
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd 2021 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2025.
2 
Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf yr Amgylchedd 2021.
3 
Daw adran 79 (cynlluniau rheoli draenio a charthffosiaeth) o’r Ddeddf i rym ar 1 Mawrth 2025, i’r graddau y mae’n ymwneud ag ymgymerwyr y mae eu hardaloedd yn gyfan gwbl neu’n bennaf yng Nghymru.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Chwefror 2025