
RHAN 1
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2025 ac mae’n dod i rym ar 1 Ebrill 2025.
2 

(1) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “absenoldeb salwch” (“sickness absence”) yw absenoldeb gweithiwr amaethyddol o’r gwaith oherwydd analluedd yn sgil—
(a) unrhyw salwch a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol,
(b) salwch neu analluedd a achosir am fod y gweithiwr amaethyddol yn feichiog neu a ddioddefir o ganlyniad i eni plentyn,
(c) anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol yn ei le gwaith,
(d) anaf sy’n digwydd i’r gweithiwr amaethyddol wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,
(e) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth a achoswyd gan salwch, neu
(f) amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn ymadfer ar ôl llawdriniaeth o ganlyniad i anaf a ddioddefwyd yn ei le gwaith neu anaf a ddioddefwyd wrth deithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith,ond nid yw’n cynnwys unrhyw anaf a ddioddefir gan y gweithiwr amaethyddol pan na fo yn ei le gwaith nac unrhyw anaf a ddioddefir pan na fo’r gweithiwr amaethyddol yn teithio yn ôl ac ymlaen i’w le gwaith;
 mae “amaethyddiaeth” (“agriculture”) yn cynnwys—
(a) ffermio gwartheg godro;
(b) cynhyrchu unrhyw gynnyrch defnyddiadwy at ddibenion masnach neu fusnes neu unrhyw fenter arall (pa un a wneir hynny i wneud elw ai peidio);
(c) defnyddio tir fel tir pori, gweirglodd neu ddoldir;
(d) defnyddio tir ar gyfer perllannau, tir helyg gwiail neu goetir;
(e) defnyddio tir ar gyfer gerddi marchnad neu blanhigfeydd;
 ystyr “cyflogaeth” (“employment”) yw unigolion sydd wedi eu cymryd ymlaen fel cyflogeion, gweithwyr, gweithwyr asiantaeth a gweithwyr a gyflogir gan gangfeistri;
 ystyr “cynnyrch defnyddiadwy” (“consumable produce”) yw cynnyrch a dyfir i’w fwyta ac i’w yfed neu i’w ddefnyddio fel arall ar ôl iddo adael y tir lle cafodd ei dyfu;
 ystyr “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) (ac eithrio yn erthygl 21 lle y mae diffiniad gwahanol yn gymwys) yw diwrnodau pan fyddai’n ofynnol fel arfer i’r gweithiwr amaethyddol fod ar gael i weithio gan gynnwys diwrnodau pan oedd y gweithiwr amaethyddol—
(a) yn cymryd gwyliau blynyddol,
(b) yn cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth,
(c) yn cymryd absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, rhiant a rennir neu fabwysiadu statudol, neu
(d) ar gyfnod o absenoldeb salwch;
 ystyr “fframwaith prentisiaethau” (“apprenticeship framework”) yw unrhyw un neu ragor o’r Fframweithiau Prentisiaethau cyfredol ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a ddyroddwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd gan Lantra ar y dyddiad neu cyn y dyddiad y daw’r Gorchymyn hwn i rym, neu fersiynau blaenorol o’r Fframweithiau Prentisiaethau ar gyfer y sector amaethyddol yng Nghymru a gyhoeddwyd gan Lantra;
 ystyr “goramser” (“overtime”) yw—
(a) mewn perthynas â gweithiwr amaethyddol a ddechreuodd ei gyflogaeth cyn 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
(i) yn fwy nag oriau gwaith sylfaenol, neu
(ii) ar ŵyl gyhoeddus, neu
(iii) ar ddydd Sul, neu
(iv) mewn unrhyw gyfnod sy’n cychwyn ar ddydd Sul ac yn parhau hyd y dydd Llun canlynol hyd at yr amser y byddai’r gweithiwr amaethyddol hwnnw yn cychwyn ei ddiwrnod gwaith fel arfer;
(b) mewn perthynas â phob gweithiwr amaethyddol arall a ddechreuodd ei gyflogaeth ar neu ar ôl 1 Hydref 2006, amser nad yw’n oramser gwarantedig y mae’r gweithiwr amaethyddol yn ei weithio—
(i) yn ychwanegol at oriau gwaith sylfaenol, neu
(ii) ar ŵyl gyhoeddus;
 ystyr “goramser gwarantedig” (“guaranteed overtime”) yw goramser y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol ei weithio o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth ac y mae cyflogwr y gweithiwr amaethyddol yn gwarantu taliad ar ei gyfer, pa un a oes gwaith i’r gweithiwr amaethyddol ei wneud ai peidio;
 ystyr “gwaith” (“work”) yw—
(a) unrhyw gyfnod pryd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio, ar gael i’w gyflogwr ac yn cyflawni ei weithgareddau neu ei ddyletswyddau;
(b) unrhyw gyfnod pryd y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cael hyfforddiant perthnasol;
(c) unrhyw gyfnod a dreulir gan weithiwr amaethyddol yn teithio at ddibenion ei gyflogaeth ond nad yw’n cynnwys amser a dreulir yn teithio rhwng ei gartref a’i le gwaith;
(d) unrhyw gyfnod y mae gweithiwr amaethyddol yn cael ei rwystro rhag cyflawni gweithgareddau neu ddyletswyddau yn unol â’i gontract neu ei brentisiaeth oherwydd tywydd drwg;
 ystyr “gweithiwr amaethyddol” (“agricultural worker”) yw person a gyflogir ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru, pa un a yw’r holl waith yr ymgymerir ag ef yn rhinwedd y gyflogaeth honno yn cael ei wneud yng Nghymru ai peidio;
 mae i “gweithiwr oriau afreolaidd” yr ystyr a roddir i “irregular hours worker” yn rheoliad 15F o Reoliadau Amser Gwaith 1998;
 mae i “gweithiwr rhan o’r flwyddyn” yr ystyr a roddir i “part-year worker” gan reoliad 15F o Reoliadau Amser Gwaith 1998;
 ystyr “Lantra” yw’r cwmni, neu unrhyw sefydliad sy’n ei olynu, beth bynnag fo’i enw, sydd â’i gyfeiriad swyddfa gofrestredig yn Lantra House, Stoneleigh Park, Swydd Warwick, CV8 2LG ac sydd â’r rhif cofrestru cwmni 02823181 yng Nghymru a Lloegr;
 mae “oriau” (“hours”) yn cynnwys ffracsiwn o awr;
 ystyr “oriau sylfaenol” (“basic hours”) yw uchafswm o 39 o oriau gwaith yr wythnos, neu oriau gwaith eraill y cytunir arnynt (yn ddarostyngedig i’r uchafswm hwnnw), o dan gontract y gweithiwr amaethyddol neu brentisiaeth y gweithiwr amaethyddol, ac eithrio goramser a goramser gwarantedig, a weithir yn unol â naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu brentisiaeth gweithiwr amaethyddol;
 mae i “plentyn” yr ystyr a roddir i “child” yn adran 80EA o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996. Mae plentyn yn blentyn gweithiwr amaethyddol os yw’r gweithiwr amaethyddol yn bodloni’r amodau a bennir yn rheoliad 4(2) o Reoliadau Absenoldeb Profedigaeth Rhiant 2020;
 ystyr “teithio” (“travelling”) yw siwrnai drwy gyfrwng dull teithio neu siwrnai ar droed yn cynnwys—
(a) aros wrth fan ymadael i gychwyn siwrnai drwy gyfrwng dull teithio,
(b) aros wrth fan ymadael i siwrnai ailgychwyn naill ai drwy gyfrwng yr un dull teithio neu drwy gyfrwng un arall, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys, ac
(c) aros ar ddiwedd siwrnai i gyflawni dyletswyddau, neu i dderbyn hyfforddiant, ac eithrio unrhyw amser a dreulir gan y gweithiwr amaethyddol yn cymryd seibiant gorffwys.
(2) Yn yr erthygl hon mae’r cyfeiriad at weithwyr amaethyddol a ddechreuodd eu cyflogaeth cyn 1 Hydref 2006 yn cynnwys gweithwyr amaethyddol—
(a) y mae telerau eu contract wedi bod yn destun unrhyw amrywiad ers hynny; neu
(b) sydd wedi eu cyflogi gan gyflogwr newydd ers hynny yn unol â Rheoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 2006.
(3) Mae cyfeiriadau yn y Gorchymyn hwn at gyfnod o gyflogaeth ddi-dor i’w dehongli fel cyfnod o gyflogaeth ddi-dor a gyfrifir yn unol ag adrannau 210 i 219 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996.
RHAN 2
3 
Mae cyflogaeth gweithiwr amaethyddol yn ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a nodir yn y Rhan hon ac yn Rhannau 3, 4 a 5 o’r Gorchymyn hwn.
4 
Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei gyflogi’n weithiwr amaethyddol ar un o’r Graddau a bennir yn erthyglau 5 i 9 neu fel prentis yn unol â’r darpariaethau yn erthygl 10.
5 
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) sydd â llai na 3 blynedd o brofiad ymarferol sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, a
(b) na all ddarparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2 sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Nhablau A neu B yn Atodlen 4, sy’n berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,gael ei gyflogi’n Weithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A.
6 
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 2, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 2 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Nhablau A neu B yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu
(b) sydd ag o leiaf 3 blynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A,gael ei gyflogi’n Weithiwr Amaethyddol Gradd B.
7 

(1) Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 3, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 3 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Nhablau A neu B yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth,
(b) sydd ag o leiaf 2 flynedd o brofiad ymarferol mewn amaethyddiaeth fel Gweithiwr Amaethyddol Gradd B, neu
(c) sydd wedi ei gyflogi’n arweinydd tîm,
gael ei gyflogi’n Weithiwr Amaethyddol Uwch Gradd C.
(2) At ddibenion yr erthygl hon, mae “arweinydd tîm” yn gyfrifol am arwain tîm o weithwyr amaethyddol ac am fonitro sut mae’r tîm yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau a roddir gan neu ar ran eu cyflogwr ond nid yw’n gyfrifol am faterion disgyblu.
8 
Rhaid i weithiwr amaethyddol—
(a) sy’n darparu tystiolaeth ddogfennol i gyflogwr fod y prif gymhwyster neu gymwysterau sy’n ofynnol ar gyfer prentisiaeth lefel 4, y mae rhaid iddynt fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, wedi eu dyfarnu iddo yn unol â’r fframwaith prentisiaethau, neu ei fod wedi bodloni gofynion prentisiaeth lefel 4 neu brentisiaeth gyfatebol, o’r tu allan i Gymru, fel y pennir yn Nhablau A neu B yn Atodlen 4, y mae rhaid iddi fod yn berthnasol i’w rôl mewn amaethyddiaeth, neu
(b) sydd â chyfrifoldebau sy’n cynnwys gweithredu penderfyniadau rheoli yn annibynnol neu oruchwylio staff,gael ei gyflogi’n Uwch-weithiwr Amaethyddol Gradd D.
9 
Rhaid i weithiwr amaethyddol y mae’n ofynnol iddo ysgwyddo cyfrifoldeb o ddydd i ddydd, gan gynnwys hurio a rheoli staff pan fo’n berthnasol—
(a) dros ddaliad cyfan y cyflogwr, neu
(b) dros ran o ddaliad y cyflogwr a redir fel gweithrediad neu fusnes ar wahân,gael ei gyflogi’n Rheolwr Amaethyddol Gradd E.
10 

(1) Mae gweithiwr amaethyddol yn brentis sydd wedi ei gyflogi o dan brentisiaeth os yw’n cael ei gyflogi o dan naill ai contract prentisiaeth neu gytundeb prentisiaeth o fewn ystyr “apprenticeship agreement” yn adran 32 o Ddeddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009, neu’n cael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth.
(2) Rhaid i weithiwr amaethyddol gael ei drin fel pe bai wedi ei gyflogi o dan gontract prentisiaeth os yw wedi ei gymryd ymlaen yng Nghymru o dan drefniadau Llywodraeth o’r enw Prentisiaethau Sylfaen, Prentisiaethau neu Brentisiaethau Uwch.
(3) Yn yr erthygl hon, ystyr “trefniadau Llywodraeth” yw trefniadau a wneir o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973 neu o dan adran 17B o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 1995.
RHAN 3
11 

(1) Yn ddarostyngedig i weithrediad adran 1 o Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998, rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â’u gwaith yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol.
(2) Yr isafswm cyflog amaethyddol yw’r gyfradd isaf fesul awr a bennir yn y Tabl yn Atodlen 1 fel y gyfradd sy’n gymwys i bob gradd o weithiwr amaethyddol ac i brentisiaid.
12 
Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â goramser a weithir yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf 1.5 gwaith eu cyfradd tâl sylfaenol fesul awr o dan eu contract neu brentisiaeth.
13 

(1) Rhaid i weithwyr amaethyddol gael eu talu gan eu cyflogwr mewn cysylltiad â gwaith allbwn yn ôl cyfradd nad yw’n llai na’r isafswm cyflog amaethyddol a bennir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo sy’n gymwys i’w radd neu i’w gategori.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “gwaith allbwn” yw gwaith sydd, at ddibenion tâl, yn cael ei fesur yn ôl nifer y darnau a wneir neu a brosesir neu nifer y tasgau a gyflawnir gan weithiwr amaethyddol.
14 

(1) Pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu tŷ i weithiwr amaethyddol am y cyfan o’r wythnos honno, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £1.97 yr wythnos oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy ar gyfer yr wythnos honno.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (5) a (6), pan fo cyflogwr, mewn unrhyw wythnos, yn darparu llety arall i weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr dynnu’r swm o £6.31 y dydd oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol sy’n daladwy am bob diwrnod yn yr wythnos y darperir y llety arall i’r gweithiwr amaethyddol.
(3) At ddibenion paragraffau (1) a (4), ystyr “tŷ” yw tŷ annedd cyfan neu lety hunangynhwysol (gan gynnwys unrhyw ardd o fewn cwrtil y tŷ annedd neu’r llety hunangynhwysol hwnnw) y mae’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol fyw ynddo yn rhinwedd contract y gweithiwr amaethyddol er mwyn cyflawni ei ddyletswyddau mewn modd priodol neu well.
(4) At ddibenion paragraff (2), ystyr “llety arall” yw unrhyw lety byw heblaw tŷ—
(a) sy’n addas i bobl fyw ynddo,
(b) sy’n ddiogel ac yn ddiddos,
(c) sy’n darparu gwely i’w ddefnyddio gan bob gweithiwr amaethyddol unigol yn unig, a
(d) sy’n darparu dŵr yfed glân, cyfleusterau glanweithdra addas a digonol a chyfleusterau ymolchi i weithwyr amaethyddol yn unol â rheoliadau 20 i 22 o Reoliadau Gweithleoedd (Iechyd, Diogelwch a Lles) 1992 fel pe bai’r llety’n weithle yr oedd rheoliadau 20 i 22 o’r Rheoliadau hynny’n gymwys iddo.
(5) Dim ond pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi gweithio o leiaf 15 awr yn ystod yr wythnos honno y caniateir i’r didyniad ym mharagraff (2) gael ei wneud.
(6) Rhaid i unrhyw amser yn ystod yr wythnos honno pan fo’r gweithiwr amaethyddol ar wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth gyfrif tuag at y 15 awr hynny.
15 

(1) Nid yw’r lwfansau a’r taliadau a ganlyn yn ffurfio rhan o dâl gweithiwr amaethyddol—
(a) lwfans cŵn o £11.18 y ci i’w dalu’n wythnosol pan fo’i gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gadw un neu ragor o gŵn,
(b) lwfans ar alwad o swm sy’n cyfateb i dair gwaith cyfradd fesul awr y gweithiwr amaethyddol yn ôl ei radd. Mae’r lwfans ar alwad yn daladwy mewn cysylltiad â phob cyfnod y mae’r gweithiwr amaethyddol ar alwad. Ni chaiff cyfnod trefniant ar alwad fod yn hwy na 24 awr,
(c) lwfans gwaith nos o £2.12 am bob awr o waith nos, a
(d) grant geni a mabwysiadu o £87.85 am bob plentyn.
(2) Yn yr erthygl hon—
 ystyr “ar alwad” (“on-call”) yw trefniant ffurfiol rhwng y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr pan fo gweithiwr amaethyddol nad yw yn y gwaith yn cytuno â’i gyflogwr y bydd modd cysylltu ag ef drwy gyfrwng y cytunir arno ac y gall gyrraedd y fan lle y gall fod yn ofynnol iddo weithio o fewn amser y cytunir arno;
 ystyr “grant geni a mabwysiadu” (“birth and adoption grant”) yw taliad y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael oddi wrth ei gyflogwr pan enir plentyn iddo neu pan fydd yn mabwysiadu plentyn ac mae’n daladwy—
(a) pan fo’r gweithiwr amaethyddol wedi rhoi copi i’w gyflogwr o Dystysgrif Geni’r plentyn neu ei Orchymyn Mabwysiadu (sy’n enwi’r gweithiwr amaethyddol fel rhiant y plentyn neu ei riant mabwysiadol) o fewn 3 mis ar ôl geni neu fabwysiadu’r plentyn, a
(b) o dan amgylchiadau pan fo’r ddau riant neu’r ddau riant mabwysiadol yn weithwyr amaethyddol gyda’r un cyflogwr, i’r ddau weithiwr amaethyddol;
 ystyr “gwaith nos” (“night work”) yw gwaith (heblaw oriau goramser) a wneir gan weithiwr amaethyddol rhwng 7 p.m. un noson a 6 a.m. fore trannoeth, ond heb gynnwys y ddwy awr gyntaf o waith y mae gweithiwr amaethyddol yn ei wneud yn y cyfnod hwnnw.
16 

(1) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn mynd ar gwrs hyfforddi gyda chytundeb ei gyflogwr ymlaen llaw, rhaid i’r cyflogwr dalu—
(a) unrhyw ffioedd am y cwrs, a
(b) unrhyw gostau teithio a llety yr eir iddynt gan y gweithiwr amaethyddol wrth fynd ar y cwrs.
(2) Bernir bod gweithiwr amaethyddol sydd wedi ei gyflogi’n ddi-dor fel Gweithiwr Datblygu Amaethyddol Gradd A gan yr un cyflogwr am ddim llai na 30 wythnos wedi cael cymeradwyaeth ei gyflogwr i ymgymryd â hyfforddiant gyda golwg ar sicrhau’r cymwysterau angenrheidiol sy’n ofynnol gan Weithiwr Amaethyddol Gradd B.
(3) Y cyflogwr sydd i dalu am unrhyw hyfforddiant y mae gweithiwr amaethyddol yn ymgymryd ag ef yn unol â pharagraff (2).
(4) Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn rhoi’r gorau i’w gyflogaeth yn ystod y cwrs hyfforddi neu o fewn 12 mis i gwblhau’r cwrs hyfforddi, caiff y cyflogwr adennill y costau a amlinellir ym mharagraff 1—
(a) i’r graddau eu bod wedi cael eu hariannu gan y cyflogwr ac nid gan drydydd parti (e.e. drwy grant neu gymhorthdal perthnasol arall), a
(b) ar yr amod bod contract y gweithiwr amaethyddol yn darparu ar gyfer adennill costau hyfforddi o’r fath.
(5) Ni fydd yn ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu unrhyw gostau hyfforddi pan fo’r cyflogwr wedi terfynu ei gyflogaeth ac eithrio pan oedd gan y cyflogwr hawl i derfynu’r gyflogaeth yn ddiannod a’i fod wedi gwneud hynny.
RHAN 4
17 
Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau yn y Rhan hon, mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr mewn cysylltiad â’i absenoldeb salwch.
18 
Mae gweithiwr amaethyddol yn cymhwyso ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn ar yr amod bod y gweithiwr amaethyddol—
(a) wedi cael ei gyflogi’n ddi-dor gan ei gyflogwr am gyfnod o 52 o wythnosau o leiaf cyn yr absenoldeb salwch,
(b) wedi hysbysu ei gyflogwr am yr absenoldeb salwch mewn ffordd y cytunwyd arno yn flaenorol gyda’i gyflogwr neu, yn niffyg unrhyw gytundeb o’r fath, drwy unrhyw ddull rhesymol, ac
(c) o dan amgylchiadau pan fo’r absenoldeb salwch wedi parhau am gyfnod o 8 diwrnod yn olynol neu ragor, wedi darparu tystysgrif i’w gyflogwr gan ymarferydd meddygol cofrestredig sy’n datgelu’r diagnosis ynghylch anhwylder meddygol y gweithiwr amaethyddol ac sy’n datgan mai’r anhwylder sydd wedi achosi absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol.
19 
Rhaid i unrhyw 2 gyfnod o absenoldeb salwch sydd â chyfnod o 14 o ddiwrnodau neu lai rhyngddynt gael eu trin fel un cyfnod o absenoldeb salwch.
20 

(1) Nid yw tâl salwch amaethyddol yn daladwy am y 3 diwrnod cyntaf o absenoldeb salwch o dan amgylchiadau pan fo hyd yr absenoldeb salwch yn llai na 14 o ddiwrnodau.
(2) Yn ystod pob cyfnod hawl, uchafswm nifer yr wythnosau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael tâl salwch amaethyddol ar eu cyfer yw—
(a) 13 o wythnosau yn ail flwyddyn y gyflogaeth;
(b) 16 o wythnosau yn nhrydedd flwyddyn y gyflogaeth;
(c) 19 o wythnosau ym mhedwaredd flwyddyn y gyflogaeth;
(d) 22 o wythnosau ym mhumed flwyddyn y gyflogaeth;
(e) 26 o wythnosau yn chweched flwyddyn a phob blwyddyn olynol y gyflogaeth.
(3) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu, pan fo’n gymwys, unrhyw oramser gwarantedig ar nifer penodedig o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos.
(4) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu, pan fo’n gymwys, unrhyw oramser gwarantedig ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cyfrifir uchafswm nifer y diwrnodau o dâl salwch amaethyddol y mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i’w cael drwy luosi uchafswm nifer yr wythnosau sy’n berthnasol i’r gweithiwr amaethyddol â nifer y diwrnodau perthnasol.
(5) Cyfrifir nifer y diwrnodau perthnasol drwy rannu nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd yn ystod y cyfnod o 12 mis yn arwain at gyfnod yr absenoldeb salwch â 52.
(6) Mae uchafswm hawl gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn gymwys pa faint bynnag o gyfnodau o absenoldeb salwch a geir yn ystod unrhyw gyfnod hawl.
(7) Yn ddarostyngedig i baragraff (8), yn yr erthygl hon, “cyfnod hawl” yw cyfnod sy’n dechrau â chychwyn absenoldeb salwch ac sy’n dod i ben 12 mis yn ddiweddarach.
(8) Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn cael cyfnod o absenoldeb salwch sy’n cychwyn unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hawl a ddisgrifir ym mharagraff (7), ond sy’n parhau y tu hwnt i ddiwedd y cyfnod hawl hwnnw, rhaid estyn y cyfnod hawl fel y bo’n dod i ben â pha un bynnag o’r canlynol sy’n digwydd gyntaf—
(a) y dyddiad y mae absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben ac y mae’r gweithiwr amaethyddol yn dychwelyd i’r gwaith, neu
(b) y diwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cyrraedd uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol sy’n gymwys i’r cyfnod o 12 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (7) (pe na bai hwnnw wedi ei estyn).
21 

(1) Mae tâl salwch amaethyddol yn daladwy yn ôl cyfradd sy’n cyfateb i o leiaf y gyfradd tâl isaf fesul awr a ragnodir yn erthygl 11 o’r Gorchymyn hwn ac Atodlen 1 iddo fel y gyfradd sy’n gymwys i’r radd honno neu’r categori hwnnw o weithiwr amaethyddol.
(2) Pennir swm y tâl salwch amaethyddol sy’n daladwy i weithiwr amaethyddol drwy gyfrifo nifer yr oriau contract dyddiol a fyddai wedi cael eu gweithio yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch.
(3) Pennir nifer yr oriau contract dyddiol—
(a) o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer penodedig o oriau bob wythnos drwy rannu cyfanswm nifer yr oriau a weithiwyd yn ystod unrhyw wythnos â nifer y diwrnodau a weithiwyd yn yr wythnos honno;
(b) o dan amgylchiadau pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio nifer amrywiol o oriau bob wythnos, drwy ddefnyddio’r fformwla—QH ÷ 8DWEWpan fo, at ddibenion yr erthygl hon:QH yn gyfanswm nifer yr oriau cymwys yn y cyfnod, aDWEW yn nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol o’u cymryd ar gyfartaledd yn ystod cyfnod o 8 wythnos yn union cyn i’r absenoldeb salwch gychwyn.
(4) Yn yr erthygl hon—
 “diwrnodau cymwys” (“qualifying days”) yw unrhyw ddiwrnodau o fewn y cyfnod y cafwyd ynddynt oriau cymwys mewn perthynas â’r gweithiwr amaethyddol
 “oriau cymwys” (“qualifying hours”) yw oriau—
(a) pan fu’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio oriau sylfaenol neu oramser gwarantedig,
(b) pan gymerodd y gweithiwr amaethyddol wyliau blynyddol neu absenoldeb oherwydd profedigaeth,
(c) pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch a oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn, neu
(d) pan gafodd y gweithiwr amaethyddol absenoldeb salwch nad oedd yn gymwys ar gyfer tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn.
22 
Caniateir i swm sy’n hafal i unrhyw daliad tâl salwch statudol a wneir yn unol â Rhan XI o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 mewn cysylltiad â chyfnod absenoldeb salwch gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu oddi ar dâl salwch amaethyddol y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
23 
Rhaid i dâl salwch amaethyddol gael ei dalu i’r gweithiwr amaethyddol ar ei ddiwrnod cyflog arferol yn unol â naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth.
24 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), os yn ystod cyfnod o absenoldeb salwch, y terfynir naill ai contract gweithiwr amaethyddol neu ei brentisiaeth neu y rhoddir hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth i gael ei derfynu neu ei therfynu, mae unrhyw hawl sydd gan y gweithiwr amaethyddol i gael tâl salwch amaethyddol yn parhau ar ôl i’r contract hwnnw ddod i ben fel pe bai’r gweithiwr amaethyddol yn dal yn cael ei gyflogi gan ei gyflogwr, hyd nes i un o’r canlynol ddigwydd—
(a) bod absenoldeb salwch y gweithiwr amaethyddol yn dod i ben,
(b) bod y gweithiwr amaethyddol yn dechrau gweithio i gyflogwr arall, neu
(c) bod uchafswm yr hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn unol ag erthygl 20 yn cael ei ddihysbyddu.
(2) Nid oes gan weithiwr amaethyddol y terfynwyd ei gontract hawl i gael unrhyw dâl salwch amaethyddol ar ôl diwedd ei gyflogaeth yn unol â pharagraff (1) os rhoddwyd hysbysiad i’r gweithiwr amaethyddol fod ei gyflogwr yn bwriadu terfynu ei gontract neu ei brentisiaeth cyn i’r cyfnod o absenoldeb salwch gychwyn.
25 

(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraff (2), os caiff gweithiwr amaethyddol sydd â hawl i gael tâl salwch amaethyddol o dan y Rhan hon daliad am fwy o dâl salwch amaethyddol na’i hawl, caiff ei gyflogwr adennill gordaliad y tâl salwch amaethyddol hwnnw drwy ei dynnu oddi ar gyflog y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
(2) Os tynnir gordaliad tâl salwch amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn fel y’i crybwyllir ym mharagraff (1), ni chaiff y cyflogwr dynnu mwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol oni bai bod hysbysiad wedi ei roi i derfynu’r gyflogaeth neu fod y gyflogaeth eisoes wedi ei therfynu, pryd y caniateir i fwy nag 20% o gyflog gros y gweithiwr amaethyddol gael ei dynnu gan y cyflogwr oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.
26 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys i weithiwr amaethyddol y mae ei hawl i gael tâl salwch amaethyddol yn codi oherwydd gweithred neu anweithred person heblaw ei gyflogwr ac mae’r iawndal yn cael ei adennill gan y gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â cholled enillion a ddioddefwyd yn ystod y cyfnod y cafodd y gweithiwr amaethyddol dâl salwch amaethyddol gan ei gyflogwr ar ei gyfer.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
(a) rhaid i’r gweithiwr amaethyddol roi gwybod ar unwaith i’w gyflogwr am yr holl amgylchiadau perthnasol ac am unrhyw hawliad ac am unrhyw iawndal a adenillwyd o dan unrhyw gyfaddawd, setliad neu ddyfarniad,
(b) rhaid i’r holl dâl salwch amaethyddol a dalwyd gan y cyflogwr i’r gweithiwr amaethyddol hwnnw mewn cysylltiad â’r absenoldeb salwch yr adenillir iawndal am golli enillion ar ei gyfer fod yn gyfystyr â benthyciad i’r gweithiwr amaethyddol, ac
(c) rhaid i’r gweithiwr amaethyddol ad-dalu i’w gyflogwr swm nad yw’n fwy na’r lleiaf o’r canlynol—
(i) swm yr iawndal a adenillwyd am golli enillion yn y cyfnod y talwyd tâl salwch amaethyddol ar ei gyfer, a
(ii) y symiau a roddwyd i’r gweithiwr amaethyddol gan ei gyflogwr o dan y Rhan hon ar ffurf tâl salwch amaethyddol.
RHAN 5
27 
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i seibiannau gorffwys yn unol â rheoliadau 12, 20, 21 a 24 o Reoliadau Amser Gwaith 1998.
28 
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys dyddiol yn unol â rheoliadau 10, 20, 21 a 24 o Reoliadau Amser Gwaith 1998.
29 
Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gyfnod gorffwys wythnosol yn unol â rheoliadau 11, 20, 21 a 24 o Reoliadau Amser Gwaith 1998.
30 
Y flwyddyn gwyliau blynyddol i bob gweithiwr amaethyddol yw’r cyfnod o 12 mis sy’n dechrau ar 1 Hydref ac sy’n dod i ben ar 30 Medi, oni bai bod y gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr yn cytuno rhyngddynt ar flwyddyn gwyliau wahanol.
31 

(1) Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr drwy gydol y flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gael y swm gwyliau blynyddol a ragnodir yn y Tabl yn Atodlen 2.
(2) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol a, phan fo’n gymwys, unrhyw oramser gwarantedig ar nifer penodedig o ddiwrnodau cymwys bob wythnos, nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2 yw’r nifer penodedig hwnnw o ddiwrnodau.
32 

(1) Pan fo gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar nifer amrywiol o ddiwrnodau bob wythnos, cymerir mai nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2 yw cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 o wythnosau yn union cyn i flwyddyn gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol gychwyn a rhaid i’r nifer cyfartalog hwnnw o ddiwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.
(2) Ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol rhaid i’r cyflogwr gyfrifo hawl wirioneddol y gweithiwr amaethyddol at ddibenion y Tabl yn Atodlen 2, ar sail nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos, wedi ei gymryd fel cyfartaledd nifer y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol (h.y. dros gyfnod o 52 o wythnosau) a rhaid i nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys gael ei dalgrynnu i’r diwrnod cyfan agosaf, pan fo hynny’n briodol.
(3) Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cronni hawl gwyliau blynyddol ond heb ei chymryd, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i ddwyn ymlaen unrhyw wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd i’r flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol yn unol ag erthygl 34(3) o’r Gorchymyn hwn neu caiff y gweithiwr amaethyddol a’r cyflogwr gytuno i daliad yn lle unrhyw hawl gwyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd yn unol ag erthygl 37.
(4) Os yw’r gweithiwr amaethyddol, ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol, wedi cymryd mwy o ddiwrnodau gwyliau nag yr oedd ganddo hawl iddynt o dan y Gorchymyn hwn, ar sail nifer cyfartalog y diwrnodau cymwys a weithiwyd bob wythnos (wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (2)), mae gan y cyflogwr hawl i ddidynnu unrhyw dâl am ddiwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol neu, fel arall, ddidynnu’r diwrnodau gwyliau a gymerwyd uwchlaw hawl y gweithiwr amaethyddol o’i hawl ar gyfer y flwyddyn gwyliau blynyddol ganlynol (ar yr amod nad yw didyniad o’r fath yn arwain at fod y gweithiwr amaethyddol yn cael llai na’i hawl gwyliau blynyddol statudol llawn o dan reoliadau 13 a 13A o Reoliadau Amser Gwaith 1998).
(5) Os yw’r gweithiwr amaethyddol yn weithiwr oriau afreolaidd neu’n weithiwr rhan o’r flwyddyn, caniateir cyfrifo ei hawl gwyliau blynyddol fel canran o’i oriau gwaith gwirioneddol yn seiliedig ar y cyfrifiad canlynol:
 (cyfanswm yr hawl gwyliau blynyddol a fynegir mewn wythnosau a nodir yn Atodlen 2 ÷ wythnosau gwaith sy’n weddill yn y flwyddyn gwyliau blynyddol) x 100
33 

(1) Mae gan weithiwr amaethyddol a gyflogir gan yr un cyflogwr am ran o’r flwyddyn gwyliau blynyddol hawl i gronni gwyliau blynyddol yn ôl cyfradd o 1/52 o’r hawl gwyliau blynyddol a bennir yn y Tabl yn Atodlen 2 am bob wythnos orffenedig o wasanaeth gyda’r un cyflogwr.
(2) Pan fo swm y gwyliau blynyddol a gronnwyd mewn achos penodol yn cynnwys ffracsiwn o ddiwrnod heblaw hanner diwrnod, mae’r ffracsiwn hwnnw—
(a) i’w dalgrynnu i lawr i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n llai na hanner diwrnod, a
(b) i’w dalgrynnu i fyny i’r diwrnod cyfan nesaf os yw’n fwy na hanner diwrnod.
34 

(1) Caiff gweithiwr amaethyddol gymryd gwyliau blynyddol y mae ganddo hawl i’w cymryd o dan y Gorchymyn hwn unrhyw bryd o fewn y flwyddyn gwyliau blynyddol yn ddarostyngedig i gymeradwyaeth ei gyflogwr.
(2) Nid oes gan weithiwr amaethyddol hawl i ddwyn unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen o’r naill flwyddyn gwyliau blynyddol i’r flwyddyn gwyliau blynyddol nesaf heb gymeradwyaeth ei gyflogwr.
(3) Pan fo cyflogwr wedi cytuno y caiff gweithiwr amaethyddol ddwyn unrhyw hawl gwyliau blynyddol nas cymerwyd ymlaen, dim ond yn ystod y flwyddyn gwyliau blynyddol y mae’n cael ei ddwyn ymlaen iddi y caniateir i’r balans gael ei gymryd.
(4) Yn ystod y 6 mis cyntaf mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol caiff cyflogwr ei gwneud yn ofynnol i weithiwr amaethyddol gymryd hyd at 2 wythnos o’i hawl gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn a chaiff gyfarwyddo i’r gweithiwr amaethyddol gymryd un o’r 2 wythnos hynny o wyliau blynyddol ar ddiwrnodau yn yr un wythnos.
(5) Yn ystod yr ail 6 mis mewn unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol, rhaid i gyflogwr ganiatáu i weithiwr amaethyddol gymryd 2 wythnos o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol o dan y Gorchymyn hwn mewn wythnosau olynol.
(6) At ddibenion yr erthygl hon, mae 1 wythnos o wyliau blynyddol gweithiwr amaethyddol yn cyfateb i nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol fel y’i pennir yn unol ag erthyglau 31 a 32.
35 

(1) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael ei dalu mewn cysylltiad â phob diwrnod o wyliau blynyddol y mae’n ei gymryd yn seiliedig ar dâl wythnosol arferol y gweithiwr amaethyddol.
(2) Mae swm y tâl gwyliau y mae gan weithiwr amaethyddol hawl iddo o dan baragraff (1) i’w bennu yn unol â rheoliad 16 neu 16A o Reoliadau Amser Gwaith 1998.
(3) Caniateir i dâl gwyliau gweithwyr amaethyddol sy’n weithwyr oriau afreolaidd neu’n weithwyr rhan o’r flwyddyn gael ei dalu drwy godiad canrannol i dâl y gweithiwr amaethyddol. Canfyddir y ganran sy’n gymwys ar gyfer cyfrifo’r codiad yn unol ag erthygl 32(5).
(4) Yn yr erthygl hon, ystyr “tâl wythnosol arferol” yw—
(a) taliadau, gan gynnwys taliadau comisiwn, sydd â chysylltiad cynhenid â chyflawni tasgau y mae’n ofynnol i weithiwr amaethyddol eu cyflawni o dan delerau ei gontract;
(b) taliadau am statws proffesiynol neu bersonol sy’n ymwneud â hyd gwasanaeth, pa mor uchel yw’r safle neu gymwysterau proffesiynol;
(c) taliadau eraill, fel taliadau goramser, sydd wedi eu talu’n rheolaidd i weithiwr amaethyddol yn y 52 o wythnosau cyn y dyddiad cyfrifo.
36 

(1) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo gŵyl gyhoeddus neu ŵyl banc yng Nghymru yn syrthio ar ddiwrnod pan fo’n ofynnol fel arfer i weithiwr amaethyddol weithio o dan naill ai ei gontract neu ei brentisiaeth.
(2) Mae gan weithiwr amaethyddol y mae ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc hawl i gael tâl nad yw’n llai na’r gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12.
(3) Mae balans y gwyliau blynyddol sydd wedi eu cronni ar gyfer y flwyddyn gwyliau honno o dan y Gorchymyn hwn gan weithiwr amaethyddol nad yw ei gyflogwr yn ei gwneud yn ofynnol iddo weithio ar yr ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc i gael ei leihau o 1 diwrnod mewn cysylltiad â’r ŵyl gyhoeddus neu’r ŵyl banc nad yw’n ofynnol i’r gweithiwr amaethyddol weithio arni.
37 

(1) Yn ddarostyngedig i’r amodau ym mharagraff (2), caiff gweithiwr amaethyddol a’i gyflogwr gytuno bod y gweithiwr amaethyddol i gael taliad yn lle diwrnod o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
(2) Yr amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) bod uchafswm nifer y diwrnodau y caiff gweithiwr amaethyddol gael taliad yn lle gwyliau blynyddol ar eu cyfer yn ystod unrhyw flwyddyn gwyliau blynyddol wedi ei ragnodi yn y Tabl yn Atodlen 3,
(b) bod cofnod ysgrifenedig i’w gadw gan y cyflogwr ynglŷn ag unrhyw gytundeb y caiff gweithiwr amaethyddol daliad yn lle diwrnod o wyliau blynyddol am o leiaf 3 blynedd gan gychwyn ar ddiwedd y flwyddyn gwyliau honno,
(c) o dan amgylchiadau pan nad yw’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ar ddiwrnod fel y cytunir yn unol â pharagraff (1), bod y diwrnod hwnnw i barhau’n rhan o hawl gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol, a
(d) bod taliad yn lle gwyliau blynyddol i’w dalu ar gyfradd sy’n cynnwys y gyfradd goramser a bennir yn erthygl 12 yn ogystal â thâl gwyliau a gyfrifir yn unol ag erthygl 35 fel pe bai’r diwrnod y gwneir taliad yn lle gwyliau blynyddol ar ei gyfer yn ddiwrnod y mae’r gweithiwr amaethyddol yn cymryd gwyliau blynyddol.
(3) Nid yw darpariaethau’r erthygl hon yn atal gweithiwr amaethyddol sy’n bodloni’r diffiniad o weithiwr oriau afreolaidd neu weithiwr rhan o’r flwyddyn rhag cael codiad yn ei gyflog mewn cysylltiad â’r cyfan o’i hawl i wyliau yn unol ag erthygl 35(3).
38 

(1) Pan derfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol ac nad yw’r gweithiwr amaethyddol wedi cymryd yr holl hawl gwyliau blynyddol sydd wedi cronni iddo ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl yn unol â pharagraff (2) i gael taliad yn lle’r gwyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd.
(2) Mae swm y taliad sydd i’w dalu i’r gweithiwr amaethyddol yn lle pob diwrnod o’i wyliau blynyddol a gronnwyd ond nas cymerwyd ar ddyddiad terfynu’r gyflogaeth i’w gyfrifo yn unol ag erthygl 35 fel pe bai dyddiad terfynu’r gyflogaeth yn ddiwrnod cyntaf cyfnod o wyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol.
39 

(1) Os terfynir cyflogaeth gweithiwr amaethyddol cyn diwedd y flwyddyn gwyliau blynyddol a bod y gweithiwr amaethyddol wedi cymryd mwy o wyliau blynyddol nag yr oedd ganddo hawl i’w cael o dan ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn neu fel arall, mae gan ei gyflogwr hawl i adennill swm y tâl gwyliau a dalwyd i’r gweithiwr amaethyddol mewn cysylltiad â gwyliau blynyddol a gymerwyd uwchlaw ei hawl.
(2) Pan fo gan gyflogwr hawl o dan baragraff (1) i adennill tâl gwyliau oddi ar weithiwr amaethyddol, caiff y cyflogwr wneud hynny drwy ei dynnu oddi ar daliad cyflog olaf y gweithiwr amaethyddol.
40 

(1) Mae gan weithiwr amaethyddol hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl a thâl profedigaeth amaethyddol yn unol ag erthygl 41 o dan amgylchiadau pan fo’r brofedigaeth yn ymwneud â pherson yng Nghategori A, Categori B neu Gategori C.
(2) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori A yw plentyn.
(3) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori B yw—
(a) rhiant i’r gweithiwr amaethyddol,
(b) priod neu bartner sifil y gweithiwr amaethyddol, neu
(c) rhywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent yn briod (heb fod yn gyfreithiol briod) neu rywun y mae’r gweithiwr amaethyddol yn byw gydag ef fel pe baent mewn partneriaeth sifil (heb fod mewn partneriaeth sifil yn gyfreithiol).
(4) At ddibenion paragraff (1), personau yng Nghategori C yw—
(a) brawd neu chwaer i’r gweithiwr amaethyddol,
(b) mam-gu/nain neu dad-cu/taid i’r gweithiwr amaethyddol, neu
(c) ŵyr neu wyres i’r gweithiwr amaethyddol.
(5) At ddibenion paragraff (1) mae absenoldeb oherwydd profedigaeth yn ychwanegol at unrhyw hawliau eraill i gael absenoldeb o dan y Gorchymyn hwn.
41 

(1) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A yw 2 wythnos.
(2) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B yw—
(a) 4 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr, neu
(b) pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (3).
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
 DWEW x 4
 5
(4) Swm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C yw—
(a) 2 diwrnod pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 5 niwrnod neu fwy bob wythnos i’r un cyflogwr, neu
(b) pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai i’r un cyflogwr, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol â pharagraff (5).
(5) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), mae swm hawl gweithiwr amaethyddol i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori C i’w gyfrifo yn ôl y fformwla a ganlyn—
 DWEW x 2
 5
(6) At ddibenion y fformwla ym mharagraffau (3) a (5), DWEW yw nifer y diwrnodau a weithiwyd bob wythnos gan y gweithiwr amaethyddol wedi ei gyfrifo yn unol ag erthygl 31 neu 32 (fel y bo’n briodol).
(7) Pan fo’r cyfrifiad ym mharagraff (3) neu (5) yn arwain at hawl i gael absenoldeb oherwydd profedigaeth o lai nag 1 diwrnod, mae’r hawl i’w thalgrynnu i fyny i un diwrnod cyfan.
(8) O dan amgylchiadau pan fo mwy nag un gyflogaeth gan weithiwr amaethyddol (boed gyda’r un cyflogwr neu gyda chyflogwyr gwahanol), caniateir cymryd absenoldeb oherwydd profedigaeth â thâl mewn cysylltiad â mwy nag un gyflogaeth ond ni chaiff, mewn cysylltiad ag unrhyw un brofedigaeth, fod yn fwy nag uchafswm yr absenoldeb oherwydd profedigaeth a bennir ar gyfer un gyflogaeth yn yr erthygl hon.
42 

(1) Mae swm y tâl mewn cysylltiad ag absenoldeb oherwydd profedigaeth yn sgil marwolaeth person yng Nghategori A, am y pedwar diwrnod cyntaf neu, pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn gweithio ei oriau sylfaenol ar 4 diwrnod yr wythnos neu lai, nifer y diwrnodau a gyfrifir yn unol ag erthygl 41(3), i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 35 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol hwnnw. Ar gyfer gweddill unrhyw gyfnod o absenoldeb oherwydd profedigaeth, mae gan y gweithiwr amaethyddol hawl i gael swm sy’n cyfateb i dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol sy’n gymwys o bryd i’w gilydd.
(2) Mae unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol a delir i’r gweithiwr amaethyddol yn unol â pharagraff (1) yn cynnwys unrhyw dâl absenoldeb profedigaeth rhiant statudol y gall y gweithiwr amaethyddol fod â hawl i’w gael ar gyfer yr un cyfnod.
(3) Mae swm y tâl absenoldeb profedigaeth amaethyddol y mae gan weithiwr amaethyddol hawl i’w gael yn sgil marwolaeth person yng Nghategori B neu C i’w bennu yn unol â darpariaethau erthygl 35 fel pe bai diwrnod cyntaf absenoldeb y gweithiwr amaethyddol oherwydd profedigaeth yn ddiwrnod cyntaf gwyliau blynyddol y gweithiwr amaethyddol hwnnw.
43 

(1) Mae gan weithiwr amaethyddol yr hawl i ofyn am gyfnod o absenoldeb di-dâl gan ei gyflogwr.
(2) Pan fo’r gweithiwr amaethyddol yn bodloni’r gofynion cymhwystra ar gyfer amser i ffwrdd ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus neu ddibynyddion o dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996, absenoldeb rhiant o dan Reoliadau Absenoldeb Mamolaeth a Rhiant etc. 1999 neu absenoldeb gofalwr o dan Reoliadau Absenoldeb Gofalwr 2024, rhaid I’r cyflogwr ymateb yn unol â’r ddeddfwriaeth berthnasol.
(3) Mewn achosion eraill, caiff y cyflogwr ddewis pa un ai i gydsynio i gais y gweithiwr amaethyddol am absenoldeb di-dâl.
RHAN 6
44 

(1) Mae Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 wedi ei ddirymu.
(2) Mae gweithiwr amaethyddol a gyflogir yn weithiwr amaethyddol ar Radd neu’n brentis, ac sy’n ddarostyngedig i’r telerau a’r amodau a ragnodwyd yng Ngorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024 neu unrhyw Orchmynion blaenorol, yn ddarostyngedig, o’r dyddiad y mae’r Gorchymyn hwn yn cymryd effaith, i’r telerau a’r amodau a nodir yn Rhannau 2 i 5 o’r Gorchymyn hwn.
(3) Yn yr erthygl hon ystyr “Gorchmynion blaenorol” yw Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2024, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2023, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Rhif 2) (Cymru) 2022, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2022, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2020, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2019, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2018, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2017, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru) 2016, Gorchymyn Cyflogau Amaethyddol (Cymru a Lloegr) 2012 a phob gorchymyn a ddirymwyd gan erthygl 70 o’r Gorchymyn hwnnw.
Huw Irranca-Davies
Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
6 Mawrth 2025
ATODLEN 1
Erthyglau 11, 13 ac 21


Y Tabl
Gradd Y gyfradd isaf o 1 Ebrill 2025
A1 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (16-17 oed) £7.55
A2 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (18-20 oed) £10.00
A3 – Gweithiwr datblygu amaethyddol (21+ oed) £12.21
B1 – Gweithiwr amaethyddol (16-17 oed) £7.55
B2 – Gweithiwr amaethyddol (18-20 oed) £10.00
B3 – Gweithiwr amaethyddol (21+ oed) £12.59
C – Gweithiwr amaethyddol uwch £13.48
D – Uwch-weithiwr amaethyddol £14.79
E – Rheolwr amaethyddol £16.23
Prentis Blwyddyn 1 £7.55
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (16-17 oed) £7.55
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (18-20 oed) £10.00
Prentis Blwyddyn 2 a’r tu hwnt (21+ oed) £12.21
ATODLEN 2
Erthyglau 31, 32 a 33


Y TablNifer y diwrnodau a weithir bob wythnos gan weithiwr amaethyddol Mwy na 6 Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6 Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5 Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4 Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3 Mwy nag 1 ond heb fod yn fwy na 2 1 neu lai
Hawliau gwyliau blynyddol (diwrnodau) 38 35 31 25 20 13 7.5
Hawliau gwyliau blynyddol (wythnosau) 6.3 5.8 6.2 6.3 6.7 6.5 7.5
ATODLEN 3
Erthygl 37


Y TablUchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol y caniateir taliad yn eu lle
Diwrnodau a weithir bob wythnos Mwy na 6 Mwy na 5 ond heb fod yn fwy na 6 Mwy na 4 ond heb fod yn fwy na 5 Mwy na 3 ond heb fod yn fwy na 4 Mwy na 2 ond heb fod yn fwy na 3 Mwy nag 1 ond heb fod yn fwy na 2 1 neu lai
Uchafswm nifer y diwrnodau gwyliau blynyddol o dan y Gorchymyn hwn y caniateir taliad yn eu lle 10 7 3 2.5 2.5 1.5 1.5
ATODLEN 4
Erthyglau 5, 6, 7 ac 8


Tabl A
Cymwysterau cyfatebol yn Lloegr, Gogledd Iwerddon, Gweriniaeth Iwerddon a’r Alban
Cymru Lloegr Gogledd Iwerddon Gweriniaeth Iwerddon Yr Alban
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 Prentisiaeth Ganolradd Lefel 2 Hyfforddeiaethau Gogledd Iwerddon Lefel 2 - Prentisiaeth Fodern Lefel 5
Prentisiaeth Lefel 3 Uwch Brentisiaeth Lefel 3 Prentisiaeth Gogledd Iwerddon Lefel 3 Prentisiaeth Lefel 5 Prentisiaeth Fodern Lefel 6, Prentisiaeth Sylfaen Lefel 6
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 Prentisiaeth Uwch Lefel 4 Prentisiaeth Lefel Uwch Lefel 4 Prentisiaeth Lefel 6 Prentisiaeth Fodern Lefel 7Tabl B
Cymwysterau cyfatebol o dan y Fframwaith Cymwysterau Ewropeaidd (‘FfCE’)
Cymru FfCE
Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 FfCE Lefel 3
Prentisiaeth Lefel 3 FfCE Lefel 4
Prentisiaeth Uwch Lefel 4 FfCE Lefel 5
