
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Platfform Gwybodaeth am Etholiadau Cymreig 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 14 Mawrth 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i etholiadau penodedig.
(4) Ond nid yw’r Rheoliadau hyn yn cael effaith mewn perthynas ag—
(a) etholiad i Senedd Cymru, y cynhelir y pôl ar ei gyfer ar neu cyn 6 Ebrill 2026;
(b) etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru, y cynhelir y polau ar eu cyfer ar neu cyn 5 Mai 2027.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “anerchiad etholiadol” (“election address”) yw cyfathrebiad post a gymeradwywyd yn derfynol y caniateir ei anfon, yn rhinwedd gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf 2006, yn rhydd rhag unrhyw dâl am bostio ac sydd i’w gyflwyno neu a gyflwynwyd i’w gyhoeddi ar y platfform;
 ystyr “datganiad ymgeisydd” (“candidate statement”) yw datganiad sydd wedi ei lunio i’w gyhoeddi ar y platfform ac sy’n cefnogi ymgeisyddiaeth, ar gyfer etholiad cyffredin i brif gyngor yng Nghymru, y mae’r ymgeisydd yn sefyll ynddo;
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “dyddiad cyflwyno” (“submission date”) yw’r dyddiad y mae’n ofynnol gan reoliad 13(3)(a) ei gynnwys mewn hysbysiad o’r broses gyflwyno ar gyfer anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr;
 ystyr “etholiadau penodedig” (“specified elections”) yw—
(a) etholiadau i Senedd Cymru;
(b) etholiadau cyffredin i brif gynghorau yng Nghymru;
 ystyr “gofynion perthnasol” (“relevant requirements”) yw—
(a) mewn perthynas ag anerchiad etholiadol, y gofynion a osodir gan reoliadau 8(2) a 9;
(b) mewn perthynas â datganiad ymgeisydd, y gofynion a osodir gan reoliadau 11 a 12;
 ystyr “gweithredwr y platfform” (“the platform operator”) yw’r person a bennir yn rheoliad 3;
 ystyr “plaid wleidyddol gofrestredig” (“registered political party”) yw plaid sydd wedi ei chofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000;
 ystyr “y platfform” (“the platform”) yw’r cyfleuster electronig, a elwir yn blatfform gwybodaeth am etholiadau Cymreig, a sefydlwyd gan y Rheoliadau hyn ac sydd i ddarparu gwybodaeth gyfredol i etholwyr, neu fynediad at wybodaeth gyfredol o ffynonellau electronig eraill, am etholiadau penodedig;
 ystyr “Rheolau 2021” (“the 2021 Rules”) yw Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021;
 ystyr “ymgeisydd” (“candidate”) yw (yn ôl gofynion y cyd-destun)—
(a) unigolyn sy’n ymgeisydd i fod yn Aelod o’r Senedd;
(b) ymgeisydd ar restr o ymgeiswyr i fod yn Aelodau o’r Senedd a gyflwynir gan blaid wleidyddol gofrestredig o dan adran 7 o Ddeddf 2006;
(c) ymgeisydd mewn etholiad cyffredin i brif gyngor yng Nghymru.
RHAN 2
3 
Mae’r Bwrdd Rheoli Etholiadol a sefydlwyd o dan adran 20E o Ddeddf Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru etc. 2013 wedi ei bennu’n weithredwr y platfform.
4 

(1) Rhaid i weithredwr y platfform sefydlu a gweithredu’r platfform yn unol â’r Rheoliadau hyn.
(2) Wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan baragraff (1), rhaid i weithredwr y platfform—
(a) gwneud trefniadau i benodi trydydd parti i greu ac adeiladu cyfleuster electronig (megis system ar-lein);
(b) sicrhau bod y platfform yn darparu, yn lletya ac yn cyhoeddi gwybodaeth mewn modd gwleidyddol niwtral am—
(i) etholiadau penodedig,
(ii) ymgeiswyr, a
(iii) pleidiau gwleidyddol cofrestredig sy’n sefyll mewn etholiadau i Senedd Cymru;
(c) cynnal y platfform drwy gadw’r wybodaeth gyhoeddedig yn gyfredol;
(d) sicrhau, cyn belled ag y bo’n rhesymol ymarferol, fod mesurau diogelwch priodol ar waith i ddiogelu cyfleusterau electronig a chynnwys y platfform rhag mynediad, ymyrraeth neu ddefnydd anawdurdodedig;
(e) darparu system i wirio bod anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr, a gyflwynir i’r platfform i’w cyhoeddi, yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol cyn iddynt gael eu cyhoeddi ar y platfform.
5 

(1) Rhaid i weithredwr y platfform ddarparu canllawiau ynghylch gweithredu’r platfform.
(2) Rhaid i’r canllawiau gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a) y gwasanaeth a ddarperir gan y platfform a’r mecanweithiau a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaeth hwnnw;
(b) y dogfennau y caiff gweinyddwyr etholiadol eu hanfon at weithredwr y platfform i’w cyhoeddi ar y platfform;
(c) fformat gofynnol unrhyw ddogfennau a gyflwynir i weithredwr y platfform;
(d) y modd y caiff gweinyddwyr etholiadol gyhoeddi gwybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 6, a fyddai’n cynorthwyo gweithredwr y platfform i gael yr wybodaeth honno a’i chyhoeddi ar y platfform;
(e) sut y caniateir llunio anerchiadau etholiadol a datganiadau ymgeiswyr a’u hanfon at weithredwr y platfform.
(3) Caiff y canllawiau gynnwys unrhyw fater arall a fydd yn cynorthwyo gweithredwr y platfform i gyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â gweithredu’r platfform.
(4) Rhaid i’r canllawiau gael eu cyhoeddi ar y platfform gan weithredwr y platfform.
RHAN 3
6 

(1) Rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu cyhoeddi, y canlynol mewn perthynas â phob etholiad penodedig—
(a) hysbysiad o etholiad sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—
(i) gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006;
(ii) rheol 3 o Atodlen 1 i Reolau 2021;
(iii) rheol 3 o Atodlen 2 i Reolau 2021;
(b) datganiadau’r rhai a enwebwyd sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—
(i) gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006;
(ii) rheol 13 o Atodlen 1 i Reolau 2021;
(iii) rheol 13 o Atodlen 2 i Reolau 2021;
(c) hysbysiad y bleidlais sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—
(i) gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006;
(ii) rheol 27(1) o Atodlen 1 i Reolau 2021;
(iii) rheol 27(1) o Atodlen 2 i Reolau 2021;
(d) anerchiad etholiadol, yn unol â rheoliad 14;
(e) datganiad ymgeisydd, yn unol â rheoliad 14;
(f) hysbysiad o safle pob gorsaf bleidleisio a’r disgrifiad o bleidleiswyr sydd â hawlogaeth i bleidleisio yno, sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—
(i) gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006;
(ii) rheol 27(3) o Atodlen 1 i Reolau 2021;
(iii) rheol 27(3) o Atodlen 2 i Reolau 2021;
(g) trefniadau hygyrchedd sydd ar waith mewn gorsafoedd pleidleisio;
(h) datganiad o’r canlyniadau sy’n ofynnol gan (yn ôl y digwydd)—
(i) gorchymyn a wneir o dan adran 13 o Ddeddf 2006;
(ii) rheol 60(3) neu 60W(3) o Atodlen 1 i Reolau 2021;
(iii) rheol 64(3) neu 64Z1(3) o Atodlen 2 i Reolau 2021.
(2) Caiff gweithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu cyhoeddi, yr wybodaeth a ganlyn ar y platfform—
(a) gwybodaeth am y system etholiadol a’r broses bleidleisio mewn perthynas ag etholiadau penodedig, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i—
(i) datganoli etholiadau penodedig;
(ii) disgrifiad ac esboniad o’r gwahanol lefelau o lywodraeth sy’n bodoli yng Nghymru a’u cyfrifoldebau priodol;
(iii) y gwahanol etholiadau sy’n digwydd yng Nghymru a’r systemau pleidleisio a ddefnyddir ym mhob etholiad;
(b) gwybodaeth am drefniadau etholiadol a phrosesau etholiadol ar gyfer etholiadau penodedig gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i—
(i) cymhwysedd i bleidleisio;
(ii) cofrestru i bleidleisio, gan gynnwys cofrestru dienw a phleidleisio absennol;
(iii) y broses ymarferol o bleidleisio, gan gynnwys gwybodaeth am sut, pryd a ble i bleidleisio wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, drwy’r post neu drwy ddirprwy;
(iv) hawliau hygyrchedd i bleidleiswyr wrth bleidleisio;
(v) manylion cyswllt ar gyfer timau etholiadol lleol sy’n rhoi cymorth i etholwyr ar gyfer pob ardal yng Nghymru;
(vi) manylion cyswllt ar gyfer cynrychiolwyr etholedig ar gyfer pob etholaeth Senedd Cymru neu ward etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru;
(c) unrhyw wybodaeth arall am etholiadau penodedig y mae gweithredwr y platfform yn ystyried ei bod yn briodol.
(3) Caiff yr wybodaeth a grybwyllir ym mharagraffau (1) a (2) gynnwys—
(a) gwybodaeth ffeithiol a gynhyrchir gan weithredwr y platfform;
(b) dolenni neu gyfeiriadau at leoliadau perthnasol eraill ar y we.
7 
Rhaid i weithredwr y platfform gymryd camau rhesymol i sicrhau—
(a) bod y platfform a’i gynnwys yn hawdd ei ddefnyddio ac yn hygyrch i etholwyr, a
(b) bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar y platfform yn chwiliadwy, pan fo’n berthnasol, yn ôl cod post, etholaeth Senedd Cymru neu ward etholiadol llywodraeth leol.
RHAN 4
8 

(1) Yn ystod etholiad Senedd Cymru, caniateir cyflwyno anerchiad etholiadol i weithredwr y platfform gan—
(a) ymgeisydd unigol a luniodd yr anerchiad etholiadol neu y’i lluniwyd ar ei ran;
(b) asiant etholiad person o’r fath;
(c) plaid wleidyddol gofrestredig, sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, a luniodd yr anerchiad etholiadol neu y’i lluniwyd ar ei rhan;
(d) asiant etholiad plaid wleidyddol gofrestredig o’r fath.
(2) O ran anerchiad etholiadol—
(a) ni chaiff ond cynnwys materion sy’n ymwneud â’r etholiad,
(b) rhaid iddo gael ei gyflwyno i weithredwr y platfform fel y pennir yn yr hysbysiad o’r broses gyflwyno a gyhoeddir o dan reoliad 13, ac
(c) rhaid iddo gael ei gyflwyno gyda thystiolaeth o gymeradwyaeth derfynol gan y darparwr gwasanaeth cyffredinol ar gyfer y cyfathrebiad post.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “darparwr gwasanaeth cyffredinol” (“universal service provider”) yr un ystyr ag yn Rhan 3 o Ddeddf Gwasanaethau Post 2011;
 ystyr “tystiolaeth o gymeradwyaeth derfynol” (“evidence of final approval”) yw’r gymeradwyaeth a’r cod gwirio gwaith celf a anfonir oddi wrth y darparwr gwasanaeth cyffredinol at yr ymgeisydd neu i’r blaid wleidyddol gofrestredig.
9 
Ni chaniateir i anerchiad etholiadol gynnwys unrhyw ddeunydd—
(a) sy’n anllad, yn dramgwyddus neu’n anweddus, neu
(b) y byddai ei gyhoeddi yn debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd.
10 
Yn ystod etholiad cyffredin i brif gyngor yng Nghymru, caiff ymgeisydd, neu asiant ymgeisydd, anfon datganiad ymgeisydd at weithredwr y platfform i’w gyhoeddi ar y platfform.
11 

(1) O ran datganiad ymgeisydd—
(a) rhaid iddo fod yn Gymraeg, yn Saesneg neu yn y ddwy iaith,
(b) rhaid iddo ddefnyddio sgript Times New Roman,
(c) ni chaiff fod yn fwy na 180 o eiriau, a
(d) rhaid iddo fod am yr ymgeisydd a’r rhesymau pam y mae’r ymgeisydd yn ceisio cael ei ethol.
(2) Rhaid i ddatganiad ymgeisydd gynnwys, heb gyfrif tuag at y terfyn geiriau—
(a) unrhyw ddisgrifiad sydd wedi ei gynnwys yn y papur enwebu o dan reol 5(3)(b) o Atodlen 1, neu reol 5(3)(b) o Atodlen 2, i Reolau 2021, a
(b) yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y datganiad o aelodaeth plaid sydd wedi ei gynnwys yn y papur enwebu o dan reol 5(3)(c) o Atodlen 1, neu reol 5(3)(c) o Atodlen 2, i Reolau 2021.
(3) Ni chaiff datganiad ymgeisydd (gan gynnwys unrhyw ffotograff o dan baragraff (4)) gynnwys unrhyw ddeunydd—
(a) sy’n anllad, yn dramgwyddus neu’n anweddus;
(b) y byddai ei gyhoeddi yn debygol o fod yn gyfystyr â chyflawni trosedd;
(c) sy’n gyfystyr â hysbysebu neu a allai arwain at fudd masnachol;
(d) a allai gamarwain neu ddrysu pleidleiswyr o ran y system etholiadol a ddefnyddir yn yr etholiad neu o ran effaith rhoi eu pleidlais.
(4) Caiff datganiad ymgeisydd gynnwys un ffotograff o’r ymgeisydd ac, os yw’n gwneud hynny—
(a) rhaid i’r ffotograff fod yn ddiweddar, a
(b) ni chaiff y ffotograff ddangos neb arall.
12 
Rhaid cyflwyno datganiad ymgeisydd—
(a) i weithredwr y platfform fel y pennir yn yr hysbysiad o’r broses gyflwyno a gyhoeddir o dan reoliad 13;
(b) gyda datganiad gan yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd yn cadarnhau—
(i) bod y datganiad ymgeisydd wedi cael ei lunio gan yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd,
(ii) bod y datganiad ymgeisydd yn cydymffurfio â’r gofynion perthnasol, a
(iii) mai cyfrifoldeb yr ymgeisydd neu asiant yr ymgeisydd yw’r wybodaeth yn y datganiad ymgeisydd.
13 

(1) Ar gyfer pob etholiad penodedig, rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi ar y platfform hysbysiad o’r broses gyflwyno ar gyfer anerchiadau etholiadol neu ddatganiadau ymgeiswyr.
(2) Rhaid cyhoeddi’r hysbysiad o’r broses gyflwyno ar y platfform cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cyhoeddi’r hysbysiad o’r etholiad.
(3) Rhaid i’r hysbysiad o’r broses gyflwyno gynnwys—
(a) dyddiad y diwrnod olaf y caniateir cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd i’w gyhoeddi ar y platfform (“dyddiad cyflwyno”),
(b) y broses ar gyfer cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd, gan gynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut i anfon y ddogfen at weithredwr y platfform a’r fformat electronig sy’n ofynnol os caiff ei chyflwyno’n electronig, ac
(c) unrhyw wybodaeth arall y mae gweithredwr y platfform yn ystyried ei bod yn briodol er mwyn cynorthwyo ymgeiswyr, eu hasiantau, a phleidiau gwleidyddol cofrestredig wrth gyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd.
14 

(1) Rhaid i weithredwr y platfform gyhoeddi, neu drefnu cyhoeddi, ar y platfform, anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd—
(a) sy’n dod i law ar neu cyn y dyddiad cyflwyno, a
(b) sy’n cydymffurfio â’r gofynion perthnasol.
(2) Rhaid cyhoeddi’r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl iddo ddod i law gweithredwr y platfform a, beth bynnag, heb fod yn hwyrach na’r pedwerydd diwrnod cyn diwrnod y pôl.
(3) Mae’r diwrnodau a ganlyn i’w diystyru at ddibenion cyfrifo’r dyddiad cau y cyfeirir ato ym mharagraff (2)—
(a) dydd Sadwrn;
(b) dydd Sul;
(c) Noswyl Nadolig;
(d) Dydd Nadolig;
(e) Dydd Gwener y Groglith;
(f) diwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
(g) diwrnod a bennwyd ar gyfer diolchgarwch cyhoeddus neu alaru cyhoeddus.
15 
Rhaid i weithredwr y platfform sicrhau bod trefniadau ar waith i alluogi cyflwyno anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd yn electronig neu ar ffurf copi caled.
16 

(1) Nid yw unrhyw berson i fynd i unrhyw atebolrwydd sifil neu droseddol mewn cysylltiad â chyhoeddi cynnwys anerchiad etholiadol neu ddatganiad ymgeisydd ar y platfform, ac eithrio—
(a) yr ymgeiswyr neu’r ymgeisydd y mae’r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd yn ymwneud â hwy neu ag ef, a
(b) yr asiant etholiad ar gyfer yr ymgeisydd neu ar gyfer y blaid wleidyddol gofrestredig, sydd wedi cyflwyno rhestr o ymgeiswyr ar gyfer etholaeth, y mae’r anerchiad etholiadol neu’r datganiad ymgeisydd yn ymwneud ag ef neu â hi.
RHAN 5
17 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ar gyfer pob etholiad penodedig sy’n nodi sut y mae swyddogaethau a roddir i weithredwr y platfform gan y Rheoliadau hyn wedi cael eu harfer mewn perthynas â’r etholiad hwnnw.
(2) Rhaid cyhoeddi adroddiad o dan baragraff (1)—
(a) yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiad Senedd Cymru, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiad hwnnw;
(b) yn achos swyddogaethau a arferir mewn cysylltiad ag etholiadau cyffredin prif gynghorau, cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â diwrnod y pôl ar gyfer yr etholiadau hynny.
(3) Rhaid i adroddiad o dan baragraff (1) gynnwys, mewn perthynas â’r etholiad y mae’r adroddiad yn ymwneud ag ef—
(a) sut y mae gweithredwr y platfform wedi ymgysylltu â phartneriaid sy’n awdurdodau lleol, gweinyddwyr etholiadol a darparwyr gwybodaeth eraill wrth arfer ei swyddogaethau mewn perthynas â’r etholiad;
(b) crynodeb o’r wybodaeth sydd wedi ei chyhoeddi ar y platfform i gefnogi etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad penodedig;
(c) gwerthusiad o ran y defnydd o’r platfform, gan gynnwys i ba raddau y mae rhannau o’r platfform wedi cael eu cyrchu gan ddefnyddwyr;
(d) asesiad o gost gweithredu’r platfform, gan gynnwys costau cynnal a chadw.
18 
Rhaid i weithredwr y platfform roi i Weinidogion Cymru unrhyw gymorth a gwybodaeth sy’n rhesymol ofynnol gan Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â llunio adroddiad o dan reoliad 17(1).
19 
Rhaid i adroddiad a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o dan reoliad 17(1) gael ei osod gerbron Senedd Cymru.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
12 Mawrth 2025