
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (Cychwyn Rhif 1 a Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) 2025.
(2) Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “Deddf 2006” (“the 2006 Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;
 ystyr “Deddf 2014” (“the 2014 Act”) yw Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014;
 ystyr “Deddf 2016” (“the 2016 Act”) yw Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025.
2 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2026—
(a) adran 3(1) a (2) (ceisiadau i gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad),
(b) adran 4 (cofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad: trefniadau trosiannol)—
(i) is-adran (1);
(ii) is-adrannau (2) a (3), ond dim ond i’r graddau y maent yn mewnosod paragraff 4(4) o Atodlen 1A yn Neddf 2016,
(c) adran 7 (darparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad: yr wybodaeth a gynhwysir mewn datganiad blynyddol),
(d) adran 8(1) a (2) (amrywio neu ganslo cofrestriad fel darparwr gwasanaeth plant o dan gyfyngiad), ac
(e) adran 11 (dyletswydd i lunio a chyhoeddi cynllun digonolrwydd blynyddol) i’r graddau y mae’n mewnosod is-adran (3)(f) o adran 75A yn Neddf 2014.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o Ddeddf 2025 i rym ar 1 Ebrill 2026—
(a) adrannau 2 i 10 i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, a
(b) adran 12 (dyletswydd i sicrhau llety: adrodd), i’r graddau y mae’n mewnosod adran 75D(a) yn Neddf 2014.
(3) Daw’r ddarpariaeth a ganlyn o Ddeddf 2025 i rym ar 1 Gorffennaf 2026: adran 11 i’r graddau y mae’n mewnosod is-adrannau (1), (2), (3)(a) ac (e) o adran 75A, ac adrannau 75B a 75C yn Neddf 2014.
3 

(1) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2026—
(a) adran 14(2)(c) (dyletswydd i gyflwyno a chyhoeddi datganiad blynyddol),
(b) adran 15 (cais i ganslo cofrestriad darparwr gwasanaeth: yr wybodaeth sydd i’w darparu),
(c) is-baragraffau (2) a (5) i (8) o baragraff 7 o Atodlen 1, ac adran 22 (gofal cymdeithasol: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraffau hynny,
(d) adran 20 (taliadau uniongyrchol ym maes gofal cymdeithasol)—
(i) is-adran (1);
(ii) is-adran (2)(a);
(iii) is-adran (2)(c) a (d), ond dim ond i’r graddau y mae’n cychwyn paragraffau 1, 2 a 6 i 8 o Atodlen A1 i Ddeddf 2014, ac
(e) paragraff 5(3)(d) o Atodlen 1.
(2) Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2026—
(a) adran 14 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym,
(b) adran 17 (gwybodaeth, arolygiadau ac ymchwiliadau), ac eithrio is-adran (3),
(c) adran 19 (achosion addasrwydd i ymarfer: pwerau i estyn gorchmynion interim),
(d) is-baragraffau (9) i (13) o baragraff 7 o Atodlen 1, ac adran 22 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r is-baragraffau hynny,
(e) adran 20 i’r graddau nad yw eisoes mewn grym, ac
(f) paragraffau 3, 4(1) a (3), 5 a 6 o Atodlen 1, ac adran 22 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny, i’r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
4 
Daw’r darpariaethau a ganlyn o’r Ddeddf i rym ar 1 Ionawr 2026—
(a) adran 24 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd), a
(b) paragraffau 1 i 3 a 5 i 6 o Atodlen 2, ac adran 25 (taliadau uniongyrchol am ofal iechyd: mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny.
5 
Yn yr erthygl hon mae i’r termau a ganlyn, a restrir yn y drefn y maent yn ymddangos yn yr erthygl hon, yr un ystyr ag yn Neddf 2016—
 “awdurdod lleol”;
 “gwasanaeth cartref gofal”;
 “gwasanaeth maethu”;
 “gwasanaeth llety diogel”;
 “gwasanaeth rheoleiddiedig”;
 “y tribiwnlys”.
(2) Mae’r erthygl hon yn gymwys pan fo person ac eithrio awdurdod lleol, ar 31 Mawrth 2026 neu cyn hynny, yn gwneud cais—
(a) i gofrestru fel darparwr gwasanaeth mewn cysylltiad ag—
(i) gwasanaeth cartref gofal a ddarperir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i blant,
(ii) gwasanaeth maethu, neu
(iii) gwasanaeth llety diogel;
(b) i amrywio cofrestriad y darparwr gwasanaeth er mwyn darparu un neu ragor o’r gwasanaethau rheoleiddiedig a bennir yn is-baragraff (a)—
(i) nad yw’r darparwr gwasanaeth eisoes wedi ei gofrestru i’w ddarparu neu i’w darparu, neu
(ii) mewn man, o fan neu mewn perthynas â man nad yw eisoes wedi ei bennu yng nghofrestriad y darparwr mewn perthynas â’r gwasanaeth hwnnw.
(3) Pan na fo cais y cyfeirir ato ym mharagraff (2) wedi ei benderfynu gan Weinidogion Cymru cyn 1 Ebrill 2026—
(a) mae’r cais i’w drin fel pe na bai adran 6A(1) o Ddeddf 2016 mewn grym eto, a
(b) os caniateir y cais, mae’r darparwr gwasanaeth i gael ei drin at ddibenion adran 6C o Ddeddf 2016 ac Atodlen 1A iddi fel pe bai’r cais wedi ei ganiatáu cyn i adran 6A(1) o Ddeddf 2016 ddod i rym.
(4) At ddibenion paragraff (3) o’r erthygl hon, mae cyfeiriad at gais yn cael ei ganiatáu yn cynnwys penderfyniad gan y tribiwnlys i ganiatáu’r cais ar apêl.
Dawn Bowden
Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, o dan awdurdod Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.
28 Tachwedd 2025