
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Carcasau Defaid (Dosbarthu ac Adrodd am Brisiau) (Cymru) 2025.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn, ac eithrio’r darpariaethau a bennir ym mharagraff (3), i rym ar 28 Ionawr 2026.
(3) Daw’r darpariaethau a ganlyn i rym ar 12 Chwefror 2027—
(a) rheoliad 5(1)(b) a (6);
(b) rheoliad 11(2)(g);
(c) rheoliad 13(b);
(d) rheoliadau 16 a 17;
(e) rheoliad 18 i’r graddau y mae’n ymwneud â dulliau dosbarthu awtomataidd y cyfeirir atynt yn rheoliadau 16 a 17;
(f) rheoliadau 19 ac 20;
(g) rheoliad 23(2)(b);
(h) Atodlen 2.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “carcas” (“carcass”) yw corff cyfan dafad a gigyddwyd—
(a) fel y’i cyflwynir yn unol â rheoliad 7, ar ôl ei waedu, ei ddiberfeddu a thynnu ei groen, a
(b) sy’n dwyn marc iechyd y darperir ar ei gyfer ym mharagraff 4 o Erthygl 18 o Reoliad (EU) Rhif 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir I sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, ac yn Erthygl 48 o Reoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2019/627 dyddiedig 15 Mawrth 2019 ac Atodiad 2 iddo sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl;
 ystyr “cofnod dosbarthiad” (“classification record”) yw’r cofnod o’r dosbarthiad sy’n cynnwys yr wybodaeth a nodir yn rheoliad 5(5);
 ystyr “cyfartaledd blynyddol treigl” (“rolling annual average”) yw’r cyfartaledd cymedrig a gyfrifir ar gyfer y flwyddyn cyn unrhyw adeg benodol;
 ystyr “dosbarthiad” (“classification”) yw dosbarthiad carcasau yn unol â rheoliad 5(2)(b) ac Atodlen 1;
 ystyr “dosbarthu carcasau drwy edrych arnynt” (visual classification) yw dosbarthiad a gynhelir gan ddosbarthwr trwyddedig drwy edrych a heb gymorth dull dosbarthu awtomataidd;
 ystyr “dosbarthwr trwyddedig” (“licensed classifier”) yw person y rhoddwyd trwydded iddo o dan reoliad 14(1);
 ystyr “dull dosbarthu awtomataidd awdurdodedig” (“authorised automated classification method”) yw dull dosbarthu awtomataidd a awdurdodir gan Weinidogion Cymru yn unol â rheoliad 19;
 ystyr “dulliau dosbarthu awtomataidd” (“automated classification methods”) yw dulliau dosbarthu sy’n cynnwys—
(a) peiriant neu gyfarpar arall, a
(b) fformiwla,y gellir eu defnyddio neu ei defnyddio i ddosbarthu carcasau defaid yn awtomatig;
 ystyr “gweithredwr” (“operator”) yw person sy’n cynnal busnes gweithredu lladd-dy cymeradwy;
 mae i “gwiriadau yn y fan a’r lle” (“on-the-spot checks”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 23;
 mae i “hysbysiad cosb ariannol” (“monetary penalty notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 28(1);
 mae i “hysbysiad cydymffurfio” (“compliance notice”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 27(1);
 ystyr “lladd-dy cymeradwy” (“approved slaughterhouse”) yw sefydliad yng Nghymru—
(a) a ddefnyddir ar gyfer cigydda defaid, a
(b) sydd wedi ei gymeradwyo neu wedi ei gymeradwyo’n amodol o dan Erthygl 4 o Reoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 29 Ebrill 2004 sy’n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy’n tarddu o anifail;
 ystyr “lladd-dy rheoleiddiedig” (“regulated slaughterhouse”) yw lladd-dy cymeradwy y mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo yn unol â rheoliad 3(1);
 ystyr “llai na 12 mis oed” (“aged less than 12 months”), mewn perthynas ag unrhyw ddafad, yw—
(a) nad oes ganddi flaenddant parhaol wedi torri drwy’r deintgig, neu
(b) y canfyddir ei bod yn llai na 12 mis oed drwy unrhyw ddull asesu oedran a gymeradwyir gan Weinidogion Cymru;
 ystyr “manyleb carcas” (“carcass specification”) yw un o’r manylebau ar gyfer paratoi carcas a nodir yn rheoliad 7(2) a (3);
 mae i “pwysau cynnes” (“warm weight”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(2);
 ystyr “pwysau marw” (“deadweight”) yw wedi ei phrynu ar y sail bod yr union bris i’w sefydlu ar ôl i’r ddafad gael ei lladd, yn ôl y pwysau, y dosbarthiad neu’r meini prawf eraill a bennwyd ymlaen llaw y canfyddir wedi hynny ei bod yn eu bodloni;
 mae i “pwysau oer” (“cold weight”) yr ystyr a roddir yn rheoliad 10(3);
 ystyr “rhif cymeradwyo” (“approval number”) yw’r rhif a ddyrennir i ladd-dy i ddynodi ei fod yn lladd-dy cymeradwy;
 ystyr “swyddog awdurdodedig” (“authorised officer”) yw person a awdurdodir gan Weinidogion Cymru i gynnal gwiriadau yn y fan a’r lle o dan reoliad 23 ac i arfer pwerau o dan reoliadau 25 a 26.
3 

(1) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i—
(a) lladd-dy cymeradwy lle y cigyddir o leiaf 2,000 o ddefaid yr wythnos fel cyfartaledd blynyddol treigl, a
(b) lladd-dy cymeradwy lle y cigyddir o leiaf 1,000 ond llai na 2,000 o ddefaid yr wythnos fel cyfartaledd blynyddol treigl, y rhoddwyd hysbysiad mewn cysylltiad ag ef o dan baragraff (2) nad yw wedi ei dynnu yn ôl.
(2) Caiff gweithredwr lladd-dy cymeradwy o’r math a ddisgrifir ym mharagraff (1)(b) roi hysbysiad i Weinidogion Cymru yn gofyn i’r Rheoliadau hyn fod yn gymwys mewn perthynas â’r lladd-dy hwnnw.
(3) Ni all gweithredwr dynnu hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2) yn ôl o fewn 12 mis o’r dyddiad y’i rhoddwyd oni bai bod Gweinidogion Cymru yn cytuno.
(4) Ym mharagraff (1)—
(a) ystyr “wythnos” yw cyfnod o saith niwrnod o ddydd Llun i ddydd Sul yn gynwysedig, a
(b) mae cyfeiriadau at “cyfartaledd blynyddol treigl” yn gyfeiriadau at y cyfartaledd hwnnw a gyfrifir gan ladd-dy cymeradwy yn fisol.
4 

(1) Rhaid i unrhyw berson sy’n weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig ar 28 Ionawr 2026, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3).
(2) Rhaid i unrhyw berson sy’n dod yn weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig ar ôl 28 Ionawr 2026, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad daw’n weithredwr, roi hysbysiad i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff (3).
(3) Rhaid i hysbysiad o dan y paragraff hwn gael ei roi yn ysgrifenedig a rhaid iddo gynnwys—
(a) cyfeiriad, rhif teleffon a rhif cymeradwyo’r lladd-dy,
(b) enw llawn a chyfeiriad y gweithredwr,
(c) pan fo’r gweithredwr yn bartneriaeth neu pan fo cydberchnogion, enwau llawn a chyfeiriadau pob un o’r partneriaid yn y bartneriaeth neu bob berchennog ar y busnes, a
(d) pan fo’r gweithredwr yn gorff corfforedig, rhif cofrestru’r corff corfforedig.
(4) Pan fo newid yn digwydd i unrhyw wybodaeth a gynhwysir mewn hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (3), rhaid i’r gweithredwr, cyn diwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y mae’r newid hwnnw’n digwydd, roi hysbysiad o fanylion y newid i Weinidogion Cymru.
(5) Pan fo lladd-dy yn peidio â bod yn lladd-dy rheoleiddiedig, rhaid i weithredwr y lladd-dy hwnnw, cyn diwedd y cyfnod o 10 diwrnod sy’n dechrau â’r diwrnod y mae hynny’n digwydd, roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i Weinidogion Cymru.
(6) At ddibenion y rheoliad hwn ystyr “partneriaeth” yw—
(a) busnes sy’n dod o fewn yr ystyr a roddir i “partnership” yn adran 1 o Ddeddf Partneriaeth 1890, neu
(b) partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig sy’n dod o fewn yr ystyr a roddir i “limited liability partnership” yn adran 1 o Ddeddf Partneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig 2000.
RHAN 2
5 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau bod carcas pob dafad sy’n llai na 12 mis oed ar adeg ei chigydda yn y lladd-dy hwnnw yn cael ei ddosbarthu yn unol â pharagraff (2)—
(a) drwy edrych arno gan ddosbarthwr trwyddedig, neu
(b) drwy ddefnyddio dull dosbarthu awtomataidd awdurdodedig.
(2) Rhaid i ddosbarthiadau o dan y paragraff hwn—
(a) cael eu cynnal ar yr adeg y mae pwysau cynnes y carcas yn cael ei ganfod yn unol â rheoliad 10, a
(b) yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), ddosbarthu’r carcas yn ôl—
(i) dosbarth cydffurfiad o golofn gyntaf Tabl 1 yn Atodlen 1, a
(ii) dosbarth gorchudd braster o golofn gyntaf Tabl 2 yn yr Atodlen honno.
(3) Caniateir isrannu pob un o’r dosbarthau cydffurfiad yng ngholofn gyntaf Tabl 1 yn Atodlen 1, neu orchudd braster yng ngholofn gyntaf Tabl 2 yn yr Atodlen honno, yn dri is-ddosbarth: Isel (wedi ei farcio fel “-”), Canolig (wedi ei farcio fel “=”) ac Uchel (wedi ei farcio fel “+”).
(4) Os nad yw’r opsiwn ym mharagraff (3) yn cael ei arfer mewn perthynas â’r dosbarthau gorchudd braster—
(a) “3. Cymedrol”, a
(b) “4. Uchel”,
rhaid isrannu’r dosbarthau gorchudd braster hynny yn is-ddosbarthau Isel (wedi ei farcio fel “I”) ac Uchel (wedi ei farcio fel “U”).
(5) Rhaid i’r gweithredwr gadw cofnod dosbarthiad ar gyfer pob carcas a ddosberthir o dan baragraff (1), sy’n cynnwys—
(a) y fanyleb gyflwyno a ddefnyddir o dan reoliad 7,
(b) pwysau oer y carcas a ganfyddir yn unol â rheoliad 10(3), ac
(c) y dosbarthiad a benderfynir o dan baragraffau (2)(b), (3) a (4).
(6) Os yw gweithredwr lladd-dy rheoleiddiedig yn defnyddio dull dosbarthu awtomataidd a bod y dull hwnnw’n methu â dosbarthu carcas yn gywir, rhaid i’r gweithredwr sicrhau bod y carcas yn cael ei ddosbarthu drwy edrych arno gan ddosbarthwr trwyddedig cyn gynted â phosibl ar ôl nodi’r methiant hwnnw.
6 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau nad oes unrhyw fraster, unrhyw gyhyrau neu unrhyw feinwe arall yn cael eu tynnu o garcas yn y lladd-dy hwnnw cyn ei bwyso a’i ddosbarthu.
(2) Mae paragraff (1) yn ddarostyngedig i—
(a) rheoliad 7, a
(b) cymhwyso gofynion milfeddygol.
(3) Yn y rheoliad hwn, ystyr “gofynion milfeddygol” yw’r gofynion sy’n ymwneud â gwiriadau swyddogol post-mortem yn—
(a) Rheoliad (EU) Rhif 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 15 Mawrth 2017 ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir y gyfraith o ran bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ynghylch iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, a
(b) Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn (EU) Rhif 2019/627 dyddiedig 15 Mawrth 2019 sy’n gosod trefniadau ymarferol unffurf ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy’n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir ar gyfer eu bwyta gan bobl.
7 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau bod pob carcas yn y lladd-dy hwnnw yn cael ei gyflwyno i’w ddosbarthu trwy ei hongian a’i baratoi yn unol â’r naill neu’r llall o’r manylebau carcas a nodir ym mharagraff (2) neu (3).
(2) Y “manyleb gyfeirio” yw cyflwyno’r carcas ar ôl tynnu—
(a) y pen, wedi ei dorri wrth y cymal atlantoocsipitol,
(b) y traed, wedi eu torri wrth y cymalau carpometacarpol neu darsometatarsol,
(c) y gynffon, wedi ei thorri rhwng y chweched a’r seithfed fertebra cynffonnol,
(d) y pwrs,
(e) yr organau cenhedlu,
(f) yr afu/iau, ac
(g) y plwc.
(3) “Manyleb safonol y DU” yw cyflwyno’r carcas ar ôl tynnu’r holl rannau a nodir ym mharagraff (2)(a) i (g) ac yn ogystal tynnu dyrnau’r arennau, braster sianel a’r diaffram.
8 
Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau y dyroddir rhif lladdiad unigryw i bob carcas yn y lladd-dy hwnnw sy’n ei gwneud yn bosibl adnabod y carcas a’r llwyth o anifeiliaid y’i cafwyd ohono.
9 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau bod pob carcas a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw yn cael ei labelu ar adeg ei ddosbarthu â label sy’n cynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) y rhif lladdiad adnabod a ddyrennir o dan reoliad 8,
(b) dyddiad cigydda’r anifail y cafwyd y carcas ohono,
(c) rhif cymeradwyo’r lladd-dy,
(d) dosbarthiad y carcas a benderfynir o dan reoliad 5(2)(b), (3) a (4),
(e) pwysau oer y carcas, ac
(f) pa un a gynhaliwyd y dosbarthiad drwy edrych ar y carcas neu drwy ddull dosbarthu awtomataidd.
(2) Rhaid i’r labelau a ddefnyddir at ddibenion paragraff (1) fod yn glir i’w darllen, yn wrth-ymyrraeth ac ynghlwm yn gadarn wrth y carcas.
10 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau bod pwysau oer pob carcas a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw yn cael ei ganfod yn unol â pharagraffau (2) a (3).
(2) Er mwyn canfod ei bwysau cynnes, rhaid pwyso’r carcas i’r 100 gram agosaf—
(a) cyn gynted â phosibl, a
(b) heb fod yn hwyrach na chwe deg munud ar ôl i’r anifail gael ei gigydda.
(3) Pwysau oer y carcas yw ei bwysau cynnes wedi ei leihau gan 2%.
11 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig lunio a chadw cofnod o’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) ar gyfer pob carcas a ddosberthir yn y lladd-dy hwnnw.
(2) Yr wybodaeth y mae rhaid ei chofnodi o dan y paragraff hwn yw—
(a) dyddiad y cigydda,
(b) y rhif lladdiad a ddyrennir o dan reoliad 8,
(c) y cofnod dosbarthiad a wneir o dan reoliad 5(5),
(d) pa un a oedd yr anifail y cafwyd y carcas ohono yn perthyn i’r categori oen tymor newydd neu’r categori oen hen dymor,
(e) cadarnhad bod unrhyw gyfathrebiad â chyflenwr sy’n ofynnol gan reoliad 13 wedi ei roi,
(f) pan fo dosbarthiad wedi ei gynnal drwy edrych ar garcas, enw, llofnod a rhif cyfresol trwydded dosbarthu’r dosbarthwr trwyddedig a gynhaliodd y dosbarthiad,
(g) pan fo dosbarthiad wedi ei gynnal drwy ddull dosbarthu awtomataidd, enw, llofnod a rhif cyfresol trwydded dosbarthu’r person a oruchwyliodd y dosbarthiad,
(h) pan fo’n gymwys, pris y farchnad a bennir yn unol â rheoliad 12(2), ac
(i) pan fo’n gymwys, unrhyw daliad atodol a wneir am y carcas yn unol â rheoliad 12(3).
(3) Rhaid i’r gweithredwr gadw pob cofnod a lunnir o dan baragraff (1) am o leiaf 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y mae’r carcas y mae’r cofnod hwnnw’n ymwneud ag ef wedi ei ddosbarthu ynddi.
(4) Yn y rheoliad hwn—
(a) ystyr “oen tymor newydd” yw dafad sy’n llai na 12 mis oed ac a asesir gan ddosbarthwr trwyddedig ei fod o’r cnwd o ŵyn a anwyd o fis Ionawr i fis Medi yn y flwyddyn galendr gyfredol neu a anwyd o fis Hydref i fis Rhagfyr yn y flwyddyn galendr flaenorol, a
(b) ystyr “oen hen dymor” yw dafad sy’n llai na 12 mis oed nad yw’n oen tymor newydd.
12 

(1) Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau, ar gyfer pob dafad a brynir ar sail pwysau marw, sy’n llai na 12 mis oed ar adeg ei chigydda yn y lladd-dy hwnnw, fod pris y farchnad o ran y carcas yn cael ei gofnodi.
(2) Ym mharagraff (1), ystyr “pris y farchnad” yw’r pris a gyfrifir gan y lladd-dy rheoleiddiedig ar sail dosbarthiad, pwysau, neu nodweddion eraill y carcas a bennwyd ymlaen llaw—
(a) a fynegir mewn ceiniog y cilo,
(b) ac eithrio TAW, ac
(c) cyn unrhyw ddidyniadau ar gyfer costau yr eir iddynt gan y lladd-dy.
(3) Os telir unrhyw daliad atodol am garcas ar ôl cyfrifo pris y farchnad iddo, rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig gofnodi swm y taliad atodol hwnnw a’r rheswm dros y taliad hwnnw, ynghyd â’r wybodaeth sy’n ofynnol o dan baragraff (1).
13 
Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig gyfathrebu’n ysgrifenedig â chyflenwr pob dafad a brynir ar sail pwysau marw, sy’n llai na 12 mis oed ar adeg ei chigydda yn y lladd-dy hwnnw, y canlynol—
(a) yr wybodaeth a gynhwysir yn y cofnodion a gedwir o dan reoliad 11(2)(a) i (c), a
(b) pan fo’n gymwys, datganiad bod dosbarthiad wedi ei gynnal drwy ddefnyddio dull dosbarthu awtomataidd awdurdodedig.
RHAN 3
14 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded i ddosbarthu carcasau defaid drwy edrych arnynt i unrhyw berson sy’n gwneud cais am drwydded o’r fath ac y mae Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni—
(a) ei fod yn meddu ar gymwysterau addas, a
(b) ei fod fel arall yn berson addas a phriodol,
i gyflawni’r rôl honno.
(2) Caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol at ddibenion dosbarthu carcasau defaid drwy edrych arnynt.
15 

(1) Pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, yn ogystal â’r camau sydd ar gael o dan Ran 7, atal dros dro, dirymu neu newid telerau ac amodau trwydded a roddwyd i berson o dan reoliad 14.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo, o ganlyniad i’r gwiriadau a gynhelir o dan reoliad 23 neu wrth arfer pwerau o dan reoliadau 25 neu 26, Gweinidogion Cymru yn nodi nifer sylweddol o—
(a) cyflwyniadau anghywir,
(b) dosbarthiadau anghywir,
(c) dulliau adnabod anghywir, neu
(d) labelau anghywir,
y gellir eu priodoli i’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1).
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau ac amodau trwydded a roddwyd iddo o dan reoliad 14.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r person y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yn berson addas a phriodol mwyach i ddosbarthu carcasau defaid.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn sy’n arwain at hawl i apelio o dan reoliad 18, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) rhoi gwybod i’r person am y penderfyniad yn ysgrifenedig,
(b) rhoi rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c) rhoi gwybod i’r person am yr hawl i apelio o dan reoliad 18,
o fewn cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed y penderfyniad.
16 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff Gweinidogion Cymru, ar gais, roi trwydded i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sy’n caniatáu defnyddio dulliau dosbarthu awtomataidd awdurdodedig ar gyfer dosbarthu carcasau defaid yn y lladd-dy hwnnw.
(2) Pan fo gweithredwr yn gwneud cais am drwydded a ddisgrifir ym mharagraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru, cyn rhoi unrhyw drwydded o’r fath, fod wedi eu bodloni—
(a) bod y dull dosbarthu awtomataidd y mae’r cais yn ymwneud ag ef, a
(b) bod y ffordd y caiff ei weithredu o fewn y lladd-dy rheoleiddiedig,
yn bodloni gofynion rheoliad 19(1) ac Atodlen 2.
(3) Caniateir rhoi trwydded o dan baragraff (1) yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
17 

(1) Pan fo paragraffau (2), (3) neu (4) yn gymwys, caiff Gweinidogion Cymru, yn ogystal â’r camau sydd ar gael o dan Ran 7, atal dros dro, dirymu neu newid telerau ac amodau trwydded a roddwyd i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig o dan reoliad 16.
(2) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru, o ganlyniad i wiriadau yn y fan a’r lle a gynhelir o dan reoliad 23 neu wrth arfer pwerau o dan reoliadau 25 neu 26, yn nodi bod y dull dosbarthu awtomataidd, neu’r ffordd y caiff ei weithredu yn y lladd-dy, wedi cynhyrchu nifer sylweddol o —
(a) cyflwyniadau anghywir,
(b) dosbarthiadau anghywir,
(c) dulliau adnabod anghywir, neu
(d) labelau anghywir.
(3) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’r gweithredwr y cyfeirir ato ym mharagraff (1) wedi torri unrhyw un neu ragor o delerau ac amodau trwydded a roddwyd iddo o dan reoliad 16.
(4) Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw gofynion y Rheoliadau hyn wedi eu bodloni mwyach fel arall mewn cysylltiad â’r dull dosbarthu awtomataidd neu’r ffordd y caiff ei weithredu yn y lladd-dy.
(5) Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwneud unrhyw benderfyniad mewn perthynas â thrwydded o dan y rheoliad hwn sy’n arwain at hawl i apelio o dan reoliad 18, rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) rhoi gwybod i’r gweithredwr am y penderfyniad yn ysgrifenedig,
(b) rhoi rhesymau dros y penderfyniad, ac
(c) rhoi gwybod i’r gweithredwr am yr hawl i apelio o dan reoliad 18,
o fewn y cyfnod o 28 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y gwnaed y penderfyniad.
18 

(1) Caiff person apelio yn ysgrifenedig i berson a benodir at y diben hwnnw gan Weinidogion Cymru.
(2) Rhaid i berson sy’n apelio o dan baragraff (1) apelio o fewn cyfnod o 60 o ddiwrnodau sy’n dechrau ar y diwrnod y caiff y penderfyniad ei hysbysu iddo, neu y gosodir y teler neu’r amod.
(3) Caniateir gwneud apêl o dan baragraff (1) yn erbyn—
(a) penderfyniad gan Weinidogion Cymru i wrthod cais gan y person hwnnw am drwydded o dan reoliad 14 neu 16,
(b) teler neu amod a osodwyd gan Weinidogion Cymru ar roi trwydded o dan reoliad 14 neu 16, neu
(c) penderfyniad gan Weinidogion Cymru i atal dros dro, dirymu neu newid trwydded o dan reoliad 15 neu 17.
(4) Caiff Gweinidogion Cymru hefyd gyflwyno sylwadau ysgrifenedig i’r person a benodir ynglŷn â’r penderfyniad.
(5) Rhaid i’r person a benodir—
(a) ystyried yr apêl ac unrhyw sylwadau a gyflwynir gan Weinidogion Cymru, a
(b) cyflwyno adroddiad ysgrifenedig i Weinidogion Cymru gydag—
(i) eu casgliadau ar yr apêl, a
(ii) argymhelliad ynghylch y modd y dylai’r apêl gael ei phenderfynu yn derfynol gan Weinidogion Cymru.
(6) Yna rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) gwneud penderfyniad terfynol,
(b) hysbysu’r apelydd yn ysgrifenedig am—
(i) y penderfyniad hwnnw, a
(ii) y rhesymau drosto, ac
(c) os yw’r apêl wedi ei chadarnhau, sicrhau bod yr ataliad dros dro, y dirymiad neu’r newid perthnasol i’r drwydded a fu’n destun yr apêl yn cael ei wrthdroi.
RHAN 4
19 

(1) Caiff perchennog dull dosbarthu awtomataidd ofyn i Weinidogion Cymru awdurdodi’r dull hwnnw i’w ddefnyddio mewn lladd-dai rheoleiddiedig.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cais o dan baragraff (1)—
(a) os yw’r dull dosbarthu awtomataidd wedi bod yn destun y broses prawf awdurdodi gyfan a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 2, a
(b) os yw dadansoddiad o ganlyniadau’r prawf yn unol â Rhan 2 o Atodlen 2 yn dangos ei fod wedi bodloni’r lefel o gywirdeb sy’n ofynnol o dan y Rhan honno.
(3) Rhaid i’r awdurdodiad ar gyfer dull dosbarthu awtomataidd nodi’r fanyleb carcas a’r cyflwyniad hongian a ddefnyddir yn y broses brawf ar gyfer y dull hwnnw a’i gwneud yn ofynnol i bob defnydd o’r dull yn y dyfodol o dan reoliad 5 ailadrodd yr un fanyleb carcas a chyflwyniad hongian.
(4) Caniateir rhoi’r awdurdodiad ar gyfer dull dosbarthu awtomataidd, yn ychwanegol at y gofyniad o dan baragraff (3), yn ddarostyngedig i’r telerau ac amodau eraill hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(5) Rhaid i berchennog dull dosbarthu awtomataidd awdurdodedig, neu unrhyw weithredwyr sy’n ei ddefnyddio ar gyfer dosbarthu o dan y Rheoliadau hyn, sicrhau i’r graddau y gallant wneud hynny fod unrhyw ofyniad o dan baragraff (3) neu (4) yn cael ei fodloni.
(6) Yn y rheoliad hwn, ystyr “cyflwyniad hongian” yw’r ffordd y caiff carcas ei hongian o fachau a chambrenni mewn lladd-dy.
20 

(1) Os defnyddir dull dosbarthu awtomataidd awdurdodedig mewn lladd-dy rheoleiddiedig yn unol â thrwydded a roddwyd o dan reoliad 16, rhaid i weithredwr y lladd-dy hwnnw gadw cofnod rheolaethu dyddiol o weithrediad y dull hwnnw.
(2) Pan fo paragraff (1) yn gymwys, rhaid cadw’r cofnod rheolaethu dyddiol am o leiaf 12 mis o ddiwedd y flwyddyn galendr y gwneir y cofnod ynddi.
(3) Rhaid i’r cofnod rheolaethu dyddiol y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gynnwys manylion—
(a) unrhyw ddiffygion a gododd wrth weithredu’r dull dosbarthu awtomataidd, a
(b) unrhyw gamau a gymerwyd mewn cysylltiad â’r diffygion hynny.
RHAN 5
21 
Rhaid i weithredwr lladd-dy rheoleiddiedig sicrhau, ar gyfer pob dafad a brynir ar sail pwysau marw, ac sy’n llai na 12 mis oed ar adeg ei chigydda yn y lladd-dy hwnnw, fod gwybodaeth a gedwir ar gyfer carcas y ddafad honno yn cael ei hadrodd yn ysgrifenedig i berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru at y diben hwnnw, fel a ganlyn—
(a) rhaid i’r wybodaeth a gynhwysir mewn cofnodion a gedwir o dan reoliad 11(2)(a) i (d) ac (h) gael ei hadrodd erbyn nos Lun bob wythnos ar gyfer anifeiliaid a gigyddwyd rhwng y dydd Llun a’r dydd Sul blaenorol yn gynhwysol, a
(b) rhaid i’r wybodaeth a gynhwysir mewn cofnodion a gedwir o dan reoliad 11(2)(i) gael ei hadrodd o fewn saith niwrnod o ddiwedd y chwarter o’r flwyddyn ariannol honno y gwnaed y taliad atodol ynddi.
RHAN 6
22 

(1) Mae’r rheoliad hwn yn ymwneud â gwybodaeth a hysbysir neu a adroddir i Weinidogion Cymru, neu berson a awdurdodir gan Weinidogion Cymru, o dan reoliadau 3(2), 4 neu 21.
(2) Y dibenion y caniateir prosesu’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) atynt yw—
(a) helpu personau mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth i reoli risgiau neu anwadalrwydd y farchnad,
(b) hyrwyddo tryloywder neu degwch mewn cadwyni cyflenwi bwyd-amaeth, ac
(c) monitro neu ddadansoddi marchnadoedd sy’n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi bwyd-amaeth.
(3) Y mathau o brosesu y caniateir eu cynnal gyda’r wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1) yw—
(a) casglu, cofnodi, trefnu, strwythuro neu storio,
(b) diwygio neu newid,
(c) adalw, ymgynghori neu ddefnyddio,
(d) datgelu drwy drosglwyddo, lledaenu neu sicrhau bod yr wybodaeth ar gael fel arall,
(e) cysoni neu gyfuno, neu
(f) cyfyngu, dileu neu ddinistrio.
(4) Ni chaniateir i wybodaeth a ddarperir o dan reoliad 21 gael ei datgelu o dan baragraff (3)(d) ond ar ffurf ddienw.
(5) Caniateir i wybodaeth a ddarperir o dan reoliadau 3(2) neu 4 gael ei datgelu o dan baragraff (3)(d) ar unrhyw ffurf.
RHAN 7
23 

(1) Rhaid i swyddog awdurdodedig o bryd i’w gilydd gynnal gwiriadau o dan y rheoliad hwn (“gwiriadau yn y fan a’r lle”) ym mhob lladd-dy rheoleiddiedig.
(2) Rhaid i’r swyddog awdurdodedig gynnal y gwiriadau yn y fan a’r lle sy’n ofynnol o dan baragraff (1) heb rybudd ymlaen llaw a rhaid iddo wirio cydymffurfedd â’r Rheoliadau hyn yn gyffredinol ac o leiaf mewn cysylltiad â’r canlynol—
(a) cyflwyno, dosbarthu, pwyso, adnabod a labelu’r carcasau, a
(b) pan fo’n gymwys—
(i) cywirdeb parhaus unrhyw ddull dosbarthu awtomataidd awdurdodedig a ddefnyddir yn y lladd-dy a’r ffordd y caiff ei weithredu, a
(ii) y cofnodion rheolaethu dyddiol y cyfeirir atynt yn rheoliad 20(1).
24 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru bennu’r gofynion sylfaenol ar gyfer gwiriadau yn y fan a’r lle ar gyfer pob lladd-dy rheoleiddiedig.
(2) Y gofynion sylfaenol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw gofynion sy’n ymwneud ag—
(a) amlder y gwiriadau yn y fan a’r lle y mae rhaid eu cynnal, a
(b) nifer lleiaf y carcasau sydd i’w gwirio yn ystod y gwiriadau yn y fan a’r lle hynny,
ar sail yr asesiad risg y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
(3) At ddibenion paragraff (1), rhaid i Weinidogion Cymru gynnal asesiad risg y mae rhaid iddo, yn benodol, roi sylw i—
(a) nifer y defaid a gigyddir yn y lladd-dy rheoleiddiedig o dan sylw, a
(b) y canfyddiadau yn ystod unrhyw wiriadau yn y fan a’r lle blaenorol yn y lladd-dy hwnnw.
25 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2), (3) a (6), caiff swyddog awdurdodedig, at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4), fynd i—
(a) lladd-dy rheoleiddiedig, neu
(b) unrhyw fangre gysylltiedig a feddiannir gan, neu sy’n eiddo i, y lladd-dy hwnnw, ei weithredwr neu ei ddosbarthwr trwyddedig, lle y gall carcasau defaid gael eu trin neu lle y gall cofnodion sy’n ymwneud â’r carcasau hynny gael eu cadw.
(2) Oni chaniateir iddo wneud hynny gan warant a roddir o dan baragraff (7), ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd i fangre o dan baragraff (1) ond ar adeg resymol.
(3) Pan fo swyddog awdurdodedig yn mynd i fangre o dan baragraff (1), rhaid iddo gyflwyno naill ai—
(a) os yw’n mynd i fangre o dan warant a roddir o dan baragraff (7), y warant, neu
(b) os nad yw’n mynd i fangre o dan warant a roddir o dan baragraff (7), cadarnhad ysgrifenedig wedi ei ddilysu’n briodol o’r pwerau y mae’n mynd i’r fangre oddi tanynt.
(4) Caiff swyddog awdurdodedig fynd i fangre o dan baragraff (1) i ganfod pa un—
(a) a yw unrhyw doriad o’r Rheoliadau hyn wedi ei gyflawni, neu
(b) a oes unrhyw dystiolaeth yn y fangre honno o unrhyw doriad o’r fath.
(5) Caiff y swyddog awdurdodedig fynd ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol gydag ef.
(6) Os mai annedd breifat yw’r fangre y cyfeirir ati ym mharagraff (1), ni chaiff swyddog awdurdodedig fynd iddi ond os yw ynad heddwch yn caniatáu mynediad iddi drwy warant yn unol â pharagraff (7).
(7) Caiff ynad heddwch, drwy warant wedi ei llofnodi, ganiatáu i swyddog awdurdodedig fynd i unrhyw fangre, drwy rym rhesymol os bydd angen hynny, os yw wedi ei fodloni ar sail gwybodaeth ysgrifenedig a roddir ar lw—
(a) bod sail resymol dros fynd i’r fangre at ddiben a ddisgrifir ym mharagraff (4), a
(b) bod unrhyw un neu ragor o’r amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(i) bod y fangre yn annedd breifat,
(ii) bod mynediad i’r fangre wedi ei wrthod, neu y rhagwelir y caiff ei wrthod, ac yn y naill achos neu’r llall fod hysbysiad o’r bwriad i wneud cais am warant wedi ei roi i’r meddiannydd,
(iii) y byddai gofyn am fynediad, neu roi hysbysiad o’r fath, yn tanseilio diben mynd i’r fangre,
(iv) bod yr achos yn achos brys, neu
(v) nad yw’r fangre wedi ei meddiannu, neu fod y meddiannydd yn absennol dros dro.
(8) Mae gwarant a roddir o dan y rheoliad hwn yn parhau mewn grym am dri mis ar ôl y dyddiad y caiff ei dyroddi.
(9) Rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n mynd i unrhyw fangre nad yw wedi ei meddiannu, neu fangre y mae’r meddiannydd yn absennol ohoni dros dro, adael y fangre wedi ei diogelu yr un mor effeithiol rhag mynediad anawdurdodedig ag yr oedd ar adeg mynd iddi.
26 
Caiff swyddog awdurdodedig sy’n mynd i fangre o dan reoliad 25, yn benodol—
(a) ei gwneud yn ofynnol iddo gael mynediad at garcas dafad neu ran o garcas o’r fath, ei archwilio, tynnu ffotograffau ohono neu wneud cofnod ohono fel arall,
(b) ei gwneud yn ofynnol iddo gael mynediad at unrhyw ddogfennau, unrhyw gofnodion neu unrhyw ddeunyddiau, ar ba bynnag ffurf y’u cedwir, sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn, y gwyddys neu yr amheuir bod gweithredwr neu ddosbarthwr trwyddedig wedi eu cadw, archwilio’r dogfennau, y cofnodion neu’r deunyddiau hynny, eu copïo neu eu hargraffu, neu symud ymaith ddogfennau, cofnodion neu ddeunyddiau o’r fath er mwyn galluogi eu copïo neu eu cadw fel tystiolaeth,
(c) ei gwneud yn ofynnol iddo gael mynediad at unrhyw beiriant, unrhyw gyfrifiadur neu unrhyw gyfarpar sy’n cael ei ddefnyddio neu sydd wedi ei ddefnyddio mewn cysylltiad â’r Rheoliadau hyn, ei archwilio, tynnu ffotograffau ohono a gwirio ei weithrediad, neu
(d) ei gwneud yn ofynnol i gopïau o unrhyw ddogfennau, unrhyw gofnodion neu unrhyw ddeunyddiau neu ddarnau o unrhyw ddogfennau, unrhyw gofnodion neu unrhyw ddeunyddiau gael eu cynhyrchu ar ffurf y gellir eu symud ymaith.
27 

(1) Os oes gan Weinidogion Cymru reswm dros gredu bod person wedi torri’r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cydymffurfio”) i’r person hwnnw yn unol â’r paragraff a ganlyn.
(2) Rhaid i hysbysiad cydymffurfio gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) seiliau Gweinidogion Cymru dros gredu bod achos o dorri’r Rheoliadau hyn wedi ei gyflawni,
(b) y mater sy’n ffurfio’r toriad,
(c) y camau y mae rhaid i’r person eu cymryd er mwyn unioni’r toriad,
(d) terfyn amser o ddim llai na 14 o ddiwrnodau o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad y mae rhaid cymryd y camau hyn o’i fewn,
(e) manylion yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 29, ac
(f) ym mha ffordd, ac o fewn pa gyfnod, y caniateir gwneud apêl.
(3) Caniateir i hysbysiad cydymffurfio a ddyroddir o dan y rheoliad hwn gael ei ddirymu neu ei amrywio gan Weinidogion Cymru yn yr achos pan fo hysbysiad cosb ariannol yn cael ei ddyroddi wedi hynny mewn cysylltiad â’r un toriad, neu mewn unrhyw achos arall.
28 

(1) Os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni y tu hwnt i amheuaeth resymol bod person wedi torri’r Rheoliadau hyn, caiff Gweinidogion Cymru gyflwyno hysbysiad (“hysbysiad cosb ariannol”) i’r person hwnnw yn unol â pharagraff (3).
(2) Caiff cosb a osodir gan hysbysiad cosb ariannol fod o unrhyw swm hyd at uchafswm o £50,000.
(3) Rhaid i hysbysiad cosb ariannol gynnwys yr wybodaeth a ganlyn—
(a) seiliau Gweinidogion Cymru dros gredu bod achos o dorri’r Rheoliadau hyn wedi ei gyflawni,
(b) y mater sy’n ffurfio’r toriad,
(c) swm y gosb,
(d) y modd y mae rhaid talu’r gosb, a’r cyfnod y mae rhaid i’r gosb gael ei thalu ynddo,
(e) manylion yr hawl i apelio a roddir gan reoliad 29,
(f) y modd y caniateir gwneud apêl, a’r cyfnod y caniateir i apêl gael ei gwneud ynddo, ac
(g) canlyniadau talu’n hwyr neu fethu â thalu, gan gynnwys atebolrwydd am log o dan baragraff (5).
(4) Caniateir i hysbysiad cosb ariannol a ddyroddir o dan y rheoliad hwn gael ei ddirymu neu ei amrywio gan Weinidogion Cymru.
(5) Mae llog yn daladwy ar swm unrhyw gosb ariannol am bob diwrnod gan ddechrau â’r diwrnod ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer talu a bennir yn yr hysbysiad hyd at y diwrnod y telir yn llawn y swm a bennir yn yr hysbysiad cosb ariannol.
(6) At ddibenion paragraff (5), mae’r gyfradd llog sy’n gymwys ar unrhyw ddiwrnod un pwynt canran yn uwch na chyfradd sylfaenol Banc Lloegr.
(7) Ym mharagraff (6), ystyr “cyfradd sylfaenol Banc Lloegr” yw—
(a) ac eithrio pan fo is-baragraff (b) yn gymwys, y gyfradd a gyhoeddir o bryd i’w gilydd gan Bwyllgor Polisi Ariannol Banc Lloegr fel y gyfradd fasnachu swyddogol, sef y gyfradd y mae’r Banc yn fodlon ei defnyddio mewn trafodiadau i ddarparu hylifedd byrdymor yn y marchnadoedd arian, neu
(b) pan fo gorchymyn o dan adran 19 o Ddeddf Banc Lloegr 1998 (pwerau wrth gefn) mewn grym, unrhyw gyfradd gyfwerth a bennir gan y Trysorlys o dan yr adran honno.
(8) Mae symiau sy’n daladwy o dan y rheoliad hwn yn adenilladwy fel dyled sifil.
29 

(1) Caiff y person y cyflwynir hysbysiad cydymffurfio neu hysbysiad cosb ariannol iddo apelio yn ei erbyn i’r Tribiwnlys Haen Gyntaf cyn diwedd y cyfnod a bennir yn yr hysbysiad, na chaiff fod yn llai na 28 o ddiwrnodau gan ddechrau â’r diwrnod y cyflwynir yr hysbysiad.
(2) Y seiliau dros apelio o dan baragraff (1) yw—
(a) bod y penderfyniad yn seiliedig ar wall ffeithiol,
(b) bod y penderfyniad yn anghywir mewn cyfraith,
(c) bod gwall gweithdrefnol sylweddol wedi digwydd, neu
(d) yn achos hysbysiad cosb ariannol, fod swm y gosb yn afresymol.
(3) Caiff y Tribiwnlys Haen Gyntaf—
(a) cadarnhau’r hysbysiad,
(b) amrywio’r hysbysiad,
(c) dirymu’r hysbysiad,
(d) cymryd y camau hynny y gallai Gweinidogion Cymru eu cymryd mewn perthynas â’r hysbysiad, neu
(e) anfon y penderfyniad ynghylch pa un ai i gadarnhau’r hysbysiad, neu unrhyw fater sy’n ymwneud â’r penderfyniad hwnnw, at Weinidogion Cymru.
(4) Mae gweithrediad unrhyw hysbysiad cydymffurfio neu unrhyw hysbysiad cosb ariannol y mae’r apêl yn ymwneud ag ef yn cael ei atal dros dro wrth aros am ganlyniad yr apêl.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
22 Hydref 2025
ATODLEN 1
Rheoliad 5

Tabl 1
Dosbarth cydffurfiad Disgrifiad
SArbennig Iawn Pedrain: cyhyrau dwbl. Proffiliau’n eithriadol o amgrwm.Cefn: eithriadol o amgrwm, eithriadol o lydan, eithriadol o drwchus.Ysgwydd: eithriadol o amgrwm ac eithriadol o drwchus.
EArdderchog Pedrain: trwchus iawn. Proffiliau’n amgrwm iawn.Cefn: amgrwm iawn, llydan iawn a thrwchus iawn hyd at yr ysgwydd.Ysgwydd: amgrwm iawn a thrwchus iawn.
UDa iawn Pedrain: trwchus. Proffiliau’n amgrwm.Cefn: llydan a thrwchus hyd at yr ysgwydd.Ysgwydd: trwchus ac amgrwm.
RDa Pedrain: proffiliau’n syth ar y cyfan.Cefn: trwchus, ond llai llydan hyd at yr ysgwydd.Ysgwydd: datblygiad da, ond llai trwchus.
OGweddol Pedrain: proffiliau sy’n tueddu i fod ychydig yn geugrwm.Cefn: diffyg lled a thrwch.Ysgwydd: yn tueddu i fod yn gul. Diffyg trwch.
PGwael Pedrain: proffiliau’n geugrwm i geugrwm iawn.Cefn: cul a cheugrwm, gydag esgyrn yn amlwg.Ysgwydd: cul, gwastad ac esgyrn yn amlwg.

Tabl 2
Dosbarth Gorchudd Braster Disgrifiad
1. Isel Allanol: Olion braster, neu dim braster, yn weladwy.
Mewnol: Abdomenol: Olion braster, neu dim braster, yn weladwy ar yr arennau.Thorasig: Olion braster, neu dim braster, yn weladwy rhwng yr asennau.
2. Ychydig Allanol: Mae haen fach o fraster yn gorchuddio rhan o’r carcas, ond gall fod yn llai amlwg ar yr aelodau.
Mewnol: Abdomenol: Mae olion braster, neu haen fach o fraster yn amgylchynu rhan o’r arennau.Thorasig: Cyhyrau yn weladwy yn glir rhwng asennau.
3. Cymedrol Allanol: Haen ysgafn o fraster sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf, neu’r cyfan, o’r carcas. Parthau braster ychydig yn fwy trwchus ar fôn y gynffon.
Mewnol: Abdomenol: Mae haen ysgafn o fraster yn amgylchynu rhan, neu’r cyfan, o’r arennau.Thorasig: Cyhyrau yn dal i fod yn weladwy rhwng asennau.
4. Uchel Allanol: Haen drwchus o fraster sy’n gorchuddio’r rhan fwyaf, neu’r cyfan, o’r carcas; ond gall fod yn deneuach ar aelodau, ac yn tewychu ar ysgwyddau.
Mewnol: Abdomenol: Arennau wedi eu hamgylchynu mewn braster.Thorasig: Gall cyhyrau rhwng asennau fod wedi eu treiddio â braster. Gall dyddodion braster fod yn weladwy ar yr asennau.
5. Uchel iawn Allanol: Gorchudd braster trwchus iawn. Clytiau o fraster weithiau yn weladwy.
Mewnol: Abdomenol: Arennau wedi eu hamgylchynu mewn haen drwchus o fraster.Thorasig: Cyhyrau rhwng asennau wedi eu treiddio â braster. Dyddodion braster yn weladwy ar asennau.
ATODLEN 2
Rheoliad 19
RHAN 1
1 
Rhaid profi dull dosbarthu awtomataidd sydd wedi ei gyflwyno i’w awdurdodi wrth ddosbarthu sampl o 1200 o garcasau o leiaf, y mae rhaid i bob un ohonynt hefyd gael ei ddosbarthu drwy edrych arno gan bob aelod o banel a gynullwyd at y diben hwn gan Weinidogion Cymru.
2 
Rhaid i’r panel a gynullir gan Weinidogion Cymru ar gyfer y prawf awdurdodi gynnwys odrif o bum arbenigwr o leiaf mewn dosbarthu carcasau defaid.
3 
Yn ystod y broses brawf rhaid i aelodau’r panel ddefnyddio’r israniadau o ddosbarthau cydffurfiad a gorchudd braster y cyfeirir atynt yn rheoliad 5(3).
4 
Rhaid i aelodau’r panel weithio’n annibynnol ac yn anhysbys i’w gilydd.
5 
Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd enwebu cydlynydd y broses prawf awdurdodi—
(a) na chaiff fod yn rhan o’r panel,
(b) y mae rhaid iddo gynnal annibyniaeth mewn cysylltiad â’r panel, ac
(c) y mae rhaid iddo, ym marn Gweinidogion Cymru, feddu ar wybodaeth dechnegol foddhaol i gyflawni’r rôl hon.
6 
Rhaid i’r cydlynydd a enwebir o dan baragraff 5—
(a) monitro gwaith y panel a gynullir o dan baragraff 1,
(b) sicrhau bod pob aelod o’r panel yn dosbarthu’r carcasau drwy edrych arnynt yn annibynnol ar aelodau eraill y panel ac yn anhysbys iddynt,
(c) gwirhau bod pob carcas a ddosberthir wedi—
(i) ei gael o ddafad a oedd yn llai na 12 mis oed ar adeg ei chigydda, a
(ii) ei gyflwyno yn yr un modd â phob carcas arall a ddefnyddir yn y broses brawf, hynny yw’n unol â gofynion rheoliad 7,
(d) casglu—
(i) canlyniadau dosbarthu aelodau’r panel, a
(ii) y canlyniadau dosbarthu a gafwyd drwy ddefnyddio’r dull dosbarthu awtomataidd,
ar gyfer pob carcas,
(e) sicrhau, drwy gydol y prawf awdurdodi, nad yw’r canlyniadau dosbarthu a gafwyd drwy ddefnyddio’r dull dosbarthu awtomataidd ar gael i unrhyw aelod o’r panel nac i unrhyw barti arall â buddiant,
(f) gwneud penderfyniad, am resymau gwrthrychol y mae rhaid iddo eu pennu, pa un a ddylai unrhyw garcasau gael eu heithrio o’r sampl i’w ddefnyddio ar gyfer y dadansoddiad,
(g) sicrhau bod y sampl ddadansoddi yn cynnwys rhychwant o garcasau sy’n gynrychioliadol o’r amrywiaeth o ddefaid a gigyddir mewn lladd-dai rheoleiddiedig,
(h) anfon y canlyniadau at Weinidogion Cymru a’r ystadegydd dadansoddi data a enwebwyd o dan baragraff 7, ac
(i) anfon adroddiad at Weinidogion Cymru ar sut y cynhaliwyd y prawf, gan gynnwys gwybodaeth am sut y cyflwynwyd y carcasau yn ystod y broses brawf.
7 
Rhaid i Weinidogion Cymru enwebu ystadegydd dadansoddi data annibynnol ar gyfer pob prawf, y mae rhaid iddo—
(a) dadansoddi canlyniadau’r prawf a gasglwyd gan y cydlynydd i ganfod cywirdeb y dull dosbarthu awtomataidd yn unol â Rhan 2 o’r Atodlen hon, a
(b) cyfathrebu canlyniadau’r dadansoddiad a gynhaliwyd o dan is-baragraff (a) â Gweinidogion Cymru.
RHAN 2
8 
Os yw’r dull dosbarthu awtomataidd yn methu â chynhyrchu unrhyw ganlyniad dosbarthu ar gyfer 5% neu ragor o’r carcasau yn y sampl prawf, rhaid ystyried ei fod wedi methu’r broses prawf awdurdodi.
9 
Os nad yw paragraff 8 yn gymwys, rhaid asesu cywirdeb y dull dosbarthu awtomataidd yn unol â’r paragraffau a ganlyn yn y Rhan hon.
10 
Ar gyfer pob carcas yn y sampl prawf, rhaid ystyried canolrif y canlyniadau a gafwyd gan holl aelodau’r panel drwy edrych fel y canlyniad dosbarthu cywir ar gyfer y carcas hwnnw.
11 
Rhaid cymharu canlyniadau a gynhyrchir drwy’r dull dosbarthu awtomataidd, ar gyfer pob carcas, â’r canlyniad dosbarthu cywir.
12 
Rhaid sefydlu cywirdeb y dull dosbarthu awtomataidd drwy ddyrannu pwyntiau i bob canlyniad dosbarthu a gynhyrchir drwy’r dull hwnnw, yn seiliedig ar radd ei wyriad oddi wrth y canlyniad dosbarthu cywir ar gyfer cydffurfiad a gorchudd braster yn unol â Thabl 1 isod.

Tabl 1
Gwyriad oddi wrth ganlyniad dosbarthu cywir Cydffurfiad Gorchudd braster
Dim gwyriad 10 10
Gwyriad o 1 israniad dosbarth (i fyny neu i lawr) 6 9
Gwyriad o 2 israniad dosbarth (i fyny neu i lawr) -9 0
Gwyriad o 3 israniad dosbarth (i fyny neu i lawr) -27 -13
Gwyriad o fwy na 3 israniad dosbarth (i fyny neu i lawr) -48 -30
13 
Er mwyn pasio’r prawf awdurdodi, rhaid i’r dull dosbarthu awtomataidd gyflawni o leiaf 60% o uchafswm nifer y pwyntiau o dan Dabl 1 ar gyfer cydffurfiad a gorchudd braster.
14 
Yn ogystal â’r gofyniad o dan baragraff 13, rhaid i’r dosbarthiadau drwy’r dull dosbarthu awtomataidd fod o fewn y terfynau a bennir yn Nhabl 2 isod.

Tabl 2
 Cydffurfiad Gorchudd Braster
Tuedd ± 0.30 ± 0.60
Llethr y llinell atchweliad 1 ± 0.15 1 ± 0.30