
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Etholaethau Senedd Cymru 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 18 Gorffennaf 2025.
(3) Er bod y Rheoliadau hyn yn dod i rym o dan baragraff 1(2), nid ydynt yn cael effaith mewn perthynas ag etholiad cyffredinol y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar neu cyn 6 Ebrill 2026.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “etholiad cyffredinol” yw etholiad cyffredinol cyffredin, neu etholiad cyffredinol eithriadol, a gynhelir o dan Ran 1 o Ddeddf 2006.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “etholaethau’r Senedd” (“Senedd constituencies”) yw’r etholaethau a ddiffinnir yn y tabl yn yr Atodlen i’r Rheoliadau hyn, sy’n dychwelyd Aelod o’r Senedd fel y pennir yn Rhan 1 o Ddeddf 2006;
 mae i “Senedd” yr un ystyr â “Senedd” yn adran 1(1) o Ddeddf 2006.
3 
Mae’r Gorchmynion a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006, a
(b) Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) (Diwygio) 2011.
4 

(1) Mae Cymru wedi ei rhannu yn etholaethau’r Senedd—
(a) a enwir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen,
(b) a ddynodir yn etholaethau sirol neu’n etholaethau bwrdeistrefol yn y golofn honno, ac
(c) sy’n cynnwys etholaethau seneddol y DU a nodir yng ngholofnau 2 a 3 o’r tabl hwnnw, gyferbyn ag enw’r etholaeth yng ngholofn 1.
(2) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “etholaeth seneddol y DU” (“UK parliamentary constituency”) yw etholaeth seneddol y Deyrnas Unedig a grëwyd gan Orchymyn Etholaethau Seneddol 2023 (“Gorchymyn 2023”), sy’n dychwelyd aelod o Senedd y Deyrnas Unedig, gan ddiystyru effaith weithredol unrhyw ddiwygiadau neu addasiadau i Orchymyn 2023 ar ôl y dyddiad y gwneir y Rheoliadau hyn.
5 
Rhaid i bob swyddog cofrestru etholiadol aildrefnu neu addasu’r gofrestr etholwyr llywodraeth leol a gynhelir o dan adran 9(1)(b) a (5A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, fel sy’n ofynnol i roi effaith i’r Rheoliadau hyn.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2025
YR ATODLEN
Rheoliad 4


Tabl 1
Enw etholaethau’r Senedd Etholaethau seneddol y DU
Etholaeth 1 Etholaeth 2
Bangor Conwy MônEtholaeth Sirol Bangor Aberconwy Ynys Môn
ClwydEtholaeth Sirol Dwyrain Clwyd Gogledd Clwyd
Fflint WrecsamEtholaeth Sirol Alun a Glannau Dyfrdwy Wrecsam
Gwynedd MaldwynEtholaeth Sirol Dwyfor Meirionnydd Maldwyn a Glyndŵr
Ceredigion PenfroEtholaeth Sirol Ceredigion Preseli Canol a De Sir Benfro
Sir GaerfyrddinEtholaeth Sirol Caerfyrddin Llanelli
Gŵyr AbertaweEtholaeth Sirol Gŵyr Gorllewin Abertawe
Brycheiniog Tawe NeddEtholaeth Sirol Aberhonddu, Maesyfed a Chwm Tawe Castell-nedd a Dwyrain Abertawe
Afan Ogwr RhonddaEtholaeth Sirol Aberafan Maesteg Rhondda ac Ogwr
Pontypridd Cynon MerthyrEtholaeth Sirol Merthyr Tudful ac Aberdâr Pontypridd
Blaenau Gwent Caerffili RhymniEtholaeth Sirol Blaenau Gwent a Rhymni Caerffili
Syr Fynwy TorfaenEtholaeth Sirol Sir Fynwy Torfaen
Casnewydd IslwynEtholaeth Sirol Dwyrain Casnewydd Gorllewin Casnewydd ac Islwyn
Caerdydd PenarthEtholaeth Sirol Gorllewin Caerdydd De Caerdydd a Phenarth
Caerdydd Ffynnon TafEtholaeth Sirol Gogledd Caerdydd Dwyrain Caerdydd
Pen-y-bont Bro MorgannwgEtholaeth Sirol Pen-y-bont ar Ogwr Bro Morgannwg