
1 
Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (Cychwyn Rhif 9) 2025.
2 
Daw holl ddarpariaethau Rhan 6 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 (asesiadau o’r effaith ar iechyd) i rym ar 19 Medi 2025.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
16 Medi 2025