
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Gorffennaf 2025.
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth, ac â ffioedd a dyfarndaliadau sy’n gymwys, mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
RHAN 2
3 
Yn Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007, yn yr Atodlen, ym mharagraff 1, yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “a chanddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
RHAN 3
4 
Yn Rheoliadau Addysg (Athrofa Brifysgol Ewropeaidd) (Cymru) 2014, yn rheoliad 3(1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “y mae ganddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
RHAN 4
5 
Yn Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015, yn yr Atodlen, ym mharagraff 1(1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “a chanddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
RHAN 5
6 
Yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017, yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “y mae ganddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
RHAN 6
7 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
8 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 2ZC (categori 2ZC – gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir), yn is-baragraff (2)—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “y mae ganddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
9 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 2ZB (categori 2ZB - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir a’u plant), yn is-baragraff (3)(b), yn y geiriau o flaen Achos 1—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “y mae ganddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “partner sydd wedi cael profedigaeth” mewnosoder “, a roddwyd”.
RHAN 7
10 
Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
11 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir”—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “y mae ganddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
12 
Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “person y rhoddwyd caniatâd iddo ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir”, yn y geiriau o flaen paragraff (1)—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “y mae ganddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “partner sydd wedi cael profedigaeth” mewnosoder “, a roddwyd”.
13 
Yn rheoliad 3 (myfyrwyr cymwys), ym mharagraff (10H)(b)—
(a) yn lle “fo statws A fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” rhodder “fo’r cyfnod y caniateir i A”;
(b) ar ôl “yn ôl y digwydd,” mewnosoder “aros yn y Deyrnas Unedig”.
RHAN 8
14 
Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Graddau Meistr Ôl-raddedig) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio yn unol â’r Rhan hon.
15 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 2C (categori 2C – gwladolion Wcreinaidd a ddiogelir), yn is-baragraff (2)—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo” rhodder “a chanddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “i aros ynddi” mewnosoder “a roddwyd”.
16 
Yn Atodlen 2 (categorïau o fyfyrwyr cymwys), ym mharagraff 2B (categori 2B - personau y rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel partner a ddiogelir a’u plant), yn is-baragraff (3)(b), yn y geiriau o flaen Achos 1—
(a) yn lle “y rhoddwyd caniatâd iddo”, yn yr ail le y mae’n digwydd, rhodder “a chanddo ganiatâd cyfredol”;
(b) ar ôl “partner sydd wedi cael profedigaeth” mewnosoder “, a roddwyd”.
17 
Yn rheoliad 12H (personau sy’n peidio â bod yn wladolion Wcreinaidd a ddiogelir), ym mharagraff (b)—
(a) yn lle “fo statws A fel gwladolyn Wcreinaidd a ddiogelir” rhodder “fo’r cyfnod y caniateir i A”;
(b) ar ôl “yn ôl y digwydd,” mewnosoder “aros yn y Deyrnas Unedig”.
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
20 Mehefin 2025