
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2025 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2025.
2 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â gwarediad trethadwy (o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017) a wneir ar 1 Ebrill 2025 neu ar ôl hynny.
3 
Rhagnodir y cyfraddau a ganlyn yn unol ag adrannau 14(3) a (6), a 46(4), o Ddeddf Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) 2017 yn y drefn honno—
(a) y gyfradd safonol yw £126.15 y dunnell,
(b) y gyfradd is yw £6.30 y dunnell, ac
(c) y gyfradd gwarediadau sydd heb eu hawdurdodi yw £189.25 y dunnell.
4 
Yn rheoliad 2 o Reoliadau Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cyfraddau Treth) (Diwygio) a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024, ar ôl “neu ar ôl hynny” mewnosoder “ond cyn 1 Ebrill 2025”.
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
11 Chwefror 2025