
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Cymorth Amaethyddiaeth (Cymhwysedd, Gorfodi ac Apelau) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Rhagfyr 2025.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “canllawiau cynllun” (“scheme guidance”) yw’r ffurflenni, y canllawiau, yr amodau cymhwysedd a’r llawlyfrau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru mewn perthynas â chynllun cymorth;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sydd wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru am gymorth o dan gynllun cymorth;
 ystyr “cymorth” (“support”) yw cymorth ariannol neu gymorth arall, y caniateir ei ddarparu gan Weinidogion Cymru yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwysedd neu unrhyw amodau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol;
 ystyr “cynllun cymorth” (“support scheme”) yw cynllun a wneir gan Weinidogion Cymru i ddarparu cymorth ar gyfer, neu mewn cysylltiad ag, amaethyddiaeth yng Nghymru a gweithgareddau ategol sy’n cael eu cynnal yng Nghymru o dan adran 8 o Ddeddf 2023;
 ystyr “cytundeb” (“agreement”) yw cytundeb rhwng Gweinidogion Cymru a deiliad cytundeb y mae Gweinidogion Cymru yn cytuno oddi tano i ddarparu cymorth i ddeiliad y cytundeb o dan gynllun cymorth yn unol â chanllawiau cynllun;
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023;
 ystyr “deiliad cytundeb” (“agreement holder”) yw person sydd wedi ymrwymo i gytundeb neu—
(a) cynrychiolydd personol y person hwnnw os bydd y person hwnnw’n mynd yn analluog neu’n marw, neu
(b) pan fo’n gymwys at ddibenion cydymffurfio ag unrhyw rwymedigaeth neu orfodi unrhyw rwymedigaeth o dan y Rheoliadau hyn, cyflogai neu asiant y person hwnnw i’r graddau y mae’r cyflogai neu’r asiant hwnnw’n gweithredu, neu wedi gweithredu, ar gyfer neu ar ran y person hwnnw mewn cysylltiad â’r cytundeb hwnnw;
 ystyr “meini prawf cymhwysedd” (“eligibility criteria”) yw’r meini prawf a bennir yn y canllawiau cynllun i benderfynu hawlogaeth i gael cymorth, gan gynnwys unrhyw feini prawf sy’n caniatáu ar gyfer dewis ceiswyr, os yw’n gymwys, ar sail gystadleuol;
 ystyr “person awdurdodedig” (“authorised person”) yw person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gynnal arolygiadau ac arfer pwerau mynediad at ddibenion gorfodi o dan y Rheoliadau hyn.
RHAN 2
3 
Pan fo ceisydd yn gwneud cais i Weinidogion Cymru am gymorth o dan gynllun cymorth, rhaid i Weinidogion Cymru wirio’r wybodaeth a ddarperir i sicrhau bod y ceisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun cymorth y mae’r ceisydd yn gwneud cais iddo.
4 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i geisydd ddarparu gwybodaeth ychwanegol, gan gynnwys tystiolaeth, er mwyn galluogi Gweinidogion Cymru i benderfynu a yw’r ceisydd yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth o dan baragraff (1), rhaid i’r ceisydd ei darparu erbyn unrhyw ddyddiad cau a bennir gan Weinidogion Cymru.
5 
Pan fo ceisydd yn cyflwyno cais anghyflawn am gymorth neu fod y cais am gymorth yn cynnwys gwall amlwg, caiff Gweinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd am y diffyg ac os ydynt yn gwneud hynny, rhaid iddynt roi cyfle i’r ceisydd i gywiro’r diffyg erbyn unrhyw ddyddiad cau a bennir gan Weinidogion Cymru.
6 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), ni chaiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth o dan gynllun cymorth os ydynt, ar ôl ystyried cais, ynghyd ag unrhyw wybodaeth ychwanegol neu unrhyw dystiolaeth sy’n ofynnol o dan reoliad 4, yn fodlon—
(a) nad yw’r ceisydd wedi bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth,
(b) bod y ceisydd wedi methu â darparu gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth y gofynnwyd amdani o dan reoliad 4,
(c) bod y ceisydd wedi methu â chywiro diffyg yn unol â rheoliad 5, neu
(d) bod sail resymol dros amau bod y ceisydd wedi darparu gwybodaeth anwir neu gamarweiniol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ddarparu cymorth o dan gynllun cymorth, hyd yn oed pan na fônt yn fodlon bod gofynion paragraff (1)(a) i (d) wedi eu bodloni, os yw Gweinidogion Cymru yn fodlon bod amgylchiadau eithriadol.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â darparu cymorth o dan gynllun cymorth, rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod rhesymol, hysbysu’r ceisydd am—
(a) y penderfyniad,
(b) y rhesymau drosto, ac
(c) yr hawl i apelio o dan reoliad 29.
RHAN 3
7 

(1) Pan fo deiliad cytundeb yn cyflwyno cais am daliad o dan gytundeb, caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y cytundeb ddarparu gwybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth i gefnogi’r cais hwnnw am daliad.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gofyn am wybodaeth ychwanegol neu dystiolaeth o dan baragraff (1), rhaid i ddeiliad y cytundeb ddarparu’r wybodaeth honno neu’r dystiolaeth honno erbyn unrhyw ddyddiadau cau a bennir gan Weinidogion Cymru.
(3) Pan nad yw deiliad y cytundeb yn darparu’r wybodaeth neu’r dystiolaeth y gofynnir amdani o dan baragraff (1), caiff Gweinidogion Cymru ddal cymorth yn ôl hyd nes y darperir yr wybodaeth honno neu’r dystiolaeth honno.
(4) Rhaid i unrhyw daliadau a wneir gan Weinidogion Cymru fod i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu wedi ei wirhau deiliad y cytundeb.
(5) Rhaid i ddeiliad y cytundeb hysbysu Gweinidogion Cymru, yn ddi-oed, am unrhyw newidiadau disgwyliedig neu wirioneddol i gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu y person hwnnw.
(6) Pan ddaw hysbysiad o dan baragraff (5) i law Gweinidogion Cymru, caiff Gweinidogion Cymru gadw taliadau yn ôl hyd nes y bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y newidiadau wedi eu gwirio a’u gwirhau.
(7) Pan ddarperir cymorth i ddeiliad cytundeb o dan gytundeb nad yw’n ei gwneud yn ofynnol iddo gyflwyno cais am daliad, rhaid i’r person hwnnw gyflwyno declarasiwn blynyddol i Weinidogion Cymru yn cadarnhau cydymffurfedd â’r amodau y darperir y cymorth hwnnw yn ddarostyngedig iddynt.
8 
Rhaid i ddeiliad cytundeb ddarparu, yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru, yr wybodaeth honno neu’r dystiolaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i—
(a) gwirio a yw deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth,
(b) gwirhau cydymffurfedd â’r amodau y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddynt,
(c) monitro i ba raddau y mae diben y cynllun cymorth wedi ei gyflawni, neu y bydd yn cael ei gyflawni, a
(d) adolygu neu werthuso—
(i) unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a gynhelir gan ddeiliad y cytundeb o dan y cynllun cymorth, a
(ii) llwyddiant y cynllun cymorth yn ei gyfanrwydd.
9 
Pan fo’n ofynnol i ddeiliad cytundeb gadw cofnodion o dan ei gytundeb, rhaid i’r person hwnnw ddarparu copïau i Weinidogion Cymru yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru.
RHAN 4
10 

(1) Rhaid i geisydd neu ddeiliad cytundeb hysbysu Gweinidogion Cymru, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, am unrhyw newid mewn amgylchiadau y gellid disgwyl yn rhesymol iddo effeithio ar—
(a) ei hawlogaeth i gael cymorth,
(b) cydymffurfedd â’r amodau y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddynt neu y caniateir darparu cymorth yn ddarostyngedig iddynt,
(c) ei allu i gyflawni’r diben y darperir y cymorth ar ei gyfer yn unol ag unrhyw ganllawiau cynllun neu amserlenni, neu
(d) swm y cymorth a ddarperir neu sydd i’w ddarparu.
(2) Pan ddaw hysbysiad o dan baragraff (1) i law Gweinidogion Cymru, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) diwygio, dileu neu ddisodli amod y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddo, naill ai dros dro neu’n barhaol,
(b) diwygio, dileu neu ddisodli unrhyw amserlenni, naill ai dros dro neu’n barhaol,
(c) gostwng swm y cymorth a ddarperir, naill ai dros dro neu’n barhaol,
(d) adennill pan ofynnir amdani y cyfan neu unrhyw ran o gymorth sydd eisoes wedi ei dalu i ddeiliad y cytundeb,
(e) terfynu’r cytundeb, neu
(f) derbyn ymgymeriad ar gyfer trosglwyddo’r cyfan neu ran o’r cytundeb yn unol â rheoliad 11 i ryddhau deiliad y cytundeb o’i rwymedigaethau o dan y cyfan neu ran o’r cytundeb hwnnw.
(3) Pan fo Gweinidogion Cymru yn penderfynu cymryd un neu ragor o’r camau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r ceisydd neu ddeiliad y cytundeb am—
(a) y penderfyniad,
(b) y rhesymau drosto, ac
(c) yr hawl i apelio o dan reoliad 29.
11 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y bydd newid mewn amgylchiadau yn effeithio ar un neu ragor o’r materion a bennir yn rheoliad 10(1), caiff Gweinidogion Cymru gydsynio i drosglwyddo’r cyfan neu ran o gytundeb i berson arall (“y trosglwyddai”), ar yr amod—
(a) bod y trosglwyddai yn bodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth o dan y cytundeb hwnnw,
(b) bod y trosglwyddai yn hysbysu Gweinidogion Cymru am y trosglwyddiad wedi ei gwblhau erbyn unrhyw ddyddiad cau a bennir gan Weinidogion Cymru,
(c) bod y trosglwyddai yn rhoi ymgymeriad i Weinidogion Cymru i ysgwyddo’r rhwymedigaethau o dan y cytundeb hwnnw yn lle deiliad y cytundeb, a
(d) bod Gweinidogion Cymru wedi derbyn yr ymrwymiad hwnnw.
(2) Nid yw paragraff (1) yn rhyddhau deiliad y cytundeb mewn cysylltiad ag unrhyw doriad neu unrhyw fater arall sy’n digwydd cyn i Weinidogion Cymru dderbyn ymgymeriad y trosglwyddai.
RHAN 5
12 

(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol, rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r wybodaeth benodedig mewn perthynas â deiliaid cytundeb sydd wedi cael cymorth perthnasol.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â deiliad cytundeb pan fo cyfanswm y cymorth perthnasol a ddarperir i’r deiliad cytundeb hwnnw yn y flwyddyn ariannol honno yn llai na £1,250.
(3) Rhaid i’r wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1)—
(a) cael ei chyhoeddi ar gronfa ddata chwiliadwy ar www.llyw.cymru, a
(b) aros ar y gronfa ddata chwiliadwy honno am 3 blynedd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi gyntaf.
(4) At ddibenion paragraff (1), ystyr “yr wybodaeth benodedig” yw—
(a) enw llawn deiliad y cytundeb,
(b) y dref bost, a’r ardal cod post a’r rhanbarth lle y mae—
(i) deiliad y cytundeb yn preswylio, os mai person naturiol yw deiliad y cytundeb,
(ii) swyddfa gofrestredig deiliad y cytundeb wedi ei lleoli, os yw deiliad y cytundeb yn gorfforedig, neu
(iii) prif safle busnes deiliad y cytundeb wedi ei leoli, os mai corff o bersonau anghorfforedig yw deiliad y cytundeb,
(c) ar gyfer pob cynllun cymorth, cyfanswm y taliadau perthnasol a gafwyd gan ddeiliad y cytundeb yn y flwyddyn ariannol, a
(d) disgrifiad o’r gweithgareddau a ariennir gan y taliadau perthnasol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru bennu cynllun cymorth (neu ran o gynllun cymorth) yn gynllun esempt pan fo—
(a) y cynllun cymorth wedi ei sefydlu at neu mewn cysylltiad ag un neu ragor o’r dibenion yn adran 8(2)(g) neu (m) o Ddeddf 2023, a
(b) Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod cyhoeddi’r wybodaeth benodedig o dan baragraff (1) yn debygol o rwystro i ba raddau y cyflawnir y diben hwnnw.
(6) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “cynllun esempt” (“exempt scheme”) yw cynllun cymorth (neu ran o gynllun cymorth) a bennir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (5);
 ystyr “taliad perthnasol” (“relevant payment”) yw taliad a wneir i ddeiliad cytundeb mewn blwyddyn ariannol o dan gynllun cymorth (neu ran o gynllun cymorth) heblaw cynllun esempt.
13 

(1) Ar gyfer pob blwyddyn ariannol rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn—
(a) ar gyfer pob cynllun cymorth (neu ran o gynllun cymorth), heblaw cynllun esempt—
(i) nifer y deiliaid cytundeb y mae paragraff (2) yn gymwys iddynt, a
(ii) cyfanred y cymorth a dalwyd i’r deiliaid cytundeb hynny;
(b) ar gyfer pob cynllun esempt—
(i) nifer y deiliaid cytundeb a gafodd gymorth ariannol, a
(ii) cyfanred y cymorth ariannol a dalwyd i’r deiliaid cytundeb hynny.
(2) Mae paragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â deiliad cytundeb pan fo cyfanswm y taliadau perthnasol a wneir i’r deiliad cytundeb hwnnw yn y flwyddyn ariannol honno yn llai na £1,250.
(3) Rhaid i’r wybodaeth a gyhoeddir o dan baragraff (1)—
(a) cael ei chyhoeddi ar www.llyw.cymru, a
(b) aros yno am 3 blynedd ar ôl iddi gael ei chyhoeddi gyntaf.
(4) Yn y rheoliad hwn, mae i “cynllun esempt” a “taliad perthnasol” yr ystyr a roddir gan reoliad 12(6).
RHAN 6
14 

(1) Caiff person awdurdodedig, ar unrhyw awr resymol, gynnal arolygiad rhithwir o unrhyw dir neu unrhyw fangre sy’n eiddo i ddeiliad cytundeb neu a feddiennir ganddo, neu y mae gan ddeiliad y cytundeb reolaeth drosto neu drosti, heblaw annedd breifat, os yw at ddibenion—
(a) gwirio a yw deiliad y cytundeb yn parhau i fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer cael cymorth;
(b) gwirhau cydymffurfedd â’r amodau y darperir cymorth yn ddarostyngedig iddynt;
(c) monitro i ba raddau y mae diben y cymorth yn cael ei gyflawni;
(d) adolygu neu werthuso—
(i) unrhyw un neu ragor o’r gweithgareddau a gynhelir gan ddeiliad y cytundeb o dan gynllun cymorth;
(ii) llwyddiant cynllun cymorth yn ei gyfanrwydd;
(e) gwirhau a fu unrhyw achos o dorri’r Rheoliadau hyn o dan reoliad 19;
(f) gwirhau a oes trosedd wedi ei chyflawni o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais am gymorth, neu i gael cymorth;
(g) cynnig arweiniad a chynhorthwy, pan fo’n briodol.
(2) Cyn i berson awdurdodedig gael caniatâd i gynnal arolygiad rhithwir drwy gyswllt fideo byw, rhaid bodloni’r amodau a ganlyn—
(a) rhaid i ddeiliad y cytundeb fod â mynediad at gyswllt fideo byw, a chytuno i’w ddefnyddio,
(b) rhaid gallu cynnal yr arolygiad rhithwir mewn modd teg a thryloyw,
(c) rhaid i’r person awdurdodedig roi gwybod i ddeiliad y cytundeb am ddiben yr arolygiad rhithwir arfaethedig a, pan fo’n bosibl, gytuno ar ddyddiad ac amser addas ar gyfer yr arolygiad hwnnw, a
(d) pan na fo’n bosibl cytuno ar ddyddiad ac amser addas ar gyfer arolygiad, rhaid i’r person awdurdodedig hysbysu deiliad y cytundeb yn ysgrifenedig am ddiben yr arolygiad rhithwir a dyddiad ac amser yr arolygiad, o leiaf 48 awr cyn yr arolygiad.
(3) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “arolygiad rhithwir” (“virtual inspection”) yw arolygiad a gynhelir drwy—
(a) synhwyro o bell, neu
(b) cyswllt fideo byw sy’n galluogi deiliad y cytundeb a’r person awdurdodedig, nad ydynt yn yr un lleoliad, i weld a chlywed ei gilydd;
 mae “synhwyro o bell” (“remote sensing”) yn cynnwys ffotograffiaeth awyr, delweddu lloeren, delweddau neu ddata a ddaliwyd o bell o gerbyd yn yr awyr, gan gynnwys awyren, hofrennydd neu system cerbydau awyr a reolir o bell.
15 

(1) Caiff person awdurdodedig, ar ôl dangos, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n dangos awdurdodiad y person hwnnw, fynd ar unrhyw adeg resymol ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre sy’n eiddo i ddeiliad cytundeb neu a feddiennir ganddo, neu y mae gan ddeiliad y cytundeb reolaeth drosto neu drosti, heblaw annedd breifat, os yw at unrhyw un neu ragor o’r dibenion a restrir yn rheoliad 14(1)(a) i (g) ac yn unol â pharagraff (2) neu (3) o’r rheoliad hwn.
(2) Rhaid i’r person awdurdodedig roi gwybod i ddeiliad y cytundeb am ddiben yr arolygiad arfaethedig a, pan fo’n bosibl, gytuno ar ddyddiad ac amser addas ar gyfer yr arolygiad hwnnw.
(3) Pan na fo’n bosibl cytuno ar ddyddiad ac amser addas, rhaid i’r person awdurdodedig hysbysu deiliad y cytundeb yn ysgrifenedig am yr arolygiad a’r dyddiad a’r amser, o leiaf 48 awr cyn yr arolygiad hwnnw.
16 

(1) Caiff person awdurdodedig, ar unrhyw awr resymol, fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre sy’n eiddo i ddeiliad cytundeb neu a feddiennir ganddo, neu y mae gan ddeiliad y cytundeb reolaeth drosto neu drosti, heblaw annedd breifat, heb rybudd os—
(a) oes amheuaeth resymol o—
(i) achos o dorri unrhyw amod y rhoddir cymorth yn ddarostyngedig iddo;
(ii) achos o dorri’r Rheoliadau hyn o dan reoliad 19;
(iii) trosedd a gyflawnwyd o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall, i’r graddau y mae’n berthnasol i’r cais am gymorth, neu i gael cymorth,
(b) yw’r person awdurdodedig yn dangos, os yw’n ofynnol iddo wneud hynny, ddogfen wedi ei dilysu’n briodol sy’n cadarnhau awdurdodiad, ac
(c) yw un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) wedi ei fodloni neu eu bodloni.
(2) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i berson awdurdodedig fynd ar unrhyw dir perthnasol neu i unrhyw fangre berthnasol, gan gynnwys annedd breifat, a hynny gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen, os yw’r ynad wedi ei fodloni, ar sail gwybodaeth ysgrifenedig ar lw—
(a) bod sail resymol i berson awdurdodedig fynd ar y tir neu i’r fangre at unrhyw ddiben a grybwyllir yn rheoliad 17(1),
(b) bod un neu ragor o’r amodau ym mharagraff (3) wedi ei fodloni neu eu bodloni, a
(c) os mai’r amod ym mharagraff (3)(a) yw’r unig amod sydd wedi ei fodloni—
(i) bod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd, neu
(ii) nad oes hysbysiad o’r fath wedi ei gyflwyno i’r meddiannydd oherwydd y byddai cyflwyno hysbysiad o’r fath yn ymyrryd â diben neu effeithiolrwydd mynd ar y tir neu i’r fangre.
(3) Yr amodau yw—
(a) bod mynd ar y tir neu i’r fangre wedi ei wrthod, neu fod gan Weinidogion Cymru sail resymol dros amau y byddai’n debygol o gael ei wrthod,
(b) bod angen mynd ar y tir neu i’r fangre ar fyrder, neu
(c) nad yw’r tir neu’r fangre wedi ei feddiannu neu ei meddiannu neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(4) Mae gwarant a lofnodwyd yn unol â pharagraff (2) yn ddilys am un mis o ddyddiad y llofnod.
(5) Rhaid i berson awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw fangre nas feddiennir adael y fangre honno wedi ei diogelu yr un mor effeithiol ag yr oedd cyn iddo fynd iddi.
17 

(1) Caiff person awdurdodedig sy’n cynnal arolygiad rhithwir neu ffisegol o dan reoliadau 14, 15 neu 16—
(a) cynnal unrhyw ymholiadau, unrhyw wiriadau, unrhyw archwiliadau, unrhyw fesuriadau neu unrhyw brofion;
(b) arolygu’r tir neu’r fangre;
(c) arolygu unrhyw dda byw, unrhyw goed, unrhyw gnydau, unrhyw blanhigion, unrhyw beiriannau neu unrhyw gyfarpar a bennir yn y cytundeb;
(d) marcio unrhyw anifail neu unrhyw beth arall, neu ei gwneud yn ofynnol i unrhyw anifail neu unrhyw beth arall gael ei farcio, at ddibenion adnabod;
(e) cael mynediad at unrhyw ddogfennau neu unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y’u cedwir), eu harolygu, eu copïo a’u hargraffu neu fynd ag unrhyw ddogfennau o’r fath oddi yno i’w gwneud yn bosibl eu copïo neu eu cadw fel tystiolaeth;
(f) cael mynediad at unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael eu defnyddio neu sydd wedi eu defnyddio mewn cysylltiad â’r dogfennau neu’r cofnodion, eu harolygu a gwirio eu gweithrediad;
(g) tynnu ffotograff o unrhyw beth ar y tir neu’r fangre neu sy’n gysylltiedig â’r tir neu’r fangre, neu ei gofnodi ar ffurf ddigidol.
(2) Caiff person awdurdodedig sy’n mynd ar dir neu i fangre o dan reoliad 15, 16 neu 17 hefyd—
(a) cymryd samplau;
(b) symud ymaith garcas at ddiben cynnal archwiliad post-mortem;
(c) symud ymaith unrhyw beth y credir yn rhesymol ei fod yn dystiolaeth o doriad o dan reoliad 19.
18 

(1) Caiff person awdurdodedig sy’n cynnal arolygiad rhithwir neu ffisegol o dan reoliad 14, 15 neu 16 fod yng nghwmni unrhyw bersonau eraill y mae’r person awdurdodedig yn ystyried eu bod yn angenrheidiol.
(2) Rhaid i ddeiliad cytundeb roi i’r person awdurdodedig y cynhorthwy hwnnw y mae’r person awdurdodedig yn gofyn amdano yn rhesymol i alluogi’r person awdurdodedig i arfer unrhyw bŵer a roddir iddo gan reoliad 17, a rhaid iddo drefnu casglu, corlannu a diogelu unrhyw anifail os gofynnir iddo wneud hynny.
RHAN 7
19 
Mae’r rheoliad hwn yn gymwys pan fo deiliad cytundeb wedi—
(a) ar unrhyw adeg, roi gwybodaeth anwir neu gamarweiniol i Weinidogion Cymru,
(b) methu â darparu gwybodaeth neu dystiolaeth o dan reoliad 8,
(c) methu â darparu copïau o gofnodion o dan reoliad 9,
(d) atal person awdurdodedig rhag cynnal arolygiad rhithwir neu ffisegol o dan reoliad 14, 15 neu 16,
(e) atal person awdurdodedig rhag arfer unrhyw bwerau arolygu o dan reoliad 17,
(f) gwrthod darparu cynhorthwy y gofynnwyd amdano o dan reoliad 18(2),
(g) rhwystro fel arall arolygiad o dan reoliadau 14 i 18,
(h) methu â hysbysu Gweinidogion Cymru am newid mewn amgylchiadau o dan reoliad 10, neu
(i) methu â chydymffurfio ag amodau cytundeb neu ganllawiau cynllun.
20 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn amau’n rhesymol bod rheoliad 19 yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru gynnal ymchwiliad a phan fônt yn gwneud hynny, rhaid i’r ymchwiliad fod yn gymesur â’r math o doriad a amheuir.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn amau’n rhesymol bod deiliad y cytundeb neu’r ceisydd (pan fo’n berthnasol) wedi cyflawni trosedd o dan unrhyw ddeddfwriaeth arall, i’r graddau y mae’n berthnasol i gais am gymorth o dan gynllun cymorth, neu i gael cymorth o dan gynllun cymorth, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) cynnal ymchwiliad,
(b) cael gwybodaeth berthnasol gan unrhyw drydydd partïon, neu
(c) darparu gwybodaeth i unrhyw berson sy’n gyfrifol am archwilio, ymchwilio neu erlyn y drosedd honno.
(3) Wrth gynnal ymchwiliad, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) gofyn am wybodaeth neu dystiolaeth gan ddeiliad y cytundeb, neu’r ceisydd (pan fo’n berthnasol),
(b) cynnal arolygiad o dan reoliad 14, 15 neu 16, ac
(c) cysylltu â thrydydd partïon perthnasol i wirhau gwybodaeth.
(4) Rhaid i ddeiliad y cytundeb, neu’r ceisydd (pan fo’n berthnasol), ddarparu’r cynhorthwy hwnnw y gofynnir amdano yn ystod unrhyw ymchwiliad a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan baragraff (1) neu (2).
(5) Pan gynhelir ymchwiliad o dan baragraff (1) neu (2), caiff Gweinidogion Cymru ddal cymorth yn ôl hyd nes y bo’r ymchwiliad wedi ei gwblhau a, pan fo’n berthnasol, benderfyniadau wedi eu gwneud o dan reoliad 22(1) a (2).
21 

(1) Pan fo ymchwiliad o dan reoliad 20(1) wedi ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru roi gwybod i ddeiliad y cytundeb am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw a chaniatáu i’r person hwnnw gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru.
(2) Pan fo ymchwiliad o dan reoliad 20(2) wedi ei gynnal, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) rhoi gwybod i ddeiliad y cytundeb, neu’r ceisydd (pan fo’n berthnasol), am ganlyniad yr ymchwiliad hwnnw a chaniatáu i’r person hwnnw gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn y modd hwnnw ac ar yr adegau hynny a bennir gan Weinidogion Cymru, neu
(b) darparu gwybodaeth i unrhyw berson sy’n gyfrifol am archwilio, ymchwilio neu erlyn trosedd y mae’r ymchwiliad yn ymwneud â hi.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried unrhyw sylwadau ysgrifenedig a gafwyd gan ddeiliad y cytundeb o dan baragraff (1) neu (2) cyn gwneud penderfyniad o dan reoliad 22.
(4) Nid yw paragraffau (1) na (2) yn gymwys pan—
(a) bo ymchwiliad o dan reoliad 20(1) neu (2) wedi ei gynnal,
(b) bo Gweinidogion Cymru wedi dod i’r casgliad nad oes angen cymryd unrhyw gamau pellach, ac
(c) na fo deiliad y cytundeb, neu’r ceisydd (pan fo’n berthnasol), wedi ei hysbysu am yr ymchwiliad.
RHAN 8
22 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cwblhau ymchwiliad o dan reoliad 20 ac wedi eu bodloni bod tor amod wedi digwydd neu fod rheoliad 19 yn gymwys, rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad i’r perwyl hwnnw.
(2) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad o dan baragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad pellach ynghylch difrifoldeb unrhyw doriad a’r camau priodol, os oes rhai, y mae’n ofynnol eu cymryd mewn cysylltiad â’r toriad ac, wrth wneud hynny, rhaid iddynt roi sylw dyladwy i—
(a) yr amgylchiadau a arweiniodd at y toriad a pha un a gafodd ei achosi gan weithredoedd bwriadol deiliad y cytundeb neu oherwydd dihidrwydd neu esgeulustod y person hwnnw,
(b) unrhyw gamau a gymerwyd gan ddeiliad y cytundeb i adrodd am newid mewn amgylchiadau o dan reoliad 10 neu i hysbysu Gweinidogion Cymru am y toriad o fewn cyfnod rhesymol,
(c) unrhyw fethiant ar ran deiliad y cytundeb i gydweithredu ag arolygiad y bwriadwyd ei gynnal o dan reoliad 14, 15 neu 16 neu ymchwiliad o dan reoliad 19,
(d) unrhyw ymddygiad yn y gorffennol gan ddeiliad y cytundeb yn ystod cyfnod y cytundeb ac a yw toriad tebyg wedi digwydd o’r blaen,
(e) natur y toriad ac a oedd yn drosedd neu wedi achosi difrod helaeth neu anatgyweiriadwy,
(f) i ba raddau y mae’n ddymunol, yn ymarferol neu’n economaidd caniatáu i ddeiliad y cytundeb unioni’r toriad, a
(g) canlyniadau’r toriad ac a yw’n gwneud diben y cymorth yn anghyraeddadwy o fewn amserlenni neu gyllid y cynllun cymorth neu yn unol â’i ofynion.
23 
Yn dilyn penderfyniad o dan reoliad 22(2), caiff Gweinidogion Cymru gymryd un neu ragor o’r camau a ganlyn fel y maent yn ystyried eu bod yn briodol—
(a) dyroddi llythyr cynghori i ddeiliad y cytundeb;
(b) diwygio, dileu neu ddisodli amod yn y cytundeb naill ai dros dro neu’n barhaol;
(c) diwygio, dileu neu ddisodli unrhyw ganllawiau cynllun neu unrhyw amserlenni mewn cysylltiad â deiliad unigol yn unig naill ai dros dro neu’n barhaol;
(d) caniatáu i ddeiliad y cytundeb unioni unrhyw doriad yn unol ag unrhyw gamau priodol;
(e) gostwng swm y cymorth a ddyfernir yn gyfan gwbl neu’n rhannol;
(f) dal yn ôl y cyfan neu unrhyw ran o gymorth a ddyfarnwyd o dan y cynllun cymorth y mae unrhyw doriad yn ymwneud ag ef;
(g) dal yn ôl y cyfan neu unrhyw ran o gymorth a ddyfarnwyd o dan unrhyw gynllun cymorth;
(h) adennill ar gais y cyfan neu unrhyw ran o gymorth sydd eisoes wedi ei ddarparu i ddeiliad y cytundeb;
(i) terfynu’r cytundeb;
(j) gwahardd deiliad y cytundeb rhag cael cymorth o dan unrhyw gynllun cymorth am y cyfnod hwnnw y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn briodol.
24 
At ddibenion rheoliad 22(2), pan fo deiliad y cytundeb yn rhoi gwybod i Weinidogion Cymru am amgylchiadau eithriadol ar gyfer unrhyw doriad, ac wedi cyflwyno tystiolaeth i gefnogi’r rhesymau hynny, caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad oes unrhyw gamau’n ofynnol neu fod camau amgen o dan reoliad 23 yn ofynnol.
25 
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniadau o dan reoliad 22, rhaid i Weinidogion Cymru, o fewn cyfnod rhesymol, hysbysu deiliad y cytundeb am—
(a) y penderfyniadau,
(b) y rhesymau drostynt, ac
(c) yr hawl i apelio o dan reoliad 29.
26 

(1) Pan fo Gweinidogion Cymru yn caniatáu i ddeiliad y cytundeb unioni toriad o dan reoliad 23(d)—
(a) rhaid i Weinidogion Cymru bennu cyfnod y mae rhaid unioni’r toriad ynddo, a
(b) caiff Gweinidogion Cymru ddal cymorth yn ôl hyd nes y bo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod y toriad wedi ei unioni.
(2) Pan na fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod deiliad y cytundeb wedi unioni’r toriad, rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad newydd o dan reoliad 22(2).
27 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu deiliad y cytundeb am y swm sydd i’w adennill a’r cyfnod erbyn pryd y mae rhaid i’r ad-daliad gael ei wneud cyn i Weinidogion Cymru gymryd camau i adennill pan y gofynnir yn unol â rheoliad 10(2)(d) neu 23(h) y cyfan neu unrhyw ran o gymorth sydd eisoes wedi ei ddarparu i ddeiliad y cytundeb o dan gynllun cymorth.
(2) Pan fo deiliad y cytundeb yn methu ag ad-dalu’r swm llawn yn unol â pharagraff (1) a bod gan ddeiliad y cytundeb hawlogaeth i gael cymorth pellach o dan y cynllun cymorth hwnnw neu unrhyw gynllun cymorth arall, caiff Gweinidogion Cymru ddal cymorth yn ôl o dan y cynlluniau cymorth hynny hyd at werth y swm net sydd i’w ad-dalu.
(3) Pan fo deiliad y cytundeb yn methu ag ad-dalu’r swm llawn yn unol â pharagraff (1) ac nad oes gan ddeiliad y cytundeb hawlogaeth i gael cymorth pellach o dan y cynllun hwnnw neu unrhyw gynllun cymorth arall, neu fod y swm a ddelir yn ôl o dan baragraff (2) o’i gymryd gydag unrhyw ad-daliad a wnaed gan ddeiliad y cytundeb yn is na’r swm llawn sydd i’w ad-dalu, caiff Gweinidogion Cymru adennill, fel dyled, y swm net sydd i’w ad-dalu, ynghyd â llog ar y swm hwnnw a gyfrifir yn unol â pharagraff (4).
(4) Pan fo Gweinidogion Cymru yn arfer y pŵer a roddir gan baragraff (3), caniateir codi llog ar y swm net sydd i’w ad-dalu, ar gyfer pob diwrnod o ddiwedd y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) hyd at y dyddiad yr ad-delir yn llawn y swm sydd i’w adennill ynghyd ag unrhyw log cysylltiedig.
(5) Mae’r gyfradd llog sy’n gymwys ar unrhyw ddiwrnod un pwynt canran yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr”—
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, yw’r gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian, neu
(b) os yw gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998 mewn grym, yw unrhyw gyfradd gyfatebol a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.
28 
Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad o dan reoliad 22(2) sy’n gwahardd deiliad cytundeb rhag cael cymorth o dan unrhyw gynllun cymorth yn unol â rheoliad 23(j), mewn perthynas â’r gwaharddiad—
(a) ni chaiff bara am fwy na chyfnod o ddwy flynedd, gan ddechrau â thrannoeth y diwrnod y mae Gweinidogion Cymru yn hysbysu deiliad y cytundeb am y penderfyniad hwnnw o dan reoliad 25, a
(b) rhaid iddo gymryd i ystyriaeth ddifrifoldeb y toriad a’r ffactorau a bennir yn rheoliad 22(2).
RHAN 9
29 

(1) Caiff person (“yr apelydd”) gyflwyno apêl cam un i Weinidogion Cymru yn erbyn penderfyniad a wneir o dan reoliad 6(2), 10(3) neu 25 ar unrhyw un neu ragor o’r seiliau a ganlyn—
(a) yr oedd y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol;
(b) yr oedd y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith;
(c) mae gwall gweithdrefnol sylweddol wedi digwydd.
(2) Bydd apêl cam un o dan y rheoliad hwn yn cael ei hadolygu gan swyddogion a rhaid iddi—
(a) dod i law Gweinidogion Cymru o fewn 60 diwrnod i hysbysu’r apelydd am y penderfyniad,
(b) bod yn ysgrifenedig, ac
(c) nodi’r rhesymau dros yr apêl ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth ategol neu unrhyw dystiolaeth ategol.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r apelydd am ganlyniad yr apêl cam un.
(4) O fewn 60 diwrnod i gael ei hysbysu am ganlyniad yr apêl cam un, caiff yr apelydd gyflwyno apêl cam dau yn erbyn y canlyniad hwnnw.
(5) Bydd apêl cam dau o dan y rheoliad hwn yn cael ei hadolygu gan swyddogion a gaiff—
(a) cadarnhau canlyniad yr apêl cam un, neu
(b) gwneud penderfyniad newydd.
(6) Rhaid i apêl cam dau o dan y rheoliad hwn—
(a) dod i law Gweinidogion Cymru yn unol â pharagraff (4),
(b) bod yn ysgrifenedig,
(c) nodi’r rhesymau dros yr apêl ynghyd ag unrhyw ddogfennaeth ategol neu unrhyw dystiolaeth ategol,
(d) dangos a yw’r apelydd yn dymuno i wrandawiad panel apelau annibynnol, pan fo’n gymwys, gael ei gynnal yn ysgrifenedig neu drwy wrandawiad llafar, ac
(e) cael ei chyflwyno gyda’r ffi briodol (os oes un) fel y’i pennir gan Weinidogion Cymru.
(7) Pan fo Gweinidogion Cymru yn cadarnhau canlyniad apêl cam un, bydd yr apêl cam dau yn mynd ymlaen i banel apelau annibynnol.
(8) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud penderfyniad newydd yn unol â pharagraff (5)(b), rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) hysbysu’r apelydd am y penderfyniad hwnnw yn ysgrifenedig,
(b) nodi’r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw, ac
(c) caniatáu i’r apelydd ddewis i’r apêl gael ei hadolygu gan banel apelau annibynnol.
(9) Pan fo paragraff (7) yn gymwys neu fod yr apelydd yn dewis apelio yn unol â pharagraff (8)(c), rhaid i banel apelau annibynnol ystyried yr apêl, gwneud argymhelliad a hysbysu Gweinidogion Cymru am eu hargymhelliad yn ysgrifenedig.
(10) Ar ôl cael argymhelliad gan banel apelau annibynnol rhaid i Weinidogion Cymru wneud penderfyniad terfynol mewn cysylltiad â’r apêl cam dau honno.
(11) Mewn perthynas â phenderfyniad terfynol o dan baragraff (10)—
(a) caiff gadarnhau’r canlyniad ym mharagraff (5) neu wneud penderfyniad newydd,
(b) rhaid hysbysu’r apelydd amdano yn ysgrifenedig, ac
(c) rhaid iddo nodi’r rhesymau dros y penderfyniad terfynol.
(12) Caiff Gweinidogion Cymru dalu i aelodau paneli apelau annibynnol y gydnabyddiaeth ariannol honno y mae Gweinidogion Cymru’n ystyried ei bod yn briodol mewn cysylltiad â’u swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.
(13) Caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau mewn perthynas ag unrhyw agwedd ar y broses apelau.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
3 Rhagfyr 2025