1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Ionawr 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â chynllun gostyngiadau’r dreth gyngor a wneir ar gyfer blwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2025 neu ar ôl hynny.
(4) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bilio” yr ystyr a roddir i “billing authority” yn adran 1(2)(b) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Deddf 1992”);
 ystyr “cynllun gostyngiadau’r dreth gyngor” (“council tax reduction scheme”) yw cynllun a wneir gan awdurdod bilio yn unol â Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013, neu’r cynllun sy’n gymwys yn ddiofyn yn rhinwedd paragraff 6(1)(e) o Atodlen 1B i Ddeddf 1992.
2 
Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor a Gofynion Rhagnodedig (Cymru) 2013 wedi eu diwygio yn unol â rheoliadau 3 i 11.
3 
Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester,” mewnosoder “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor,”;
(b) ar ôl y diffiniad o “taliad niwed drwy frechiad” mewnosoder—“
 ystyr “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor” (“the Victims of Overseas Terrorism Compensation Scheme”) yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2012 o dan adran 47 o Ddeddf Trosedd a Diogelwch 2010;”.
4 
Yn rheoliad 28(5) (personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) yn is-baragraff (e)(ii), yn lle “consesiwn Amddifadedd Trais Domestig” rhodder “consesiwn Dioddefwyr Mudol Cam-drin Domestig”;
(b) ar ôl is-baragraff (n) hepgorer “neu”;
(c) ar ôl is-baragraff (o) mewnosoder—“
(p) yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023, a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan ac—
(i) y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971,
(ii) sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, neu
(iii) nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno; neu
(q) yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023, a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad ac—

(iii) nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno.”
5 
Yn Atodlen 1 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: pensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 3(1)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£17.35” rhodder “£18.70”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£5.80” rhodder “£6.25”;
(b) ym mharagraff 3(2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£256.00” rhodder “£266.00”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” rhodder “£266.00”, “£463.00” a “£12.45” yn y drefn honno;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” rhodder “£463.00”, “£577.00” a “£15.65” yn y drefn honno;
(c) ym mharagraff 3(9)(c), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor”;
(d) ym mharagraff 19(15)(c) (trin costau gofal plant: pensiynwyr), yn lle “171ZZ” rhodder “171ZZ6”;
(e) ym mharagraff 22(c) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc)—
(i) ar ôl “cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno,” yn lle “y” rhodder “neu’r”;
(ii) yn y testun Saesneg, hepgorer “or the amount specified in section 11(4)(a) of that Act (lower profits threshold in relation to Class 2 contributions)”;
(iii) yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (trothwy elw isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2)”;
(f) ym mharagraff 24(3) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), hepgorer paragraff (a) a’r “a” ar ei ôl.
6 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£235.20” rhodder “£244.40”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£352.00” rhodder “£366.00”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£352.00” a “£116.80” rhodder “£366.00” a “£121.60” yn y drefn honno;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£83.24”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£84.66”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£19.15” rhodder “£19.48”;
(d) yn yr ail golofn (swm) yn y Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£81.50”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£82.90” ac yn lle “£163.00” rhodder “£165.80”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£32.20” rhodder “£32.75”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£80.01” rhodder “£81.37”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£45.60” rhodder “£46.40”.
7 
Yn Atodlen 5 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester,” mewnosoder “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor,”.
8 
Yn Atodlen 6 (penderfynu cymhwystra am ostyngiad: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) ym mharagraff 5(1)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£17.35” rhodder “£18.70”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£5.80” rhodder “£6.25”;
(b) ym mharagraff 5(2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£256.00” rhodder “£266.00”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” rhodder “£266.00”, “£463.00” a “£12.45” yn y drefn honno;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” rhodder “£463.00”, “£577.00” a “£15.65” yn y drefn honno;
(c) ym mharagraff 5(9)(b), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor”;
(d) ym mharagraff 21(15)(c) (trin costau gofal plant), yn lle “171ZZ” rhodder “171ZZ6”;
(e) ym mharagraff 23(c) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc)—
(i) ar ôl “cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno,” yn lle “y” rhodder “neu’r”;
(ii) yn y testun Saesneg, hepgorer “or the amount specified in section 11(4)(a) of that Act (lower profits threshold in relation to Class 2 contributions)”;
(iii) yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (trothwy elw isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2)”;
(f) ym mharagraff 25(3) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), hepgorer paragraff (a) a’r “a” ar ei ôl.
9 
Yn Atodlen 7 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£96.45”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£98.10” ac yn lle “£76.35” rhodder “£77.65”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£96.45” rhodder “£98.10”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£151.45” rhodder “£154.00”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1), yn lle “£83.24”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£84.66”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£19.15” rhodder “£19.48”;
(d) yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£42.50” a “£60.60” rhodder “£43.20” a “£61.65” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£81.50”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£82.90” ac yn lle “£163.00” rhodder “£165.80”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£80.01” rhodder “£81.37”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£45.60” rhodder “£46.40”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£32.20”, “£20.85” a “£29.75” rhodder “£32.75”, “£21.20” a “£30.25” yn y drefn honno;
(e) ym mharagraff 23, yn lle “£35.95” rhodder “£36.55”;
(f) ym mharagraff 24, yn lle “£47.70” rhodder “£48.50”.
10 
Yn Atodlen 10 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 29(1) ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester,” mewnosoder “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor,”.
11 
Yn Atodlen 12 (pob ceisydd: materion y mae’n rhaid eu cynnwys mewn cynllun awdurdod — materion gweithdrefnol), ar ôl paragraff 7 mewnosoder—“
7A. 
Caniateir trin cais fel pe bai wedi ei wneud pan fo—
(a) person wedi gwneud hawliad am gredyd cynhwysol,
(b) yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyflenwi gwybodaeth berthnasol mewn perthynas â’r person hwnnw yn unol ag adran 131 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 i’r awdurdod sy’n gweinyddu gostyngiad treth gyngor, ac
(c) y person hwnnw yn atebol i dalu treth gyngor i’r awdurdod hwnnw.”
12 
Mae’r cynllun a nodir yn yr Atodlen i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Cynllun Diofyn) (Cymru) 2013 wedi ei ddiwygio yn unol â rheoliadau 13 i 23.
13 
Ym mharagraff 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “person cymwys”, ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester,” mewnosoder “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor,”;
(b) ar ôl y diffiniad o “taliad niwed drwy frechiad” mewnosoder—“
 ystyr “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor” (“the Victims of Overseas Terrorism Compensation Scheme”) yw’r cynllun sy’n dwyn yr enw hwnnw a sefydlwyd gan y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn 2012 o dan adran 47 o Ddeddf Trosedd a Diogelwch 2010;”.
14 
Ym mharagraff 19(5) (dosbarth o bersonau a eithrir o’r cynllun hwn: personau sydd i’w trin fel rhai nad ydynt ym Mhrydain Fawr)—
(a) ym mharagraff (e)(ii), yn lle “consesiwn Amddifadedd Trais Domestig” rhodder “consesiwn Dioddefwyr Mudol Cam-drin Domestig”;
(b) ar ddiwedd paragraff (n) hepgorer “neu”;
(c) ar ôl paragraff (o), mewnosoder—“
(p) yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Sudan cyn 15 Ebrill 2023, a adawodd Sudan mewn cysylltiad â’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym ar 15 Ebrill 2023 yn Khartoum a ledled Sudan ac—
(i) y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971,
(ii) sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, neu
(iii) nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno; neu
(q) yn berson ym Mhrydain Fawr a oedd yn preswylio yn Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus yn union cyn 7 Hydref 2023, a adawodd Israel, y Lan Orllewinol, Llain Gaza, Dwyrain Jerwsalem, Ucheldiroedd Golan neu Libanus mewn cysylltiad ag ymosodiad terfysgol Hamas yn Israel ar 7 Hydref 2023 neu’r trais a wnaeth ddwysáu yn gyflym yn y rhanbarth yn dilyn yr ymosodiad ac—
(i) y rhoddwyd caniatâd iddo yn unol â rheolau mewnfudo a wnaed o dan adran 3(2) o Ddeddf Mewnfudo 1971,
(ii) sydd â hawl i breswylio yn y Deyrnas Unedig o fewn yr ystyr a roddir yn adran 2 o’r Ddeddf honno, neu
(iii) nad yw’n ofynnol iddo gael caniatâd i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi yn unol ag adran 3ZA o’r Ddeddf honno.”
15 
Ym mharagraff 28 (didyniadau annibynyddion: pensiynwyr a phersonau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yn is-baragraff (1)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£17.35” rhodder “£18.70”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£5.80” rhodder “£6.25”;
(b) yn is-baragraff (2)—
(i) ym mharagraff (a), yn lle “£256.00” rhodder “£266.00”;
(ii) ym mharagraff (b), yn lle “£256.00”, “£445.00” ac “£11.55” rhodder “£266.00”, “£463.00” a “£12.45” yn y drefn honno;
(iii) ym mharagraff (c), yn lle “£445.00”, “£554.00” a “£14.50” rhodder “£463.00”, “£577.00” a “£15.65” yn y drefn honno;
(c) yn is-baragraff (9)(b), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester” mewnosoder “, y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor”.
16 
Ym mharagraff 55(15)(c) (trin costau gofal plant), yn lle “171ZZ” rhodder “171ZZ6”.
17 
Ym mharagraff 57(c) (diystyru newidiadau mewn treth, cyfraniadau etc)—
(a) ar ôl “cyfraniadau Dosbarth 1 o dan y Ddeddf honno,”, yn lle “y” rhodder “neu’r”;
(b) yn y testun Saesneg, hepgorer “or the amount specified in section 11(4)(a) of that Act (lower profits threshold in relation to Class 2 contributions)”;
(c) yn y testun Cymraeg, hepgorer “neu’r swm a bennir yn adran 11(4) o’r Ddeddf honno (trothwy elw isel mewn perthynas â chyfraniadau Dosbarth 2)”.
18 
Ym mharagraff 59(3) (cyfrifo didyniad treth a chyfraniadau enillwyr hunangyflogedig), hepgorer paragraff (a) a’r “a” ar ei ôl.
19 
Yn Atodlen 1 (materion gweithdrefnol), ar ôl paragraff 7 mewnosoder—“
7A. 
Caniateir trin cais fel pe bai wedi ei wneud pan fo—
(a) person wedi gwneud hawliad am gredyd cynhwysol,
(b) yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cyflenwi gwybodaeth berthnasol mewn perthynas â’r person hwnnw yn unol ag adran 131 o Ddeddf Diwygio Lles 2012 i’r awdurdod sy’n gweinyddu gostyngiad treth gyngor, ac
(c) y person hwnnw yn atebol i dalu treth gyngor i’r awdurdod hwnnw.”
20 
Yn Atodlen 2 (symiau cymwysadwy: pensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfans personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£235.20” rhodder “£244.00”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£352.00” rhodder “£366.00”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£352.00” a “£116.80” rhodder “£366.00” a “£121.60” yn y drefn honno;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 2(1) (symiau plentyn neu berson ifanc), yn lle “£83.24”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£84.66”;
(c) ym mharagraff 3 (premiwm teulu), yn lle “£19.15” rhodder “£19.48”;
(d) yn yr ail golofn (swm) yn y Tabl ym mharagraff 12 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£81.50” yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£82.90” ac yn lle “£163.00” rhodder “£165.80”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£32.20” rhodder “£32.75”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£80.01” rhodder “£81.37”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£45.60” rhodder “£46.40”.
21 
Yn Atodlen 3 (symiau cymwysadwy: personau nad ydynt yn bensiynwyr)—
(a) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 1 (lwfansau personol)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£96.45”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£98.10” ac yn lle “£76.35” rhodder “£77.65”;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£96.45” rhodder “£98.10”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£151.45” rhodder “£154.00”;
(b) yng ngholofn (2) o’r Tabl ym mharagraff 3(1) (swm), yn lle “£83.24”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£84.66”;
(c) ym mharagraff 4(1)(b) (premiwm teulu), yn lle “£19.15” rhodder “£19.48”;
(d) yn yr ail golofn (swm) o’r Tabl ym mharagraff 17 (symiau’r premiymau a bennir yn Rhan 3)—
(i) yn is-baragraff (1), yn lle “£42.50” a “£60.60” rhodder “£43.20” a “£61.65” yn y drefn honno;
(ii) yn is-baragraff (2), yn lle “£81.50”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “£82.90” ac yn lle “£163.00” rhodder “£165.80”;
(iii) yn is-baragraff (3), yn lle “£80.01” rhodder “£81.37”;
(iv) yn is-baragraff (4), yn lle “£45.60” rhodder “£46.40”;
(v) yn is-baragraff (5), yn lle “£32.20”, “£20.85” a “£29.75” rhodder “£32.75”, “£21.20” a “£30.25” yn y drefn honno;
(e) ym mharagraff 23, yn lle “£35.95” rhodder “£36.55”;
(f) ym mharagraff 24, yn lle “£47.70” rhodder “£48.50”.
22 
Yn Atodlen 8 (diystyriadau cyfalaf: pensiynwyr), ym mharagraff 16(1)(a), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester,” mewnosoder “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor,”.
23 
Yn Atodlen 9 (diystyriadau cyfalaf: personau nad ydynt yn bensiynwyr), ym mharagraff 29(1), ar ôl “Cronfa Argyfwng We Love Manchester,” mewnosoder “y Cynllun Digolledu Dioddefwyr Terfysgaeth Dramor,”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2025