
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Gweithdrefn Ddatblygu (Ymgyngoreion) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025.
(2) Daw i rym ar 21 Ebrill 2025.
(3) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Gorchymyn 2012” (“the 2012 Order”) yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012;
 ystyr “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) yw Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016.
2 

(1) Mae Atodlen 4 i Orchymyn 2012 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, yn lle rhes (x) rhodder—“
(x) Datblygiad—(i) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2;(ii) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3;(iii) Ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15. Corff Adnoddau Naturiol Cymru”
(3) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn lle paragraff (n) rhodder—“
(n) “ym mharagraff (x)—
 ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal â llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
 ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea – Flood Zone 3”) yw ardal â mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd, a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
 ystyr “Parthau Amddiffynedig TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru.”.
3 

(1) Mae Atodlen 5 i Orchymyn 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y tabl, yn lle rhes (u) rhodder—“
(u) Datblygiad—(i) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2;(ii) Ar dir o fewn Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3;(iii)Ar dir o fewn Parthau Amddiffynedig TAN 15. Corff Adnoddau Naturiol Cymru”
(3) O dan y pennawd “Dehongli’r Tabl”, yn lle paragraff (j) rhodder—“ym mharagraff (u)—
(i) ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 2” (“Rivers and Sea – Flood Zone 2”) yw ardal â llai nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd a llai nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr ond mwy nag 1 siawns mewn 1000 o lifogydd o afonydd a’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
(ii) ystyr “Afonydd a’r Môr – Parth Llifogydd 3” (“Rivers and Sea – Flood Zone 3”) yw ardal lle y mae mwy nag 1 siawns mewn 100 o lifogydd o afonydd mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd, a mwy nag 1 siawns mewn 200 o lifogydd o’r môr mewn blwyddyn benodol, gan gynnwys newid hinsawdd;
(iii) ystyr “Parthau Amddiffynedig TAN 15” (“TAN 15 Defended Zones”) yw ardaloedd lle y mae seilwaith rheoli perygl llifogydd yn darparu safon ofynnol o ddiogelwch rhag llifogydd o 1 mewn 100 o afonydd ac 1 mewn 200 o’r môr (ynghyd â newid hinsawdd a bwrdd rhydd) fel y nodir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio a gyhoeddir gan Gyfoeth Naturiol Cymru”.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2025