
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 8 Mai 2025.
2 

(1) Mae Gorchymyn Dolur Rhydd Feirysol Buchol (Cymru) 2024 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 1 (enwi, cymhwyso a dod i rym), ym mharagraff (4), yn lle “2025” rhodder “2026”.
(3) Yn lle’r geiriau “o dan oruchwyliaeth”, ym mhob lle y maent yn ymddangos, rhodder y geiriau “o dan gyfarwyddyd”.
(4) Yn erthygl 40 (profi cyn symud), ym mharagraff (2), yn lle “30” rhodder “60”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
24 Ebrill 2025