
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygiadau Amrywiol) 2025.
(2) Daw’r rheoliad hwn a rheoliad 3 i rym ar 31 Mawrth 2025.
(3) Daw rheoliad 2 i rym am 12:01 a.m. ar 1 Ebrill 2025.
2 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) 2020 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (Dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn electronig”, ym mharagraff (b), yn lle “TPE” rhodder “presgripsiynau electronig”,
(b) hepgorer y diffiniad o “gwasanaeth TPE”,
(c) yn y lle priodol, mewnosoder—“
 ystyr “meddyginiaeth a roddir ar bresgripsiwn yn unig” (“prescription only medicine”) yw meddyginiaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 5(3) (dosbarthiad cynhyrchion meddyginiaethol) o Reoliadau Meddyginiaethau Dynol 2012;”, a
(d) yn y diffiniad o “presgripsiwn amlroddadwy”, ym mharagraff (a)(ii), yn lle “TPE” rhodder “presgripsiynau electronig”.
(3) Yn Atodlen 5—
(a) yn Rhan 2, yn y pennawd i baragraff 5A o flaen “rhestredig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “offthalmig”,
(b) yn Rhan 2, ym mharagraff 5A—
(i) yn lle “rhestredig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “offthalmig rhestredig”, gan dreiglo yn ôl yr angen;
(ii) yn is-baragraff (3)(a), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”, a
(iii) yn is-baragraff (5), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”;
(c) yn Rhan 2, ym mharagraff 9, yn is-baragraff (8C)(b), hepgorer “yn uniongyrchol”;
(d) yn Rhan 2, yn lle paragraff 20(4) rhodder—“
(4) Rhaid i fferyllydd GIG, mewn achosion priodol, gadw a chynnal cofnod o unrhyw gyngor a roddir ac unrhyw ymyriadau neu atgyfeiriadau a wneir (yn benodol ymyriadau o arwyddocâd clinigol) o dan y paragraff hwn.”;
(e) yn Rhan 3, ym mharagraff 23(6B), yn lle “ym mharagraff” rhodder “yn is-baragraff”.
3 

(1) Mae Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol) (Cymru) (Diwygio) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(2), yn lle “2” rhodder “2(1)”.
(3) Yn rheoliad 3—
(a) ym mharagraff (2), yn lle “rhestredig”, ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “offthalmig rhestredig”, gan dreiglo yn ôl yr angen, a
(b) ym mharagraff (14)(a), yn lle “6(c)” rhodder “(6A)”.
(4) Yn yr Atodlen—
(a) ym mharagraff 2, yn y diffiniad o “optometrydd cymhwysol” yn lle “Restr Gyfunol Offthalmig” rhodder “restr gyfunol”, a
(b) ym mharagraff 3, yn rheoliad 4A(1) a fewnosodwyd, yn lle “Bydd optometrydd cymhwysol yn archebu” rhodder “Rhaid i optometrydd cymhwysol archebu”.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
5 Mawrth 2025