
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2025 a deuant i rym ar 5 Mawrth 2025.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Digollediad Tir 1973;
 mae i “taliad colli cartref” yr ystyr a roddir i “home loss payment” gan adran 29(1) o’r Ddeddf.
2 
Pan fo dyddiad y dadleoli ar 5 Mawrth 2025 neu ar ôl hynny—
(a) £82,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf,
(b) £8,000 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o’r Ddeddf, ac
(c) £8,000 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o’r Ddeddf.
3 

(1) Mae Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2020 wedi eu dirymu.
(2) Bydd y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yn parhau i gael effaith mewn perthynas â dadleoli sy’n digwydd cyn 5 Mawrth 2025.
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
30 Ionawr 2025