
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Rhagfyr 2025.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “amserlen” (“timetable”) yw amserlen mewn perthynas â’r cais a lunnir yn unol â rheoliad 11;
 ystyr “ardal forol Cymru” (“Welsh marine area”) yw’r môr sy’n gyfagos i Gymru hyd at derfyn atfor y môr tiriogaethol; ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999;
 ystyr “awdurdod archwilio” (“examining authority”) yw person neu banel o bersonau a benodir o dan adran 40 o Ddeddf 2024 mewn cysylltiad â chais penodol;
 ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990—
(a) pan fo cais ar gyfer datblygiad yng Nghymru, ar gyfer ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi;
(b) ar gyfer yr ardal sydd agosaf at yr ardal y mae’r cais yn ymwneud â hi, yn achos cais ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad seilwaith a wneir o dan adran 32 o Ddeddf 2024 ac mae’n cynnwys unrhyw amrywiad y cytunir arno;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais am orchymyn cydsyniad seilwaith;
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o Ddeddf 2024;
 ystyr “cyfnod ar gyfer sylwadau” (“representation period”) yw’r cyfnod sy’n dod i ben â’r dyddiad cau a bennir yn unol ag adran 34(4) o Ddeddf 2024 mewn cysylltiad â chais penodol, y caniateir ei estyn o dan adran 34(7) o’r Ddeddf honno (ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff(2));
 ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972);
 mae i “datblygiad” (“development”) yr ystyr a roddir yn adran 133 o Ddeddf 2024;
 ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw gweithgarwch—
(a) sy’n “datblygiad AEA” fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, neu
(b) sy’n gofyn am asesiad effaith amgylcheddol yn unol â rheoliad 2A neu Ran 2 o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007;
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;
 ystyr “dyfarniad o’r weithdrefn” (“determination of procedure”) yw dyfarniad o dan adran 42(1) neu (5) o Ddeddf 2024;
 ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn a wneir o dan Ddeddf 2024 sy’n rhoi cydsyniad seilwaith;
 mae i “gwrandawiad llawr agored” (“open floor hearing”) yr ystyr a roddir yn adran 43(3) o Ddeddf 2024;
 ystyr “o bell” (“remotely”) yw drwy gyfrwng—
(a) cyswllt ffôn byw,
(b) cyswllt fideo byw, neu
(c) unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i gyflwyno sylwadau yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol;
 ystyr “panel” (“panel”) yw panel o bersonau a benodir i archwilio cais o dan adran 40 o Ddeddf 2024;
 ystyr “parti a chanddo fuddiant” (“interested party”) yw—
(a) y ceisydd;
(b) unrhyw berson a hysbyswyd am y cais yn unol ag adran 34(2)(a) neu (b) o Ddeddf 2024;
(c) unrhyw ymgynghorai statudol;
(d) unrhyw ymgynghorai arbenigol;
(e) unrhyw berson arall a gyflwynodd sylwadau ysgrifenedig cychwynnol mewn perthynas â chais penodol(ond gweler paragraff (2));
 ystyr “Rheoliadau Caffael Gorfodol 2025” (“the 2025 Compulsory Acquisition Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025;
 ystyr “Rheoliadau Ceisiadau 2025” (“the 2025 Application Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025;
 mae “sylw” (“representation”) yn cynnwys tystiolaeth;
 ystyr “sylwadau pellach” (“further representations”) yw sylwadau llafar neu ysgrifenedig yn ychwanegol at sylwadau ysgrifenedig cychwynnol;
 ystyr “sylwadau ysgrifenedig” (“written representations”) yw sylwadau ysgrifenedig cychwynnol ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach;
 ystyr “sylwadau ysgrifenedig cychwynnol” (“initial written representations”) yw sylwadau ar y cais a wnaed yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau (ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2));
 ystyr “sylwadau ysgrifenedig pellach” (“further written representations”) yw sylwadau ar y cais a wneir yn unol â rheoliad 19;
 mae “tir” (“land”) yn cynnwys adeiladau, henebion a thir sydd wedi ei orchuddio â dyfroedd (gan gynnwys gwely’r môr);
 mae i “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2)(b) o Reoliadau Ceisiadau 2025;
 mae i “ymgynghorai statudol” (“statutory consultee”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2)(a) o Reoliadau Ceisiadau 2025.
(2) Pan fo cais wedi ei amrywio o dan Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 i gynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, mae rheoliad 25 o’r Rheoliadau hynny yn gwneud darpariaeth wahanol ynghylch ystyr “cyfnod ar gyfer sylwadau” mewn cysylltiad â “sylwadau ysgrifenedig cychwynnol” a “parti a chanddo fuddiant”.
(3) Pan ymgynghorir ag ymgynghorai statudol o dan reoliad 19(1) (sylwadau ysgrifenedig pellach), 31(5) i (7) a (10) (penderfyniad gan awdurdod archwilio: ystyriaethau newydd), 32(5) i (7) a (10) (penderfyniad gan Weinidogion Cymru: ystyriaethau newydd), 33 (cyfarwyddyd i ailagor archwiliad) neu 39(2) (gweithdrefn ar ôl dileu penderfyniad), ymateb o sylwedd at ddibenion adran 129(4)(b) o Ddeddf 2024 yw ymateb—
(a) sy’n nodi—
(i) barn yr ymgynghorai statudol ar y cwestiwn a ofynnwyd gan yr awdurdod archwilio, neu
(ii) nad oes barn gan yr ymgynghorai statudol neu nad oes ganddo ddim i’w ychwanegu at ei sylwadau blaenorol, a
(b) yn achos ymgynghoriad o dan reoliad 19, sy’n cydymffurfio â pharagraff (4) o’r rheoliad hwnnw.
(4) Gweler adran 136 o Ddeddf 2024 mewn perthynas â darpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu sy’n awdurdodi person i—
(a) hysbysu person arall am rywbeth, neu
(b) rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno”, “rhoi” neu derm arall).
(5) Pan fo gwrandawiad neu ymchwiliad lleol yn cael ei ailagor o dan y Rheoliadau hyn neu o dan Ddeddf 2024, mae darpariaethau’r Rheoliadau hyn, ac eithrio rheoliad 3, yn gymwys fel pe na bai’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad wedi ei gau.
RHAN 2
3 
Rhaid i Weinidogion Cymru arfer eu dyletswydd o dan adran 40(1) o Ddeddf 2024 (penodi awdurdod archwilio ar gyfer cais dilys) cyn diwedd 7 niwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod ar gyfer sylwadau.
4 

(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn penodi panel o bersonau fel yr awdurdod archwilio, rhaid iddo benodi un o’i aelodau i gadeirio’r panel.
(2) Nid yw newid i aelodaeth neu gadeiryddiaeth panel, na sedd wag mewn cysylltiad ag aelodaeth neu gadeiryddiaeth panel, yn effeithio ar—
(a) y materion a wnaed gan y panel, neu mewn perthynas â’r panel, cyn y newid hwnnw;
(b) hunaniaeth barhaus y panel.
5 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg—
(a) rhoi person yn lle panel;
(b) rhoi panel newydd yn lle panel;
(c) rhoi panel yn lle person;
(d) rhoi person newydd yn lle person.
(2) Caiff yr awdurdod archwilio newydd drin pethau a wnaed gan yr awdurdod archwilio blaenorol, neu mewn perthynas ag ef, fel petaent wedi eu gwneud, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, gan y panel newydd hwnnw neu mewn perthynas ag ef.
6 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y ceisydd a’r awdurdod cynllunio yn cael eu hysbysu am enw a manylion cyswllt yr awdurdod archwilio a benodir—
(a) yn achos y penodiad cyntaf, o fewn 7 niwrnod sy’n dechrau â’r dyddiad y gwneir y penodiad;
(b) yn achos unrhyw benodiad dilynol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol am unrhyw newid i’r awdurdod archwilio.
(3) Rhaid i’r person sy’n cyflawni rôl yr awdurdod archwilio neu gadeirydd y panel sy’n cyflawni rôl yr awdurdod archwilio gyhoeddi ei benodiad, ei enw a’r dull o gysylltu ag ef ar ddechrau gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
7 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo panel yn cael ei benodi i archwilio cais.
(2) Caiff y panel ddyrannu unrhyw ran o’r archwiliad i unrhyw un neu ragor o’i aelodau.
(3) Pan fo’r panel yn gwneud dyraniad o dan baragraff(2)—
(a) caiff unrhyw beth a wneir gan y panel, neu iddo, mewn cysylltiad â’r rhan o’r archwiliad a ddyrannwyd gael ei wneud gan yr aelod o dan sylw neu iddo neu gan y panel, a
(b) caiff canfyddiadau a chasgliadau’r aelod o dan sylw eu trin fel canfyddiadau a chasgliadau’r panel.
(4) Mae paragraff (3)(b) yn ddarostyngedig i unrhyw benderfyniad gan y panel a wnaed ar adeg y dyraniad neu cyn y dyraniad, o ran statws unrhyw ganfyddiadau neu gasgliadau o’r fath.
8 

(1) Rhaid i banel wneud penderfyniadau mewn cysylltiad â’r archwiliad neu’r cais drwy gytundeb y mwyafrif o’i aelodau.
(2) Os nad yw aelodau panel yn gallu dod i benderfyniad drwy gytundeb y mwyafrif o’i aelodau pan fo nifer yr aelodau’n eilrif, mae gan gadeirydd y panel bleidlais fwrw.
RHAN 3
9 

(1) Rhaid i’r awdurdod archwilio gynnal gwrandawiad llawr agored os yw un neu ragor o bersonau yn gwneud archiad am hynny, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3).
(2) Rhaid i archiad am wrandawiad llawr agored gydymffurfio â rheoliad 24(j) a (k) o Reoliadau Ceisiadau 2025.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i archiad i’r graddau y mae’r archiad yn ymwneud â sylwadau sydd o fewn unrhyw ddisgrifiad yn adran 58(1) o Ddeddf 2024.
10 

(1) Rhaid i’r awdurdod archwilio arfer ei swyddogaeth o dan adran 42(1) o Ddeddf 2024 (dyfarniad o’r weithdrefn) cyn diwedd 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod olaf y cyfnod ar gyfer sylwadau, ond mae hyn yn ddarostyngedig i baragraff (2).
(2) Pan fo cais wedi ei amrywio o dan Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 i gynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir—
(a) mae rheoliad 22 o’r Rheoliadau hynny (cyfarfod ynghylch y weithdrefn archwilio) yn gymwys, a
(b) mae rheoliad 23 o’r Rheoliadau hynny yn gymwys o ran y dyddiad ar gyfer dyfarniad o’r weithdrefn.
11 

(1) Pan fo’r awdurdod archwilio wedi gwneud dyfarniad o’r weithdrefn, rhaid iddo lunio amserlen ar gyfer archwilio’r cais.
(2) Rhaid i’r amserlen a gaiff ei llunio o dan baragraff (1) nodi—
(a) y dyddiad erbyn pryd y caiff y ceisydd gyflwyno sylwadaeth ar unrhyw sylwadau ysgrifenedig cychwynnol sy’n berthnasol i archwilio’r cais,
(b) y pynciau y mae angen unrhyw sylwadau pellach arnynt,
(c) y personau (os oes rhai) sy’n cael eu gwahodd i gyflwyno sylwadau pellach ar unrhyw fater,
(d) pa rai o unrhyw sylwadau pellach sydd i’w gwneud yn ysgrifenedig, mewn gwrandawiad neu mewn ymchwiliad lleol,
(e) y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyflwyno unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach,
(f) y dyddiad erbyn pryd y caiff y ceisydd gyflwyno sylwadaeth ysgrifenedig ar unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach sy’n berthnasol i archwilio’r cais,
(g) y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i unrhyw berson sydd wedi gwneud archiad i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad llawr agored gadarnhau i’r awdurdod archwilio ei fod yn bwriadu bod yn bresennol yn y gwrandawiad llawr agored,
(h) y dyddiad erbyn pryd y mae’r awdurdod archwilio yn bwriadu adrodd o dan naill ai adran 52 o Ddeddf 2024 (adroddiad i Weinidogion Cymru) neu reoliad 31(2) (adroddiad penderfynu), a
(i) unrhyw ddyddiad arall y mae’r awdurdod archwilio yn ystyried ei fod yn briodol er mwyn rheoli’r archwiliad yn effeithlon.
(3) Caiff yr awdurdod archwilio amrywio’r amserlen ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar gais o dan Ran 5 o Ddeddf 2024, os yw’n ystyried bod hynny’n angenrheidiol neu’n briodol.
(4) Pan fo cais wedi ei amrywio o dan Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 i gynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i—
(a) rheoliad 24(1) o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 (gofynion ychwanegol ynghylch yr amserlen), a
(b) rheoliad 24(2) (gwahodd personau i gyflwyno sylwadau pellach).
12 

(1) Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r canlynol am unrhyw ddyfarniad o’r weithdrefn a’r amserlen neu amrywiad i amserlen—
(a) y ceisydd,
(b) yr awdurdod cynllunio, ac
(c) unrhyw berson arall sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau pellach.
(2) Caiff yr awdurdod archwilio hysbysu unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol am unrhyw ddyfarniad o’r weithdrefn a’r amserlen neu amrywiad i amserlen.
(3) Rhaid i’r awdurdod archwilio roi’r hysbysiad sy’n ofynnol gan y rheoliad hwn cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ac mewn unrhyw achos o fewn y cyfnod o 5 diwrnod gwaith, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl dyfarnu’r weithdrefn.
13 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod archwilio yn dyfarnu bod cais i’w archwilio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
(2) Yr awdurdod archwilio sydd i benderfynu pwy sydd i’w wahodd i gyflwyno sylwadau pellach mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, ond—
(a) rhaid iddo wahodd y ceisydd i wneud hynny;
(b) yn achos personau sydd wedi gwneud archiad am wrandawiad llawr agored, mae gan y personau hynny a’r ceisydd hawlogaeth i gyflwyno sylwadau yn y gwrandawiad hwnnw.
(3) Pan fo cais wedi ei amrywio i gynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, gweler hefyd reoliad 24(2) o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 (gwahodd personau i gyflwyno sylwadau pellach).
(4) Yr awdurdod archwilio sydd i benderfynu—
(a) lle a phryd i gynnal y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol;
(b) pa un ai i’w gynnal (neu gynnal unrhyw ran ohono) o bell.
(5) I’r graddau y cynhelir gwrandawiad neu ymchwiliad lleol heb fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o bell, rhaid i’r awdurdod archwilio roi sylw i ddymunoldeb ei gynnal mor agos â phosibl at leoliad y datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
(6) Rhaid i’r awdurdod archwilio ddechrau gwrandawiad neu ymchwiliad lleol heb fod yn hwyrach na 10 wythnos gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer sylwadau, oni bai—
(a) bod y ceisydd yn cytuno fel arall, neu
(b) bod paragraff (7) yn gymwys.
(7) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo unrhyw un neu ragor o’r canlynol wedi digwydd—
(a) mae Gweinidogion Cymru wedi derbyn amrywiad i’r cais o dan reoliad 31 o Reoliadau Ceisiadau 2025,
(b) mae’r awdurdod archwilio—
(i) wedi gwneud dyfarniad bod y cais i’w archwilio ar sail y cais ac unrhyw sylwadau ysgrifenedig, a
(ii) yn gwneud dyfarniad pellach o dan adran 42(5) o Ddeddf 2024,
(c) mae’r awdurdod archwilio wedi penderfynu na fydd y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol yn digwydd yn gyfan gwbl o bell ac na ellir sicrhau lleoliad addas ar ddyddiad i gydymffurfio â pharagraff (6), neu
(d) mae’r awdurdod archwilio wedi penderfynu bod angen sylwadau pellach o dan reoliad 19 cyn y gall y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol ddechrau, ac na ellir yn rhesymol eu darparu mewn pryd i gydymffurfio â pharagraff (6).
(8) Pan fo paragraff (7) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod archwilio ddechrau’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff(6).
(9) Rhaid i’r person penodedig roi o leiaf 6 wythnos o rybudd ysgrifenedig i’r canlynol o ddyddiad, amser cychwyn ac unrhyw leoliad ar gyfer y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol—
(a) y ceisydd,
(b) yr awdurdod cynllunio,
(c) unrhyw berson sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, a
(d) unrhyw berson arall y mae’r awdurdod archwilio yn ystyried ei fod yn briodol.
14 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod archwilio yn dyfarnu bod cais i’w archwilio mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
(2) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi mewn hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn ardal y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef—
(a) disgrifiad o’r cais,
(b) disgrifiad o leoliad y tir,
(c) dyddiad ac amser y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol,
(d) lleoliad y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol,
(e) manylion am unrhyw drefniadau ar gyfer darlledu’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol,
(f) y pynciau i’w harchwilio yn y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol,
(g) manylion lle yn yr ardal lle y gellir ar bob adeg resymol archwilio’r cais a’r sylwadau ysgrifenedig cychwynnol, ac
(h) cyfeiriad y wefan lle y gellir dod o hyd i’r cais a’r sylwadau ysgrifenedig cychwynnol.
(3) Rhaid i’r ceisydd gydymffurfio â pharagraff (2) heb fod yn hwyrach na 4 wythnos cyn diwrnod cyntaf y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol.
(4) Rhaid i’r ceisydd arddangos hysbysiad sy’n cynnwys yr wybodaeth ym mharagraff (2) mewn man amlwg ar neu ger y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, am o leiaf 4 wythnos cyn diwrnod cyntaf y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol.
(5) Os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad llinellol yng Nghymru sy’n fwy na 5km o hyd, rhaid arddangos yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) bob 5km ar y mwyaf oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny.
(6) Pan fo hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn cael ei symud ymaith, yn cael ei guddio neu yn cael ei ddifwyno cyn diwedd y cyfnod o 4 wythnos, a hynny heb fod bai ar y ceisydd, trinnir y ceisydd fel pe bai wedi cydymffurfio â’r paragraff hwnnw os yw wedi cymryd camau rhesymol i warchod yr hysbysiad, ac, os oes angen, i roi un arall yn ei le.
(7) Rhaid i’r ceisydd, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) anfon copi o’r hysbysiad a gyhoeddwyd o dan baragraff (2) i’r awdurdod archwilio, a
(b) cadarnhau i’r awdurdod archwilio ei fod wedi arddangos yr hysbysiad sy’n ofynnol gan baragraff (4) a darparu ffotograff o’r hysbysiad hwnnw wedi ei osod yn ei le.
(8) Os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad yn ardal forol Cymru, mae cyfeiriadau yn y rheoliad hwn at y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef i’w darllen fel cyfeiriadau at y tir yng Nghymru sydd agosaf at y datblygiad y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
15 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys os yw unrhyw berson sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau pellach mewn ymchwiliad yn cynnig rhoi, neu’n cynnig galw person arall i roi, tystiolaeth yn yr ymchwiliad.
(2) Gall yr awdurdod archwilio ei gwneud yn ofynnol i’r person lunio datganiad ysgrifenedig o’r dystiolaeth honno.
(3) Rhaid i’r person sy’n llunio’r datganiad ysgrifenedig ddarparu crynodeb o’r datganiad ysgrifenedig os yw’n fwy na 1,500 o eiriau.
(4) Ni chaiff y crynodeb y cyfeirir ato ym mharagraff (3) fod yn fwy na 1,500 o eiriau.
(5) Rhaid i’r person sy’n llunio’r datganiad ysgrifenedig anfon copi o’r datganiad ysgrifenedig ac unrhyw grynodeb i’r awdurdod archwilio erbyn y dyddiad a bennir yn yr amserlen.
(6) Rhaid i’r awdurdod archwilio, cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael y datganiad ysgrifenedig ac unrhyw grynodeb—
(a) anfon copi o’r dogfennau hynny at bob person sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau pellach yn yr ymchwiliad, a
(b) sicrhau bod copi o’r dogfennau hynny ar gael ar y wefan y cyfeirir ati yn rheoliad 16.
(7) Yn y rheoliad hwn, ystyr “datganiad ysgrifenedig” yw datganiad sy’n cael ei lunio yn unol â pharagraff (2).
16 
Rhaid i Weinidogion Cymru ddarparu gwefan lle y gellir dod o hyd i gopïau o’r cais a dogfennau eraill sy’n berthnasol i’r archwiliad.
17 

(1) Caiff yr awdurdod archwilio ddarparu cyngor i Weinidogion Cymru ar unrhyw archiad i amrywio cais a wneir o dan reoliad 31 o Reoliadau Ceisiadau 2025 neu o dan reoliad 16 o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025.
RHAN 4
18 

(1) Mae archwiliad yr awdurdod archwilio o’r cais i gynnwys ystyriaeth o unrhyw sylwadau ysgrifenedig cychwynnol.
(2) Rhaid i’r awdurdod archwilio sicrhau bod y ceisydd yn cael y cyfle i gyflwyno sylwadaeth ar unrhyw sylwadau ysgrifenedig cychwynnol sy’n berthnasol i archwilio’r cais.
19 

(1) Caiff yr awdurdod archwilio wneud archiad am sylwadau pellach yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg gan unrhyw barti a chanddo fuddiant.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy’n darparu sylwadau pellach yn ysgrifenedig o dan baragraff (1) eu darparu o fewn 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r awdurdod archwilio yn gwneud yr archiad.
(3) Caiff yr awdurdod archwilio estyn y terfyn amser ym mharagraff (2) mewn achos penodol.
(4) Ni chaiff unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach fod yn fwy na 3,000 o eiriau.
(5) Rhaid i’r awdurdod archwilio roi cyfle i’r ceisydd gyflwyno sylwadaeth ar unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach sy’n berthnasol i archwilio’r cais.
(6) Rhaid i’r awdurdod archwilio sicrhau bod copi o unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach ar gael ar y wefan y cyfeirir ati yn rheoliad16.
20 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod archwilio yn dyfarnu bod cais i’w archwilio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, mewn gwrandawiad.
(2) Yr awdurdod archwilio sydd i lywyddu yn y gwrandawiad a phenderfynu—
(a) sut i’w reoli;
(b) y pynciau sydd i’w trafod;
(c) yr amser a ddyrennir i’r pynciau hynny.
(3) Mae gwrandawiad i gymryd ffurf trafodaeth a arweinir gan yr awdurdod archwilio.
(4) Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r awdurdod archwilio—
(a) crynhoi’r pynciau y bydd y gwrandawiad yn eu harchwilio, a
(b) nodi unrhyw bynciau pellach y bydd y gwrandawiad yn eu harchwilio na chawsant eu nodi yn amserlen yr archwiliad.
(5) Caiff yr awdurdod archwilio holi person sy’n bresennol yn y gwrandawiad, ond ni chaiff person sy’n bresennol yn y gwrandawiad holi person arall sy’n bresennol yn y gwrandawiad ac eithrio pan fo paragraff (6) yn gymwys.
(6) Caiff yr awdurdod archwilio ganiatáu i berson sy’n cyflwyno sylwadau yn y gwrandawiad (“P”) holi person arall sy’n cyflwyno sylwadau yn y gwrandawiad os yw’r awdurdod archwilio yn ystyried bod hynny’n angenrheidiol er mwyn sicrhau—
(a) bod unrhyw sylw yn cael ei brofi’n ddigonol, neu
(b) bod gan P gyfle teg i wneud ei achos.
(7) Wrth gynnal y gwrandawiad, caiff yr awdurdod archwilio yn benodol—
(a) bwrw ymlaen â’r gwrandawiad yn absenoldeb person a gafodd ei wahodd i fod yn bresennol;
(b) gwrthod caniatáu sylwadau y mae’n ystyried eu bod yn amherthnasol neu’n ailadroddus;
(c) gwahardd person sy’n aflonyddu;
(d) gwrthod caniatáu i berson sydd wedi ei wahardd am aflonyddu ddychwelyd;
(e) caniatáu i berson sydd wedi ei wahardd am aflonyddu ddychwelyd, yn amodol ar amodau penodedig;
(f) gohirio’r gwrandawiad;
(g) gwahodd unrhyw berson sy’n cyflwyno sylwadau yn y gwrandawiad i gyflwyno cyflwyniadau cloi yn ysgrifenedig.
(8) Rhaid i berson sy’n cyflwyno cyflwyniadau cloi o dan baragraff (7)(g) eu rhoi i’r awdurdod archwilio o fewn 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod olaf y gwrandawiad.
(9) Os yw’r awdurdod archwilio yn gohirio gwrandawiad, rhaid iddo roi rhybudd rhesymol o ddyddiad, amser a lleoliad ailddechrau’r gwrandawiad gohiriedig, oni bai bod paragraff (10) yn gymwys.
(10) Os yw’r awdurdod archwilio yn gohirio gwrandawiad ac yn cyhoeddi yn y gwrandawiad ddyddiad, amser a lleoliad ailddechrau’r gwrandawiad gohiriedig, nid oes angen unrhyw rybudd pellach.
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyflwyniadau cloi” yw crynodeb o’r prif bwyntiau ffeithiol a’r prif ddadleuon a wnaed gan y person sy’n eu cyflwyno, mewn perthynas â chais.
21 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r awdurdod archwilio yn dyfarnu bod cais i’w archwilio, yn gyfan gwbl neu’n rhannol, mewn ymchwiliad lleol.
(2) Yr awdurdod archwilio sydd i lywyddu yn yr ymchwiliad lleol a phenderfynu—
(a) sut i’w reoli;
(b) y pynciau sydd i’w harchwilio yn yr ymchwiliad lleol;
(c) yr amser a ddyrennir i’r pynciau hynny.
(3) Ar ddechrau’r ymchwiliad lleol, rhaid i’r awdurdod archwilio—
(a) crynhoi’r pynciau y bydd yr ymchwiliad yn eu harchwilio, a
(b) nodi unrhyw bynciau pellach y bydd yr ymchwiliad yn eu harchwilio na chawsant eu nodi yn amserlen yr archwiliad.
(4) Yr awdurdod archwilio sydd i benderfynu ar y drefn y gelwir ar bersonau i roi tystiolaeth mewn ymchwiliad lleol.
(5) Caiff unrhyw berson sy’n cael ei wahodd i roi tystiolaeth mewn ymchwiliad lleol wneud archiad i’r awdurdod archwilio i alw ar drydydd parti i roi tystiolaeth.
(6) Mae gan berson sy’n cymryd rhan mewn ymchwiliad lleol hawlogaeth i groesholi person arall sy’n rhoi tystiolaeth lafar i’r ymchwiliad.
(7) Rhaid i’r awdurdod archwilio ganiatáu i berson sy’n cael ei groesholi mewn ymchwiliad lleol gael ei ailarchwilio.
(8) Wrth gynnal yr ymchwiliad lleol, caiff yr awdurdod archwilio yn benodol—
(a) bwrw ymlaen â’r ymchwiliad yn absenoldeb person a gafodd ei wahodd i fod yn bresennol;
(b) gwrthod caniatáu tystiolaeth y mae’n ystyried ei bod yn amherthnasol neu’n ailadroddus;
(c) gwahardd person sy’n aflonyddu;
(d) gwrthod caniatáu i berson sydd wedi ei wahardd am aflonyddu ddychwelyd;
(e) caniatáu i berson sydd wedi’i wahardd am aflonyddu ddychwelyd, yn amodol ar amodau penodedig;
(f) gohirio’r ymchwiliad;
(g) gofyn am gyflwyniadau cloi yn ysgrifenedig o fewn 7 niwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl diwrnod olaf yr ymchwiliad.
(9) Caiff unrhyw berson y mae’n ofynnol iddo adael ymchwiliad lleol gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r awdurdod archwilio cyn i’r ymchwiliad ddod i ben.
(10) Os yw’r awdurdod archwilio yn gohirio ymchwiliad lleol, rhaid iddo roi rhybudd rhesymol o ddyddiad, amser a lleoliad ailddechrau’r ymchwiliad lleol gohiriedig, oni bai bod paragraff (11) yn gymwys.
(11) Os yw’r awdurdod archwilio yn gohirio ymchwiliad lleol ac yn cyhoeddi yn yr ymchwiliad lleol hwnnw ddyddiad, amser a lleoliad ailddechrau’r ymchwiliad lleol gohiriedig, nid oes angen unrhyw rybudd pellach.
22 
Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu personau sy’n cael eu gwahodd i gymryd rhan mewn cyfarfod, neu i gyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, sy’n digwydd o bell, am y trefniadau i’w galluogi i wneud hynny, cyn gynted ag y bo hynny’n rhesymol ymarferol.
23 

(1) Caiff yr awdurdod archwilio drefnu i ddelweddau neu synau o wrandawiad neu ymchwiliad lleol gael eu darlledu, er mwyn galluogi personau nad ydynt yn cyflwyno sylwadau mewn gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, neu unrhyw ran ohono, i wylio’r trafodion neu wrando arnynt.
(2) Caiff y trefniadau a wneir o dan baragraff (1) gynnwys trefniadau ar gyfer darlledu na roddir mynediad atynt i unigolion onid ydynt wedi rhoi gwybod pwy ydynt i’r awdurdod archwilio yn gyntaf.
(3) Cyn gwneud penderfyniad o dan baragraff(1), rhaid i’r awdurdod archwilio ystyried—
(a) yr angen i drafodion fod yn agored ac yn dryloyw, cyn belled ag y bo modd,
(b) unrhyw archiadau i ddarlledu’r trafodion, ac
(c) i ba raddau y mae’r adnoddau technegol a dynol a’r adnoddau eraill sy’n angenrheidiol i hwyluso arsylwi yn effeithiol drwy ddarlledu ar gael neu y gallant fod ar gael.
(4) Rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r canlynol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw drefniadau i ddarlledu gwrandawiad neu ymchwiliad lleol—
(a) pob parti a chanddo fuddiant, a
(b) unrhyw berson arall y mae’n ystyried ei fod yn briodol.
(5) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 48 o Ddeddf 2024.
24 

(1) Caiff yr awdurdod archwilio drefnu i ddelweddau neu synau o wrandawiad neu ymchwiliad lleol gael eu recordio, er mwyn galluogi personau i wylio neu wrando ar y trafodion yn ddiweddarach.
(2) Caiff unrhyw berson wneud archiad am fynediad gan yr awdurdod archwilio at unrhyw recordiad a wneir o dan baragraff (1) ar unrhyw adeg cyn diwedd 6 mis sy’n dechrau—
(a) yn achos rhoi cydsyniad seilwaith, â’r dyddiad y gwneir y gorchymyn cydsyniad seilwaith, neu
(b) yn achos gwrthod cydsyniad seilwaith, â’r dyddiad y rhoddir hysbysiad y gwrthodir gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith i’r ceisydd o dan adran 60(2) o Ddeddf 2024.
(3) Rhaid i awdurdod archwilio ddarparu mynediad at unrhyw recordiad ar delerau rhesymol ac o fewn amser rhesymol i unrhyw archiad o dan baragraff(2).
(4) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 48 o Ddeddf 2024.
25 

(1) Rhaid i’r awdurdod archwilio, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu pob person sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau pellach am enw—
(a) unrhyw asesydd a benodir i’w gynorthwyo o dan adran 50 o Ddeddf 2024, a
(b) unrhyw fargyfreithiwr neu gyfreithiwr a benodir i’w gynorthwyo o dan adran 51 o Ddeddf 2024.
(2) Rhaid i’r awdurdod archwilio, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu pob person sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau pellach am y materion y mae unrhyw asesydd wedi ei benodi i gynorthwyo mewn perthynas â hwy.
26 

(1) Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch—
(a) cyfarwyddydau o dan adran 48(2) o Ddeddf 2024 sy’n cyfyngu ar fynediad at dystiolaeth mewn ymchwiliad, a
(b) swyddogaethau person a benodir o dan adran 48(4) neu (5) o Ddeddf 2024.
(2) Mewn perthynas â thystiolaeth a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 48(2) o Ddeddf 2024, mae cyfeiriadau yn y Rheoliadau hyn at y person a gynrychiolir, pa un ai fel y “ceisydd” neu fel “parti a chanddo fuddiant”, i’w darllen fel rhai sy’n cynnwys cyfeiriadau at gynrychiolydd a benodir o dan adran 48(4) neu (5) o Ddeddf 2024.
27 

(1) Caiff yr awdurdod archwilio gynnal cyfarfod ar unrhyw adeg cyn y penderfynir ar gais, os yw’n ystyried bod hynny’n briodol.
(2) Diben cyfarfod rheoli archwiliad yw galluogi’r awdurdod archwilio i benderfynu—
(a) beth y gellir ei wneud i sicrhau bod yr archwiliad a materion paratoadol neu ddilynol sy’n ymwneud ag ef yn cael eu rheoli’n effeithlon ac yn hwylus, a
(b) pa drefniadau ymarferol i’w gwneud mewn perthynas â’r archwiliad a materion paratoadol neu ddilynol sy’n ymwneud ag ef.
(3) Yr awdurdod archwilio sydd i lywyddu mewn cyfarfod rheoli archwiliad a phenderfynu—
(a) lle a phryd i gynnal y cyfarfod,
(b) pa un ai i gynnal y cyfarfod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o bell,
(c) sut i reoli’r cyfarfod,
(d) y materion sydd i’w trafod, ac
(e) yr amser a ddyrennir i’r materion hynny.
(4) Yr awdurdod archwilio sydd i benderfynu pwy i’w wahodd i unrhyw gyfarfod rheoli archwiliad, ond rhaid iddo wahodd y ceisydd.
(5) Rhaid i’r awdurdod archwilio roi rhybudd rhesymol o ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod rheoli archwiliad i bob person sy’n cael ei wahodd i’r cyfarfod.
(6) Rhaid i’r hysbysiad o’r cyfarfod rheoli archwiliad nodi dibenion y cyfarfod ac unrhyw fater y mae’r awdurdod archwilio yn dymuno ei drafod.
(7) Os yw person sy’n cael ei wahodd i’r cyfarfod rheoli archwilio, neu ei gynrychiolydd, yn methu neu’n amharod i fod yn bresennol, neu nad yw’n bresennol fel arall, caiff y cyfarfod fynd yn ei flaen.
(8) Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y cyfarfod rheoli archwiliad, rhaid i’r awdurdod archwilio lunio nodyn o’r cyfarfod a’i roi i’r bobl a gafodd eu gwahodd i fod yn bresennol.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfarfod rheoli archwiliad” yw cyfarfod a gynhelir yn unol â pharagraff (1).
28 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’r ceisydd yn cynnig gwneud archiad am amrywiad i’w gais, ac eithrio—
(a) pan fydd Rhan 4 o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 yn gymwys, neu
(b) pan fydd rheoliad 31 o Reoliadau Ceisiadau 2025 yn gymwys.
(2) Rhaid i’r ceisydd roi cymaint o hysbysiad ag sy’n rhesymol ymarferol i’r awdurdod archwilio am unrhyw fwriad i gyflwyno archiad am amrywiad, ond ni chaiff roi hysbysiad o’r fath cyn diwrnod cyntaf gwrandawiad neu ymchwiliad lleol.
(3) Rhaid i hysbysiad o fwriad i gyflwyno archiad am amrywiad—
(a) bod yn ysgrifenedig,
(b) disgrifio’r amrywiad arfaethedig, mewn digon o fanylder i alluogi’r awdurdod archwilio i ddeall ei raddfa a’i effaith,
(c) cynnwys rhesymau—
(i) dros yr amrywiad,
(ii) pam na chynhwyswyd effaith yr amrywiad yn y cais fel y’i gwnaed, a
(iii) pam na fu modd gwneud yr archiad am amrywiad yn gynharach, a
(d) nodi sut, ym marn y ceisydd, y gallai’r archiad am amrywiad gael ei archwilio’n briodol o fewn yr amser ar gyfer penderfynu ar y cais yn unol ag adran 59 o Ddeddf 2024.
(4) Caiff yr awdurdod archwilio ddarparu cyngor i’r ceisydd ynghylch yr hysbysiad o archiad am amrywiad.
(5) Rhaid i’r awdurdod archwilio drefnu i gyhoeddi unrhyw gyngor a ddarperir o dan baragraff (4) ar y wefan y cyfeirir ati yn rheoliad16.
(6) Caiff yr awdurdod archwilio drin yr hysbysiad o archiad am amrywiad fel archiad am amrywiad os yw’n ymddangos iddo fod ganddo ddeunyddiau digonol o’i flaen i wneud argymhelliad ynghylch rhinweddau’r archiad.
(7) Rhaid i archiad am amrywiad—
(a) bod yn ysgrifenedig,
(b) cynnwys rhestr o ddiwygiadau y cynigir eu gwneud i’r cais,
(c) disgrifio—
(i) y cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a gynhaliwyd mewn perthynas â’r amrywiad arfaethedig,
(ii) unrhyw ymatebion i’r cyhoeddusrwydd a’r ymgynghori a sut y mae’r ceisydd wedi rhoi sylw iddynt, a
(iii) unrhyw newid i’r wybodaeth a ddarparwyd yn yr hysbysiad o archiad am amrywiad.
(8) Wrth benderfynu pa un ai i dderbyn ac archwilio archiad am amrywiad, rhaid i’r awdurdod archwilio roi sylw yn benodol i—
(a) dymunoldeb rheoli’r archwiliad yn effeithlon ac yn effeithiol, a
(b) yr amser ar gyfer penderfynu ar y cais yn unol ag adran 59 o Ddeddf 2024.
(9) Caiff yr awdurdod archwilio wrthod ystyried archiad am amrywiad os yw’r awdurdod neu Weinidogion Cymru wedi gwrthod archiad tebyg ac nad oes yn ei farn ef unrhyw newid sylweddol i’r archiad hwnnw, nac unrhyw newid sylweddol sy’n effeithio arno, wedi bod.
(10) Cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo dderbyn archiad am amrywiad, rhaid i’r awdurdod archwilio roi’r cyfle i unrhyw bersonau y mae’n ystyried eu bod yn briodol i gyflwyno sylwadau pellach ynghylch yr amrywiad.
(11) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “archiad am amrywiad” yw archiad fel y’i disgrifir ym mharagraff(11);
(b) ystyr “hysbysiad o archiad am amrywiad” yw hysbysiad fel y’i disgrifir ym mharagraff (3).
RHAN 5
29 
Pan fo asesydd wedi ei benodi o dan adran 50 o Ddeddf 2024, rhaid i’r asesydd gyflwyno adroddiad ysgrifenedig i’r awdurdod archwilio ar y materion y cafodd ei benodi mewn cysylltiad â hwy i gynorthwyo’r awdurdod archwilio.
30 

(1) Caiff yr awdurdod archwilio lunio adroddiad o dan adran 52(2) o Ddeddf 2024 gan ddiystyru unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach ac unrhyw ddogfennau ategol pellach a gyflwynwyd ar ôl y terfyn amser o dan reoliad 19.
(2) Caiff yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd) symud ymlaen i benderfyniad gan ddiystyru’r sylwadau ysgrifenedig pellach a’r dogfennau ategol pellach a gyflwynwyd ar ôl y terfyn amser o dan reoliad 19.
(3) Caiff yr awdurdod archwilio, ar ôl rhoi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio o’i fwriad i wneud hynny, gyflwyno adroddiad o dan adran 52 o Ddeddf 2024, er na chyflwynwyd unrhyw sylwadau ysgrifenedig pellach o fewn y terfyn amser o dan reoliad 19, os yw’n ymddangos iddo fod ganddo ddigon o ddeunydd o’i flaen i wneud argymhelliad ar rinweddau’r cais.
(4) Caiff yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru (yn ôl y digwydd), ar ôl rhoi hysbysiad i’r ceisydd a’r awdurdod cynllunio o’u bwriad i wneud hynny, symud ymlaen i benderfyniad er na chyflwynwyd sylwadau ysgrifenedig pellach o fewn y terfyn amser o dan reoliad 19, os yw’n ymddangos iddynt fod ganddynt ddigon o ddeunydd o’u blaen i wneud argymhelliad ar rinweddau’r cais.
31 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys ar ôl i archwiliad gael ei gwblhau, pan fo’r awdurdod archwilio i benderfynu ar gais.
(2) Rhaid i’r awdurdod archwilio ysgrifennu adroddiad.
(3) Rhaid i’r adroddiad—
(a) datgan a yw’r awdurdod archwilio yn anghytuno ag unrhyw agwedd ar adroddiad yr asesydd a’r rheswm dros unrhyw anghytundeb,
(b) cynnwys canfyddiadau a chasgliadau’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r cais, ac
(c) cynnwys penderfyniad yr awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r cais.
(4) Caiff yr awdurdod archwilio ddiystyru unrhyw sylwadau sy’n dod i law ar ôl y dyddiad ar gyfer gwneud y sylwadau hynny.
(5) Os yw’r awdurdod archwilio yn cynnig ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu ffaith newydd cyn gwneud penderfyniad ar y cais, rhaid i’r awdurdod archwilio roi hysbysiad i’r holl bartïon a chanddynt fuddiant o’r cynnig a’i resymau drosto.
(6) Pan fo’r archwiliad wedi digwydd yn llwyr ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, rhaid i’r awdurdod archwilio roi cyfle i bob parti a chanddo fuddiant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y dystiolaeth newydd honno neu’r ffaith newydd honno erbyn dyddiad penodedig.
(7) Pan fo unrhyw ran o’r archwiliad wedi digwydd drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r partïon a chanddynt fuddiant —
(a) y gall ei gwneud yn ofynnol i’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol gael ei ailagor i archwilio’r dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd, a
(b) o’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r partïon a chanddynt fuddiant hysbysu’r awdurdod archwilio o unrhyw archiad i ailagor yr archwiliad i archwilio’r dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd.
(8) Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan baragraff (6) neu (7)(b) fod o leiaf—
(a) 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad AEA;
(b) 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, mewn unrhyw achos arall.
(9) Mewn perthynas â’r awdurdod archwilio—
(a) rhaid iddo ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol i archwilio’r dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd os yw parti a chanddo fuddiant yn gwneud archiad am hynny o dan baragraff (7), neu
(b) fel arall caiff, os yw’n ystyried ei bod yn briodol, ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol i archwilio’r dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd.
(10) Pan fo’r awdurdod archwilio yn ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid iddo anfon at y partïon a chanddynt fuddiant cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach mewn cysylltiad â hwy.
(11) Rhaid i’r awdurdod archwilio ddarparu’r datganiad ysgrifenedig ym mharagraff (10) o leiaf—
(a) 28 o ddiwrnodau cyn diwrnod cyntaf unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad lleol a gaiff ei ailagor, os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad AEA;
(b) 21 o ddiwrnodau cyn diwrnod cyntaf unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad lleol a gaiff ei ailagor, mewn unrhyw achos arall.
32 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys ar ôl i archwiliad gael ei gwblhau, pan fo Gweinidogion Cymru i benderfynu ar gais.
(2) Yn ogystal â’r gofynion yn adran 52 o Ddeddf 2024, rhaid i adroddiad yr awdurdod archwilio i Weinidogion Cymru ddatgan a yw’r awdurdod archwilio yn anghytuno ag unrhyw agwedd ar adroddiad yr asesydd a’r rheswm dros unrhyw anghytundeb.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru—
(a) yn anghytuno â’r awdurdod archwilio ar unrhyw fater o ffaith a grybwyllwyd mewn casgliad gan yr awdurdod archwilio, neu yr ymddengys i Weinidogion Cymru ei fod yn berthnasol iddo, neu
(b) yn cynnig ystyried unrhyw dystiolaeth newydd neu fater o ffaith newydd.
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ddod i benderfyniad sy’n groes i argymhelliad yr awdurdod archwilio, heb gymryd y camau a nodir ym mharagraffau (5) i (7) yn gyntaf.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu pob parti a chanddo fuddiant—
(a) am y gwahaniaeth yn eu barn hwy a’u rhesymau drosto, neu
(b) am y dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd.
(6) Pan fo’r archwiliad wedi digwydd yn gyfan gwbl ar ffurf sylwadau ysgrifenedig, rhaid i’r awdurdod archwilio roi cyfle i bob parti a chanddo fuddiant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ar y gwahaniaeth hwnnw, y dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd erbyn dyddiad penodedig.
(7) Pan fo unrhyw ran o’r archwiliad wedi digwydd drwy wrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r partïon a chanddynt fuddiant—
(a) y gall ei gwneud yn ofynnol i’r gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol gael ei ailagor i archwilio’r gwahaniaeth, y dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd, a
(b) o’r dyddiad erbyn pryd y mae rhaid i’r partïon a chanddynt fuddiant hysbysu’r awdurdod archwilio am unrhyw archiad i ailagor yr archwiliad i archwilio’r gwahaniaeth, y dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd.
(8) Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan baragraff (6) neu (7)(b) fod o leiaf—
(a) 28 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad AEA;
(b) 21 o ddiwrnodau o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, mewn unrhyw achos arall.
(9) Mewn perthynas â’r awdurdod archwilio—
(a) rhaid iddo ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol i archwilio’r gwahaniaeth, y dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd os yw parti a chanddo fuddiant yn gwneud archiad am hynny o dan baragraff(7), neu
(b) fel arall caiff, os yw’n ystyried ei bod yn briodol, ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol i archwilio’r gwahaniaeth, y dystiolaeth newydd neu’r ffaith newydd.
(10) Pan fo’r awdurdod archwilio yn ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol, rhaid iddo anfon at y partïon a chanddynt fuddiant cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn cysylltiad â hwy.
(11) Rhaid i’r awdurdod archwilio ddarparu’r datganiad ysgrifenedig ym mharagraff (10) o leiaf—
(a) 28 o ddiwrnodau cyn diwrnod cyntaf unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad lleol a gaiff ei ailagor, os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad AEA;
(b) 21 o ddiwrnodau cyn diwrnod cyntaf unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad lleol a gaiff ei ailagor, mewn unrhyw achos arall.
33 
Pan fo’r awdurdod archwilio yn ailagor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol yn unol â chyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru o dan adran 53(1) o Ddeddf 2024, rhaid iddo anfon at y partïon a chanddynt fuddiant cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ddatganiad ysgrifenedig o’r materion y gwahoddir tystiolaeth bellach mewn cysylltiad â hwy.
34 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn cynnig gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith—
(a) ar delerau sydd yn eu barn hwy yn sylweddol wahanol i’r rhai a gynigiwyd yn y cais, a
(b) sydd o ganlyniad i hysbysiad o dan adran 60(3)(a) ai peidio.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) hysbysu unrhyw berson y mae’n ymddangos iddynt hwy ei bod yn debygol yr effeithir arno,
(b) rhoi cyfle i’r person hwnnw gyflwyno sylwadau iddynt am y gwahaniaethau o fewn amser a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, ac
(c) ystyried y sylwadau a wneir yn ystod yr amser a bennir yn yr hysbysiad hwnnw, cyn gwneud penderfyniad ar y gorchymyn cydsyniad seilwaith.
35 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau ar gais am ddatblygiad yng Nghymru.
(2) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 60(2) o Ddeddf 2024, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 am eu penderfyniad naill ai i wneud gorchymyn cydsyniad seilwaith neu i wrthod cydsyniad seilwaith.
(3) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 60(4) o Ddeddf 2024, rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 2 am eu penderfyniad naill ai bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i gael ei wneud neu i wrthod cydsyniad seilwaith.
(4) Pan fo cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, gweler hefyd reoliad 26(2) o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 am ofynion ychwanegol ynghylch hysbysiad o benderfyniadau.
36 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â phenderfyniadau ar gais am ddatblygiad yn ardal forol Cymru.
(2) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 60(2) o Ddeddf 2024, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 am eu penderfyniad naill ai i wneud gorchymyn cydsyniad seilwaith neu i wrthod cydsyniad seilwaith.
(3) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 60(4) o Ddeddf 2024, rhaid i’r awdurdod archwilio hysbysu’r personau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 2 am eu penderfyniad naill ai bod gorchymyn cydsyniad seilwaith i gael ei wneud neu i wrthod cydsyniad seilwaith.
(4) Pan fo cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, gweler hefyd reoliad 26(3) o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 am ofynion ychwanegol ynghylch hysbysiad o benderfyniadau.
37 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddatganiad a lunnir o dan adran 62(1) neu (2) o Ddeddf 2024 mewn perthynas â phenderfyniad ar gais o ran Cymru.
(2) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 62(3) o Ddeddf 2024, rhaid i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio (yn ôl y digwydd) ddarparu copi o’r datganiad i’r personau a restrir ym mharagraff 1 o Atodlen 2.
(3) Pan fo cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, gweler hefyd reoliad 27(2) o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 am ofynion ychwanegol ynghylch hysbysiad o’r rhesymau dros benderfyniadau.
38 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddatganiad a lunnir o dan adran 62(1) neu (2) o Ddeddf 2024 mewn perthynas â phenderfyniad ar gais mewn perthynas ag ardal forol Cymru.
(2) Yn ogystal â’r personau a restrir yn adran 62(3) o Ddeddf 2024, rhaid i Weinidogion Cymru neu’r awdurdod archwilio (yn ôl y digwydd) ddarparu copi o’r datganiad i’r personau a restrir ym mharagraff 2 o Atodlen 2.
(3) Pan fo cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael yn orfodol dir, neu fuddiant mewn tir neu hawl dros dir, gweler hefyd reoliad 27(2) o Reoliadau Caffael Gorfodol 2025 am ofynion ychwanegol ynghylch hysbysiad o’r rhesymau dros benderfyniadau.
39 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo penderfyniad yr awdurdod archwilio neu Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â chais yn cael ei ddileu gan unrhyw lys.
(2) Rhaid i’r awdurdod archwilio—
(a) anfon datganiad ysgrifenedig at yr holl bartïon a chanddynt fuddiant o’r materion y gwahoddir sylwadau pellach mewn perthynas â hwy at ddibenion ei ailystyriaeth o’r penderfyniad, a
(b) rhoi cyfle i’r partïon a chanddynt fuddiant gyflwyno sylwadau i’r awdurdod archwilio mewn cysylltiad â’r materion hynny.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy’n cael ei wahodd i gyflwyno sylwadau o dan y rheoliad hwn eu cyflwyno cyn diwedd y cyfnod o—
(a) 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r datganiad ysgrifenedig gael ei roi i’r parti a chanddo fuddiant, os yw’r cais yn ymwneud â datblygiad AEA;
(b) 21 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r datganiad ysgrifenedig gael ei roi i’r parti a chanddo fuddiant.
(4) Caiff yr awdurdod archwilio estyn y cyfnod a bennir ym mharagraff (3) mewn achos penodol.
(5) Caiff yr awdurdod archwilio, os yw’n ystyried ei bod yn briodol—
(a) ailagor y gwrandawiad neu’r ymchwiliad lleol,
(b) agor gwrandawiad neu ymchwiliad lleol newydd, neu
(c) archwilio’r mater ar sail sylwadau ysgrifenedig.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
14 Mehefin 2025
ATODLEN 1
Rheoliad 26
1 
Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
2 
Yn rheoliad 2—
(a) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;”;
(b) ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “cynrychiolydd penodedig”, ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
 ; neu
(d) adran 48(4) neu (5) o Ddeddf 2024;”;
(c) ym mharagraff (1), yn y diffiniad o “cyfarwyddyd”, ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
 ; neu
(d) adran 48(2) o Ddeddf 2024;”;
(d) ar ôl paragraff (8) mewnosoder—“
(9) Mewn perthynas â rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill o dan adran 48 o Ddeddf 2024, gweler hefyd adran 136 o’r Ddeddf honno.”
3 
Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
 ; neu
(d) adran 48(2) o Ddeddf 2024;”;
(b) ym mharagraff (3), mewnosoder—“
(i) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
 ; neu
(d) adran 48(4) neu (5) o Ddeddf 2024;””.
4 
Yn rheoliad 4(2)(a), ar ôl paragraff (iii) mewnosoder—“
 ; neu
(iv) adran 48(4) neu (5) o Ddeddf 2024,”.
5 
Yn rheoliad 6(8), yn y diffiniad o “datblygiad mawr”, o flaen is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) prosiect seilwaith arwyddocaol at ddibenion adran 1 o Ddeddf 2024;”.
ATODLEN 2
Rheoliadau 35, 36, 37 a 38
1 
Y personau y mae rhaid rhoi hysbysiad iddynt mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n effeithio ar Gymru yw—
(a) pob—
(i) perchennog, lesddeiliad, tenant (beth bynnag y bo cyfnod y denantiaeth) neu feddiannwr y tir;
(ii) person a chanddo fuddiant yn y tir;
(iii) person sydd â phŵer—(aa) i werthu neu i drawsgludo’r tir, neu(bb) i ryddhau’r tir,
(b) unrhyw berson ac eithrio un a restrir yn is-baragraff (a) a allai fod â hawlogaeth i wneud hawliad perthnasol,
(c) pob perchennog neu feddiannydd cydffiniol ar y tir y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef,
(d) pob awdurdod cynllunio ac eithrio un a grybwyllir yn adran 60(2)(b) neu (4)(b) (yn ôl y digwydd) y mae’r person sy’n hysbysu yn ystyried ei fod yn briodol,
(e) pob cyngor cymuned ac eithrio un a grybwyllir yn adran 60(2)(b) neu (4)(b) (yn ôl y digwydd) a gyflwynodd sylwadau ar y cais y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau,
(f) pob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli ardal y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn effeithio arni,
(g) pob Aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n cynrychioli ardal y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn effeithio arni, ac
(h) unrhyw berson arall y mae’r person sy’n hysbysu yn ystyried ei fod yn briodol.
2 
Y personau y mae rhaid rhoi hysbysiad iddynt mewn perthynas â gorchymyn cydsyniad seilwaith sy’n effeithio ar ardal forol Cymru yw—
(a) pob awdurdod cynllunio ac eithrio un a grybwyllir yn adran 60(2)(b) neu (4)(b) (yn ôl y digwydd) y mae’r person sy’n hysbysu yn ystyried ei fod yn briodol,
(b) pob cyngor cymuned ac eithrio un a grybwyllir yn adran 60(2)(b) neu (4)(b) (yn ôl y digwydd) a gyflwynodd sylwadau ar y cais y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, yn ystod y cyfnod ar gyfer sylwadau,
(c) pob Aelod o’r Senedd y mae’r person sy’n hysbysu yn ystyried ei fod yn briodol,
(d) pob Aelod o Dŷ’r Cyffredin y mae’r person sy’n hysbysu yn ystyried ei fod yn briodol, ac
(e) unrhyw berson arall y mae’r person sy’n hysbysu yn ystyried ei fod yn briodol.
3 
Yn yr Atodlen hon—
 ystyr “hawliad perthnasol” (“relevant claim”) yw hawliad o dan—
(a) adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965,
(b) Rhan 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973, neu
(c) adran 101 o Ddeddf 2024;ystyr “y tir” (“the land”) yw—
(a) y tir y mae’r gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ymwneud ag ef, neu
(b) unrhyw ran o’r tir hwnnw.