
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ebrill 2025.
2 
Ym mharagraff 22 (Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013) o Atodlen 1 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol a diddymiadau) i Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, hepgorer is-baragraff (4).
3 
Yn rheoliad 4(1)(d) (eithriadau) o Reoliadau Caeau Chwarae (Ymgysylltiad Cymunedau â Phenderfyniadau Gwaredu) (Cymru) 2015—
(a) yn lle “fo Gweinidogion Cymru” rhodder “fo’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”;
(b) yn lle “adran 72(1)” rhodder “adran 63D(2)”.
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2025