gyda’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, ac
(c) unrhyw ddogfennaeth, unrhyw adroddiadau neu unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gyda’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o gais arfaethedig o dan adran 29(1)(a) o Ddeddf 2024 rhaid iddynt adneuo ar y gofrestr—
(a) yr hysbysiad o gais arfaethedig, a
(b) unrhyw hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 29(4) o Ddeddf 2024.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cael cais am gydsyniad seilwaith yn unol ag adran 32 o Ddeddf 2024 rhaid iddynt adneuo ar y gofrestr—
(a) unrhyw hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 16 o’r Rheoliadau Ceisiadau,
(b) unrhyw hysbysiad o benderfyniad Gweinidogion Cymru pa un ai i dderbyn cais fel cais dilys a roddir o dan adran 33(3) neu (4) o Ddeddf 2024 ai peidio,
(c) unrhyw hysbysiad a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(2) o Ddeddf 2024,
(d) unrhyw sylwadau am y cais sy’n dod i law Gweinidogion Cymru cyn y dyddiad cau a bennir mewn unrhyw hysbysiad neu gyhoeddusrwydd o dan adran 34(4) o Ddeddf 2024,
(e) unrhyw hysbysiad o benderfyniad a roddir gan Weinidogion Cymru neu’r Awdurdod Archwilio o dan adran 60 o Ddeddf 2024,
(f) unrhyw hysbysiad tynnu yn ôl a roddir gan y ceisydd, ac
(g) unrhyw hysbysiad o ddirymu neu newid i’r gorchymyn cydsyniad seilwaith perthnasol, y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 91(6) o Ddeddf 2024.
(4) Pan fo sylwadau y mae Gweinidogion Cymru yn eu cael mewn perthynas â chais yn ymwneud â diogelwch cenedlaethol neu fesurau i’w cymryd i sicrhau diogelwch unrhyw dir neu eiddo arall, cânt ddal y sylwadau yn ôl o’r gofrestr os ydynt wedi eu bodloni y byddai datgelu’r sylwadau yn gyhoeddus yn erbyn y buddiant cenedlaethol.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “y gofrestr” yw’r gofrestr a gedwir ac a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol ag adran 128 o Ddeddf 2024.
14 

(1) Rhaid i bob awdurdod cynllunio gadw a chyhoeddi cofrestr o wasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir.
(2) Pan fo awdurdod cynllunio yn cael archiad am wasanaethau cyn gwneud cais rhaid iddynt adneuo ar y gofrestr—
(a) copi o’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais,
(b) unrhyw blan a gyflwynir gyda ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais,
(c) unrhyw ddogfennaeth, unrhyw adroddiadau neu unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gyda’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, a
(d) manylion unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd.
(3) Pan fo awdurdod cynllunio yn cael hysbysiad o gais a dderbynnir o dan adran 34(2) o Ddeddf 2024 rhaid iddynt adneuo ar y gofrestr—
(a) hyperddolen i’r wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru y cyhoeddir manylion am y cais am gydsyniad seilwaith arni yn unol â rheoliad 25 o’r Rheoliadau Ceisiadau,
(b) yr hysbysiad o gais a dderbynnir a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 34(2) o Ddeddf 2024,
(c) unrhyw hysbysiad o benderfyniad a roddir gan Weinidogion Cymru neu’r Awdurdod Archwilio o dan adran 60 o Ddeddf 2024,
(d) unrhyw hysbysiad tynnu yn ôl a roddir gan y ceisydd, ac
(e) unrhyw hysbysiad o ddirymu neu newid i’r gorchymyn cydsyniad seilwaith perthnasol, y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a roddir gan Weinidogion Cymru o dan adran 91(6) o Ddeddf 2024.
15 

(1) Rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru gadw a chyhoeddi cofrestr o wasanaethau cyn gwneud cais a ddarperir.
(2) Pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael archiad am wasanaethau cyn gwneud cais rhaid iddynt adneuo ar y gofrestr—
(a) copi o’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais,
(b) unrhyw blan a gyflwynir gyda ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais,
(c) unrhyw ddogfennaeth, unrhyw adroddiadau neu unrhyw wybodaeth arall a gyflwynir gyda’r ffurflen archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, a
(d) manylion unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd.
16 

(1) Rhaid i awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru a Gweinidogion Cymru adneuo gwybodaeth a dogfennau sy’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn neu Ddeddf 2024 ar eu cofrestr cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael yr wybodaeth neu’r ddogfen neu ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais (yn ôl y digwydd).
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys—
(a) pan fo’r ceisydd wedi cyflwyno archiad i oedi adneuo ar y gofrestr yr wybodaeth neu’r ddogfen ynghylch yr archiad am wasanaethau cyn gwneud cais a’r gwasanaethau a ddarperir, a
(b) pan fo’r awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn ystyried bod buddiant y cyhoedd mewn datgelu yn cael ei drechu gan y cyfiawnhad a ddarperir yn yr archiad i oedi adneuo’r wybodaeth neu’r ddogfen ar y gofrestr.
(3) Pan fo awdurdod cynllunio, Cyfoeth Naturiol Cymru neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) yn ystyried bod cyfiawnhad dros oedi adneuo rhaid iddynt adneuo’r wybodaeth a’r dogfennau sy’n ofynnol ar eu cofrestr cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cynharaf o blith—
(a) trydydd pen-blwydd dyddiad darparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais, neu
(b) y dyddiad y mae Gweinidogion Cymru yn cael hysbysiad o dan adran 29 (hysbysiad o gais arfaethedig) o Ddeddf 2024.
17 

(1) Rhaid i unrhyw ymgynghorai statudol y mae’n ofynnol iddo ddarparu ymateb o sylwedd yn unol â rheoliad 27(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau mewn perthynas â datblygiad yn ystod unrhyw flwyddyn ariannol ddarparu adroddiad i Weinidogion Cymru o fewn 3 mis i ddiwedd y flwyddyn ariannol honno.
(2) Rhaid i’r adroddiad gynnwys—
(a) y nifer o weithiau y rhoddwyd i’r ymgynghorai statudol hysbysiad o gais dilys o dan reoliad 23(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau,
(b) y nifer o weithiau y darparwyd ymateb o sylwedd,
(c) y nifer o weithiau y darparwyd ymateb ar ôl diwedd y cyfnod a bennir yn rheoliad 27(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau, a
(d) os darparwyd unrhyw ymateb ar ôl diwedd y cyfnod a bennir, datganiad yn nodi’r rhesymau pam na ddarparwyd yr ymateb cyn diwedd y cyfnod penodedig.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “ymateb o sylwedd” yr un ystyr ag yn rheoliad 27(4) o’r Rheoliadau Ceisiadau.
18 

(1) Mae Atodlen 2 yn pennu cydsyniadau at ddibenion adran 84(1)(a) o Ddeddf 2024.
(2) Caniateir gwneud darpariaeth mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith i ddileu’r gofyniad am gydsyniad a restrir yn Atodlen 2 heb fodloni’r amodau yn adran 84(2) neu (3) o Ddeddf 2024.
(3) Mae Atodlen 3 yn pennu cydsyniadau at ddiben adran 84(1)(b) o Ddeddf 2024.
(4) Caniateir gwneud darpariaeth mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith i dybio cydsyniad a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 3 heb fodloni’r amodau yn adran 84(2) neu (3) o Ddeddf 2024.
19 

(1) Pan fo’r awdurdod perthnasol yn ymgynghorai statudol, y cyfnod penodedig at ddibenion adran 84(2) a (3) o Ddeddf 2024 yw naill ai—
(a) 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r hysbysiad o gais dilys gael ei roi i’r awdurdod perthnasol, neu
(b) os yw’r awdurdod perthnasol a Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall yn ysgrifenedig, pa gyfnod bynnag a bennir yn y cytundeb.
(2) Ym mhob achos arall, y cyfnod penodedig at ddibenion adran 84(2) a (3) o Ddeddf 2024 yw 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru roi hysbysiad i’r awdurdod perthnasol sy’n gofyn am gydsyniad.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr ystyr a roddir yn adran 84 o Ddeddf 2024;
 ystyr “hysbysiad o gais dilys” (“notice of valid application”) yw hysbysiad a roddir yn unol â rheoliad 23(1) o’r Rheoliadau Ceisiadau.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2025
ATODLEN 1
Rheoliad 4
1 
Adeiladu gorsaf ynni solar neu orsaf ynni gwynt yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru y disgwylir iddi fod â chapasiti cynhyrchu gosodedig o fwy na 35 o fegawatiau ond llai na 50 o fegawatiau.
2 
Estyn neu addasu gorsaf ynni solar yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru—
(a) pan ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig fwy na 35 o fegawatiau ond llai na 50 o fegawatiau, a
(b) pan na ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu cyfanswm y capasiti gosodedig i fwy na 350 o fegawatiau.
3 
Estyn neu addasu gorsaf ynni gwynt yng Nghymru pan ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig fwy na 35 o fegawatiau ond llai na 50 o fegawatiau.
4 
Estyn neu addasu gorsaf ynni gwynt yn ardal forol Cymru—
(a) pan ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig fwy na 35 o fegawatiau ond llai na 50 o fegawatiau, a
(b) pan na ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu cyfanswm y capasiti gosodedig i fwy na 350 o fegawatiau.
5 
Adeiladu gorsaf gynhyrchu (heblaw gorsaf ynni solar neu orsaf ynni gwynt) yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, pan ddisgwylir y bydd ganddi gapasiti cynhyrchu gosodedig o lai na 50 o fegawatiau.
6 
Estyn neu addasu gorsaf gynhyrchu (heblaw gorsaf ynni solar neu orsaf ynni gwynt) yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru—
(a) pan ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu’r capasiti cynhyrchu gosodedig lai na 50 o fegawatiau, a
(b) pan na ddisgwylir i effaith yr estyn neu’r addasu gynyddu cyfanswm y capasiti gosodedig i fwy na 350 o fegawatiau.
7 
Adeiladu neu addasu is-orsaf drydan.
8 
Gosod llinell drydan uwchben y ddaear sy’n gysylltiedig â gorsaf gynhyrchu yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru sydd â foltedd enwol o 132 Cilofolt neu lai, sydd â hyd o lai na 2 gilometr (i’r graddau y mae yng Nghymru).
9 
Gosod llinell drydan, ac eithrio uwchben y ddaear, yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru sydd o leiaf 2 gilometr o hyd (i’r graddau y mae yng Nghymru neu ardal forol Cymru).
10 
Adeiladu neu addasu cyfleuster LNG yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 3 o Ddeddf 2024.
11 
Adeiladu neu addasu cyfleuster derbyn nwy yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 4 o Ddeddf 2024.
12 
Adeiladu neu addasu cyfleusterau cynhyrchu hydrogen yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru.
13 
Adeiladu neu addasu priffordd yng Nghymru nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 7 o Ddeddf 2024, ac eithrio’r priffyrdd hynny y mae adran 7(4), (5) neu (6) yn gymwys iddynt.
14 
Adeiladu neu addasu rheilffordd sy’n dechrau, yn gorffen ac yn aros yng Nghymru—
(a) nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 8 o Ddeddf 2024,
(b) nad yw’n rhan o gyfnewidfa nwyddau rheilffordd, ac
(c) nad yw’n ddatblygu a ganiateir.
15 
Adeiladu neu addasu cyfnewidfa nwyddau rheilffordd yng Nghymru nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 9 o Ddeddf 2024.
16 
Adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru—
(a) nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 10 o Ddeddf 2024, a
(b) nad yw’n rhan o borthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl.
17 
Adeiladu, newid neu gynyddu’r defnydd a ganiateir o faes awyr yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 11 o Ddeddf 2024.
18 
Adeiladu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru pan ddisgwylir i gyfaint y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr fod yn fwy nag 1 miliwn o fetrau ciwbig ond heb fod yw fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig.
19 
Addasu argae neu gronfa ddŵr yng Nghymru pan ddisgwylir i gyfaint ychwanegol y dŵr a gedwir yn ôl gan yr argae neu a gaiff ei storio yn y gronfa ddŵr o ganlyniad i’r addasiad fod yn fwy nag 1 miliwn o fetrau ciwbig ond heb fod yw fwy na 10 miliwn o fetrau ciwbig.
20 
Datblygiad yng Nghymru a gyflawnir gan un neu ragor o ymgymerwyr dŵr, sy’n ymwneud â throsglwyddo adnoddau dŵr pan ddisgwylir i gyfaint y dŵr a drosglwyddir o ganlyniad i’r datblygiad fod yn fwy na 25 miliwn o fetrau ciwbig y flwyddyn, ond heb fod yn fwy na 100 miliwn o fetrau ciwbig.
21 
Adeiladu neu addasu gwaith trin dŵr gwastraff yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru pan ddisgwylir i’r gwaith trin (pan gaiff ei adeiladu) fod â chapasiti sy’n fwy na chyfwerth poblogaeth o 250,000 ond heb fod yn fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.
22 
Addasu gwaith trin dŵr gwastraff yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru pan ddisgwylir i effaith yr addasu gynyddu capasiti’r gwaith fwy na chyfwerth poblogaeth o 250,000 ond heb fod yn fwy na chyfwerth poblogaeth o 500,000.
23 
Adeiladu neu addasu seilwaith, yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru, ar gyfer trosglwyddo neu storio dŵr gwastraff pan ddisgwylir i’r seilwaith fod â chapasiti ar gyfer storio dŵr gwastraff sy’n fwy na 175,000 o fetrau ciwbig, ond heb fod yn fwy na 350,000 o fetrau ciwbig.
24 
Adeiladu neu addasu cyfleuster gwastraff peryglus yng Nghymru neu yn ardal forol Cymru nad yw’n brosiect seilwaith arwyddocaol o dan adran 15 o Ddeddf 2024.
25 
Adeiladu gweithfeydd amddiffyn rhag llifogydd sydd â hyd cyfan o 500 metr neu ragor.
26 
Addasu neu estyn gweithfeydd amddiffyn rhag llifogydd pan fo disgwyl i’r addasu neu’r estyn gynyddu hyd y gwaith gyfanswm o 500 metr.
27 
Yn yr Atodlen hon—
 mae i “capasiti cynhyrchu gosodedig” (“installed generating capacity”) yr un ystyr ag yn adran 2(2) o Ddeddf 2024;
 mae i “cyfleuster derbyn nwy” (“gas reception facility”) yr un ystyr ag yn adran 4(4) o Ddeddf 2024;
 mae i “cyfleuster LNG” (“LNG facility”) yr un ystyr ag yn adran 3(3) o Ddeddf 2024;
 mae i “cyfnewidfa nwyddau rheilffordd” (“rail freight interchange”) yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024;
 mae i “datblygu a ganiateir” (“permitted development”) yn un ystyr ag yn adran 8(4) o Ddeddf 2024;
 mae “dŵr gwastraff” (“waste water”) yn cynnwys dŵr gwastraff domestig, dŵr gwastraff diwydiannol a dŵr gwastraff trefol;
 mae i “gorsaf gynhyrchu” (“generating station”) yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024;
 ystyr “gorsaf ynni solar” (“solar generating station”) yw gorsaf gynhyrchu sy’n cynhyrchu trydan yn uniongyrchol o ynni solar;
 ystyr “gorsaf ynni gwynt” (“wind generating station”) yw gorsaf gynhyrchu sy’n cynhyrchu trydan o’r gwynt;
 mae i “harbwr” (“harbour”) yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024;
 mae i “maes awyr” (“airport”) yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024;
 mae i “porthladd ymddiriedolaeth a gedwir yn ôl” (“reserved trust port”) yr un ystyr ag yn adran 10(6) o Ddeddf 2024;
 mae i “rheilffordd” (“railway”) yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024.
ATODLEN 2
Rheoliad 18(1) a (2)
1 
Cydsyniad o dan adran 16 (cydsyniad yr awdurdod diogelu’r arfordir sy’n ofynnol ar gyfer cynnal gwaith diogelu’r arfordir) o Ddeddf Diogelu’r Arfordir 1949.
2 
Cymeradwyaeth o dan adrannau 4, 6, 8, 15 ac 16(2) (ffwrneisiau i fod yn ddi-fwg etc., cyfarpar atal etc., uchder simneiau etc.) o Ddeddf Aer Glân 1993.
3 
Trwydded cwympo coed sy’n ofynnol o dan adran 9(1) o Ddeddf Coedwigaeth 1967.
4 
Hysbysiad ysgrifenedig a roddir o dan reoliad 5(1)(b)(i) o Reoliadau Gwrychoedd 1997.
ATODLEN 3
Rheoliad 18(3) a (4)
RHAN 1
1 
Awdurdodiad sy’n ofynnol o dan is-ddeddfau a ddyroddir yn unol ag adran 20 (is-ddeddfau ar gyfer diogelu gwarchodfeydd natur) o Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949.
2 
Trwydded o dan adran 18(5) (gwahardd cloddio etc. ddeunyddiau ar lan y môr neu odani) o Ddeddf Diogelu’r Arfordir 1949.
3 
Trwydded a roddir o dan adran 10 (pŵer i roi trwyddedau) o Ddeddf Cadwraeth Morloi 1970.
4 
Trwydded a roddir at ddibenion adran 1(3) (diogelu safleoedd llongddrylliadau hanesyddol) o Ddeddf Diogelu Llongddrylliadau 1973.
5 
Trwydded a roddir o dan adran 8 (eithriadau ar gyfer personau trwyddedig) o Ddeddf Ceirw 1991.
6 
Cydsyniad o dan adran 23 (gwahardd rhwystrau etc. mewn cyrsiau dŵr) o Ddeddf Draenio Tir 1991.
7 
Cydsyniad o dan adran 166 (cydsyniadau ar gyfer gollyngiadau penodol o dan adran 165) o Ddeddf y Diwydiant Dŵr 1991.
8 
Cydsyniad o dan adran 32(3) (hawliau amrywiol i dynnu dŵr) o Ddeddf Adnoddau Dŵr 1991.
9 
Trwydded a roddir o dan adran 10 (trwyddedau) o Ddeddf Gwarchod Moch Daear 1992.
10 
Cyfarwyddyd o dan adran 24, 25 neu 26 (rheoli tir; osgoi risg o dân neu o berygl i’r cyhoedd; neu gadwraeth natur a diogelu treftadaeth) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
11 
Trwydded amgylcheddol a roddir o dan reoliad 13 (rhoi trwydded amgylcheddol) o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016, ond dim ond mewn cysylltiad â chyfleusterau rheoleiddiedig—
(a) y mae Atodlen 9 (gweithrediadau gwastraff a chyfleusterau deunyddiau) i’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddynt pan nad yw’r drwydded ond yn awdurdodi dyddodi gwastraff ar gyfer ei adfer, neu
(b) y mae Atodlenni 25A a 25B (gweithfeydd hylosgi canolig a generaduron penodedig) i’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddynt.
12 
Trwydded allyriadau nwyon tŷ gwydr a ddyroddir yn unol ag erthygl 26 (gosodiadau: gofyniad am drwydded i gynnal gweithgaredd rheoleiddiedig) o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 ac Atodlen 6 (trwyddedau) iddo.
RHAN 2
13 
Gorchymyn o dan adran 14 (cyfarwyddyd drwy orchymyn na chaniateir gosod ffensys etc. o amgylch meysydd pentref) o Ddeddf Cau Tir 1852.
14 
Gorchymyn o dan adran 5, 9 neu 11 (cyfnewid tir etc., ffensys etc.) o Ddeddf Cau Tir 1854.
15 
Gorchymyn o dan adran 1 (caniateir hepgor ffensys) o Ddeddf Cau Tir 1857.
16 
Unrhyw gydsyniad neu unrhyw awdurdodiad sy’n ofynnol gan is-ddeddfau a wneir o dan adran 15 (caiff perchnogion wneud is-ddeddfau) o Ddeddf Tiroedd Comin 1876.
17 
Unrhyw gydsyniad neu unrhyw awdurdodiad sy’n ofynnol o dan is-ddeddfau neu reoliadau a wneir o dan adrannau 1 a 10 (pŵer i gyngor dosbarth i wneud cynllun ar gyfer rheoleiddio tir comin; a darpariaethau ynghylch is-ddeddfau) o Ddeddf Tiroedd Comin 1899.
18 
Cyfyngiadau neu amodau a ddyroddir o dan adran 193 (hawliau’r cyhoedd dros diroedd comin a thiroedd gwastraff) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925.
19 
Cydsyniad o dan adran 15 (pŵer i roi piblinellau yn y strydoedd) o Ddeddf Piblinellau 1962.
20 
Trwydded a roddir o dan adran 6 (pŵer i osod tiroedd penodol) o Ddeddf Tiroedd Comin Coety Walia 1976.
21 
Awdurdodiad o dan adran 10 (cyfnewid tiroedd comin) o Ddeddf Tiroedd Comin Coety Walia 1976.
22 
Gorchymyn o dan adran 53 (dyletswydd i adolygu map a datganiad diffiniol yn barhaus) o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.
23 
Gorchymyn ar gyfer rheoleiddio traffig o dan adran 1, 9, 14, 15 neu 22BB (darpariaethau cyffredinol ar gyfer rheoleiddio traffig: rheoleiddio mewn achosion arbennig) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
24 
Cydsyniad sy’n ofynnol gan ddarpariaeth mewn gorchymyn cadw coed a wneir o dan adran 198 neu 202 (pwerau i wneud gorchmynion cadw coed) neu gan adran 211 (cadw coed mewn ardaloedd cadwraeth) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
25 
Gorchymyn a wneir o dan adran 247 (priffyrdd yr effeithir arnynt gan ddatblygiad) neu adran 257 (llwybrau troed, llwybrau ceffylau a chilffyrdd cyfyngedig yr effeithir arnynt gan ddatblygiad) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.
26 
Esemptiad o dan adran 7, 14 neu 20 (esemptiad rhag adran 6; uchder simneiau; gwaharddiad ar ollwng mwg) o Ddeddf Aer Glân 1993.
27 
Cydsyniad neu awdurdodiad sy’n ofynnol o dan is-ddeddfau a wneir yn unol ag adran 17 (is-ddeddfau) o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.
28 
Gorchymyn o dan adran 17 (datgofrestru a chyfnewid tiroedd: gorchmynion) o Ddeddf Tiroedd Comin 2006.
Yn yr Atodlen hon—
29 
mae i “cyfleuster rheoleiddiedig” yr ystyr a roddir i “regulated facility” yn rheoliad 8 o Reoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016.