
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Caffael (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 24 Chwefror 2025.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Caffael 2023;
 ystyr “Rheoliadau 2024” (“the 2024 Regulations”) yw Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024.
RHAN 2
3 

(1) Mae Deddf 2023 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (symiau trothwy), ym mharagraff 1(1)—
(a) yn y geiriau o flaen y tabl—
(i) ar ôl “the table below is” mewnosoder “the threshold set out in the corresponding row of the third column.”;
(ii) hepgorer paragraffau (a) a (b) a’r “and” rhwng y paragraffau hynny;
(b) yn y tabl—
(i) hepgorer y drydedd golofn (fel bod y bedwaredd golofn yn dod yn drydedd golofn);
(ii) ym mhennawd y drydedd golofn newydd, hepgorer “: any other contract”.
(3) Hepgorer paragraff 1(1A) o Atodlen 1.
(4) Yn Atodlen 9 (cyflenwyr gwladwriaethau cytuniad)—
(a) hepgorer paragraff A1 a’r penawdau italig o’i flaen ac ar ei ôl;
(b) ym mharagraff 9—
(i) hepgorer paragraff (a) a’r “In—” o’i flaen;
(ii) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “(b) any other case, the”;
(c) ym mharagraff 10—
(i) hepgorer paragraff (a) a’r “In—” o’i flaen;
(ii) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “(b) any other case, the”;
(d) ym mharagraff 11—
(i) hepgorer paragraff (a) a’r “In—” o’i flaen;
(ii) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “(b) any other case, the”;
(e) ym mharagraff 13—
(i) hepgorer paragraff (a) a’r “In—” o’i flaen;
(ii) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “(b) any other case, the”;
(f) ym mharagraff 17—
(i) hepgorer paragraff (a) a’r “In—” o’i flaen;
(ii) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “(b) any other case, the”;
(g) ym mharagraff 20—
(i) hepgorer paragraff (a) a’r “In—” o’i flaen;
(ii) ar ddechrau paragraff (b), hepgorer “(b) any other case, the”.
RHAN 3
4 

(1) Mae Rhan 1 o Reoliadau 2024 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli), yn y lle priodol mewnosoder—“
 mae i “contract cyfleustodau” yr ystyr a roddir i “utilities contract” gan adran 6 o Ddeddf 2023;”.
5 

(1) Mae Rhan 2 o Reoliadau 2024 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4 (dehongli Rhan 2)—
(a) yn y testun Saesneg, yn lle “(“Deddf 2006”)” rhodder “(“DC 2006”)”,
(b) hepgorer y diffiniad o “contract cyfleustodau”,
(c) yn y testun Saesneg, yn y diffiniad o “utility”, hepgorer—“
 “Welsh digital platform” (“platfform digidol Cymreig”) means the online system provided by the Welsh Government for use by contracting authorities to whom regulation 2 applies;”, a
(d) yn y lle priodol yn y testun Saesneg, mewnosoder—“
 “Welsh digital platform” (“platfform digidol Cymreig”) means the online system provided by the Welsh Government for use by contracting authorities to whom regulation 2 applies;”.
(3) Yn rheoliad 12 (gwybodaeth y cyflenwr o ran ei bersonau cysylltiedig)—
(a) ar ddiwedd paragraff (6)(f), hepgorer “ac”, a
(b) ym mharagraff (6)(g) hepgorer yr atalnod llawn, ac yna ar ôl paragraff (6)(g) mewnosoder—“, ac
(h) pan fo’r person cysylltiedig yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan DC 2006, rhif cofrestru’r person a roddwyd o dan y Ddeddf honno.”
(4) Yn rheoliad 13 (gwybodaeth y cyflenwr o ran seiliau dros wahardd)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “(13)” rhodder “(13A)”,
(b) ar ddiwedd paragraff (8)(a)(i), mewnosoder “neu”,
(c) ar ddiwedd paragraff (13)(d)(ii), mewnosoder “ac”,
(d) hepgorer paragraff (13)(e) a’r “ac” ar ei ôl, ac
(e) ar ôl paragraff (13), mewnosoder—“
(13A) Os yw’r cyflenwr neu un neu ragor o bersonau cysylltiedig wedi bod yn destun digwyddiad a grybwyllir ym mharagraffau (2) i (12), unrhyw dystiolaeth bod y cyflenwr neu’r person cysylltiedig—
(a) wedi cymryd y digwyddiad o ddifrif, er enghraifft drwy dalu unrhyw ddirwy neu iawndal,
(b) wedi cymryd camau i atal y digwyddiad rhag digwydd eto, er enghraifft drwy newid staff neu reolwyr, neu roi gweithdrefnau neu hyfforddiant ar waith, ac
(c) wedi ymrwymo i gymryd camau ataliol pellach, pan fo hynny’n briodol.”
(5) Yn rheoliad 19(2) (hysbysiadau tendro: gweithdrefn agored), hepgorer is-baragraff (v).
(6) Yn rheoliad 20(2) (hysbysiadau tendro: gweithdrefn hyblyg gystadleuol)—
(a) hepgorer yr “ac” ar ôl is-baragraff (g), a
(b) yn is-baragraff (h) hepgorer yr atalnod llawn, ac yna ar ôl is-baragraff (h) mewnosoder—“, ac
(i) a yw dogfen dendro gysylltiedig yn cael ei darparu, neu y gall gael ei darparu, yn unol â’r hysbysiad tendro ar ôl y dyddiad y bydd yr hysbysiad hwnnw yn cael ei gyhoeddi ac, os felly, dolen i’r dudalen we lle y bydd yn cael ei darparu, neu esboniad ynghylch sut y bydd y ddogfen yn cael ei darparu.”
(7) Yn rheoliad 27 (hysbysiadau tryloywder)—
(a) ar ôl paragraff (2)(d), mewnosoder—“
(da) yn achos caffaeliad pan fo’r cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol ym mharagraff 8 o Atodlen 5 i Ddeddf 2023 yn gymwys, codau adnabod unigryw y weithdrefn dendro gystadleuol gynharach (sef cod adnabod y caffaeliad) a’r contract cynharach y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(a) o Atodlen 5,”;
(b) ar ôl paragraff (2)(k)(i), hepgorer “a”;
(c) ar ôl paragraff (2)(k)(ii), mewnosoder—“a
(iii) y cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn Atodlen 5 i Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn gymwys,”;
(d) ar ôl paragraff (2)(p), mewnosoder—“
(pa) disgrifiad o unrhyw opsiwn a fydd yn cael ei gynnwys yn y contract—
(i) i gyflenwi nwyddau, gwasanaethau neu weithiau ychwanegol, neu
(ii) i estyn neu adnewyddu cyfnod y contract,”.
(8) Yn rheoliad 28 (hysbysiadau dyfarnu contract ac eithrio’r rhai a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat)—
(a) ym mharagraff (2)(e)(vi), hepgorer “(mae i “person â chyswllt” yr ystyr a roddir i “associated person” gan adran 26(4) o Ddeddf 2023)”, a
(b) ar ôl paragraff (8), mewnosoder—“
(9) Yn y rheoliad hwn, mae i “person â chyswllt” yr ystyr a roddir i “associated person” gan adran 26(4) o Ddeddf 2023.”
(9) Yn rheoliad 30 (hysbysiadau dyfarnu contract a gyhoeddir gan gyfleustodau preifat: dyfarniadau uniongyrchol)—
(a) ar ôl paragraff (2)(g)(i), hepgorer “a”, a
(b) ar ôl paragraff (2)(g)(ii), mewnosoder—“a
(iii) y cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn Atodlen 5 i Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn gymwys,”.
(10) Yn rheoliad 36 (hysbysiadau manylion contract: dyfarniad uniongyrchol), yn lle paragraff (2)(e), rhodder—“
(e) os yw is-baragraff (d) yn gymwys—
(i) y cyfiawnhad dros ddyfarnu yn uniongyrchol yn Atodlen 5 i Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei fod yn gymwys,
(ii) y drosedd, neu’r digwyddiad arall a grybwyllir yn Atodlen 6 i Ddeddf 2023, y mae’r cyflenwr yn gyflenwr gwaharddedig yn rhinwedd y drosedd honno neu’r digwyddiad hwnnw, a
(iii) pa sail yn adran 41(5) o Ddeddf 2023 sy’n gymwys, ac esboniad ynghylch pam y mae’r awdurdod contractio yn ystyried ei bod yn gymwys,”.
(11) Yn rheoliad 39(2) (hysbysiadau cydymffurfedd taliadau)—
(a) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—“
(ca) cyfran yr anfonebau a dalwyd, yn unol â’r teler yn adran 68(2) o Ddeddf 2023, yn ystod y cyfnod adrodd, wedi ei mynegi fel canran o gyfanswm nifer yr anfonebau a dalwyd, neu a ddylai fod wedi eu talu, yn unol â’r teler hwnnw o fewn y cyfnod adrodd,”;
(b) ym mharagraff (5), yn lle “gyfeiriad”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, rhodder “cynnwys cyfeiriad”.
6 
Ar ôl rheoliad 45 (ystyr “works” ym mharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf 2023), mewnosoder—“
45A. 

(1) At ddibenion y prawf trosiant (“turnover testym mharagraff 6(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2023, mae—
(a) swm trosiant ymgysylltiedig person ymgysylltiedig i’w gyfrifo gan ddefnyddio swm cyfan ei drosiant ymgysylltiedig a gynhyrchwyd dros y cyfnod perthnasol, a
(b) cyfanswm trosiant person ymgysylltiedig i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm cyfan ei drosiant a gynhyrchwyd dros y cyfnod perthnasol.
(2) Pan na fo swm trosiant ymgysylltiedig neu gyfanswm trosiant person ymgysylltiedig ar gael ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan oherwydd bod y person ymgysylltiedig wedi cael ei greu neu wedi cychwyn ei weithgareddau ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae’r swm trosiant ymgysylltiedig a chyfanswm y trosiant i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (3).
(3) Mae swm trosiant ymgysylltiedig a chyfanswm trosiant person ymgysylltiedig i’w gyfrifo—
(a) pan na fu trosiant yn ystod y cyfnod perthnasol, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drosiant ymgysylltiedig neu gyfanswm y trosiant, yn ôl y digwydd, a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract, ar gyfer unrhyw ran o’r cyfnod o dair blynedd nad yw paragraff (i) yn ei chwmpasu.
(4) Wrth gyfrifo’r swm trosiant ymgysylltiedig a chyfanswm y trosiant mewn perthynas â pherson (“A”), mae trosiant cyfwerth person, sy’n berson ymgysylltiedig mewn perthynas ag A ond nad y cyfleustod mohono, i’w drin fel rhan o drosiant A.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw naill ai—
(a) y cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â dyddiad dyfarnu’r contract, neu
(b) pan na fo gwybodaeth sy’n ymwneud â throsiant ar gyfer y cyfnod yn is-baragraff (a) ar gael, cyfnod o dair blynedd sy’n cyfateb i gyfnodau cyfrifyddu’r person ymgysylltiedig ac sy’n gorffen heb fod yn gynharach na blwyddyn cyn dyddiad dyfarnu’r contract;ystyr “trosiant cyfwerth” (“equivalent turnover”)—
(a) pan fo’r prawf trosiant yn cael ei gymhwyso mewn cysylltiad â chontract cyfleustodau ar gyfer cyflenwi nwyddau, mewn cysylltiad ag—
(i) y swm trosiant ymgysylltiedig, yw trosiant sy’n deillio o gyflenwi nwyddau i’r cyfleustod neu i’r personau eraill sy’n ymgysylltiedig â’r cyfleustod;
(ii) cyfanswm y trosiant, yw cyfanswm y trosiant sy’n deillio o gyflenwi nwyddau,pan fo’r nwyddau hynny, at ddibenion paragraff (i), yr un fath â’r nwyddau y mae A yn eu cyflenwi i’r cyfleustod neu i’r personau eraill sy’n ymgysylltiedig â’r cyfleustod, neu’n debyg i’r nwyddau hynny, ac yn cael eu cyflenwi dros y cyfnod perthnasol neu, pan fo trosiant A wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (3), dros gyfnod tair blynedd cyfatebol;
(b) pan fo’r prawf trosiant yn cael ei gymhwyso mewn cysylltiad â chontract cyfleustodau ar gyfer cyflenwi gwasanaethau, mewn cysylltiad ag—
(i) y swm trosiant ymgysylltiedig, yw trosiant sy’n deillio o gyflenwi gwasanaethau i’r cyfleustod neu i’r personau eraill sy’n ymgysylltiedig â’r cyfleustod;
(ii) cyfanswm y trosiant, yw cyfanswm y trosiant sy’n deillio o gyflenwi gwasanaethau,pan fo’r gwasanaethau hynny, at ddibenion paragraff (i), yr un fath â’r gwasanaethau y mae A yn eu cyflenwi i’r cyfleustod neu i’r personau eraill sy’n ymgysylltiedig â’r cyfleustod, neu’n debyg i’r gwasanaethau hynny, ac yn cael eu cyflenwi dros y cyfnod perthnasol neu, pan fo trosiant A wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (3), dros gyfnod tair blynedd cyfatebol;
(c) pan fo’r prawf trosiant yn cael ei gymhwyso mewn cysylltiad â chontract cyfleustodau ar gyfer cyflenwi gweithiau, mewn cysylltiad ag—
(i) y swm trosiant ymgysylltiedig, yw trosiant sy’n deillio o gyflenwi gweithiau i’r cyfleustod neu i’r personau eraill sy’n ymgysylltiedig â’r cyfleustod;
(ii) cyfanswm y trosiant, yw cyfanswm y trosiant sy’n deillio o gyflenwi gweithiau,pan fo’r gweithiau hynny, at ddibenion paragraff (i), yr un fath â’r gweithiau y mae A yn eu cyflenwi i’r cyfleustod neu i’r personau eraill sy’n ymgysylltiedig â’r cyfleustod, neu’n debyg i’r gweithiau hynny, ac yn cael eu cyflenwi dros y cyfnod perthnasol neu, pan fo trosiant A wedi ei gyfrifo yn unol â pharagraff (3), dros gyfnod tair blynedd cyfatebol.
45B. 

(1) At ddibenion paragraff 1(2)(c) o Atodlen 4 i Ddeddf 2023—
(a) mae swm y nwy neu’r gwres a gyflenwyd i’r rhwydwaith i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm y trosiant a gynhyrchwyd drwy gyflenwi nwy neu wres gan y gweithredwr i’r rhwydwaith (“trosiant rhwydwaith”) yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b) mae swm trosiant y gweithredwr i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm trosiant y gweithredwr yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Pan na fo trosiant rhwydwaith neu gyfanswm trosiant gweithredwr ar gael ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan oherwydd bod y gweithredwr wedi cael ei greu neu wedi cychwyn ei weithgareddau ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae’r trosiant i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (3).
(3) Mae trosiant rhwydwaith a chyfanswm trosiant gweithredwr i’w gyfrifo—
(a) pan na fu trosiant yn ystod y cyfnod perthnasol, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drosiant rhwydwaith neu gyfanswm y trosiant, yn ôl y digwydd, a gynhyrchwyd yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract, ar gyfer unrhyw ran o’r cyfnod o dair blynedd nad yw paragraff (i) yn ei chwmpasu.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw naill ai—
(a) y cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â dyddiad dyfarnu’r contract, neu
(b) pan na fo gwybodaeth sy’n ymwneud â nwy a gwres a gyflenwyd i’r rhwydwaith neu’r trosiant ar gyfer y cyfnod yn is-baragraff (a) ar gael, cyfnod o dair blynedd sy’n cyfateb i gyfnodau cyfrifyddu’r gweithredwr, sy’n gorffen â’r chwarter olaf cyn dyddiad dyfarnu’r contract y mae gan y gweithredwr wybodaeth o’r fath ar ei gyfer;ystyr “chwarter” (“quarter”) yw cyfnod o dri mis sy’n dechrau â 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn benodol.
45C. 

(1) At ddibenion paragraff 2(2)(d) o Atodlen 4 i Ddeddf 2023—
(a) mae swm y trydan a gyflenwyd i’r rhwydwaith i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm y trydan a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b) mae swm yr ynni a gynhyrchwyd gan y gweithredwr i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm yr ynni a gynhyrchwyd gan y gweithredwr yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Pan na fo swm y trydan a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith, neu swm yr ynni a gynhyrchwyd gan y gweithredwr, ar gael ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan oherwydd bod y gweithredwr wedi cael ei greu neu wedi cychwyn ei weithgareddau ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae swm y trydan a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith a swm yr ynni a gynhyrchwyd gan y gweithredwr i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (3).
(3) Mae swm y trydan a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith a swm yr ynni a gynhyrchwyd gan y gweithredwr i’w gyfrifo—
(a) pan na fo trydan wedi cael ei gyflenwi neu pan na fo ynni wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw drydan a gyflenwyd i’r rhwydwaith neu unrhyw ynni a gynhyrchwyd, yn ôl y digwydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract, ar gyfer unrhyw ran o’r cyfnod o dair blynedd nad yw paragraff (i) yn ei chwmpasu.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw naill ai—
(a) y cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â dyddiad dyfarnu’r contract, neu
(b) pan na fo gwybodaeth sy’n ymwneud â’r trydan a gyflenwyd neu’r ynni a gynhyrchwyd ar gyfer y cyfnod yn is-baragraff (a) ar gael, cyfnod o dair blynedd sy’n cyfateb i gyfnodau cyfrifyddu’r gweithredwr, sy’n gorffen â’r chwarter olaf cyn dyddiad dyfarnu’r contract y mae gan y gweithredwr wybodaeth o’r fath ar ei gyfer;ystyr “chwarter” (“quarter”) yw cyfnod o dri mis sy’n dechrau â 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn benodol.
45D. 

(1) At ddibenion paragraff 3(4)(d) o Atodlen 4 i Ddeddf 2023—
(a) mae swm y dŵr yfed a gyflenwyd i’r rhwydwaith i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm y dŵr yfed a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(b) mae swm y dŵr yfed a gynhyrchwyd gan y gweithredwr i’w gyfrifo gan ddefnyddio cyfanswm y dŵr yfed a gynhyrchwyd gan y gweithredwr yn ystod y cyfnod perthnasol.
(2) Pan na fo swm y dŵr yfed a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith, neu swm y dŵr yfed a gynhyrchwyd gan y gweithredwr, ar gael ar gyfer y cyfnod perthnasol cyfan oherwydd bod y gweithredwr wedi cael ei greu neu wedi cychwyn ei weithgareddau ar ôl i’r cyfnod perthnasol ddechrau, mae swm y dŵr yfed a gyflenwyd a swm y dŵr yfed a gynhyrchwyd i’w gyfrifo yn unol â pharagraff (3).
(3) Mae swm y dŵr yfed a gyflenwyd gan y gweithredwr i’r rhwydwaith a swm y dŵr yfed a gynhyrchwyd gan y gweithredwr i’w gyfrifo—
(a) pan na fo dŵr yfed wedi cael ei gyflenwi neu pan na fo dŵr yfed wedi cael ei gynhyrchu yn ystod y cyfnod perthnasol, gan ddefnyddio rhagamcanion busnes credadwy ar gyfer cyfnod o dair blynedd sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract;
(b) mewn unrhyw achos arall, gan ddefnyddio—
(i) unrhyw ddŵr yfed a gyflenwyd i’r rhwydwaith neu unrhyw ddŵr yfed a gynhyrchwyd, yn ôl y digwydd, yn ystod y cyfnod perthnasol, a
(ii) rhagamcanion busnes credadwy, sy’n dechrau o ddyddiad dyfarnu’r contract, ar gyfer unrhyw ran o’r cyfnod o dair blynedd nad yw paragraff (i) yn ei chwmpasu.
(4) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cyfnod perthnasol” (“relevant period”) yw naill ai—
(a) y cyfnod o dair blynedd sy’n gorffen â dyddiad dyfarnu’r contract, neu
(b) pan na fo gwybodaeth sy’n ymwneud â dŵr yfed a gyflenwyd neu a gynhyrchwyd ar gyfer y cyfnod yn is-baragraff (a) ar gael, cyfnod o dair blynedd sy’n cyfateb i gyfnodau cyfrifyddu’r gweithredwr, sy’n gorffen â’r chwarter olaf cyn dyddiad dyfarnu’r contract y mae gan y gweithredwr wybodaeth o’r fath ar ei gyfer;ystyr “chwarter” (“quarter”) yw cyfnod o dri mis sy’n dechrau â 1 Ionawr, 1 Ebrill, 1 Gorffennaf neu 1 Hydref mewn unrhyw flwyddyn benodol.”
7 

(1) Mae Rhan 4 o Reoliadau 2024 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 46(3)—
(a) yn y testun Saesneg, yn is-baragraff (b) hepgorer “(“gweithiau”)”, a
(b) yn y testun Saesneg, yn is-baragraff (c) hepgorer “(“contract gweithiau”)”.
(3) Yn rheoliad 49, yn y testun Saesneg, hepgorer “(“hysbysiad cyhoeddus”)”.
8 

(1) Mae’r Tabl yn Atodlen 2 i Reoliadau 2024 (awdurdodau llywodraeth ganolog) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y golofn ar y chwith (awdurdod arweiniol (1))—
(a) yn lle “Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru” rhodder “Comisiwn y Senedd”,
(b) yn lle “Cyngor Gofal Cymru” rhodder “Gofal Cymdeithasol Cymru”, ac
(c) yn lle “Chwaraeon Cymru” rhodder “Cyngor Chwaraeon Cymru, a elwir yn “Chwaraeon Cymru””.
(3) Yn y golofn ar y dde (awdurdod perthynol (2))—
(a) yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”,
(b) yn lle “Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru a Byrddau Iechyd Lleol Cymru” a “Cyrff GIG Cymru” rhodder—“
Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd o dan adran 11 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

Ymddiriedolaeth GIG a sefydlwyd o dan adran 18 o’r Ddeddf honno

Awdurdod Iechyd Arbennig a sefydlwyd o dan adran 22 o’r Ddeddf honno.
”
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
19 Chwefror 2025