
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024 (Cychwyn Rhif 2) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024.
2 
Daw adran 24 (adroddiadau gan y Comisiwn Etholiadol) ac adran 64 (dylanwad amhriodol) o’r Ddeddf i rym ar 18 Gorffennaf 2025.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2025