
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Addasu Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 23 Ionawr 2025.
2 

(1) Mae Atodlen 21A i Ddeddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 2 (ystyr safle treth arbennig) rhodder—“
2. 
Yn yr Atodlen hon, ystyr “safle treth arbennig” yw’r ardaloedd a ddynodir yn ardaloedd arbennig gan—
(a) Rheoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Celtaidd) 2024 (O.S. 2024/1035) fel y’u gwnaed ar 16 Hydref 2024;
(b) Rheoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Ynys Môn) 2024 (O.S. 2024/1286) fel y’u gwnaed ar 4 Rhagfyr 2024.”
(3) Ym mharagraff 5 (ystyr cyfnod rhyddhad)—
(a) daw’r geiriau “yw’r cyfnod sy’n dechrau â 26 Tachwedd 2024 ac sy’n dod i ben â 30 Medi 2029.” yn is-baragraff (a);
(b) yn is-baragraff (a), ar y dechrau mewnosoder “i’r graddau y mae’r cyfeiriad yn ymwneud â’r safle treth arbennig a grybwyllir ym mharagraff 2(a),”;
(c) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(b) i’r graddau y mae’r cyfeiriad yn ymwneud â’r safle treth arbennig a grybwyllir ym mharagraff 2(b), yw’r cyfnod sy’n dechrau â 23 Ionawr 2025 ac sy’n dod i ben â 30 Medi 2029.”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
22 Ionawr 2025