
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn—
(a) yn rhychwantu Cymru a Lloegr;
(b) yn gymwys o ran Cymru, ond nid o ran y dyfroedd tiriogaethol sy’n gyfagos i Gymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Mawrth 2026.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “awdurdod bwyd” yr ystyr a roddir i “food authority” gan adran 5(1A) o’r Ddeddf;
 mae i “busnes cymhwysol” (“qualifying business”) yr ystyr a roddir gan reoliad 4;
 mae i “bwyd” yr un ystyr â “food” yn adran 1(1) o’r Ddeddf;
 mae i “bwyd Atodlen 1” (“Schedule 1 food”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3(2);
 mae i “bwyd penodedig” (“specified food”) yr ystyr a roddir gan reoliad 3;
 ystyr “y Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau” (“the Nutrient Profiling Technical Guidance”) yw’r canllawiau a gyhoeddwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar 14 Ionawr 2011 ynghylch cymhwyso Model Proffilio Maethynnau 2004-2005 ;
 ystyr “cynnig arbennig perthnasol” (“relevant special offer”) yw cynnig o bris gostyngol am eitemau lluosog a hyrwyddir fel rhai y bwriedir iddynt gael eu defnyddio gyda’i gilydd fel un pryd o fwyd neu fel rhan o un pryd o fwyd, gan un person neu gan ddau neu ragor o bobl gyda’i gilydd (megis cynigion “bargen fwyd” neu “bargen bwyta i mewn i ddau”);
 mae i “defnyddiwr” yr ystyr a roddir i “consumer” gan adran 2(3) o Ddeddf Hawliau Defnyddwyr 2015;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Diogelwch Bwyd 1990;
 ystyr “eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu” (“prepacked food item”) yw eitem y cyfeirir ati yn Erthygl 2(2)(e) o Reoliad (EU) Rhif 1169/2011 Senedd Ewrop a’r Cyngor, dyddiedig 25 Hydref 2011, ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr;
 ystyr “marchnadle ar-lein” (“online marketplace”) yw unrhyw feddalwedd (gan gynnwys gwefan, rhan o wefan, neu raglen) a ddefnyddir i gynnig cynhyrchion y busnes cymhwysol ar werth i ddefnyddwyr;
 ystyr “person cymhwysol” (“qualifying person”) yw person sy’n gweithredu wrth gynnal busnes cymhwysol.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae person cymhwysol yn cynnig cynhyrchion busnes cymhwysol ar werth ar farchnadle ar-lein os yw’n penderfynu (naill ai ar ran y busnes cymhwysol neu ar ran busnes arall) fod y cynnyrch i’w gynnig ar werth, ac yn penderfynu ar bris y cynnyrch hwnnw, ni waeth pwy sy’n ymgymryd ar ran y busnes cymhwysol—
(a) i gael taliad gan y prynwr, neu
(b) i weithredu’r marchnadle ar-lein fel arall.
RHAN 2
3 

(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, “bwyd penodedig” yw bwyd sydd wedi ei gynnwys mewn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu—
(a) sy’n fwyd Atodlen 1,
(b) sy’n llai iach (fel y’i diffinnir ym mharagraff (5)), ac
(c) nad yw’n fwyd y mae paragraff (6) (gwerthiant bwyd elusennol) yn gymwys iddo.
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, ystyr “bwyd Atodlen 1” yw bwyd sy’n dod o fewn categori a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn (categorïau o fwyd penodedig).
(3) Pan fo eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu yn cynnwys mwy nag un math o fwyd, mae’r holl fwyd a gynhwysir yn yr eitem i’w drin at ddibenion paragraff (1)(a) fel bwyd Atodlen 1 pan fyddai un (neu ragor) o’r mathau o fwyd a gynhwysir yn yr eitem, ar ei ben ei hun, yn fwyd Atodlen 1.
(4) Pan fo cynnyrch yn cynnwys eitemau lluosog, y mae un (neu ragor) ohonynt yn eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu sy’n cynnwys bwyd penodedig, mae’r cynnyrch cyfan i’w drin fel bwyd penodedig.
(5) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) mae bwyd nad yw’n ddiod yn llai iach os pennir sgôr o 4 pwynt neu ragor iddo yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau;
(b) mae diod yn llai iach os pennir sgôr o 1 pwynt neu ragor iddi yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau.
(6) Mae’r paragraff hwn yn gymwys i fwyd—
(a) a ddarperir gan elusen, wrth gynnal ei gweithgareddau elusennol, am ddim neu am bris sy’n llai na chost darparu’r bwyd hwnnw, neu
(b) a gynigir ar werth gan neu ar ran elusen er mwyn codi arian ar gyfer ei gweithgareddau elusennol mewn un digwyddiad.
(7) At ddibenion paragraff (6)—
(a) mae i “elusen” yr ystyr a roddir i “charity” gan adran 1 o Ddeddf Elusennau 2011;
(b) ystyr “gweithgaredd elusennol” yw gweithgaredd a gyflawnir at ddiben elusennol, heblaw at ddiben codi arian yn bennaf;
(c) mae i “diben elusennol” yr ystyr a roddir i “charitable purpose” gan adran 2(1) o Ddeddf Elusennau 2011.
4 

(1) At ddibenion rheoliadau 5 (cyfyngu ar hyrwyddiadau pris), 6 (cyfyngu ar gyflwyno mewn siop) a 7 (cyfyngu ar gyflwyno ar-lein) mae busnes yn “busnes cymhwysol”—
(a) os yw person, wrth gynnal y busnes, yn cynnig ar werth i ddefnyddwyr (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein) unrhyw eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu,
(b) os oedd gan y busnes, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath, 50 o gyflogeion neu ragor, ac
(c) os nad yw’r busnes—
(i) yn gartref gofal;
(ii) yn sefydliad addysgol;
(iii) yn fwyty.
(2) At ddibenion rheoliad 8 (cyfyngu ar hyrwyddiadau ail-lenwadau diodydd) mae busnes yn “busnes cymhwysol”—
(a) os yw person, wrth gynnal y busnes, yn cynnig ar werth i ddefnyddwyr (mewn siop) unrhyw ddiod y mae rheoliad 8 yn gymwys iddi,
(b) os oedd gan y busnes, ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn ariannol pan ddigwyddodd unrhyw gynnig i werthu o’r fath, 50 o gyflogeion neu ragor, ac
(c) os nad yw’r busnes—
(i) yn gartref gofal;
(ii) yn sefydliad addysgol.
(3) At ddibenion penderfynu faint o gyflogeion sydd gan fusnes, mae busnes a gynhelir yn unol â chytundeb masnachfraint i’w drin fel rhan o fusnes y breiniwr ac nid fel busnes ar wahân a gynhelir gan y deiliad braint.
(4) Mae “cytundeb masnachfraint” yn bodoli—
(a) pan fo un ymgymeriad (“y deiliad braint”) ac ymgymeriad arall (“y breiniwr”) yn cytuno bod y deiliad braint yn cynnal gweithgaredd busnes sy’n cynnwys gwerthu neu ddosbarthu bwyd (“y busnes masnachfraint”), a
(b) pan fo paragraffau (5) a (6) yn gymwys i’r busnes masnachfraint.
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r breiniwr wedi cytuno ar y canlynol—
(a) y bwyd a ddarperir yn y busnes masnachfraint,
(b) golwg mewnol neu allanol y fangre y mae’r busnes masnachfraint yn cael ei gynnal ynddi, ac
(c) y model busnes a ddefnyddir ar gyfer gweithredu’r busnes masnachfraint.
(6) Mae’r paragraff hwn yn gymwys os yw’r materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (5) yn debyg i faterion ymgymeriadau eraill y mae’r breiniwr wedi ymrwymo i drefniadau contractiol cymaradwy mewn cysylltiad â hwy.
(7) At ddibenion y rheoliad hwn—
(a) cyflogeion busnes yw’r personau sydd wedi eu cyflogi at ddibenion y busnes;
(b) ystyr “cartref gofal” yw man yng Nghymru lle y darperir gwasanaeth cartref gofal, o fewn ystyr Rhan 1 o Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016, yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sy’n 18 oed neu’n hŷn ac nad yw’n darparu bwyd ond i breswylwyr y cartref gofal hwnnw ac sy’n codi tâl am y gwasanaeth hwnnw fel rhan o gost y llety;
(c) ystyr “contract cyflogaeth” yw contract gwasanaeth, sydd naill ai’n ddatganedig neu’n oblygedig, ac (os yw’n ddatganedig) naill ai ar lafar neu mewn ysgrifen;
(d) ystyr “sefydliad addysgol” yw sefydliad sy’n darparu addysg yn unig pan fo’r addysg honno yn cael ei darparu’n gyfan gwbl neu’n bennaf i ddisgyblion sydd o dan 18 oed;
(e) ystyr “cyflogai” yw unigolyn sydd wedi ymrwymo i gontract cyflogaeth neu sy’n gweithio o dan gontract o’r fath, pa un a yw’r contract hwnnw ar gyfer cyflogaeth llawnamser neu ran-amser;
(f) ystyr “bwyty” yw busnes y mae ei fangre yn cael ei defnyddio yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys caffi, siop goffi, busnes bwyd cyflym neu fusnes cludfwyd).
RHAN 3
5 

(1) Ni chaiff person cymhwysol gynnig bwyd penodedig ar werth fel rhan o hyrwyddiad pris ar sail swmp (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein).
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “hyrwyddiad pris ar sail swmp” yw—
(a) hyrwyddiad amleitem, sef cynnig datganedig sy’n rhoi cymhelliad ariannol dros brynu eitemau lluosog o gymharu â phrynu pob eitem ar wahân (gan gynnwys “3 am bris 2”, “3 am £10”, neu “prynu 6 ac arbed 25%”);
(b) hyrwyddiad sy’n dangos bod eitem, neu unrhyw ran o eitem, yn rhad ac am ddim (gan gynnwys “50% yn ychwanegol am ddim”, neu “prynu un eitem a chael un arall am ddim”).
(3) Nid yw hyrwyddiad amleitem yn cynnwys cynnig arbennig perthnasol.
6 

(1) Ni chaiff person cymhwysol gyflwyno bwyd penodedig y tu mewn i siop—
(a) o fewn 2 fetr i gyfleuster talu, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);
(b) o fewn 2 fetr i ardal giwio ddynodedig, oni bai bod y bwyd penodedig wedi ei gyflwyno mewn eil (ond nid ar ei phen draw);
(c) mewn arddangosiad—
(i) sydd ar ben draw eil (ond nid yn yr eil), na
(ii) sydd ar strwythur ar wahân (megis bin ynys, uned annibynnol, pentwr ochr neu stribed clipiau) sydd wedi ei gysylltu â phen draw eil, neu’n gyfagos iddo, neu o fewn 50 centimetr iddo;
(d) mewn unrhyw fan o fewn y pellter gwaharddedig oddi wrth ganolbwynt unrhyw fynedfa gyhoeddus i brif ardal siopa’r siop;
(e) mewn ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio.
(2) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i’r naill neu’r llall o’r canlynol—
(a) siopau y mae arwynebedd perthnasol y llawr yn llai na 185.8 metr sgwâr;
(b) siopau nad ydynt ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.
(3) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “cyfleuster talu” yw cyfleuster y bwriedir i ddefnyddwyr ei ddefnyddio i brynu, gan gynnwys terfynell hunanwasanaeth a chownter lle y defnyddir til arian parod (gan gynnwys yr ardal y tu ôl i gownter o’r fath);
(b) ystyr “ardal allanol sydd wedi ei gorchuddio” yw ardal o dan orchudd, sydd y tu allan ac wedi ei chysylltu â phrif ardal siopa siop, y mae’r cyhoedd yn pasio drwyddi er mwyn mynd i mewn i’r brif ardal siopa (megis cyntedd, lobi neu festibwl);
(c) ystyr “ardal giwio ddynodedig” yw ardal sydd wedi ei neilltuo a’i marcio at ddiben darparu lle i ddefnyddwyr aros i brynu;
(d) ystyr “pellter gwaharddedig” yw’r lleiaf o blith 15 metr neu’r ateb i’r fformiwla a ganlyn—0.03×alle ɑ yw arwynebedd perthnasol y llawr yn y siop;
(e) ystyr “arwynebedd perthnasol y llawr” yw arwynebedd mewnol llawr siop mewn adeilad, ac eithrio unrhyw ran o’r siop—
(i) nas defnyddir ar gyfer arddangos nwyddau neu ar gyfer gwasanaethu cwsmeriaid mewn cysylltiad â gwerthu nwyddau (megis mannau storio),
(ii) a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer paratoi neu werthu bwyd y bwriedir iddo gael ei fwyta ar unwaith, naill ai ar neu oddi ar y fangre (gan gynnwys siop goffi neu ffreutur),
(iii) sy’n ystafell a ddefnyddir i ymgynghori â chwsmeriaid mewn cysylltiad ag unrhyw wasanaethau meddygol (megis fferyllfa neu wasanaethau optegydd) a gynigir yn y siop, neu
(iv) sydd wedi ei meddiannu gan fusnes heblaw’r busnes sy’n bennaf cyfrifol am reoli a gweithredu’r siop (“consesiwn”), ond dim ond pan fo’r consesiwn yn gweithredu ei gyfleusterau talu ei hun.
7 

(1) Ni chaiff person cymhwysol beri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ar farchnadle ar-lein—
(a) ar dudalen gartref (pa un a yw’r defnyddiwr yn mynd i mewn i’r marchnadle ar-lein drwy’r dudalen gartref ai peidio);
(b) tra bo defnyddiwr yn chwilio am gynhyrchion heblaw bwyd Atodlen 1 neu’n pori drwy gynhyrchion o’r fath, oni bai bod paragraff (4) neu (5) yn gymwys;
(c) tra bo defnyddiwr yn chwilio am fwyd Atodlen 1 neu’n pori drwy fwyd o’r fath, oni bai—
(i) bod y bwyd penodedig yn dod o fewn yr un categori yn Atodlen 1, neu
(ii) bod paragraff (4) neu (5) yn gymwys;
(d) ar dudalen nas agorir yn fwriadol gan y defnyddiwr (megis tudalen “naid” neu “hyrddiad brandio”);
(e) ar dudalen hoff gynhyrchion, oni bai bod y defnyddiwr wedi prynu’r bwyd penodedig o’r blaen (naill ai mewn siop neu ar farchnadle ar-lein) neu wedi ei nodi’n fwriadol fel hoff gynnyrch, ond ni chaniateir rhoi mwy o amlygrwydd i fwyd penodedig nag i gynhyrchion eraill ar dudalen hoff gynhyrchion;
(f) ar dudalen dalu.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gwahardd cynnig bwyd penodedig ar werth ar dudalen a agorir yn fwriadol gan ddefnyddiwr at ddiben pori drwy gynigion arbennig yn gyffredinol.
(3) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn cysylltiad â busnes cymhwysol nad yw ond yn gwerthu bwyd o un categori a restrir yn Atodlen 1 neu sy’n gwerthu bwyd o’r fath yn bennaf.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo defnyddiwr yn chwilio am fwyd neu’n ei bori (pa un a yw’n fwyd penodedig ai peidio), a
(b) pan fo’r person cymhwysol yn peri i fwyd penodedig gael ei gynnig ar werth ynghyd â’r bwyd y cyfeirir ato yn is-baragraff (a) fel rhan o gynnig arbennig perthnasol.
(5) Mae’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) pan fo defnyddiwr yn pori drwy gategori cyffredinol o gynnyrch sy’n cynnwys y bwyd penodedig (megis categorïau sy’n ymwneud â thymor, neu nodweddion maeth neu ddeiet);
(b) mewn perthynas â chwilio—
(i) pan fo defnyddiwr yn chwilio am gategori cyffredinol o gynnyrch sy’n cynnwys y bwyd penodedig;
(ii) pan fo term chwilio a fewnbynnwyd gan y defnyddiwr yn cyfateb yn gyfan gwbl neu’n rhannol—(aa) i’r enw y mae’r bwyd penodedig wedi ei farchnata odano, neu(bb) i gynhwysyn sydd wedi ei restru ar becynwaith y bwyd penodedig.
(6) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “tudalen dalu” yw tudalen a ddangosir i ddefnyddiwr fel rhan o’r broses dalu, megis tudalen sy’n rhestru eitemau y mae’r defnyddiwr wedi eu dethol hyd hynny i’w prynu, neu dudalen sy’n ymdrin â thalu, casglu neu ddanfon;
(b) ystyr “tudalen hoff gynhyrchion” yw tudalen a agorir gan ddefnyddiwr at ddiben pori drwy gynhyrchion y mae wedi eu prynu o’r blaen neu wedi eu nodi’n fwriadol fel hoff gynhyrchion;
(c) ystyr “tudalen gartref” yw unrhyw un neu ragor o—
(i) tudalen gyhoeddus lefel uchaf marchnadle ar-lein;
(ii) tudalen gyhoeddus lefel uchaf adran groser marchnadle ar-lein.
RHAN 4
8 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddiod nad yw’n eitem fwyd wedi ei rhagbecynnu ac—
(a) sy’n dod o fewn categori 1 o Atodlen 1,
(b) sy’n llai iach yn rhinwedd y ffaith bod ganddi sgôr o 1 pwynt neu ragor yn unol â’r Canllawiau Technegol ar gyfer Proffilio Maethynnau, ac
(c) nad yw’n fwyd y mae rheoliad 3(6) (gwerthiant bwyd elusennol) yn gymwys iddo.
(2) Ni chaiff person cymhwysol gynnig hyrwyddiad ail-lenwad am ddim ar gyfer diod y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi.
(3) Ystyr “hyrwyddiad ail-lenwad am ddim” yw hyrwyddiad sy’n cynnig i’r defnyddiwr yr un ddiod neu ddiod arall y mae’r rheoliad hwn yn gymwys iddi (gan gynnwys ychwanegiadau am ddim at unrhyw ddiod o’r fath), am ddim ar ôl yfed diod gyntaf.
RHAN 5
9 
Rhaid i bob awdurdod bwyd orfodi a gweithredu’r Rheoliadau hyn o fewn ei ardal.
10 
Os oes gan awdurdod bwyd seiliau rhesymol dros gredu bod person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o reoliadau 5 i 8, caniateir iddo, drwy hysbysiad a gyflwynir i’r person hwnnw (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “hysbysiad gwella”)—
(a) datgan ar ba sail y mae’r awdurdod yn credu bod y person yn methu â chydymffurfio ag un neu ragor o reoliadau 5 i 8,
(b) pennu’r materion sy’n peri bod y person yn methu â chydymffurfio,
(c) pennu’r camau y mae rhaid i’r person eu cymryd, ym marn yr awdurdod, er mwyn sicrhau cydymffurfedd, a
(d) ei gwneud yn ofynnol i’r person gymryd y camau hynny, neu gamau sy’n gyfwerth o leiaf â’r camau hynny, o fewn unrhyw gyfnod a bennir yn yr hysbysiad.
RHAN 6
11 

(1) Mae person yn cyflawni trosedd os yw’n methu â chydymffurfio â hysbysiad gwella a gyflwynir o dan reoliad 10.
(2) Mae person sy’n euog o drosedd o dan y rheoliad hwn yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy.
12 
Mae Atodlen 2 (cosbau ariannol penodedig) i’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gosod cosb ariannol benodedig ar berson (“cosb ariannol benodedig”) yn ddewis arall fel sancsiwn sifil ar gyfer gorfodi trosedd o dan reoliad 11.
RHAN 7
13 

(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd gyhoeddi canllawiau ynghylch ei ddefnydd o’r pŵer ym mharagraff 1 o Atodlen 2 (pŵer i osod cosbau ariannol penodedig).
(2) Rhaid i’r canllawiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) gynnwys gwybodaeth gan gynnwys (pa un ai ymhlith pethau eraill ai peidio)—
(a) yr amgylchiadau pan fo cosb ariannol benodedig yn debygol o gael ei gosod o dan y Rheoliadau hyn,
(b) yr amgylchiadau pan na chaniateir ei gosod,
(c) swm y gosb,
(d) sut y caniateir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ac effaith y rhyddhad hwnnw, ac
(e) hawliau person i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau a’i hawliau apelio.
(3) Rhaid i’r awdurdod bwyd adolygu’r canllawiau pan fo’n ystyried ei bod yn briodol.
(4) Rhaid i’r awdurdod bwyd ymgynghori â’r personau hynny y mae’n ystyried eu bod yn briodol cyn cyhoeddi unrhyw ganllawiau neu ganllawiau diwygiedig.
(5) Rhaid i bob awdurdod bwyd roi sylw i’r canllawiau neu’r canllawiau diwygiedig wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
14 

(1) Rhaid i bob awdurdod bwyd o bryd i’w gilydd gyhoeddi adroddiad am y camau gorfodi y mae wedi eu cymryd o dan y Rheoliadau hyn.
(2) Rhaid i’r adroddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) bennu—
(a) yr achosion y gosodwyd cosb ariannol benodedig ynddynt, a
(b) yr achosion y cafwyd rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb ariannol benodedig ynddynt drwy dalu’r gosb yn dilyn yr hysbysiad o fwriad a heb fod camau pellach yn cael eu cymryd.
(3) Ym mharagraff (2)(a), nid yw’r cyfeiriad at achosion y gosodwyd y gosb ariannol benodedig ynddynt yn cynnwys achosion pan fo’r gosb wedi ei gosod ond wedi ei gwrthdroi ar apêl.
(4) Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys mewn achosion pan fo’r canlynol yn wir ar adeg cyhoeddi’r adroddiad—
(a) nid yw’r cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gosodwyd y gosb ariannol benodedig wedi dod i ben eto, neu
(b) mae apêl a gyflwynwyd yn unol â pharagraffau 8 a 9 o Atodlen 2 yn yr arfaeth mewn perthynas â’r gosb ariannol benodedig.
(5) Nid oes dim yn y rheoliad hwn sy’n awdurdodi prosesu data personol pan fyddai gwneud hynny yn mynd yn groes i’r ddeddfwriaeth diogelu data, ac at y dibenion hyn, mae i “data personol” ac “y ddeddfwriaeth diogelu data” yr un ystyr ag a roddir i “personal data” a “the data protection legislation” yn adran 3 o Ddeddf Diogelu Data 2018.
15 

(1) Yn ogystal â’r adolygiad a gynhelir o dan adran 67 (adolygu) o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008, rhaid i Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd adolygu’r ddarpariaeth reoleiddiol sydd wedi ei chynnwys yn y Rheoliadau hyn a chyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau’r adolygiad.
(2) Rhaid cyhoeddi’r adroddiad cyntaf cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r Rheoliadau hyn i rym.
(3) Rhaid cyhoeddi adroddiadau dilynol ar ysbeidiau heb fod yn hwy na 5 mlynedd.
(4) Rhaid i adroddiad a gyhoeddir o dan y rheoliad hwn, yn benodol—
(a) nodi’r amcanion y bwriedir eu cyflawni gan y ddarpariaeth reoleiddiol yn y Rheoliadau hyn,
(b) asesu i ba raddau y cyflawnir yr amcanion hynny,
(c) asesu i ba raddau y mae’r amcanion hynny yn parhau’n briodol, a
(d) os yw’r amcanion hynny yn parhau’n briodol, asesu i ba raddau y gellid eu cyflawni mewn ffordd arall sy’n cynnwys darpariaeth reoleiddiol lai beichus.
(5) Yn y rheoliad hwn mae i “darpariaeth reoleiddiol” yr un ystyr â “regulatory provision” yn adran 32 o Ddeddf Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth 2015.
RHAN 8
16 

(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn y Ddeddf yn gymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn fel pe bai unrhyw gyfeiriad yn y darpariaethau hynny at y Ddeddf, neu at unrhyw Ran o’r Ddeddf, yn gyfeiriad at y Rheoliadau hyn—
(a) adran 3 (rhagdybiaethau y bwriedir i fwyd gael ei fwyta gan bobl);
(b) adran 20 (troseddau oherwydd bai person arall);
(c) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 3;
(d) adran 30(8) (sy’n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol);
(e) adran 32(1) i (8) (pwerau mynediad) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 3;
(f) adran 33(1) a (2) (rhwystro etc. swyddogion);
(g) adran 34 (terfynau amser ar gyfer erlyniadau) gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 3 o Atodlen 3;
(h) adran 35(1) a (2) (cosbi troseddau) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 4 o Atodlen 3;
(i) adran 36 (troseddau gan gyrff corfforedig);
(j) adran 36A (troseddau gan bartneriaethau Albanaidd);
(k) adran 37(1), (3), (5) a (6) (apelau i lys ynadon) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 5 o Atodlen 3;
(l) adran 39 (apelau yn erbyn hysbysiadau gwella) gyda’r addasiadau a bennir yn Rhan 6 o Atodlen 3;
(m) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy’n gweithredu’n ddidwyll);
(n) adran 49(1), (3), (4) a (5) (ffurf a dilysu dogfennau) gyda’r addasiad a bennir yn Rhan 7 o Atodlen 3;
(o) adran 50 (cyflwyno dogfennau).
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2025
ATODLEN 1
Rheoliad 3
1 
Diodydd ysgafn parod sy’n cynnwys cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu (heblaw’r diodydd ysgafn esempt a restrir ym mharagraff 2(9)).
2 

(1) Mae’r darpariaethau a ganlyn yn gymwys at ddibenion y categori hwn.
(2) Ystyr “diod ysgafn” yw—
(a) diod o gryfder alcoholig heb fod yn fwy nag 1.2%, neu
(b) hylif neu bowdr sydd, o’i baratoi mewn modd penodedig, yn ffurfio diod o gryfder alcoholig heb fod yn fwy na 1.2%.
(3) Mae hylif neu bowdr wedi ei baratoi mewn dull penodedig os yw—
(a) wedi ei wanedu,
(b) wedi ei gyfuno ag iâ mâl, neu wedi ei brosesu er mwyn creu iâ mâl,
(c) wedi ei gyfuno â charbon deuocsid, neu
(d) wedi ei baratoi drwy broses sy’n cynnwys unrhyw gyfuniad o’r prosesau a grybwyllir ym mharagraffau (a) i (c).
(4) Mae diod ysgafn yn “barod” os yw—
(a) yn ddiod ysgafn o fewn ystyr paragraff 2(2)(a),
(b) yn ddiod ysgafn o fewn ystyr paragraff 2(2)(b), neu
(c) yn ddiod a fyddai’n deillio o baratoi hylif neu bowdr o fewn paragraff 2(2)(b)—
(i) mewn modd penodedig (gweler paragraff 2(3)), a
(ii) yn unol â’r gymhareb wanedu berthnasol.
(5) Ystyr “cymhareb wanedu berthnasol” yw—
(a) y gymhareb wanedu a nodir ar becynwaith y ddiod ysgafn, neu a gyfrifir drwy gyfeirio at wybodaeth a nodir ar becynwaith o’r fath, neu
(b) pan na fo cymhareb wanedu neu wybodaeth o’r fath wedi ei nodi, cymhareb wanedu diodydd tebyg sydd ar y farchnad.
(6) Mae diod ysgafn yn cynnwys “cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu” os cyfunir unrhyw un neu ragor o’r sylweddau a ganlyn â chynhwysion eraill ar unrhyw gam wrth gynhyrchu’r ddiod ysgafn—
(a) monosacaridau caloriffig neu ddeusacaridau caloriffig;
(b) sylwedd sy’n cynnwys monosacaridau caloriffig neu ddeusacaridau caloriffig.
(7) Ond nid yw diod ysgafn yn cynnwys “cynhwysion siwgr wedi eu hychwanegu” dim ond oherwydd ei bod yn cynnwys sudd ffrwythau, sudd llysiau neu laeth (neu unrhyw gyfuniad ohonynt).
(8) Yn is-baragraff (7)—
(a) mae “sudd ffrwythau” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 5 o Reoliadau Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn 2018 (amod cynnwys siwgr: sudd ffrwythau) (“Rheoliadau ADDY”);
(b) mae “sudd llysiau” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 6 o Reoliadau ADDY (amod cynnwys siwgr: sudd llysiau);
(c) mae “llaeth” i’w ddehongli yn unol â rheoliad 7 o Reoliadau ADDY (amod cynnwys siwgr a diodydd ysgafn esempt: llaeth a diodydd sydd wedi eu seilio ar laeth).
(9) Mae’r canlynol yn “diodydd ysgafn esempt”—
(a) diodydd ysgafn sy’n debyg i fath penodol o ddiod alcoholaidd ac sy’n bodloni amodau penodedig;
(b) diodydd ysgafn o ddisgrifiad penodedig sydd i’w defnyddio at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion penodedig eraill.
(10) At ddibenion is-baragraff (9)(a), yr amodau penodedig yw—
(a) amod 1, y darperir ar ei gyfer gan baragraff (2) o reoliad 9 o Reoliadau ADDY (diodydd ysgafn esempt: diodydd efelychu alcohol), a
(b) un neu ragor o amodau 2, 3 a 4, y darperir ar eu cyfer gan baragraffau (3) i (5) o reoliad 9 o Reoliadau ADDY.
(11) At ddibenion is-baragraff (9)(b)—
(a) y dibenion meddyginiaethol neu’r dibenion penodedig eraill yw’r rhai y darperir ar eu cyfer gan baragraff (1) o reoliad 10 o Reoliadau ADDY (diodydd ysgafn esempt: at ddibenion meddyginiaethol neu ddibenion eraill), a
(b) y disgrifiadau penodedig yw’r disgrifiadau cyfatebol y darperir ar eu cyfer ym mharagraff (3) o reoliad 10 o Reoliadau ADDY.
3 

(1) Unrhyw un neu ragor o’r eitemau a ganlyn—
(a) byrbrydau sawrus, pa un a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel rhan o bryd bwyd cyfan, gan gynnwys—
(i) cynhyrchion wedi eu gwneud o datws, llysiau eraill, grawn neu godlysiau;
(ii) cynhyrchion allwthiedig, taflennog a phelennog;
(iii) cracers sawrus mewn bag, cacennau reis mewn bag neu fisgedi mewn bag,
megis creision, byrbrydau sydd wedi eu seilio ar fara pita, pretsels, popadoms, popgorn wedi ei halltu a chracers corgimwch (ond nid cnau amrwd, cnau wedi eu rhostio, cnau wedi eu caenu na chnau wedi eu cyflasu);
(b) byrbrydau sydd wedi eu seilio ar grofen porc, pa un a fwriedir iddynt gael eu bwyta ar eu pen eu hunain neu fel rhan o bryd bwyd cyfan.
4 
Grawnfwydydd brecwast, gan gynnwys grawnfwydydd parod i’w bwyta, granola, miwsli, ceirch uwd a grawnfwydydd eraill sydd wedi eu seilio ar geirch.
5 
Melysfwyd, gan gynnwys siocledi a melysion.
6 
Hufen iâ, lolis iâ, iogwrt wedi ei rewi, iâ dŵr a chynhyrchion rhewedig tebyg.
7 
Cacennau a chacennau cwpan.
8 
Bisgedi a bariau melys sy’n seiliedig ar un neu ragor o gnau, hadau neu rawnfwyd.
9 
Nwyddau boreol, gan gynnwys croissants, pains au chocolat a chrystiau tebyg, cramwyth, crempogau, byns, cacennau te, sgonau, wafflau, crystiau Danaidd a thorthau ffrwythau.
10 
Pwdinau, gan gynnwys pasteiod, tartenni a fflaniau, cacennau caws, gateaux, pwdinau llaeth, pwdinau sbwng, pwdin reis, crymblau, llenwadau ffrwythau, pwdinau o bowdr, cwstardau, jelïau a meringues.
11 
Iogwrt a fromage frais wedi eu melysu (naill ai â siwgr neu fel arall).
12 
Pizza (ac eithrio seiliau pizza plaen).
13 
Tatws rhost, sglodion, sglodion tenau a wedjys o datws a thatws melys, wafflau tatws, siapiau tatws difyr (megis wynebau gwên), hash browns, rostis, sleisys tatws creisionllyd, croquettes tatws.
14 

(1) Unrhyw un neu ragor o’r eitemau a ganlyn—
(a) cynhyrchion sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel pryd bwyd cyfan;
(b) cynhyrchion, heblaw am gynhyrchion sy’n cynnwys crwst, sydd mewn saws neu sydd â saws (ond nid marinâd, sglein, dresin, sesnin na chyfwyd tebyg) sy’n cael eu marchnata fel rhai sy’n barod ar gyfer eu coginio neu eu hailgynhesu heb fod angen eu paratoi ymhellach ac y bwriedir iddynt gael eu bwyta fel prif elfen pryd o fwyd;
(c) yr eitemau a ganlyn sydd mewn briwsion bara neu gytew—
(i) cynhyrchion llysiau, pysgod, pysgod cregyn, cig neu ddofednod;
(ii) cynhyrchion efelychu pysgod, cynhyrchion efelychu pysgod cregyn, cynhyrchion efelychu cig neu gynhyrchion efelychu dofednod,
gan gynnwys bysedd pysgod, cacennau pysgod a chnapiau cyw iâr.
ATODLEN 2
Rheoliad 12
1 

(1) Caiff awdurdod bwyd, drwy hysbysiad, osod cosb ariannol benodedig ar berson mewn perthynas â throsedd o dan reoliad 11.
(2) Cyn gwneud hynny, rhaid i’r awdurdod bwyd fod wedi ei fodloni, y tu hwnt i amheuaeth resymol, fod y person wedi cyflawni’r drosedd.
(3) Swm y gosb i’w thalu i’r awdurdod bwyd fel cosb ariannol benodedig yw £2,500.
2 

(1) Pan fo awdurdod bwyd yn cynnig gosod cosb ariannol benodedig ar berson, rhaid iddo gyflwyno hysbysiad o’r hyn a gynigir (“hysbysiad o fwriad”) i’r person hwnnw.
(2) Rhaid i’r hysbysiad o fwriad gynnwys—
(a) y seiliau dros y cynnig i osod y gosb ariannol benodedig;
(b) swm y gosb;
(c) datganiad y gellir cael rhyddhad rhag atebolrwydd am y gosb drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad;
(d) gwybodaeth am—
(i) effaith y taliad rhyddhau yn is-baragraff (2)(c);
(ii) yr hawl i gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad o fwriad;
(iii) o dan ba amgylchiadau na chaiff yr awdurdod bwyd osod y gosb ariannol benodedig (gan gynnwys unrhyw amddiffyniadau sy’n ymwneud â’r drosedd y cyflwynir yr hysbysiad mewn perthynas â hi).
3 
Caiff y gosb ei rhyddhau os yw person sy’n cael hysbysiad o fwriad yn talu 50% o swm y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad.
4 

(1) Caiff person y cyflwynir hysbysiad o fwriad iddo, o fewn 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad, gyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau ysgrifenedig i’r awdurdod bwyd mewn perthynas â’r cynnig i osod y gosb ariannol benodedig.
(2) Ar ôl diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau a gwrthwynebiadau, rhaid i’r awdurdod bwyd benderfynu a yw am osod y gosb ariannol benodedig.
5 

(1) Os nad yw’r person sydd wedi cael hysbysiad o fwriad yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd o fewn 28 o ddiwrnodau, caiff yr awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad terfynol”) i’r person hwnnw, sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
(2) Ni chaiff yr awdurdod bwyd gyflwyno hysbysiad terfynol i berson pan fo’r awdurdod bwyd wedi ei fodloni na fyddai’r person, oherwydd unrhyw amddiffyniad, yn agored i gael ei euogfarnu o’r drosedd y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi.
(3) Pan fo awdurdod bwyd wedi cyflwyno hysbysiad terfynol sy’n ymwneud â chosb ariannol benodedig, ni chaiff gyflwyno unrhyw hysbysiad arall o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â’r drosedd.
6 
Rhaid i hysbysiad terfynol gynnwys gwybodaeth am—
(a) swm y gosb,
(b) y seiliau dros osod y gosb,
(c) sut y mae rhaid talu,
(d) y cyfnod o 28 o ddiwrnodau y mae rhaid talu o’i fewn,
(e) manylion y disgownt am dalu’n gynnar,
(f) hawliau apelio, ac
(g) canlyniadau methu â thalu (gan gynnwys manylion y cosbau am dalu’n hwyr).
7 
Os yw person y cyflwynwyd hysbysiad o fwriad iddo wedi cyflwyno sylwadau neu wrthwynebiadau ynglŷn â’r hysbysiad hwnnw o fewn y terfyn amser, caiff y person hwnnw ryddhau’r hysbysiad terfynol drwy dalu 50% o’r gosb o fewn 14 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cafwyd yr hysbysiad terfynol.
8 

(1) Caiff person sy’n cael hysbysiad terfynol apelio yn ei erbyn.
(2) Y seiliau dros apelio yw—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol;
(d) bod y penderfyniad yn anghywir am unrhyw reswm arall.
9 

(1) Mae apêl o dan baragraff 8 yn apêl i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf.
(2) Mae hysbysiad terfynol wedi ei atal dros dro wrth aros i’r apêl gael ei phenderfynu neu ei thynnu yn ôl.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a) tynnu’n ôl, cadarnhau neu amrywio’r gosb neu’r hysbysiad terfynol,
(b) cymryd unrhyw gamau y gallai’r awdurdod bwyd fod wedi eu cymryd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb neu’r hysbysiad terfynol, neu
(c) anfon y penderfyniad o ran cadarnhau’r gosb neu’r hysbysiad terfynol, neu unrhyw fater arall sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, i’r awdurdod priodol.
10 

(1) Rhaid i’r gosb gael ei thalu o fewn 28 o ddiwrnodau i gael yr hysbysiad terfynol.
(2) Os na thelir y gosb o fewn 28 o ddiwrnodau, cynyddir y swm sy’n daladwy 50%.
(3) Yn achos apêl, mae’r gosb (pa un a yw’r Tribiwnlys Haen Gyntaf wedi ei hamrywio neu ei chadarnhau) yn daladwy o fewn 14 o ddiwrnodau i benderfynu’r apêl (os yw’r apêl yn aflwyddiannus), ac os nad yw wedi ei thalu o fewn 14 o ddiwrnodau, cynyddir swm y gosb 50%.
11 
Caiff awdurdod bwyd adennill unrhyw gosb a osodir o dan yr Atodlen hon, ac unrhyw gosb ariannol am dalu’n hwyr, ar orchymyn llys, fel pe bai’n daladwy o dan orchymyn llys.
12 

(1) Os cyflwynir hysbysiad o fwriad ar gyfer cosb ariannol benodedig i unrhyw berson—
(a) ni chaniateir dechrau achos troseddol am y drosedd yn erbyn y person hwnnw mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi cyn 28 o ddiwrnodau o’r dyddiad y ceir yr hysbysiad o fwriad, a
(b) os yw’r person hwnnw yn ei ryddhau ei hun rhag atebolrwydd, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn perthynas â’r weithred neu’r anweithred honno.
(2) Os gosodir cosb ariannol benodedig ar unrhyw berson, ni chaniateir ar unrhyw adeg euogfarnu’r person hwnnw o’r drosedd mewn cysylltiad â’r weithred neu’r anweithred sy’n arwain at y gosb.
13 
Caiff awdurdod bwyd, ar unrhyw adeg yn ysgrifenedig, dynnu’n ôl hysbysiad sy’n gosod cosb ariannol benodedig.
ATODLEN 3
Rheoliad 16
RHAN 1
1 
Mae adran 21 yn gymwys fel pe bai—
(a) yn is-adran (2), y cyfeiriad at drosedd o dan adran 14 neu 15 yn gyfeiriad at drosedd o dan y Rheoliadau hyn, a
(b) yn is-adran (4)(b), y cyfeiriadau at “sale or intended sale” yn cynnwys cyfeiriadau at “promotion or presentation”.
RHAN 2
2 
Mae adran 32(1)(a) yn gymwys fel be bai “or of regulations or orders made under it” wedi ei hepgor.
3 
Mae adran 32(6)(a) yn gymwys fel pe bai “or of regulations or orders made under it” wedi ei hepgor.
RHAN 3
4 
Mae adran 34 yn gymwys fel pe bai “regulation 11(2)” wedi ei roi yn lle “section 35(2) below”.
RHAN 4
5 
Mae adran 35(1) yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at adran 33(1) yn gyfeiriad at yr adran honno fel y’i cymhwysir gan y Rheoliadau hyn.
6 
Mae adran 35(2) yn gymwys fel pe bai “an offence under section 33(2) as applied by these Regulations” wedi ei roi yn lle “any other offence under this Act”.
RHAN 5
7 
Mae pennawd adran 37 yn gymwys fel pe bai’r cyfeiriad at “or sheriff” wedi ei hepgor.
8 
Mae adran 37(1) yn gymwys fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r testun presennol—“
(1) Any person who is aggrieved by the decision of an authorised officer of a food authority to serve an improvement notice under regulation 10 may appeal to a magistrates’ court.”
9 
Mae adran 37(3) yn gymwys fel pe bai “or an appeal to such a court for which provision is made by regulations under Part II of this Act” wedi ei hepgor.
10 
Mae adran 37(5) yn gymwys fel pe bai—
(a) “or (4)” wedi ei hepgor, a
(b) ym mharagraff (b), “in the case of an appeal under subsection (1)(a) above, that period or” wedi ei hepgor.
11 
Mae adran 37(6) yn gymwys fel pe bai—
(a) “or (4)” wedi ei hepgor, a
(b) ym mharagraff (a), “or to the sheriff” wedi ei hepgor.
RHAN 6
12 
Mae adran 39 yn gymwys fel pe bai—
(a) y cyfeiriadau at hysbysiad gwella yn gyfeiriadau at hysbysiad gwella a gyflwynwyd o dan reoliad 10, a
(b) yn is-adran (3), “for want of prosecution” wedi ei hepgor.
RHAN 7
13 
Mae adran 49(4) yn gymwys fel pe bai “and of any regulations and orders made under it” wedi ei hepgor.