
RHAN 1
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2025.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “adroddiad arolygu” (“inspection report”) yw adroddiad a lunnir gan Weinidogion Cymru ar ôl arolygiad yn unol ag adran 36 o’r Ddeddf;
 ystyr “darparwr gwasanaeth perthnasol” (“relevant service provider”) yw person sydd wedi ei gofrestru gan Weinidogion Cymru fel darparwr gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “gradd arolygu” (“inspection rating”) yw’r radd mewn cysylltiad â gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol y mae rhaid i Weinidogion Cymru ei rhoi yn unol â rheoliad 2 o’r Rheoliadau hyn;
 mae i “gwasanaeth cartref gofal” (“care home service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
 mae i “gwasanaeth cymorth cartref” (“domiciliary support service”) yr ystyr a roddir gan baragraff 8 o Atodlen 1 i’r Ddeddf;
 ystyr “gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol” (“relevant regulated service”) yw—
(a) gwasanaeth cartref gofal;
(b) gwasanaeth cymorth cartref.
RHAN 2
2 
Pan fydd Gweinidogion Cymru yn cynnal arolygiad o wasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, rhaid iddynt roi, mewn cysylltiad â’r asesiadau y cyfeirir atynt yn adran 36(2)(a) i (c) o’r Ddeddf, unrhyw radd y maent yn ystyried ei bod yn briodol.
3 

(1) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol ddangos ar bob gwefan a gynhelir ganddo neu ar ei ran, ac sy’n ymwneud â’i wasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, y radd arolygu ddiweddaraf—
(a) ar gyfer pob gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol, a
(b) ar gyfer pob man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo, ohono neu mewn perthynas ag ef ac y mae’r radd yn gymwys iddo.
(2) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol sicrhau bod copi o’r wybodaeth y mae paragraff (1) yn gymwys iddi yn cael ei roi ar gael ar gais.
(3) Rhaid i ddarparwr gwasanaeth perthnasol arddangos y radd arolygu ddiweddaraf yn y man y darperir y gwasanaeth ynddo neu ohono ac y mae’r radd yn gymwys iddo.
(4) Ond nid yw paragraff (3) yn gymwys mewn perthynas â’r canlynol—
(a) gwasanaeth cartref gofal a ddarperir mewn man—
(i) lle y’i darperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i bersonau sydd o dan 18 oed, neu
(ii) lle y mae’n lletya pedwar neu lai o unigolion;
(b) man y darperir gwasanaeth cymorth cartref ohono nad yw’n hygyrch i aelodau o’r cyhoedd.
(5) Rhaid i radd arolygu y mae’n ofynnol ei harddangos yn unol â gofynion y rheoliad hwn—
(a) cael ei harddangos yn ddi-oed ar ôl iddi gael ei chyhoeddi mewn adroddiad arolygu;
(b) bod ar y ffurf benodedig a ddynodir gan Weinidogion Cymru;
(c) bod yn ddarllenadwy;
(d) cynnwys y dyddiad y rhoddwyd y radd arolygu;
(e) cael ei harddangos yn amlwg mewn lleoliad sy’n hygyrch—
(i) i unigolion sy’n cael y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol;
(ii) i ymwelwyr â’r man y darperir y gwasanaeth rheoleiddiedig perthnasol ynddo neu ohono.
4 

(1) Caiff darparwr gwasanaeth perthnasol apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn gradd arolygu a roddwyd pan fo’r amodau a nodir ym mharagraff (2) wedi eu bodloni.
(2) Yr amodau yw—
(a) bod y darparwr gwasanaeth perthnasol, o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael copi o adroddiad arolygu, wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ei fod yn ceisio adolygiad o’r radd arolygu ar y seiliau a ganlyn—
(i) anghywirdeb ffeithiol;
(ii) tystiolaeth anghyflawn,
(b) bod y darparwr gwasanaeth perthnasol wedi cael canlyniad adolygiad Gweinidogion Cymru o’r radd arolygu,
(c) bod y darparwr gwasanaeth perthnasol, o fewn 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’n cael canlyniad yr adolygiad, wedi hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig ei fod yn ceisio apelio yn erbyn canlyniad yr adolygiad, a
(d) bod yr apêl yn cael ei gwneud ar yr un seiliau â’r rhai y dibynnir arnynt i geisio’r adolygiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (a).
(3) Pan fo apêl yn cael ei gwneud gan ddarparwr gwasanaeth perthnasol, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) ystyried yr apêl a chadarnhau’r radd arolygu derfynol drwy anfon adroddiad arolygu terfynol at y darparwr gwasanaeth perthnasol;
(b) cydymffurfio â’r ddyletswydd i gyhoeddi’r adroddiad arolygu o dan adran 36(3)(a) o’r Ddeddf.
RHAN 3
5 

(1) Mae’n drosedd i ddarparwr gwasanaeth perthnasol fethu â chydymffurfio â gofyniad unrhyw un neu ragor o’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (2).
(2) Y darpariaethau a bennir at ddibenion paragraff (1) yw darpariaethau rheoliad 3(1) a (3).
RHAN 4
6 
Mae Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Hysbysiadau Cosb) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn—
(a) yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “y Rheoliadau Graddau Arolygu” (“the Inspection Ratings Regulations”) yw Rheoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Graddau Arolygu) (Cymru) 2025;”;
(b) ar ôl rheoliad 9 mewnosoder—“
9ZA. 

(1) Mae’r drosedd o dan y ddarpariaeth yn y Rheoliadau Graddau Arolygu a restrir yng ngholofn gyntaf y tabl yn Atodlen 5A wedi ei rhagnodi’n drosedd at ddibenion adran 52(1) o’r Ddeddf.
(2) Mae ail golofn y tabl yn Atodlen 5A yn cynnwys disgrifiad o natur gyffredinol y drosedd ragnodedig.
(3) Mae swm y gosb sydd i’w dalu ar gyfer y drosedd wedi ei bennu yn nhrydedd golofn y tabl yn Atodlen 5A.”;
(c) ar ôl Atodlen 5 mewnosoder—“
Atodlen 5A
Rheoliad 9ZA


Y ddarpariaeth sy’n creu’r drosedd Natur gyffredinol y drosedd Swm y gosb
Rheoliad 3(1) a (3) o’r Rheoliadau Graddau Arolygu Mynd yn groes i’r gofyniad ynghylch arddangos graddau arolygu, neu fethiant i gydymffurfio ag ef Swm sy’n cyfateb i lefel 4 ar y raddfa safonol”
Dawn Bowden
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol o dan awdurdod Ysgrifenydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru, un o Weinidogion Cymru
26 Mawrth 2025