
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1, Rhif 2, Rhif 4, Rhif 6 a Rhif 7) (Diwygio) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 28 Mawrth 2025.
2 

(1) Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 1) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(4), yn y diffiniad o “corff”, ar ôl “cyd-bwyllgor corfforedig” mewnosoder “, Awdurdod Cyllid Cymru”.
(3) Ar ôl rheoliad 3(2) mewnosoder—“
(3) Mae Gweinidogion Cymru yn awdurdodi Comisiynydd y Gymraeg i roi hysbysiad cydymffurfio i Awdurdod Cyllid Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o’r safonau a ganlyn a bennir o dan reoliad 2—
(a) 1 i 144;
(b) 147 i 172;
(c) 175 a 176.”
3 
Yn Atodlen 6 i Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 2) 2016, yn y lleoedd priodol mewnosoder—
 “Comisiwn Ffiniau i Gymru (“Boundary Commission for Wales”)”;
 “Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru (“Future Generations Commissioner for Wales”)”;
 “Cymwysterau Cymru (“Qualifications Wales”)”;
 “Ymddiriedolwyr Cronfa Goffa’r Dreftadaeth Genedlaethol (“Trustees of the National Heritage Memorial Fund”)”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 4) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(2)(a), o flaen “Tribiwnlys Tir Amaethyddol Cymru” mewnosoder “Panel Dyfarnu Cymru,”.
(3) Yn Atodlen 6, yn y lle priodol mewnosoder “Panel Dyfarnu Cymru (“Adjudication Panel for Wales”)”.
5 
Ar ôl rheoliad 3(4) o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 6) 2017 mewnosoder—“
(5) Addysg a Gwella Iechyd Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â safonau 90 a 90A a bennir o dan reoliad 2 ac Atodlen 1.”
6 

(1) Yn rheoliad 1(4) o Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018—
(a) yn y diffiniad o “clinig gwasanaeth iechyd gwladol”, yn lle “neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” rhodder “, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Awdurdod Iechyd Arbennig”;
(b) yn y diffiniad o “ysbyty gwasanaeth iechyd gwladol”, yn lle “neu Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” rhodder “, Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Awdurdod Iechyd Arbennig”.
(2) Yn Atodlen 6, yn y lle priodol mewnosoder “Awdurdodau Iechyd Arbennig (“Special Health Authorities”)”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2025