
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn y Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Mawrth 2025.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 18 (addasiadau i gyfarwyddeb 2009/156), yn lle paragraff (6)(e)(ii) rhodder—“
(ii) ym mhwynt (a), “by an Order made by the Welsh Ministers under section 10 of the Animal Health Act 1981” wedi ei roi yn lle “in accordance with the procedure referred to in Article 21(3)”.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
27 Mawrth 2025