
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Cyllid Myfyrwyr) (Symiau Terfynau Ffioedd a Benthyciadau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 17 Mawrth 2025.
(3) Mae rheoliad 3 yn gymwys mewn perthynas â darparu cymorth i fyfyriwr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025, pa un a wneir unrhyw beth a wneir o dan y Rheoliadau hyn cyn, ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw ai peidio.
2 

(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Symiau) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3, yn Nhabl 1—
(a) yng Ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Awst 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 £9,535”
(3) Yn rheoliad 4(2), yn Nhabl 2—
(a) yng Ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Awst 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 £4,765”
(4) Yn rheoliad 5(2), yn Nhabl 3—
(a) yng Ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Awst 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 £1,905”
(5) Yn rheoliad 6(2), yn Nhabl 4—
(a) yng Ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Awst 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnod a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Awst 2025 £1,430”
3 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 20 (benthyciad ychwanegol at ffioedd mewn perthynas â chyrsiau sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2012)—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£250” rhodder “£535”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£125” rhodder “£265”;
(c) ym mharagraff (5)(a), yn lle “£50” rhodder “£105”;
(d) ym mharagraff (6)(a), yn lle “£35” rhodder “£80”.
(3) Yn rheoliad 21 (benthyciad newydd at ffioedd sefydliad preifat)—
(a) ym mharagraff (3)(a), yn lle “£6,165” rhodder “£6,355”;
(b) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£3,080” rhodder “£3,175”;
(c) ym mharagraff (5)(a), yn lle “£1,230” rhodder “£1,270”;
(d) ym mharagraff (6)(a), yn lle “£920” rhodder “£950”.
(4) Yn rheoliad 22 (benthyciad at ffioedd mynediad graddedig carlam)—
(a) ym mharagraff (3), yn lle “£5,535” rhodder “£5,785”;
(b) ym mharagraff (5)(a), yn lle “£250” rhodder “£285”.
(5) Yn rheoliad 86 (benthyciad newydd at ffioedd rhan-amser)—
(a) ym mharagraff (4)(a), yn lle “£6,935” rhodder “£7,145”;
(b) ym mharagraff (5)(a), yn lle “£4,625” rhodder “£4,765”.
4 
Yn Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Cymru) 2018, yn rheoliad 40 (swm benthyciad at ffioedd dysgu), ym mharagraff (3), yn Nhabl 2—
(a) yng Ngholofn 1, ar ôl “Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2024” mewnosoder “ond cyn 1 Medi 2025”;
(b) ar ddiwedd y Tabl, mewnosoder y cofnodion a ganlyn yn y tabl—“
Sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2025 1 Darparwr arferol Cymru £9,535: cwrs llawnamser£2,625: cwrs rhan-amser
Mannau eraill yn y DU £9,535: cwrs llawnamser£7,145: cwrs rhan-amser
Sefydliad preifat Cymru £6,355: cwrs llawnamser£2,625: cwrs rhan-amser
Mannau eraill yn y DU £6,355: cwrs llawnamser£4,765: cwrs rhan-amser
2 Darparwr arferol Cymru a mannau eraill yn y DU £4,765
Sefydliad preifat Cymru a mannau eraill yn y DU £3,175
3 Darparwr arferol Cymru a Lloegr £1,905
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £4,765
Sefydliad preifat Cymru a Lloegr £1,270
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £3,175
4 Darparwr arferol Cymru a Lloegr £1,430
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £4,765
Sefydliad preifat Cymru a Lloegr £950
Yr Alban a Gogledd Iwerddon £3,175
5 Darparwr arferol Cymru a mannau eraill yn y DU £6,070
6 Darparwr arferol Cymru, Lloegr a’r Alban £1,430”
Vikki Howells
Y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch, o dan awdurdod Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2025