
RHAN 1
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025, a deuant i rym ar 15 Rhagfyr 2025.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “ardal forol Cymru” (“Welsh marine area”) yw’r môr sy’n gyfagos i Gymru hyd at derfyn atfor y môr tiriogaethol, ac mae’r cwestiwn ynghylch pa rannau o’r môr sy’n gyfagos i Gymru i’w benderfynu yn unol ag erthygl 6 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999;
 ystyr “awdurdod archwilio” (“examining authority”) yw person neu banel o bersonau a benodir o dan adran 40 o Ddeddf 2024 mewn cysylltiad â chais penodol;
 ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw’r awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “local planning authority” gan Ran 1 o DCGTh 1990 ar gyfer ardal yng Nghymru;
 mae i “awdurdod priodol y Goron” (“appropriate Crown authority”) yr ystyr a roddir yn adran 134(5) o Ddeddf 2024;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais am gydsyniad seilwaith a wneir o dan adran 32 o Ddeddf 2024;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n cynnig gwneud cais, neu sydd wedi gwneud cais am gydsyniad seilwaith;
 ystyr “cydsyniad” (“consent”) at ddiben cydsyniad tybiedig a chydsyniad a ddiddymwyd yw—
(a) cydsyniad neu awdurdodiad y mae’n ofynnol, o dan ddeddfiad, ei gael ar gyfer datblygiad,
(b) cydsyniad neu awdurdodiad—
(i) a gaiff awdurdodi datblygiad, a
(ii) a roddir o dan ddeddfiad, neu
(c) hysbysiad y mae’n ofynnol gan ddeddfiad ei roi mewn perthynas â datblygiad;
 ystyr “cydsyniad a ddiddymwyd” (“extinguished consent”) yw cydsyniad pan y’i cynigir y bydd y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn dileu’r gofyniad i’r cydsyniad gael ei roi yn unol ag adran 84(1)(a) o Ddeddf 2024;
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw’r cydsyniad sy’n ofynnol gan adran 19 o Ddeddf 2024;
 ystyr “cydsyniad tybiedig” (“deemed consent”) yw cydsyniad y cynigir y bydd y gorchymyn cydsyniad seilwaith yn tybio ei fod wedi ei roi yn unol ag adran 84(1)(b) o Ddeddf 2024;
 ystyr “cyfarwyddyd sgrinio” (“screening direction”) yw cyfarwyddyd a wneir gan Weinidogion Cymru ynghylch pa un a yw datblygiad yn ddatblygiad AEA;
 ystyr “cyfesurynnau” (“co-ordinates”) yw—
(a) cyfesurynnau lledred a hydred ar System Geodetig y Byd 1984, neu
(b) cyfesurynnau ar y Grid Cenedlaethol a ddefnyddir gan yr Arolwg Ordnans;
 ystyr “Cymru” (“Wales”) yw ardal gyfunol y siroedd a’r bwrdeistrefi sirol yng Nghymru (gweler Rhannau 1 a 2 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Leol 1972);
 mae i “datblygiad” (“development”) yr ystyr a roddir yn adran 133 o Ddeddf 2024;
 ystyr “datblygiad AEA” (“EIA development”) yw gweithgarwch—
(a) sy’n “datblygiad AEA” fel y’i diffinnir yn rheoliad 2 o Reoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017, neu
(b) sy’n gofyn am asesiad o’r effaith amgylcheddol yn unol â rheoliad 2A neu Ran 2 o Reoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007;
 mae i “datganiad amgylcheddol” (“environmental statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA Cynllunio yn achos datblygiad yng Nghymru a rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau Morol yn achos datblygiad yn ardal forol Cymru;
 ystyr “DCGTh 1990” (“TCPA 1990”) yw Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;
 ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn sydd wedi ei wneud o dan Ddeddf 2024 sy’n rhoi cydsyniad seilwaith;
 mae “gwasanaethau cyn gwneud cais” (“pre-application services”) i’w ddehongli yn unol ag adran 27(2) o Ddeddf 2024;
 mae i “gweithgaredd a reoleiddir” yr ystyr a roddir i “regulated activity” yn rheoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA Morol;
 ystyr “hawliad perthnasol” (“relevant claim”) yw—
(a) hawliad o dan adran 10 o Ddeddf Prynu Gorfodol 1965 (digollediad pan na wneir iawn am brynu tir yn orfodol neu pan na wneir iawn am effaith niweidiol sy’n deillio o brynu gorfodol);
(b) hawliad o dan Ran 1 o Ddeddf Digollediad Tir 1973 (digollediad am ddibrisiant yng ngwerth tir gan ffactorau ffisegol a achosir gan ddefnydd o waith cyhoeddus);
(c) hawliad o dan adran 101(3) o Ddeddf 2024;
 ystyr “hysbysiad o gais arfaethedig” (“notice of proposed application”) yw hysbysiad a roddir gan geisydd yn unol ag adran 29(1) o Ddeddf 2024;
 ystyr “hysbysiad o gais dilys” (“notice of a valid application”) yw hysbysiad o dan adran 34(2) o Ddeddf 2024;
 ystyr “hysbysiad derbyn” (“notice of acceptance”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 29(4) o Ddeddf 2024 fod yr hysbysiad wedi ei dderbyn;
 mae i “prosiect seilwaith arwyddocaol” (“significant infrastructure project”) yr ystyr a roddir gan Ran 1 o Ddeddf 2024;
 ystyr “y Rheoliadau AEA” (“the EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 a Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007;
 ystyr “y Rheoliadau AEA Cynllunio” (“the Planning EIA Regulations”) yw Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017;
 ystyr “y Rheoliadau AEA Morol” (“the Marine EIA Regulations”) yw Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2007;
 mae “tir” (“land”) yn cynnwys adeiladau, henebion a thir sydd wedi ei orchuddio â dyfroedd (gan gynnwys gwely’r môr); ac mewn perthynas â Rhan 6 o Ddeddf 2024 (gorchmynion cydsyniad seilwaith) rhaid ei ddarllen yn unol ag adran 102 o’r Ddeddf honno;
 mae i “tir y Goron” (“Crown land”) yr ystyr a roddir yn adran 134(2) o Ddeddf 2024;
 mae i “ymgynghorai arbenigol” (“specialist consultee”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2)(b);
 mae i “ymgynghorai statudol” (“statutory consultee”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(2)(a);
(2) Gweler adran 136 o Ddeddf 2024 mewn perthynas â darpariaeth yn y Rheoliadau hyn sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson neu sy’n awdurdodi person i—
(a) hysbysu person arall am rywbeth, neu
(b) rhoi dogfen i berson arall (pa un a yw’r ddarpariaeth yn defnyddio’r gair “cyflwyno”, “rhoi” neu derm arall).
RHAN 2
3 

(1) Rhaid i’r hysbysiad o gais arfaethedig gynnwys—
(a) y ffurflen a gyhoeddir ar wefan a gynhelir gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan neu ffurflen sydd ag effaith sylweddol debyg,
(b) y manylion a bennir yn y ffurflen neu y cyfeirir atynt yn y ffurflen,
(c) ar gyfer datblygiad yng Nghymru, plan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd neu, ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
(d) naill ai—
(i) datganiad yn cadarnhau y darperir datganiad amgylcheddol, neu
(ii) cyfarwyddyd sgrinio, ac
(e) manylion personau eraill y mae’r ffurflen cyn gwneud cais a gwybodaeth ategol arall wedi eu hanfon atynt.
(2) Yn ogystal â’r personau a bennir yn adran 29(1) o Ddeddf 2024, rhaid anfon yr hysbysiad o gais arfaethedig at—
(a) y person yn nhrydedd golofn y tabl yn yr Atodlen, pan fo’r cais yn ymwneud â’r categori o ddatblygiad a restrir yn ail golofn y tabl hwnnw (“ymgynghorai statudol”), a
(b) y person ym mhedwaredd golofn y tabl yn yr Atodlen, pan fo’r cais yn ymwneud â’r categori o ddatblygiad a restrir yn ail golofn y tabl hwnnw (“ymgynghorai arbenigol”).
(3) Rhaid i’r hysbysiad o gais arfaethedig gynnwys unrhyw ffi y mae’n ofynnol ei thalu mewn perthynas â rhoi hysbysiad o’r fath.
(4) Rhaid i’r ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (1)(a) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd,
(b) lleoliad y datblygiad arfaethedig drwy gyfeirio at gyfeiriad safle neu gyfesurynnau, ac
(c) disgrifiad annhechnegol o’r datblygiad arfaethedig.
4 
Pan dderbynnir hysbysiad o gais arfaethedig, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad derbyn o fewn 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau drannoeth y diwrnod y daw’r cais arfaethedig i law Gweinidogion Cymru i—
(a) yr ymgyngoreion statudol a’r ymgyngoreion arbenigol perthnasol;
(b) unrhyw berson neu bersonau a hysbysir o dan adran 29(1)(a) i (g) o Ddeddf 2024;
(c) unrhyw berson neu bersonau a nodir gan y ceisydd yn unol â rheoliad 3(1)(e).
RHAN 3
5 
Rhaid i geisydd gydymffurfio â gofynion y Rhan hon cyn cyflwyno cais.
6 

(1) Rhaid i’r ceisydd gyhoeddi a chynnal gwybodaeth am y datblygiad arfaethedig ar wefan o fewn 3 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl cael yr hysbysiad derbyn gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar y wefan hyd nes y gwneir cais—
(a) y ffurflen gais ddrafft,
(b) copi o’r hysbysiad o gais arfaethedig,
(c) manylion drafft budd cymunedol y cynllun,
(d) disgrifiad annhechnegol o’r datblygiad arfaethedig,
(e) ar gyfer datblygiad yng Nghymru, plan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir sy’n dangos cyfeiriad y gogledd neu, ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, gyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef,
(f) disgrifiadau annhechnegol o unrhyw ddogfennau, planiau, lluniadau a gwybodaeth sy’n ymwneud â datblygiad arfaethedig,
(g) drafftiau o unrhyw ddogfennau, planiau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig,
(h) manylion digwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd neu y bwriedir eu cynnal,
(i) manylion diweddariadau, amserlenni a newidiadau a wnaed i’r datblygiad arfaethedig,
(j) copi o hysbysiad derbyn y cais arfaethedig,
(k) pan fo’n gymwys, drafft o’r datganiad amgylcheddol ar gyfer y datblygiad arfaethedig,
(l) mewn achos pan gynigir y dylai gorchymyn cydsyniad seilwaith gynnwys naill ai cydsyniad tybiedig neu gydsyniad a ddiddymwyd, datganiad drafft am gydsyniadau o’r fath, ac
(m) manylion cyswllt y ceisydd, gan gynnwys cyfeiriad post ac e-bost a rhif ffôn.
(3) Rhaid lluniadu unrhyw blaniau neu luniadau sydd i’w darparu o dan y rheoliad hwn ar raddfa a nodir ac yn achos planiau rhaid dangos cyfeiriad y gogledd.
7 

(1) Yn achos cais arfaethedig am ddatblygiad ar dir yng Nghymru, rhaid i’r ceisydd arddangos hysbysiad (“hysbysiad safle”) mewn o leiaf un man ar y tir neu gerllaw’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef am ddim llai na 42 o ddiwrnodau.
(2) Pan fo datblygiad arfaethedig yn ymwneud â chynllun llinellol sy’n fwy na 5km o hyd, rhaid arddangos hysbysiad safle bob 5km o leiaf o ddechrau hyd at ddiwedd y llwybr arfaethedig oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny.
(3) Pan fo’r hysbysiad safle, heb fod unrhyw fai ar y ceisydd, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 42 o ddiwrnodau ddod i ben, caiff y ceisydd ei drin fel pe bai wedi cydymffurfio â gofynion y paragraff perthnasol os yw wedi cymryd camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad safle ac, os oes angen, ei amnewid.
8 
Rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad ysgrifenedig am y cais arfaethedig i—
(a) unrhyw un sy’n berchen ar y tir neu sy’n feddiannydd ar y tir sy’n ffinio â’r tir y mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef;
(b) os yw’r datblygiad arfaethedig yng Nghymru, bob awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi,
(c) yr holl ymgyngoreion statudol perthnasol a’r holl ymgyngoreion arbenigol perthnasol,
(d) os yw’r datblygiad arfaethedig wedi ei leoli mewn ardal â chyngor cymuned, y cyngor cymuned,
(e) pob Aelod o’r Senedd sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi,
(f) pob Aelod o Dŷ’r Cyffredin sy’n cynrychioli ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi,
(g) yr holl bersonau sy’n berchen ar y tir y mae datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef, neu sy’n meddiannu’r tir hwnnw neu sydd â buddiant arall ynddo, neu y gellid effeithio arnynt yn y fath fodd fel y gallant wneud hawliad perthnasol, a
(h) unrhyw berson neu bersonau eraill y mae’r ceisydd yn ystyried eu bod yn briodol gan gynnwys unigolion, grwpiau neu gymdeithasau a nodwyd gan unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd.
9 
Rhaid i’r ceisydd roi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig fel a ganlyn—
(a) drwy gyhoeddi’r hysbysiad mewn papur newydd sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r tir y mae’r cais arfaethedig yn ymwneud ag ef wedi ei leoli ynddi am gyfnod o 7 niwrnod o leiaf, a
(b) drwy gynnal o leiaf un digwyddiad ymgysylltu â’r cyhoedd yn ardal y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef.
10 

(1) Yn achos cais arfaethedig ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, rhaid i’r ceisydd—
(a) rhoi hysbysiad i —
(i) unrhyw awdurdod cynllunio a ystyrir yn briodol gan y ceisydd;
(ii) yr holl ymgyngoreion statudol perthnasol a’r holl ymgyngoreion arbenigol perthnasol;
(iii) unrhyw gyngor cymuned perthnasol a ystyrir yn briodol gan y ceisydd;
(iv) unrhyw Aelod o’r Senedd a ystyrir yn briodol gan y ceisydd;
(v) unrhyw Aelod o Dŷ’r Cyffredin a ystyrir yn briodol gan y ceisydd;
(vi) Cyfoeth Naturiol Cymru;
(vii) unrhyw berson neu bersonau eraill y mae’r ceisydd yn ystyried eu bod yn briodol, gan gynnwys unigolion, grwpiau neu gymdeithasau a nodwyd gan unrhyw wasanaethau cyn gwneud cais a ddarparwyd.
(b) drwy gyhoeddi’r hysbysiad am o leiaf 7 niwrnod mewn—
(i) un neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n debygol o ddod i sylw’r rheini y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt;
(ii) o leiaf un cyfnodolyn pysgota priodol os oes un mewn cylchrediad;
(iii) Lloyd’s List.
(2) Rhaid i’r ceisydd fod wedi cydymffurfio â pharagraff (1) cyn cyflwyno cais.
11 
Rhaid i hysbysiadau a ddyroddir fel rhan o gyhoeddusrwydd ac ymgynghori cyn gwneud cais o dan reoliadau 6 i 10 gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd gan gynnwys cyfeiriad post ac e-bost a rhif ffôn,
(b) lleoliad y datblygiad arfaethedig,
(c) crynodeb o’r prif gynigion, gan gynnwys pa un a yw’r cais arfaethedig yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael tir yn orfodol,
(d) manylion unrhyw ddigwyddiadau ymgynghori cyn gwneud cais sydd i’w cynnal,
(e) manylion y wefan o dan reoliad 6(1) a chyfeiriad lle gellir gweld dogfennau a gyhoeddir ar y wefan honno, ac
(f) y dyddiad erbyn pryd y mae unrhyw ymatebion i ddod i law, gyda’r dyddiad hwnnw heb fod yn llai na 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau drannoeth y dyddiad y cyhoeddir yr hysbysiad.
12 

(1) Rhaid i ymgynghorai statudol yr ymgynghorir ag ef o dan reoliad 8 neu 10 ddarparu ymateb o sylwedd o fewn 42 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r hysbysiad y cyfeirir ato yn rheoliad 4 gael ei roi neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng yr ymgynghorai statudol a’r ceisydd.
(2) Ymateb o sylwedd yw un sydd yn—
(a) datgan nad oes gan yr ymgynghorai statudol unrhyw sylw i’w wneud ac sy’n rhoi rhesymau dros yr ymateb hwnnw,
(b) datgan nad oes gan yr ymgynghorai statudol wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai statudol ar destun yr ymgynghoriad,
(c) rhoi gwybod i’r ceisydd bod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny, neu
(d) rhoi gwybod i’r ceisydd bod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynglyn â’r datblygiad arfaethedig ac y byddai’n gwrthwynebu cais a wneir ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny.
RHAN 4
13 
Yn y Rhan hon mae i bob un o “cyfnewidfa nwyddau rheilffordd”, “gorsaf gynhyrchu”, “harbwr”, “nwy”, “nwyddau” a “priffordd” yr ystyr a roddir yn adran 143 o Ddeddf 2024.
14 

(1) Rhaid gwneud cais o fewn 18 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru roi hysbysiad derbyn yn unol ag adran 29(4) o Ddeddf 2024.
(2) Estynnir y cyfnod ym mharagraff (1) 56 o ddiwrnodau pan fo—
(a) un neu ragor o ymgyngoreion statudol perthnasol naill ai wedi—
(i) rhoi gwybod i’r ceisydd bod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynglŷn â’r datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â’r pryderon hynny, neu
(ii) rhoi gwybod i’r ceisydd bod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynglyn â’r datblygiad arfaethedig ac y byddai’n gwrthwynebu cais a wneir ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd, ac yn nodi’r rhesymau am y gwrthwynebiadau hynny, a
(b) bod y ceisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig ei fod yn dymuno estyn y cyfnod ym mharagraff (1) i fynd i’r afael â phryderon yr ymgynghorai statudol perthnasol i—
(i) Gweinidogion Cymru, a
(ii) yr ymgynghorai statudol perthnasol a roddodd gyngor o’r fath.
(3) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 8 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Caffael Gorfodol) (Cymru) 2025.
15 

(1) Rhaid i gais ym mhob achos—
(a) cael ei wneud ar y ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu ffurflen sydd ag effaith sylweddol debyg, a
(b) cynnwys y materion a bennir yn y ffurflen a’r wybodaeth, y dogfennau a’r deunyddiau eraill a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr wybodaeth, y dogfennau a’r deunyddiau eraill y mae rhaid eu cynnwys yn y cais yw—
(a) ar gyfer datblygiad yng Nghymru, plan wedi ei luniadu ar raddfa a nodir ac sy’n dangos cyfeiriad y gogledd; neu ar gyfer datblygiad yn ardal forol Cymru, cyfesurynnau sy’n nodi’r lleoliad y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
(b) unrhyw blaniau, lluniadau a gwybodaeth arall sy’n angenrheidiol i ddisgrifio’r datblygiad arfaethedig,
(c) copi o’r hysbysiad derbyn a roddwyd gan Weinidogion Cymru,
(d) pan fo’n gymwys, datganiad amgylcheddol,
(e) datganiad ysgrifenedig ynghylch pa un a yw’r cynnig yn ymhel ag un neu ragor o’r materion a nodir yn adran 79(1) o Ddeddf Diogelu’r Amgylchedd 1990 (niwsansau statudol ac arolygiadau at y diben hwnnw) ac os felly, sut mae’r ymgeisydd yn bwriadu eu lliniaru neu gyfyngu arnynt,
(f) adroddiad sy’n nodi unrhyw safle Ewropeaidd y mae rheoliad 63 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 yn gymwys iddo, neu unrhyw safle a ddynodir o dan baragraff 1 o erthygl 2 o Gonfensiwn Ramsar o Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol yn Enwedig fel Cynefin Adar Dŵr , y gallai’r datblygiad arfaethedig effeithio arno, ynghyd â digon o wybodaeth i alluogi Gweinidogion Cymru i wneud asesiad priodol o’r goblygiadau ar gyfer y safle os yw’n ofynnol gan reoliad 63 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017,
(g) pan fo hynny’n gymwys, asesiad o’r perygl o lifogydd,
(h) unrhyw ffi sy’n daladwy i Weinidogion Cymru, ac
(i) unrhyw ffi sy’n daladwy am wasanaethau cyn gwneud cais.
(3) Rhaid lluniadu unrhyw blaniau neu luniadau y mae’n ofynnol eu darparu o dan baragraff (2)(a) neu (b) i raddfa a nodir ac, yn achos planiau, rhaid iddynt ddangos y gogledd.
(4) Pan wneir cais yn electronig, caiff Gweinidogion Cymru a’r awdurdod cynllunio wneud archiad bod y ceisydd yn adneuo un copi caled o’r cais gyda Gweinidogion Cymru.
16 
Rhaid i Weinidogion Cymru cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cael cais roi hysbysiad ei fod wedi dod i law i—
(a) y ceisydd—
(b) yn achos cais am ddatblygiad yng Nghymru—
(i) pob awdurdod cynllunio ar gyfer ardal y lleolir y datblygiad arfaethedig ynddi, ac
(ii) unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol, neu
(c) yn achos cais am ddatblygiad yn ardal forol Cymru—
(i) y ceisydd,
(ii) pob awdurdod cynllunio y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol,
(iii) Cyfoeth Naturiol Cymru, a
(iv) unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
17 

(1) Rhaid i gais ar gyfer adeiladu neu estyn gorsaf gynhyrchu gynnwys—
(a) yn achos cais am ddatblygiad yng Nghymru—
(i) datganiad yn nodi pwy fydd yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu’r cysylltiad â’r grid trydan, a
(ii) os yw’r cais yn ymwneud â gorsaf gynhyrchu y mae nwy yn danwydd ar ei chyfer, datganiad yn nodi pwy fydd yn gyfrifol am ddylunio ac adeiladu’r cysylltiad piblinell nwy â’r orsaf gynhyrchu, neu
(b) yn achos cais am ddatblygiad yn ardal forol Cymru—
(i) manylion y llwybr arfaethedig a’r dull o osod unrhyw gebl;
(ii) datganiad ynghylch unrhyw geisiadau y mae’r ceisydd yn bwriadu eu gwneud ar gyfer parthau diogelwch o dan adran 95 o Ddeddf Ynni 2004.
(2) Yn y rheoliad hwn mae i “adeiladu”, mewn perthynas â hynny o orsaf gynhyrchu sy’n weithfa ynni adnewyddadwy, neu sydd i fod yn weithfa ynni adnewyddadwy, yr un ystyr ag a roddir i “construction” ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2004 (gweler adran 104 o’r Ddeddf honno), ac yn y diffiniad hwn mae i “gweithfa ynni adnewyddadwy” yr un ystyr ag a roddir i “renewable energy installation” ym Mhennod 2 o Ran 2 o Ddeddf Ynni 2004 (p. 20) (gweler adran 104 o’r Ddeddf honno).
(3) Yn y rheoliad hwn mae i “estyniad”, mewn perthynas â gorsaf gynhyrchu, yr ystyr a roddir i “extension” gan adran 36(9) o Ddeddf Trydan 1989.
18 
Rhaid i gais am ddatblygiad sy’n gysylltiedig â phriffordd neu ar gyfer adeiladu neu addasu rheilffordd neu gyfnewidfa nwyddau rheilffordd gynnwys—
(a) trawsluniadau, wedi eu lluniadu ar raddfeydd llorweddol a fertigol a nodir sy’n dangos (drwy gyfeirio at seilnod Arolwg Ordnans neu Siart) lefelau’r gwaith arfaethedig, gan gynnwys pan fo’n berthnasol—
(i) lefelau’r ddaear,
(ii) uchder pob pont arfaethedig, pob traphont arfaethedig, pob dyfrbont arfaethedig, pob arglawdd arfaethedig a phob tracffordd ddyrchafedig arfaethedig,
(iii) dyfnder pob trychfa arfaethedig a phob twnnel arfaethedig,
(iv) lefelau’r gwely ac unrhyw ddyfroedd llanw neu ddyfrffordd fewndirol lle cynigir y dylid lleoli unrhyw weithfeydd,
(v) uchder pob strwythur neu ddyfais (gan gynnwys cebl, ond nid catena ac offer cysylltiedig) y bwriedir ei godi neu ei chodi uwchben dyfroedd llanw dyfrffordd fewndirol, ar ddyfroedd o’r fath neu o dan arwyneb dyfroedd o’r fath, neu ar wely dyfroedd llanw dyrffordd fewndirol neu o dan wely dyfroedd o’r fath, a
(vi) manylion gollyngfeydd draenio ar gyfer priffyrdd, a
(b) croestoriad o bob twnnel a fwriedir ac unrhyw raddiant addasedig cerbytffordd neu ffordd sy’n ffurfio rhan o system drafnidiaeth dywysedig ar y naill ochr i bob croesfan reilffordd, pob pont, pob twnnel neu bob tanffordd a fyddai’n cario’r gerbytffordd neu’r ffordd neu y byddai’n pasio drwyddynt.
19 
Rhaid i gais ar gyfer adeiladu neu addasu cyfleusterau harbwr gynnwys datganiad sy’n nodi pam y mae gwneud gorchymyn cydsyniad seilwaith yn ddymunol er budd—
(a) gwella, cynnal a chadw neu reoli’r harbwr mewn modd effeithlon a darbodus, neu
(b) hwyluso cludo nwyddau neu deithwyr yn effeithlon ac yn ddarbodus ar y môr neu er budd y defnydd hamdden o longau mordwyol.
20 
Rhaid i gais mewn perthynas â thir y Goron gynnwys—
(a) datganiad bod y gorchymyn cydsyniad seilwaith drafft yn cynnwys darpariaeth mewn perthynas â thir y Goron neu hawliau sydd o fudd i’r Goron, a
(b) pan fo awdurdod priodol y Goron yn cydsynio i gynnwys y ddarpariaeth, copi o’r awdurdodiad hwnnw.
21 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’u penderfyniad ar ddilysrwydd cais o dan adran 33(2) neu (3) o Ddeddf 2024 o fewn y cyfnod a nodir yn y rheoliad hwn.
(2) Caiff yr hysbysiad gynnwys unrhyw wybodaeth mewn perthynas â’r cais y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei bod yn briodol.
(3) Y cyfnod y mae rhaid rhoi’r hysbysiad ynddo yw—
(a) yn achos cais sy’n cynnwys datganiad amgylcheddol, o fewn 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru gael y cais, a
(b) mewn unrhyw achos arall, o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl i Weinidogion Cymru gael y cais.
22 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru wneud cyfarwyddyd i estyn yr amserlen ar gyfer dilysu cais.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud cyfarwyddyd, rhaid iddynt roi hysbysiad ysgrifenedig i unrhyw un y’i hysbysir bod cais dilys wedi dod i law.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o dan baragraff (2) bennu’r dyddiad erbyn pryd y gwneir penderfyniad ar ddilysrwydd cais.
(4) Y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid gwneud penderfyniad ar ddilysrwydd cais yw dim mwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y cyfnod arfaethedig o 42 neu 28 o ddiwrnodau neu unrhyw gyfnod a bennir gan Weinidogion Cymru.
23 

(1) Yn ogystal â’r personau a bennir yn adran 34(2) o Ddeddf 2024, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o gais dilys i —
(a) ymgyngoreion statudol perthnasol,
(b) ymgyngoreion arbenigol perthnasol, ac
(c) unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Yn achos cais am ddatblygiad yng Nghymru, rhaid i Weinidogion Cymru hefyd roi hysbysiad o gais dilys i—
(a) unrhyw berchennog neu feddiannydd ar y tir, ac eithrio’r ceisydd, y mae cais yn ymwneud ag ef;
(b) yr holl bersonau sy’n berchen ar y tir y mae datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef yr holl bersonnau sy’n meddiannu tir o’r fath a’r holl bersonau sydd â buddiant arall mewn tir o’r fath neu y gellid effeithio arnynt yn y fath fodd fel y gallant wneud hawliad perthnasol;
(c) unrhyw berchennog neu feddiannydd cyfagos i’r tir y mae cais yn ymwneud ag ef.
(3) Rhaid rhoi’r hysbysiad o gais dilys cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl derbyn cais.
24 
Rhaid i hysbysiad o gais dilys, yn ogystal â’r dyddiad cau ar gyfer cael sylwadau sy’n ofynnol gan adran 34(4)(a) o Ddeddf 2024, gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) enw a chyfeiriad y ceisydd,
(b) datganiad sy’n nodi bod cais wedi ei wneud i Weinidogion Cymru a’i fod wedi cael ei dderbyn ganddynt,
(c) y rhif cyfeirnod a ddyrannwyd i’r cais,
(d) crynodeb o’r prif gynigion yn y cais,
(e) pa un a yw’r cais yn cynnwys archiad i awdurdodi caffael tir yn orfodol,
(f) datganiad sy’n pennu pa un a yw’r cais yn ddatblygiad AEA neu’n weithgaredd a reoleiddir o dan reoliad 2(1) o’r Rheoliadau AEA Morol,
(g) pa bryd ac ym mha le y gellir edrych ar gopi o’r cais (gan gynnwys dogfennau a gyflwynir fel rhan o’r cais),
(h) manylion y wefan o dan reoliad 25,
(i) manylion ynghylch sut y mae sylwadau ar y cais i’w gwneud,
(j) manylion ynghylch sut y mae archiad am wrandawiad llawr agored o dan adran 43 o Ddeddf 2024 i’w wneud,
(k) manylion ynghylch sut y caiff person sy’n gwneud archiad am wrandawiad llawr agored roi hysbysiad ynghylch y testunau y maent yn dymuno cyflwyno sylwadau amdanynt yn y gwrandawiad llawr agored, ac
(l) y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cael sylwadau ynghylch y datblygiad arfaethedig na chaiff fod yn llai na 42 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl dyroddi’r hysbysiad.
25 
Pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn cais yn gais dilys, rhaid iddynt gyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn ar wefan a gynhelir ganddynt hwy neu ar eu rhan—
(a) lleoliad y datblygiad arfaethedig,
(b) disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig,
(c) ym mha le a pha bryd y gellir edrych ar y cais,
(d) sut y caniateir gwneud sylwadau mewn perthynas â’r cais,
(e) erbyn pa ddyddiad y mae rhaid i sylwadau ddod i law,
(f) yn achos cais y mae datganiad amgylcheddol yn mynd gydag ef, y ffaith bod y datblygiad arfaethedig yn ddarostyngedig i weithdrefn AEA ac—
(i) sut y gellir cael copïau o’r datganiad amgylcheddol, a
(ii) y ffi am gael copïau o’r datganiad amgylcheddol,
(g) yn unol â gofynion Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a Deddf Diogelu Data 1998, y prif adroddiadau a chyngor a roddwyd i Weinidogion Cymru ar yr adeg y cyhoeddir yr wybodaeth (os o gwbl),
(h) manylion y trefniadau ar gyfer cynnwys y cyhoedd yn y weithdrefn gwneud penderfyniadau,
(i) y weithdrefn a chyhoeddiad unrhyw wybodaeth newydd a gyflwynir wedyn gan y ceisydd, a
(j) unrhyw wybodaeth arall sy’n berthnasol i gais nad yw ond ar gael ar ôl yr adeg y cyhoeddir yr holl wybodaeth arall.
26 

(1) Pan dderbynnir cais dilys am ddatblygiad yng Nghymru rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi hysbysiad o’r cais, mewn un neu ragor o bapurau newydd sy’n cylchredeg yn ardal y datblygiad arfaethedig am isafswm cyfnod o un wythnos gan ddechrau o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r cais gael ei dderbyn yn gais dilys, a
(b) arddangos o leiaf un hysbysiad safle ar y safle neu gerllaw’r safle y mae’r datblygiad arfaethedig yn ymwneud ag ef am o leiaf 42 o ddiwrnodau gan ddechrau o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r cais gael ei dderbyn yn gais dilys.
(2) Pan fo’r cais yn ymwneud â chynllun llinellol sy’n fwy na 5km o hyd, rhaid arddangos hysbysiad safle bob 5km o leiaf o ddechrau hyd at ddiwedd y llwybr arfaethedig oni bai ei bod yn anymarferol gwneud hynny.
(3) Pan fo hysbysiad, heb unrhyw fai, yn cael ei symud ymaith, ei guddio neu ei ddifwyno cyn i’r cyfnod o 42 o ddiwrnodau ddod i ben, caiff y gofyniad ei drin fel pe cydymffurfiwyd ag ef os cymerir camau rhesymol i ddiogelu’r hysbysiad ac, os oes angen, ei amnewid.
(4) Pan dderbynnir cais dilys am ddatblygiad yn ardal forol Cymru, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi hysbysiad o’r cais mewn—
(a) un neu ragor o bapurau newydd lleol sy’n debygol o ddod i sylw’r rheini y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt, am isafswm cyfnod o un wythnos gan ddechrau o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n ddechrau â’r diwrnod ar ôl i’r cais gael ei dderbyn yn gais dilys,
(b) Lloyd’s List, ac
(c) o leiaf un cyfnodolyn pysgota priodol os oes un mewn cylchrediad am isafswm cyfnod o un wythnos gan ddechrau o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r cais gael ei dderbyn yn gais dilys.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo person arall neu gorff arall i ymgymryd â’r gofynion cyhoeddusrwydd a hysbysu yn y rheoliad hwn yn rhinwedd adrannau 35(2) neu 130(1) o Ddeddf 2024, rhaid iddo roi cadarnhad i Weinidogion Cymru ei fod wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd hwnnw o fewn 14 o ddiwrnodau, gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl iddo gael y cyfarwyddyd oddi wrth Weinidogion Cymru.
(6) Pan gyfarwyddir unrhyw berson i gydymffurfio â’r gofynion yn y rheoliad hwn yn rhinwedd adrannau 35(2) neu 130 o Ddeddf 2024 a’i fod yn methu â gwneud hynny, caiff Gweinidogion Cymru gymryd y camau gofynnol.
27 

(1) Rhaid i ymgynghorai statudol ddarparu ymateb o sylwedd o fewn 42 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y rhoddir hysbysiad o gais dilys neu unrhyw gyfnod arall y cytunir arno yn ysgrifenedig rhwng yr ymgynghorai statudol a Gweinidogion Cymru o dan adran 129 o Ddeddf 2024.
(2) Pan fo ymateb o sylwedd yn cynghori bod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig o dan baragraffau (4)(c) a (d) o’r rheoliad hwn, rhaid i’r ymateb o sylwedd gynnwys datganiad sy’n nodi a yw’n ystyried y dylai ei bryderon gael eu clywed drwy—
(a) sylwadau ysgrifenedig,
(b) gwrandawiad,
(c) ymchwiliad, neu
(d) cadarnhau nad yw’n ffafrio unrhyw ddull o gynnal gweithdrefn archwilio a ddefnyddir i glywed ei bryderon.
(3) Pan fo ymgynghorai statudol yn codi pryderon yn ei ymateb o sylwedd o dan y rheoliad hwn na chawsant eu codi yn ei ymateb i’r ymgynghoriad cyn gwneud cais o dan baragraff 12 o’r Rheoliadau hyn, rhaid iddo roi ei resymau dros wneud hynny.
(4) Yn y rheoliad hwn ymateb o sylwedd yw ymateb sy’n—
(a) datgan nad oes gan yr ymgynghorai statudol unrhyw sylw i’w wneud ac yn rhoi rhesymau dros yr ymateb hwnnw,
(b) datgan nad oes gan yr ymgynghorai statudol unrhyw wrthwynebiad i’r datblygiad arfaethedig ac yn cyfeirio’r ceisydd at y cyngor sefydlog cyfredol gan yr ymgynghorai statudol ar bwnc yr ymgynghoriad,
(c) cynghori’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig a sut y gellir mynd i’r afael â hwy, neu
(d) cynghori’r ceisydd fod gan yr ymgynghorai statudol bryderon ynghylch y datblygiad arfaethedig ac y byddai’n gwrthwynebu cais a wneir ar yr un telerau neu delerau o’r un sylwedd ac yn nodi’r rhesymau dros y gwrthwynebiadau hynny.
RHAN 5
28 
Rhaid i adroddiad ar yr effaith leol y mae’n ofynnol i awdurdod cynllunio ei gyflwyno o dan adran 36(1) o Ddeddf 2024 gynnwys—
(a) disgrifiad o—
(i) hanes cynllunio perthnasol y tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef,
(ii) unrhyw ddynodiadau lleol sy’n berthnasol i’r tir y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a
(iii) effaith debygol unrhyw gais mewn perthynas â chydsyniad tybiedig neu gydsyniad a ddiddymwyd,
(b) cadarnhad bod yr awdurdod cynllunio wedi cydymffurfio ag unrhyw gyfarwyddyd o dan adran 130 o Ddeddf 2024 sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod cynllunio—
(i) hysbysu personau am y cais,
(ii) rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais, a
(c) manylion unrhyw—
(i) polisïau cynllunio sy’n gymwys yn lleol, canllawiau a dogfennau eraill sy’n berthnasol i’r cais, a
(ii) amodau drafft neu rwymedigaethau drafft y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried y dylid eu cynnwys yn y gorchymyn cydsyniad seilwaith (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw gydsyniadau tybiedig neu gydsyniadau a ddiddymwyd) a fyddai’n lliniaru effeithiau tebygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod (neu ran o ardal yr awdurdod)
(iii) rhesymau pam y mae unrhyw amodau drafft neu unrhyw rwymedigaethau drafft sy’n cael eu hawgrymu o dan baragraff 1(c)(ii) o’r rheoliad hwn yn angenrheidiol,
(iv) cynigion ar gyfer datblygiad perthnasol y mae’r awdurdod cynllunio yn eu hystyried, a
(v) cyfyngiadau’r safle.
29 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a) awdurdod cynllunio yn dewis cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol o dan adran 36(1) neu (3) o Ddeddf 2024, neu
(b) cyngor cymuned yn cyflwyno adroddiad ar yr effaith leol o dan adran 36(2) neu (3) o’r Ddeddf honno.
(2) Rhaid i adroddiad ar yr effaith leol gynnwys—
(a) disgrifiad o effaith debygol caniatáu unrhyw gais am gydsyniad tybiedig neu gydsyniad a ddiddymwyd, a
(b) manylion unrhyw—
(i) polisïau cynllunio sy’n gymwys yn lleol, canllawiau a dogfennau eraill sy’n berthnasol i’r cais,
(ii) amodau drafft neu rwymedigaethau drafft y mae’r awdurdod cynllunio yn ystyried y dylid eu cynnwys yn y gorchymyn cydsyniad seilwaith (gan gynnwys mewn perthynas ag unrhyw gydsyniadau tybiedig neu gydsyniad a ddiddymwyd) a fyddai’n lliniaru effeithiau tebygol y datblygiad arfaethedig ar ardal yr awdurdod (neu ran o ardal yr awdurdod) a
(iii) rhesymau pam y mae unrhyw amodau sy’n cael eu hawgrymu o dan baragraff 2(b)(ii) o’r rheoliad hwn yn angenrheidiol.
30 

(1) Rhaid i adroddiad effaith ar y môr a gyflwynir gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan adran 37 o Ddeddf 2024 gydymffurfio â’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i’r adroddiad hwnnw gynnwys—
(a) sylwadau ar unrhyw asesiadau amgylcheddol a’u casgliadau, a gyflwynwyd gan y ceisydd,
(b) hanes perthnasol trwydded forol yr ardal y mae’r cais yn ymwneud â hi,
(c) sylwadau ar unrhyw bolisïau a chanllawiau perthnasol ynghyd â dogfennau eraill sy’n berthnasol i’r cais, a nodwyd gan y ceisydd fel rhan o’r cais, a
(d) sylwadau ar unrhyw amodau drafft neu rwymedigaethau drafft sydd wedi eu cynnwys mewn trwydded forol dybiedig.
(3) Caiff yr adroddiad hwnnw gynnwys ymateb o sylwedd Cyfoeth Naturiol Cymru sy’n ofynnol o dan reoliad 27 o’r Rheoliadau hyn.
(4) Pan fo ymateb o sylwedd sy’n ofynnol o dan reoliad 27 yn cael ei gyflwyno fel rhan o’r adroddiad effaith ar y môr, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cydymffurfio â gofynion y rheoliad hwnnw.
RHAN 6
31 

(1) Caiff ceisydd wneud archiad i amrywio cais ar un achlysur cyn bod yr awdurdod archwilio wedi arfer ei swyddogaeth o dan adran 42(1) o Ddeddf 2024 (dyfarnu’r weithdrefn).
(2) Rhaid i archiad i amrywio cais—
(a) cael ei wneud ar ffurflen a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru neu ffurflen sydd ag effaith sylweddol debyg,
(b) cynnwys disgrifiad o’r amrywiad,
(c) cynnwys unrhyw ffi sy’n daladwy wrth wneud archiad i amrywio cais, a
(d) cael ei wneud cyn diwedd 14 o ddiwrnodau sy’n dechrau â thrannoeth y dyddiad cau erbyn pryd y mae rhaid i Weinidogion Cymru gael sylwadau ar yr archiad.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu pa un ai i dderbyn archiad i amrywio cais.
(4) Ni chaiff Gweinidogion Cymru dderbyn archiad i amrywio pan fyddai effaith yr amrywiad yn newid yn sylweddol y datblygiad y ceisir cydsyniad seilwaith ar ei gyfer.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad o’r penderfyniad i’r ceisydd o fewn 7 niwrnod sy’n dechrau â thrannoeth y diwrnod y daw’r archiad i amrywio i law.
(6) Pan fo Gweinidogion Cymru yn derbyn archiad i amrywio, rhaid i’r ceisydd gyflwyno’r cais wedi ei amrywio i Weinidogion Cymru—
(a) o fewn 28 o ddiwrnodau, gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad bod yr archiad i amrywio wedi ei dderbyn, neu
(b) erbyn diwedd unrhyw gyfnod a gytunwyd yn ysgrifenedig rhwng y ceisydd a Gweinidogion Cymru.
(7) Caiff Gweinidogion Cymru—
(a) rhoi hysbysiad o’r cais wedi ei amrywio i unrhyw berson y maent yn ystyried ei fod yn briodol,
(b) rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais wedi ei amrywio mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol.
RHAN 7
32 

(1) Bydd cais a wneir yn y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl i’r Rheoliadau hyn ddod i rym yn bodloni gofynion adran 30 o Ddeddf 2024 ar yr amod bod Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y ceisydd, yn ystod y cyfnod o 12 mis cyn i’r Rheoliadau hyn ddod i rym, wedi—
(a) ymgynghori ag—
(i) y personau a bennir yn rheoliad 8 o’r Rheoliadau hyn pan fo’r cais yn ymwneud â thir yng Nghymru; neu
(ii) y personau a nodir yn rheoliad 10 o’r Rheoliadau hyn pan fo’r cais yn ymwneud ag ardal forol Cymru, a
(b) rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig mewn modd a fyddai, pe bai Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn wedi bod mewn grym ar ddyddiad cyhoeddusrwydd o’r fath, wedi bodloni gofynion y Rhan honno.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw geisydd sy’n dibynnu ar y darpariaethau yn y rheoliad hwn—
(a) rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru am y cais arfaethedig cyn i unrhyw gais gael ei gyflwyno,
(b) nid oes angen iddo gydymffurfio â gofynion rheoliad 3.
(3) Pan na fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y gofynion ym mharagraffau 1 a 2 wedi eu bodloni—
(a) rhaid iddynt hysbysu’r ceisydd cyn gynted ag y bo’n ymarferol, a
(b) ni chaiff y ceisydd ofyn am gyfarwyddyd o dan adran 131 o Ddeddf 2024 y cyfeirir ato yn rheoliad 7 o Reoliadau Cydsyniad Seilwaith (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2025.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
16 Mehefin 2025
YR ATODLEN
Rheoliad 3(2)

Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3 Colofn 4
Paragraff Disgrifiad o’r Datblygiad Yr Ymgynghorai Statudol Perthnasol Yr Ymgynghorai Arbenigol Perthnasol
(a) Pob cais Cyfoeth Naturiol CymruYr ymgymerwr dŵr a charthffosiaeth perthnasolGwasanaethau Traffig Awyr CenedlaetholY Weinyddiaeth AmddiffynIechyd Cyhoeddus CymruTrafnidiaeth Cymru Glandŵr CymruGweithredwyr Rhwydwaith Dosbarthu
(b) Datblygiad sy’n debygol o achosi cynnydd sylweddol ym maint y traffig neu newid sylweddol yng nghymeriad y traffig—(i) sy’n ymuno â chefnffordd neu’n ymadael â chefnffordd;(ii) sy’n defnyddio croesfan reilffordd dros reilffordd Gweinidogion CymruGweithredwr y rhwydwaith sy’n cynnwys y rheilffordd o dan sylw neu ar ffurf y rheilffordd honno, a Gweinidogion Cymru 
(c) Datblygiad sy’n cynnwys darparu adeilad neu biblinell mewn ardal gwaith glo a hysbyswyd gan yr Awdurdod Glo i Weinidogion Cymru Yr Awdurdod Glo 
(d) (i) Datblygiad sy’n cael effaith ffisegol ar heneb gofrestredig(ii) Datblygiad sy’n debygol o fod yn weladwy o heneb gofrestredig ac sy’n bodloni un o’r meini prawf a ganlyn—(aa) ei fod o fewn pellter o 0.5 km o unrhyw bwynt o berimedr heneb gofrestredig,(bb) ei fod o fewn pellter o 1 km o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 15 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.2 hectar neu ragor,(cc) ei fod o fewn pellter o 2 km o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 50 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 0.5 hectar neu ragor,(dd) ei fod o fewn pellter o 3 km o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 75 o fetrau neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor, neu(ee) ei fod o fewn pellter o 5 km o berimedr heneb gofrestredig a bod ei uchder yn 100 metr neu ragor, neu fod ei arwynebedd yn 1 hectar neu ragor.(iii) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar safle neu leoliad parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig,(iv) Datblygiad o fewn tirwedd hanesyddol gofrestredig y mae Asesiad o’r Effaith Amgylcheddol yn ofynnol ar ei gyfer, neu(v) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar werth byd-eang eithriadol un o Safleoedd Treftadaeth y Byd. Gweinidogion Cymru 
(e) Datblygiad sy’n cynnwys unrhyw dir y mae theatr arno  Yr Ymddiriedolaeth Theatrau
(f) Datblygiad sy’n golygu —(i) colli dim llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir am y tro (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, neu(ii) colli llai nag 20 hectar o dir amaethyddol graddau 1, 2 neu 3a a ddefnyddir am y tro (neu a ddefnyddiwyd ddiwethaf) at ddibenion amaethyddol, mewn amgylchiadau pan fo’r datblygiad yn debygol o arwain at golli rhagor o dir amaethyddol sy’n dod i gyfanswm o 20 hectar neu ragor Gweinidogion Cymru 
(g) Datblygiad—(i) sy’n debygol o amharu ar y defnydd o dir, neu arwain at golli’r defnydd o dir, a ddefnyddir fel maes chwarae, neu(ii) sydd ar dir:(aa) a ddefnyddiwyd fel maes chwarae ar unrhyw adeg yn ystod y blynyddoedd cyn gwneud y cais perthnasol ac sy’n parhau heb ei ddatblygu,(bb) a ddyrannwyd i’w ddefnyddio fel maes chwarae mewn cynllun datblygu neu mewn cynigion ar gyfer cynllun o’r fath neu ar gyfer ei addasu neu ei amnewid, neu(iii) sy’n golygu gosod arwyneb artiffisial, arwyneb o waith dyn neu arwyneb cyfansawdd ar lain chwarae yn lle arwyneb o laswellt. Cyngor Chwaraeon Cymru 
(h) Datblygiad—(i) sy’n ymwneud â datblygiad gwastraff;(ii) sy’n ymwneud â darparu adeilad lle mae’r arwynebedd llawr i’w greu gan y datblygiad yn 1,000 metr sgwâr neu ragor;(iii) a gyflawnir ar safle sydd ag arwynebedd o 1 hectar neu ragor Yr Awdurdod Tân ac Achub o dan sylw 
(i) Datblygiad sy’n cynnwys gofyniad am drwydded forol dybiedig Ystad y GoronY Cyd-bwyllgor Cadwraeth NaturAsiantaeth y Môr a Gwylwyr y GlannauTrinity HousePorthladdoedd Ymddiriedolaeth a Gedwir yn ÔlYr awdurdod harbwr lleolPorthladdoedd lleolGweinidogion CymruComisiwn Brenhinol Henebion CymruAwdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau Y Gymdeithas Hwylio FrenhinolYr ymddiriedolaeth archaeolegol yng Nghymru o dan sylwSiambr Morgludiant y DUFfederasiwn Cenedlaethol Cymdeithasau PysgotwyrCymdeithas Pysgotwyr Cymru
(j) Datblygiadau sy’n debygol o effeithio ar yr amgylchedd morwrol neu arfordirol, neu’r diwydiant morgludiant Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau 
(k) Datblygiad a all effeithio ar yr amgylchedd morol Y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur 
(l) Datblygiad a all effeithio ar yr amgylchedd morol o fewn dyfroedd tiriogaethol Lloegr Y Sefydliad Rheoli Morol 
(m) Datblygiadau sy’n debygol o effeithio ar fordwyo mewn dyfroedd llanw Trinity House 
(n) Datblygiad sy’n ymwneud â meysydd awyr neu sy’n debygol o effeithio ar faes awyr neu ei weithrediad presennol neu yn y dyfodol Yr Awdurdod Hedfan Sifil 
(o) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar Ystad y Goron neu sydd wedi ei leoli ar Dir y Goron Ystad y Goron 
(p) Datblygiad sy’n debygol o effeithio ar ardal sydd o dan reolaeth awdurdod harbwr Yr Awdurdod Harbwr o dan sylwYr Awdurdod Mordwyo o dan sylwCymdeithas Porthladdoedd Prydain 
(q) Datblygiad sy’n cynnwys rheilffordd neu sy’n debygol o effeithio ar reilffordd Gweithredwyr rhwydwaith 
(r) Datblygiad sy’n cynnwys darparu seilwaith trydan  Gweithredwyr Rhwydwaith Datblygiad
Yn y Tabl uchod—
(a) Ym mharagraff (b)—
 mae i “rhwydwaith” a “gweithredwr” yr un ystyr ag a roddir i “network” ac “operator” yn y drefn honno yn adran 83(1) o Ddeddf Rheilffyrdd 1993 (darparu gwasanaethau rheilffordd); a
 mae i “cefnffordd” yr un ystyr ag yn adran 143 o Ddeddf 2024;
(b) ym mharagraff (d)—
 mae i “heneb gofrestredig” yr un ystyr ag yn adran 3(7) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (dyletswydd i gynnal a chyhoeddi cofrestr o henebion);
 mae cyfeiriad at uchder datblygiad i’w ddehongli fel cyfeiriad at ei uchder wedi ei fesur o lefel y ddaear; ac at ddibenion y paragraff hwn ystyr “lefel y ddaear” yw lefel arwyneb y ddaear yn union gerllaw’r datblygiad o dan sylw neu, pan na fo lefel arwyneb y ddaear y lleolir y datblygiad arno yn wastad, lefel rhan uchaf yr arwyneb yn union gerllaw’r datblygiad;
 ystyr “parc hanesyddol cofrestredig neu ardd hanesyddol gofrestredig” a “tirwedd hanesyddol gofrestredig” yw’r parc, yr ardd neu’r dirwedd a gynhwysir yn y Gofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gynhelir gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “Safle Treftadaeth y Byd” yw tir sy’n ymddangos ar Restr Treftadaeth y Byd a gedwir o dan erthygl 11(2) o Gonfensiwn UNESCO ar Amddiffyn Treftadaeth Ddiwylliannol a Naturiol y Byd a fabwysiadwyd ym Mharis ar 16 Tachwedd 1972;
(c) Ym mharagraff (e), mae i “theatr” yr un ystyr ag a roddir i “theatre” yn adran 5 o Ddeddf yr Ymddiriedolaeth Theatrau 1976 (dehongli);
(d) Ym mharagraff (g)—
 ystyr “maes chwarae” yw’r cyfan o safle sy’n cwmpasu o leiaf un llain chwarae;
 ystyr “llain chwarae” yw man wedi ei amlinellu y mae, ynghyd ag unrhyw redegfa iddo, yn 0.2 hectar neu’n fwy, ac a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed, pêl-droed Americanaidd, rygbi, criced, hoci, lacrós, rownderi, pêl fas, pêl feddal, pêl-droed Awstralaidd, pêl-droed Gwyddelig, bando, hyrli, polo neu polo beiciau.
(e) Ym mharagraffau (i) a (p) mae i “awdurdod harbwr” yr ystyr a roddir yn adran 143 o Ddeddf 2024;
(f) ym mharagraff (n) mae i “maes awyr” yr ystyr a roddir i “airport” gan adran 82(1) o Ddeddf Meysydd Awyr 1986;
(g) Ym mharagraff (r) ystyr “Gweithredwyr Rhwydwaith Datblygiad” yw cwmnïau sydd wedi eu trwyddedu i weithredu’r rhwydweithiau sy’n dosbarthu trydan o’r grid trosglwyddo cenedlaethol i’r defnyddwyr terfynol.