
RHAN 1
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Ffioedd) (Cymru) 2025 a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2025.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad ar yr effaith leol” (“local impact report”) yw unrhyw adroddiad ar yr effaith leol sy’n ofynnol o dan adran 36(1) o Ddeddf 2024;
 ystyr “adroddiad effaith ar y môr” (“marine impact report”) yw unrhyw adroddiad effaith ar y môr sy’n ofynnol o dan adran 37(1) a (2) o Ddeddf 2024;
 ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 ar gyfer ardal yng Nghymru y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;
 ystyr “blwyddyn ariannol” (“financial year”) yw unrhyw gyfnod o 12 mis sy’n dechrau ag 1 Ebrill;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad seilwaith a wneir o dan adran 32 o Ddeddf 2024;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n cynnig gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais am gydsyniad seilwaith;
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw cydsyniad a roddir o dan adran 19 o Ddeddf 2024;
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;
 ystyr “gwasanaethau cyn gwneud cais” (“pre-application services”) yw gwasanaethau a ddarperir i berson o dan adran 27 o Ddeddf 2024 at ddiben cynorthwyo’r person i wneud cais am orchymyn cydsyniad seilwaith.
(2) Gweler adran 136 o Ddeddf 2024 mewn perthynas â darpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu’n awdurdodi person i—
(a) hysbysu person arall am rywbeth, neu
(b) rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno”, “rhoi” neu derm arall).
RHAN 2
3 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn darparu gwasanaethau cyn gwneud cais, rhaid talu ffi i Weinidogion Cymru.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9), y ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cyhoeddir yr wybodaeth a ganlyn ar y wefan—
(a) y gwasanaethau cyn gwneud cais y codir ffioedd ar eu cyfer,
(b) y ffioedd sy’n daladwy,
(c) y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd, a
(d) y deddfiad y darperir y gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol odano.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau—
(a) y cyhoeddir y ffi sy’n daladwy ar y wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym, a
(b) nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddynt wrth ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol, gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
(5) Yn dilyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu hysbysiad i’r ceisydd sy’n nodi’r ffi sydd i’w thalu am ddarparu’r gwasanaethau hynny.
(6) Rhaid i’r ceisydd dalu’r ffi i Weinidogion Cymru o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad, ar yr amod nad yw’r cyfnod hwnnw yn llai nag 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau y diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
(7) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu ffi sy’n daladwy i Weinidogion Cymru o fewn y cyfnod a bennir, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) adennill unrhyw ffioedd nas talwyd am unrhyw waith a gwblhawyd fel dyled sifil, a
(b) er gwaethaf unrhyw ofyniad i ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol, gadw’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol yn ôl hyd nes y telir y ffioedd.
(8) Pan fo cost darparu gwasanaethau cyn gwneud cais yn debygol o fod yn fwy na’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) hysbysu’r ceisydd bod y gost yn debygol o fod yn fwy na’r ffi,
(b) nodi faint yn fwy na’r ffi y mae’r gost yn debygol o fod, ac
(c) gofyn i’r ceisydd ymateb o fewn 14 o ddiwrnodau i gadarnhau ei fod yn derbyn bod ffi ychwanegol yn daladwy.
(9) Pan fo ffi ychwanegol yn daladwy o dan baragraff (8), bydd y ffi yn cael ei gweinyddu drwy anfoneb sy’n daladwy gan y ceisydd o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.
(10) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir o dan y rheoliad hwn os gwrthodir yr archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un annilys.
4 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), pan fo awdurdod cynllunio yn darparu gwasanaethau cyn gwneud cais, rhaid talu ffi i’r awdurdod hwnnw.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan yr awdurdod cynllunio neu ar ei ran.
(3) Rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol sicrhau y cyhoeddir yr wybodaeth a ganlyn ar ei wefan—
(a) y gwasanaethau cyn gwneud cais y codir ffioedd ar eu cyfer,
(b) y ffi sy’n daladwy,
(c) y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd, a
(d) y deddfiad y darperir y gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol odano.
(4) Rhaid i’r awdurdod cynllunio—
(a) cyhoeddi’r ffi sy’n daladwy ar ei wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym, a
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol, gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
(5) Yn dilyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, rhaid i’r awdurdod cynllunio ddarparu hysbysiad i’r ceisydd sy’n nodi’r ffi am ddarparu’r gwasanaethau hynny.
(6) Rhaid i’r ceisydd dalu’r ffi i’r awdurdod cynllunio o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad a ddarperir gan yr awdurdod cynllunio, ar yr amod nad yw’r cyfnod hwnnw’n llai nag 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau y diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
(7) Pan fo cost darparu gwasanaethau cyn gwneud cais yn debygol o fod yn fwy na’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwn rhaid i’r awdurdod cynllunio—
(a) hysbysu’r ceisydd bod y gost yn debygol o fod yn fwy na’r ffi,
(b) nodi faint yn fwy na’r ffi y mae’r gost yn debygol o fod, ac
(c) gofyn i’r ceisydd ymateb o fewn 14 o ddiwrnodau i gadarnhau ei fod yn derbyn bod ffi ychwanegol yn daladwy.
(8) Pan fo ffi ychwanegol yn daladwy o dan baragraff (7), bydd y ffi yn cael ei gweinyddu drwy anfoneb sy’n daladwy gan y ceisydd o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau y diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.
(9) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu ffi i’r awdurdod cynllunio o fewn y cyfnod a bennir, caiff yr awdurdod cynllunio—
(a) adennill unrhyw ffioedd nas talwyd am unrhyw waith a gwblhawyd fel dyled sifil, a
(b) er gwaethaf unrhyw ofyniad i ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol, gadw’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol yn ôl hyd nes y telir y ffioedd.
(10) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir o dan y rheoliad hwn os gwrthodir yr archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un annilys.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (7) ac (8), pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru yn darparu gwasanaethau cyn gwneud cais, rhaid talu ffi i Cyfoeth Naturiol Cymru.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Cyfoeth Naturiol Cymru neu ar ei ran.
(3) Rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru sicrhau y cyhoeddir yr wybodaeth a ganlyn ar y wefan—
(a) y gwasanaethau cyn gwneud cais y codir ffioedd ar eu cyfer,
(b) y ffioedd sy’n daladwy,
(c) y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd, a
(d) y deddfiad y darperir y gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol odano.
(4) Rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru—
(a) cyhoeddi’r ffioedd sy’n daladwy ar y wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym, a
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddo wrth ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol, gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
(5) Yn dilyn archiad am wasanaethau cyn gwneud cais, rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru ddarparu hysbysiad i’r ceisydd sy’n nodi’r ffi am ddarparu’r gwasanaethau hynny.
(6) Rhaid i’r ceisydd dalu’r ffioedd i Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ar yr amod nad yw’r cyfnod hwnnw yn llai nag 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
(7) Pan fo cost darparu gwasanaethau cyn gwneud cais yn debygol o fod yn fwy na’r ffi sy’n daladwy o dan baragraff (2) o’r rheoliad hwn rhaid i Cyfoeth Naturiol Cymru—
(a) hysbysu’r ceisydd bod y gost yn debygol o fod yn fwy na’r ffi,
(b) nodi faint yn fwy na’r ffi y mae’r gost yn debygol o fod, ac
(c) gofyn i’r ceisydd ymateb o fewn 14 o ddiwrnodau i gadarnhau ei fod yn derbyn bod ffi ychwanegol yn daladwy.
(8) Pan fo ffi ychwanegol yn daladwy o dan baragraff (7), bydd y ffi yn cael ei gweinyddu drwy anfoneb sy’n daladwy o fewn 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau y diwrnod ar ôl dyddiad yr anfoneb.
(9) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu ffi i Cyfoeth Naturiol Cymru, caiff Cyfoeth Naturiol Cymru—
(a) adennill y ffioedd nas talwyd am unrhyw waith a gwblhawyd oddi wrth y ceisydd fel dyled sifil, a
(b) er gwaethaf unrhyw ofyniad i ddarparu’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol, gadw’r gwasanaethau cyn gwneud cais perthnasol yn ôl hyd nes y telir y ffioedd.
(10) Rhaid ad-dalu unrhyw ffi a delir yn unol â’r rheoliad hwn os gwrthodir yr archiad am wasanaethau cyn gwneud cais fel un annilys.
RHAN 3
6 

(1) Rhaid i geisydd sy’n gwneud archiad i Weinidogion Cymru i awdurdodi cyflwyno hysbysiad am wybodaeth o dan adran 28 o Ddeddf 2024 (cael gwybodaeth ynghylch buddiannau mewn tir), dalu ffi gyda’r archiad.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi’r ffi sy’n daladwy ar y wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym, a
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddynt wrth ymdrin â’r archiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1), gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
7 

(1) Rhaid i berson sy’n gwneud archiad i Weinidogion Cymru i arfer pŵer o dan adran 125 o Ddeddf 2024 (pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir) gan gynnwys fel y’i cymhwysir gan adran 126(1) o Ddeddf 2024 (pwerau mynediad i gynnal arolwg o dir: tir y Goron), dalu ffi gyda’r archiad.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi’r ffi sy’n daladwy ar y wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym, a
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddynt wrth ymdrin â’r archiad.
RHAN 4
8 

(1) Rhaid i geisydd sy’n hysbysu am gais arfaethedig o dan adran 29 o Ddeddf 2024, dalu ffi i Weinidogion Cymru gyda’r hysbysiad.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan baragraff (1) yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi’r ffi sy’n daladwy ar y wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym, a
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddynt wrth ymdrin â’r archiad, gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
9 

(1) Rhaid i geisydd sy’n gwneud cais dalu ffi i Weinidogion Cymru pan wneir y cais.
(2) Y ffi sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yw’r swm a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau y cyhoeddir yr wybodaeth a ganlyn ar y wefan—
(a) manylion y swyddogaethau y codir y ffi ar eu cyfer,
(b) y ffioedd sy’n daladwy,
(c) y dull a ddefnyddir i gyfrifo’r ffioedd, a
(d) y deddfiad y darperir y swyddogaethau perthnasol odano.
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r ffi ar y wefan heb fod yn llai nag un mis cyn i’r ffi ddod i rym.
(5) Mae ffi yn daladwy o dan y rheoliad hwn am y swyddogaethau a ganlyn—
(a) cyflwyno’r cais,
(b) archwilio’r cais,
(c) llunio adroddiad ar yr effaith leol gan yr awdurdod cynllunio,
(d) llunio adroddiad effaith ar y môr gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac
(e) penderfynu’r cais.
10 

(1) Pan fo awdurdod cynllunio yn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol i Weinidogion Cymru o dan adran 36(1) o Ddeddf 2024 rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r gyfran o’r ffi y cyfeirir ati yn rheoliad 9 sy’n ymwneud â’r adroddiad ar yr effaith leol i’r awdurdod cynllunio perthnasol (“y ffi am adroddiad ar yr effaith leol”).
(2) Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall â’r awdurdod cynllunio perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) talu’r cyfan o’r ffi am adroddiad ar yr effaith leol i’r awdurdod cynllunio perthnasol os yw’r adroddiad ar yr effaith leol yn dod i law erbyn y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau a bennir yn yr hysbysiad am gais a dderbynnir a roddir o dan adran 34(2)(a) neu (b) o Ddeddf 2024, neu
(b) talu 50% o’r ffi am adroddiad ar yr effaith leol i’r awdurdod cynllunio perthnasol pan gyflwynir yr adroddiad ar yr effaith leol o fewn y cyfnod o ddwy wythnos ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau a bennir yn yr hysbysiad am gais a dderbynnir a roddir o dan adran 34(2)(a) neu (b) o Ddeddf 2024.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ad-dalu i’r ceisydd unrhyw ran o’r ffi am adroddiad ar yr effaith leol na chaiff ei thalu i’r awdurdod cynllunio perthnasol, neu
(b) ad-dalu’r ceisydd yn llawn os na dderbynnir y cais neu os caiff ei dynnu’n ôl cyn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol gan yr awdurdod cynllunio perthnasol.
11 

(1) Pan fo Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyflwyno adroddiad effaith ar y môr i Weinidogion Cymru o dan adran 37(1) neu (2) o Ddeddf 2024rhaid i Weinidogion Cymru dalu’r gyfran o’r ffi y cyfeirir ati yn rheoliad 9 sy’n ymwneud â’r adroddiad effaith ar y môr i Cyfoeth Naturiol Cymru (“y ffi am adroddiad effaith ar y môr”).
(2) Oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno fel arall â Cyfoeth Naturiol Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) talu’r cyfan o’r ffi am adroddiad effaith ar y môr i Cyfoeth Naturiol Cymru os yw’r adroddiad effaith ar y môr yn dod i law erbyn y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau a bennir yn yr hysbysiad am gais a dderbynnir a roddir o dan adran 34(2)(b) o Ddeddf 2024, neu erbyn y dyddiad cau a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir o dan adran 37(2) o Ddeddf 2024, neu
(b) talu 50% o’r ffi am adroddiad effaith ar y môr i Cyfoeth Naturiol Cymru pan gyflwynir yr adroddiad effaith ar y môr o fewn y cyfnod o ddwy wythnos ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau a bennir yn yr hysbysiad am gais a dderbynnir a roddir o dan adran 34(2)(b) o Ddeddf 2024, neu erbyn y dyddiad cau a bennir mewn cyfarwyddyd a roddir o dan adran 37(2) o Ddeddf 2024.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ad-dalu i’r ceisydd unrhyw ran o’r ffi am adroddiad effaith ar y môr na chaiff ei thalu i Cyfoeth Naturiol Cymru, neu
(b) ad-dalu’r ceisydd yn llawn os na dderbynnir y cais neu os caiff ei dynnu’n ôl cyn cyflwyno adroddiad effaith ar y môr gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
12 
Rhaid i Weinidogion Cymru ad-dalu i’r ceisydd unrhyw ran o’r ffi a dalwyd o dan reoliad 9 nad yw wedi ei gwario ar ôl i’r cais gael ei benderfynu.
RHAN 5
13 

(1) Caiff ymgynghorai statudol perthnasol ac awdurdod cynllunio perthnasol godi ffi am ddarparu gwasanaethau i geisyddion yn unol â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i ymgynghorai statudol perthnasol ac awdurdod cynllunio perthnasol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) gyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar eu gwefan—
(a) y gwasanaethau y codir ffioedd mewn cysylltiad â hwy,
(b) y ffi a godir am y gwasanaethau hynny, ac
(c) y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd.
(3) Rhaid i’r ymgynghorai statudol perthnasol a’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a) cyhoeddi’r ffi sy’n daladwy ar eu gwefan heb fod yn llai na mis cyn i’r ffi ddod i rym;
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol ganddynt wrth ddarparu’r gwasanaethau perthnasol gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
(4) Rhaid i’r ymgynghorai statudol perthnasol a’r awdurdod cynllunio perthnasol ddarparu hysbysiad sy’n nodi’r ffi sydd i’w thalu gan y ceisydd pan wneir cais am wasanaeth a gyhoeddir ar eu gwefan.
(5) Rhaid i’r ceisydd dalu’r ffioedd i’r ymgynghorai statudol perthnasol neu’r awdurdod cynllunio perthnasol (fel y bo’n briodol) o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) ar yr amod nad yw’r cyfnod hwnnw yn llai nag 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
(6) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu’r ffioedd i’r ymgynghorai statudol perthnasol neu’r awdurdod cynllunio perthnasol (fel y bo’n briodol) o fewn y cyfnod a bennir, caiff yr ymgynghorai statudol perthnasol neu’r awdurdod cynllunio perthnasol—
(a) adennill y ffioedd am unrhyw waith a gwblhawyd oddi wrth y ceisydd fel dyled sifil, a
(b) er gwaethaf unrhyw ofyniad i ddarparu’r gwasanaethau perthnasol, gadw’r gwasanaethau perthnasol yn ôl hyd nes bod y ffioedd wedi eu talu.
(7) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;
 ystyr “gwasanaethau” (“services”) yw cyflawni swyddogaeth cydsyniad seilwaith neu ddarparu gwasanaeth cydsyniad seilwaith o fewn ystyr adran 124 o Ddeddf 2024;
 ystyr “ymgynghorai statudol perthnasol” (“relevant statutory consultee”) yw ymgynghorai y cyfeirir ato yng ngholofn 3 o’r Tabl yn yr Atodlen i Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025 pan fo’r prosiect seilwaith arwyddocaol y mae’r cais neu’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef yn dod o fewn categori a nodir yng ngholofn 2 o’r Tabl.
14 

(1) Caiff awdurdod perthnasol godi ffi ar y ceisydd yn unol â’r rheoliad hwn am—
(a) cydsyniad a ddarperir o dan adran 84(2) o Ddeddf 2024 (dileu gofynion cydsynio a thybio cydsyniadau), neu
(b) gwasanaeth cydsyniad seilwaith a ddarperir mewn perthynas â’r cydsyniad hwnnw.
(2) Rhaid i awdurdod perthnasol gyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar ei wefan—
(a) y gwasanaethau y codir ffioedd mewn cysylltiad â hwy,
(b) y ffi a godir am y gwasanaethau hynny, ac
(c) y dull a ddefnyddir i gyfrifo ffioedd.
(3) Pan fo ffi yn daladwy gan y ceisydd i’r awdurdod perthnasol, bydd yr awdurdod perthnasol yn rhoi manylion i’r ceisydd am y swm sy’n daladwy.
(4) Rhaid i awdurdod perthnasol—
(a) cyhoeddi’r ffi sy’n daladwy ar ei wefan heb fod yn llai na mis cyn i’r ffi ddod i rym;
(b) sicrhau nad yw’r ffi sy’n daladwy yn fwy na’r costau yr eir iddynt yn rhesymol wrth ddarparu’r gwasanaethau perthnasol gan gymryd un flwyddyn ariannol gydag un arall.
(5) Rhaid i’r awdurdod perthnasol ddarparu hysbysiad sy’n nodi’r ffi sydd i’w thalu gan y ceisydd pan wneir cais am wasanaeth a gyhoeddir ar ei wefan.
(6) Rhaid i’r ceisydd dalu’r ffioedd i’r awdurdod perthnasol o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad a ddarperir gan yr awdurdod perthnasol ar yr amod nad yw’r cyfnod hwnnw yn llai nag 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad yr hysbysiad hwnnw.
(7) Os yw’r ceisydd yn methu â thalu’r ffioedd i’r awdurdod perthnasol o fewn y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (6), caiff yr awdurdod perthnasol—
(a) adennill y ffioedd am unrhyw waith a gwblhawyd oddi wrth y ceisydd fel dyled sifil, a
(b) er gwaethaf unrhyw ofyniad i ddarparu’r gwasanaethau perthnasol, gadw’r gwasanaethau perthnasol yn ôl hyd nes bod y ffioedd wedi eu talu.
(8) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “awdurdod perthnasol” (“relevant authority”) yr un ystyr ag yn adran 84(5) o Ddeddf 2024;
 mae i “cydsyniad” (“consent”) yr un ystyr ag yn adran 84(5) o Ddeddf 2024;
 mae i “gwasanaeth cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent service”) yr un ystyr ag yn adran 124(3) o Ddeddf 2024.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2025