
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 (Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaeth Drosiannol, Darpariaeth Ddirymu a Darpariaeth Arbed) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar y dyddiadau a ganlyn—
(a) y rheoliad hwn a rheoliadau 21 a 22 ar 14 Rhagfyr 2025;
(b) pob rheoliad arall ar 15 Rhagfyr 2025.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “Deddf 2024” yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.
RHAN 1
2 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) 1995 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff A.2(1)(a) o Ran 17A o Atodlen 2, ar ddiwedd is-baragraff (iii), mewnosoder—“or
(iv) der granting infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024;”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Diogelwch y Diwydiannau Niwclear 2003 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1A), yn y diffiniad o “relevant consent” ar ôl is-baragraff (e), mewnosoder—“
(f) infrastructure consent within the meaning of section 19 of the Infrastructure (Wales) Act 2024.”
4 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Cyfarwyddiadau Diogelwch Gwladol a Chynrychiolwyr Penodedig) (Cymru) 2006 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 6 —
(a) ym mharagraff (4), hepgorer “neu ddatblygiad o arwyddocâd cenedlaethol”;
(b) ym mharagraff (8), hepgorer y diffiniad o “datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol”.
(3) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiad ym mharagraff (2) wedi ei wneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Rheoliadau hynny’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
5 

(1) Mae Rheoliadau Gwaith Morol (Asesu Effeithiau Amgylcheddol 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “the 2010 Act” mewnosoder—“
 “the 2024 Act” means the Infrastructure (Wales) Act 2024;”;
(b) yn y diffiniad o “appropriate authority”, yn is-baragraff (a), ar ôl “for Wales” mewnosoder “examining authority,”;
(c) ar ôl y diffiniad o “environmental statement” mewnosoder—“
 “examining authority” means the person or panel of persons appointed under section 40 of the 2024 Act;”;
(d) ar ôl y diffiniad o “harbour works” mewnosoder—“
 “infrastructure consent” means the consent required by section 19 of the 2024 Act;
 “infrastructure consent order” means an order under the 2024 Act granting infrastructure consent;”;
(e) yn y diffiniad o “regulatory approval”—
(i) mewnosoder “or” ar ddiwedd paragraff (d);
(ii) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) an infrastructure consent order that grants infrastructure consent for development that will take place in the Welsh marine area,and for the purposes of paragraph (e) “development” has the meaning given by section 133 of the 2024 Act;”;
(f) ar ôl y diffiniad o “Wales” mewnosoder—“
 “Welsh marine area” has the meaning given in section 143(1) of the 2024 Act;”.
(3) Yn rheoliad 3(4)(d) ar ôl y cyfeiriad cyntaf at “Welsh Ministers” mewnosoder “, examining authority”.
(4) Yn rheoliad 10A—
(a) yn is-baragraff (4) ar ôl “for Wales” mewnosoder “or examining authority”;
(b) ym mharagraff (5)(a) ar ôl “for Wales” mewnosoder “or examining authority”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Gwastraff (Cymru a Lloegr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 16 —
(a) ym mharagraff (1), ar ôl y diffiniad o “the 2008 Act” mewnosoder—“
 “the 2024 Act” means the Infrastructure (Wales) Act 2024;
 “infrastructure consent” means the consent required by section 19 of the 2024 Act;”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (f), hepgorer “and”;
(ii) ar y diwedd, mewnosoder—“; and
(h) the 2024 Act.”
7 

(1) Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer erthygl 1(4).
(3) Mae’r Gorchymyn y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiad ym mharagraff (2) wedi ei wneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Gorchymyn hwnnw’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
8 

(1) Mae Rheoliadau Parodrwydd i Ddal Carbon (Gorsafoedd Cynhyrchu Trydan) 2013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “the 2008 Act” mewnosoder—“
 “the 2024 Act” means the Infrastructure (Wales) Act 2024;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “devolved combustion plant” mewnosoder—“
 “infrastructure consent” means a consent required by section 19 of the 2024 Act;
 “infrastructure consent order” means an order under the 2024 Act granting infrastructure consent;”;
(c) ar ôl y diffiniad o “relevant consent order” mewnosoder—“
 “relevant infrastructure consent order” means an infrastructure consent order—
(a) for the construction of a devolved combustion plant; or
(b) for a relevant extension;”;
(d) yn lle’r diffiniad o “relevant planning authority” rhodder—“
 “relevant planning authority” means in relation to—
(a) consent required by section 19 of the 2024 Act, the Welsh Ministers;
(b) planning permission required under the 1990 Act, the local planning authority;”;
(e) yn y diffiniad o “relevant planning permission” ar ôl yr ail gyfeiriad at “planning permission”, mewnosoder “or infrastructure consent”.
(3) Yn rheoliad 4—
(a) yn y pennawd, ar ôl “consent orders”, mewnosoder “and infrastructure consent orders”;
(b) ym mharagraff (1A), ar ôl “consent order” ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “or an infrastructure consent order”;
(c) ym mharagraff (3A)—
(i) yn is-baragraff (b), ar ôl “consent order” yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “or a relevant infrastructure consent order”;
(ii) yn y geiriau ar ôl is-baragraff (b), ar ôl “(as changed)”, mewnosoder “or infrastructure consent order (as changed)”.
(4) Ym mhennawd rheoliad 6A ar ôl “planning permission”, mewnosoder “and infrastructure consent”.
(5) Yn rheoliad 6A—
(a) ym mharagraff (1), ar ôl yr ail gyfeiriad at “planning permission”, mewnosoder “or infrastructure consent”;
(b) ym mharagraff (4), ar ôl “planning permission”, mewnosoder “or infrastructure consent”.
9 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Geisiadau, Ceisiadau Tybiedig ac Ymweliadau Safle) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 10—
(a) hepgorer paragraff (3)(b) a’r “neu” o’i flaen;
(b) ym mharagraff (9)—
(i) ar ddiwedd is-baragraff (a), mewnosoder “neu”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b).
(3) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiadau ym mharagraff (2) wedi eu gwneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Rheoliadau hynny’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
10 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio (Sylweddau Peryglus) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 28 (cymeradwyaethau cynllunio eraill ar gyfer prosiectau), ym mharagraff (6) ar ôl is-baragraff (a) mewnosoder—“
(aa) penderfynu cais am gydsyniad seilwaith o dan Ran 5 o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024;”.
11 

(1) Mae Gorchymyn Rhwymedigaeth Ynni Adnewyddadwy 2015 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 88 —
(a) ym mharagraff (1)(b)—
(i) ym mharagraff (ii), hepgorer “or”;
(ii) ar y diwedd mewnosoder—“, or
(iv) infrastructure consent under the Infrastructure (Wales) Act 2024 has been granted and any conditions as to the time period in which the development to which it relates must be begun have not been breached.”;
(b) ym mharagraff (4), ar ôl “(1)” mewnosoder “(b)(ii)”;
(c) ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(5) In paragraph (1)(b)(iv) “development” has the meaning given in section 133 of the Infrastructure (Wales) Act 2024.”
12 

(1) Mae Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) (Cymru) 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 1(4) ar ôl “i Weinidogion Cymru” mewnosoder “neu gais am gydsyniad seilwaith”.
(3) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) mewnosoder—“
 ystyr “Deddf 2024” (“the 2024 Act”) yw Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;”;
(b) hepgorer y diffiniad o “Gorchymyn 2016” (“the 2016 Order”) ac ar ôl y diffiniad o “prif gyngor” (“principal council”) mewnosoder—“
 ystyr “Rheoliadau Archwiliadau 2025” (“the 2025 Examination Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Archwilio a Phenderfynu) (Gweithdrefn) (Cymru) 2025;
 ystyr “Rheoliadau Ceisiadau 2025” (“the 2025 Application Regulations”) yw Rheoliadau Cydsyniad Seilwaith (Y Weithdrefn Cyn Gwneud Cais a’r Weithdrefn Gwneud Cais a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2025;;”;
(c) yn y diffiniad o “yr ymgynghoreion” (“the consultees”)—
(i) ym mharagraff (a) yn lle’r geiriau o “yn rhinwedd erthygl 22” hyd at ddiwedd yr is-baragraff rhodder “neu y byddai’n ofynnol iddynt ymgynghori ag ef pe bai cais am ganiatâd cynllunio ger eu bron”;
(ii) ar ôl paragraff (c)(iii) mewnosoder—“
(d) mewn cysylltiad â chais am gydsyniad seilwaith a wneir i Weinidogion Cymru, unrhyw awdurdod, corff neu berson y mae’n ofynnol iddynt ymgynghori ag ef yn rhinwedd Deddf 2024 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno;
(e) mewn cysylltiad â chais dilynol sy’n ymwneud â chydsyniad seilwaith, unrhyw awdurdod, corff, neu berson y byddai’n ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ag ef yn rhinwedd Deddf 2024 neu unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan y Ddeddf honno pe bai’r cais yn gais am gydsyniad seilwaith;”;
(d) yn y diffiniad o “cais AEA” (“EIA application”), yn is-baragraff (a), ar ôl “am ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”;
(e) ar ôl y diffiniad o “asesiad o’r effaith amgylcheddol” (“environmental impact assessment”) mewnosoder—“
 ystyr “awdurdod archwilio” (“examining authority”) yw person neu banel o bersonau a benodir o dan adran 40 o Ddeddf 2024;”;
(f) yn y lle priodol yn nhrefn yr wyddor mewnosoder—“
 ystyr “cofrestr seilwaith” (“infrastructure register”) yw cofrestr a gedwir yn unol ag adran 128 o Ddeddf 2024 neu yn unol â darpariaethau a wneir o dan yr adran honno, ac ystyr “cofrestr seilwaith briodol” yw’r gofrestr y rhoddwyd manylion am y cais am gydsyniad seilwaith ar gyfer y datblygiad perthnasol arni neu y byddent yn cael eu rhoi arni pe gwnaed cais o’r fath;
 ystyr “cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent”) yw cydsyniad sy’n ofynnol o dan adran 19 o Ddeddf 2024;
 ystyr “gorchymyn cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent order”) yw gorchymyn a wneir o dan adran 60 o Ddeddf 2024;;”;
(g) yn y diffiniad o “corff cychwyn” (“initiating body”)—
(i) yn lle “gwneud” rhodder “rhoi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu wneud”;
(ii) ar ôl “neu orchymyn adran 102” mewnosoder “, neu Weinidogion Cymru pan fônt yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024”;
(h) yn y diffiniad o “mesur monitro” (“monitoring measure”) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “neu’r cydsyniad seilwaith”;
(i) ar ôl y diffiniad o “y Gyfarwyddeb” (“the Directive”) mewnosoder—“
 ystyr “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig” (“notice of unauthorised development”) yw hysbysiad a roddir o dan adran 113 o Ddeddf 2024;”;
(j) yn y diffiniad o “awdurdod cynllunio perthnasol” (“relevant planning authority”) hepgorer is-baragraff (a);
(k) yn y diffiniad o “cais Atodlen 1” (“Schedule 1 application”) a “cais Atodlen 2” (“Schedule 2 application”) ar ôl “am ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”;
(l) ar ôl y diffiniad o “mesur monitro” (“monitoring measure”) mewnosoder—“
 ystyr “person penodedig” (“specified person”) yw person, ac eithrio Gweinidogion Cymru neu awdurdod cynllunio, a bennir mewn gorchymyn cydsyniad seilwaith i fod y person y mae rhaid i gais dilynol mewn perthynas â’r cydsyniad seilwaith hwnnw gael ei wneud iddo;”;
(m) yn y diffiniad o “cais dilynol” (“subsequent application”) ar ôl “caniatâd cynllunio”, yn y lle cyntaf y mae’n digwydd, mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”, ac yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r cydsyniad seilwaith”.
(4) Yn rheoliad 2(6)—
(a) yn lle “Caniateir” rhodder “Mewn perthynas â chais am ganiatâd cynllunio, caniateir”;
(b) ar ôl “(cyflwyno hysbysiadau)” mewnosoder “ac mewn perthynas â chais am gydsyniad seilwaith neu hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, caniateir eu cyflwyno neu eu rhoi mewn modd a bennir yn adran 136 o Ddeddf 2024”.
(5) Ym mhennawd rheoliad 3 ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “, cydsyniad seilwaith”.
(6) Yn rheoliad 3 —
(a) ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “na’r awdurdod archwilio”;
(b) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “, cydsyniad seilwaith”.
(7) Yn rheoliad 4(1)—
(a) ym mharagraff (a) ar ôl “cychwyn caniatâd cynllunio” mewnosoder “, neu’n gofyn am gydsyniad seilwaith”;
(b) ym mharagraff (b) hepgorer “neu Orchymyn 2016” a mewnosoder “, Rheoliadau Ceisiadau 2025 neu Reoliadau Archwiliadau 2025”.
(8) Yn rheoliad 6 —
(a) ym mharagraff (1) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(b) ym mharagraff (3)(b) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig” ac ar ôl “unrhyw ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu unrhyw orchymyn cydsyniad seilwaith”;
(c) ym mharagraff (5) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(d) ym mharagraff (6) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(e) ym mharagraff (7) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(f) ar ôl paragraff (7) mewnosoder—“
(7A) Rhaid i berson penodedig sy’n mabwysiadu barn sgrinio yn unol â pharagraff (6) hefyd anfon copi at Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod cynllunio y bydd y datblygiad yn digwydd yn ei ardal.”;
(g) ym mharagraff (8) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(h) ym mharagraff (9) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”.
(9) Yn rheoliad 7 ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r person penodedig” ac ar ôl “gan yr awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”.
(10) Ym mhennawd Rhan 3 ar ôl “Ganiatâd Cynllunio” mewnosoder “a Cheisiadau Dilynol.”
(11) Yn rheoliad 9 ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig”, ar ôl “ger ei fron”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu ger eu bron”, ar ôl “rhaid iddo”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu rhaid iddynt”, ac ar ôl “ei benderfyniad” mewnosoder “neu eu penderfyniad”.
(12) Yn rheoliad 10 —
(a) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “, Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig” ac ar ôl “ger ei fron” mewnosoder “neu ger eu bron”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(3) Pan fo paragraffau (5) a (6) o reoliad 6 yn gymwys yn rhinwedd y rheoliad hwn, mae “awdurdod cynllunio” i’w ddarllen fel pe bai’n cynnwys Gweinidogion Cymru neu’r person penodedig sydd wedi cael y cais am gydsyniad dilynol.”;
(13) Yn rheoliad 14 —
(a) ym mharagraff (1) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(b) ym mharagraff (2)(b)(ii) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”, ac ar ôl “unrhyw ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu unrhyw orchymyn cydsyniad seilwaith”;
(c) ym mharagraff (3) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(d) ym mharagraff (4) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(e) ym mharagraff (5) ar ôl “awdurdod” ym mhob lle y mae’n digwydd mewnosoder “neu’r person penodedig”.
(f) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Pan fo person penodedig yn mabwysiadu barn gwmpasu, rhaid iddo anfon copi at Weinidogion Cymru ac unrhyw awdurdod cynllunio y bydd y datblygiad yn digwydd yn ei ardal.”;
(g) ym mharagraff (6) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(h) ym mharagraff (7) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”;
(i) ym mharagraff (8) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(j) ym mharagraff (9) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “neu berson penodedig”.
(14) Yn rheoliad 15, ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “neu’r person penodedig”.
(15) Yn rheoliad 16 —
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Caiff unrhyw berson sy’n bwriadu cyflwyno datganiad amgylcheddol i berson penodedig roi hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan y paragraff hwn.”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “(1)” mewnosoder “neu baragraff (1A)”;
(c) ym mharagraff (3)(a) ar ôl “(1)” mewnosoder “neu baragraff (1A)”.
(d) hepgorer “a” ar ddiwedd paragraff (3)(b)(i);
(e) ar ôl paragraff (3)(b)(ii) mewnosoder—“; a
(iii) (iii) mewn perthynas â hysbysiad o dan baragraff (1A), hysbysu’r person penodedig.”;
(f) ym mharagraff (4) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “, person penodedig”, ar ôl “yr awdurdod” mewnosoder “, y person penodedig” ac ar ôl “rhaid i’r awdurdod” mewnosoder “, y person penodedig”;
(g) ym mharagraff (5) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “, person penodedig”.
(16) Ym mhennawd rheoliad 18 ar ôl “awdurdod cynllunio lleol” mewnosoder “neu berson penodedig”.
(17) Yn rheoliad 18 —
(a) ym mharagraff (1) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(b) ym mharagraff (3) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu berson penodedig”, ar ôl “rhaid i’r awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”, ar ôl “galluogi’r awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”, ar ôl “pan fo’r awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig” ac ar ôl “a chyfeiriad yr awdurdod” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(c) ym mharagraff (4) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(d) ar ôl paragraff (5) mewnosoder—“
(5A) Pan fo ceisydd yn cyflwyno datganiad amgylcheddol i berson penodedig yn unol â pharagraff (1), mae darpariaethau rheoliadau 25 (rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau dilys: gwefan) a 26 (rhoi cyhoeddusrwydd i geisiadau dilys: hysbysiadau) o Reoliadau Ceisiadau 2025 yn gymwys gyda’r addasiadau a ganlyn—
(a) mae cyfeiriadau at “cais” yn gyfeiriadau at “cais dilynol”;
(b) mae cyfeiriadau at “Gweinidogion Cymru” yn gyfeiriadau at “person penodedig”;
(c) mae cyfeiriadau at “42 o ddiwrnodau” yn gyfeiriadau at “30 o ddiwrnodau”;
(d) nid yw rheoliad 26(5) na (6) yn gymwys.”;
(e) ym mharagraff (6) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”.
(18) Ym mhennawd rheoliad 19, ar ôl “cais cynllunio” mewnosoder “neu’r cais dilynol”.
(19) Yn rheoliad 19 —
(a) ym mharagraff (2)(a) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(b) ym mharagraff (2)(d)(ii) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “neu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith”;
(c) ym mharagraff (2)(f) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “neu’r person penodedig”;
(d) ym mharagraff (2)(j) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “, i’r person penodedig”;
(e) ym mharagraff (7) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol,” mewnosoder “y person penodedig,”.
(20) Yn rheoliad 21(1)(a) ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “, yr awdurdod archwilio”.
(21) Yn rheoliad 24 —
(a) ym mharagraff (1)—
(i) ar ôl “Gweinidogion Cymru”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig”;
(ii) ar ôl “â chais” mewnosoder “, cais dilynol”;
(iii) ar ôl “yn y cais” mewnosoder “neu’r cais dilynol”;
(b) ym mharagraff (2)(a) ar ôl “o dan Ddeddf 1990” mewnosoder “neu Ddeddf 2024”;
(c) ym mharagraff (3)(c) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “neu’r gorchymyn cydsyniad seilwaith”;
(d) ym mharagraff (3)(h) yn lle “gan yr awdurdod cynllunio perthnasol, neu ar ei ran,” rhodder “gan neu ar ran yr awdurdod cynllunio perthnasol neu Weinidogion Cymru”;
(e) ym mharagraff (3)(l) ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig”;
(f) ym mharagraff (7) ar ôl “Gweinidogion Cymru” mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig”;
(g) ym mharagraff (10) ar ôl “neu Weinidogion Cymru” mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig”.
(22) Ym mhennawd rheoliad 25 ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “, cydsyniad seilwaith neu gydsyniad dilynol”.
(23) Yn rheoliad 25 —
(a) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol”, ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig”;
(b) ar ôl “caniatâd cynllunio” ym mhob lle y mae’n digwydd, mewnosoder “, cydsyniad seilwaith”.
(24) Yn rheoliad 26(1) ar ôl “neu Weinidogion Cymru,” mewnosoder “yr awdurdod archwilio neu’r person penodedig”.
(25) Yn rheoliad 27 —
(a) ym mharagraff (2)(b)—
(i) ar ôl “am ganiatâd cynllunio” mewnosoder “, cydsyniad seilwaith”;
(ii) ar ôl “(neu ran berthnasol o’r gofrestr honno)” mewnosoder “neu’r gofrestr seilwaith briodol”;
(b) ar ôl paragraff (3) mewnosoder—“
(4) Pan fo manylion am gais am gydsyniad seilwaith neu gais dilynol yn cael eu gosod ar gofrestr seilwaith, rhaid i’r awdurdod cynllunio perthnasol a Gweinidogion Cymru osod ar y gofrestr seilwaith gopi o unrhyw—
(a) barn sgrinio;
(b) cyfarwyddyd sgrinio;
(c) barn gwmpasu;
(d) cyfarwyddyd cwmpasu;
(e) hysbysiad a roddwyd o dan reoliad 32(2) (ceisiadau a wneir heb ddatganiad amgylcheddol);
(f) cyfarwyddyd o dan reoliad 5(4) neu (5);
(e) datganiad amgylcheddol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth bellach ac unrhyw wybodaeth arall;
(f) datganiad o resymau sy’n dod gydag unrhyw rai o’r uchod.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru, cyn cael hysbysiad o gais arfaethedig yn unol ag adran 29 o Ddeddf 2024 ar gyfer y datblygiad o dan sylw,
(a) yn rhoi cyfarwyddyd sgrinio neu gyfarwyddyd cwmpasu neu gyfarwyddyd o dan reoliad 5(4); neu
(b) yn cael gofyniad o dan reoliad 31(1) neu 33(1),
rhaid iddynt gymryd camau i sicrhau bod copi o’r farn, y cyfarwyddyd, y gofyniad ac unrhyw ddatganiad o resymau sy’n dod gydag ef neu hi yn cael eu rhoi ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt ar bob adeg resymol yn y lle y cedwir y gofrestr seilwaith briodol.”
(26) Yn rheoliad 28 —
(a) ym mharagraff (1) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “, awdurdod archwilio, person penodedig”;
(b) ym mharagraff (2)(b) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “, cydsyniad seilwaith”;
(c) ym mharagraff (2)(b)(i) ar ôl “awdurdod cynllunio perthnasol” mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig” ac ym mharagraff (iv) ar ôl “awdurdod” mewnosoder “, yr awdurdod archwilio, y person penodedig”;
(d) ym mharagraff (2)(c) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “, cydsyniad seilwaith”.
(27) Yn rheoliad 29(2)—
(a) ar ôl “gan Weinidogion Cymru” mewnosoder “, yr awdurdod cynllunio, y person penodedig”;
(b) ar ôl “i Weinidogion Cymru” mewnosoder “neu’r person penodedig os yw wedi penderfynu ar y cais,”.
(28) Ym mhennawd Rhan 8, ar ôl “am ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”.
(29) Yn rheoliad 30(1) ar ôl “am ganiatâd cynllunio” yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”.
(30) Yn rheoliad 31 hepgorer paragraff (2)(e).
(31) Yn rheoliad 32(6) yn lle “rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu ar y cais drwy wrthod caniatâd cynllunio yn unig” rhodder “ni chaiff Gweinidogion Cymru ond penderfynu ar y cais drwy wrthod caniatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith”.
(32) Yn rheoliad 33 —
(a) ym mharagraff (1) ar ôl “am ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”;
(b) hepgorer paragraff (2)(d).
(33) Ym mhennawd rheoliad 35 ar ôl “cais cynllunio” mewnosoder “neu’r cais am gydsyniad seilwaith”.
(34) Yn rheoliad 35, yn yr ailddatganiad o reoliad 19(2)(a), ar ôl “am ganiatâd cynllunio” mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”.
(35) Yn rheoliad 36 yn lle “ag erthygl 18(2) o Orchymyn 2016” rhodder “â rheoliad 24 o Reoliadau Ceisiadau 2025”.
(36) Ym mhennawd rheoliad 40, ar y dechrau, mewnosoder “Hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig, gorchmynion o dan adran 90 o Ddeddf 2024,”.
(37) Yn rheoliad 40 —
(a) ar ôl paragraff (1) mewnosoder—“
(1A) Mae’r rheoliad hwn hefyd yn gymwys pan fo—
(a) awdurdod cynllunio lleol neu Weinidogion Cymru yn bwriadu rhoi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gynnal datblygiad AEA, neu
(b) Gweinidogion Cymru yn bwriadu gwneud gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024 sy’n addasu gorchymyn cydsyniad seilwaith.”;
(b) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Ni chaiff yr awdurdod cynllunio lleol na Gweinidogion Cymru roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i berson gynnal datblygiad Atodlen 2 oni bai bod yr awdurdod wedi gofyn am farn sgrinio a’i mabwysiadu neu fod Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.
(2B) Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024 mewn perthynas â datblygiad Atodlen 2 oni bai eu bod wedi gwneud cyfarwyddyd sgrinio.”;
(c) ym mharagraff (3)(c)(i) yn lle “am orchymyn adran 97” rhodder “am hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024, gorchymyn adran 97”;
(d) ym mharagraff (3)(c)(ii)—
(i) yn lle “am wneud” rhodder “am roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, gwneud”;
(ii) ar ôl “gorchymyn adran 102” mewnosoder “, neu wneud y gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024”;
(e) ym mharagraff (3)(c)(iv) yn lle “gorchymyn adran 97” rhodder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gynnal datblygiad AEA, gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024 sy’n addasu cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad Atodlen 1 neu ddatblygiad Atodlen 2, neu orchymyn adran 97”;
(f) ym mharagraff (5) yn lle “wneud” rhodder “roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, na gwneud”;
(g) ym mharagraff (6)—
(i) yn lle “gadarnhau” rhodder “roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, na chadarnhau”;
(ii) ar ôl “na gwneud” mewnosoder “gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024,”;
(h) ar ôl paragraff (6) mewnosoder—“
(7) Yn y rheoliad hwn ac Atodlen 6, nid yw cyfeiriadau at orchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024 ond yn gyfeiriadau at orchymyn y bwriedir ei wneud neu a wneir heb wneud cais o dan adran 90(3) neu (4) o Ddeddf 2024.”
(38) Yn rheoliad 42 —
(a) yn y diffiniad o “swyddogaethau gorfodi” (“enforcement functions”)—
(i) ym mharagraff (e), hepgorer “a”;
(ii) ar ôl paragraff (f) mewnosoder—“
(g) arfer y pŵer i fynd ar dir o dan adran 106 o Ddeddf 2024 (pwerau i fynd ar dir at ddibenion gorfodi);
(h) cyflwyno hysbysiad gwybodaeth o dan adran 111 o Ddeddf 2024 (pŵer i wneud gwybodaeth yn ofynnol);
(i) rhoi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig o dan adran 113 o Ddeddf 2024 (hysbysiad datblygiad anawdurdodedig);
(j) dyroddi hysbysiad stop dros dro o dan adran 117 o Ddeddf 2024 (pŵer i ddyroddi hysbysiad stop dros dro); a
(k) cais i’r llys am waharddeb o dan adran 122 o Ddeddf 2024 (gwaharddeb i atal gweithgarwch gwaharddedig);”;
(b) yn y diffiniad o “datblygiad AEA anawdurdodedig” (“unauthorised EIA development”) ar ddiwedd y diffiniad mewnosoder “neu hysbysiad datblygiad anawdurdodedig o dan adran 113 o Ddeddf 2024”.
(39) Yn rheoliad 56 —
(a) ym mharagraff (3)(c) ar ôl “unrhyw ganiatâd cynllunio” mewnosoder “, unrhyw orchymyn cydsyniad seilwaith neu unrhyw orchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024”;
(b) ym mharagraff (4) ar ôl “caniatâd cynllunio” mewnosoder “neu gydsyniad seilwaith”.
(40) Yn rheoliad 63(2) hepgorer “heblaw cais o dan adran 62D o Ddeddf 1990 (datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol: ceisiadau am ganiatad cynllunio),”.
(41) Ym mhennawd Atodlen 6 ar y dechrau mewnosoder “Hysbysiadau datblygiad anawdurdodedig, gorchmynion a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024, a”.
(42) Yn Atodlen 6—
(a) ym mharagraff 3 ar ôl “a fyddai’n gyfrifol am” mewnosoder “roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu”;
(b) ym mharagraff 5(a) ar ôl “at gynnig ar gyfer” mewnosoder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024,”;
(c) ym mharagraff 5(c) yn lle “gorchymyn adran 97” rhodder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig sy’n ei gwneud yn ofynnol i berson gynnal datblygiad AEA, gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024 sy’n rhoi cydsyniad seilwaith ar gyfer datblygiad AEA neu’n addasu cydsyniad o’r fath, neu orchymyn adran 97”;
(d) ym mharagraff 6—
(i) ar ôl “drwy wrthod”, yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “rhoi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, neu drwy wrthod”;
(ii) ar y diwedd mewnosoder “, neu drwy wrthod gwneud y gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024”;
(e) ym mharagraff 7, yn yr ailddatganiad o reoliad 14(1), o flaen “gorchymyn adran 97 arfaethedig” mewnosoder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig arfaethedig, gorchymyn arfaethedig a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024,”;
(f) ym mharagraff 11, yn yr ailddatganiad o reoliad 18—
(i) ym mharagraff (1) ar ôl “sy’n ymwneud â” mewnosoder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024,”;
(ii) ym mharagraff (1)(a), ar ôl “copi o’r” mewnosoder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig drafft, y gorchymyn drafft a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024, y”;
(g) ym mharagraff 12(b), yn yr ailddatganiad o reoliad 19(2)(b), yn lle “y gorchymyn adran 97” rhodder, “yr hysbysiad datblygiad anawdurdodedig arfaethedig, y gorchymyn arfaethedig a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024, y gorchymyn adran 97 arfaethedig”;
(h) ym mharagraff 14, yn yr ailddatganiad o reoliad 22—
(i) ym mharagraff (1) yn lle “gwneud” rhodder “rhoi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu wneud”;
(ii) ar ôl paragraff (2) mewnosoder—“
(2A) Pan mai Gweinidogion Cymru yw’r corff cychwyn, rhaid iddynt anfon i unrhyw awdurdod cynllunio ar gyfer yr ardal y mae’r datblygiad arfaethedig y mae’r hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu’r gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024 yn ymwneud ag ef ynddi, gopi o’r datganiad amgylcheddol a luniwyd mewn perthynas â’r hysbysiad arfaethedig neu’r gorchymyn arfaethedig.”;
(iii) ym mharagraff (3), ar ôl “â pharagraff (2)” mewnosoder “neu (2A)”;
(i) ym mharagraff 16—
(i) yn is-baragraff (a) ar ôl “pa un ai i” mewnosoder “roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu” ac ar ôl “neu orchymyn adran 102” mewnosoder “neu wneud gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024”;
(ii) hepgorer “a” ar ddiwedd is-baragraff (a);
(iii) ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—“
(c) “caniatâd cynllunio” yn darllen “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, caniatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith”;
(d) yn y testun Saesneg, “granted” yn darllen “given or granted”.”;
(j) ym mharagraff 18, yn yr ailddatganiad o reoliad 28(1)—
(i) ar ôl “corff cychwyn yn” mewnosoder “rhoi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, neu’n”;
(ii) ar ôl “gwneud” mewnosoder “gorchymyn o dan adran 90 o Ddeddf 2024,”;
(k) ym mharagraff 19, yn yr ailddatganiad o reoliad 29—
(i) ym mharagraff (1) ar ôl “penderfyniad i” yn yr ail le y mae’n digwydd, mewnosoder “roi hysbysiad datblygiad anawdurdodedig neu”;
(ii) ym mharagraff (2) a (3) ar ôl “Pan fo” mewnosoder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig yn cael ei roi neu fod”;
(iii) ym mharagraff (3)(b) ar ôl “edrych arno” mewnosoder “, mewn perthynas â gorchymyn adran 97 neu orchymyn adran 102”, ac ar ôl “eu cadw” mewnosoder “, mewn unrhyw achos arall mewn unrhyw le sy’n rhesymol o dan yr amgylchiadau”;
(l) ym mharagraff 20—
(i) yn is-baragraff (b), yn yr ailddatganiad o baragraff 56(1)(a) yn lle “orchymyn adran 97” rhodder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig, gorchymyn a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024, gorchymyn adran 97”;
(ii) ar ddiwedd is-baragraff (b) hepgorer “ac”;
(iii) yn is-baragraff (c) yn lle “gorchymyn adran 97” rhodder “hysbysiad datblygiad anawdurdodedig arfaethedig, gorchymyn arfaethedig a wneir o dan adran 90 o Ddeddf 2024, gorchymyn adran 97 arfaethedig”;
(iv) ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder—“
(d) ym mharagraff (3)(c), “unrhyw ganiatâd cynllunio” yn darllen “unrhyw ganiatâd cynllunio neu unrhyw orchymyn cydsyniad seilwaith”; ac
(e) ym mharagraff (4), “caniatâd cynllunio” yn darllen “caniatâd cynllunio neu gydsyniad seilwaith, neu cyn y rhoddir hysbysiad datblygiad anawdurdodedig”.”
(43) Yn Atodlen 9, hepgorer paragraff 2.
(44) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiadau ym mharagraffau (2) i (43) wedi eu gwneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Rheoliadau hynny’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
13 

(1) Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 7(1)—
(a) hepgorer yr “and” ar ddiwedd paragraff (b);
(b) ar ôl is-baragraff (c), mewnosoder—“; and
(d) an examining authority appointed under section 40 of the Infrastructure (Wales) Act 2024.”
(3) Yn rheoliad 9(2)—
(a) hepgorer yr “and” ar ôl is-baragraff (m);
(b) ar ôl is-baragraff (n), mewnosoder—“; and
(o) the Infrastructure (Wales) Act 2024.”
(4) Yn rheoliad 65, ar ôl paragraff (4), mewnosoder—“
(5) Where the plan or project to which this regulation applies was consented to by an examining authority appointed under section 40 of the Infrastructure (Wales) Act 2024, the duties and functions in paragraphs (1) to (3) must be carried out by the Welsh Ministers.”
14 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1), ar ôl y diffiniad o “datblygiad adran 90” (“section 90 development”), mewnosoder—“
 ystyr “datblygiad cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae ceisydd yn gwneud cais am gydsyniad mewn cysylltiad ag ef yn unol â darpariaethau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024;”.
(3) Yn rheoliad 3 —
(a) hepgorer yr “a” ar ddiwedd paragraff (a);
(b) ar ôl paragraff (b), mewnosoder—“; ac
(c) y bydd unrhyw ddatblygiad cydsyniad seilwaith wedi ei leoli.”
15 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Amrywio Cydsyniadau) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2—
(a) ar ôl y diffiniad o “datblygiad arfaethedig” (“proposed development”) mewnosoder—“
 ystyr “datblygiad cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent development”) yw unrhyw ddatblygiad sy’n gysylltiedig â’r cydsyniad adran 36 perthnasol—
(a) y mae gorchymyn o dan adran 60(1) neu 90(1) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 wedi ei roi mewn cysylltiad ag ef; neu
(b) y mae’r ceisydd, wrth wneud cais amrywio, yn gwneud cais am gydsyniad o dan ddarpariaethau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024 mewn cysylltiad ag ef.”;
(b) yn y diffiniad o “datblygiad arfaethedig” (“proposed development”)—
(i) hepgorer yr “ac” ar ddiwedd paragraff (b);
(ii) ar ôl paragraff (c), mewnosoder—“; a
(d) unrhyw ddatblygiad cydsyniad seilwaith nad yw’n ofynnol cael cydsyniad adran 36 mewn cysylltiad ag ef;”.
(3) Yn rheoliad 3(2)—
(a) hepgorer yr “a” ar ddiwedd is-baragraff (c);
(b) ar ôl is-baragraff (d) mewnosoder—“
(e) unrhyw orchymyn a roddir o dan adran 60(1) neu 90(1) o Ddeddf Seilwaith (Cymru) 2024 sy’n gysylltiedig â’r cydsyniad adran 36 perthnasol; ac
(f) unrhyw gais a gyflwynir am gydsyniad seilwaith sy’n gysylltiedig â’r cydsyniad adran 36 perthnasol, neu am amrywiad i gydsyniad o’r fath, a wneir yn unol â darpariaethau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.”
16 

(1) Mae Rheoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Gweithdrefn Ymchwiliadau) (Cymru) 2019 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1)—
(a) ar ôl y diffiniad o “datblygiad adran 90” (“section 90 development”) mewnosoder—“
 ystyr “datblygiad cydsyniad seilwaith” (“infrastructure consent development”) yw unrhyw ddatblygiad y mae ceisydd yn gwneud cais am gydsyniad mewn cysylltiad ag ef yn unol â darpariaethau Deddf Seilwaith (Cymru) 2024.”;
(b) yn y diffiniad o “lle” (“place”)—
(i) hepgorer yr “a” ar ddiwedd paragraff (a);
(ii) ar ôl paragraff (b), mewnosoder—“; ac
(c) y bydd unrhyw ddatblygiad cydsyniad seilwaith wedi ei leoli;”.
17 

(1) Mae Rheoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 4, hepgorer paragraffau 11 i 13 a’u penawdau.
(3) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiad ym mharagraff (2) wedi ei wneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Rheoliadau hynny’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
18 

(1) Mae Rheoliadau Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (Darpariaeth Ganlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliadau 75 i 83.
(3) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiad ym mharagraff (2) wedi ei wneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Rheoliadau hynny’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
19 

(1) Mae Rheoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 14 a’i bennawd.
(3) Mae’r Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn cael effaith fel pe na bai’r diwygiad ym mharagraff (2) wedi ei wneud i’r graddau y mae darpariaethau’r Rheoliadau hynny’n ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o Ddeddf 2024.
RHAN 2
20 

(1) At ddibenion adran 146(2)(a) o Ddeddf 2024, nid yw cais a ddisgrifir yng ngholofn gyntaf y tabl a ganlyn wedi ei wneud hyd nes y bo’r gofynion yn ail golofn y tabl hwnnw sy’n gymwys i’r cais wedi eu bodloni—

(a) Cais am ganiatâd cynllunio o dan Ran 3 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, heblaw o dan adran 62D; Erthygl 22(3) o Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
.


(b) Cais am ganiatâd cynllunio o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990; 
(i) Erthygl 12(1) i (4) ac (8),
(ii) erthygl 12A fel y’i mewnosodir gan reoliad 41(c) o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, a
(iii) erthygl 13, os yw’n gymwys,o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016.


(c) Cais am gydsyniad o dan adran 36 o Ddeddf Trydan 1989; Rheoliad 3 o Reoliadau Trydan (Gorsafoedd Cynhyrchu Alltraeth) (Ceisiadau am Gydsyniad) (Cymru) 2019
.


(d) Cais am awdurdodiad o dan Bennod 3 o Ran 2 (rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar henebion cofrestredig) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023; Adran 14 o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 a rheoliad 2 o Reoliadau Ceisiadau am Gydsyniad Heneb Gofrestredig (Cymru) 2024
.


(e) Cais am awdurdodiad o dan Bennod 2 o Ran 3 (rheolaethu gwaith sy’n effeithio ar adeiladau rhestredig) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023; 
(i) Adrannau 90(2) a 106(2) a (3)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, a
(ii) rheoliadau 3, 4, 6, 19 ac 21 o Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.

(f) Cais am awdurdodiad o dan Ran 4 (rheolaethu dymchwel mewn ardaloedd cadwraeth) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023 (gweler adran 163 o’r Ddeddf honno); 
(i) Adrannau 90(2) a 106(2) a (3)(a) o Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023, a
(ii) rheoliadau 3, 4, 6, 19 ac 21 o Reoliadau Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth (Gweithdrefn a Chyfradd Llog) (Cymru) 2024.

(g) Gorchymyn o dan adran 14 neu adran 16 o Ddeddf Harbyrau 1964; Paragraff 7 o Atodlen 3 i Ddeddf Harbyrau 1964
.


(h) Gorchymyn o dan adran 1 neu 3 o Ddeddf Trafnidiaeth a Gweithfeydd 1992; Rheolau 9 i 12 o Reolau Trafnidiaeth a Gweithfeydd (Gweithdrefn Ceisiadau a Gwrthwynebiadau) (Cymru a Lloegr) 2006
.

(2) At ddibenion adran 146(2)(b) o Ddeddf 2024, nid yw hysbysiad o dan adran 62E(1) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 wedi ei wneud hyd nes y bo gofynion erthygl 5 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016, fel y’i haddesir gan reoliad 41(a) o Reoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016, wedi eu bodloni.
(3) At ddibenion adran 146(2)(c) o Ddeddf 2024, ni chaiff gorchymyn na chynllun yng ngholofn gyntaf y tabl a ganlyn ei drin fel pe bai’n cael ei ystyried hyd nes y bo’r gofyniad yn ail golofn y tabl hwnnw wedi ei fodloni—

(a) Gorchymyn o dan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (sy’n cyfarwyddo y dylai priffordd ddod yn gefnffordd); Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980
.


(b) Gorchymyn o dan adran 14 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â chefnffyrdd); Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980.

(c) Gorchymyn o dan adran 16 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (cynlluniau sy’n awdurdodi darparu ffyrdd arbennig); Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980
.


(d) Gorchymyn o dan adran 18 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (gorchmynion atodol sy’n ymwneud â ffyrdd arbennig); Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980.

(e) Gorchymyn o dan adran 106 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (gorchmynion a chynlluniau sy’n darparu ar gyfer adeiladu pontydd dros ddyfroedd mordwyol neu dwneli odanynt); Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980.

(f) Gorchymyn o dan adran 108 o Ddeddf Priffyrdd 1980 (gorchmynion sy’n awdurdodi dargyfeirio cyrsiau dŵr mordwyol); Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 1 o Atodlen 1 i Ddeddf Priffyrdd 1980.

(g) Gorchymyn o dan adran 6 o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991 (gorchmynion tollau). Cyhoeddi drafft o’r gorchymyn yn unol â pharagraff 1 neu 2, yn ôl y digwydd, o Atodlen 1 i Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gwaith Stryd 1991.
(4) At ddibenion adran 146(3)(b), nid yw cais wedi ei wneud o dan adran 62D o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 hyd nes y bo gofynion erthyglau 12(1) i (4) ac (8) a 13 o Orchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016 sy’n gymwys i’r cais wedi eu bodloni.
(5) Yn y rheoliad hwn—
 ystyr “awdurdod cynllunio” (“planning authority”) yw awdurdod cynllunio lleol o fewn yr ystyr a roddir i “planning authority” gan Ran 1 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990;
 mae i “datblygiad” (“development”) yr ystyr a roddir yn adran 133 o Ddeddf 2024.
21 
Yn ddarostyngedig i arbedion, mae’r offerynnau a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) 2016;
(b) Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymhwyso Deddfiadau) (Cymru) 2016;
(c) Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) 2016;
(d) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) 2016;
(e) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) 2016;
(f) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig a Chydsyniadau Eilaidd Rhagnodedig) (Cymru) (Diwygio) 2016;
(g) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Meini Prawf Penodedig, Ffioedd a Ffioedd am Geisiadau Tybiedig) (Cymru) (Diwygio) 2019;
(h) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2019;
(i) Gorchymyn Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Gweithdrefn) (Cymru) (Diwygio) 2019;
(j) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Cymru) (Diwygio) 2024;
(k) Rheoliadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2024.
22 
Mae adran 146(10) o Ddeddf 2024 yn arbed darpariaethau Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 fel pe na bai’r diwygiadau ym mharagraff 4 o Atodlen 3 i Ddeddf 2024 wedi eu gwneud, i’r graddau y maent yn ymwneud â datblygiad nad yw adrannau 19 nac 20 o Ddeddf 2024 yn gymwys iddo yn rhinwedd adran 146 o’r Ddeddf honno, ac yn unol â hynny mae’r offerynnau y cyfeirir atynt yn rheoliad 21 yn parhau i fod yn gymwys i ddatblygiad o’r fath.
Rebecca Evans
Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

11 Tachwedd 2025