
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Adeiladu (Gweithdrefnau Adeiladau Risg Uwch) (Cymru) 2025.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Gorffennaf 2026.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 mae i “adeilad risg uwch” (“higher-risk building”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3 o Reoliadau 2023;
 mae i “awdurdod gorfodi” yr ystyr a roddir i “enforcing authority” gan erthygl 25 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005;
 mae i “awdurdod lleol” yr ystyr a roddir i “local authority” gan adran 126 o Ddeddf 1984;
 mae i “awdurdod rheolaeth adeiladu” yr ystyr a roddir i “building control authority” yn adran 121A o Ddeddf 1984;
 mae i “cais am dystysgrif gwblhau” (“completion certificate application”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 39(1);
 mae i “cais am dystysgrif cwblhau rhannol” (“partial completion certificate application”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 44(2);
 mae i “cais am dystysgrif unioni” (“regularisation certificate application”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 46(2);
 mae i “cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU” (“building control approval application for HRB work”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 3(a);
 mae i “cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol” (“building control approval application for work to existing HRB”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 11(1)(a);
 mae i “cais rheolaeth newid” (“change control application”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(5);
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) oni fydd y cyd-destun yn mynnu fel arall yw’r cleient neu’r cleient ynghyd â’r person sy’n gwneud y cais;
 mae i “cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu” yr ystyr a roddir i “building control approval” ym mharagraff 1B(2) o Atodlen 1 i Ddeddf 1984;
 “cynllun adrodd mandadol am achlysuron” (“mandatory occurrence reporting plan”) yw cynllun sy’n disgrifio’r system adrodd mandadol am achlysuron;
 ystyr “cynllun rheolaeth adeiladu” (“construction control plan”) yw dogfen yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 1;
 ystyr “cynllun rheolaeth newid” (“change control plan”) yw dogfen yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 1;
 ystyr “datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu” (“Building Regulations compliance statement”) yw dogfen yn unol â pharagraff 4 o Atodlen 1;
 mewn perthynas â “declarasiwn cydymffurfedd” (“compliance declaration”)—
(a) pan fo unrhyw benodiad o brif gontractwr (neu unig gontractwr) neu brif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) yn dod i ben cyn i gais am dystysgrif gwblhau gael ei gyflwyno i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, ei ystyr yw datganiad a ddarperir o dan reoliad 29(3) (prif gontractwr newydd neu brif ddylunydd newydd etc.: hysbysu);
(b) pan na fo unrhyw benodiad o brif gontractwr (neu unig gontractwr) neu brif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) wedi dod i ben cyn bod cais am dystysgrif gwblhau wedi ei gyflwyno i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, mae iddo’r ystyr a roddir yn rheoliad 39(5);
 ystyr “declarasiwn cymhwysedd” (“competence declaration”) yw datganiad yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1;
 ystyr “Deddf 1984” (“the 1984 Act”) yw Deddf Adeiladu 1984;
 ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddydd Sadwrn, dydd Sul, Diwrnod Nadolig, Dydd Gwener y Groglith nac yn ddiwrnod sy’n ŵyl banc yng Nghymru a Lloegr o dan Ddeddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971;
 ystyr “dogfen gytunedig” (“agreed document”) yw—
(a) plan neu ddogfen mewn perthynas â gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol a gymeradwywyd yn rhinwedd rheoliad 7(7) neu (9) neu reoliad 15(7) neu (9), neu
(b) pan ddiwygir plan neu ddogfen o’r fath—
(i) mewn perthynas â newid mawr, y plan neu’r ddogfen a gymeradwywyd o dan reoliad 24(7) neu (9);
(ii) mewn perthynas â newid hysbysadwy, y fersiwn o’r plan neu’r ddogfen a aeth gyda’r hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu a roddwyd o dan reoliad 20(1);
(iii) mewn perthynas â newid cofnodadwy, y fersiwn o’r plan neu’r ddogfen a ddiwygiwyd o dan reoliad 18(2)(b) ac y gwnaed cofnod mewn cysylltiad ag ef neu hi o dan reoliad 18(2)(a);
 mae i “eglurhad cydymffurfedd” (“compliance explanation”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 19(2)(g);
 ystyr “ffeil tân ac argyfwng” (“fire and emergency file”) yw dogfen yn unol â pharagraff 5 o Atodlen 1;
 ystyr “gwaith ARU” (“HRB work”) yw—
(a) adeiladu adeilad risg uwch;
(b) gwaith i adeilad presennol sy’n peri iddo ddod yn adeilad risg uwch ynghyd ag unrhyw waith i’r adeilad a gynhelir ar yr un pryd â’r gwaith hwnnw;
(c) y gwaith hwnnw, os oes gwaith, sy’n angenrheidiol i sicrhau bod adeilad sy’n destun newid defnydd sylweddol i ddod yn adeilad risg uwch yn cydymffurfio â’r gofynion cymwys a restrir yn rheoliad 6 o Reoliadau 2010 (gofynion yn ymwneud â newid defnydd sylweddol) ynghyd ag unrhyw waith i’r adeilad a gynhelir ar yr un pryd â’r gwaith hwnnw;
 ystyr “gwaith cynllun” (“scheme work”) yw gwaith y mae rheoliad 20 (darpariaethau sy’n gymwys i gynlluniau hunanardystio) o Reoliadau 2010 yn gymwys iddo;
 mae i “gwaith esempt” (“exempt work”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 56;
 ystyr “gwaith i ARU presennol” (“work to existing HRB”) yw unrhyw waith sy’n ymwneud ag adeilad risg uwch nad yw’n waith ARU;
 mae i “gwybodaeth am ddiogelwch tân” (“fire safety information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 38(9);
 mae i “gwybodaeth am gydymffurfedd o ran diogelwch tân” (“fire safety compliance information”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 12(3)(d);
 mae i “lòg rheolaeth newid” (“change control log”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 19(1);
 ystyr “llys ynadon” yw llys ynadon, o fewn yr ystyr a roddir i “magistrates’ court” gan adran 148 o Ddeddf Llysoedd Ynadon 1980, yng Nghymru a Lloegr;
 mae “mesurau diogelwch tân goddefol” (“passive fire safety measures”) yn cynnwys rhwystrau ceudod, setiau drysau tân, damperi dwythell, caeadau tân ac elfennau gwahanu tân eraill;
 mae “mesurau diogelwch tân gweithredol” (“active fire safety measures”) yn cynnwys systemau chwistrelli (gan gynnwys falfiau ynysu a chyfarpar rheoli ar gyfer y system honno), systemau rheoli mwg (gan gynnwys systemau gwresogi neu awyru ac aerdymheru â swyddogaeth rheoli mwg), damperi tân neu fwg, systemau larwm dân, lifftiau a siafftiau lifftiau (gan gynnwys lifftiau ymadael mewn argyfwng neu lifftiau diffodd tân), a phrif bibell ddŵr diffodd tân a hydrantau tân;
 mae i “newid a reolaethir” (“controlled change”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 18(1);
 ystyr “newid cofnodadwy” (“recordable change”) yw newid a reolaethir nad yw’n newid mawr nac yn newid hysbysadwy;
 mae i “newid hysbysadwy” (“notifiable change”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(1);
 mae i “newid mawr” (“major change”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 26(1);
 mae i “perchennog” yr ystyr a roddir i “owner” yn adran 126 o Ddeddf 1984;
 mae i “person cyfrifol” yr ystyr a roddir i “responsible person” yn erthygl 3 o Orchymyn Diwygio Rheoleiddio (Diogelwch Tân) 2005;
 ystyr “Rheoliadau 2010” (“the 2010 Regulations”) yw Rheoliadau Adeiladu 2010;
 ystyr “Rheoliadau 2023” (“the 2023 Regulations”) yw Rheoliadau Diogelwch Adeiladau (Disgrifiad o Adeilad Risg Uwch) (Cyfnod Dylunio ac Adeiladu) (Cymru) 2023;
 mae i “rheoliadau adeiladu” yr ystyr a roddir i “building regulations” yn adran 122 o Ddeddf 1984;
 ystyr “strategaeth cwblhau rhannol” (“partial completion strategy”) yw dogfen o dan baragraff 6 o Atodlen 1;
 ystyr “system adrodd mandadol am achlysuron” (“mandatory occurrence reporting system”) yw system sy’n ofynnol o dan reoliad 32;
 ystyr “tystysgrif gwblhau” (“completion certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir o dan reoliad 43;
 ystyr “tystysgrif cwblhau rhannol” (“partial completion certificate”) yw tystysgrif a ddyroddir o dan reoliad 44(14);
 mae i “tystysgrif unioni” (“regularisation certificate”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 46(7);
 ystyr “uned fasnachol” (“commercial unit”) yw rhan o adeilad mewn meddiannaeth ar wahân nad yw’n cynnwys fflat nac ystafell breswyl;
 ystyr “ymgymerwr carthffosiaeth” (“sewerage undertaker”) yw person a benodir o dan adran 6 o Ddeddf Diwydiant Dŵr 1991 ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad wedi ei leoli ynddi, neu y mae i gael ei leoli ynddi;
 ystyr “ystafelloedd preswyl” (“residential rooms”) yw ystafell, neu gyfres o ystafelloedd, nad yw’n fflat ac nad yw ond yn cael ei defnyddio gan un neu ragor o bersonau i fyw a chysgu ynddi ac mae’n cynnwys ystafell mewn neuadd breswyl neu gartref preswyl, ond nid yw’n cynnwys ystafell mewn ysbyty neu sefydliad tebyg a ddefnyddir ar gyfer llety cleifion.
(2) Yn y Rheoliadau hyn—
(a) mae i “cleient”, “cleient domestig”, “contractwr”, “dylunydd”, “fflat”, “gwaith adeiladu”, “newid defnydd sylweddol”, “prif ddylunydd”, “prif gontractwr”, “prosiect”, “unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol” ac “unig gontractwr” yr ystyron a roddir i “client”, “domestic client”, “contractor”, “designer”, “flat”, “building work”, “material change of use”, “principal designer”, “principal contractor”, “project”, “sole or lead designer” a “sole contractor” yn rheoliad 2 o Reoliadau 2010;
(b) mae cyfeiriad at benodiad yn brif gontractwr neu brif ddylunydd yn gyfeiriad at benodiad o dan reoliad 11U (prif ddylunydd a phrif gontractwr) o Reoliadau 2010, neu aseinio dyletswyddau o dan reoliad 11T, ac mae’r cyfeiriad hwnnw’n cynnwys penodiad sydd wedi ei ardystio o dan reoliad 11U(2) o’r Rheoliadau hynny.
RHAN 2
PENNOD 1
3 
Cyn i unrhyw berson ddechrau gwaith ARU neu ddechrau cam o waith ARU, rhaid i’r cleient mewn perthynas â’r gwaith hwnnw—
(a) cyflwyno cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r gwaith i’r awdurdod rheolaeth adeiladu (“cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU” neu, pan fo’r gwaith yn cael ei wneud fesul cam, “cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU”) o dan reoliad 4 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU),
(b) cael cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi iddo ar gyfer y gwaith,
(c) bodloni’r gofynion hynny, os oes rhai, y mae rhaid eu bodloni o dan y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu cyn dechrau’r gwaith, neu’r cam o’r gwaith, a
(d) hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu am y dyddiad y mae’r gwaith neu’r cam o’r gwaith i ddechrau o dan reoliad 9(2) (hysbysiad cyn dechrau ar safle a hysbysiad pellach pan fo gwaith “wedi ei gychwyn”).
4 

(1) Rhaid i gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU gael ei wneud yn ysgrifenedig, rhaid iddo fod wedi ei lofnodi gan y ceisydd, a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y cleient;
(b) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol);
(c) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn;
(d) pan fo gwaith ARU yn golygu gwaith i adeilad presennol, ddisgrifiad o’r adeilad presennol gan gynnwys—
(i) manylion am ei ddefnydd presennol, gan gynnwys defnydd presennol pob llawr;
(ii) ei uchder fel y’i canfyddir gan reoliad 4 o Reoliadau 2023;
(iii) nifer y lloriau ynddo fel y’i canfyddir gan reoliad 5 o Reoliadau 2023;
(iv) nifer y fflatiau, nifer yr ystafelloedd preswyl a nifer yr unedau masnachol;
(e) disgrifiad o’r gwaith ARU arfaethedig, gan gynnwys—
(i) manylion am ddefnydd bwriadedig yr adeilad risg uwch, gan gynnwys defnydd bwriadedig pob llawr;
(ii) uchder yr adeilad risg uwch fel y’i canfyddir gan reoliad 4 o Reoliadau 2023;
(iii) nifer y lloriau ynddo, fel y’i canfyddir gan reoliad 5 o Reoliadau 2023;
(iv) nifer y fflatiau, nifer yr ystafelloedd preswyl a nifer yr unedau masnachol y cynigir y bydd yr adeilad risg uwch yn eu cynnwys;
(v) y ddarpariaeth sydd i’w gwneud ar gyfer draenio’r adeilad risg uwch;
(vi) pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad, y rhagofalon sydd i’w cymryd wrth adeiladu dros ddraen, carthffos neu brif bibell waredu i gydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw;
(vii) y camau sydd i’w cymryd i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad lleol sy’n gymwys;
(viii) datganiad o ran pryd y cynigir bod y gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn o dan reoliad 46B o Reoliadau 2010;
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU—
(a) plan i raddfa o ddim llai nag 1:1250 yn dangos—
(i) maint ac union le’r adeilad a’i berthynas â ffiniau cyffiniol;
(ii) ffiniau cwrtil yr adeilad, a maint, union le a defnydd pob adeilad arall neu bob adeilad arfaethedig arall o fewn y cwrtil;
(iii) lled ac union le unrhyw stryd ar ffiniau cwrtil yr adeilad neu o fewn y ffiniau hynny;
(b) unrhyw blaniau eraill fel y bo’n angenrheidiol i ddangos y byddai’r gwaith ARU yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(c) declarasiwn cymhwysedd;
(d) cynllun rheolaeth adeiladu;
(e) cynllun rheolaeth newid;
(f) cynllun adrodd mandadol am achlysuron;
(g) datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(h) ffeil tân ac argyfwng;
(i) pan fo’r ceisydd yn cynnig meddiannu rhan o’r adeilad cyn cwblhau’r gwaith ARU, strategaeth cwblhau rhannol;
(j) pan wneir y cais gan rywun ar ran y cleient, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(3) Rhaid i gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU gael ei wneud yn ysgrifenedig, rhaid iddo fod wedi ei lofnodi gan y ceisydd, a rhaid iddo—
(a) cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol gan baragraff (1);
(b) pan fo’r cais yn ymwneud â cham cyntaf y gwaith—
(i) cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad gwaith fesul cam”) yn nodi disgrifiad manwl o’r cam cyntaf ac o gamau dilynol y prosiect (gan gynnwys amcangyfrif o’r amser pan fydd pob cam yn dechrau);
(ii) cael ei gyflwyno ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ond—(aa) mae’r planiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) i fod y planiau hynny sy’n angenrheidiol i ddangos y byddai’r gwaith ar gyfer y cam cyntaf yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu a chrynodeb o’r planiau ar gyfer y gwaith y tu hwnt i’r cam hwnnw;(bb) rhaid i’r datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu nodi’r egwyddorion dylunio a’r safonau adeiladu sydd i’w cymhwyso i’r gwaith ar gyfer y cam cyntaf a chrynodeb o’r egwyddorion dylunio a’r safonau adeiladu sydd i’w cymhwyso y tu hwnt i’r cam hwnnw;
(c) pan fo’r cais yn ymwneud â cham ar ôl y cam cyntaf—
(i) cael ei gyflwyno ynghyd â datganiad (“datganiad camau dilynol”) yn nodi disgrifiad manwl o’r cam y mae’r cais yn ymwneud ag ef ac o gamau eraill y prosiect (gan gynnwys amcangyfrif o’r amser pan fydd pob cam sy’n weddill yn dechrau);
(ii) cael ei gyflwyno ynghyd â’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) ond—(aa) mae’r planiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)(b) i fod y planiau hynny sy’n angenrheidiol i ddangos y byddai’r gwaith a gynhwysir yn y cam y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu a chrynodeb o’r planiau ar gyfer y gwaith y tu hwnt i’r cam hwnnw;(bb) rhaid i’r datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu nodi’r egwyddorion dylunio a’r safonau adeiladu sydd i’w cymhwyso i’r gwaith a gynhwysir yn y cam y mae’r cais yn ymwneud ag ef a chrynodeb o’r egwyddorion dylunio a’r safonau adeiladu sydd i’w cymhwyso y tu hwnt i’r cam hwnnw.
5 

(1) Pan fo cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU yn dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, a bo’r cais hwnnw’n ddilys, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ei benderfynu—
(a) o fewn 12 wythnos sy’n dechrau â’r diwrnod y daw’r cais i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r ceisydd yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(2) Mae cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU yn ddilys os yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 4.
6 

(1) Cyn penderfynu cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori—
(a) â’r awdurdod gorfodi ar gyfer yr adeilad risg uwch arfaethedig, a
(b) pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith, â’r ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer yr adeilad risg uwch arfaethedig.
(2) Pan fo’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori â pherson o dan y rheoliad hwn—
(a) rhaid iddo roi i’r person blaniau digonol i ddangos y byddai’r gwaith ARU neu’r cam o’r gwaith ARU, pe câi ei gynnal o dan y planiau hynny, yn cydymffurfio—
(i) yn achos yr awdurdod gorfodi, â gofynion cymwys Rhan B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, a
(ii) yn achos yr ymgymerwr carthffosiaeth, â gofynion paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010;
(b) ni chaniateir iddo benderfynu’r cais cyn diwedd 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r ymgynghoriad yn dechrau neu unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r person yr ymgynghorir ag ef yn cytuno arno yn ysgrifenedig.
(3) Mewn perthynas â’r ymgynghoriad o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r planiau y mae’n ofynnol eu rhoi o dan baragraff (2)(a) gynnwys y ffeil tân ac argyfwng.
(4) Os yw pob person yr ymgynghorir ag ef yn mynegi ei farn cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), mae’r gwaharddiad rhag penderfynu’r cais yn peidio â bod yn gymwys ar y diwrnod drannoeth y dyddiad y daw’r farn olaf i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
(5) Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori o dan y rheoliad hwn pan fo wedi ei fodloni ar ôl ystyried y cais fod sail ddigonol dros wrthod y cais.
7 

(1) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu roi’r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir mewn cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu mewn cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU oni bai, mewn perthynas â’r cais neu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a aeth gyda’r cais—
(a) nad yw neu nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 4;
(b) nad yw neu nad ydynt yn ddigon manwl mewn unrhyw fodd i ganiatáu i’r awdurdod rheolaeth adeiladu benderfynu a fyddai’r gwaith ARU neu’r cam o waith ARU yn torri unrhyw un neu ragor o ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(c) ei fod neu eu bod yn dangos y byddai’r gwaith ARU neu’r cam o waith ARU yn torri unrhyw un neu ragor o ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(d) ei fod neu eu bod yn dangos y byddai’r strategaethau, y polisïau neu’r gweithdrefnau mewn perthynas â’r gwaith ARU neu’r cam o waith ARU (gan gynnwys mewn perthynas â newidiadau a reolaethir, adrodd mandadol am achlysuron, cymhwysedd personau neu rannu gwybodaeth a chydweithredu) yn torri, neu y byddent yn debygol o dorri, gofynion—
(i) rheoliadau 18 i 21 a 27 i 29 (newidiadau i ddogfennau neu bersonau);
(ii) rheoliadau 31, 37 a 38 (llinyn aur etc.);
(iii) rheoliadau 32 i 36 (adrodd mandadol am achlysuron);
(iv) Rhan 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010.
(2) Os yw un neu ragor o’r rhesymau ym mharagraff (1) yn gymwys, caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu—
(a) gwrthod y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu’r cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU, neu
(b) gyda chydsyniad ysgrifenedig y ceisydd, roi’r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais yn ddarostyngedig i un neu ragor o ofynion.
(3) Mae’r mathau o ofyniad y caniateir eu gosod o dan baragraff (2)(b) yn cynnwys—
(a) gofyniad i ddarparu plan penodedig neu ddogfen benodedig, neu fersiwn ddiwygiedig o blan penodedig neu ddogfen benodedig, o fewn cyfnod penodedig;
(b) gofyniad nad yw gwaith yn mynd yn ei flaen y tu hwnt i bwynt penodedig hyd nes bod plan penodedig neu ddogfen arall benodedig, neu fersiwn ddiwygiedig o blan penodedig neu ddogfen arall benodedig, wedi ei roi neu ei rhoi i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, ac wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo ganddo.
(4) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu hysbysu’r ceisydd am ganlyniad y cais (a phan nad y ceisydd yw’r cleient, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r cleient) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 5 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU: terfyn amser).
(5) Rhaid i hysbysiad bod y cais wedi ei wrthod roi’r rhesymau dros ei wrthod.
(6) Rhaid i hysbysiad bod y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bennu’r gofyniad a osodwyd.
(7) Pan fo cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU yn llwyddiannus, yr effaith yw o ddyddiad yr hysbysiad o dan baragraff (4)—
(a) bod cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith ARU neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y cam o waith ARU wedi ei rhoi;
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9) bod—
(i) y disgrifiad o’r gwaith ARU arfaethedig, neu’r disgrifiad o’r cam o waith ARU arfaethedig,
(ii) planiau’r gwaith ARU neu blaniau’r cam o’r gwaith ARU a aeth gyda’r cais, a
(iii) pob un o’r dogfennau eraill a aeth gyda’r cais,
wedi eu cymeradwyo.
(8) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bod rhaid diwygio plan neu ddogfen, nid yw’r plan anniwygiedig neu’r ddogfen anniwygiedig wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo gan baragraff (7)(b).
(9) Pan fo—
(a) cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bod rhaid diwygio unrhyw blan neu unrhyw ddogfen, a
(b) y plan neu’r ddogfen yn cael ei ddiwygio neu ei diwygio wedi hynny o dan y gofyniad,
mae’r plan diwygiedig hwnnw neu’r ddogfen ddiwygiedig honno wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo o’r dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer y diwygiad.
(10) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3)(a), rhaid i’r cleient sicrhau nad yw gwaith yn dechrau cyn i’r plan neu’r ddogfen gael ei ddarparu neu ei darparu.
(11) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3)(b)—
(a) rhaid i’r gofyniad nodi’r pwyntiau a bennir mewn perthynas â’r gwaith a’r planiau neu’r dogfennau y mae rhaid eu cymeradwyo ar gyfer pob pwynt;
(b) rhaid i’r cleient sicrhau nad yw gwaith y mae’r gofyniad yn ymwneud ag ef yn mynd yn ei flaen y tu hwnt i’r pwynt a bennir yn y gofyniad hyd nes bod y gymeradwyaeth gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r plan hwnnw neu’r ddogfen honno wedi dod i law.
(12) Pan fo’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn penderfynu peidio â chymeradwyo plan neu ddogfen o dan baragraff (11), rhaid iddo roi rhesymau dros y penderfyniad os gofynnir iddo wneud hynny.
(13) Yn y rheoliad hwn, ystyr “a bennir” a “penodedig” yw wedi ei bennu gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.
8 

(1) Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i gleient—
(a) hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu, o fewn cyfnod penodedig, pan fydd pwynt penodedig o’r gwaith ARU neu bwynt penodedig o’r cam o waith ARU wedi ei gyrraedd;
(b) peidio â gorchuddio gwaith penodedig am gyfnod penodedig.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
9 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU wedi ei rhoi o dan reoliad 7 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU: penderfyniadau).
(2) O leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae’r gwaith ARU neu’r cam o waith ARU yn dechrau, rhaid i’r cleient, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn nodi ei fwriad i ddechrau’r gwaith a’r dyddiad y mae’r gwaith i ddechrau.
(3) O fewn 5 niwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r gwaith ARU i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn rhaid i’r cleient, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
(4) Os nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi ei fodloni bod y gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn rhaid iddo roi i’r cleient hysbysiad i’r perwyl hwnnw (“hysbysiad gwrthod”) o fewn 4 wythnos i’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (3), a rhaid i’r hysbysiad gwrthod roi’r rheswm dros ei wrthod a’r hyn y mae angen ei gwblhau er mwyn i’r gwaith gael ei ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
(5) Pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3) a bo’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn dod i ben heb fod hysbysiad gwrthod wedi ei roi, mae’r gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
(6) Os yw’r cleient yn derbyn yr hysbysiad gwrthod ni chaiff roi hysbysiad pellach o dan baragraff (3) oni bai, gan roi sylw i’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu, ei fod wedi ei fodloni bod y gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
(7) Caiff y cleient apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod rheolaeth adeiladu i wrthod yr hysbysiad.
(8) Rhaid gwneud apêl o fewn 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi’r hysbysiad gwrthod.
(9) Ni chaiff y llys ynadon ganiatáu apêl o dan baragraff (7) ond os yw wedi ei fodloni bod y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn yn anghywir ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol;
(d) bod y penderfyniad wedi ei wneud heb ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn Neddf 1984 neu mewn rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.
(10) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2) neu (3) gan rywun ar ran y cleient, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r hysbysiad gael ei roi a bod yr wybodaeth a gynhwysir ynddo yn gywir.
(11) Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu gymryd unrhyw gamau y mae’n meddwl eu bod yn briodol i wirio a yw’r gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn, gan gynnwys—
(a) gwneud gwybodaeth yn ofynnol;
(b) agor gwaith i’w arolygu.
(12) At ddibenion paragraffau (3) i (11), mae rheoliad 46B o Reoliadau 2010 yn gymwys i benderfynu a yw gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
PENNOD 2
10 

(1) Pan nad yw gwaith i ARU presennol ond yn golygu atgyweiriadau brys ac nad yw’n ymarferol cydymffurfio â rheoliad 11 cyn dechrau’r gwaith, rhaid i’r cleient—
(a) rhoi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, yn disgrifio’r gwaith a’r rhesymau dros y brys cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r gwaith ddechrau,
(b) anfon copi o’r hysbysiad hwnnw at y person cyfrifol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r gwaith ddechrau, ac
(c) cyflwyno cais am dystysgrif unioni i’r awdurdod rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r gwaith cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cynnal y gwaith.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “atgyweiriadau brys” yw atgyweiriadau i adeilad y mae’n angenrheidiol eu cynnal fel mater o frys oherwydd y risg i iechyd, diogelwch neu les personau yn yr adeilad neu o’i amgylch.
11 

(1) Cyn i unrhyw berson ddechrau unrhyw waith i ARU presennol, rhaid i’r cleient mewn perthynas â’r gwaith hwnnw—
(a) cyflwyno cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r gwaith i’r awdurdod rheolaeth adeiladu (“cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol”) o dan reoliad 12 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol),
(b) cael cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi iddo ar gyfer y gwaith,
(c) bodloni’r gofynion hynny, os oes rhai, y mae rhaid eu bodloni o dan y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu cyn dechrau’r gwaith, a
(d) hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu am y dyddiad y mae’r gwaith i ddechrau o dan reoliad 17(2) (hysbysiad cyn dechrau ar safle a hysbysiad pellach pan fydd gwaith “wedi ei gychwyn”).
(2) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith cynllun,
(b) gwaith esempt, neu
(c) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
12 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), pan fo cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol yn ofynnol gan reoliad 11 (cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol), rhaid iddo gael ei wneud yn ysgrifenedig, rhaid iddo fod wedi ei lofnodi gan y ceisydd, a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y cleient;
(b) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol);
(c) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn;
(d) disgrifiad o’r adeilad risg uwch presennol gan gynnwys—
(i) manylion am ei ddefnydd presennol, gan gynnwys defnydd presennol pob llawr;
(ii) ei uchder fel y’i canfyddir gan reoliad 4 o Reoliadau 2023;
(iii) nifer y lloriau ynddo, fel y’i canfyddir gan reoliad 5 o Reoliadau 2023;
(iv) nifer y fflatiau, nifer yr ystafelloedd preswyl a nifer yr unedau masnachol a gynhwysir yn yr adeilad risg uwch;
(e) disgrifiad o’r gwaith arfaethedig, gan gynnwys—
(i) pan fo defnydd unrhyw ran o’r adeilad risg uwch yn newid, fanylion am ddefnydd arfaethedig pob llawr;
(ii) pan fo uchder unrhyw ran o’r adeilad risg uwch yn newid, uchder yr adeilad ar ôl y gwaith arfaethedig fel y’i canfyddir gan reoliad 4 o Reoliadau 2023;
(iii) pan fo nifer y lloriau yn yr adeilad risg uwch yn newid, nifer y lloriau fel y’i canfyddir gan reoliad 5 o Reoliadau 2023;
(iv) pan fo nifer y fflatiau neu’r ystafelloedd preswyl yn yr adeilad risg uwch yn newid, nifer y fflatiau neu’r ystafelloedd preswyl sydd i’w cynnwys yn yr adeilad risg uwch;
(v) y ddarpariaeth sydd i’w gwneud ar gyfer draenio’r adeilad neu’r estyniad;
(vi) pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad, y rhagofalon sydd i’w cymryd wrth adeiladu dros ddraen, carthffos neu brif bibell waredu i gydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw;
(vii) y camau sydd i’w cymryd i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad lleol sy’n gymwys;
(viii) datganiad yn nodi naill ai—(aa) y dyddiad y cynigir y bydd y gwaith yn cyrraedd y pwynt pan fydd i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn o dan reoliad 46B (cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu yn darfod: cychwyn gwaith) o Reoliadau 2010, neu(bb) y dyddiad y mae’r cleient yn asesu y bydd goruchwyliaeth rheolaeth adeiladu yn ofynnol os nad yw’r gwaith yn dod o fewn darpariaethau rheoliad 46B o Reoliadau 2010.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol—
(a) plan i raddfa o ddim llai nag 1:1250 yn dangos—
(i) maint ac union le’r adeilad a’i berthynas â ffiniau cyffiniol;
(ii) ffiniau cwrtil yr adeilad, neu’r adeilad fel y’i hestynnir, a maint, union le a defnydd pob adeilad arall neu bob adeilad arfaethedig arall o fewn y cwrtil;
(iii) lled ac union le unrhyw stryd ar ffiniau cwrtil yr adeilad neu’r adeilad fel y’i hestynnir, neu o fewn y ffiniau hynny;
(b) unrhyw blaniau eraill, fel y bo’n angenrheidiol i ddangos y byddai’r gwaith yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(c) yn ogystal, pan fo gwaith i ARU presennol yn waith categori A—
(i) declarasiwn cymhwysedd;
(ii) cynllun rheolaeth adeiladu;
(iii) cynllun rheolaeth newid;
(iv) cynllun adrodd mandadol am achlysuron;
(v) datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(vi) ffeil tân ac argyfwng;
(vii) adroddiadau neu gyfrifiadau, fel y bo’n angenrheidiol i ddangos y byddai’r gwaith yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu pan fydd y gwaith yn effeithio ar lwyth strwythurol yr adeilad;
(viii) pan fo’r ceisydd yn cynnig meddiannu rhan o’r adeilad cyn cwblhau’r gwaith, strategaeth cwblhau rhannol;
(d) pan wneir y cais gan rywun ar ran y cleient, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(3) Ar gyfer cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol pan fo’r gwaith yn golygu gwaith categori B, rhaid i’r cais—
(a) cael ei wneud yn ysgrifenedig, a bod wedi ei lofnodi gan y ceisydd,
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (4), gynnwys y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a) i (e),
(c) cael ei gyflwyno ynghyd â’r planiau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (2)(a) a (2)(b),
(d) pan fo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, gynnwys gwybodaeth yn nodi’r egwyddorion, y cysyniadau a’r safonau dylunio o ran diogelwch tân a gymhwyswyd i’r datblygiad gan gynnwys planiau digonol i ddangos sut y byddai’r gwaith yn cydymffurfio â Rhan B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 (“gwybodaeth am gydymffurfedd o ran diogelwch tân”), ac
(e) cael ei gyflwyno ynghyd â hynny o’r dogfennau a restrir ym mharagraff (2)(c) y mae’r ceisydd yn ystyried eu bod yn briodol.
(4) Pan nad yw’r gwaith ond yn golygu gwaith categori B o fewn fflat, nid oes angen i’r cais gynnwys y materion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(c).
(5) Mewn perthynas â chais ar gyfer gwaith i ARU presennol pan fo’r gwaith yn golygu gwaith categori B, caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar unrhyw adeg cyn penderfynu’r cais, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol hefyd i’r ceisydd ddarparu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a ganlyn—
(a) declarasiwn cymhwysedd;
(b) cynllun rheolaeth adeiladu;
(c) cynllun rheolaeth newid;
(d) cynllun adrodd mandadol am achlysuron;
(e) datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(f) ffeil tân ac argyfwng;
(g) strategaeth cwblhau rhannol.
(6) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “gwaith categori A” (“category A work”) yw gwaith sydd o fewn unrhyw un neu ragor o’r disgrifiadau a ganlyn—
(a) gwaith sy’n cynyddu neu’n lleihau uchder neu led allanol yr adeilad risg uwch;
(b) gwaith sy’n newid nifer y lloriau yn yr adeilad risg uwch (gan gynnwys ychwanegu llawr mesanîn neu lawr oriel neu gael gwared ar lawr o’r fath);
(c) gwaith sy’n newid nifer y fflatiau neu’r ystafelloedd preswyl a gynhwysir yn yr adeilad risg uwch;
(d) gwaith sy’n newid nifer, neu led, y grisiau mewn adeilad risg uwch neu nifer, neu led, unrhyw lwybr dianc arall o fewn yr adeilad;
(e) gwaith i wal allanol adeilad risg uwch ac eithrio gwaith yn ymwneud â deunyddiau o ddisgrifiad a bennir yn rheoliad 7(3) o Reoliadau 2010;
(f) gwaith sy’n newid cynllun mewnol adeilad risg uwch;
(g) gwaith sy’n effeithio ar y mesurau diogelwch tân goddefol mewn rhannau cyffredin o’r adeilad risg uwch neu sy’n gallu effeithio ar adrannu ystafell breswyl;
(h) gwaith sy’n effeithio ar y mesurau diogelwch tân gweithredol sy’n darparu amddiffyniad i fwy nag un ystafell breswyl neu i rannau cyffredin mewn adeilad risg uwch;
(i) gwaith sy’n effeithio ar rannau cyffredin o adeilad risg uwch (gan gynnwys y wal allanol) nad yw fel arall o fewn categori A;ystyr “gwaith categori B” (“category B work”) yw gwaith nad yw o fewn categori A.
(7) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol sy’n golygu—
(a) gwaith cynllun,
(b) gwaith esempt, neu
(c) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
13 

(1) Pan fo cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol yn dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, a bo’r cais hwnnw’n ddilys, rhaid iddo ei benderfynu—
(a) o fewn 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r ceisydd yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(2) Mae cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol yn ddilys os yw’n cydymffurfio â rheoliad 12.
14 

(1) Cyn penderfynu cais rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori—
(a) â’r awdurdod gorfodi pan fo’r gwaith—
(i) yn waith categori A, neu
(ii) yn waith categori B a bo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith, a
(b) pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith, â’r ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer yr adeilad.
(2) Pan fo’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori â pherson o dan y rheoliad hwn—
(a) rhaid iddo roi i’r person blaniau digonol i ddangos a fyddai’r gwaith i ARU presennol, pe câi ei gynnal o dan y planiau hynny, yn cydymffurfio—
(i) yn achos yr awdurdod gorfodi, â gofynion cymwys Rhan B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, a
(ii) yn achos yr ymgymerwr carthffosiaeth, â gofynion paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010;
(b) ni chaniateir iddo benderfynu’r cais tan—
(i) diwedd 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r ymgynghoriad yn dechrau, neu
(ii) diwedd unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r person yr ymgynghorir ag ef yn cytuno arno yn ysgrifenedig.
(3) Mewn perthynas â’r ymgynghoriad o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r planiau sy’n ofynnol gan baragraff (2)(a) gynnwys—
(a) ar gyfer gwaith categori A, y ffeil tân ac argyfwng;
(b) ar gyfer gwaith categori B a phan fo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion, y ffeil tân ac argyfwng, os y’i darparwyd gan y ceisydd o dan reoliad 4(2) neu reoliad 12(5), a’r wybodaeth am gydymffurfedd o ran diogelwch tân.
(4) Os yw pob person yr ymgynghorir ag ef yn mynegi ei farn cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), mae’r gwaharddiad rhag penderfynu’r cais yn peidio â bod yn gymwys ar y diwrnod drannoeth y dyddiad y daw’r farn olaf i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
(5) Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori o dan y rheoliad hwn pan fo wedi ei fodloni ar ôl ystyried y cais fod sail ddigonol dros wrthod y cais.
(6) Yn y rheoliad hwn mae i “gwaith categori A” a “gwaith categori B” yr ystyr a roddir yn rheoliad 12 (cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol).
15 

(1) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu roi’r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir mewn cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol oni bai—
(a) nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn cytuno ag asesiad y cleient yn rheoliad 12(1)(d)(viii)(bb);
(b) bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu o’r farn y bydd goruchwyliaeth yn ofynnol ar bwynt gwahanol, pa un ai’n gynharach neu’n ddiweddarach na’r pwynt a ddisgrifir yn y cais;
(c) mewn perthynas â’r cais neu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a aeth gyda’r cais (neu a ddarperir o dan reoliad 12(5))—
(i) nad yw neu nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 12;
(ii) nad yw neu nad ydynt yn ddigon manwl mewn unrhyw fodd i ganiatáu i’r awdurdod rheolaeth adeiladu benderfynu a fyddai’r gwaith yn torri unrhyw un neu ragor o ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(iii) ei fod neu eu bod yn dangos y byddai’r gwaith arfaethedig yn torri unrhyw un neu ragor o ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(iv) ei fod neu eu bod yn dangos y byddai’r strategaethau, y polisïau neu’r gweithdrefnau mewn perthynas â’r gwaith (gan gynnwys mewn perthynas â newidiadau a reolaethir, adrodd mandadol am achlysuron, cymhwysedd personau neu rannu gwybodaeth a chydweithredu) yn torri, neu y byddent yn debygol o dorri, gofynion—(aa) rheoliadau 18 i 21 a 27 i 29 (newidiadau i ddogfennau neu bersonau);(bb) rheoliadau 31, 37 a 38 (llinyn aur etc.);(cc) rheoliadau 32 i 36 (adrodd mandadol am achlysuron);(dd) Rhan 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010;
(d) pan ofynnwyd amdani yn unol â rheoliad 12(5), fod y ceisydd wedi methu â darparu’r ddogfen y gofynnwyd amdani.
(2) Os yw un neu ragor o’r rhesymau ym mharagraff (1) yn gymwys, caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu—
(a) gwrthod y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol, neu
(b) gyda chydsyniad ysgrifenedig y ceisydd, roi’r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais yn ddarostyngedig i un neu ragor o ofynion.
(3) Mae’r mathau o ofyniad y caniateir eu gosod o dan baragraff (2)(b) yn cynnwys—
(a) gofyniad i ddarparu plan penodedig neu ddogfen benodedig, neu fersiwn ddiwygiedig o blan penodedig neu ddogfen benodedig, o fewn cyfnod penodedig;
(b) gofyniad nad yw gwaith yn mynd yn ei flaen y tu hwnt i bwynt penodedig hyd nes bod plan penodedig neu ddogfen arall benodedig, neu fersiwn ddiwygiedig o blan penodedig neu ddogfen arall benodedig, wedi ei roi neu ei rhoi i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, ac wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo ganddo.
(4) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu hysbysu’r ceisydd am ganlyniad y cais (a phan nad y ceisydd yw’r cleient, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r cleient) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 13(1).
(5) Rhaid i hysbysiad bod y cais wedi ei wrthod roi’r rhesymau dros ei wrthod.
(6) Rhaid i hysbysiad bod y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bennu’r gofyniad a osodwyd.
(7) Pan fo cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol yn llwyddiannus yr effaith yw o ddyddiad yr hysbysiad o dan baragraff (4)—
(a) bod cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y gwaith i ARU presennol wedi ei rhoi;
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9) bod—
(i) y disgrifiad o’r gwaith arfaethedig o dan reoliad 12(1)(e) (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol),
(ii) y planiau o’r gwaith a aeth gyda’r cais, a
(iii) pob un o’r dogfennau eraill a aeth gyda’r cais ac, o dan reoliad 12(5), yr oedd yn ofynnol gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu iddynt gael eu darparu,
wedi eu cymeradwyo.
(8) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bod rhaid diwygio plan neu ddogfen, nid yw’r plan anniwygiedig neu’r ddogfen anniwygiedig wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo gan baragraff (7)(b).
(9) Pan fo—
(a) cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bod rhaid diwygio unrhyw blan neu unrhyw ddogfen, a
(b) y plan neu’r ddogfen yn cael ei ddiwygio neu ei diwygio o dan y gofyniad,
yna mae’r plan diwygiedig hwnnw neu’r ddogfen ddiwygiedig honno wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo o’r dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer y diwygiad.
(10) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3)(a), rhaid i’r cleient sicrhau nad yw gwaith yn dechrau cyn i’r plan neu’r ddogfen gael ei ddarparu neu ei darparu.
(11) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3)(b)—
(a) rhaid i’r gofyniad nodi’r pwyntiau a bennir mewn perthynas â’r gwaith a’r planiau neu’r dogfennau y mae rhaid eu cymeradwyo ar gyfer pob pwynt;
(b) rhaid i’r cleient sicrhau nad yw’r gwaith yn mynd yn ei flaen y tu hwnt i’r pwynt a bennir mewn gofyniad hyd nes bod cymeradwyaeth gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r plan hwnnw neu’r ddogfen honno wedi dod i law.
(12) Pan fo’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn penderfynu peidio â chymeradwyo plan neu ddogfen o dan baragraff (11), rhaid iddo roi’r rhesymau dros y penderfyniad os gofynnir iddo wneud hynny.
16 

(1) Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i gleient—
(a) hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu, o fewn cyfnod penodedig, pan fydd pwynt penodedig o’r gwaith i ARU presennol wedi ei gyrraedd;
(b) peidio â gorchuddio gwaith penodedig am gyfnod penodedig.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
17 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol wedi ei rhoi o dan reoliad 15.
(2) O leiaf 5 niwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae’r gwaith i ARU presennol yn dechrau, rhaid i’r cleient, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn nodi ei fwriad i ddechrau’r gwaith a’r dyddiad y mae’r gwaith i ddechrau.
(3) O fewn 5 niwrnod ar ôl y diwrnod y mae’r gwaith i ARU presennol i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn, rhaid i’r cleient, neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, roi hysbysiad i’r perwyl hwnnw i’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
(4) Os nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi ei fodloni bod y gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn, rhaid iddo roi i’r cleient hysbysiad i’r perwyl hwnnw (“hysbysiad gwrthod”) o fewn 4 wythnos i’r dyddiad y rhoddir yr hysbysiad o dan baragraff (3), a rhaid i’r hysbysiad gwrthod roi rhesymau dros ei wrthod a’r hyn y mae angen ei gwblhau er mwyn i’r gwaith gael ei ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
(5) Pan fo hysbysiad wedi ei roi o dan baragraff (3) a bo’r cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (4) yn dod i ben heb fod hysbysiad gwrthod wedi ei roi, mae’r gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
(6) Os yw’r cleient yn derbyn yr hysbysiad gwrthod ni chaiff roi hysbysiad pellach o dan baragraff (3) oni bai, gan roi sylw i’r rhesymau a roddwyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu, ei fod wedi ei fodloni bod y gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
(7) Caiff y cleient apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad yr awdurdod rheolaeth adeiladu i wrthod yr hysbysiad ar yr amod bod yr apêl yn cael ei gwneud o fewn 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi’r hysbysiad gwrthod.
(8) Ni chaiff y llys ynadon ganiatáu apêl o dan baragraff (7) ond os yw wedi ei fodloni bod y penderfyniad sy’n destun apêl yn anghywir ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol;
(d) bod y penderfyniad wedi ei wneud heb ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn Neddf 1984 neu mewn rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.
(9) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2) neu (3) gan rywun ar ran y cleient, rhaid i’r hysbysiad gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r hysbysiad gael ei roi a bod yr wybodaeth a gynhwysir ynddo yn gywir.
(10) Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu gymryd unrhyw gamau y mae’n meddwl eu bod yn briodol i wirio a yw’r gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn, gan gynnwys—
(a) gwneud gwybodaeth yn ofynnol;
(b) agor gwaith i’w arolygu.
(11) At ddibenion paragraffau (3) i (10) mae rheoliad 46B o Reoliadau 2010 yn gymwys i benderfynu a yw gwaith i’w ystyried yn waith sydd wedi ei gychwyn.
RHAN 3
18 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan gynigir un neu ragor o’r newidiadau a ganlyn (“newid a reolaethir”)—
(a) newid i unrhyw blaniau cyfredol ar gyfer unrhyw waith neu unrhyw waith arfaethedig neu gynnal gwaith ac eithrio o dan y planiau cyfredol;
(b) newid i unrhyw gam o waith ARU, gan gynnwys ychwanegu neu ddileu cam;
(c) newid i unrhyw strategaethau, unrhyw bolisïau neu unrhyw weithdrefnau a ddisgrifir mewn unrhyw ddogfen gytunedig gyfredol.
(2) Cyn y gellir cyflawni unrhyw newid a reolaethir, rhaid i’r cleient sicrhau—
(a) bod cofnod yn cael ei wneud o’r newid a reolaethir o dan reoliad 19, a
(b) bod fersiwn ddiwygiedig o unrhyw ddogfen gytunedig y mae’r newid a reolaethir yn effeithio arni yn cael ei llunio.
(3) Pan fo’r newid a reolaethir yn newid hysbysadwy, rhaid i’r cleient neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu o dan reoliad 20.
(4) Ni chaniateir i newid hysbysadwy gael ei gyflawni, ac ni chaniateir i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau, hyd nes bod yr hysbysu y cyfeirir ato ym mharagraff (3) wedi digwydd.
(5) Pan fo’r newid a reolaethir yn newid mawr, rhaid i’r cleient wneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn cysylltiad â’r newid (“cais rheolaeth newid”) i’r awdurdod rheolaeth adeiladu o dan reoliad 21.
(6) Ni chaniateir i newid mawr gael ei gyflawni, ac ni chaniateir i’r gwaith y mae’n ymwneud ag ef ddechrau, hyd nes bod y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais rheolaeth newid wedi ei rhoi.
(7) Mae paragraff (8) yn gymwys pan fo dau neu ragor o newidiadau a reolaethir yn ymwneud â’r un newid i’r gwaith adeiladu (“newidiadau cysylltiedig”) a bod o leiaf un o’r newidiadau a reolaethir hynny yn newid mawr ac o leiaf un ohonynt yn newid hysbysadwy.
(8) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) caniateir cynnwys yr holl newidiadau mawr sy’n newidiadau cysylltiedig yn yr un cais rheolaeth newid,
(b) caniateir cynnwys unrhyw newidiadau hysbysadwy sy’n newidiadau cysylltiedig yn y cais rheolaeth newid hwnnw, ac
(c) mewn perthynas ag unrhyw newid sy’n newid hysbysadwy, mae gofynion rheoliad 20 (rheolaeth newid: gofynion hysbysu) wedi eu bodloni drwy ddarparu manylion am y newid fel rhan o’r cais hwnnw.
(9) Pan fo dau neu ragor o newidiadau a reolaethir heb fod yn gysylltiedig â’r un newid i’r gwaith adeiladu ni chaniateir eu cynnwys yn yr un cais rheolaeth newid.
(10) Mae paragraff (11) yn gymwys pan fo cais rheolaeth newid wedi ei gyflwyno mewn perthynas â newid arfaethedig (“y prif newid”) a chynigir bod newid a reolaethir arall (ac eithrio newid nad yw ond yn newid cofnodadwy) i’w gyflawni sy’n ganlyniadol ar y prif newid (“newid canlyniadol”) ond na chafodd ei gynnwys mewn cais o fath y cyfeirir ato ym mharagraff (8).
(11) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) ni chaniateir hysbysu am newid canlyniadol sy’n newid hysbysadwy o dan reoliad 20;
(b) ni chaniateir gwneud cais rheolaeth newid mewn perthynas â newid canlyniadol sy’n newid mawr o dan reoliad 21,
hyd nes bod yr awdurdod rheolaeth adeiladu wedi hysbysu’r cleient am ganlyniad y cais rheolaeth newid mewn perthynas â’r prif newid.
(12) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “dogfen gytunedig gyfredol” (“current agreed document”) yw’r ddogfen sy’n ddogfen gytunedig ar yr adeg y cynigir y newid a reolaethir;
 ystyr “planiau cyfredol” (“current plans”) yw’r planiau sy’n ddogfen gytunedig ar yr adeg y cynigir y newid a reolaethir.
19 

(1) Rhaid i’r prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) greu a chynnal dogfen at ddibenion cofnodi gwybodaeth mewn cysylltiad â newidiadau i’r prosiect (“lòg rheolaeth newid”).
(2) Rhaid cofnodi newid a reolaethir drwy roi’r wybodaeth a ganlyn yn y lòg rheolaeth newid—
(a) enw’r unigolyn sy’n cofnodi’r newid,
(b) disgrifiad o’r newid arfaethedig,
(c) eglurhad o’r rhesymau pam y mae’r newid wedi ei gynnig,
(d) pa un a yw’r newid yn newid cofnodadwy, yn newid hysbysadwy neu’n newid mawr,
(e) rhestr o enw a galwedigaeth pob person, os oes un, y ceisiwyd ei gyngor mewn perthynas â’r newid arfaethedig a chrynodeb o unrhyw gyngor a ddarparwyd,
(f) asesiad o ba ddogfen gytunedig y mae’r newid arfaethedig yn effeithio arni a chadarnhad bod fersiwn ddiwygiedig wedi ei llunio o dan reoliad 18(2)(b) (rheolaeth newid), ac
(g) eglurhad (“eglurhad cydymffurfedd”), mewn perthynas â’r newid arfaethedig, o sut—
(i) y bydd y gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, ar ôl cyflawni’r newid arfaethedig, yn cydymffurfio â’r holl reoliadau adeiladu cymwys, a
(ii) y bydd y strategaethau, y polisïau a’r gweithdrefnau mewn unrhyw ddogfen gytunedig (gan gynnwys mewn perthynas â newidiadau a reolaethir, adrodd mandadol am achlysuron, cymhwysedd personau neu rannu gwybodaeth a chydweithredu), ar ôl cyflawni’r newid arfaethedig, yn cydymffurfio â gofynion—(aa) y rheoliad hwn a rheoliadau 18, 20, 21 a 27 i 29 (newidiadau i ddogfennau neu bersonau);(bb) rheoliadau 31, 37 a 38 (llinyn aur etc.);(cc) rheoliadau 32 i 36 (adrodd mandadol am achlysuron);(dd) Rhan 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010.
20 

(1) Rhaid i hysbysiad o dan reoliad 18(3) fod yn ysgrifenedig, rhaid iddo fod wedi ei lofnodi gan y cleient neu rywun sy’n gweithredu ar ei ran, a rhaid iddo gynnwys—
(a) disgrifiad o’r newid a reolaethir arfaethedig,
(b) eglurhad o’r rhesymau pam y mae’r newid wedi ei gynnig,
(c) rhestr o enw a galwedigaeth pob person, os oes un, y ceisiwyd ei gyngor mewn perthynas â’r newid arfaethedig a chrynodeb o unrhyw gyngor a ddarparwyd,
(d) asesiad o’r dogfennau cytunedig y mae’r newid arfaethedig yn effeithio arnynt,
(e) eglurhad cydymffurfedd mewn perthynas â’r newid arfaethedig, ac
(f) pan roddir yr hysbysiad gan rywun ar ran y cleient, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r hysbysiad gael ei roi a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(2) Rhaid i’r fersiwn ddiwygiedig o’r ddogfen gytunedig a luniwyd o dan reoliad 18(2)(b) fynd gyda hysbysiad o dan reoliad 18(3).
(3) Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i’r person sy’n hysbysu ddarparu gwybodaeth bellach mewn perthynas â’r newid a reolaethir arfaethedig.
(4) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (2) i’r person sy’n hysbysu, rhaid i’r person ddarparu’r wybodaeth o fewn 10 niwrnod gwaith ar ôl i’r hysbysiad ddod i’w law.
21 

(1) Rhaid i gais rheolaeth newid gael ei wneud gan y cleient yn ysgrifenedig, rhaid iddo fod wedi ei lofnodi gan y ceisydd, a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y cleient,
(b) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol),
(c) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn, a
(d) disgrifiad o’r newid a reolaethir arfaethedig.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda’r cais—
(a) eglurhad o’r rhesymau pam y mae’r newid wedi ei gynnig,
(b) rhestr o enw a galwedigaeth pob person, os oes un, y ceisiwyd ei gyngor mewn perthynas â’r newid arfaethedig a chrynodeb o unrhyw gyngor a ddarparwyd,
(c) pan fo’r newid yn newid i nifer y fflatiau neu’r ystafelloedd preswyl, blaniau yn dangos nifer y fflatiau neu’r ystafelloedd preswyl y cynigir y bydd yr adeilad risg uwch yn eu cynnwys,
(d) asesiad o’r dogfennau cytunedig y mae’r newid arfaethedig yn effeithio arnynt,
(e) eglurhad cydymffurfedd mewn perthynas â’r newid arfaethedig, ac
(f) pan wneir y cais gan rywun ar ran y cleient, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(3) Rhaid i’r fersiwn ddiwygiedig o’r ddogfen gytunedig a luniwyd o dan reoliad 18(2)(b) fynd gyda chais rheolaeth newid.
22 

(1) Pan fo cais rheolaeth newid sy’n ddilys yn dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ei benderfynu—
(a) o fewn 6 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r ceisydd yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(2) Mae cais rheolaeth newid yn ddilys os yw’n cydymffurfio â gofynion rheoliad 21.
23 

(1) Cyn penderfynu cais rheolaeth newid sy’n ymwneud â newid a reolaethir o fath a ddisgrifir yn rheoliad 18(1)(a), rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori—
(a) â’r awdurdod gorfodi ar gyfer yr adeilad neu’r adeilad arfaethedig pan fo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith y mae’r newid a reolaethir yn ymwneud ag ef, a
(b) â’r ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer yr adeilad neu’r adeilad arfaethedig pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith y mae’r newid a reolaethir yn ymwneud ag ef.
(2) Pan fo’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori â pherson o dan y rheoliad hwn—
(a) rhaid iddo roi i’r person blaniau digonol i ddangos a fyddai’r gwaith, pe câi ei gynnal o dan y planiau hynny, yn cydymffurfio—
(i) yn achos yr awdurdod gorfodi, â gofynion cymwys Rhan B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, a
(ii) yn achos yr ymgymerwr carthffosiaeth, â gofynion paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010;
(b) ni chaniateir iddo benderfynu’r cais tan ddiwedd 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r ymgynghoriad yn dechrau neu unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r person yr ymgynghorir ag ef yn cytuno arno yn ysgrifenedig.
(3) Mewn perthynas â’r ymgynghoriad o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r planiau a roddir gynnwys y ffeil tân ac argyfwng neu, pan fo’r gwaith y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn waith categori B, yr wybodaeth am gydymffurfedd o ran diogelwch tân.
(4) Os yw pob person yr ymgynghorir ag ef yn mynegi ei farn cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), mae’r gwaharddiad rhag penderfynu’r cais yn peidio â bod yn gymwys ar y diwrnod drannoeth y dyddiad y daw’r farn olaf i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
(5) Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori o dan y rheoliad hwn pan fo wedi ei fodloni ar ôl ystyried y cais fod sail ddigonol dros wrthod y cais.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwaith categori B” yr ystyr a roddir yn rheoliad 12(6).
24 

(1) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu roi’r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir mewn cais rheolaeth newid oni bai, mewn perthynas â’r cais neu unrhyw un neu ragor o’r dogfennau a aeth gyda’r cais—
(a) nad yw neu nad ydynt yn cydymffurfio â gofynion rheoliad 21;
(b) nad yw neu nad ydynt yn ddigon manwl mewn unrhyw fodd i ganiatáu i’r awdurdod rheolaeth adeiladu benderfynu a fyddai’r gwaith ARU, y cam o’r gwaith ARU neu waith i ARU presennol yn torri unrhyw un neu ragor o ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(c) ei fod neu eu bod yn dangos y byddai’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol yn torri unrhyw un neu ragor o ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(d) ei fod neu eu bod yn dangos y byddai’r strategaethau, y polisïau neu’r gweithdrefnau mewn unrhyw ddogfen gytunedig (gan gynnwys mewn perthynas â newidiadau a reolaethir, adrodd mandadol am achlysuron, cymhwysedd personau neu rannu gwybodaeth a chydweithredu) yn torri, neu’n debygol o dorri, gofynion—
(i) rheoliadau 18 i 21 a 27 i 29 (newidiadau i ddogfennau neu bersonau);
(ii) rheoliadau 31, 37 a 38 (llinyn aur etc.);
(iii) rheoliadau 32 i 36 (adrodd mandadol am achlysuron);
(iv) Rhan 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010.
(2) Os yw un neu ragor o’r rhesymau ym mharagraff (1) yn gymwys, caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu—
(a) gwrthod y cais rheolaeth newid, neu
(b) gyda chydsyniad ysgrifenedig y ceisydd, roi’r gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais yn ddarostyngedig i un neu ragor o ofynion.
(3) Mae’r mathau o ofynion y caniateir eu gosod o dan baragraff (2)(b) yn cynnwys—
(a) gofyniad i ddarparu plan penodedig neu ddogfen benodedig, neu fersiwn ddiwygiedig o blan penodedig neu ddogfen benodedig, o fewn cyfnod penodedig;
(b) gofyniad nad yw gwaith yn mynd yn ei flaen y tu hwnt i bwynt penodedig hyd nes bod plan penodedig neu ddogfen arall benodedig, neu fersiwn ddiwygiedig o blan penodedig neu ddogfen arall benodedig, wedi ei roi neu ei rhoi i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, ac wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo ganddo.
(4) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu hysbysu’r ceisydd am ganlyniad y cais rheolaeth newid (a phan nad y ceisydd yw’r cleient, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r cleient) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 22.
(5) Rhaid i hysbysiad bod y cais wedi ei wrthod roi rhesymau dros ei wrthod.
(6) Rhaid i hysbysiad bod y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais rheolaeth newid wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bennu’r gofyniad a osodwyd.
(7) Pan fo cais rheolaeth newid yn llwyddiannus, yr effaith yw o ddyddiad yr hysbysiad o dan baragraff (4)—
(a) bod y gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer y newid a geisir yn y cais rheolaeth newid wedi ei rhoi;
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (8) a (9) bod—
(i) y disgrifiad o’r newid a reolaethir arfaethedig, a
(ii) y fersiwn ddiwygiedig o’r ddogfen gytunedig a aeth gyda’r cais,
wedi eu cymeradwyo.
(8) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bod rhaid diwygio plan neu ddogfen, nid yw’r plan anniwygiedig neu’r ddogfen anniwygiedig wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo gan baragraff (7)(b).
(9) Pan fo—
(a) cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad bod rhaid diwygio plan neu ddogfen, a
(b) y plan neu’r ddogfen yn cael ei ddiwygio neu ei diwygio o dan y gofyniad,
yna mae’r plan diwygiedig hwnnw neu’r ddogfen ddiwygiedig honno wedi ei gymeradwyo neu ei chymeradwyo o’r dyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth a roddwyd gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer y diwygiad.
(10) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu a geisir yn y cais wedi ei rhoi yn ddarostyngedig i ofyniad o fath a ddisgrifir ym mharagraff (3)(b)—
(a) rhaid i’r cleient sicrhau nad yw’r gwaith yn mynd yn ei flaen y tu hwnt i’r pwynt a bennir yn y gofyniad hyd nes bod cymeradwyaeth gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer y plan neu’r ddogfen wedi dod i law;
(b) pan fo cais am gymeradwyaeth wedi dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, rhaid iddo hysbysu’r cleient am ganlyniad y cais o fewn 6 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu neu o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r ceisydd yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg;
(c) rhaid i hysbysiad bod y cais wedi ei wrthod roi’r rhesymau dros ei wrthod.
(11) Yn y rheoliad hwn, ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.
25 
Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu bennu bod math penodol o newid a reolaethir yn newid hysbysadwy neu’n newid mawr, mewn perthynas â gwaith penodedig, drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i’r perwyl hwnnw i’r cleient, y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) ar gyfer y gwaith hwnnw.
26 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “newid hysbysadwy” (“notifiable change”) yw—
(a) newid i’r cynllun rheolaeth adeiladu heblaw newid i’r gofrestr o benodiadau a gynhwysir ynddo;
(b) newid i’r cynllun rheolaeth newid;
(c) newid i gynllun fflat neu ystafell breswyl mewn adeilad risg uwch arfaethedig neu mewn adeilad risg uwch;
(d) newid i nifer neu ddimensiynau unrhyw agoriadau mewn unrhyw wal, unrhyw nenfwd neu unrhyw elfen arall o adeilad ar gyfer unrhyw bibell, unrhyw ddwythell neu unrhyw gebl;
(e) newid i’r cwlwm wal, y gosodiad rhwymo wal neu’r system gynnal mewn unrhyw wal neu unrhyw wal arfaethedig (ac eithrio wal allanol);
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (2), newid i unrhyw gynnyrch adeiladu neu unrhyw elfen o adeilad sydd i’w ddefnyddio neu ei defnyddio mewn adeilad risg uwch arfaethedig neu arno (neu i’w ddefnyddio neu ei defnyddio fel rhan o waith i adeilad risg uwch) pan fo’r cynnyrch neu’r elfen a roddir yn ei le neu ei lle o’r un dosbarthiad neu o ddosbarthiad uwch o dan y dosbarthiad adwaith i dân;
(g) unrhyw newid arall i’r ffeil tân ac argyfwng neu’r wybodaeth am gydymffurfedd o ran diogelwch tân;
(h) newid a bennir gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu fel newid hysbysadwy drwy hysbysiad a roddir o dan reoliad 25;
(i) newid i’r strategaeth cwblhau rhannol;
(j) newid i ddatganiad gwaith fesul cam neu ddatganiad camau dilynol;
 ystyr “newid mawr” (“major change”)—
(a) mewn perthynas â gwaith ARU neu gam o waith ARU yw—
(i) newid sy’n newid defnydd sylweddol i unrhyw ran o adeilad risg uwch arfaethedig;
(ii) newid i ddefnydd arfaethedig unrhyw ran o adeilad risg uwch arfaethedig fel y bydd y rhan o’r adeilad ar ôl y newid i gael ei defnyddio fel maes parcio neu i beidio â chael ei defnyddio fel maes parcio (pa un a yw’r maes parcio ar gyfer meddianwyr yr adeilad neu fel arall);
(iii) newid sy’n cynyddu neu’n lleihau uchder neu led allanol adeilad risg uwch arfaethedig;
(iv) newid i nifer y lloriau mewn adeilad risg uwch arfaethedig (gan gynnwys ychwanegu llawr mesanîn neu lawr oriel neu gael gwared ar lawr o’r fath);
(v) newid i ddyluniad strwythurol neu lwyth strwythurol yr adeilad;
(vi) newid i nifer neu led y grisiau mewn adeilad risg uwch arfaethedig neu newid i hyd unrhyw lwybr dianc arall neu nifer neu led unrhyw lwybr dianc (gan gynnwys lifft ymadael mewn argyfwng) o fewn yr adeilad arfaethedig;
(vii) newid i wal allanol adeilad risg uwch arfaethedig gan gynnwys cwlwm wal, gosodiad rhwymo wal neu system gynnal yn y wal;
(viii) newid i unrhyw ran o’r mesurau diogelwch tân gweithredol neu’r mesurau diogelwch tân goddefol mewn adeilad risg uwch arfaethedig y cyfeirir atynt yn y ffeil tân ac argyfwng;
(ix) newid i gynllun neu ddimensiynau y rhannau cyffredin o fewn adeilad risg uwch arfaethedig;
(x) newid sy’n cynnig meddiannu unrhyw ran o’r adeilad risg uwch arfaethedig cyn i’r holl waith gael ei gwblhau;
(xi) yn ddarostyngedig i baragraff (2), newid i unrhyw gynnyrch adeiladu neu unrhyw elfen o adeilad sydd i’w ddefnyddio neu ei defnyddio mewn adeilad risg uwch neu arno (neu i’w ddefnyddio neu ei defnyddio fel rhan o waith i adeilad risg uwch) fel bod y cynnyrch neu’r elfen a roddir yn ei le neu ei lle o ddosbarthiad is o dan y dosbarthiad adwaith i dân;
(xii) newid i unrhyw ragdybiaethau a wnaed yn nyluniad adeilad risg uwch arfaethedig fel y’u nodwyd yn y datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(xiii) newid i nifer y fflatiau, yr ystafelloedd preswyl neu’r unedau masnachol a gynhwysir mewn adeilad risg uwch arfaethedig;
(b) mewn perthynas â gwaith i ARU presennol—
(i) newid sy’n newid defnydd sylweddol i unrhyw ran o adeilad risg uwch;
(ii) newid i ddefnydd unrhyw ran o adeilad risg uwch fel y bydd y rhan o’r adeilad ar ôl y newid i gael ei defnyddio fel maes parcio neu i beidio â chael ei defnyddio fel maes parcio (pa un a yw’r maes parcio ar gyfer meddianwyr yr adeilad neu fel arall);
(iii) newid sy’n cynyddu neu’n lleihau uchder neu led allanol adeilad risg uwch;
(iv) newid i nifer y lloriau mewn adeilad risg uwch (gan gynnwys ychwanegu llawr mesanîn neu lawr oriel neu gael gwared ar lawr o’r fath);
(v) newid i ddyluniad strwythurol neu lwyth strwythurol yr adeilad;
(vi) newid i nifer neu led y grisiau mewn adeilad risg uwch neu newid i hyd unrhyw lwybr dianc arall neu nifer neu led unrhyw lwybr dianc (gan gynnwys lifft ymadael mewn argyfwng) o fewn yr adeilad;
(vii) newid i wal allanol adeilad risg uwch gan gynnwys cwlwm wal, gosodiad rhwymo wal neu system gynnal yn y wal;
(viii) newid i unrhyw ran o’r mesurau diogelwch tân gweithredol neu’r mesurau diogelwch tân goddefol mewn adeilad risg uwch y cyfeirir atynt yn y ffeil tân ac argyfwng;
(ix) newid i gynllun neu ddimensiynau y rhannau cyffredin o fewn adeilad risg uwch;
(x) yn ddarostyngedig i baragraff (2), newid i unrhyw gynnyrch adeiladu neu unrhyw elfen o adeilad sydd i’w ddefnyddio neu ei defnyddio mewn adeilad risg uwch neu arno (neu i’w ddefnyddio neu ei defnyddio fel rhan o waith i adeilad risg uwch) fel bod y cynnyrch neu’r elfen a roddir yn ei le neu ei lle o ddosbarthiad is o dan y dosbarthiad adwaith i dân;
(xi) newid i unrhyw ragdybiaethau a wnaed yn nyluniad adeilad risg uwch neu waith i adeilad risg uwch fel y’u nodwyd yn y datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(xii) pan nad yw’r adeilad neu’r rhan o adeilad wedi ei feddiannu neu ei meddiannu yn ystod y gwaith, newid sy’n cynnig ei feddiannu neu ei meddiannu cyn i’r holl waith gael ei gwblhau;
(xiii) newid i nifer y fflatiau, yr ystafelloedd preswyl neu’r unedau masnachol a gynhwysir mewn adeilad risg uwch;
(c) newid a bennir gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu fel newid mawr drwy hysbysiad a roddir o dan reoliad 25.
(2) Pan fo dogfen gytunedig yn pennu defnydd o gynnyrch adeiladu neu elfen o adeilad sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, mae’r newid i gynnyrch neu elfen arall sy’n dod o fewn yr un fanyleb ddylunio yn newid cofnodadwy.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 mae i “datganiad camau dilynol” (“subsequent stages statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(3)(c)(i);
 mae i “datganiad gwaith fesul cam” (“staged work statement”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 4(3)(b)(i);
 ystyr “dosbarthiad adwaith i dân” (“reaction to fire classification”) yw BS EN 13501-1:2018 a elwir yn “Fire classification of construction products and building elements. Classification using data from reaction to fire tests” (ISBN 978 0 580 95726 0) a gyhoeddwyd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ar 14 Ionawr 2019.
27 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw person (“C” yn y rheoliad hwn), ar unrhyw adeg ar ôl rhoi cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, yn peidio â bod yn gleient mewn perthynas â’r gwaith, rhaid iddo, o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y mae’n peidio â bod yn gleient, ddarparu i’r cleient (“N” yn y rheoliad hwn”)—
(a) copi o’r wybodaeth llinyn aur;
(b) gwybodaeth (gan gynnwys planiau, lluniadau a dogfennau eraill) sy’n ddigonol i fanylu ar y gwaith a gynhwysir yn y prosiect;
(c) dogfen yn egluro’r trefniadau a wnaed o dan reoliad 11R (trefniadau addas i sicrhau cydymffurfedd â gofynion etc.) o Reoliadau 2010;
(d) datganiad, wedi ei lofnodi gan C, sydd—
(i) yn darparu’r dyddiad y peidiodd C â bod yn gleient, a
(ii) yn cadarnhau—(aa) bod C wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel y cleient o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010,(bb) bod C wedi darparu copi o’r wybodaeth llinyn aur i N, ac(cc) cyhyd ag y bo C yn ymwybodol, ar y diwrnod y mae’n peidio â bod yn gleient, fod y gwaith dylunio, a’r gwaith adeiladu (os oes unrhyw waith o’r fath wedi ei gynnal erbyn y dyddiad hwnnw), yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys Rheoliadau 2010.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i N—
(a) o fewn 28 o ddiwrnodau i’r dyddiad pan ddaw N yn gleient, roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sydd—
(i) yn datgan y dyddiad y daeth N yn gleient;
(ii) yn datgan y dyddiad y peidiodd C â bod yn gleient;
(iii) yn cadarnhau bod N wedi cael y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1);
(iv) yn cadarnhau bod N yn ymwybodol o’r gofynion a osodwyd ar gleient gan y rheoliadau adeiladu;
(v) yn cynnwys copi o ddatganiad C o dan baragraff (1)(d), a
(b) sicrhau—
(i) bod cofnod yn cael ei wneud o’r newid i’r cleient yn y lòg rheolaeth newid;
(ii) bod y cynllun rheolaeth adeiladu yn cael ei ddiwygio o dan reoliad 18 (rheolaeth newid) i adlewyrchu’r newid.
(3) Pan nad yw N yn gallu—
(a) cadarnhau ei fod wedi cael y dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), neu
(b) darparu copi o ddatganiad C o dan baragraff (1)(d),
rhaid i’r hysbysiad a anfonir o dan baragraff (2)(a) egluro’r rhesymau dros beidio â darparu’r cadarnhad neu beidio â chynnwys copi o’r datganiad.
(4) Pan fo—
(a) ymddiriedolwr mewn methdaliad wedi ei benodi mewn perthynas â chleient, neu
(b) eiddo C (neu unrhyw ran ohono sy’n cynnwys y prosiect ARU) wedi ei freinio mewn datodwr o dan adran 145 o Ddeddf Ansolfedd 1986,
nid yw’r person hwnnw (YA) i’w drin fel cleient newydd ar yr amod nad oes unrhyw waith adeiladu wedi ei gynnal ers ei benodi neu ei freinio, a phan fo YA wedyn yn gwaredu eiddo C i gleient newydd, mae paragraff (1) yn gymwys i YA fel pe bai—
(i) is-baragraffau (c) a (d) (ac eithrio paragraff (bb)) wedi eu hepgor, a
(ii) pan nad yw’n gallu cadarnhau bod ganddo’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(a), rhaid i’r hysbysiad a anfonir o dan baragraff (2) gan N egluro’r rhesymau dros beidio â darparu’r cadarnhad.
(5) Pan fo—
(a) dirprwy wedi ei benodi gan y Llys Gwarchod mewn perthynas ag eiddo a materion ariannol C, neu
(b) atwrneiaeth gan berson mewn perthynas ag eiddo C a’i fod yn bwriadu gweithredu yn rhinwedd y cleient,
mae paragraff (6) yn gymwys yn lle paragraff (1).
(6) Pan fo paragraff (5) yn gymwys, rhaid i berson sydd wedi cymryd drosodd fel y cleient ar ran C, o fewn 28 o ddiwrnodau iddo gymryd unrhyw gam fel cleient—
(a) rhoi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sydd—
(i) yn datgan y dyddiad y cymerodd drosodd fel y cleient ar ran C;
(ii) yn cadarnhau bod ganddo—(aa) copi o’r wybodaeth llinyn aur;(bb) gwybodaeth (gan gynnwys planiau, lluniadau a dogfennau eraill) sy’n ddigonol i fanylu ar y gwaith a gynhwysir yn y prosiect;(cc) dogfen yn egluro’r trefniadau a wnaed o dan reoliad 11R (trefniadau addas i sicrhau cydymffurfedd â gofynion etc.) o Reoliadau 2010;
(iii) yn cadarnhau ei fod yn ymwybodol o’r gofynion a osodwyd ar gleient gan y rheoliadau adeiladu;
(iv) yn cynnwys datganiad, wedi ei lofnodi ganddo, sy’n cadarnhau cyhyd ag y bo’n ymwybodol, ar ddyddiad yr hysbysiad, fod y gwaith dylunio, a’r gwaith adeiladu (os oes unrhyw waith o’r fath wedi ei gynnal erbyn y dyddiad hwnnw), yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu, a
(b) sicrhau—
(i) bod cofnod yn cael ei wneud ohono’n cymryd drosodd fel y cleient ar ran C yn y lòg rheolaeth newid;
(ii) bod y cynllun rheolaeth adeiladu yn cael ei ddiwygio, o dan reoliad 18 (rheolaeth newid), i adlewyrchu’r newid.
(7) Pan nad yw’r person sydd wedi cymryd drosodd fel y cleient ar ran C yn gallu cadarnhau bod ganddo’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (6)(a)(ii) neu wneud y datganiad sy’n ofynnol gan baragraff (6)(a)(iv), rhaid i’r hysbysiad a anfonir o dan baragraff (6)(a) egluro’r rhesymau dros beidio â darparu’r cadarnhad neu beidio â darparu’r datganiad.
(8) Yn ddarostyngedig i baragraff (9), pan fo C yn marw, rhaid i gynrychiolydd personol C (“CP”), o fewn 28 o ddiwrnodau i ddyroddi grant i weinyddu ystad C, roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sydd—
(a) yn datgan y dyddiad y dyroddwyd grant i weinyddu ystad C,
(b) yn datgan y dyddiad pan fu C farw,
(c) yn cadarnhau bod gan CP—
(i) copi o’r wybodaeth llinyn aur;
(ii) gwybodaeth (gan gynnwys planiau, lluniadau a dogfennau eraill) sy’n ddigonol i fanylu ar y gwaith a gynhwysir yn y prosiect;
(iii) dogfen yn egluro’r trefniadau a wnaed o dan reoliad 11R (trefniadau addas i sicrhau cydymffurfedd â gofynion etc.) o Reoliadau 2010, a
(d) yn datgan pa un a yw CP yn bwriadu gweithredu fel y cleient mewn perthynas â’r prosiect ai peidio.
(9) Pan nad yw CP yn gallu cadarnhau bod ganddo’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (8)(c), rhaid i’r hysbysiad a anfonir o dan baragraff (8) egluro’r rhesymau dros beidio â darparu’r cadarnhad.
(10) Pan fo CP yn bwriadu gweithredu fel y cleient mewn perthynas â’r prosiect, rhaid i CP—
(a) cydymffurfio â pharagraff (2) (ac eithrio paragraffau (iii), (iv) a (v) o is-baragraff (a)), a
(b) cadarnhau hefyd, yn yr hysbysiad sydd i’w ddarparu o dan baragraff (2), fod ganddo—
(i) copi o’r wybodaeth llinyn aur,
(ii) gwybodaeth (gan gynnwys planiau, lluniadau a dogfennau eraill) sy’n ddigonol i fanylu ar y gwaith a gynhwysir yn y prosiect, a
(iii) dogfen yn egluro’r trefniadau a wnaed o dan reoliad 11R (trefniadau addas i sicrhau cydymffurfedd â gofynion etc.) o Reoliadau 2010.
(11) Pan nad yw CP yn gallu cadarnhau bod ganddo’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraff (10), rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (10) egluro’r rhesymau dros beidio â darparu’r cadarnhad.
(12) At ddibenion y rheoliad hwn, mae person i’w drin fel cleient newydd pan fo prosiect yn cael ei gynnal ar ei gyfer ef yn hytrach nag C ond nid yw person i’w ystyried yn gleient newydd dim ond oherwydd iddo brynu, neu ymrwymo i gontract i brynu, fuddiant cyfreithiol mewn annedd a grëwyd neu sydd i’w chreu yn yr adeilad risg uwch.
(13) At ddibenion adran 35(2) o Ddeddf 1984 (darpariaethau nad yw trosedd yn gymwys ar eu cyfer), mae paragraffau (6) ac (8) wedi eu rhagnodi.
(14) At ddibenion adran 35B(7)(a) o Ddeddf 1984 (darpariaethau na chaniateir rhoi hysbysiad cydymffurfio ar eu cyfer), mae paragraffau (6) ac (8) wedi eu rhagnodi.
(15) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys—
(a) i gleient domestig ac eithrio pan fo cleient domestig, o dan reoliad 11T(1) o Reoliadau 2010, wedi aseinio dyletswyddau iddo’i hun, na
(b) i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(i) gwaith cynllun,
(ii) gwaith esempt, neu
(iii) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
(16) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “prosiect ARU” (“HRB project”) yw’r gwaith a ddisgrifir yn yr hysbysiad cychwynnol a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984.
28 

(1) Pan ddaw’r cleient yn ymwybodol bod unrhyw un neu ragor o’r amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yn gymwys mewn perthynas ag ef, rhaid i’r cleient, o fewn 14 o ddiwrnodau i’r diwrnod hwnnw, roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sydd—
(a) yn datgan mai ef yw’r cleient mewn perthynas â phrosiect;
(b) yn datgan enw a chyfeiriad y cleient, a phan fo’r person yn gwmni, rif cofrestru’r cwmni hefyd;
(c) yn rhoi manylion sy’n ddigonol i nodi pob un o brosiectau’r cleient sy’n ymwneud ag adeilad risg uwch;
(d) yn darparu hynny o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn y tabl yn rheol 1.6 o Reolau 2016 ag sy’n wybyddus iddo.
(2) Yr amgylchiadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(a) bod moratoriwm o dan Ran A1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 wedi cychwyn;
(b) bod trefniant gwirfoddol at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 wedi ei gynnig o dan y Rhan honno o’r Ddeddf;
(c) bod trefniant gwirfoddol at ddibenion Rhan 8 o Ddeddf Ansolfedd 1986 wedi ei gynnig ac wedi cymryd effaith o dan y Rhan honno o’r Ddeddf.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), pan fo person (“P”) a ddisgrifir ym mharagraff (4) wedi ei benodi mewn perthynas â’r cleient, ddim mwy na 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y penodir P rhaid i P roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sydd—
(a) yn datgan enw a chyfeiriad y cleient y mae’r penodiad yn ymwneud ag ef ac yn rhoi manylion sy’n ddigonol i nodi pob un o brosiectau’r cleient sy’n ymwneud ag adeilad risg uwch;
(b) yn nodi natur y penodiad a ddelir gan P mewn perthynas â’r cleient;
(c) yn datgan enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost P;
(d) yn darparu hynny o’r wybodaeth y cyfeirir ati yn y tabl yn rheol 1.6 o Reolau 2016 ag sy’n wybyddus iddo.
(4) Y personau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) yw—
(a) gweinyddydd;
(b) derbynnydd gweinyddol;
(c) derbynnydd a benodir gan y llysoedd neu gan forgeisai;
(d) datodwr;
(e) ymddiriedolwr mewn methdaliad.
(5) Pan ymwedir o dan adran 178 neu 315 o Ddeddf Ansolfedd 1986 ag unrhyw eiddo mewn perthynas â phrosiect, rhaid i’r person sy’n ymwadu â’r eiddo, o fewn 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y cafodd yr ymwadiad effaith, roi i’r awdurdod rheolaeth adeiladu gopi o’r hysbysiad o ymwadiad o dan reol 19.2 o Reolau 2016.
(6) At ddibenion adran 35(2) o Ddeddf 1984 (darpariaethau nad yw trosedd yn gymwys ar eu cyfer), mae paragraff (3) wedi ei ragnodi.
(7) At ddibenion adran 35B(7)(a) o Ddeddf 1984 (darpariaethau na chaniateir rhoi hysbysiad cydymffurfio ar eu cyfer), mae paragraff (3) wedi ei ragnodi.
(8) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i gleient domestig ac eithrio pan fo cleient domestig, o dan reoliad 11T(1) o Reoliadau 2010, wedi aseinio dyletswyddau iddo’i hun.
(9) Yn y rheoliad hwn, ystyr “Rheolau 2016” yw Rheolau Ansolfedd (Cymru a Lloegr) 2016.
29 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r cleient, ar unrhyw adeg ar ôl i gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol gael ei rhoi, yn penodi prif gontractwr (neu unig gontractwr) neu brif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) neu pan fo dyletswyddau wedi eu haseinio o dan reoliad 11T(4) o Reoliadau 2010.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid i’r cleient roi hysbysiad, wedi ei lofnodi gan y cleient, i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sy’n cynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y person a benodir,
(b) datganiad bod y cleient—
(i) wedi cydymffurfio â rheoliad 11V(2)(b) (ystyried camymddwyn blaenorol) o Reoliadau 2010,
(ii) wedi ei fodloni yn achos prif gontractwr, fod y person yn bodloni’r gofynion yn rheoliadau 11W(1) a (2) ac 11Y(1) o Reoliadau 2010,
(iii) wedi ei fodloni yn achos prif ddylunydd, fod y person yn bodloni’r gofynion yn rheoliadau 11W(1) a (2) ac 11X(1) o Reoliadau 2010, a
(iv) wedi ei fodloni yn achos unig gontractwr, neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol, fod y person yn bodloni’r gofynion yn rheoliadau 11W(1) a (2) o Reoliadau 2010,
(c) mewn perthynas â phob prif gontractwr neu brif ddylunydd, gopi o’r cofnod, mewn cysylltiad â’r person, a grëwyd gan y cleient o dan reoliad 11U(8) neu (9) (prif ddylunydd a phrif gontractwr) o Reoliadau 2010, a
(d) declarasiwn o ran gwirionedd y datganiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) ac o’r cofnod (os oes un) y cyfeirir ato yn is-baragraff (c).
(3) Ar gais y cleient, rhaid i’r person a oedd yn brif gontractwr (neu’n unig gontractwr) neu’n brif ddylunydd (neu’n unig ddylunydd neu’n ddylunydd arweiniol), cyn y penodiad neu’r aseinio y cyfeirir ato ym mharagraff (1), roi i’r cleient ddatganiad ysgrifenedig, wedi ei lofnodi a’i ddyddio ganddo, sy’n nodi—
(a) ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn ac (os yw ar gael) ei gyfeiriad e-bost;
(b) dyddiadau ei benodiad;
(c) yn ddarostyngedig i baragraff (d), dystysgrif—
(i) yn achos person a oedd yn brif gontractwr (neu’n unig gontractwr), ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel prif gontractwr o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010;
(ii) yn achos person a oedd yn brif ddylunydd (neu’n unig ddylunydd neu’n ddylunydd arweiniol), ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel prif ddylunydd o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010;
(d) pan na all person ardystio ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau, ddatganiad yn egluro pa ddyletswyddau nad oedd yn gallu eu cyflawni a’r rhesymau dros beidio â gallu gwneud hynny.
(4) Rhaid i’r cleient sicrhau bod copi o ddatganiad a ddarparwyd iddo o dan baragraff (3) yn mynd gyda’r hysbysiad o dan baragraff (2).
(5) Pan, ar y dyddiad y mae cleient yn rhoi’r hysbysiad o dan baragraff (2), na all y cleient gael y datganiad o dan baragraff (3), rhaid i ddatganiad gan y cleient yn egluro’r camau y mae’r cleient wedi eu cymryd i gael y datganiad ynghyd ag unrhyw resymau y mae’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (3) wedi eu rhoi dros beidio â darparu’r datganiad fynd gyda’r hysbysiad o dan baragraff (2).
(6) Rhaid i’r cleient roi’r hysbysiad o dan baragraff (2) ynghyd â chopi o’r datganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) neu, os yw’n gymwys, ddatganiad y cyfeirir ato ym mharagraff (5), i’r awdurdod rheolaeth adeiladu o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â dyddiad y penodiad.
(7) Rhaid i’r cleient sicrhau—
(a) bod cofnod yn cael ei wneud o’r newid i’r prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) neu’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) yn y lòg rheolaeth newid, a
(b) bod y cynllun rheolaeth adeiladu yn cael ei ddiwygio, o dan reoliad 18, i adlewyrchu’r newid.
(8) Pan fo paragraff (1) yn gymwys a bo’r cleient yn gleient domestig (“CD”), (ac eithrio pan fo cleient domestig, o dan reoliad 11T(1) o Reoliadau 2010, wedi aseinio dyletswyddau iddo’i hun), mae’r canlynol yn gymwys yn lle paragraffau (2) i (7)—
(a) ac eithrio pan mai’r person a benodir (“PB”) yw’r person cyntaf a benodir i’r rôl, rhaid i’r person a oedd yn dal y rôl cyn PB (“deiliad dyletswyddau ymadawol”), o fewn 5 niwrnod gwaith i’r dyddiad y mae ei benodiad yn dod i ben, roi i’r CD hysbysiad sy’n nodi—
(i) ei enw, ei gyfeiriad, ei rif ffôn ac (os yw ar gael) ei gyfeiriad e-bost;
(ii) y dyddiad y daeth ei benodiad i ben;
(iii) yn ddarostyngedig i baragraff (b), dystysgrif—(aa) yn achos person a oedd yn brif gontractwr (neu’n unig gontractwr), ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel prif gontractwr o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010;(bb) yn achos person a oedd yn brif ddylunydd (neu’n unig ddylunydd neu’n ddylunydd arweiniol), ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel prif ddylunydd o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010;
(b) pan na all y deiliad dyletswyddau ymadawol ardystio ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau, ddatganiad yn egluro pa ddyletswyddau nad oedd yn gallu eu cyflawni a’r rhesymau dros beidio â gallu gwneud hynny;
(c) rhaid i CD ddarparu’r wybodaeth y cyfeirir ati o dan is-baragraff (a) a (b) i PB ar ddyddiad penodiad PB neu cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y dyddiad hwnnw;
(d) yn ddarostyngedig i baragraff (10), rhaid i PB roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu sy’n cynnwys—
(i) lleoliad y gwaith adeiladu;
(ii) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost PB a dyddiad y penodiad;
(iii) ac eithrio pan mai PB yw’r person cyntaf a benodir i’r rôl, enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y deiliad dyletswyddau ymadawol a’r dyddiad y daeth ei benodiad i ben;
(iv) datganiad yn egluro bod yr hysbysiad yn cael ei roi ar ran CD.
(9) Rhaid i PB sicrhau bod copi o dystysgrif a ddarparwyd iddo o dan baragraff (8)(a)(iii) neu ddatganiad a ddarparwyd iddo o dan baragraff (8)(b) yn mynd gyda’r hysbysiad o dan baragraff (8)(d).
(10) Pan nad yw PB wedi cael yr wybodaeth y mae’n ofynnol ei darparu o dan baragraff (8)(c) erbyn yr amser y mae’r hysbysiad o dan baragraff (8)(d) i’w roi, rhaid i’r datganiad a roddir gan PB o dan baragraff (8)(d)(iv) hefyd gynnwys eglurhad i’r perwyl hwnnw.
(11) Rhaid i hysbysiad sy’n ofynnol o dan baragraff (8)(d) gael ei roi i’r awdurdod rheolaeth adeiladu o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â dyddiad y penodiad.
(12) Rhaid i PB sicrhau—
(a) bod cofnod yn cael ei wneud o’r newid i’r prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) neu’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) yn y lòg rheolaeth newid, a
(b) bod y cynllun rheolaeth adeiladu yn cael ei ddiwygio, o dan reoliad 18, i adlewyrchu’r newid.
30 

(1) Mewn perthynas â gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, caiff cleient ofyn, drwy hysbysiad ysgrifenedig, i’r awdurdod rheolaeth adeiladu amrywio gofyniad a osodwyd ar gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei wneud yn ysgrifenedig, rhaid iddo fod wedi ei lofnodi gan y cleient, a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y cleient;
(b) datganiad bod yr hysbysiad yn cael ei roi o dan y rheoliad hwn;
(c) disgrifiad o’r amrywiad arfaethedig;
(d) eglurhad o’r rhesymau pam y cynigir yr amrywiad;
(e) rhestr o enw a galwedigaeth pob person, os oes un, y ceisiwyd ei gyngor mewn perthynas â’r amrywiad arfaethedig a chrynodeb o unrhyw gyngor a ddarparwyd.
(3) Pan roddir hysbysiad o dan baragraff (1) gan rywun ar ran y cleient, rhaid iddo gynnwys datganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r hysbysiad gael ei roi a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(4) Pan fo hysbysiad o dan baragraff (1) yn dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, rhaid iddo benderfynu a ddylid caniatáu’r amrywiad—
(a) o fewn 20 niwrnod gwaith i’r dyddiad y daw’r hysbysiad i law, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(5) Pan nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi penderfynu a ddylid caniatáu’r amrywiad cyn diwedd y cyfnod y darperir ar ei gyfer ym mharagraff (4) trinnir yr amrywiad fel pe bai wedi ei wrthod gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.
(6) Pan fo gofyniad wedi ei amrywio rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu roi i’r cleient hysbysiad yn nodi’r gofyniad fel y mae wedi ei amrywio.
(7) Pan nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn cytuno â’r amrywiad rhaid iddo hysbysu’r cleient gan roi rhesymau.
RHAN 4
31 

(1) Rhaid i’r trefniadau a wneir gan gleient o dan reoliad 11R o Reoliadau 2010 gynnwys—
(a) pan fo’r gwaith yn waith ARU neu’n gam o waith ARU—
(i) trefniadau er mwyn i gyfleuster electronig gael ei greu a’i gynnal gan y cleient (neu rywun ar ei ran) i ddal yr wybodaeth llinyn aur;
(ii) gweithdrefnau er mwyn i bersonau sy’n ymwneud â dylunio neu gynnal y gwaith gael mynediad at y cyfleuster electronig at ddiben cynnal yr wybodaeth llinyn aur yn y cyfleuster;
(b) pan fo’r gwaith yn waith i ARU presennol—
(i) trefniadau er mwyn i gyfleuster electronig sy’n dal yr wybodaeth llinyn aur gael ei gynnal gan y cleient (neu rywun ar ei ran) at ddiben diweddaru’r wybodaeth llinyn aur mewn perthynas â’r gwaith;
(ii) gweithdrefnau er mwyn i’r personau sy’n ymwneud â dylunio neu gynnal y gwaith gael mynediad at y cyfleuster electronig at ddiben cynnal yr wybodaeth llinyn aur yn y cyfleuster electronig.
(2) Rhaid i’r cleient sicrhau, mewn perthynas â’r wybodaeth llinyn aur—
(a) ei bod yn cael ei chadw mewn fformat electronig,
(b) ei bod yn gallu cael ei throsglwyddo’n electronig i bersonau eraill heb i’r data, yr wybodaeth na’r ddogfen ynddi gael eu colli na’u llygru,
(c) ei bod yn gywir ac yn gyfredol,
(d) ei bod ar gael mewn fformat darllenadwy sy’n ddealladwy i ddarllenwyr bwriadedig y data, a bod unrhyw allwedd y mae ei hangen i ddeall y data yn cael ei darparu gyda’r data,
(e) ei bod yn cael ei rhoi ar gael cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cais gan brif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) neu brif gontractwr (neu unig gontractwr) i’w alluogi i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan Reoliadau 2010,
(f) ei bod yn ddiogel rhag mynediad anawdurdodedig,
(g) nad yw ond yn cael ei newid o dan weithdrefnau sy’n cofnodi’r person a wnaeth y newid a dyddiad y newid hwnnw, ac
(h) ei bod cyhyd ag y bo’n rhesymol ymarferol yn defnyddio iaith, terminoleg a diffiniadau sy’n gyson.
(3) Rhaid i’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) sicrhau y darperir i’r cleient ddyluniadau ar gyfer y gwaith adeiladu a luniwyd cyn i gais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol gael ei gyflwyno a rhaid i’r cleient sicrhau, cyn i’r cyfnod adeiladu ddechrau (neu, yn achos cam o waith ARU, cyn i’r cam hwnnw ddechrau), fod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru i gynnwys y dyluniad.
(4) Pan fo cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol wedi ei rhoi, rhaid i’r cleient sicrhau, cyn i’r cyfnod adeiladu ddechrau (neu, yn achos cam o waith ARU, cyn i’r cam hwnnw ddechrau), fod y cyfleuster electronig yn cynnwys—
(a) pan fo’r gwaith yn waith ARU neu’n gam o waith ARU, gopi o’r planiau a phob un o’r dogfennau eraill ar gyfer yr adeilad risg uwch arfaethedig sydd wedi eu cymeradwyo o dan reoliad 7(7)(b) ynghyd â’r holl dystiolaeth a gofnodwyd i ddangos cydymffurfedd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu, a
(b) pan fo’r gwaith yn waith i ARU presennol, gopi o’r planiau a phob un o’r dogfennau eraill ar gyfer y gwaith sydd wedi eu cymeradwyo o dan reoliad 15(7)(b) ynghyd â’r holl dystiolaeth a gofnodwyd i ddangos cydymffurfedd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu.
(5) Pan fo rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith, rhaid i’r cleient sicrhau bod copi o’r hysbysiad sy’n ofynnol o dan reoliad 10(1)(a) yn cael ei gynnwys yn y cyfleuster y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(6) Pan fo dogfen gytunedig yn cael ei darparu neu ei chymeradwyo o dan delerau gofyniad a osodwyd wrth roi cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu o dan—
(a) rheoliad 7 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU: penderfyniadau);
(b) rheoliad 15 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol: penderfyniadau);
(c) rheoliad 24 (ceisiadau rheolaeth newid: penderfyniadau),
rhaid i’r cleient sicrhau bod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru i gynnwys copi o’r ddogfen gytunedig honno cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r ddogfen gael ei darparu neu ei chymeradwyo.
(7) Rhaid i’r cleient sicrhau—
(a) pan gynigir newid a reolaethir, fod copi o’r cofnod y mae’n ofynnol iddo gael ei wneud o dan reoliad 18(2)(a) yn cael ei gynnwys yn y cyfleuster electronig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl cofnodi’r newid, a
(b) pan na chyflawnir y newid arfaethedig, fod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru â nodyn i’r perwyl hwnnw.
(8) Rhaid i’r cleient sicrhau—
(a) pan gynigir newid a reolaethir a bo’r newid yn effeithio ar ddogfen gytunedig, fod copi o’r fersiwn ddiwygiedig o’r ddogfen y mae’n ofynnol iddi gael ei llunio o dan reoliad 18(2)(b) yn cael ei chynnwys yn y cyfleuster electronig cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r fersiwn ddiwygiedig gael ei llunio, a
(b) pan na chyflawnir y newid arfaethedig, fod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru â nodyn i’r perwyl hwnnw.
(9) Pan roddir hysbysiad o dan reoliad 29, rhaid i’r cleient sicrhau bod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru i gynnwys copi o’r hysbysiad ac unrhyw ddatganiad a aeth gyda’r hysbysiad hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r hysbysiad gael ei roi.
(10) Pan fo adroddiad ysgrifenedig yn cael ei ddarparu i’r awdurdod rheolaeth adeiladu o dan reoliad 33, rhaid i’r cleient sicrhau bod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru i gynnwys copi o’r adroddiad hwnnw cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl i’r adroddiad gael ei ddarparu.
(11) Pan fo’r cleient yn cynnig gwneud cais am dystysgrif gwblhau, cais am dystysgrif cwblhau rhannol, neu gais am dystysgrif unioni, rhaid iddo sicrhau bod y cyfleuster electronig yn cael ei ddiweddaru i gynnwys copi o’r cais arfaethedig a chopi o bob dogfen y cynigir y bydd yn mynd gyda’r cais.
(12) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith cynllun, neu
(b) gwaith esempt.
(13) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cyfleuster electronig” (“electronic facility”) yw’r cyfleuster y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
 ystyr “gwybodaeth llinyn aur” (“golden thread information”) yw’r wybodaeth y mae’n ofynnol gan y rheoliad hwn iddi gael ei chynnwys yn y cyfleuster electronig gan gynnwys fersiynau blaenorol o unrhyw ddogfen sydd wedi ei diweddaru.
32 

(1) Rhaid i’r prif ddeiliaid dyletswyddau—
(a) cyn i’r cyfnod adeiladu ddechrau, sefydlu system sy’n galluogi, cyhyd ag y bo’n rhesymol ymarferol, bersonau sy’n adrodd i adrodd yn brydlon i’r prif ddeiliaid dyletswyddau am bob achlysur diogelwch, a
(b) cynnal y system drwy gydol y cyfnod adeiladu.
(2) Rhaid i’r prif ddeiliaid dyletswyddau gymryd camau rhesymol i sicrhau bod pob person sy’n adrodd yn cael cyfarwyddiad digonol a gwybodaeth ddigonol am y system sy’n ofynnol gan baragraff (1) ac am y digwyddiadau neu’r sefyllfaoedd y dylai’r person sy’n adrodd adrodd amdanynt drwy’r system—
(a) yn achos dylunydd neu gontractwr, cyn dechrau unrhyw waith;
(b) yn achos unrhyw berson arall, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl mynd i safle’r gwaith am y tro cyntaf.
(3) Rhaid i’r prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) sicrhau bod arolygiadau o’r gwaith i nodi achlysuron diogelwch yn cael eu cynnal ar amlder priodol drwy gydol y cyfnod adeiladu.
(4) Rhaid i’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) sicrhau bod arolygiadau o waith dylunio ARU i nodi achlysuron diogelwch yn cael eu cynnal ar amlder priodol drwy gydol y cyfnod adeiladu.
(5) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith esempt, neu
(b) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
33 

(1) Pan fo achlysur diogelwch yn digwydd yn ystod y cyfnod adeiladu, rhaid i brif ddeiliad dyletswyddau ddilyn y weithdrefn adrodd pan ddaw yn ymwybodol o’r achlysur.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn, ystyr “y weithdrefn adrodd” yw—
(a) hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu am yr achlysur diogelwch drwy’r modd ymarferol cyflymaf heb oedi gormodol, a
(b) darparu adroddiad ysgrifenedig am yr achlysur yn cynnwys yr wybodaeth sy’n ofynnol (fel y’i nodir ym mharagraff (3)) i’r awdurdod diogelwch adeiladau o fewn 10 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r prif ddeiliad dyletswyddau yn ymwybodol o’r achlysur diogelwch.
(3) Yr wybodaeth sy’n ofynnol y cyfeirir ati ym mharagraff (2) yw—
(a) dyddiad ac amser yr achlysur diogelwch;
(b) cyfeiriad y safle lle y digwyddodd yr achlysur;
(c) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y prif ddeiliad dyletswyddau sy’n gwneud yr adroddiad;
(d) y math o achlysur a manylion am yr achlysur (gan gynnwys natur y risg);
(e) manylion am y mesurau unioni neu’r gwaith lliniaru a gynhaliwyd.
(4) Nid yw gwybodaeth a ddarperir gan berson o dan y weithdrefn adrodd yn dderbyniadwy mewn tystiolaeth yn erbyn y person hwnnw mewn achos troseddol ac eithrio—
(a) mewn achos am drosedd o dan adran 35 o Ddeddf 1984 (y drosedd o dorri rheoliadau adeiladu etc.) yn ymwneud â thorri’r ddyletswydd ym mharagraff (1),
(b) mewn achos am drosedd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, neu
(c) os yn yr achos—
(i) wrth roi tystiolaeth, yw’r person yn gwneud datganiad sy’n anghyson â’r wybodaeth, a
(ii) dygir tystiolaeth sy’n ymwneud â’r wybodaeth a roddwyd, neu os gofynnir cwestiwn sy’n ymwneud â’r wybodaeth honno, gan neu ar ran y person.
(5) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith esempt, neu
(b) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
34 
Pan fo prif ddeiliad dyletswyddau wedi cyflawni trosedd o dan adran 35 o Ddeddf 1984 o dorri’r Rheoliadau hyn drwy fethu â dilyn y weithdrefn adrodd mewn perthynas ag achlysur diogelwch fel sy’n ofynnol gan reoliad 33, mae’n amddiffyniad i’r prif ddeiliad dyletswyddau os oedd yn credu’n rhesymol bod y prif ddeiliad dyletswyddau arall—
(a) eisoes wedi hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu am yr achlysur diogelwch o dan reoliad 33, a
(b) eisoes wedi darparu i’r awdurdod rheolaeth adeiladu adroddiad ysgrifenedig am yr achlysur diogelwch o dan reoliad 33.
35 

(1) Yn rheoliadau 32 i 34—
 ystyr “achlysur diogelwch” (“safety occurrence”) yw—
(a) mewn perthynas â dyluniad, unrhyw agwedd ar ddyluniad sy’n ymwneud â chyfanrwydd strwythurol neu ddiogelwch tân adeilad risg uwch a fyddai, pe câi ei adeiladu, yn bodloni’r amod risg;
(b) fel arall, digwyddiad neu sefyllfa sy’n ymwneud â chyfanrwydd strwythurol neu ddiogelwch tân adeilad risg uwch sy’n bodloni’r amod risg;
 ystyr “cyfnod adeiladu” (“construction phase”) yw’r cyfnod o amser sy’n dechrau pan fydd y gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol yn dechrau ac yn dod i ben pan fydd y gwaith wedi ei gwblhau;
 ystyr “gwaith dylunio ARU” (“HRB design work”) yw dyluniad unrhyw waith ARU, unrhyw gam o waith ARU neu unrhyw waith i ARU presennol;
 ystyr “person sy’n adrodd” (“reporting person”) yw—
(a) unrhyw ddylunydd (gan gynnwys y prif ddylunydd),
(b) unrhyw gontractwr (gan gynnwys y prif gontractwr), ac
(c) unrhyw berson arall sy’n ymwelydd cyfnodol â’r safle gwaith;
 ystyr “prif ddeiliaid dyletswyddau” (“principal dutyholders”) yw’r prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol).
(2) Yn y diffiniad o “achlysur diogelwch”, yr “amod risg” yw y byddai defnyddio’r adeilad o dan sylw heb fod y digwyddiad neu’r sefyllfa wedi ei unioni neu ei hunioni yn debygol o beri risg o nifer sylweddol o farwolaethau, neu anaf difrifol i nifer sylweddol o bobl.
36 
Pan fo’r cleient, mewn perthynas â gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, yn penodi prif gontractwr (neu unig gontractwr) neu brif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol), rhaid i’r cleient gymryd pob cam rhesymol i’w fodloni ei hun fod y person a benodir yn gallu bodloni’r gofynion yn rheoliadau 32 a 33.
37 

(1) Rhaid i’r cleient ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, neu unrhyw berson sy’n gweithio ar ei ben ei hun yn cynnal gwaith o’r fath, roi—
(a) yr wybodaeth BFLO, a
(b) yr wybodaeth llinyn aur benodedig,
i’r person cyfrifol ddim hwyrach na’r dyddiad y cwblheir y gwaith, neu pan fo rheoliad 44 (tystysgrifau cwblhau rhannol) yn gymwys, ddim hwyrach na’r dyddiad y mae’r rhan o’r adeilad i’w meddiannu.
(2) Rhaid i’r wybodaeth llinyn aur a roddir o dan baragraff (1) gael ei darparu yn y fath fodd fel y cynhelir y strwythur ffeilio y’i cadwyd ynddo, gan gynnwys pob mynegai, allwedd neu wybodaeth arall sy’n gysylltiedig yn rhesymegol â hi ac mewn fformat sy’n galluogi’r person cyfrifol i ddarllen, cadw a diweddaru’r wybodaeth.
(3) Rhaid i’r person cyfrifol roi hysbysiad i’r cleient yn cydnabod bod yr wybodaeth llinyn aur benodedig wedi dod i law sy’n cadarnhau—
(a) ei fod yn gallu cael mynediad at yr wybodaeth, a
(b) bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn ddigonol i’w alluogi i ddeall, gweithredu a chynnal a chadw’r adeilad (a’r systemau diogelwch tân ynddo) ar ôl y gwaith adeiladu.
(4) Nid yw gofynion paragraff (1) yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith cynllun,
(b) gwaith esempt, neu
(c) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “gwybodaeth BFLO” (“BFLO information”) yw—
(a) pan fo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, yr wybodaeth am ddiogelwch tân,
(b) pan fo paragraff F1(1) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, gwybodaeth ddigonol am system awyru’r adeilad a’i gofynion cynnal a chadw fel y gellir gweithredu’r system awyru yn y fath fodd fel ei bod yn darparu dull awyru digonol,
(c) pan fo paragraff L1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, gwybodaeth ddigonol am yr adeilad, y gwasanaethau sefydlog adeilad a’u gofynion cynnal a chadw fel y gellir gweithredu’r adeilad yn y fath fodd fel ei fod yn defnyddio dim mwy o danwydd na phŵer nag sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau,
(d) pan fo paragraff L2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith, gwybodaeth ddigonol am y system ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle mewn cysylltiad â’i gofynion gweithredu a chynnal a chadw fel y gellir gweithredu a chynnal a chadw’r system yn y fath fodd fel ei bod yn cynhyrchu uchafswm y trydan sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau ac yn cyflenwi’r trydan hwn i’r man gorau posibl i’w ddefnyddio, ac
(e) pan fo Rhan O o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith, gwybodaeth ddigonol am y ddarpariaeth a wneir o dan Ran O fel y gellir gweithredu’r systemau sydd ar waith yn unol â Rhan O yn y fath fodd fel eu bod yn diogelu rhag gorgynhesu.
 ystyr “gwybodaeth llinyn aur benodedig” (“specified golden thread information”) yw—
(a) mewn perthynas ag achosion pan fo rheoliad 44 yn gymwys, copi o—
(i) y cais am dystysgrif cwblhau rhannol mewn perthynas â’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cleient yn cynnig ei wneud, a
(ii) pob dogfen y mae’n ofynnol o dan reoliad 44(3) iddi fynd gyda’r cais;
(b) mewn perthynas ag unrhyw achos arall, copi o—
(i) y cais am dystysgrif gwblhau mewn perthynas â’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cleient yn cynnig ei wneud, a
(ii) pob dogfen y mae’n ofynnol o dan reoliad 39(2) iddi fynd gyda’r cais.
38 

(1) Pan nad yw gwaith i ARU presennol ond yn golygu gwaith cynllun a bo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, rhaid i’r ardystiwr roi’r wybodaeth am ddiogelwch tân i’r cleient a’r person cyfrifol ddim hwyrach na—
(a) pan nad yw’r adeilad y mae’r gwaith adeiladu’n ymwneud ag ef wedi ei feddiannu yn ystod y gwaith, ddyddiad cwblhau’r gwaith neu ddyddiad meddiannu’r adeilad, pa un bynnag yw’r cynharaf;
(b) mewn unrhyw achos arall, ddyddiad cwblhau’r gwaith.
(2) Rhaid i’r person cyfrifol—
(a) rhoi i’r ardystiwr hysbysiad yn cydnabod bod yr wybodaeth am ddiogelwch tân wedi dod i law ac yn cadarnhau bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn ddigonol i’w alluogi i ddeall, gweithredu a chynnal a chadw’r adeilad (a’r systemau diogelwch tân ynddo) ar ôl i’r gwaith adeiladu o dan sylw gael ei gwblhau, a
(b) rhoi copi o’r hysbysiad hwnnw ar yr un pryd i’r cleient.
(3) Rhaid i’r ardystiwr hysbysu’r cleient—
(a) yn cadarnhau ei fod wedi rhoi’r wybodaeth am ddiogelwch tân i’r person cyfrifol, a
(b) yn datgan ei fod wedi cael hysbysiad gan y person cyfrifol o dan baragraff (2) neu pan na fo wedi cael yr hysbysiad, yn datgan y camau a gymerwyd i gael yr hysbysiad gan y person cyfrifol a’r dyddiad y cymerwyd y camau hynny.
(4) Rhaid rhoi’r hysbysiad o dan baragraff (3) ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(5) O fewn 30 o ddiwrnodau gwaith iddo gael yr hysbysiad o dan baragraff (3) rhaid i’r cleient hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn cadarnhau ei fod wedi cael yr hysbysiad gan yr ardystiwr.
(6) Pan nad yw gwaith i ARU presennol ond yn golygu gwaith cynllun a bo paragraff F1(1) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, rhaid i’r ardystiwr, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, roi gwybodaeth ddigonol i’r cleient a’r person cyfrifol am system awyru’r adeilad a’i gofynion cynnal a chadw fel y gellir gweithredu’r system awyru yn y fath fodd fel ei bod yn darparu dull awyru digonol.
(7) Pan nad yw gwaith i ARU presennol ond yn golygu gwaith cynllun a bo paragraff L1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith, rhaid i’r ardystiwr, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, ddarparu i’r cleient a’r person cyfrifol wybodaeth ddigonol am yr adeilad, y gwasanaethau sefydlog adeilad a’u gofynion cynnal a chadw fel y gellir gweithredu’r adeilad yn y fath fodd fel ei fod yn defnyddio dim mwy o danwydd na phŵer nag sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(8) Pan nad yw gwaith i ARU presennol ond yn golygu gwaith cynllun a bo paragraff L2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith, rhaid i’r ardystiwr, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl i’r gwaith gael ei gwblhau, ddarparu i’r cleient a’r person cyfrifol ddigon o wybodaeth am y system ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle mewn cysylltiad â’i gofynion gweithredu a chynnal a chadw fel y gellir gweithredu a chynnal a chadw’r system yn y fath fodd fel ei bod yn cynhyrchu uchafswm y trydan sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau ac yn cyflenwi’r trydan hwn i’r man gorau posibl i’w ddefnyddio.
(9) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “ardystiwr” (“certifier”), pan fo’r gwaith wedi ei ddisgrifio yng ngholofn 1 o’r Tabl yn Atodlen 3 i Reoliadau 2010 a bo’r gwaith i’w gynnal gan berson sydd wedi ei ddisgrifio yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r Tabl hwnnw, yw’r person sy’n cynnal y gwaith;
 ystyr “gwybodaeth am ddiogelwch tân” (“fire safety information”) yw gwybodaeth yn ymwneud ag—
(a) dylunio ac adeiladu’r adeilad a’r gwasanaethau, y ffitiadau a’r cyfarpar a ddarparwyd yn yr adeilad neu mewn cysylltiad ag ef;
(b) dylunio’r newid defnydd sylweddol a’r gwaith adeiladu i’w weithredu;
(c) cyfansoddiad y deunyddiau a ddefnyddiwyd,a fydd yn cynorthwyo’r person cyfrifol i weithredu a chynnal a chadw’r adeilad â diogelwch rhesymol.
RHAN 5
39 

(1) Rhaid i gais am dystysgrif gwblhau mewn perthynas â gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol (“cais am dystysgrif gwblhau”) fod wedi ei lofnodi gan y ceisydd a rhaid iddo gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y cleient;
(b) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol);
(c) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn;
(d) disgrifiad o’r gwaith, fel y’i hadeiladwyd, gan gynnwys—
(i) lleoliad yr adeilad risg uwch;
(ii) manylion am ddefnydd neu ddefnydd bwriadedig yr adeilad risg uwch, gan gynnwys defnydd neu ddefnydd bwriadedig pob llawr;
(iii) uchder yr adeilad risg uwch fel y’i canfyddir gan reoliad 4 o Reoliadau 2023;
(iv) nifer y lloriau yn yr adeilad risg uwch fel y’i canfyddir gan reoliad 5 o Reoliadau 2023;
(v) nifer y fflatiau, nifer yr ystafelloedd preswyl a nifer yr unedau masnachol a gynhwysir yn yr adeilad risg uwch;
(vi) y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer draenio’r adeilad risg uwch;
(vii) pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad, y rhagofalon a gymerwyd wrth adeiladu dros ddraen, carthffos neu brif bibell waredu i gydymffurfio â gofynion y paragraff hwnnw;
(viii) y camau a gymerwyd i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad lleol sy’n gymwys;
(e) datganiad, wedi ei lofnodi gan y cleient, yn cadarnhau hyd eithaf gwybodaeth y cleient—
(i) yn achos gwaith ARU, fod yr adeilad risg uwch, fel y’i hadeiladwyd, yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(ii) yn achos cam o waith ARU, fod y cam, fel y’i hadeiladwyd, yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(iii) yn achos gwaith i ARU presennol, fod y gwaith, fel y’i hadeiladwyd, yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(f) datganiad, wedi ei lofnodi gan y cleient a’r person cyfrifol, yn cadarnhau bod yr wybodaeth sydd i’w darparu i’r person cyfrifol o dan reoliad 37 wedi ei rhoi a bod y person cyfrifol wedi cael yr wybodaeth.
(2) Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais am dystysgrif gwblhau—
(a) hysbysiad yn datgan y dyddiad y cafodd y gwaith adeiladu ei gwblhau;
(b) plan i raddfa o ddim llai nag 1:1250 yn dangos—
(i) maint ac union le’r adeilad risg uwch a’i berthynas â ffiniau cyffiniol;
(ii) ffiniau cwrtil yr adeilad, a maint, union le a defnydd pob adeilad arall o fewn y cwrtil;
(iii) lled ac union le unrhyw stryd ar ffiniau cwrtil yr adeilad neu o fewn y ffiniau hynny;
(c) unrhyw blaniau eraill sy’n angenrheidiol i ddangos bod y gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(d) y dogfennau cytunedig a ganlyn—
(i) y cynllun rheolaeth adeiladu;
(ii) y cynllun rheolaeth newid;
(iii) y cynllun adrodd mandadol am achlysuron;
(iv) rhestr o’r holl adroddiadau a gofnodwyd yn y system adrodd mandadol am achlysuron;
(v) y datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(vi) ffeil tân ac argyfwng,
neu, pan fo rheoliad 12(3) yn gymwys, hynny o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (i) i (v) a gymeradwywyd o dan reoliad 15;
(e) copi o’r lòg rheolaeth newid wedi ei ddiweddaru i ddangos yr holl newidiadau ar gyfer y prosiect y mae’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn iddynt gael eu cynnwys yn y lòg;
(f) yn ddarostyngedig i baragraff (3), ddeclarasiwn cydymffurfedd wedi ei lofnodi gan—
(i) pob prif gontractwr (neu unig gontractwr) ar gyfer y gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, a
(ii) pob prif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) ar gyfer y gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol,
os nad oedd datganiad o’r fath eisoes wedi ei ddarparu i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, mewn perthynas â’r rhan honno o’r gwaith, o dan reoliad 29;
(g) pan wneir y cais gan rywun ar ran y cleient, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(3) Pan nad yw’r cleient yn gallu sicrhau bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(f) yn darparu declarasiwn cydymffurfedd, rhaid i ddatganiad gan y cleient yn rhoi’r rhesymau pam nad yw’r declarasiwn wedi ei ddarparu fynd gyda’r cais am dystysgrif gwblhau.
(4) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith cynllun,
(b) gwaith esempt, neu
(c) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
(5) Yn y rheoliad hwn, ystyr “declarasiwn cydymffurfedd” yw dogfen, wedi ei llofnodi gan y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) neu’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) y mae’r declarasiwn yn ymwneud ag ef, sy’n cynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y person hwnnw,
(b) dyddiadau ei benodiad, a
(c) datganiad yn cadarnhau—
(i) yn achos prif gontractwr (neu unig gontractwr), ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel prif gontractwr o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010;
(ii) yn achos prif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol), ei fod wedi cyflawni ei ddyletswyddau fel prif ddylunydd o dan Ran 2B (deiliaid dyletswyddau a chymhwysedd) o Reoliadau 2010.
40 

(1) Pan fo cais am dystysgrif gwblhau mewn perthynas â gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol yn dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu a bo’r cais hwnnw’n ddilys, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ei benderfynu—
(a) o fewn 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r ceisydd yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(2) Mae cais am dystysgrif gwblhau yn ddilys os yw’n cydymffurfio â rheoliad 39.
41 

(1) Cyn penderfynu cais am dystysgrif gwblhau, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori—
(a) â’r awdurdod gorfodi ar gyfer yr adeilad pan fo’r gwaith—
(i) yn waith ARU neu’n gam o waith ARU,
(ii) yn waith categori A, neu
(iii) yn waith categori B a bo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith, a
(b) â’r ymgymerwr carthffosiaeth ar gyfer yr adeilad pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofynion mewn perthynas â’r gwaith.
(2) Pan fo’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori â pherson o dan y rheoliad hwn, mewn perthynas â’r awdurdod rheolaeth adeiladu—
(a) rhaid iddo roi i’r person blaniau digonol i ddangos a yw’r gwaith, fel y’i hadeiladwyd, yn cydymffurfio—
(i) yn achos yr awdurdod gorfodi, â gofynion cymwys Rhan B (diogelwch tân) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010, a
(ii) yn achos yr ymgymerwr carthffosiaeth, â gofynion paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010;
(b) ni chaiff benderfynu’r cais tan ddiwedd 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r ymgynghoriad yn dechrau neu unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r person yr ymgynghorir ag ef yn cytuno arno yn ysgrifenedig.
(3) Mewn perthynas â’r ymgynghoriad o dan baragraff (1)(a), rhaid i’r planiau gynnwys—
(a) y ffeil tân ac argyfwng, neu
(b) ar gyfer gwaith categori B, yr wybodaeth am gydymffurfedd o ran diogelwch tân.
(4) Os yw pob person yr ymgynghorir ag ef yn mynegi ei farn cyn diwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (2)(b), mae’r gwaharddiad rhag penderfynu’r cais yn peidio â bod yn gymwys ar y diwrnod drannoeth y dyddiad y daw’r farn olaf i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
(5) Nid yw’n ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ymgynghori o dan y rheoliad hwn pan fo wedi ei fodloni ar ôl ystyried y cais fod sail ddigonol dros wrthod y cais.
(6) Yn y rheoliad hwn, mae i “gwaith categori A” a “gwaith categori B” yr ystyr a roddir yn rheoliad 12(6).
42 
Cyn penderfynu cais am dystysgrif gwblhau rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu arolygu’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu’r gwaith i ARU presennol a gwblhawyd i asesu a yw’r gwaith yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu.
43 

(1) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu gymeradwyo cais am dystysgrif gwblhau a dyroddi tystysgrif gwblhau, os yw wedi ei fodloni, ar ôl cymryd pob cam rhesymol, fod—
(a) gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol wedi ei gwblhau a’i fod yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(b) y dogfennau a’r wybodaeth a restrir yn rheoliad 39(2)(a) i (f) ac a gyflwynwyd fel rhan o’r cais am dystysgrif gwblhau yn gyflawn ac yn gywir;
(c) yr wybodaeth y mae’n ofynnol iddi gael ei darparu i’r person cyfrifol o dan reoliad 37 yn gyflawn a’i bod wedi ei darparu.
(2) Os nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi ei fodloni o dan baragraff (1) rhaid iddo wrthod y cais am dystysgrif gwblhau.
(3) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu hysbysu’r ceisydd am ganlyniad y cais (a phan nad y ceisydd yw’r cleient, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r cleient) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 40(1).
(4) Rhaid i hysbysiad bod y cais wedi ei wrthod roi’r rhesymau dros ei wrthod.
(5) Os cymeradwyir y cais rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ddyroddi tystysgrif gwblhau ar gyfer yr adeilad risg uwch ar yr un pryd ag y mae’n rhoi’r hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (3).
(6) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu anfon copi o’r dystysgrif a ddyroddir o dan y rheoliad hwn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad wedi ei leoli ynddi.
(7) Mae tystysgrif a ddyroddir o dan y rheoliad hwn yn dystiolaeth (ond nid yn dystiolaeth derfynol) y cydymffurfiwyd â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu mewn perthynas â’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu’r gwaith i ARU presennol.
(8) Rhaid i’r dystysgrif gynnwys datganiad yn disgrifio ei heffaith dystiolaethol, mewn termau sydd i raddau helaeth yr un fath â pharagraff (7).
(9) Pan fo’r cais am dystysgrif gwblhau wedi ei gymeradwyo, rhaid i’r cleient sicrhau bod y canlynol yn cael eu hanfon at y person cyfrifol—
(a) copi o’r cais am dystysgrif gwblhau a phob un o’r dogfennau a aeth gyda’r cais, a
(b) copi o’r dystysgrif gwblhau.
44 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo—
(a) gwaith ARU neu gam o waith ARU yn cael ei gynnal mewn perthynas ag adeilad a bo’r adeilad (neu unrhyw ran ohono) i’w feddiannu cyn cwblhau’r gwaith;
(b) gwaith i ARU presennol yn cael ei gynnal mewn perthynas ag adeilad a chyn cwblhau’r gwaith—
(i) bo unrhyw ran o’r adeilad a beidiodd â bod wedi ei feddiannu er mwyn i’r gwaith gael ei gynnal i’w hailfeddiannu, neu
(ii) bo unrhyw uned newydd a grëwyd gan y gwaith i’w meddiannu cyn cwblhau’r gwaith.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys cyn y meddiannu y cyfeirir ato ym mharagraff (1), rhaid i’r cleient wneud cais am dystysgrif gwblhau mewn perthynas â rhan o’r gwaith ar gyfer yr adeilad (“cais am dystysgrif cwblhau rhannol”) yn ysgrifenedig i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, wedi ei lofnodi gan y cleient.
(3) Rhaid i gais am dystysgrif cwblhau rhannol gynnwys—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y cleient;
(b) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol);
(c) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn;
(d) plan yn dangos y rhan o’r adeilad y mae’r cais yn ymwneud â hi ac yn nodi defnydd bwriadedig y rhan honno a lleoliad y fflatiau (os oes rhai) sydd i’w meddiannu neu’r ystafelloedd preswyl (os oes rhai) sydd i’w meddiannu;
(e) disgrifiad o’r rhan o’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol sy’n parhau i fod i’w chwblhau neu i’w gwblhau ar ôl y dyddiad y gwneir y cais;
(f) disgrifiad o’r rhan o’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef, gan gynnwys—
(i) lleoliad yr adeilad risg uwch;
(ii) manylion am ddefnydd neu ddefnydd bwriadedig yr adeilad risg uwch, gan gynnwys defnydd neu ddefnydd bwriadedig pob llawr;
(iii) uchder yr adeilad risg uwch fel y’i canfyddir gan reoliad 4 o Reoliadau 2023;
(iv) nifer y lloriau yn yr adeilad risg uwch fel y’i canfyddir gan reoliad 5 o Reoliadau 2023;
(v) nifer y fflatiau, nifer yr ystafelloedd preswyl a nifer yr unedau masnachol a gynhwysir yn yr adeilad risg uwch;
(vi) y ddarpariaeth a wnaed ar gyfer draenio’r adeilad risg uwch;
(vii) pan fo paragraff H4 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad, y rhagofalon a gymerwyd wrth adeiladu dros ddraen, carthffos neu brif bibell waredu i gydymffurfio â gofynion y paragraff;
(viii) y camau a gymerwyd i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfiad lleol sy’n gymwys;
(g) datganiad, wedi ei lofnodi gan y cleient, yn cadarnhau hyd eithaf gwybodaeth y cleient fod y rhan o’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(h) datganiad, wedi ei lofnodi gan y cleient a’r person cyfrifol, yn cadarnhau bod yr wybodaeth, fel y mae ar y dyddiad y gwneir y cais, sydd i’w darparu o dan reoliad 37 wedi ei rhoi a bod y person cyfrifol wedi cael yr wybodaeth;
(i) datganiad yn nodi disgrifiad manwl o gamau arfaethedig y gwaith (gan gynnwys amcangyfrif o’r amser pan fydd pob cam o’r gwaith yn dechrau).
(4) Rhaid i’r canlynol fynd gyda chais am dystysgrif cwblhau rhannol—
(a) plan i raddfa o ddim llai nag 1:1250 yn dangos—
(i) maint ac union le’r adeilad risg uwch, ynghyd â’r rhan o’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef, a pherthynas yr adeilad â’r ffiniau cyffiniol;
(ii) ffiniau cwrtil yr adeilad, a maint, union le a defnydd pob adeilad arall o fewn y cwrtil;
(iii) lled ac union le unrhyw stryd ar ffiniau cwrtil yr adeilad neu o fewn y ffiniau hynny;
(b) unrhyw blaniau eraill sy’n angenrheidiol i ddangos bod y rhan o’r gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(c) y dogfennau cytunedig a ganlyn—
(i) y cynllun rheolaeth adeiladu;
(ii) y cynllun rheolaeth newid;
(iii) cynllun adrodd mandadol am achlysuron;
(iv) rhestr o’r holl adroddiadau a gofnodwyd yn y system adrodd mandadol am achlysuron;
(v) y datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu;
(vi) ffeil tân ac argyfwng;
neu, pan fo rheoliad 12(3) yn gymwys, hynny o’r dogfennau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (i) i (vi) a gymeradwywyd o dan reoliad 15;
(d) copi o’r lòg rheolaeth newid wedi ei ddiweddaru, hyd at y dyddiad y gwneir y cais, i ddangos yr holl newidiadau ar gyfer y prosiect y mae’n ofynnol gan y Rheoliadau hyn iddynt gael eu cynnwys yn y lòg;
(e) yn ddarostyngedig i baragraff (5), declarasiwn cydymffurfedd wedi ei lofnodi gan—
(i) pob prif gontractwr (neu unig gontractwr) ar gyfer y gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, a
(ii) pob prif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) ar gyfer y gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol,
os na ddarparwyd datganiad o’r fath eisoes i’r awdurdod rheolaeth adeiladu, mewn perthynas â’r rhan honno o’r gwaith, o dan reoliad 29;
(f) strategaeth cwblhau rhannol;
(g) pan wneir y cais gan rywun ar ran y cleient, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(5) Pan nad yw cleient yn gallu sicrhau bod y person y cyfeirir ato ym mharagraff (4)(e) yn darparu declarasiwn cydymffurfedd, rhaid i ddatganiad gan y cleient yn rhoi’r rhesymau pam nad yw’r declarasiwn wedi ei ddarparu fynd gyda’r cais am dystysgrif cwblhau rhannol.
(6) Pan fo’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn cael cais am dystysgrif cwblhau rhannol a bo’r cais hwnnw’n ddilys, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ei benderfynu—
(a) o fewn 8 wythnos sy’n dechrau â’r dyddiad y daw’r cais i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, neu
(b) o fewn unrhyw gyfnod hirach y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu a’r ceisydd yn cytuno arno yn ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
(7) Mae cais am dystysgrif cwblhau rhannol yn ddilys os yw’n cydymffurfio â pharagraffau (2) i (5).
(8) Cyn penderfynu cais am dystysgrif cwblhau rhannol, rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu—
(a) cydymffurfio â rheoliad 41(1) i (3), fel y’i haddaswyd gan baragraff (9);
(b) cydymffurfio â rheoliad 42, fel y’i haddaswyd gan baragraff (9).
(9) Mae rheoliadau 41 a 42 ac Atodlen 1 yn cael effaith gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae unrhyw gyfeiriad at fel y’i hadeiladwyd i’w drin fel cyfeiriad at fel y’i cwblhawyd ar y dyddiad y gwneir y cais;
(b) mae unrhyw gyfeiriad at waith ARU i’w drin fel cyfeiriad at y rhan o’r gwaith ARU y mae’r cais yn ymwneud â hi;
(c) mae unrhyw gyfeiriad at waith i ARU presennol i’w drin fel cyfeiriad at y rhan o’r gwaith i ARU presennol y mae’r cais yn ymwneud â hi;
(d) mae unrhyw gyfeiriad at adeilad risg uwch i’w drin fel cyfeiriad at yr adeilad y cynhelir y gwaith ARU, y cam o waith ARU neu waith i ARU presennol mewn perthynas ag ef.
(10) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu gymeradwyo’r cais am dystysgrif cwblhau rhannol a dyroddi tystysgrif cwblhau rhannol os yw wedi ei fodloni, ar ôl cymryd pob cam rhesymol, fod—
(a) y rhan o’r gwaith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r cais yn ymwneud â hi neu ag ef yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu a bod y rhan o’r adeilad sydd i’w meddiannu cyn cwblhau’r gwaith ARU neu waith i ARU presennol yn cydymffurfio â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(b) y dogfennau a’r wybodaeth a restrir ym mharagraffau (2) a (3) ac a gyflwynwyd fel rhan o’r cais yn gyflawn ac yn gywir;
(c) yr wybodaeth, o ran y dyddiad y gwneir y cais, sydd i’w darparu i’r person cyfrifol o dan reoliad 37 wedi ei rhoi.
(11) Os nad yw’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi ei fodloni o dan baragraff (10) rhaid iddo wrthod y cais am dystysgrif cwblhau rhannol.
(12) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu hysbysu’r ceisydd am ganlyniad y cais (a phan nad y ceisydd yw’r cleient, rhaid iddo hefyd roi copi o’r hysbysiad i’r cleient) o fewn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (6).
(13) Rhaid i hysbysiad bod y cais wedi ei wrthod roi rhesymau dros ei wrthod.
(14) Os cymeradwyir y cais rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ddyroddi tystysgrif cwblhau rhannol ar gyfer yr adeilad ar yr un pryd ag y mae’n rhoi’r hysbysiad o’i benderfyniad o dan baragraff (12).
(15) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu anfon copi o’r dystysgrif a ddyroddir o dan y rheoliad hwn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad wedi ei leoli ynddi (os awdurdod lleol gwahanol yw hwn).
(16) Mae tystysgrif a ddyroddir o dan y rheoliad hwn yn dystiolaeth (ond nid yn dystiolaeth derfynol) y cydymffurfiwyd â’r holl ofynion cymwys mewn perthynas â’r rhan o’r gwaith ARU neu waith i ARU presennol y mae’r dystysgrif yn ymwneud â hi neu ag ef.
(17) Rhaid i’r dystysgrif gynnwys datganiad yn disgrifio ei heffaith dystiolaethol, mewn termau sydd i raddau helaeth yr un fath â pharagraff (16).
(18) Pan fo’r cais am dystysgrif cwblhau rhannol wedi ei gymeradwyo, rhaid i’r cleient sicrhau bod y canlynol yn cael eu hanfon at y person cyfrifol—
(a) copi o’r cais am dystysgrif cwblhau rhannol a phob un o’r dogfennau a aeth gyda’r cais, a
(b) copi o’r dystysgrif cwblhau rhannol.
(19) Nid yw gofynion y rheoliad hwn yn gymwys i waith i ARU presennol nad yw ond yn golygu—
(a) gwaith cynllun,
(b) gwaith esempt, neu
(c) gwaith y mae rheoliad 10 (hysbysu am atgyweiriadau brys i adeilad risg uwch presennol) yn gymwys iddo.
RHAN 6
45 
Caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu ar gyfer unrhyw adeilad neu adeilad arfaethedig mewn perthynas â’r adeilad neu’r adeilad arfaethedig hwnnw gymryd unrhyw gamau y mae’n ystyried eu bod yn briodol i wirio cydymffurfedd â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu, gan gynnwys—
(a) gwneud gwybodaeth yn ofynnol;
(b) ei gwneud yn ofynnol agor gwaith adeiladu i’w arolygu gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu;
(c) ei gwneud yn ofynnol i arolygiad gael ei gynnal ac i’r cofnod o’r arolygiad gael ei ddarparu.
46 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo’n ymddangos i’r awdurdod rheolaeth adeiladu fod gwaith adeiladu anawdurdodedig wedi ei gynnal ar neu ar ôl 11 Tachwedd 1985.
(2) Pan fo’r rheoliad hwn yn gymwys, caiff y perchennog (y cyfeirir ato yn y rheoliad hwn fel “y ceisydd”) wneud cais i’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn ysgrifenedig mewn perthynas â’r gwaith adeiladu anawdurdodedig (“cais am dystysgrif unioni”).
(3) Ni chaniateir gwneud cais am dystysgrif unioni pan fo gwaith adeiladu anawdurdodedig yn newid mawr.
(4) Rhaid i’r canlynol fynd gyda’r cais am dystysgrif unioni—
(a) datganiad bod y cais yn cael ei wneud o dan y rheoliad hwn;
(b) disgrifiad o’r gwaith adeiladu anawdurdodedig;
(c) plan o’r gwaith adeiladu anawdurdodedig;
(d) pan fo’r cais yn cael ei wneud gan rywun ar ran y perchennog, ddatganiad wedi ei lofnodi gan y perchennog yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(5) Pan fo cais am dystysgrif unioni yn dod i law’r awdurdod rheolaeth adeiladu, caiff ei gwneud yn ofynnol i’r ceisydd gymryd unrhyw gamau y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn meddwl eu bod yn briodol er mwyn i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ganfod a all gwaith adeiladu ychwanegol fod yn ofynnol er mwyn i’r gwaith adeiladu anawdurdodedig sicrhau cydymffurfedd â gofynion y rheoliadau adeiladu a oedd yn gymwys i’r gwaith hwnnw pan gafodd ei gynnal.
(6) Pan fo’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi ei fodloni bod gwaith adeiladu ychwanegol yn ofynnol i sicrhau bod y gwaith adeiladu anawdurdodedig yn bodloni’r gofynion cymwys (gan ystyried unrhyw hepgor neu lacio a ganiateir o dan adrannau 8 a 9 o Ddeddf 1984 ac Atodlen 2 iddi), rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu wrthod y cais a rhaid gwneud cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r gwaith adeiladu ychwanegol.
(7) Pan fo’r awdurdod rheolaeth adeiladu wedi ei fodloni, ar ôl cymryd pob cam rhesymol at y diben hwnnw—
(a) bod gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu wedi eu bodloni (gan ystyried unrhyw waith a gynhaliwyd ac unrhyw hepgor neu lacio a ganiateir o dan adrannau 8 a 9 o Ddeddf 1984 ac Atodlen 2 iddi), a
(b) nad oes unrhyw waith adeiladu ychwanegol yn ofynnol i sicrhau bod y gwaith adeiladu anawdurdodedig yn bodloni’r gofynion cymwys (gan ystyried unrhyw hepgor neu lacio o’r fath),
caiff yr awdurdod rheolaeth adeiladu roi tystysgrif i’r perwyl hwnnw.
(8) Rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu anfon copi o’r dystysgrif a ddyroddir o dan y rheoliad hwn i’r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal y mae’r adeilad wedi ei leoli ynddi (os awdurdod lleol gwahanol yw hwn).
(9) Mae tystysgrif unioni yn dystiolaeth (ond nid yn dystiolaeth derfynol) y cydymffurfiwyd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu a bennir yn y dystysgrif mewn perthynas â’r gwaith a bennir yn y dystysgrif.
(10) Pan fo tystysgrif unioni wedi ei rhoi mewn perthynas â gwaith adeiladu, mae Rhannau 2 i 5 o’r Rheoliadau hyn yn peidio â bod yn gymwys i’r gwaith hwnnw.
(11) Pan fo tystysgrif unioni wedi ei rhoi rhaid i’r ceisydd, ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl i’r dystysgrif ddod i law, roi’r wybodaeth gwaith adeiladu a chopi o’r dystysgrif i’r person cyfrifol, os oes un, ar gyfer y rhan o’r adeilad y mae’r gwaith a ddisgrifir yn y dystysgrif yn ymwneud â hi.
(12) At ddibenion paragraff (11), ystyr “gwybodaeth gwaith adeiladu” yw—
(a) pan fo Rhan B o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith adeiladu anawdurdodedig, gwybodaeth yn ymwneud â—
(i) dylunio ac adeiladu’r adeilad a’r gwasanaethau, y ffitiadau a’r cyfarpar a ddarparwyd yn yr adeilad neu mewn cysylltiad ag ef;
(ii) dylunio’r newid defnydd a’r gwaith adeiladu i’w weithredu;
(iii) cyfansoddiad y deunyddiau a ddefnyddiwyd,
a fydd yn cynorthwyo’r person cyfrifol i weithredu a chynnal a chadw’r adeilad â diogelwch rhesymol;
(b) pan fo paragraff F1(1) o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith adeiladu anawdurdodedig, gwybodaeth ddigonol am system awyru’r adeilad a’i gofynion cynnal a chadw fel y gellir gweithredu’r system awyru yn y fath fodd fel ei bod yn darparu dull awyru digonol;
(c) pan fo paragraff L1 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gosod gofyniad mewn perthynas â’r gwaith adeiladu anawdurdodedig, gwybodaeth ddigonol am yr adeilad, y gwasanaethau sefydlog adeilad a’u gofynion cynnal a chadw fel y gellir gweithredu’r adeilad yn y fath fodd fel ei fod yn defnyddio dim mwy o danwydd na phŵer nag sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau;
(d) pan fo paragraff L2 o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith adeiladu anawdurdodedig, gwybodaeth ddigonol am y system ar gyfer cynhyrchu trydan ar y safle mewn cysylltiad â’i gofynion gweithredu a chynnal a chadw fel y gellir gweithredu a chynnal a chadw’r system yn y fath fodd fel ei bod yn cynhyrchu uchafswm y trydan sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau ac yn cyflenwi’r trydan hwn i’r man gorau posibl i’w ddefnyddio;
(e) pan fo Rhan O o Atodlen 1 i Reoliadau 2010 yn gymwys mewn perthynas â’r gwaith adeiladu anawdurdodedig, gwybodaeth ddigonol am y ddarpariaeth a wneir o dan Ran O fel y gellir gweithredu’r systemau sydd ar waith yn unol â Rhan O yn y fath fodd fel eu bod yn diogelu rhag gorgynhesu.
(13) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “gwaith adeiladu anawdurdodedig” (“unauthorised building work”) yw unrhyw waith adeiladu mewn perthynas ag adeilad risg uwch a gynhelir—
(a) heb fod cymeradwyaeth rheolaeth adeiladu o dan reoliad 7 neu reoliad 15 wedi ei rhoi gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu;
(b) pan fo’r gwaith adeiladu yn newid mawr, heb gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu o dan reoliad 24;
(c) pan fo’r gwaith adeiladu yn newid hysbysadwy, heb hysbysiad o dan reoliad 18(3),ond nid yw gwaith yn waith adeiladu anawdurdodedig i’r graddau nad yw ond yn golygu gwaith cynllun neu waith esempt.
47 

(1) Caniateir apelio i Weinidogion Cymru yn erbyn y penderfyniadau a ganlyn gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu—
(a) penderfyniad i wrthod—
(i) cais rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU;
(ii) cais rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU;
(iii) cais rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol;
(iv) cais rheolaeth newid;
(v) cais am dystysgrif gwblhau;
(vi) cais am dystysgrif cwblhau rhannol;
(vii) cais am dystysgrif unioni;
(b) penderfyniad i bennu bod newid a reolaethir yn newid mawr neu’n newid hysbysadwy o dan reoliad 25;
(c) penderfyniad i wrthod cais i amrywio gofyniad o dan reoliad 30.
(2) Y personau a gaiff apelio yn erbyn y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw—
(a) mewn perthynas â phenderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(a), y person a wnaeth y cais neu’r person y gwnaed y cais ar ei ran;
(b) mewn perthynas â phenderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(b), unrhyw berson y mae’r awdurdod rheolaeth adeiladu yn rhoi hysbysiad iddo o dan reoliad 25;
(c) mewn perthynas â phenderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)(c), y cleient a wnaeth y cais.
(3) Rhaid i apêl i Weinidogion Cymru gael ei gwneud o fewn 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod yr hysbysir y person am y penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(4) Rhaid i hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3) gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac (os yw ar gael) gyfeiriad e-bost y person sy’n rhoi’r hysbysiad;
(b) os yw’r person sy’n rhoi’r hysbysiad yn gwneud hynny ar ran person sy’n dod o fewn y disgrifiad ym mharagraff (2), enw a chyfeiriad y person hwnnw a datganiad bod y person sy’n rhoi’r hysbysiad wedi ei awdurdodi i roi’r hysbysiad ar ran y person hwnnw;
(c) cyfeiriad ac, os yw’n gymwys, enw’r adeilad y mae’r penderfyniad y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn ymwneud ag ef;
(d) datganiad sydd—
(i) yn nodi’r penderfyniad sydd i’w adolygu (gan gynnwys dyddiad y penderfyniad ac unrhyw rif cyfeirnod a gynhwyswyd ar y penderfyniad), a
(ii) yn nodi’r rhesymau y mae’r person yn ystyried y dylid adolygu’r penderfyniad;
(e) unrhyw wybodaeth sydd ar gael i’r person sy’n rhoi’r hysbysiad, a allai fod wedi bod yn berthnasol i benderfyniad yr awdurdod rheolaeth adeiladu ond nad oedd ar gael ar yr adeg y gwnaed y penderfyniad.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd am y canlyniad o fewn 13 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae’r person yn rhoi hysbysiad o dan baragraff (2).
(6) Rhaid i hysbysiad bod yr apêl wedi cadarnhau’r penderfyniad roi rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.
(7) Os yw’r apêl yn amrywio’r penderfyniad rhaid i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ddyroddi penderfyniad newydd.
48 

(1) Caiff person apelio i’r llys ynadon yn erbyn penderfyniad Gweinidogion Cymru mewn perthynas ag apêl yn erbyn penderfyniad o fath y cyfeirir ato yn rheoliad 47(1), ar yr amod bod yr apêl yn cael ei gwneud o fewn 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru’n hysbysu’r person am eu penderfyniad o dan reoliad 47(5).
(2) Ni chaiff y llys ynadon ganiatáu apêl o dan baragraff (1) ond os yw wedi ei fodloni bod y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn yn anghywir ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol;
(d) bod y penderfyniad wedi ei wneud heb ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn Neddf 1984 neu mewn rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.
(3) Os yw’r llys ynadon yn caniatáu apêl caiff ddiddymu neu amrywio’r penderfyniad.
49 

(1) Mae’r ceisiadau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 30A(1) o Ddeddf 1984—
(a) cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU;
(b) cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU;
(c) cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol;
(d) cais rheolaeth newid;
(e) cais am dystysgrif gwblhau;
(f) cais am dystysgrif cwblhau rhannol.
(2) Ni chaniateir gwneud cais i Weinidogion Cymru o dan adran 30A o Ddeddf 1984 pan nad oedd y cais gwreiddiol yn ddilys.
(3) Yn y Rhan hon—
 mae i “cais gwreiddiol” yr ystyr a roddir i “original application” yn adran 30A(1) o Ddeddf 1984;
 mae i “rhagnodedig” yr ystyr a roddir i “prescribed” yn adran 126 o Ddeddf 1984.
50 

(1) Rhaid i gais o dan adran 30A o Ddeddf 1984 (“cais adran 30A”) gael ei wneud yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gan y cleient ar gyfer y gwaith y mae’r cais gwreiddiol yn ymwneud ag ef (“y ceisydd” yn y Rhan hon) a rhaid i’r dogfennau a bennir ym mharagraff (3) fynd gyda’r cais.
(2) Rhaid i gais adran 30A gael ei wneud ddim hwyrach na 6 wythnos ar ôl y diwrnod y mae’r cyfnod perthnasol mewn perthynas â’r cais yn dod i ben.
(3) Y dogfennau sydd i fynd gyda chais adran 30A yw—
(a) copi o’r cais gwreiddiol a roddwyd i’r awdurdod rheolaeth adeiladu (gan gynnwys yr holl ddogfennaeth a aeth gyda’r cais);
(b) yr holl wybodaeth a ddarparwyd i’r awdurdod rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r cais gwreiddiol gan y ceisydd;
(c) yr holl ohebiaeth a gwybodaeth bellach rhwng y ceisydd a’r awdurdod rheolaeth adeiladu mewn perthynas â’r cais hwnnw;
(d) copi o’r hysbysiad a anfonwyd i’r awdurdod rheolaeth adeiladu o dan baragraff (4);
(e) pan wneir y cais gan rywun ar ran y cleient, datganiad wedi ei lofnodi gan y cleient yn cadarnhau ei fod yn cytuno i’r cais gael ei wneud a bod yr wybodaeth a gynhwysir yn y cais yn gywir.
(4) O leiaf 2 ddiwrnod gwaith cyn cyflwyno’r cais o dan baragraff (1) rhaid i’r ceisydd roi hysbysiad i’r awdurdod rheolaeth adeiladu o’i fwriad i wneud hynny.
(5) Yn y rheoliad hwn mae i “cyfnod perthnasol” yr ystyr a roddir i “relevant period” yn adran 30A(9) o Ddeddf 1984.
51 

(1) Pan fo ceisydd yn cyflwyno cais adran 30A drwy gyfleusterau electronig sydd wedi eu darparu gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, cymerir ei fod wedi cydsynio i’r defnydd o gyfathrebiadau electronig at yr holl ddibenion sy’n ymwneud â’r cais adran 30A y gellir eu cyflawni’n electronig.
(2) Caniateir i’r cydsyniad tybiedig ym mharagraff (1) gael ei ddirymu drwy i’r ceisydd roi 2 wythnos o hysbysiad i Weinidogion Cymru yn ysgrifenedig yn pennu bod yr hysbysiad yn cael ei roi o dan y rheoliad hwn.
52 

(1) Mae cais adran 30A i’w benderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig.
(2) Rhaid i Weinidogion Cymru roi’r cyfle i’r awdurdod rheolaeth adeiladu i wneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â chais adran 30A.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfle i unrhyw berson arall i wneud sylwadau ysgrifenedig mewn perthynas â chais adran 30A.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru, drwy hysbysiad ysgrifenedig, ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod rheolaeth adeiladu ddarparu gwybodaeth benodedig, neu ddarparu copïau o ddogfennau penodedig, erbyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad.
(5) Rhaid i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad ym mharagraff (4) fod o leiaf 10 niwrnod gwaith ar ôl y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.
(6) Cyn penderfynu cais adran 30A, caiff Gweinidogion Cymru gynnal unrhyw gyfarfodydd â’r ceisydd, yr awdurdod rheolaeth adeiladu neu unrhyw berson arall, a chynnal unrhyw ymweliadau, profion neu arolygiadau, y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried eu bod yn briodol.
(7) Rhaid i benderfyniad Gweinidogion Cymru gael ei roi yn ysgrifenedig i’r ceisydd (a phan nad y ceisydd yw’r cleient, rhaid rhoi copi o’r penderfyniad i’r cleient hefyd).
(8) Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o benderfyniad Gweinidogion Cymru i’r awdurdod rheolaeth adeiladu.
53 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru benodi person i benderfynu cais adran 30A yn lle Gweinidogion Cymru.
(2) Ar unrhyw adeg cyn bod person a benodir o dan y rheoliad hwn wedi penderfynu’r cais caiff Gweinidogion Cymru—
(a) dirymu penodiad y person hwnnw;
(b) penodi person arall i benderfynu’r cais yn ei le.
(3) Pan wneir penodiad newydd rhaid ailddechrau ystyried y cais o dan sylw o’r newydd.
(4) Nid oes dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol rhoi cyfle i unrhyw berson i wneud sylwadau newydd nac i addasu na thynnu yn ôl sylwadau a wnaed yn flaenorol.
(5) Mae gan berson a benodir o dan y rheoliad hwn yr un pwerau a dyletswyddau mewn perthynas â phenderfynu cais adran 30A â Gweinidogion Cymru ac, yn benodol, mae rheoliad 52 (ceisiadau adran 30A: penderfyniadau) yn gymwys fel pe bai cyfeiriadau at Weinidogion Cymru yn y rheoliad hwnnw yn gyfeiriadau at y person hwnnw.
(6) Pan benderfynir cais gan berson a benodir o dan y rheoliad hwn, mae ei benderfyniad i’w drin fel penderfyniad Gweinidogion Cymru.
54 
Mewn perthynas â chais a ragnodir yn rheoliad 49 (ceisiadau rhagnodedig adran 30A), pan—
(a) bo’r cyfnod o dan reoliad 50(2) (ceisiadau adran 30A: gweithdrefn) er mwyn i berson wneud cais adran 30A wedi dod i ben heb fod y person wedi gwneud cais adran 30A o dan y rheoliad hwnnw, a
(b) na phenderfynodd yr awdurdod rheolaeth adeiladu y cais gwreiddiol cyn diwedd y cyfnod hwnnw,mae’r cais gwreiddiol i’w drin fel pe bai wedi ei wrthod gan yr awdurdod rheolaeth adeiladu.
55 

(1) Rhaid i apêl i’r llys ynadon o dan adran 30A(8) o Ddeddf 1984 gael ei gwneud o fewn 15 niwrnod gwaith sy’n dechrau â’r diwrnod drannoeth y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn rhoi’r penderfyniad i’r ceisydd o dan reoliad 52(6) (ceisiadau adran 30A: penderfyniadau).
(2) Ni chaiff y llys ynadon ganiatáu apêl o dan baragraff (1) ond os yw wedi ei fodloni bod y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn yn anghywir ar un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) bod y penderfyniad yn afresymol;
(d) bod y penderfyniad wedi ei wneud heb ddilyn y gweithdrefnau a nodir yn Neddf 1984 neu mewn rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf honno.
(3) Os yw’r llys ynadon yn caniatáu apêl caiff ddiddymu neu amrywio’r penderfyniad.
RHAN 7
56 
At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae gwaith adeiladu nad yw ond yn golygu gwaith o fath a ddisgrifir yn Atodlen 2 yn waith esempt.
57 
Mae’r darpariaethau a ganlyn o’r Rheoliadau hyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adrannau 35(2) a 35B(7)(a) o Ddeddf 1984—
(a) rheoliad 5 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU: terfyn amser);
(b) rheoliad 6(1) a (2) (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU: ymgynghori);
(c) rheoliad 7(1), (4) i (6) a (12) (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU neu gam o waith ARU: penderfyniadau);
(d) rheoliad 9(5) (hysbysiad cyn dechrau ar safle a hysbysiad pellach pan fo gwaith “wedi ei gychwyn”);
(e) rheoliad 13 (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol: terfyn amser);
(f) rheoliad 14(1) a (2) (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol: ymgynghori);
(g) rheoliad 15(1), (4) i (6) a (12) (ceisiadau am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol: penderfyniadau);
(h) rheoliad 17(4) (hysbysiad cyn dechrau ar safle a hysbysiad pellach pan fo gwaith “wedi ei gychwyn”);
(i) rheoliad 22 (ceisiadau rheolaeth newid: terfyn amser);
(j) rheoliad 23(1) a (2) (ceisiadau rheolaeth newid: ymgynghori);
(k) rheoliad 24(1), (4) i (6) a (9)(b) a (d) (ceisiadau rheolaeth newid: penderfyniadau);
(l) rheoliad 30(4) a (6) i (7) (amrywio gofyniad a osodwyd ar gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu);
(m) rheoliad 40 (ceisiadau am dystysgrif gwblhau: terfyn amser);
(n) rheoliad 41(1) (ceisiadau am dystysgrif gwblhau: ymgynghori);
(o) rheoliad 42 (ceisiadau am dystysgrif gwblhau: arolygu);
(p) rheoliad 43(1) i (5) ac (8) (ceisiadau am dystysgrif gwblhau: penderfyniadau);
(q) rheoliad 44(5), (7), (9) i (13) ac (16) (tystysgrifau cwblhau rhannol);
(r) rheoliad 46(6) (unioni gwaith adeiladu anawdurdodedig);
(s) rheoliad 52 (ceisiadau adran 30A: penderfyniadau);
(t) rheoliad 53 (ceisiadau adran 30A: personau penodedig).
58 
Mae’r darpariaethau a ganlyn wedi eu rhagnodi at ddibenion adran 35C(1)(a) o Ddeddf 1984 (hysbysiadau stop)—
(a) rheoliad 3 (gwaith ARU i beidio â dechrau cyn ei gymeradwyo);
(b) rheoliad 7(11)(b) (gwaith ARU i beidio â mynd yn ei flaen hyd nes bod cymeradwyaeth o dan ofyniad wedi dod i law);
(c) rheoliad 11 (gwaith i ARU presennol i beidio â dechrau cyn ei gymeradwyo);
(d) rheoliad 15(11)(b) (gwaith i ARU presennol i beidio â mynd yn ei flaen hyd nes bod cymeradwyaeth o dan ofyniad wedi dod i law);
(e) rheoliad 18(6) (newid mawr i beidio â chael ei gyflawni cyn ei gymeradwyo);
(f) rheoliad 24(10)(a) (newid mawr i beidio â mynd yn ei flaen hyd nes bod cymeradwyaeth o dan ofyniad wedi dod i law) ond dim ond mewn perthynas â newid mawr (fel y’i diffinnir yn rheoliad 26 o’r Rheoliadau hyn).
59 
Mae Atodlen 3 yn cynnwys darpariaethau trosiannol.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, un o Weinidogion Cymru
12 Rhagfyr 2025
ATODLEN 1
Rheoliad 2
1 

(1) Datganiad, mewn perthynas â gwaith, yw declarasiwn cymhwysedd, sy’n cynnwys declarasiwn mewn perthynas â’r canlynol—
(a) prif ddylunydd (neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol) ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol,
(b) prif gontractwr (neu unig gontractwr) ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, ac
(c) unrhyw berson arall sydd wedi ei benodi (“P”), mewn perthynas â’r gwaith, fel y mae ar ddyddiad y cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith ARU, cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer cam o waith ARU neu’r cais am gymeradwyaeth rheolaeth adeiladu ar gyfer gwaith i ARU presennol.
(2) Mewn perthynas â phrif ddylunydd ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, rhaid i’r declarasiwn cymhwysedd—
(a) datgan bod y cleient—
(i) wedi cydymffurfio â rheoliad 11V(2)(b) (ystyried camymddwyn blaenorol) o Reoliadau 2010, a
(ii) ar ôl cymryd pob cam rhesymol, wedi ei fodloni bod y prif ddylunydd yn bodloni’r gofynion yn rheoliadau 11W(1) a (2) ac 11X(1) o Reoliadau 2010, a
(b) cynnwys declarasiwn o ran gwirionedd y datganiad hwnnw.
(3) Mewn perthynas â phrif gontractwr ar gyfer gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, rhaid i’r declarasiwn cymhwysedd—
(a) datgan bod y cleient—
(i) wedi cydymffurfio â rheoliad 11V(2)(b) (ystyried camymddwyn blaenorol) o Reoliadau 2010, a
(ii) ar ôl cymryd pob cam rhesymol, wedi ei fodloni bod y prif gontractwr yn bodloni’r gofynion yn rheoliadau 11W(1) a (2) ac 11Y(1) o Reoliadau 2010, a
(b) cynnwys declarasiwn o ran gwirionedd y datganiad hwnnw.
(4) Mewn perthynas ag unig gontractwr, neu unig ddylunydd neu ddylunydd arweiniol, rhaid i’r declarasiwn cymhwysedd—
(a) datgan bod y cleient—
(i) wedi cydymffurfio â rheoliad 11V(2)(b) (ystyried camymddwyn blaenorol) o Reoliadau 2010, a
(ii) ar ôl cymryd pob cam rhesymol, wedi ei fodloni bod y person yn bodloni’r gofynion yn rheoliadau 11W(1) a (2) o Reoliadau 2010, a
(b) cynnwys declarasiwn o ran gwirionedd y datganiad hwnnw.
(5) Mewn perthynas ag unrhyw P, rhaid i’r declarasiwn cymhwysedd—
(a) datgan bod y cleient wedi ei hysbysu gan y person sy’n penodi P ei fod wedi cydymffurfio â rheoliad 11V(2)(b) (ystyried camymddwyn blaenorol) o Reoliadau 2010, a
(b) cynnwys declarasiwn o ran gwirionedd y datganiad hwnnw.
(6) Rhaid i unrhyw ddeclarasiwn cymhwysedd—
(a) bod wedi ei lofnodi gan y cleient neu gan berson ar ran y cleient, a
(b) pan fo mwy nag un contractwr ar gyfer y gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, gynnwys copi o bob cofnod a grëwyd gan y cleient o dan reoliad 11U(8) neu 11U(9) (prif ddylunydd a phrif gontractwr) o Reoliadau 2010.
2 
Rhaid i gynllun rheolaeth adeiladu nodi—
(a) y strategaethau, y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’r cleient wedi eu mabwysiadu ar gyfer cynllunio, rheoli a monitro’r gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol er mwyn sicrhau cydymffurfedd ag—
(i) gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu ac i gofnodi tystiolaeth o’r cydymffurfedd hwnnw gan gynnwys disgrifio’r trefniadau y mae’r cleient wedi eu mabwysiadu i gynnal yr wybodaeth llinyn aur;
(ii) y dyletswyddau ym Mhennod 4 (dyletswyddau deiliaid dyletswyddau) o Ran 2B o Reoliadau 2010;
(b) y strategaethau, y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’r cleient wedi eu mabwysiadu i nodi, asesu a chadw o dan adolygiad gymhwysedd y personau sy’n cynnal y gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol neu sy’n ymwneud â dylunio’r adeilad risg uwch neu ddylunio’r gwaith adeiladu i’r adeilad risg uwch, gan gynnwys y gweithdrefnau sydd i’w dilyn—
(i) i benderfynu a oes sancsiwn difrifol (fel y’i diffinnir yn rheoliad 11V o Reoliadau 2010) wedi digwydd mewn perthynas â pherson sydd i’w benodi;
(ii) i ystyried unrhyw ymddygiad yn y gorffennol mewn perthynas ag unrhyw sancsiwn difrifol a allai fwrw amheuaeth ar addasrwydd person sydd i’w benodi;
(iii) os penodir person y mae sancsiwn difrifol wedi digwydd mewn perthynas ag ef, i atal yr ymddygiad rhag digwydd eto;
(c) y strategaethau, y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’r cleient wedi eu mabwysiadu i gefnogi cydweithrediad rhwng dylunwyr, contractwyr ac unrhyw bersonau eraill sy’n ymwneud â gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol, gan gynnwys rhannu’r holl wybodaeth angenrheidiol;
(d) cofrestr o bob penodiad sydd wedi ei wneud fel y mae ar ddyddiad y cais, yn rhoi enw—
(i) y person y mae’r cleient wedi ei benodi yn brif gontractwr (neu’n unig gontractwr),
(ii) y person y mae’r cleient wedi ei benodi yn brif ddylunydd (neu’n unig ddylunydd neu’n ddylunydd arweiniol),
(iii) unrhyw berson arall (ac eithrio unigolion heblaw pan fônt yn unig fasnachwyr) y mae’r cleient wedi ei benodi i weithio ar y prosiect, a
(iv) unrhyw berson arall (ac eithrio unigolion heblaw pan fônt yn unig fasnachwyr) y mae’r prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) wedi ei benodi i weithio ar y prosiect, a
(v) unrhyw berson arall (ac eithrio unigolion heblaw pan fônt yn unig fasnachwyr) y mae’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol) wedi ei benodi i weithio ar y prosiect,
a chrynodeb o’u cyfrifoldebau;
(e) y polisïau y mae’r cleient wedi eu mabwysiadu i adolygu’r cynllun rheolaeth adeiladu.
3 

(1) Rhaid i gynllun rheolaeth newid nodi’r strategaethau, y polisïau a’r gweithdrefnau y mae’r cleient wedi eu mabwysiadu i sicrhau bod unrhyw newid a reolaethir yn digwydd o dan reoliad 18 (rheolaeth newid), ac i logio pob newid a reolaethir o dan reoliad 19 (rheolaeth newid: cadw cofnodion), gan gynnwys egluro—
(a) sut y bydd newidiadau arfaethedig yn cael eu nodi ac i bwy y mae rhaid adrodd amdanynt;
(b) sut y mae effeithiau’r newidiadau arfaethedig yn cael eu nodi a’u hystyried ac ar ba lefel yn y sefydliad;
(c) mewn perthynas â newidiadau arfaethedig, y gweithdrefnau penderfynu a fabwysiadwyd ar gyfer cytuno ar newid, gan gynnwys y sawl y mae ei gyngor i’w geisio;
(d) sut y caiff newidiadau eu cofnodi ac erbyn pryd;
(e) y weithdrefn i nodi pa newidiadau y mae’n ofynnol hysbysu’r awdurdod rheolaeth adeiladu amdanynt a pha rai y mae’n ofynnol gwneud cais rheolaeth newid ar eu cyfer;
(f) sut y bydd effeithiolrwydd y cynllun rheolaeth newid yn cael ei adolygu gan ddeiliaid dyletswyddau yn gyfnodol.
(2) Yn y paragraff hwn, ystyr “deiliaid dyletswyddau” yw’r cleient, y prif gontractwr (neu’r unig gontractwr) a’r prif ddylunydd (neu’r unig ddylunydd neu’r dylunydd arweiniol).
4 

(1) Rhaid i ddatganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu nodi’r dull a gymerwyd wrth ddylunio’r adeilad risg uwch arfaethedig neu wrth ddylunio’r gwaith sydd i’w gynnal ar yr adeilad risg uwch a’r safonau adeiladu a gymhwyswyd, yn benodol—
(a) y dull a gymerwyd mewn perthynas â phob elfen o’r adeilad a’r gwaith i sicrhau cydymffurfedd â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu,
(b) y rhesymau dros fabwysiadu’r dull ynghyd ag eglurhad o pam y mae’r dull yn briodol ac yn sicrhau cydymffurfedd â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu, ac
(c) os nad yw’r dull a gymerwyd yn dilyn dull a bennwyd mewn dogfen gymeradwy, y rheswm dros ddefnyddio’r dull amgen a sut y mae’n sicrhau cydymffurfedd â holl ofynion cymwys y rheoliadau adeiladu.
(2) Rhaid i ddatganiad sydd wedi ei lofnodi gan y prif ddylunydd yn cadarnhau bod yr wybodaeth yn y datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu yn gywir fynd gyda’r datganiad cydymffurfedd â’r Rheoliadau Adeiladu.
5 

(1) Rhaid i ffeil tân ac argyfwng nodi—
(a) y materion a ystyriwyd wrth asesu sut y gallai’r risgiau diogelwch adeilad a nodwyd effeithio ar yr adeilad risg uwch neu’r adeilad risg uwch arfaethedig;
(b) y cynigion a fabwysiadwyd a’r dulliau a gymerwyd mewn perthynas â dylunio’r adeilad risg uwch arfaethedig neu’r gwaith adeiladu i’r adeilad risg uwch i sicrhau cydymffurfedd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu ynghylch y risgiau diogelwch adeilad;
(c) y mesurau, y strategaethau a’r polisïau y cynigir y dylai perchennog yr adeilad risg uwch eu mabwysiadu er mwyn rheoli a chynnal a chadw’r adeilad risg uwch neu’r adeilad risg uwch arfaethedig i sicrhau y gall unrhyw un sydd yn yr adeilad ymadael ag ef yn ddiogel mewn argyfwng, gan gynnwys unrhyw ragdybiaethau a wnaed o ran meddianwyr bwriadedig yr adeilad a’u nodweddion ac ymddygiadau tebygol;
(d) y strategaeth dân arfaethedig yn dangos cydymffurfedd â gofynion paragraffau A3 a B1 i B5 o Atodlen 1 i Reoliadau Adeiladu 2010.
(2) Rhaid i’r mesurau, y strategaethau a’r polisïau y cyfeirir atynt yn is-baragraff (1) gynnwys—
(a) cynllun sy’n nodi gofynion y gwasanaeth tân ac achub ar gyfer yr ardal mewn perthynas â mynediad i’r adeilad risg uwch a chyflenwad dŵr ar gyfer diffodd tân;
(b) adroddiad sydd—
(i) pan nad yw’r gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol wedi dechrau, yn dangos sut y mae cydymffurfedd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu ynghylch y risgiau diogelwch adeilad i’w gyflawni;
(ii) pan fo’r gwaith ARU, cam o waith ARU neu waith i ARU presennol wedi ei gwblhau, yn dangos sut y cafodd cydymffurfedd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu ynghylch y risgiau diogelwch adeilad ei gyflawni.
(3) Yn y paragraff hwn, ystyr “risg diogelwch adeilad” yw risg i ddiogelwch pobl yn yr adeilad neu o’i amgylch yn codi os digwydd unrhyw un neu ragor o’r canlynol o ran yr adeilad—
(a) lledaeniad tân;
(b) methiant strwythurol.
6 
Rhaid i strategaeth cwblhau rhannol egluro—
(a) y cynigion a fabwysiadwyd wrth ddylunio ar gyfer meddiannu pob rhan o’r adeilad neu’r adeilad arfaethedig sydd i’w chwblhau i sicrhau cydymffurfedd â gofynion cymwys y rheoliadau adeiladu;
(b) y mesurau, y strategaethau a’r polisïau y cynigir y dylai perchennog yr adeilad eu mabwysiadu er mwyn rheoli a chynnal a chadw pob un o’r rhannau hynny o’r adeilad neu’r adeilad arfaethedig;
(c) unrhyw ragdybiaethau a wnaed yn y mesurau, y strategaethau a’r cynigion hynny o ran meddianwyr bwriadedig pob un o’r rhannau hynny o’r adeilad neu’r adeilad arfaethedig a’u nodweddion ac ymddygiadau tebygol, a’r modd y bwriedir rheoli neu gynnal a chadw pob un o’r rhannau hynny o’r adeilad neu’r adeilad arfaethedig.
ATODLEN 2
Rheoliad 56
1 
Gwaith sy’n golygu—
(a) mewn perthynas â gwasanaeth sefydlog adeilad presennol, nad yw’n system oleuadau sefydlog fewnol nac allanol—
(i) amnewid unrhyw ran nad yw’n gyfarpar hylosgi,
(ii) ychwanegu dyfais allbwn, neu
(iii) ychwanegu dyfais reoli,
pan nad yw’n bosibl profi ac addasu’r gwaith neu pan na fyddai hynny’n effeithio ar y defnydd gan y gwasanaeth sefydlog adeilad o ddim mwy o danwydd na phŵer nag sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau;
(b) darparu gwasanaeth sefydlog hunangynhwysol adeilad nad yw’n system oleuadau sefydlog fewnol nac allanol, pan—
(i) nad yw’n gyfarpar hylosgi (ac eithrio cwcer nwy sefydlog heb ffliw),
(ii) nad yw unrhyw waith trydanol sy’n gysylltiedig â’i ddarparu yn golygu—(aa) gosod cylched newydd;(bb) amnewid uned defnyddiwr;(cc) unrhyw ychwanegiad neu addasiad i gylchedau presennol mewn lleoliad arbennig,
(iii) nad yw’n bosibl profi ac addasu neu na fyddai hynny’n effeithio ar ei effeithlonrwydd ynni, a
(iv) yn achos cyfarpar awyru mecanyddol, nad yw’r cyfarpar wedi ei osod mewn ystafell sy’n cynnwys cyfarpar hylosgi â ffliw agored y mae ei gynhyrchion hylosgi’n cael eu gollwng drwy ffliw drafft naturiol;
(c) amnewid drws allanol (pan nad yw mwy na 50% o arwynebedd wyneb mewnol y drws ynghyd â’i ffrâm o wydr);
(d) mewn adeiladau presennol ac eithrio anheddau, ddarparu goleuadau mewnol sefydlog pan nad oes mwy na 100m2 o arwynebedd llawr yr adeilad i’w wasanaethu gan y goleuadau;
(e) amnewid—
(i) cyfleuster glanweithdra ag un sy’n defnyddio dim mwy o ddŵr na’r un y mae’n ei amnewid,
(ii) basn ymolchi, sinc neu bidet,
(iii) bàth sefydlog,
(iv) cawod,
(v) cafn dŵr glaw, neu
(vi) pibell dŵr glaw,
pan nad yw’r gwaith yn cynnwys unrhyw waith i system ddraenio danddaearol, nac yn cynnwys dim gwaith i’r system dŵr poeth neu oer na’r system ddraenio uwchben y ddaear, a allai niweidio iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson pan gwblheir y gwaith;
(f) mewn perthynas ag unrhyw gyflenwad dŵr oer presennol—
(i) amnewid unrhyw ran,
(ii) ychwanegu unrhyw ddyfais allbwn, neu
(iii) ychwanegu dyfais reoli;
(g) darparu system storio dŵr poeth a chanddi gynhwysydd storio â chapasiti nad yw’n fwy na 15 litr, pan nad yw unrhyw waith trydanol sy’n gysylltiedig â’i darparu yn golygu—
(i) gosod cylched newydd;
(ii) amnewid uned defnyddiwr;
(iii) unrhyw ychwanegiad neu addasiad i gylchedau presennol mewn lleoliad arbennig;
(h) gosod deunydd inswleiddio thermol mewn gofod to neu ofod atig pan—
(i) nad yw’r gwaith ond yn golygu gosod deunydd inswleiddio o’r fath, a
(ii) nad yw’r gwaith yn cael ei gynnal er mwyn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion Rheoliadau 2010.
2 
Gosod deunydd inswleiddio thermol i loriau pren crog pan—
(a) nad yw’r gwaith ond yn golygu gosod deunydd inswleiddio o’r fath, a
(b) nad yw’r gwaith yn cael ei gynnal er mwyn cydymffurfio ag unrhyw un neu ragor o ofynion Rheoliadau 2010.
3 
At ddibenion yr Atodlen hon—
 mae i “gwasanaeth sefydlog adeilad” yr ystyr a roddir i “fixed building service” yn rheoliad 2(1) o Reoliadau 2010;
 ystyr “hunangynhwysol” (“self-contained”) mewn perthynas â gwasanaeth sefydlog adeilad yw ei fod yn cynnwys cyfarpar sengl ac unrhyw reolyddion cysylltiedig nad yw wedi ei gysylltu ag unrhyw wasanaeth sefydlog adeilad arall nac yn ffurfio rhan o unrhyw wasanaeth sefydlog adeilad arall;
 ystyr “lleoliad arbennig” (“special location”) yw—
(a) mewn ystafell sy’n cynnwys bàth neu gawod, y gofod sy’n amgylchynu tap bàth neu ben cawod, pan fo’r gofod yn estyn—
(i) yn fertigol o lefel y llawr gorffenedig hyd at—
(aa) uchder o 2.25 metr, neu
(bb) safle’r pen cawod pan fo ynghlwm wrth wal neu nenfwd ar bwynt sy’n uwch na 2.25 metr o’r lefel honno, a
(ii) yn llorweddol—
(aa) pan fo twb bàth neu waelod cawod, o ymyl y twb bàth neu’r gwaelod cawod hyd at bellter o 0.6 metr, neu
(bb) pan nad oes twb bàth na gwaelod cawod, o bwynt canol y pen cawod lle y mae ynghlwm wrth y wal neu’r nenfwd hyd at bellter o 1.2 metr, neu
(b) ystafell sy’n cynnwys pwll nofio neu wresogydd sawna.
ATODLEN 3
Rheoliad 59
1 

(1) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan, cyn 1 Gorffennaf 2026—
(a) bo hysbysiad cychwynnol, mewn perthynas â gwaith ARU neu waith i ARU presennol ar gyfer adeilad penodol, wedi ei roi i awdurdod lleol a chyn y dyddiad hwnnw ei fod yn cael ei dderbyn neu y rhagdybir yn derfynol iddo gael ei dderbyn o dan adran 47 o Ddeddf 1984, neu
(b) cafodd planiau llawn, mewn perthynas â gwaith ARU neu waith i ARU presennol ar gyfer adeilad penodol, eu hadneuo gydag awdurdod lleol.
(2) Pan fo’r paragraff hwn yn gymwys—
(a) mewn achos pan fo planiau llawn wedi eu hadneuo—
(i) nid yw Rhannau 2 i 6 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r gwaith hwnnw, a
(ii) mae Rheoliadau 2010 yn parhau i fod yn gymwys i’r gwaith hwnnw, gan gynnwys y diwygiadau a wneir i Reoliadau 2010 gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025, ond yn ddarostyngedig i Ran 4 (darpariaethau trosiannol, darpariaethau atodol a darpariaethau arbed) o’r Rheoliadau hynny;
(b) mewn achos pan fo hysbysiad cychwynnol wedi ei roi—
(i) nid yw Rhannau 2 i 6 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys i’r gwaith hwnnw, a
(ii) mae Rheoliadau 2010 a Rheoliadau Adeiladu (Cymeradwywyr Cofrestredig Rheolaeth Adeiladu etc.) (Cymru) 2024 yn parhau i fod yn gymwys i’r gwaith hwnnw, gan gynnwys y diwygiadau a wneir i’r Rheoliadau hynny gan Reoliadau Adeiladu etc. (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2025 ond yn ddarostyngedig i Ran 4 (darpariaethau trosiannol, darpariaethau atodol a darpariaethau arbed) o’r Rheoliadau hynny.
(3) Mae is-baragraff (2) yn peidio â bod yn gymwys pan fo—
(a) planiau llawn yn cael eu gwrthod gan yr awdurdod lleol y’u hadneuwyd gydag ef yn unol ag unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 1 o Ddeddf 1984,
(b) y gymeradwyaeth ar gyfer y gwaith yn darfod yn rhinwedd adran 32 o Ddeddf 1984 (fel yr oedd y ddarpariaeth honno yn cael effaith yn union cyn 1 Gorffennaf 2026), neu
(c) yr hysbysiad cychwynnol neu’r rhan o’r hysbysiad hwnnw sy’n ymwneud â’r gwaith ARU neu’r gwaith i ARU presennol yn cael ei ganslo neu ei chanslo o dan adran 52(5) o Ddeddf 1984 (fel yr oedd y ddarpariaeth honno yn cael effaith yn union cyn 1 Gorffennaf 2026),
ac mae Rhannau 2 i 6 o’r Rheoliadau hyn yn gymwys yn lle hynny i’r gwaith.
2 
At ddibenion yr Atodlen hon—
 ystyr “hysbysiad cychwynnol” (“initial notice”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 47 o Ddeddf 1984;
 ystyr “planiau llawn” (“full plans”) yw planiau a adneuwyd gydag awdurdod lleol at ddibenion adran 16 o Ddeddf 1984 o dan reoliadau 12(2)(b) a 14 o Reoliadau 2010 (fel yr oedd y darpariaethau hynny yn cael effaith yn union cyn 1 Gorffennaf 2026).