
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau Safonau ac Ymddygiad Aelodau) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 5 Ionawr 2026.
2 

(1) Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 mae i “swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol” yr ystyr a roddir i “politically restricted post” gan adran 2(1), (1A) ac (1B) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989;
 ystyr “swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol” (“senior, cabinet or executive post”) yw—
(a) cadeirydd a etholir o dan adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(b) is-gadeirydd a benodir o dan adran 24(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(c) aelod llywyddol a etholir o dan adran 24A(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(d) dirprwy aelod llywyddol a benodir o dan adran 24B(2) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972;
(e) maer etholedig a etholir o dan adran 39(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(f) dirprwy faer a benodir o dan baragraff 1(3) o Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(g) arweinydd gweithredol a etholir o dan adran 11(3)(a) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(h) aelod o weithrediaeth awdurdod lleol a benodir o dan adran 11(2)(b) neu (3)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000;
(i) Cadeirydd Pwyllgor Trosolwg a Chraffu a benodir yn unol ag adran 66 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011;
 ystyr “swyddog cofrestru” (“registration officer”) yw swyddog a benodir o dan adran 8(2A) o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983;.”.
(3) Yn lle rheoliad 6 (aelodau blaenorol awdurdod perthnasol) rhodder—“
6. 

(1) Caiff person sydd wedi bod yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw’n aelod mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol yn ddarostyngedig i’r amodau a ganlyn—
(a) ni chaiff unrhyw berson sydd wedi dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol mewn un neu ragor o awdurdodau perthnasol fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol y mae’r person hwnnw wedi dal swydd o’r fath ynddo hyd nes y daw i ben y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf;
(b) ni chaiff unrhyw berson a oedd yn aelod o un neu ragor o awdurdodau perthnasol fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol yr oedd y person hwnnw’n aelod ohono (nad oedd yn dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol) hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn aelod o’r awdurdod hwnnw ddiwethaf.
(2) Caiff person sydd wedi bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, ond nad yw’n aelod mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig yn ddarostyngedig i’r amodau a ganlyn—
(a) ni chaiff unrhyw berson sydd wedi dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol mewn awdurdod cyfansoddol cyd-bwyllgor corfforedig fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw hyd nes y daw i ben y cyfnod o bum mlynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf;
(b) ni chaiff unrhyw berson a oedd yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw (nad yw’n dal swydd uwch, swydd gabinet neu swydd weithredol yn achos awdurdod cyfansoddol), fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â bod yn aelod o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, yr awdurdod cyfansoddol hwnnw neu’r awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw ddiwethaf.”
(4) Yn lle rheoliad 7 (swyddogion blaenorol awdurdod perthnasol) rhodder—“
7. 

(1) Caiff person sydd wedi bod yn swyddog i un neu ragor o awdurdodau perthnasol, ond nad yw’n swyddog mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol, ac eithrio pan fo paragraff (2) yn gymwys.
(2) Pan fo’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, neu swydd swyddog cofrestru, mewn awdurdod perthnasol, ni chaiff y person hwnnw fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod perthnasol y mae’r person hwnnw wedi dal swydd o’r fath ynddo hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf.
(3) Caiff person sydd wedi bod yn swyddog i gyd-bwyllgor corfforedig, neu’n swyddog i awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol cyd-bwyllgor corfforedig, ond nad yw’n swyddog mwyach, fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, ac eithrio pan fo paragraff (4) yn gymwys.
(4) Pan fo’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (3) wedi dal swydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol mewn unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, neu mewn awdurdod cyfansoddol neu awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, neu wedi dal swydd swyddog cofrestru mewn awdurdod cyfansoddol unrhyw gyd-bwyllgor corfforedig, ni chaiff y person hwnnw fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw hyd nes y daw i ben y cyfnod o ddwy flynedd sy’n dechrau â’r dyddiad y peidiodd y person hwnnw â dal swydd o’r fath ddiwethaf.”
3 

(1) Mae Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Egwyddorion) (Cymru) 2001 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (dehongli)—
(a) yn y testun Saesneg, ar ddiwedd y diffiniad o “member”, hepgorer “and”;
(b) yn y testun Cymraeg, ar ddiwedd y diffiniad o “aelod cyfetholedig”, hepgorer “ac”;
(c) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “nodweddion gwarchodedig” yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;”.
(3) Yn yr Atodlen, ym mharagraff 7 (cydraddoldeb a pharch) yn lle “gender, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd” rhodder “nodweddion gwarchodedig neu eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol”.
4 
Yn yr Atodlen i Orchymyn Awdurdodau Lleol (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2008—
(a) ym mharagraff 1(1), yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor, mewnosoder—“
 mae i “nodweddion gwarchodedig” yr ystyr a roddir i “protected characteristics” yn adran 4 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010;”;
(b) ym mharagraff 4(a), yn lle “rhyw, eu hil, eu hanabledd, eu cyfeiriadedd rhywiol, eu hoed neu eu crefydd” rhodder “nodweddion gwarchodedig neu eu hamgylchiadau economaidd-gymdeithasol”.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
19 Tachwedd 2025