
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Cychwyn Rhif 5 a Darpariaethau Darfodol a Throsiannol) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “y Comisiwn” (“the Commission”) yw’r Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil a sefydlwyd gan adran 1 o’r Ddeddf;
 mae i “corff llywodraethu” (“governing body”) yr ystyr a roddir gan adran 57(1) o Ddeddf 2015;
 mae i “darparwr cofrestredig” (“registered provider”) yr ystyr a roddir gan adran 144(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “Deddf 2013” (“the 2013 Act”) yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013;
 ystyr “Deddf 2015” (“the 2015 Act”) yw Deddf Addysg Uwch (Cymru) 2015;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022;
 ystyr “Rheoliadau 2015” (“the 2015 Regulations”) yw Rheoliadau Addysg Uwch (Cynlluniau Ffioedd a Mynediad) (Hysbysiadau a Chyfarwyddydau) (Cymru) 2015;
 mae i “sefydliad rheoleiddiedig” (“regulated institution”) yr ystyr a roddir gan adran 7(5)(b) o Ddeddf 2015.
RHAN 2
2 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025—
(a) adran 25(2), (3), (5), (6) ac (8) i (11) (y gofrestr) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b) adran 27 (amodau cofrestru cychwynnol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(c) adran 28 (amodau cofrestru parhaus cyffredinol) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(d) adran 29 (amodau cofrestru parhaus penodol);
(e) adran 30 (amodau cymesur etc.) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(f) adran 31 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfer pob darparwr cofrestredig) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(g) adran 32 (amod cofrestru parhaus mandadol ar y terfynau ffioedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(h) adran 35 (dyletswydd y Comisiwn i roi canllawiau ynghylch amodau cofrestru parhaus) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(i) adran 36 (dyletswydd y Comisiwn i fonitro cydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(j) adran 37 (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad â chydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);
(k) adran 38 (adolygiadau sy’n berthnasol i gydymffurfedd ag amodau cofrestru parhaus);
(l) adran 39 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio ag amodau cofrestru parhaus);
(m) adran 40 (darpariaeth atodol ynghylch cyfarwyddydau o dan adran 39);
(n) adran 41 (datgofrestru) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(o) adran 42 (datgofrestru: y weithdrefn);
(p) adran 43 (datgofrestru’n wirfoddol a datgofrestru gyda chydsyniad) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(q) adran 44 (newid categori cofrestru heb gais);
(r) adran 45 (adolygiadau o benderfyniadau cofrestru);
(s) adran 47 (cymeradwyo datganiad terfyn ffioedd) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(t) adran 48 (cyhoeddi datganiad terfyn ffioedd cymeradwy);
(u) adran 56 (arfer swyddogaethau asesu addysg uwch gan gorff dynodedig);
(v) adran 73 (dyletswydd i gydweithredu);
(w) adran 74 (pwerau mynd i mewn ac arolygu);
(x) adran 75 (cymhwyso adrannau 76 i 78);
(y) adran 76 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio);
(z) adran 77 (yr wybodaeth sydd i’w rhoi gyda hysbysiadau a chyfarwyddydau a’r effaith tra bo adolygiad yn yr arfaeth);
(aa) adran 78 (adolygu hysbysiadau a chyfarwyddydau);
(bb) adran 79 (adolygydd penderfyniadau);
(cc) adran 81(1), (2), (3)(b) a (4) (datganiad y Comisiwn ar swyddogaethau ymyrryd);
(dd) adran 82 (effaith cyfarwyddydau a’u gorfodi);
(ee) adran 83 (dynodi darparwyr addysg drydyddol eraill) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ff) adran 84 (dehongli Rhan 2) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(gg) adran 87(1), (3) a (4) (polisi ar bwerau cyllido) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(hh) adran 101(3) (y chweched dosbarth mewn ysgolion) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ii) adran 126 (cynlluniau diogelu dysgwyr);
(jj) adran 129 (y cod ymgysylltu â dysgwyr);
(kk) yn Atodlen 1 (y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil)—
(i) paragraff 16(1)(g);
(ii) paragraff 16(1)(h);
(ll) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol)—
(i) paragraff 8(8);
(ii) paragraff 11;
(iii) paragraff 29(1) i (4), (6) i (8) a (10) i (13).
3 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 i’r graddau a bennir mewn perthynas â phob darpariaeth o’r fath—
(a) adran 33 (amodau cofrestru parhaus mandadol ar gyfle cyfartal), at ddibenion galluogi’r Comisiwn—
(i) i ymgynghori o dan adran 28(7) o’r Ddeddf mewn perthynas ag unrhyw amodau cofrestru parhaus cyffredinol ar gyfle cyfartal;
(ii) i baratoi ar gyfer amodau cofrestru parhaus ar gyfle cyfartal y gellir eu gosod fel amodau cofrestru parhaus penodol o dan adran 29 o’r Ddeddf;
(b) adran 87(5) i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas ag adrannau 88 (cymorth ariannol i ddarparwyr penodedig ar gyfer addysg uwch), 89 (cymorth ariannol ar gyfer cyrsiau addysg uwch a bennir mewn rheoliadau) a 105 (cymorth ariannol ar gyfer ymchwil ac arloesi) o’r Ddeddf;
(c) paragraff 6 (goruchwyliaeth gan y Comisiwn) o Atodlen 3 (asesu addysg uwch: corff dynodedig), at ddibenion galluogi’r Comisiwn i baratoi trefniadau o dan y paragraff hwnnw.
4 

(1) Daw adran 81(3)(a) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiad a nodir ym mharagraff (2), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae adran 81(3)(a) yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.
5 

(1) Daw Rhan 1 (dynodiad) o Atodlen 3 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r addasiadau a nodir ym mharagraffau (2) i (4), sy’n gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben â 31 Gorffennaf 2026.
(2) Mae paragraff 1(3)(b)(i) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.
(3) Mae paragraff 2(2)(b) ac (c) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at ddarparwyr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriadau at sefydliadau rheoleiddiedig.
(4) Mae paragraff 3(4)(b)(i) o Atodlen 3 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriad at ddarparwr cofrestredig sy’n darparu addysg uwch yn gyfeiriad at sefydliad rheoleiddiedig.
6 

(1) Daw paragraff 29(5) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mae adran 50(1) (eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru) o Ddeddf 2013 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 5 Ebrill 2025 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 48 (cyhoeddi ac ymgynghori) o’r Ddeddf honno cyn 5 Ebrill 2025.
7 

(1) Daw paragraff 29(9) o Atodlen 4 i’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 yn ddarostyngedig i’r ddarpariaeth drosiannol a nodir ym mharagraff (2).
(2) Mae adran 80(3) (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol) o Ddeddf 2013 yn parhau i fod yn gymwys ar ac ar ôl 5 Ebrill 2025 fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y dyddiad hwnnw mewn perthynas ag ymgynghoriadau a gychwynnwyd o dan adran 80(3) o’r Ddeddf honno cyn 5 Ebrill 2025.
8 

(1) Daw adrannau 51 (dyletswydd i fonitro ansawdd addysg drydyddol reoleiddiedig ac i hybu gwelliant yn ansawdd yr addysg honno) i 53 (adolygiadau sy’n berthnasol i ansawdd addysg drydyddol) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i gyhoeddi datganiad sy’n nodi sut y mae’n bwriadu arfer ei swyddogaethau ymyrryd, yn unol ag adran 81(1) o’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r addasiadau ym mharagraffau (5) a (6).
(2) Daw adran 54 (asesu ansawdd addysg uwch) o’r Ddeddf i rym ar 5 Ebrill 2025 at ddibenion galluogi’r Comisiwn i ddynodi corff o dan Atodlen 3 i’r Ddeddf, yn ddarostyngedig i’r addasiad ym mharagraff (7).
(3) Mae’r addasiad, i’r Ddeddf, sydd wedi ei nodi ym mharagraff (5)(a), yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 6(3)(c) o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym.
(4) Mae’r addasiadau i’r Ddeddf sydd wedi eu nodi ym mharagraffau (5)(b), (6) a (7) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 5 Ebrill 2025 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(5) Mae adran 51(b) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai’r cyfeiriad at addysg drydyddol a gyllidir gan y Comisiwn neu a sicrheir fel arall ganddo yn cynnwys addysg drydyddol—
(a) a gyllidir gan y Comisiwn yn unol â’i bwerau yn adran 65 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992;
(b) a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.
(6) Mae adrannau 52(1)(b) ac (c) (cyngor a chynhorthwy mewn cysylltiad ag ansawdd addysg drydyddol) a 53(b) ac (c) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai’r cyfeiriadau at addysg drydyddol, neu gwrs penodol o addysg drydyddol, yn cynnwys addysg drydyddol, neu gwrs penodol o addysg drydyddol, a ddarperir gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.
(7) Mae adran 54(3) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe na bai pŵer y Comisiwn i asesu, neu wneud trefniadau ar gyfer asesu, ansawdd addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan unrhyw ddarparwr addysg drydyddol, yn cynnwys addysg uwch a ddarperir yng Nghymru gan, neu ar ran, sefydliad rheoleiddiedig nad yw’n ddarparwr cofrestredig.
(8) Yn yr erthygl hon, mae i “addysg drydyddol” ac “addysg uwch” yr ystyron a roddir gan adran 144(1) o’r Ddeddf.
RHAN 3
9 
Daw adran 26 (y weithdrefn gofrestru) i rym ar 1 Ionawr 2026.
10 
Daw adran 25(1) a (4) i rym ar 31 Gorffennaf 2026 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym.
RHAN 4
11 

(1) Mae’r addasiadau i adran 1 o Ddeddf 2015 sydd wedi eu nodi ym mharagraff (2) yn gymwys yn ystod y cyfnod sy’n dechrau â 31 Gorffennaf 2026 ac sy’n dod i ben yn union cyn i baragraff 31 o Atodlen 4 i’r Ddeddf ddod i rym yn llawn.
(2) Mae adran 1(4) a (5) yn cael effaith fel pe bai’r ddau gyfeiriad at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad yn gyfeiriadau at sefydliadau sydd â chynllun ffioedd a mynediad ac eithrio sefydliadau sydd hefyd yn ddarparwyr cofrestredig.
12 

(1) Nid yw’r darpariaethau yn Neddf 2015 o fewn paragraff (2) yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Y darpariaethau yw—
(a) Rhan 3 (ansawdd yr addysg);
(b) Rhan 4 (materion ariannol sefydliadau rheoleiddiedig);
(c) adran 37(3)(d) ac (e) (hysbysiad ynghylch gwrthod cymeradwyo cynllun ffioedd a mynediad newydd);
(d) adran 39(2)(c) a (d) (pŵer i dynnu cymeradwyaeth yn ôl);
(e) adran 52(5)(c) i (f) (datganiad mewn cysylltiad â swyddogaethau ymyrryd);
(f) adran 52(5)(g) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 37(3)(d) ac (e);
(g) adran 52(5)(h) i’r graddau y mae’n ymwneud ag adran 39(2)(c) a (d).
(3) Ym mharagraff (1), mae sefydliad rheoleiddiedig yn cynnwys sefydliad sy’n cael ei drin fel sefydliad rheoleiddiedig yn rhinwedd adran 26 (cymhwyso’r Rhan hon pan fo sefydliad yn peidio â chael cynllun a gymeradwywyd) o Ddeddf 2015.
13 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo’r Comisiwn wedi rhoi i sefydliad rheoleiddiedig hysbysiad rhybuddio o fewn paragraff (3) a phan fo’r sefydliad yn dod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Er gwaethaf yr hysbysiad rhybuddio, ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, ni chaiff y Comisiwn roi cyfarwyddyd na hysbysiad iddo o dan y darpariaethau a grybwyllir ym mharagraff (3).
(3) Mae hysbysiad rhybuddio o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan adran 42 (hysbysiadau a chyfarwyddydau arfaethedig: gofyniad i roi hysbysiad rhybuddio) o Ddeddf 2015 ac mae’n ymwneud â’r canlynol—
(a) cyfarwyddyd arfaethedig o dan—
(i) adran 19 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad ag ansawdd annigonol) o’r Ddeddf honno;
(ii) adran 33 (cyfarwyddydau mewn cysylltiad â methiant i gydymffurfio â’r Cod) o’r Ddeddf honno;
(b) hysbysiad arfaethedig o dan—
(i) adran 37(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;
(ii) adran 39(1) o’r Ddeddf honno mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.
14 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei ddirymu.
(3) Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—
(a) adran 19 o Ddeddf 2015;
(b) adran 33 o Ddeddf 2015.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gyfarwyddyd a roddir—
(a) pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 (y weithdrefn i wneud cais am adolygiad o hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
(b) pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
(i) pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
(ii) pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod y cyfarwyddyd yn cael effaith.
(5) Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) (trin hysbysiadau a chyfarwyddydau) o Reoliadau 2015.
15 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i hysbysiad a roddir gan y Comisiwn i sefydliad rheoleiddiedig sy’n dod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig ddod yn ddarparwr cofrestredig, mae hysbysiad sydd o fewn paragraff (3) ac y mae paragraff (4) yn gymwys iddo i’w drin fel pe bai wedi ei dynnu’n ôl.
(3) Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—
(a) adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno, neu
(b) adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i hysbysiad a roddir—
(a) pan na fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig ei fod yn derbyn yr hysbysiad a phan na fo’r cyfnod ar gyfer gwneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 wedi dod i ben, neu
(b) pan fo corff llywodraethu’r sefydliad wedi gwneud cais i’r panel adolygu o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 ac—
(i) pan na fo’r adolygiad wedi gorffen, neu
(ii) pan fo’r adolygiad wedi gorffen ond pan na fo’r Comisiwn wedi hysbysu’r corff llywodraethu yn ysgrifenedig fod yr hysbysiad yn cael effaith.
(5) Ym mharagraff (4)(a), ystyr hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig yw hysbysu o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015.
16 

(1) Nid yw dim yn y Rhan hon yn effeithio ar gymhwysiad hysbysiad sydd—
(a) o fewn paragraff (2), a
(b) mewn effaith mewn perthynas â sefydliad yn union cyn i’r sefydliad hwnnw ddod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Mae hysbysiad o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan—
(a) adran 37(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 37(3)(d) neu (e) o’r Ddeddf honno;
(b) adran 39(1) o Ddeddf 2015 mewn cysylltiad â’r amod yn adran 39(2)(c) neu (d) o’r Ddeddf honno.
(3) Mae hysbysiad mewn effaith—
(a) os yw corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r hysbysiad wedi ei gyfeirio ato wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn yr hysbysiad,
(b) os na all y corff hwnnw wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
(c) os yw’r corff hwnnw wedi cael hysbysiad o dan reoliad 10(2) (y weithdrefn ar ôl adolygu) o Reoliadau 2015 fod yr hysbysiad yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r hysbysiad orffen.
(4) Ym mharagraff (1), nid yw hysbysiad a roddir o dan adran 37 o Ddeddf 2015 mewn effaith—
(a) os yw’r cyfnod a bennir yn yr hysbysiad wedi dod i ben, neu
(b) os yw’r hysbysiad wedi cael ei dynnu’n ôl o dan adran 37(6) o Ddeddf 2015.
17 

(1) Nid yw cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff (2) ac mewn effaith yn gymwys ar ôl i’r sefydliad rheoleiddiedig y rhoddwyd y cyfarwyddyd iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Mae cyfarwyddyd o fewn y paragraff hwn os yw’n cael ei roi o dan unrhyw un o’r adrannau a ganlyn o Ddeddf 2015—
(a) adran 19;
(b) adran 21(3) (asesu ansawdd etc: dyletswydd i gydweithredu);
(c) adran 33;
(d) adran 35(2) (rheolaeth ariannol: dyletswydd i gydweithredu).
(3) Mae cyfarwyddyd sydd o fewn paragraff 2(a) neu (c) mewn effaith—
(a) os yw’r canlynol yn wir—
(i) bod corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi hysbysu’r Comisiwn yn ysgrifenedig o dan reoliad 4(a) o Reoliadau 2015 ei fod yn derbyn y cyfarwyddyd,
(ii) na all corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wneud cais am adolygiad o dan reoliad 8 o Reoliadau 2015 oherwydd bod y cyfnod ar gyfer gwneud cais i’r panel adolygu wedi dod i ben, neu
(iii) bod corff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato wedi cael ei hysbysu yn ysgrifenedig gan y Comisiwn fod y cyfarwyddyd yn cael effaith ar ôl i adolygiad mewn cysylltiad â’r cyfarwyddyd hwnnw orffen,
(b) os nad yw’r Comisiwn wedi dirymu’r cyfarwyddyd o dan adran 46(b) (cyfarwyddydau: cyffredinol) o Ddeddf 2015, ac
(c) i’r graddau nad yw’r Comisiwn wedi rhoi hysbysiad o dan adran 45(3) (cyfarwyddydau: cydymffurfio a gorfodi) o Ddeddf 2015 i gorff llywodraethu’r sefydliad y mae’r cyfarwyddyd wedi ei gyfeirio ato yn datgan bod y Comisiwn wedi ei fodloni bod y corff—
(i) wedi cydymffurfio â’r cyfarwyddyd, neu
(ii) wedi cydymffurfio â gofyniad penodol yn y cyfarwyddyd.
(4) Ym mharagraff (1), mae cyfarwyddyd yn cynnwys cyfarwyddyd sydd wedi ei amrywio o dan adran 46(b) o Ddeddf 2015.
18 

(1) I’r graddau y mae’n ymwneud â’r darpariaethau yn Neddf 2015 a restrir ym mharagraff (2), nid yw datganiad a gyhoeddir o dan adran 52 o’r Ddeddf honno yn gymwys mewn perthynas â sefydliad rheoleiddiedig ar ôl iddo ddod yn ddarparwr cofrestredig.
(2) Y darpariaethau yn Neddf 2015 yw—
(a) adran 19;
(b) adran 20(1) a (2);
(c) adran 33;
(d) adran 34;
(e) adran 37(3)(d) ac (e);
(f) adran 39(2)(c) a (d).
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
2 Ebrill 2025