
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bara a Blawd (Cymru) 2025.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 19 Chwefror 2025.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 13 Rhagfyr 2026—
(a) rheoliad 3(4) a pharagraff 1 o Atodlen 1 i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn gosod gofynion sy’n ymwneud ag ychwanegu asid ffolig at flawd sy’n deillio o wenith cyffredin;
(b) rheoliad 16.
(4) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 mae “awdurdod bwyd” yn cyfeirio at awdurdod bwyd yng Nghymru o fewn yr ystyr â roddir i “food authority” yn adran 5(1A) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “bara” (“bread”) yw bwyd o unrhyw faint, siâp neu ffurf sydd—
(a) fel arfer yn cael ei alw’n fara, a
(b) wedi ei gyfansoddi o does wedi ei wneud o flawd a dŵr, gyda chynhwysion eraill neu hebddynt, sydd wedi ei eplesu gan furum neu wedi ei lefeinio fel arall ac wedi ei bobi neu ei bobi yn rhannol wedi hynny,
 ond nid yw’n cynnwys byns, torthau byns, tsiapatis, bara chola, bara pita, bara tatws na bara sydd wedi ei baratoi’n arbennig ar gyfer dioddefwyr seliag;
 ystyr “blawd” (“flour”) yw’r cynnyrch sy’n deillio o, neu sydd wedi ei wahanu yn ystod, melino neu falu grawnfwyd wedi ei lanhau pa un a yw’r grawnfwyd wedi ei fragu neu wedi bod yn ddarostyngedig i unrhyw broses arall ai peidio, ac mae’n cynnwys blawd, ond nid yw’n cynnwys cynhyrchion grawnfwyd eraill, megis bran grawnfwyd gwahanedig, bywyn grawnfwyd gwahanedig, semolina neu rynion;
 ystyr “blawd gwenith cyflawn” (“wholemeal flour”) yw’r blawd sydd wedi ei gyfansoddi o’r cyfan o’r cynnyrch a geir o felino neu falu grawnfwydydd wedi eu glanhau;
 mae i “bwyd” yr ystyr a roddir i “food” yn adran 1(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990;
 mae i “cynhwysyn” yr ystyr a roddir i “ingredient” yn Erthygl 2(2)(f) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr;
 ystyr “gwenith cyffredin” (“common wheat”) yw Triticum aestivum L.;
 mae “gwerthu” (“sell”) yn cynnwys—
(a) cynnig, dangos neu feddiannu ar gyfer gwerthiant, a
(b) ystyr estynedig gwerthu yn adran 2 o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel y’i cymhwysir gan reoliad 13 o’r Rheoliadau hyn;
 mae i “labelu” yr ystyr a roddir i “labelling” yn Erthygl 2(2)(j) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011;
 mae i “swyddog awdurdodedig” mewn perthynas ag awdurdod bwyd yr ystyr a roddir i “authorised officer” yn adran 5(6) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990.
3 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â blawd sy’n deillio o wenith cyffredin, pa un a yw’n gymysg â blawd arall ai peidio.
(2) Ni chaiff person sy’n cynhyrchu blawd wrth gynnal busnes werthu blawd sy’n deillio o wenith cyffredin nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliad hwn.
(3) Ni chaiff person sy’n gweithredu wrth gynnal busnes fewnforio na symud i Gymru unrhyw flawd sy’n deillio o wenith cyffredin, na gwerthu blawd o’r fath sydd wedi ei fewnforio neu ei symud i Gymru ganddo, nad yw’n cydymffurfio â’r rheoliad hwn.
(4) Rhaid i flawd sy’n deillio o wenith cyffredin gynnwys y sylweddau a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn yn unol â’r darpariaethau a nodir yn yr Atodlen honno.
(5) Nid yw paragraff (4) yn gymwys i—
(a) blawd gwenith cyflawn;
(b) blawd a gynhyrchir mewn safle cynhyrchu sydd, ar adeg y cynhyrchu—
(i) â chapasiti cynhyrchu blynyddol uchaf o 500 tunnell fetrig o flawd neu lai, a
(ii) wedi cynhyrchu llai na 500 tunnell fetrig o flawd ar gyfer pob un o’r tair blynedd galendr ddiwethaf;
(c) blawd i’w ddefnyddio wrth gynhyrchu afrlladau, matsos, glwten neu startsh;
(d) unrhyw baratoad crynoëdig i’w ddefnyddio at ddiben hwyluso ychwanegu at flawd sylweddau fel sy’n ofynnol gan baragraff (4).
4 

(1) Ni chaiff person ddefnyddio cyfrwng cannu blawd wrth baratoi bara neu flawd.
(2) Yn y rheoliad hwn—
(a) mae “cyfrwng cannu blawd” yn ychwanegyn bwyd a ddefnyddir yn bennaf i dynnu lliw o flawd;
(b) mae i “ychwanegyn bwyd” yr ystyr a roddir i “food additive” yn Erthygl 3(2)(a) o Reoliad (EC) Rhif 1333/2008 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar ychwanegion bwyd.
5 

(1) Ni chaiff person sy’n gweithredu wrth gynnal busnes werthu na hysbysebu i’w werthu unrhyw fara yn groes i’r rheoliad hwn.
(2) Wrth labelu neu hysbysebu bara, ni chaniateir defnyddio term a bennir ym mharagraff (3) fel rhan o enw’r bara, pa un a yw wedi ei oleddfu gan eiriau eraill ai peidio, ond pan fodlonir gofynion y paragraff hwnnw mewn perthynas â’r term hwnnw.
(3) Caniateir defnyddio’r term—
(a) “gwenith cyflawn”, “wholemeal” neu’r term cyfatebol mewn unrhyw iaith arall pan fo’r holl flawd a ddefnyddir fel cynhwysyn wrth baratoi’r bara yn flawd gwenith cyflawn;
(b) “bywyn gwenith”, “wheat germ” neu’r term cyfatebol mewn unrhyw iaith arall pan fo’r bara yn cynnwys bywyn gwenith wedi ei brosesu a ychwanegwyd o 10% neu fwy wedi ei gyfrifo ar ddeunydd sych y bara.
6 

(1) Nid yw rheoliadau 3 i 5 yn gymwys i fara neu flawd sydd ar gyfer unrhyw ddefnydd heblaw ar gyfer ei fwyta gan bobl.
(2) Ond mae rheoliad 5 yn gymwys i fara o’r fath i’r graddau y mae’r rheoliad hwnnw yn ymwneud â hysbysebu.
7 

(1) Nid yw rheoliadau 3 i 5 yn gymwys i fara neu flawd sydd ar gyfer y defnyddiau esempt a ganlyn os nodir yn glir y defnyddiau esempt o’r bara neu’r blawd yn Saesneg, neu yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar y labelu—
(a) bara neu flawd i’w allforio i drydedd wlad;
(b) bara neu flawd i’w ddefnyddio wrth gynhyrchu bwyd sydd i’w allforio i drydedd wlad.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “trydedd wlad” yw unrhyw wlad ac eithrio’r Deyrnas Unedig, ac mae’n cynnwys—
(a) Beilïaeth Guernsey;
(b) Beilïaeth Jersey;
(c) Ynys Manaw.
8 
Ni chaiff person sy’n gweithredu wrth gynnal busnes ddefnyddio, wrth gynhyrchu bwyd, fara neu flawd sydd wedi eu hesemptio gan reoliadau 3(5)(c), 3(5)(d), 6 neu 7 ac eithrio at ddefnydd sydd wedi ei esemptio gan y rheoliadau hynny.
9 
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn yn ei ardal.
10 

(1) Caiff swyddog awdurdodedig awdurdod bwyd ddyroddi hysbysiad (“hysbysiad gwella”) i berson os oes gan y swyddog sail resymol dros gredu nad yw’r person wedi cydymffurfio, neu nad yw’n cydymffurfio, ag un neu ragor o’r darpariaethau perthnasol.
(2) Y “darpariaethau perthnasol” yw rheoliadau 3(2), 3(3), 4(1), 5(1) ac 8.
(3) Rhaid i hysbysiad gwella fod yn ysgrifenedig, a rhaid iddo gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) seiliau’r swyddog awdurdodedig dros gredu nad yw’r person wedi cydymffurfio, neu nad yw’n cydymffurfio, â’r ddarpariaeth berthnasol;
(b) y weithred neu anweithred sy’n ffurfio’r methiant i gydymffurfio â’r ddarpariaeth berthnasol;
(c) y mesurau, ym marn y swyddog awdurdodedig, y mae rhaid i’r person eu cymryd i sicrhau cydymffurfedd â’r ddarpariaeth berthnasol;
(d) dyddiad dyroddi’r hysbysiad;
(e) y cyfnod y mae rhaid cymryd y mesurau gofynnol, neu fesurau sydd o leiaf yn gyfatebol iddynt, ynddo (y “cyfnod cydymffurfio”);.
(f) manylion y person y caniateir cyflwyno sylwadau iddo am yr hysbysiad, a manylion o ran sut ac erbyn pa bryd y caniateir gwneud hynny;
(g) yr hawl i apelio i lys ynadon, gan gynnwys y cyfnod y caniateir gwneud apêl ynddo;
(h) esboniad o ganlyniadau methiant i gydymffurfio â gofynion yr hysbysiad.
(4) Y “cyfnod cydymffurfio” yw’r cyfnod a benderfynir gan y swyddog awdurdodedig ac a bennir yn yr hysbysiad gwella, sef 14 o ddiwrnodau o leiaf sy’n dechrau â’r dyddiad y dyroddir yr hysbysiad.
11 

(1) Mae person sy’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella yn cyflawni trosedd.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan baragraff (1) yn agored, o’i euogfarnu’n ddiannod, i ddirwy.
12 

(1) Caiff person y dyroddir hysbysiad gwella iddo apelio i lys ynadon yn erbyn yr hysbysiad.
(2) Rhaid gwneud apêl cyn y cynharaf o blith—
(a) diwedd y cyfnod cydymffurfio, neu
(b) diwedd y cyfnod o un mis sy’n dechrau â dyddiad dyroddi’r hysbysiad gwella.
(3) Mae apêl i’w chyflwyno ar ffurf cwyn am orchymyn, ac yn unol â Deddf Llysoedd Ynadon 1980.
(4) Ar apêl, caiff y llys ynadon—
(a) cadarnhau’r hysbysiad gwella, gydag addasiadau neu hebddynt, neu
(b) canlso’r hysbysiad gwella.
(5) Pan wneir apêl, atelir cyfnod cydymffurfio’r hysbysiad gwella am y cyfnod y mae’r apêl yn yr arfaeth ynddo.
(6) Ym mharagraff (5), mae’r apêl yn yr arfaeth nes ei bod yn cael ei phenderfynu’n derfynol neu’n cael ei thynnu’n ôl.
13 

(1) Mae darpariaethau Deddf Diogelwch Bwyd 1990 a nodir ym mharagraff (2) yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn—
(a) fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, neu at unrhyw Ran o’r Ddeddf honno, yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn;
(b) gydag unrhyw addasiadau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Dyma’r darpariaethau—
(a) adran 2 (ystyr estynedig “gwerthu” etc.);
(b) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(c) adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(d) adran 21(1) a (5) (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy);
(e) adran 30(8) (tystiolaeth o dystysgrifau a roddir gan ddadansoddydd neu archwilydd bwyd);
(f) adran 33 (rhwystro etc. swyddogion);
(g) adran 35(1) (cosbi troseddau) i’r graddau y mae’n ymwneud â throsedd o dan adran 33(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel y’i cymhwysir gan y rheoliad hwn;
(h) adran 35(2) (cosbi troseddau) i’r graddau y mae’n ymwneud â throsedd o dan adran 33(2) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 fel y’i cymhwysir gan y rheoliad hwn;
(i) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(j) adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);
(k) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
(l) adran 50 (cyflwyno dogfennau) fel pe bai—
(i) cyfeiriadau at “given to or served on”, a “given or served” yn cynnwys “issued to” ac “issued”, yn y drefn honno, a
(ii) cyfeiriadau at gyflwyno dogfen drwy ei hanfon mewn llythyr rhagdaledig yn gyfeiriadau at gyflwyno’r ddogfen honno drwy’r post yn unol ag adrannau 13 a 14 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
14 
Mae Rheoliadau Bara a Blawd 1998 wedi eu dirymu.
15 
Hyd at ddiwedd 12 Rhagfyr 2026, bernir bod blawd sy’n deillio o wenith cyffredin nad yw’n cydymffurfio â rheoliad 3(4) o’r Rheoliadau hyn mewn perthynas â sylwedd yn cydymffurfio â’r rheoliad hwnnw er hynny pe bai wedi cydymffurfio mewn perthynas â’r sylwedd hwnnw â rheoliad 4(1) o Reoliadau Bara a Blawd 1998 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 19 Chwefror 2025.
16 

(1) Bernir bod blawd sy’n deillio o wenith cyffredin nad yw’n cydymffurfio â rheoliad 3(4) o’r Rheoliadau hyn yn cydymffurfio â’r rheoliad hwnnw er hynny os—
(a) y cafodd ei roi ar y farchnad yn gyfreithlon neu ei labelu yn gyfreithlon cyn diwedd 12 Rhagfyr 2026, a
(b) y byddai wedi cydymffurfio, neu y bernid ei fod wedi cydymffurfio, â rheoliad 3(4) o’r Rheoliadau hyn fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 13 Rhagfyr 2026.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “roi ar y farchnad” yw dal bwyd at ddiben gwerthu neu unrhyw ffurf arall o drosglwyddo, pa un ai’n ddi-dâl ai peidio, a gwerthu, dosbarthu a ffurfiau eraill o drosglwyddo eu hunain.
Sarah Murphy
Y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Ionawr 2025
ATODLEN 1
Rheoliad 3
1 
Rhaid ychwanegu’r sylweddau a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 1 at flawd sy’n deillio o wenith cyffredin yn y cyfrannau ac yn unol â’r darpariaethau eraill a bennir yng ngholofn 2.

Tabl 1
Colofn 1Sylwedd Colofn 2Maint y sylwedd i’w ychwanegu a darpariaethau eraill mewn perthynas ag ychwanegu’r sylweddau hynny
Calsiwm carbonad (a) O leiaf 300 mg/100 g o flawd.
(b) Dim mwy na 455 mg/100 g o flawd.
(c) Rhaid ychwanegu’r sylwedd ar ffurf E 170 calsiwm carbonad sy’n cydymffurfio â’r fanyleb a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.
(d) Ond nid yw’n ofynnol ychwanegu calsiwm carbonad at flawd sydd—

(i) yn flawd codi â chynnwys calsiwm o 0.2% neu fwy, neu
(ii) blawd brag gwenith.
Asid ffolig (a) 0.25 mg/100 g blawd
(b) Rhaid ychwanegu’r sylwedd ar ffurf asid pteroylmonoglwtamig sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer asid ffolig hydrad a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 2023 ar dudalen I-1110.
2 

(1) Rhaid i’r sylweddau a restrir yng ngholofn 1 o Dabl 2 fod yn bresennol mewn blawd sy’n deillio o wenith cyffredin yn y cyfrannau a bennir yng ngholofn 2.
(2) Pan fo angen ychwanegu sylweddau er mwyn bodloni’r cyfrannau gofynnol a bennir yng ngholofn 2 o Dabl 2, rhaid ychwanegu’r sylweddau yn unol â’r darpariaethau eraill a bennir yn y golofn honno.

Tabl 2
Colofn 1Sylwedd Colofn 2Maint y sylwedd y mae rhaid iddo fod yn bresennol mewn blawd a darpariaethau eraill mewn perthynas ag ychwanegu’r sylweddau hynny
Haearn (a) O leiaf 2.10 mg/100 g o flawd.
(b) Rhaid i unrhyw ychwanegiad o’r sylwedd fod ar ffurf unrhyw un o’r canlynol, neu unrhyw gyfuniad o’r canlynol—
(i) citrad amoniwm fferrig sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer citrad amoniwm fferrig a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 1973 ar dudalen 201;
(ii)sylffad fferrus sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer sylffad fferrus heptahydrad a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 2023 ar dudalen I-1037;
(iii) sylffad fferrus sych sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer sylffad fferrus sych a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 2023 ar dudalen I-1036;
(iv)powdr haearn sy’n cydymffurfio â’r fanyleb a gynhwysir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.
Niasin (a) O leiaf 2.40 mg/100 g o flawd.
(b) Rhaid i unrhyw ychwanegiad o’r sylwedd fod ar ffurf y naill neu’r llall o’r canlynol, neu gyfuniad o’r canlynol—
(i) asid nicotinig sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer asid nicotinig a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 2023 ar dudalen II-404;
(ii) nicotinamid sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer nicotinamid a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 2023 ar dudalen II-399.
Thiamin (fitamin B1) (a) O leiaf 0.24 mg/100 g o flawd.
(b) Rhaid i unrhyw ychwanegiad o’r sylwedd fod ar ffurf thiamin hydroclorid sy’n cydymffurfio â’r meini prawf yn y monograff ar gyfer thiamin hydroclorid a gynhwysir yn y British Pharmacopoeia 2023 ar dudalen II-1129.
ATODLEN 2
Rheoliad 3 ac Atodlen 1
Cyfystyron CI Pigment White 18; Chalk
Diffiniad Calsiwm carbonad yw’r cynnyrch a geir o galchfaen mâl neu gan ddyddodiad ïonau calsiwm gydag ïonau carbonad.
Rhif Colour Index 77220
Rhif EINECS
 Calsiwm carbonad: 207-439-9Calchfaen: 215-279-6
Enw cemegol Calsiwm carbonad;
Fformiwla gemegol CaCO
3
Pwysau moleciwlaidd 100.1 g/mol
Prawf Cynnwys ≥ 98 % ar sail anhydrus
Disgrifiad Powdr crisialog gwyn neu amorffaidd, di-arogl a di-flas
Dull adnabod
Hydoddedd Fwy neu lai yn anhydawdd mewn dŵr ac mewn alcohol. Yn hydoddi ag eferwad mewn asid asetig gwanedig, mewn asid hydroclorig gwanedig ac mewn asid nitrig gwanedig, ac mae’r hydoddiannau sy’n deillio o hynny, ar ôl berwi, yn rhoi profion positif ar gyfer calsiwm.
Purdeb
Colled wrth sychu ≤ 2.0% (200°C, 4 awr)
Sylweddau anhydawdd mewn asid ≤ 0.2%
Magnesiwm a halen alcalïaidd ≤ 1.0%
Fflworid ≤ 50 mg/kg
Antimoni (Sb) ≤ 100mg/kg, yn unigol neu mewn cyfuniad
Copor (Cu)
Cromiwm (Cr)
Sinc (Zn)
Bariwm (Ba)
Arsenig (As) ≤ 3 mg/kg
Plwm (Pb) ≤ 3 mg/kg
Cadmiwm (Cd) ≤ 3 mg/kg
Ethylen ocsid Ni ddylai cyfanswm gweddillion ethylen ocsid, waeth beth fo’u tarddiad, fod yn fwy na 0.1 mg/kg.


ATODLEN 3
Rheoliad 3 ac Atodlen 1
Diffiniad Powdr haearn sydd wedi ei gyfansoddi o haearn metelig wedi ei wahanu yn fân sy’n cynnwys o leiaf 90% o haearn yn ôl pwysau ac yn cydymffurfio â gofynion yr Atodlen hon.
Enw cemegol Haearn
Fformiwla gemegol Fe
Prawf Pwyso 0.25 g o sampl yn gywir i mewn i fflasg â chaead. Ychwanegu hydoddiant poeth o 1.25 g o gopr sylffad pentahydrad mewn 20 ml o ddŵr ac ysgwyd am 10 munud. Hidlo’n gyflym a golchi’r hidlydd â dŵr; asideiddio’r hidlif cymysg a’r golchion ag asid sylffwrig, a thitradu â photasiwm permanganad N/10. Mae pob ml o botasiwm permanganad N/10 yn cyfateb i 0.005585 g o haearn.
Disgrifiad Powdr llwyd-ddu mân o’r fath ronynnedd fel nad yw mwy na 0.1% yn ôl pwysau yn weddill ar ridyll weiren Safon Brydeinig 410:1969
 maint agorfa enwol 150 μm a dim mwy na 5% yn ôl pwysau ar ridyll weiren Safon Brydeinig 410:1969 maint agorfa enwol 53 μm.

Dull adnabod
Hydoddedd O leiaf 95% o’r cynnwys haearn pan ganfyddir hynny drwy’r dull canlynol.Pwyso 0.1 g o sampl yn gywir i mewn i fflasg gonigol 750 ml. Ychwanegu 450 ml 0.2% yn ôl pwysau o asid hydroclorig a gynheswyd yn flaenorol i 37°C. Troi yn barhaus am 3 awr, gan gynnal y tymheredd ar 37°C. Oeri i dymheredd ystafell a gwanedu i 500 ml â dŵr distyll. Hidlo; canfod cynnwys haearn yr hidlif drwy ddull addas. Cyfrifo cyfanswm yr haearn yn yr hydoddiant fel canran o gynnwys haearn metelaidd y sampl a gymerir.
