
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Rhagfyr 2026.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) 2023.
2 

(1) Diwygir y tabl ym mharagraff 1 o’r Atodlen (cynhyrchion plastig untro gwaharddedig) i’r Ddeddf fel a ganlyn.
(2) O dan y pennawd “cynhyrchion eraill”, ar ôl y cofnod ar gyfer “ffyn cotwm” mewnosoder—“
Weips gwlyb Esemptiad 1Mewn cysylltiad â chyflenwi, neu gynnig cyflenwi, weip wlyb a ddyluniwyd neu a weithgynhyrchwyd i’w defnyddio mewn cysylltiad â gofal neu driniaeth feddygol.”
3 
Yn y mannau priodol ym mharagraff 2 o’r Atodlen i’r Ddeddf mewnosoder—
 “mae “meddygol” (“medical”) yn cynnwys llawfeddygol;”;
 “mae “triniaeth” (“treatment”) yn cynnwys diagnosis;”;
 “ystyr “weip wlyb” (“wet wipe”) yw darn o ffabrig anweedig sydd wedi ei ragwlychu.”
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
18 Mehefin 2025