
RHAN 1
1 

(1) Mae’r Rhan hon o’r Ddeddf hon yn cynnwys (yn ychwanegol at y trosolwg hwn) ddiffiniad o “llety ymwelwyr” ac o “darparwr llety ymwelwyr”.
(2) Mae Rhan 2 o’r Ddeddf hon yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Cyllid Cymru gadw cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr.
(3) Mae Rhan 3 o’r Ddeddf hon yn rhoi’r pŵer i brif gynghorau yng Nghymru i gyflwyno yn eu hardaloedd ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr, ac yn rhoi swyddogaethau sy’n ymwneud â chasglu a rheoli’r ardoll i Awdurdod Cyllid Cymru.
(4) Mae Rhan 4 o’r Ddeddf hon—
(a) yn gwneud darpariaeth ynglŷn â chanllawiau ynghylch y Ddeddf hon a ddyroddir gan Weinidogion Cymru,
(b) yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i estyn y Ddeddf hon fel ei bod yn gymwys mewn perthynas â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llestrau,
(c) yn gwneud darpariaeth ar gyfer adolygiadau o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon gan Weinidogion Cymru, ac
(d) yn cynnwys darpariaethau cyffredinol.
2 

(1) Yn y Ddeddf hon, ystyr “llety ymwelwyr” yw—
(a) llety mewn gwesty, tŷ llety neu lety gwely a brecwast, neu lety tebyg arall;
(b) llety mewn hostel ieuenctid neu mewn byncws, neu lety tebyg arall;
(c) llain neu ardal—
(i) a ddarperir ar gyfer gwersylla;
(ii) a ddarperir ar gyfer cartref symudol nad yw wedi ei leoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle;
(d) llety (heblaw llety a grybwyllir ym mharagraff (c)) mewn parc gwyliau neu ganolfan wyliau, neu mewn lle arall tebyg;
(e) llety (heblaw llety a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol)—
(i) mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle, a
(ii) sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
(f) llety hunanddarpar (heblaw llety a grybwyllir yn y paragraffau blaenorol) sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol;
(g) unrhyw fath arall o lety sydd wedi ei gynnig (pa un ai yn barhaol neu o bryd i’w gilydd), ar sail tymor byr, at ddibenion teithio busnes neu deithio hamdden neu deithiau addysgol.
(2) Ond nid yw llety a ddisgrifir yn is-adran (1) yn llety ymwelwyr os yw—
(a) ar safle Sipsiwn a Theithwyr;
(b) yn llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer cartref symudol, llestr neu gerbyd arall sydd wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle;
(c) mewn cartref symudol, llestr neu gerbyd arall nad yw wedi ei leoli neu ei lleoli’n barhaol neu’n lled-barhaol mewn un lle.
(3) At ddibenion is-adran (1), cynigir llety ar sail tymor byr os yw’r darparwr llety ymwelwyr yn cynnig darparu’r llety ar gyfer arosiadau o 31 o nosweithiau neu lai na hynny (ac at y diben hwnnw, nid oes gwahaniaeth a yw’r nosweithiau yn olynol).
(4) Yn yr adran hon—
 ystyr “cartref symudol” (“mobile home”) yw unrhyw strwythur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo ac sy’n gallu cael ei symud o’r naill le i’r llall (pa un ai drwy ei dynnu neu drwy ei gludo ar gefn cerbyd modur neu ôl-gerbyd) ac unrhyw gerbyd modur a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo, ond nid yw’n cynnwys—
(a) pabell;
(b) cerbydau rheilffyrdd sydd am y tro ar gledrau sy’n ffurfio rhan o system reilffyrdd;
(c) awyren;
(d) llestr;
 ystyr “safle Sipsiwn a Theithwyr” (“Gypsy and Traveller site”) yw tir a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf i osod cartrefi symudol arno sy’n rhoi llety i’r canlynol—
(a) pobl sy’n arfer ffordd nomadig o fyw, beth bynnag fo’u hil neu eu tarddiad, gan gynnwys—
(i) pobl sydd, ar sail eu hanghenion addysg neu eu henaint eu hunain, neu anghenion addysg neu henaint eu teulu neu ddibynnydd, ac ar y sail honno yn unig, wedi rhoi’r gorau i deithio dros dro neu yn barhaol;
(ii) aelodau o grŵp trefnedig o siewmyn teithiol neu bersonau sy’n rhan o syrcasau teithiol (pa un a ydynt yn cyd-deithio mewn grŵp o’r fath ai peidio);
(b) unrhyw bobl eraill sydd â thraddodiad diwylliannol o nomadiaeth neu o fyw mewn cartref symudol.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon er mwyn—
(a) darparu bod, neu nad yw, math o lety, neu lety o ddisgrifiad penodol (gan gynnwys llety a ddarperir mewn mangre o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau), yn llety ymwelwyr;
(b) amrywio’r disgrifiad o fath o lety.
3 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys at ddibenion y Ddeddf hon.
(2) Mae person yn ddarparwr llety ymwelwyr (“DLlY”) os yw’r person hwnnw—
(a) yng nghwrs masnach neu fusnes,
(b) yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru, ac
(c) yn feddiannydd ar y fangre lle y darperir y llety ymwelwyr.
(3) Mae person yn darparu llety ymwelwyr os yw’r person hwnnw yn ymrwymo i gontract y mae gan un neu ragor o bobl hawlogaeth i breswylio yn y llety am un neu ragor o nosweithiau odano neu o ganlyniad iddo.
(4) Yn is-adran (3), nid yw “contract” yn cynnwys contract gwasanaeth, contract prentisiaeth, na chontract am wasanaethau y mae person sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr yn darparu gwasanaethau odano i’r DLlY.‍
(5) Yn y Ddeddf hon—
(a) mae “yn cynnig darparu”, mewn perthynas â llety ymwelwyr, yn cynnwys hysbysebu’r llety neu ei farchnata fel arall, neu wneud unrhyw berson yn ymwybodol fel arall fod y llety ar gael ar gyfer arosiadau;
(b) mae cyfeiriadau at “darparwr llety ymwelwyr” (neu “DLlY”) yn cynnwys, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall, berson sydd wedi ei gofrestru o dan Ran 2 o’r Ddeddf hon, ni waeth a yw’r person hwnnw yn dod o fewn is-adran (2) ar unrhyw adeg benodol.
RHAN 2
4 

(1) Rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”) sefydlu a chynnal cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr (“y gofrestr”).
(2) Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth ynghylch yr wybodaeth sydd i’w chynnwys yng nghofnod darparwr llety ymwelwyr yn y gofrestr.
(3) Caiff y gofrestr gynnwys unrhyw wybodaeth arall y mae ACC yn ystyried ei bod yn briodol.
(4) Rhaid i ACC gyhoeddi,‍ mewn unrhyw fodd y mae ACC yn ystyried ei fod yn briodol, yr wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd Atodlen 1.
(5) Ond ni chaiff ACC gyhoeddi (ni waeth a yw’r wybodaeth o dan sylw wedi ei chynnwys yn y cofnod ar gyfer darparwr llety ymwelwyr sy’n unigolyn)—
(a) enw unigolyn, oni bai—
(i) bod yr unigolyn yn cydsynio i’w enw gael ei gyhoeddi, neu
(ii) bod enw cyntaf a chyfenw’r unigolyn yn rhan o enw busnes y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”);
(b) cyfeiriad unig breswylfa neu brif breswylfa unigolyn, oni bai—
(i) bod yr unigolyn yn cydsynio i’w gyfeiriad gael ei gyhoeddi, neu
(ii) bod y cyfeiriad yn gyfeiriad mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.
(6) Caiff ACC gyhoeddi, mewn unrhyw fodd y mae ACC yn ystyried ei fod yn briodol, wybodaeth a gynhwysir yn y gofrestr yn rhinwedd is-adran (3); ond ni chaiff ACC gyhoeddi gwybodaeth o dan yr is-adran hon os gwaherddir ACC rhag cyhoeddi’r wybodaeth honno drwy unrhyw ddeddfiad neu unrhyw reol gyfreithiol.
(7) Yn y Rhan hon—
(a) ystyr “cofrestredig” yw cofrestredig yn y gofrestr, a
(b) mae cyfeiriad at fangre lle y mae person neu DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn gyfeiriad at fangre—
(i) yng Nghymru,
(ii) lle y mae’r person neu’r DLlY, yng nghwrs masnach neu fusnes, yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, a
(iii) a feddiennir gan y person neu’r DLlY.
5 

(1) Rhaid i DLlY fod yn gofrestredig mewn cysylltiad â phob mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth at ddiben esemptio person o ddisgrifiad a bennir yn y rheoliadau rhag y gofyniad o dan is-adran (1).
(3) Caiff rheoliadau o dan is-adran (2)—
(a) pennu disgrifiad o berson drwy gyfeirio at—
(i) y math o lety ymwelwyr a ddarperir gan y person;
(ii) natur neu gynnwys y contractau y darperir y llety odanynt;
(iii) natur neu statws y person, neu unrhyw nodwedd benodol arno;
(iv) natur neu statws unrhyw berson y darperir llety ymwelwyr iddo gan y person, neu unrhyw nodwedd benodol ar unrhyw berson y darperir llety ymwelwyr iddo gan y person;
(v) unrhyw fater arall;
(b) diwygio’r Rhan hon (ac mae’r cyfeiriad yn is-adran (2) at “a bennir yn y rheoliadau” yn cynnwys cyfeiriad at “a bennir mewn diwygiad a wneir gan y rheoliadau”).
(4) Pan fo rheoliadau o dan is-adran (2) yn esemptio person rhag y gofyniad o dan is-adran (1), nid yw adrannau 7 ac 8 yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw.
6 

(1) Caiff person wneud cais i fod yn gofrestredig cyn i’r person ddechrau, yng nghwrs masnach neu fusnes, ddarparu, neu gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru y mae’r person yn ei feddiannu (ond gweler adrannau 14 i 16 (dileu person o’r gofrestr pan nad yw’n darparu etc. llety ymwelwyr)).
(2) Rhaid i gais i fod yn gofrestredig—
(a) bod ar unrhyw ffurf, a chael ei wneud mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC,
(b) cynnwys yr wybodaeth y mae’n ofynnol, o dan Atodlen 1, ei chynnwys yn y gofrestr, ac
(c) cynnwys unrhyw wybodaeth arall, a chynnwys gydag ef unrhyw ddogfennau, a bennir gan ACC.
(3) Rhaid i ACC (oni bai bod y person eisoes yn gofrestredig)—
(a) cofrestru person sy’n gwneud cais sy’n cydymffurfio ag is-adran (2), a
(b) dyroddi hysbysiad cofrestru i’r person hwnnw.
(4) Os yw ACC yn penderfynu peidio â chofrestru person sydd wedi gwneud cais o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—
(a) yn pennu’r rheswm pam, a
(b) yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(5) Nid yw person yn agored i gosb o dan adran 7 mewn perthynas â mangre lle y mae’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr yn ystod y cyfnod—
(a) sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r person yn gwneud cais i fod yn gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre honno, a
(b) sy’n dod i ben â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad i’r person hwnnw o dan is-adran (3)(b) neu (4).
7 

(1) Mae‍ DLlY yn agored i gosb os yw’r canlynol yn wir o ran y‍ DLlY—
(a) mae’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, a
(b) nid yw’n gofrestredig mewn cysylltiad â’r fangre, neu’r mangreoedd, lle y darperir neu y cynigir y llety ymwelwyr.
(2) Mae’r gosb i’w chyfrifo yn unol â’r fformiwla—£100×Apan fo “A” yn dynodi nifer y mangreoedd lle y mae’r‍ DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr, ac nad yw’r‍ DLlY yn gofrestredig mewn cysylltiad â hwy.
(3) Rhaid i hysbysiad cosb a ddyroddir i‍ DLlY mewn cysylltiad â chosb y mae’r‍ DLlY yn agored iddi o dan is-adran (1) bennu’r fangre, neu’r mangreoedd, o dan sylw.
(4) Os yw’r‍ DLlY, ar ôl diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cosb (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), yn parhau i weithredu fel y disgrifir yn is-adran (1) mewn cysylltiad ag unrhyw un neu ragor o’r mangreoedd a bennir yn yr hysbysiad cosb—
(a) mae’r‍ DLlY yn agored i gosb am bob diwrnod y mae’r‍ DLlY yn parhau i weithredu felly ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod (gweler is-adran (5)(a)(i)), a
(b) mae’r‍ DLlY yn agored i gosb am yr 31ain diwrnod y mae’r‍ DLlY yn parhau i weithredu felly ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol (gweler is-adran (5)(a)(ii)).
(5) Mae cosb o dan is-adran (4) i’w chyfrifo yn unol â’r fformiwla—£X×Ppan fo—
(a) “£X”—
(i) mewn perthynas â chosb o dan is-adran (4)(a), yn £10, a
(ii) mewn perthynas â chosb o dan is-adran (4)(b), yn £1000, a
(b) “P” yn dynodi nifer y mangreoedd a bennir yn yr hysbysiad cosb—
(i) lle y mae’r‍ DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr ar y diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef, a
(ii) nad yw’r‍ DLlY yn gofrestredig mewn cysylltiad â hwy ar y diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef.
(6) Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
(a) adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
(b) apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.
(7) Mae person—
(a) sy’n peidio â bod yn DLlY, ond
(b) a ddaeth yn agored i gosb o dan yr adran hon tra oedd y person yn DLlY,
yn parhau i fod yn agored i’r gosb.
8 

(1) Caiff ACC gofrestru person nad yw’n gofrestredig ac nad yw wedi gwneud cais i fod yn gofrestredig os yw ACC, ar y diwrnod y mae ACC yn cofrestru’r person, yn ystyried bod y person—
(a) yn DLlY, neu
(b) wedi bod yn DLlY ar unrhyw adeg yn ystod y 14 o ddiwrnodau blaenorol.
(2) Cyn y caiff ACC gofrestru person o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—
(a) yn nodi’r wybodaeth a fydd yn cael ei chynnwys yng nghofnod y person hwnnw yn y gofrestr,
(b) yn pennu unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i gofnod y person hwnnw nad yw gan ACC, neu y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir, neu y gall fod yn anghywir,
(c) yn rhoi gwybod i’r person y bydd ACC yn cofrestru’r person ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad oni bai—
(i) bod y person, cyn y dyddiad hwnnw, yn gwneud cais i fod yn gofrestredig yn unol ag adran 6, neu
(ii) bod ACC wedi ei fodloni nad yw’n ofynnol i’r person gofrestru, a
(d) yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(3) Rhaid i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (2)(c) fod o leiaf 14 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Mae person sydd wedi ei gofrestru o dan yr adran hon i’w drin, at ddibenion adran 7, fel pe na bai’r person hwnnw yn gofrestredig; ond nid yw’r is-adran hon yn gymwys o’r adeg y mae’r person—
(a) yn rhoi hysbysiad i ACC—
(i) sy’n darparu unrhyw wybodaeth sy’n angenrheidiol i wneud cofnod y person yn gyflawn ac yn gywir, neu
(ii) os nad oes angen unrhyw wybodaeth o’r fath, sy’n cadarnhau bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir, neu
(b) yn gwneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr.
9 

(1) Rhaid i DLlY roi hysbysiad i ACC am unrhyw—
(a) newid mewn amgylchiadau sy’n peri i gofnod y DLlY yn y gofrestr fod yn anghywir, neu
(b) anghywirdeb yng nghofnod y DLlY yn y gofrestr,
cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y mae’r newid mewn amgylchiadau yn digwydd neu â’r diwrnod pan ddaeth y DLlY i wybod gyntaf, neu pan ddylai fod wedi gwybod, am yr anghywirdeb.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1)—
(a) bod ar unrhyw ffurf, a chael ei roi mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC,
(b) cynnwys yr wybodaeth sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi ACC i gywiro’r gofrestr, ac
(c) cynnwys unrhyw wybodaeth arall, a chynnwys gydag ef unrhyw ddogfennau, a bennir gan ACC.
(3) Rhaid i ACC, os yw’r hysbysiad yn cydymffurfio ag is-adran (2)—
(a) cywiro’r gofrestr, a
(b) dyroddi hysbysiad i’r DLlY, yn pennu’r cywiriadau a wnaed i gofnod y DLlY,
oni bai bod ACC eisoes wedi gwneud y cywiriadau o dan adran 11.
(4) Os yw ACC yn penderfynu peidio â gwneud newid i’r gofrestr ar ôl cael hysbysiad gan DLlY o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r DLlY hwnnw—
(a) yn pennu’r rheswm pam, a
(b) yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
10 

(1) Mae DLlY sy’n methu â chydymffurfio ag adran 9(1) yn agored i gosb o £100.
(2) Rhaid i hysbysiad cosb a ddyroddir i DLlY mewn cysylltiad â chosb y mae’r DLlY yn agored iddi o dan is-adran (1) bennu’r wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir.
(3) Os yw’r DLlY yn methu â rhoi i ACC yr hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 9(1)(a) neu (b) mewn cysylltiad â’r wybodaeth a bennir yn yr hysbysiad cosb erbyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cosb (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), mae’r DLlY—
(a) yn agored i gosb o £10 am bob diwrnod y mae’r methiant yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod, a
(b) yn agored i gosb o £1000 am yr 31ain diwrnod y mae’r methiant yn parhau.
(4) Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
(a) adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
(b) apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.
(5) Nid yw’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â pherson pan fo natur yr wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir yn golygu bod y person yn agored i gosb o dan—
(a) adran 7 (cosbau am fethu â chofrestru mewn cysylltiad â mangre), neu
(b) adran 15 (cosbau pan fo person yn methu â gwneud cais i gael ei ddileu o’r gofrestr).
(6) Mae person—
(a) sy’n peidio â bod yn DLlY, ond
(b) a ddaeth yn agored i gosb o dan yr adran hon tra oedd y person yn DLlY
yn parhau i fod yn agored i’r gosb.
11 

(1) Caiff ACC newid cofnod DLlY yn y gofrestr pan na fo hysbysiad wedi ei roi gan y DLlY o dan adran 9 os yw ACC yn ystyried bod y cofnod yn anghywir.
(2) Cyn y caiff ACC newid cofnod DLlY o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r DLlY hwnnw—
(a) yn pennu’r wybodaeth y mae ACC yn ystyried ei bod yn anghywir,
(b) yn nodi a yw ACC yn bwriadu—
(i) hepgor yr wybodaeth honno, neu
(ii) gwneud newidiadau eraill i’r cofnod, ac, yn yr achos hwnnw, rhaid i ACC bennu pa newidiadau y mae’n bwriadu eu gwneud,
(c) yn rhoi gwybod i’r DLlY y bydd ACC yn newid y gofrestr ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad oni bai—
(i) bod y DLlY, cyn y dyddiad hwnnw, yn rhoi’r hysbysiad sy’n ofynnol o dan adran 9(1)(a) neu (b), neu
(ii) bod ACC wedi ei fodloni nad oes angen newid y gofrestr, a
(d) yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(3) Rhaid i’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan is-adran (2)(c) fod o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Pan fo cofnod DLlY yn cael ei newid o dan yr adran hon, mae’r DLlY yn parhau i fod yn agored i gosbau o dan adran 10; ond mae’r DLlY i’w drin at ddibenion yr adran honno fel pe bai wedi rhoi’r hysbysiad sy’n ofynnol gan adran 9(1)(a) neu (b) o’r adeg y mae’r DLlY yn rhoi hysbysiad i ACC—
(a) os yw’r cofnod yn anghywir, sy’n darparu’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i wneud cofnod y DLlY yn gywir, neu
(b) sy’n cadarnhau bod y cofnod yn gywir.
12 

(1) Caiff ACC ddyroddi hysbysiad i berson a grybwyllir yn is-adran (2), yn ei gwneud yn ofynnol i’r person hwnnw ddarparu gwybodaeth neu ddogfen—
(a) sydd o ddisgrifiad a bennir yn yr hysbysiad, a
(b) sy’n berthnasol i ACC yn arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon.
(2) Y personau y caiff ACC ddyroddi hysbysiad iddynt o dan is-adran (1) yw—
(a) DLlY (ni waeth a yw’r DLlY yn gofrestredig);
(b) person y mae ACC yn ystyried y gall fod, neu y gall fod wedi bod, yn DLlY;
(c) person sy’n cynorthwyo gyda darparu llety ymwelwyr gan berson a grybwyllir ym mharagraff (a) neu (b), neu sy’n hwyluso darparu llety ymwelwyr gan berson o’r fath.
(3) Rhaid i berson y dyroddir hysbysiad iddo o dan is-adran (1), os oes gan y person yr wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw, neu os oes ganddo fynediad at yr wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw, ddarparu’r wybodaeth neu’r ddogfen—
(a) ar y ffurf sy’n ofynnol, a
(b) ar neu cyn—
(i) y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, neu
(ii) unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno gan y person ac ACC.
(4) Rhaid i hysbysiad o dan is-adran (1) nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(5) Os yw’r person wedi gofyn am adolygu’r penderfyniad i ddyroddi’r hysbysiad neu am adolygu gofyniad ynddo, neu wedi apelio yn erbyn y naill neu’r llall, mae is-adran (3)(b) yn peidio â bod yn gymwys i’r hysbysiad.
13 

(1) Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 12(3) yn agored i gosb o £100.
(2) Os yw’r person yn methu â darparu’r wybodaeth neu’r ddogfen o dan sylw i ACC, ar y ffurf sy’n ofynnol, erbyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad cosb sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), mae’r person—
(a) yn agored i gosb o £10 am bob diwrnod y mae’r methiant yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod hwnnw, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod, a
(b) yn agored i gosb o £1000 am yr 31ain diwrnod y mae’r methiant yn parhau.
(3) Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
(a) adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
(b) apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.
14 

(1) Rhaid i berson wneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr cyn y 31ain diwrnod yn olynol nad yw’r person hwnnw wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre.
(2) Rhaid i gais o dan is-adran (1)—
(a) bod ar unrhyw ffurf, a chael ei wneud mewn unrhyw fodd, a bennir gan ACC, a
(b) cynnwys unrhyw wybodaeth a bennir gan ACC.
(3) Rhaid i ACC, os yw person yn gwneud cais o dan yr adran hon sy’n cydymffurfio ag is-adran (2)—
(a) dileu’r person o’r gofrestr, a
(b) dyroddi hysbysiad i’r person sy’n cadarnhau dyddiad ei ddileu o’r gofrestr.
(4) Os yw ACC yn penderfynu peidio â dileu o’r gofrestr berson sydd wedi gwneud cais o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—
(a) yn pennu’r rheswm pam, a
(b) yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(5) At ddibenion yr adran hon ac adran 15, nid yw person wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre os nad yw’r person hwnnw, yng nghwrs masnach neu fusnes, wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru y mae’r person yn ei feddiannu.
15 

(1) Mae person sy’n methu â chydymffurfio ag adran 14(1) yn agored i gosb o £100.
(2) Os yw’r person—
(a) yn methu â gwneud cais i ACC i gael ei ddileu o’r gofrestr erbyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir hysbysiad cosb sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) (“y cyfnod cosbi cychwynnol”), a
(b) yn ystod y cyfnod hwnnw, heb ddarparu, neu heb gynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre,
mae’r person hwnnw yn agored i gosb, i’w chyfrifo o dan is-adran (3).
(3) Y gosb y mae person yn agored iddi o dan is-adran (2) yw—
(a) £10 am bob diwrnod ar ôl diwedd y cyfnod cosbi cychwynnol, hyd at a chan gynnwys y 30ain diwrnod, y mae’r methiant yn parhau ac nad yw’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre, a
(b) £1000 am yr 31ain diwrnod y mae’r methiant yn parhau ac nad yw’r person yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn unrhyw fangre.
(4) Wrth gyfrifo’r cyfnod cosbi cychwynnol, rhaid diystyru unrhyw ddiwrnod pan fo penderfyniad sy’n ymwneud â’r gosb o dan is-adran (1) yn destun—
(a) adolygiad nad yw hysbysiad am ei gasgliadau wedi ei ddyroddi hyd yma, neu
(b) apêl nad yw wedi ei dyfarnu’n derfynol neu wedi ei thynnu’n ôl hyd yma.
16 

(1) Caiff ACC ddileu person o’r gofrestr pan na fo’r person hwnnw wedi gwneud cais i gael ei ddileu os yw ACC yn ystyried ei bod yn ofynnol i’r person, o dan adran 14(1), wneud cais o’r fath.
(2) Cyn y caiff ACC ddileu person o’r gofrestr o dan is-adran (1), rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i’r person hwnnw—
(a) yn pennu’r rhesymau pam y mae ACC yn ystyried ei bod yn ofynnol i’r person wneud cais i gael ei ddileu,
(b) yn rhoi gwybod i’r person y bydd ACC yn dileu’r person o’r gofrestr ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad oni bai—
(i) bod y person, cyn y dyddiad hwnnw, yn gwneud cais i gael ei ddileu sy’n cydymffurfio ag adran 14(2), neu
(ii) bod ACC wedi ei fodloni nad yw’n ofynnol i’r person wneud cais i gael ei ddileu, ac
(c) yn nodi gwybodaeth am hawliau adolygu ac apelio.
(3) Rhaid i’r dyddiad a bennir o dan is-adran (2)(b) fod o leiaf 30 o ddiwrnodau ar ôl y diwrnod y dyroddir yr hysbysiad.
(4) Mae person sy’n cael ei ddileu o’r gofrestr o dan yr adran hon yn parhau i fod yn agored i gosbau o dan adran 15; ond mae’r person i’w drin at ddibenion yr adran honno fel pe bai wedi gwneud cais i gael ei ddileu o’r adeg y mae’r person—
(a) yn rhoi hysbysiad i ACC sy’n nodi’r dyddiad y mae’r person yn ei ystyried fel y dyddiad y peidiodd y person â bod yn DLlY, neu
(b) yn gwneud cais i fod yn gofrestredig.
17 

(1) Os yw person a fyddai fel arall yn agored i gosb o dan y Rhan hon yn bodloni ACC neu (ar apêl) y Tribiwnlys Haen Gyntaf fod esgus rhesymol am y methiant sydd wedi peri i’r person fod yn agored i’r gosb, nid yw’r person yn agored i’r gosb mewn perthynas â’r methiant hwnnw.
(2) At ddibenion yr adran hon—
(a) pan fo person (“A”) yn dibynnu ar berson arall i wneud unrhyw beth, nid yw hynny’n esgus rhesymol oni bai bod A wedi cymryd gofal rhesymol i osgoi’r methiant;
(b) pan fu gan berson esgus rhesymol ond bod yr esgus wedi dod i ben, mae’r person i’w drin fel pe bai wedi parhau i fod â’r esgus os yw’r methiant yn cael ei unioni heb oedi afresymol.
18 

(1) Caiff ACC ostwng cosb o dan y Rhan hon os yw ACC yn ystyried ei bod yn iawn gwneud hynny oherwydd amgylchiadau arbennig.
(2) Yn is-adran (1)—
(a) nid yw “amgylchiadau arbennig” yn cynnwys gallu i dalu;
(b) mae’r cyfeiriad at ostwng cosb yn cynnwys cyfeiriad at—
(i) hepgor cosb yn llwyr;
(ii) atal cosb dros dro;
(iii) cytuno ar gyfaddawd mewn perthynas ag achos yn ymwneud â chosb.
19 

(1) Pan fo person yn dod yn agored i gosb o dan y Rhan hon, rhaid i ACC—
(a) asesu’r gosb, a
(b) dyroddi hysbysiad i’r person am y gosb a aseswyd (“hysbysiad cosb”).
(2) Rhaid i asesiad o gosb o dan y darpariaethau a ganlyn gael ei wneud cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod y daeth ACC i ystyried gyntaf fod y person yn agored i’r gosb, ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw—
(a) adran 7(1);
(b) adran 10(1);
(c) adran 13(1);
(d) adran 15(1).
(3) Rhaid i asesiad o gosb o dan y darpariaethau a ganlyn gael ei wneud cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl y diwrnod y mae’r gosb yn ymwneud ag ef, ac mewn unrhyw achos cyn diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw—
(a) adran 7(4);
(b) adran 10(3);
(c) adran 13(2);
(d) adran 15(2).
(4) Rhaid i hysbysiad cosb gynnwys (yn ychwanegol at unrhyw wybodaeth arall a bennir yn y Rhan hon) wybodaeth o ran—
(a) y seiliau dros osod y gosb,
(b) o fewn pa gyfnod y mae’r taliad i’w wneud,
(c) sylwadau a all gael eu cyflwyno sy’n ymwneud ag adrannau 17 a 18, a
(d) hawliau adolygu ac apelio.
20 
Rhaid talu cosb o dan y Rhan hon cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dyroddir yr hysbysiad cosb (ond gweler adran 182 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)).
21 
Nid yw person yn agored i gosb o dan y Rhan hon mewn cysylltiad ag unrhyw beth os yw’r person wedi cael euogfarn am drosedd mewn perthynas â hynny.
22 

(1) Os yw person sy’n agored i gosb o dan y Rhan hon (“P”) wedi marw, caniateir asesu unrhyw gosb y gellid bod wedi ei hasesu ar P ar gynrychiolwyr personol P.
(2) Mae cosb a asesir yn unol ag is-adran (1) i’w thalu o ystad P.
23 

(1) Yn adran 172 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (penderfyniadau apeliadwy), yn is-adran (2), ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“
(m) penderfyniad sy’n ymwneud â chofrestru person o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00) (gweler adran 5 o’r Ddeddf honno);
(n) penderfyniad i ddyroddi hysbysiad o dan adran 12 yn y Rhan honno o’r Ddeddf honno neu i gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath;
(o) penderfyniad sy’n ymwneud â chosb o dan y Rhan honno o’r Ddeddf honno.”
(2) Yn adran 178 o’r Ddeddf honno (gwneud apêl)—
(a) yn is-adran (4), ar ôl “yn gymwys” mewnosoder “, yn ddarostyngedig i is-adran (5A)”;
(b) ar ôl is-adran (5) mewnosoder—“
(5A) Pan fo’r penderfyniad y mae’r person yn dymuno apelio yn ei erbyn yn benderfyniad gan ACC o fath a grybwyllir yn adran 172(2)(m), (n) neu (o) (penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr)—
(a) nid yw is-adran (4) yn gymwys, a
(b) ni chaiff y person hwnnw apelio yn erbyn y penderfyniad oni bai—
(i) bod y person hwnnw wedi rhoi hysbysiad i ACC am gais o dan adran 173 am adolygiad o’r penderfyniad,
(ii) ei bod yn ofynnol i ACC gynnal adolygiad o’r penderfyniad neu ei fod wedi penderfynu gwneud hynny, a
(iii) bod y cyfnod y mae’n rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad am gasgliadau’r adolygiad oddi fewn iddo o dan adran 176(5) neu (yn ôl y digwydd) (6) wedi dod i ben.”
24 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo DLlY yn ddau berson neu ragor sy’n gweithredu mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig.
(2) Pan fo’r DLlY wedi ei gofrestru o dan ei enw busnes a bod ei aelodaeth yn newid, mae’r personau sy’n aelodau ar ôl y newid yn parhau i fod yn gofrestredig o dan yr enw hwnnw os oedd o leiaf un ohonynt yn aelod cyn y newid.
(3) Mae person sy’n peidio â bod yn aelod o bartneriaeth neu gorff anghorfforedig i’w drin fel pe bai’n parhau i fod yn aelod—
(a) tan y dyddiad y rhoddir hysbysiad am y newid mewn aelodaeth i ACC o dan adran 9, neu
(b) pan fo’r gofrestr yn cael ei newid gan ACC o dan adran 11 i adlewyrchu’r newid mewn aelodaeth, tan y dyddiad y mae ACC yn gwneud y newid.
(4) Mae is-adran (3) yn gymwys at ddibenion unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2, ond mae’n ddarostyngedig i adran 36(3) o Ddeddf Partneriaeth 1890 (p. 39) (atebolrwydd ystad yn sgil marwolaeth neu fethdaliad).
25 
At ddibenion y Rhan hon—
(a) dyfernir yn derfynol ynghylch apêl—
(i) pan fydd wedi ei dyfarnu, a
(ii) pan nad oes unrhyw bosibilrwydd pellach y caiff y dyfarniad ei amrywio neu ei roi o’r neilltu (gan ddiystyru unrhyw bŵer i roi caniatâd i apelio oddi allan i’r cyfnod);
(b) mae hysbysiad am gasgliadau adolygiad yn hysbysiad a ddyroddir o dan adran 176(5), (6) neu (7) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (cynnal adolygiadau);
(c) mae i “hysbysiad cosb” yr ystyr a roddir yn adran 19(1)(b).‍
26 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch y gofrestr a gofynion cofrestru, gan gynnwys (ymysg pethau eraill) ddarpariaeth—
(a) ynghylch gwybodaeth y mae rhaid ei chynnwys yn y gofrestr neu na chaniateir ei chynnwys yn y gofrestr;
(b) sy’n ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi gwybodaeth, neu’n gwahardd cyhoeddi gwybodaeth, sydd—
(i) wedi ei chynnwys yn y gofrestr, a
(ii) o fath a bennir yn y rheoliadau;
(c) sy’n esemptio person rhag y gofyniad i roi hysbysiad o dan adran 9(1) mewn perthynas â gwybodaeth o fath a bennir yn y rheoliadau;
(d) ynghylch cosbau o dan y Rhan hon, gan gynnwys darpariaeth—
(i) sy’n newid swm cosb;
(ii) sy’n newid sut y caiff cosb ei chyfrifo;
(iii) ynghylch y weithdrefn ar gyfer asesu cosbau;
(e) o ran pa benderfyniadau gan ACC sy’n ddarostyngedig i adolygiad neu apêl neu nad ydynt yn ddarostyngedig i adolygiad neu apêl.
(2) Caiff rheoliadau o dan yr adran hon ddiwygio—
(a) y Ddeddf hon;
(b) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6),
ac mae cyfeiriadau yn yr adran hon at “a bennir yn y rheoliadau” yn cynnwys cyfeiriad at “a bennir mewn diwygiad a wneir gan y rheoliadau”.
27 
Mae Rhan 1 o Atodlen 2 yn gwneud diwygiadau i Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, ac i Ddeddfau eraill, sy’n ymwneud â’r Rhan hon.
RHAN 3
PENNOD 1
28 

(1) Caiff prif gyngor (yn unol â Phennod 4) gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn ei ardal.
(2) Mae ardoll sy’n daladwy yn rhinwedd y Rhan hon i’w galw’n “ardoll ymwelwyr” (a chyfeirir ati yn y Ddeddf hon fel “yr ardoll”).
(3) Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at “llety ymwelwyr” (ac eithrio yn adran 33(3)) yn gyfeiriadau at lety ymwelwyr a ddarperir mewn mangre yn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll.
(4) Mae’r ardoll i’w chasglu a’i rheoli ar ran prif gyngor gan Awdurdod Cyllid Cymru, yn unol â’r Ddeddf hon ac â Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6).
29 

(1) At ddibenion y Rhan hon, mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd—
(a) os oes gan un neu ragor o bobl hawlogaeth, o dan gontract, i breswylio‍ am un neu ragor o nosweithiau mewn llety ymwelwyr mewn mangre yn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll,
(b) os darperir y llety i’r bobl hynny yng nghwrs masnach neu fusnes a gynhelir gan y darparwr llety ymwelwyr,
(c) os nad yw’r llety yn unig breswylfa neu’n brif breswylfa unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny, a
(d) os yw unrhyw un neu ragor o’r bobl hynny yn mynd i mewn i’r llety yn unol â’r contract.
(2) Ond nid yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd—
(a) os yw’r contract yn rhoi hawlogaeth i un neu ragor o unigolion penodol i breswylio yn y llety ymwelwyr (pa un ai ag unrhyw berson arall ai peidio), a bod gan bob unigolyn penodol hawlogaeth o dan y contract i breswylio yno—
(i) am fwy nag 31 o nosweithiau (pa un a yw’r nosweithiau hynny yn olynol ai peidio), a
(ii) pob noson y mae’r contract yn rhoi hawlogaeth i breswylio yn y llety hwnnw;
(b) os yw’r llety—
(i) wedi ei drefnu gan, neu wedi ei ddarparu ar ran, prif gyngor (fel awdurdod tai lleol) o dan Ran 2 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7) (digartrefedd);
(ii) wedi ei ddarparu o dan adran 4 (llety) neu o dan Ran 6 (cymorth i geiswyr lloches, etc.) o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999 (p. 33);
(iii) wedi ei ddarparu ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol mewn cysylltiad â gofyniad a osodir o dan adran 3(6) (darpariaethau cyffredinol) o Ddeddf Mechnïaeth 1976 (p. 63);
(iv) wedi ei ddarparu o dan Ran 1 (trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau prawf) o Ddeddf Rheoli Troseddwyr 2007 (p. 21) at y dibenion prawf (o fewn ystyr “the probation purposes” yn adran 1 o’r Ddeddf honno);
(v) yn ymwneud â chyfleusterau a ddarperir o dan baragraff 9 o Atodlen 10 (mechnïaeth mewnfudo) i Ddeddf Mewnfudo 2016 (p. 19) ar gyfer lletya person mewn cyfeiriad a bennir mewn amod mechnïaeth mewnfudo.
(3) Yn yr adran hon, nid yw “contract” yn cynnwys contract gwasanaeth, contract prentisiaeth, na chontract am wasanaethau y mae person sydd â hawlogaeth i breswylio yn y llety ymwelwyr yn darparu gwasanaethau odano i’r darparwr llety ymwelwyr.
(4) Y darparwr llety ymwelwyr, mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, yw’r darparwr llety ymwelwyr—
(a) sy’n darparu’r llety y mae’r arhosiad yn digwydd ynddo, a
(b) sy’n feddiannydd ar y fangre lle y darperir y llety hwnnw.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd neu pryd nad yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth ynghylch ffyrdd y caniateir profi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr oherwydd bod y llety yn dod o fewn is-adran (2)(b), gan gynnwys darpariaeth ynghylch—
(a) dogfennau neu wybodaeth arall y gellir dibynnu arnynt neu arni i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr;
(b) gwneud trefniadau ar gyfer dyroddi talebau y gellir eu defnyddio i brofi na ddigwyddodd arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr, ac mewn perthynas â dyroddi talebau o’r fath.
30 

(1) Y person sy’n atebol am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yw’r darparwr llety ymwelwyr.
(2) Mae atebolrwydd am dalu’r ardoll ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn codi pan‍ (a’r arhosiad dros nos wedi digwydd) fo’r hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety yn dod i ben.
31 

(1) Cyfrifir swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr drwy wneud y canlynol—
(a) dyfarnu cyfanswm nifer y nosweithiau ardolladwy (gweler is-adrannau (2) i (4)), yna
(b) lluosi cyfanswm nifer y nosweithiau ardolladwy â chyfradd yr ardoll sy’n gymwys mewn perthynas â’r llety (gweler is-adran (5) ac adran 33).
(2) Pan mai un person yn unig oedd â hawlogaeth o dan y contract i breswylio dros nos yn y llety, cyfanswm nifer y nosweithiau ardolladwy yw nifer y nosweithiau yr oedd gan y person hwnnw yr hawlogaeth honno.
(3) Pan oedd gan fwy nag un person hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety, dyfernir cyfanswm nifer y nosweithiau ardolladwy drwy—
(a) cyfrifo nifer y nosweithiau yr oedd gan bob person hawlogaeth o dan y contract i breswylio dros nos yn y llety, a
(b) adio’r niferoedd a gyfrifwyd o dan baragraff (a) at ei gilydd.
(4) Pan fo cyfradd is yr ardoll yn gymwys mewn perthynas â’r llety, nid yw’r cyfeiriadau yn is-adrannau (2) a (3) at “person” yn cynnwys person a oedd o dan 18 mlwydd oed ar ddechrau’r noson gyntaf yr oedd gan y person hwnnw hawlogaeth o dan y contract i breswylio dros nos yn y llety.
(5) Pan, o dan y contract, oedd gan o leiaf un person hawlogaeth i breswylio mewn llety ymwelwyr y mae cyfradd uwch yr ardoll yn gymwys iddo ac roedd gan o leiaf un person hawlogaeth i breswylio dros nos mewn llety ymwelwyr y mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys iddo (gweler adran 33), cyfrifir swm yr ardoll sy’n daladwy drwy—
(a) cyflawni’r cyfrifiad o dan is-adran (1) mewn cysylltiad â’r llety y mae’r gyfradd uwch yn gymwys mewn perthynas ag ef, a
(b) cyflawni’r cyfrifiad hwnnw mewn cysylltiad â’r llety y mae’r gyfradd is yn gymwys mewn perthynas ag ef,
ac adio’r symiau sy’n deillio o’r ddau gyfrifiad at ei gilydd.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddiben gwneud darpariaeth ychwanegol neu ddarpariaeth wahanol ynghylch pobl nad ydynt i’w cynnwys mewn cyfrifiad o swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr; a chaiff rheoliadau o dan yr is-adran hon wneud darpariaeth sy’n gymwys mewn perthynas â’r naill neu’r llall o’r canlynol, neu’r ddau—
(a) arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr y mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys mewn perthynas â hwy;
(b) arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr y mae cyfradd uwch yr ardoll yn gymwys mewn perthynas â hwy.
32 

(1) Mae cyfraddau’r ardoll fel a ganlyn—
(a) y gyfradd is yw £0.75, a
(b) y gyfradd uwch yw £1.30,
ond mae hyn yn ddarostyngedig i unrhyw swm ychwanegol y gellir ei ychwanegu gan brif gyngor (gweler adran 34).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1)(a) neu (b) i osod swm y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ganlyn, neu’r ddwy—
(a) cyfradd is yr ardoll;
(b) cyfradd uwch yr ardoll.
33 

(1) Mae cyfradd is yr ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd—
(a) yn llain neu’n ardal a ddarperir ar gyfer gwersylla, neu
(b) yn ystafell aml-wely neu’n ystafell arall neu’n ardal arall a ddarperir fel arfer ar y sail y gellir ei rhannu â phobl eraill sy’n preswylio yn yr ystafell aml-wely honno, yn yr ystafell arall honno neu yn yr ardal arall honno o dan gontract gwahanol.
(2) Mae cyfradd uwch yr ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos ym mhob llety ymwelwyr arall.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio is-adran (1) neu (2) er mwyn—
(a) ychwanegu math o lety ymwelwyr neu lety o ddisgrifiad penodol;
(b) amrywio disgrifiad o lety ymwelwyr neu o fath o lety ymwelwyr;
(c) dileu math o lety ymwelwyr, neu lety o ddisgrifiad penodol.
34 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddarparu y caiff prif gynghorau (yn unol â Phennod 4) ychwanegu swm a bennir yn y rheoliadau at y naill neu’r llall o’r cyfraddau a ganlyn, neu at y ddwy—
(a) cyfradd is yr ardoll sy’n daladwy yn ardal y cyngor;
(b) cyfradd uwch yr ardoll sy’n daladwy yn ardal y cyngor.
(2) Caniateir i swm a bennir o dan is-adran (1) gael ei fynegi fel canran o gyfradd yr ardoll o dan sylw.
(3) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1), yn benodol, wneud darpariaeth—
(a) ynghylch a gaiff prif gyngor ychwanegu swm at gyfradd ardoll sy’n llai na’r swm a bennir yn y rheoliadau, ac i ba raddau y caiff wneud hynny;
(b) sy’n galluogi prif gyngor i wneud y canlynol—
(i) ychwanegu swm at yr ardoll dim ond mewn perthynas â rhan neu rannau o’i ardal;
(ii) ychwanegu symiau gwahanol at yr ardoll (sy’n llai na’r symiau a bennir yn y rheoliadau) mewn perthynas â rhannau gwahanol o’i ardal;
(c) sy’n pennu cyfnodau o amser, neu’n galluogi prif gyngor i bennu cyfnodau o amser—
(i) pan na fo’r symiau ychwanegol yn gymwys;
(ii) pan fo swm ychwanegol sy’n llai na’r swm a bennir yn y rheoliadau yn gymwys.
(4) Cyn gwneud rheoliadau o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a) pob prif gyngor;
(b) pob awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(c) sefydliadau sydd—
(i) yn cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yng Nghymru;
(ii) yn hybu neu’n hwyluso twristiaeth yng Nghymru;
(d) unrhyw bersonau eraill y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
35 

(1) Yn yr adran hon, ystyr “ad-daliad ardoll” yw taliad i berson gan Awdurdod Cyllid Cymru (“ACC”), o dan is-adran (5) neu (6), o swm sy’n gyfwerth â’r cyfan o swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr sydd wedi digwydd, neu ran o’r swm hwnnw.
(2) Ni chaiff ACC wneud ad-daliad ardoll mewn cysylltiad ag arhosiad dros nos ond os—
(a) yw cais am ad-daliad ardoll wedi ei wneud i ACC—
(i) gan berson a ddarparodd gydnabyddiaeth, o dan gontract, mewn cysylltiad â’r arhosiad dros nos, a
(ii) cyn diwedd y cyfnod o‍ 90 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod olaf yr oedd gan berson hawlogaeth o dan y contract i breswylio yn y llety ymwelwyr, a
(b) yw ACC yn ystyried bod is-adran (3) neu (4) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.
(3) Mae’r is-adran hon yn gymwys mewn perthynas â chontract os arhosodd person dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract oherwydd—
(a) nad oedd y person hwnnw yn gallu preswylio yn ei unig breswylfa neu yn ei brif breswylfa oherwydd risg i’w iechyd, i’w ddiogelwch neu i’w les, neu
(b) bod y person hwnnw, ar adeg yr arhosiad, fel arall yn ddigartref (o fewn ystyr adran 55 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014 (dccc 7)).
(4) Mae’r is-adran hon yn gymwys mewn perthynas â chontract os—
(a) o ran person (“P”)—
(i) arhosodd dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract,
(ii) yn ystod yr arhosiad, roedd gyda pherson sy’n cael budd-dal anabledd (“A”) a darparodd ofal, cymorth neu gynhorthwy i A, a
(iii) roedd y llety ymwelwyr yn yr un fangre â’r llety ymwelwyr yr arhosodd A ynddo (pa un a arhosodd P yn y llety o dan yr un contract ag A ai peidio), a
(b) nad yw is-adran (3) yn gymwys mewn perthynas â’r contract.
(5) Pan fo ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud fel y disgrifir yn is-adran (2)(a) a bo is-adran (3) yn gymwys i’r contract, rhaid i ACC naill ai—
(a) talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r arhosiad, neu
(b) pan fo ACC yn ystyried na ddylid gwneud taliad mewn perthynas ag—
(i) pob person a arhosodd dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract;
(ii) pob noson pan arhosodd un neu ragor o bobl dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract,
talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas â phob person y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad ag ef ac â phob noson y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad â hi.
(6) Pan fo ACC yn ystyried bod cais wedi ei wneud fel y disgrifir yn is-adran (2)(a) a bo is-adran (4) yn gymwys i’r contract, rhaid i ACC naill ai—
(a) talu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas ag arhosiad P, neu
(b) pan fo ACC yn ystyried na ddylid gwneud taliad mewn perthynas â phob noson pan arhosodd P dros nos yn y llety ymwelwyr o dan y contract, dalu i’r ceisydd swm sy’n gyfwerth â swm yr ardoll sy’n daladwy mewn perthynas â’r noson neu’r nosweithiau—
(i) pan arhosodd P dros nos, a
(ii) y mae ACC yn ystyried y dylid gwneud taliad mewn cysylltiad â hi neu â hwy.
(7) Yn is-adran (4)(a)(ii), ystyr “budd-dal anabledd” yw—
(a) lwfans byw i’r anabl o dan adran 71 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 (p. 4) neu adran 71 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992 (p. 7);
(b) taliad annibyniaeth personol o dan Ddeddf Diwygio Lles 2012 (p. 5) neu Ran 5 o Orchymyn Diwygio Lles (Gogledd Iwerddon) 2015 (O.S. 2015/2006 (G.I. 1));
(c) lwfans gweini o dan adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 64 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992;
(d) lwfans gweini cyson o dan adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992 neu adran 104 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol (Gogledd Iwerddon) 1992;
(e) taliad anabledd oedolion o dan Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Pobl o Oedran Gweithio (Yr Alban) 2022 (O.S.A. 2022/54) neu Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Pobl o Oedran Gweithio (Darpariaethau Trosiannol a Diwygio Amrywiol) (Yr Alban) 2022 (O.S.A. 2022/217);
(f) taliad anabledd plant o dan Reoliadau Cymorth Anabledd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc (Yr Alban) 2021 (O.S.A. 2021/174);
(g) taliad annibyniaeth y lluoedd arfog o dan erthygl 24A o Orchymyn y Lluoedd Arfog a’r Lluoedd Wrth Gefn (Cynllun Digolledu) 2011 (O.S. 2011/517);
(h) lwfans gweini cyson o dan—
(i) erthygl 14 neu 43 o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (O.S. 1983/686);
(ii) erthygl 8 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (O.S. 2006/606);
(i) atodiad symudedd o dan—
(i) erthygl 25A neu 48A o Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 (O.S. 1983/686);
(ii) erthygl 20 o Orchymyn Pensiynau Lluoedd y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr etc. (Anabledd a Marwolaeth) 2006 (O.S. 2006/606).
(8) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddibenion—
(a) ychwanegu, dileu neu newid disgrifiadau o amgylchiadau pryd y caiff ACC wneud ad-daliad ardoll, neu pryd y mae rhaid iddo wneud ad-daliad ardoll;
(b) diwygio’r diffiniad o “budd-dal anabledd”.
PENNOD 2
36 

(1) Rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr (“DLlY”) ddychwelyd ffurflen i ACC, sy’n ymwneud â’r ardoll mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu.
(2) Rhaid i DLlY ddychwelyd ffurflen mewn cysylltiad â phob cyfnod cyfrifyddu ni waeth a oes unrhyw arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr wedi digwydd yn y llety y‍ mae’r DLlY yn ei ddarparu yn ystod y cyfnod cyfrifyddu y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef.
(3) Rhaid i’r ffurflen gynnwys—
(a) asesiad o swm yr ardoll sy’n daladwy gan y DLlY mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu, a
(b) naill ai—
(i) datganiad gan y DLlY fod yr wybodaeth sydd wedi ei chynnwys yn y ffurflen, ac mewn unrhyw ddogfen sy’n mynd gyda’r ffurflen, yn wir ac yn gyflawn hyd eithaf gwybodaeth y DLlY, neu
(ii) os yw’r DLlY yn awdurdodi asiant neu drydydd parti arall (gweler adran 52) i gwblhau’r ffurflen ar ran y DLlY, ardystiad gan yr asiant neu’r trydydd parti arall fod y DLlY wedi gwneud datganiad i’r perwyl hwnnw.
(4) Rhaid dychwelyd y ffurflen ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen neu cyn hynny.
(5) Dyddiad ffeilio’r ffurflen—
(a) yn achos ffurflenni blynyddol, yw‍ 31 Mai yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r ffurflen yn ymwneud â hi;
(b) yn achos ffurflenni chwarterol, yw‍ 60 o ddiwrnodau ar ôl diwedd y cyfnod cyfrifyddu y mae’r ffurflen yn ymwneud ag ef.
(6) Yn y Bennod hon, mae cyfeiriad at “darparwr llety ymwelwyr” yn gyfeiriad at ddarparwr llety ymwelwyr sy’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yn ardal prif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll.
37 

(1) Caiff DLlY ddychwelyd ffurflen flynyddol mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol (ond caiff ddewis dychwelyd ffurflenni chwarterol)—
(a) os yw’r DLlY yn disgwyl na fydd swm yr ardoll y bydd y DLlY yn atebol am ei dalu, mewn cysylltiad â’r flwyddyn honno, yn fwy na £1000, a
(b) os nad oedd y DLlY (os dychwelodd y DLlY ffurflen mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol, neu unrhyw ran o’r flwyddyn honno) yn atebol am dalu swm o’r ardoll a oedd yn fwy na £1000 mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol flaenorol.
(2) Rhaid i DLlY na chaniateir iddo ddychwelyd ffurflen flynyddol mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol, neu sy’n dewis peidio â gwneud hynny, ddychwelyd ffurflenni chwarterol.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a) diwygio is-adran (1)(a) a (b) i newid y ffigur a bennir yn y paragraffau hynny;
(b) gwneud darpariaeth ynghylch gwybodaeth y caiff DLlY ei darparu i ACC, neu y mae rhaid iddo ei darparu i ACC, os yw’r DLlY yn dymuno dychwelyd ffurflen flynyddol.
(4) Ni chaiff newid i ba mor aml y dychwelir ffurflen gymryd effaith ond ar ddechrau blwyddyn ariannol.
(5) Mae is-adrannau (1) a (2) yn ddarostyngedig i adran 120D o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (gwahardd newid pa mor aml y dychwelir ffurflenni pan fo gan DLlY bwynt cosb).
38 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â DLlY sy’n penderfynu o dan adran 37 ddychwelyd ffurflen flynyddol mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol.
(2) Y cyfnod cyfrifyddu yw’r flwyddyn ariannol, yn ddarostyngedig i is-adran (3).
(3) Pan fo’r DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, mae cyfnod cyfrifyddu cyntaf y DLlY—
(a) yn dechrau ar y dyddiad y mae’r DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, a
(b) yn dod i ben â diwedd y flwyddyn ariannol y dechreuodd y cyfnod cyfrifyddu ynddi.
(4) At ddiben yr adran hon ac adran 39, mae‍ DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy—
(a) ar y dyddiad y mae’r‍ DLlY yn cynnig darparu llety ymwelwyr am y tro cyntaf, neu (os yw’n gynharach) yn darparu llety ymwelwyr am y tro cyntaf, mewn ardal lle y mae’r ardoll wedi cael ei chyflwyno (pa un a yw’r DLlY wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr yn yr ardal honno, neu yn rhywle arall, cyn y dyddiad hwnnw ai peidio), neu
(b) pan fo’r‍ DLlY yn flaenorol wedi darparu, neu wedi cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn ardal lle y mae’r ardoll wedi cael ei chyflwyno, ac yna wedi peidio â gwneud hynny, ar y dyddiad y mae’r‍ DLlY yn ailgychwyn cynnig darparu, neu (os yw’n gynharach) yn ailgychwyn darparu, llety ymwelwyr mewn ardal lle y mae’r ardoll wedi cael ei chyflwyno.‍
39 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys mewn perthynas â DLlY sy’n penderfynu, neu y mae’n ofynnol iddo, o dan adran 37 ddychwelyd ffurflenni chwarterol.
(2) Y cyfnod cyfrifyddu yw chwarter calendr, yn ddarostyngedig i is-adran (3).
(3) Pan fo’r DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, mae cyfnod cyfrifyddu cyntaf y DLlY—
(a) yn dechrau ar y dyddiad y mae’r DLlY yn cychwyn gweithrediadau ardolladwy, a
(b) yn dod i ben â diwedd y chwarter calendr y dechreuodd y cyfnod cyfrifyddu ynddo.
(4) Yn yr adran hon, ystyr “chwarter calendr” yw cyfnod o 3 mis sy’n dod i ben â 31 Mawrth, 30 Mehefin, 30 Medi neu 31 Rhagfyr.
40 

(1) Rhaid i DLlY sy’n dychwelyd ffurflen dalu i ACC swm yr ardoll a nodir yn y ffurflen yn unol ag adran 36(3)(a).
(2) Rhaid i unrhyw ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â ffurflen gael ei thalu i ACC ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen neu cyn hynny (gweler adran 36(5)).
(3) Gweler y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) am ddarpariaeth ynghylch talu symiau o’r ardoll o dan amgylchiadau eraill—
 adran 42(4A) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i gywiriad a wneir i ffurflen gan ACC);
 adran 45(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen yn ystod ymholiad);
 adran 50(4) (swm sy’n daladwy o ganlyniad i ddiwygiad a wneir i ffurflen ar ôl cwblhau ymholiad);
 adran 52(5) (swm sy’n daladwy yn unol â dyfarniad ACC);
 adran 61(2) (swm sy’n daladwy yn unol ag asesiad ACC).
41 

(1) Rhaid i berson—
(a) sydd wedi peidio â bod yn DLlY, a
(b) a oedd, yn union cyn peidio â bod yn DLlY, yn ddarostyngedig i ddyletswydd o dan y Bennod hon,
gydymffurfio â’r ddyletswydd honno.
(2) Cyhyd â bod person a grybwyllir yn is-adran (1) yn parhau i fod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan sylw, mae’r Bennod hon, adran 52 a Phennod 1 o Ran 4 yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw fel pe bai’r person hwnnw yn DLlY.
(3) Pan fo person a grybwyllir yn is-adran (1) yn dod yn DLlY wedi hynny, mae is-adrannau (1) a (2) yn peidio â bod yn gymwys mewn perthynas â’r person hwnnw; ond mae’r person yn parhau i fod yn ddarostyngedig i ddyletswydd—
(a) yr oedd y person yn ddarostyngedig iddi yn rhinwedd is-adran (1), a
(b) nad yw’r person wedi cydymffurfio â hi hyd yma.
42 
Mae Rhan 2 o Atodlen 2 yn diwygio Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 i wneud—
(a) darpariaeth ynghylch swyddogaethau ACC mewn perthynas â’r ardoll, a
(b) diwygiadau amrywiol eraill i’r Ddeddf honno.
PENNOD 3
43 

(1) Rhaid i brif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll gynnal cyfrif ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll.
(2) Yn y Bennod hon, ystyr “enillion yr ardoll” yw’r swm a delir i brif gyngor gan ACC o dan adran 24A o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (talu enillion net yr ardoll ymwelwyr i brif gynghorau).
44 

(1) Rhaid i brif gyngor ddefnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ei ardal.
(2) At ddibenion y Bennod hon, mae rheoli a gwella cyrchfannau yn cynnwys—
(a) lliniaru’r effaith y mae ymwelwyr yn ei chael;
(b) cynnal a hybu defnyddio’r Gymraeg;
(c) hybu a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio;
(d) darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau sydd i’w defnyddio gan ymwelwyr (pa un a ydynt i’w defnyddio gan bobl leol hefyd ai peidio).
45 

(1) Rhaid i brif gyngor gyhoeddi adroddiad, mewn cysylltiad â phob blwyddyn ariannol y mae’r‍ cyngor wedi cael enillion yr ardoll ynddi, ar ddefnyddio’r enillion hynny.
(2) Rhaid i’r adroddiad gynnwys gwybodaeth am y canlynol—
(a) faint oedd enillion yr ardoll yn y flwyddyn ariannol o dan sylw, a swm unrhyw ddidyniadau o enillion yr ardoll gan ACC o dan adran 24A(3) a (4) o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016, a
(b) sut y mae enillion yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol o dan sylw wedi cael eu defnyddio, neu sut y byddant yn cael eu defnyddio, gan y cyngor, a sut y mae’r defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.
(3) Cyn cyhoeddi’r adroddiad, rhaid i’r prif gyngor—
(a) anfon drafft o’r adroddiad at aelodau’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y prif gyngor o dan adran 46(1), a
(b) ymgynghori â’r personau hynny ynghylch y drafft.
(4) Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi’r adroddiad—
(a) cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi, a
(b) mewn unrhyw achos, heb fod yn hwyrach na diwedd y flwyddyn ariannol sy’n dilyn y flwyddyn ariannol y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon—
(a) i wneud darpariaeth ynghylch cynnwys adroddiad o dan yr adran hon;
(b) i newid—
(i) nifer yr adroddiadau y mae rhaid eu cyhoeddi mewn cysylltiad â blwyddyn ariannol;
(ii) pa mor aml y cyhoeddir adroddiadau;
(iii) y dyddiad erbyn pryd y mae rhaid cyhoeddi adroddiad.
46 

(1) Rhaid i brif gyngor sydd wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn ei ardal sefydlu fforwm (“fforwm partneriaeth ardoll”) ar gyfer trafod materion sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr yn ardal y cyngor, gyda’r bwriad o ddarparu’r canlynol, yn benodol, i’r cyngor—
(a) gwybodaeth a chyngor ynghylch sut y gellir defnyddio enillion yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor;
(b) gwybodaeth a chyngor ynghylch cynnig gan y cyngor (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 sy’n galluogi prif gynghorau i ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll) i—
(i) ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll,
(ii) newid swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll, neu
(iii) dileu swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll,
pa un ai cyn neu ar ôl i’r cyngor gyhoeddi adroddiad o dan adran 47(4)(b).
(2) Rhaid i’r prif gyngor, wrth arfer unrhyw swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw wybodaeth neu unrhyw gyngor a ddarperir yn y fforwm ar y materion a bennir yn is-adran (1)(a) a (b).
(3) Rhaid i’r prif gyngor—
(a) cymryd camau rhesymol i sicrhau ei fod wedi sefydlu’r fforwm partneriaeth ardoll heb fod yn hwyrach na thri mis ar ôl y dyddiad y daw’r ardoll yn effeithiol yn ardal y cyngor,
(b) gwneud trefniadau i’r fforwm gyfarfod o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ariannol y mae’r ardoll yn cael effaith ynddi yn ardal y cyngor, ac
(c) hwyluso cyfarfodydd y fforwm a chymryd camau rhesymol i sicrhau bod y fforwm yn gallu, fel y disgrifir yn is-adran (1), drafod materion, a darparu gwybodaeth a chyngor, yn effeithiol.
(4) O ran y prif gyngor—
(a) rhaid iddo gymryd camau rhesymol i sicrhau bod y fforwm partneriaeth ardoll yn cynnwys personau sy’n gynrychiolwyr o—
(i) sefydliadau sy’n cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal y prif gyngor;
(ii) sefydliadau sy’n hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor;
(b) caiff gynnwys yn y fforwm unrhyw bersonau eraill, sydd â buddiant ym maes twristiaeth neu mewn llety ymwelwyr yn ardal y cyngor, y mae’r cyngor yn ystyried eu bod yn briodol.
(5) Rhaid i’r prif gyngor, wrth arfer ei swyddogaethau o dan is-adran (3), gymryd camau rhesymol i sicrhau bod aelodaeth y fforwm yn gynrychioliadol o ystod o safbwyntiau sy’n ymwneud â thwristiaeth a llety ymwelwyr yn ardal y cyngor.
PENNOD 4
47 

(1) Mae’r adran hon ac adran 48 yn nodi’r camau y mae rhaid i brif gyngor eu cymryd cyn cyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll yn ei ardal.
(2) Mae cyfeiriadau yn y Bennod hon at newid yr ardoll yn gyfeiriadau‍ (pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud rheoliadau o dan adran 34 sy’n galluogi prif gynghorau i ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll) at—
(a) ychwanegu swm ychwanegol at yr ardoll;
(b) newid swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll;
(c) dileu swm ychwanegol sydd wedi ei ychwanegu at yr ardoll.
(3) Ni chaiff prif gyngor gymryd unrhyw gamau o dan yr adran hon i newid yr ardoll yn ei ardal tan ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r dyddiad y daeth yr ardoll yn effeithiol yn ei ardal.
(4) Rhaid i’r prif gyngor—
(a) hysbysu ACC am ei gynnig i gyflwyno, newid neu ddiddymu’r ardoll (yn ôl y digwydd),
(b) cyhoeddi adroddiad sy’n nodi ei gynnig, gan gynnwys—
(i) pan fo’n cynnig cyflwyno’r ardoll, y materion a nodir yn is-adran (5);
(ii) pan fo’n cynnig newid yr ardoll, amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl newid yr ardoll, a gwybodaeth ynghylch sut y mae’r prif gyngor yn bwriadu defnyddio’r enillion hynny ac ynghylch sut y bydd y defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor;
(iii) pan fo’n cynnig diddymu’r ardoll, ddatganiad yn nodi pa effaith y disgwylir i ddiddymu’r ardoll ei chael ar refeniw y cyngor mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl diddymu’r ardoll,
(c) anfon yr adroddiad hwnnw i ACC, a
(d) ymgynghori â’r ymgyngoreion gorfodol, ac ag unrhyw bersonau eraill y mae’n ystyried eu bod y briodol, am ei gynnig.
(5) Y materion y cyfeirir atynt yn is-adran (4)(b)(i) yw—
(a) amcangyfrif o enillion yr ardoll mewn cysylltiad â’r flwyddyn ariannol lawn gyntaf ar ôl cyflwyno’r ardoll ac amcangyfrif o’r costau y mae’r prif gyngor yn debygol o fynd iddynt mewn cysylltiad â’r cynnig,
(b) gwybodaeth ynghylch sut y mae’r prif gyngor yn bwriadu defnyddio’r enillion hynny ac ynghylch sut y bydd y defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor, ac
(c) cynigion y prif gyngor ar gyfer aelodaeth o’r fforwm partneriaeth ardoll sydd i’w sefydlu gan y cyngo‍r, sy’n pennu’r personau y mae’r cyngor yn bwriadu eu gwahodd i fod yn aelodau o’r fforwm.
(6) At ddibenion is-adran (4)(d), yr “ymgyngoreion gorfodol” yw—
(a) pobl leol,
(b) y cyngor ar gyfer cymuned yn ardal y prif gyngor,
(c) y bwrdd gwasanaethau cyhoeddus (o fewn ystyr Rhan 4 o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (dccc 2)) ar gyfer ardal y prif gyngor,
(d) y prif gyngor ar gyfer ardal sy’n cyffinio ag ardal y cyngor sy’n ymgynghori,
(e) yr awdurdod Parc Cenedlaethol ar gyfer Parc Cenedlaethol y mae unrhyw ran ohono yn ardal y prif gyngor,
(f) cyd-bwyllgor corfforedig sy’n cynnwys o leiaf un prif aelod gweithrediaeth o’r prif gyngor yn aelod ohono,
(g) sefydliadau sydd—
(i) yn cynrychioli busnesau sy’n gweithio ym maes twristiaeth, neu sy’n ymwneud â gweithgareddau sy’n gysylltiedig â thwristiaeth, yn ardal y prif gyngor;
(ii) yn hybu neu’n hwyluso twristiaeth yn ardal y cyngor,
(h) pan mai cyflwyno’r ardoll yw’r cynnig, pob person a bennir yn yr adroddiad yn rhinwedd is-adran (5)(c) nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol, ac
(i) pan mai newid yr ardoll neu ei ddiddymu yw’r cynnig, pob aelod o’r fforwm partneriaeth ardoll a sefydlir gan y cyngo‍r nad yw fel arall yn ymgynghorai gorfodol.
(7) Rhaid i’r prif gyngor ystyried ei gynnig gan roi sylw i unrhyw sylwadau a ddaw i’w law yn ystod yr ymgynghoriad o dan is-adran (4)(d).
(8) Rhaid i’r prif gyngor wedyn—
(a) hysbysu ACC ynghylch a yw’r cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig,
(b) cyhoeddi adroddiad (“adroddiad terfynol”) sy’n cydymffurfio ag is-adran (9), ac
(c) anfon yr adroddiad hwnnw i ACC.
(9) Rhaid i’r adroddiad terfynol—
(a) nodi—
(i) a yw’r prif gyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, a
(ii) os yw’r cyngor yn bwriadu bwrw ymlaen â’i gynnig, fanylion y cynnig (gan gynnwys esboniad o unrhyw newidiadau a wnaed i’r cynnig fel y’i nodwyd yn yr adroddiad a gyhoeddwyd o dan is-adran (4)(b)), a
(b) crynhoi’r sylwadau a ddaeth i’w law yn ystod yr ymgynghoriad.
(10) Yn yr adran hon—
 ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1);
 mae i “prif aelod gweithrediaeth” (“senior executive member”) yr un ystyr ag yn adran 77(4) o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;
 mae “rheoli a gwella cyrchfannau” (“destination management and improvement”) i’w ddehongli yn unol ag adran 44.
(11) Gall camau a gymerir gan brif gyngor cyn i’r adran hon ddod i rym (gan gynnwys unrhyw gamau sy’n ymwneud ag anfon hysbysiad neu adroddiad i ACC) fodloni gofynion yr adran hon (ac adran 66(3) (gofynion o ran cyhoeddi)).
48 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo prif gyngor—
(a) wedi cydymffurfio ag adran 47, a
(b) wedi penderfynu cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll.
(2) Rhaid i’r prif gyngor gyhoeddi hysbysiad sy’n nodi—
(a) pa un o’r camau a bennir yn is-adran (1)(b) y mae’n mynd i’w gymryd a (heblaw pan fo’r ardoll i’w diddymu) beth fydd cyfraddau’r ardoll,
(b) y dyddiad pryd y bydd yr ardoll (yn ôl y digwydd)—
(i) yn dod yn effeithiol yn ei ardal;
(ii) yn peidio â chael effaith yn ei ardal;
(iii) yn newid, ac
(c) unrhyw wybodaeth arall y mae’r cyngor yn ystyried ei bod yn briodol.
(3) O ran dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) fel y dyddiad pryd y bydd yr ardoll yn dod yn effeithiol neu’n peidio â chael effaith yn ardal prif gyngor—
(a) ni chaiff fod cyn—
(i) diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr hysbysiad, neu
(ii) diwedd unrhyw gyfnod o lai na 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod hwnnw, y cytunir arno gan y prif gyngor ac ACC, a
(b) rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.
(4) O ran dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan is-adran (2) fel y dyddiad pryd y bydd yr ardoll yn ardal prif gyngor yn newid—
(a) ni chaiff fod cyn diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr hysbysiad, a
(b) rhaid mai naill ai 1 Ebrill neu 1 Hydref yw’r dyddiad hwnnw.
(5) Mae cyflwyno, diddymu neu newid yr ardoll (yn ôl y digwydd) yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad a gyhoeddir o dan is-adran (2).
(6) Mae’r gofyniad yn is-adran (2) i gyhoeddi hysbysiad yn ofyniad i gyhoeddi’r hysbysiad ar wefan y prif gyngor, ac mewn unrhyw fodd arall y mae’r cyngor yn ystyried ei fod yn briodol.
49 

(1) Mae is-adran (2) yn gymwys pan fo’r ardoll wedi dod yn effeithiol yn ardal prif gyngor.
(2) At ddibenion y Rhan hon, nid yw arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd os gwnaed y contract perthnasol cyn y dyddiad sydd chwe mis ar ôl y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor gyflwyno’r ardoll.
(3) Ond os yw contract perthnasol sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cael ei amrywio ar neu ar ôl y dyddiad sydd chwe mis ar ôl y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor gyflwyno’r ardoll, mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd mewn perthynas ag—
(a) person sydd, o ganlyniad i’r amrywiad, â hawlogaeth i breswylio dros nos mewn llety ymwelwyr;
(b) noson pan fo gan berson (pa un a yw’r person hwnnw yn dod o fewn paragraff (a) ai peidio), o ganlyniad i’r amrywiad, hawlogaeth i breswylio dros nos mewn llety ymwelwyr.
(4) Mae is-adran (5) yn gymwys pan fo newid i’r ardoll wedi dod yn effeithiol yn ardal prif gyngor.
(5) Nid yw’r newid i’r ardoll yn gymwys mewn perthynas ag arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr os gwnaed y contract perthnasol cyn y dyddiad y penderfynodd y prif gyngor newid yr ardoll.
(6) Yn yr adran hon, “y contract perthnasol” yw’r contract—
(a) y mae arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn digwydd odano, neu y byddai (oni bai am yr adran hon) yn digwydd odano,
(b) y mae gan un neu ragor o bobl hawlogaeth i breswylio yn y llety hwnnw odano, ac
(c) y mae’r darparwr llety ymwelwyr yn barti iddo.
(7) At ddibenion yr adran hon, y dyddiad y mae prif gyngor yn penderfynu cyflwyn‍o neu newid yr ardoll yw’r dyddiad y mae’n cyhoeddi hysbysiad o dan adran 48(2).
50 
Yn y Bennod hon—
(a) ystyr “pobl leol”, mewn perthynas â phrif gyngor, yw pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal y prif gyngor;
(b) mae i “enillion yr ardoll” yr ystyr a roddir yn adran 43;
(c) mae i gyfeiriadau at newid yr ardoll yr ystyr a roddir yn adran 47.
PENNOD 5
51 
Pan na fo’r fangre lle y darperir llety ymwelwyr yn gyfan gwbl o fewn ardal un prif gyngor, mae’r fangre i’w thrin at ddibenion y Rhan hon fel pe bai yn yr ardal lle y mae’r rhan fwy neu’r rhan fwyaf o’r fangre.
52 

(1) Caiff darparwr llety ymwelwyr wneud trefniadau i un neu ragor o bersonau wneud y canlynol ar ran y darparwr—
(a) casglu symiau sy’n gyfwerth â swm yr ardoll mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr;
(b) dychwelyd ffurflenni, neu dalu’r ardoll, i ACC;
(c) ad-dalu symiau a gasglwyd yn rhinwedd paragraff (a).
(2) Nid yw gwneud trefniant o dan is-adran (1) yn effeithio ar rwymedigaethau darparwr llety ymwelwyr o dan neu yn rhinwedd y canlynol—
(a) y Ddeddf hon, neu
(b) Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â’r ardoll).
53 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau osod gofynion ar ddarparwyr llety ymwelwyr sy’n darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre mewn ardal lle y mae prif gyngor wedi cyflwyno’r ardoll, neu wedi penderfynu ei chyflwyno, sy’n ymwneud â’r canlynol—
(a) cynnwys gwybodaeth ynghylch swm yr ardoll sy’n daladwy ar arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr mewn anfoneb, derbynneb neu ddogfen arall a ddarperir mewn cysylltiad â’r arhosiad hwnnw;
(b) pryd a sut y mae gwybodaeth sy’n ymwneud â bodolaeth, natur, a swm yr ardoll i’w darparu.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)(b) ei gwneud yn ofynnol (ymysg pethau eraill)—
(a) bod arwydd (ym mha le bynnag, pa bryd bynnag neu ym mha ffordd bynnag y’i rhoddir) o’r swm sy’n daladwy am arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr yn cynnwys gwybodaeth am swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad â’r arhosiad;
(b) bod deunydd hybu a marchnata a gwybodaeth arall a roddir ar gael mewn perthynas â llety ymwelwyr yn cynnwys gwybodaeth am swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos yn y llety;
(c) bod gwybodaeth am swm yr ardoll sy’n daladwy mewn cysylltiad ag arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn cael ei harddangos mewn llety ymwelwyr.
(3) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1)—
(a) rhoi pŵer i osod sancsiwn sifil ar berson nad yw wedi cydymffurfio â gofyniad a osodir gan y rheoliadau, pa un a yw’r person sy’n gosod y sancsiwn sifil yn rheoleiddiwr at ddibenion Rhan 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (p. 13) ai peidio, a
(b) gwneud darpariaeth ar gyfer apelau yn erbyn sancsiynau sifil a osodir yn rhinwedd paragraff (a).
(4) Yn is-adran (3) ystyr “sancsiwn sifil” yw sancsiwn o fath y caniateir gwneud darpariaeth ar ei gyfer o dan Ran 3 o Ddeddf Gorfodi Rheoleiddiol a Sancsiynau 2008 (cosbau ariannol penodedig, gofynion yn ôl disgresiwn, hysbysiadau stop ac ymgymeriadau gorfodi).
(5) At ddibenion yr adran hon, mae prif gyngor wedi penderfynu cyflwyno’r ardoll os yw wedi cyhoeddi hysbysiad o dan adran 48 yn datgan ei fod yn mynd i gyflwyno’r ardoll.
54 

(1) Nid yw adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (p. 70) (trefniadau ar gyfer cyflawni swyddogaethau gan awdurdodau lleol) yn gymwys i swyddogaethau prif gyngor o dan y Rhan hon (ac adran 61(2)).
(2) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r adran hon at ddiben datgymhwyso (neu ailgymhwyso) is-adran (1) mewn perthynas ag un neu ragor o swyddogaethau prif gyngor o dan y Rhan hon (ac adran 61(2)).‍
(3) Yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007 (O.S. 2007/399), yn Atodlen 1 (swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i weithrediaeth), yn y tabl yn Rhan 1 (swyddogaethau amrywiol), ar ôl paragraff 19 mewnosoder—“
20. Swyddogaethau sy’n ymwneud ag ardoll ymwelwyr Rhan 3 ac adran 61(2) o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00)”.
RHAN 4
PENNOD 1
55 
Yn y Bennod hon, ystyr “busnes perthnasol” yw busnes, neu ran o fusnes, y mae person, yng nghwrs y busnes hwnnw—
(a) yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr mewn mangre yng Nghymru, a
(b) yn feddiannydd ar y fangre lle y darperir y llety ymwelwyr.
56 

(1) Pan‍ fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n bartner ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.
(2) Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob partner gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt; ac os yw prif fan busnes y bartneriaeth yn yr Alban, caniateir hefyd iddo gael ei wneud gan unrhyw berson arall a awdurdodir gan y bartneriaeth.
(3) Pan‍ fo unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll i gael ei wneud gan bersonau neu mewn perthynas â phersonau sy’n cynnal busnes fel corff anghorfforedig, rhaid iddo gael ei wneud gan bob person neu mewn perthynas â phob person sy’n aelod rheoli o’r corff ar yr adeg y’i gwneir neu y mae’n ofynnol ei wneud.
(4) Ond caniateir i unrhyw beth y mae’n ofynnol ei wneud neu y caniateir ei wneud gan bob aelod rheoli o’r corff gael ei wneud yn lle hynny gan unrhyw un neu ragor ohonynt.‍
(5) Mae atebolrwydd am dalu swm perthnasol o ganlyniad i unrhyw beth a wneir neu nas gwneir gan bersonau sy’n cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig yn atebolrwydd ar y cyd ac unigol i bob person sy’n aelod o’r bartneriaeth neu’r corff ar yr adeg y gwneir y peth neu’r adeg nas gwneir.
(6) Ond pan fo—
(a) personau yn cynnal busnes perthnasol mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, a
(b) person yn aelod o’r bartneriaeth neu’r corff am ran o gyfnod cyfrifyddu yn unig,
atebolrwydd personol y person am yr ardoll sydd i’w chodi mewn cysylltiad â’r cyfnod cyfrifyddu yw’r gyfran o’r atebolrwydd sy’n ymwneud â busnes y bartneriaeth neu’r corff sy’n deg ac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau.
(7) Yn yr adran hon, ystyr “swm perthnasol” yw—
(a) cosb o dan Ran 2;
(b) swm o ardoll;
(c) cosb o dan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r ardoll;
(d) llog ar swm o fewn paragraff (b) neu (c).
57 
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll (gan gynnwys y Ddeddf hon) ynglŷn ag achosion pan fo personau yn cynnal busnes mewn partneriaeth neu fel corff anghorfforedig, diddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu, neu ei diwygio fel arall.
58 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo person (“A”) yn cynnal busnes perthnasol person arall (“B”) sydd wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd.
(2) Rhaid i A roi hysbysiad i ACC ynglŷn ag—
(a) y ffaith bod A yn cynnal y busnes perthnasol, a
(b) natur a dyddiad y digwyddiad sydd wedi arwain at y ffaith bod A yn cynnal y busnes hwnnw.
(3) Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r diwrnod y dechreuodd A gynnal y busnes perthnasol.
(4) Caiff ACC drin A fel pe bai A yn B at ddibenion‍ y gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll, gydag effaith o’r adeg y dechreuodd A gynnal y busnes perthnasol; a chaiff ACC wneud hynny pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan is-adran (2) ai peidio.
(5) Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A, ac, os yw’n briodol, i B, am benderfyniad i drin A fel pe bai’n B.
(6) Os yw—
(a) B yn peidio â bod yn analluog neu’n ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu
(b) A yn peidio â chynnal busnes perthnasol B,
rhaid i A roi hysbysiad i ACC am y ffaith honno a’r dyddiad y digwyddodd hynny.
(7) Rhaid i’r hysbysiad gael ei roi cyn diwedd y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad hwnnw.
(8) Rhaid i ACC beidio â thrin A fel pe bai’n B os yw ACC wedi ei fodloni bod y naill neu’r llall o’r amodau yn is-adran (6) wedi ei fodloni (pa un a yw A wedi rhoi hysbysiad o dan yr is-adran honno ai peidio).
(9) Rhaid i ACC ddyroddi hysbysiad i A, ac, os yw’n briodol, i B, am benderfyniad i beidio â thrin A fel pe bai’n B.
(10) At ddibenion yr adran hon, daw person yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd—
(a) os gwneir y person yn fethdalwr;
(b) os yw trefniant gwirfoddol ar ran cwmni yn cymryd effaith mewn perthynas â’r person o dan Ran 1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 (p. 45);
(c) os yw’r person yn mynd i ddwylo’r gweinyddwr neu’n destun datodiad neu dderbynyddiad;
(d) os yw unrhyw ddigwyddiad cyfatebol yn digwydd sy’n cael effaith o dan gyfraith yr Alban neu Ogledd Iwerddon neu wlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig, neu o ganlyniad iddi.
59 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ychwanegu at unrhyw ddarpariaeth a wneir gan ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll (gan gynnwys y Ddeddf hon) ynglŷn ag achosion pan fo person sydd wedi cynnal busnes perthnasol yn marw, yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall, diddymu darpariaeth o’r fath, ei dirymu, neu ei diwygio fel arall.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
(a) ynglŷn â’r amgylchiadau pryd y mae person yn mynd yn analluog neu’n dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bod yn analluog neu’n ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu’n peidio â bodoli fel arall;
(b) ynglŷn â dyletswyddau, atebolrwyddau a hawlogaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll pan fo person wedi marw, wedi mynd yn analluog neu wedi dod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu wedi peidio â bodoli fel arall;
(c) sy’n gymwys pa un a yw unrhyw un arall yn cynnal busnes perthnasol person ar ôl i’r person farw, fynd yn analluog neu ddod yn ddarostyngedig i weithdrefn ansolfedd, neu beidio â bodoli fel arall, ai peidio;
(d) ynglŷn â dileu person o’r gofrestr o dan Ran 2;
(e) ar gyfer—
(i) cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau, neu â gofynion a osodir ar bersonau heblaw ACC gan adran 58;
(ii) naill ai adolygiadau neu apelau neu’r ddau.
60 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth i sicrhau dilyniant wrth gymhwyso unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll pan drosglwyddir busnes perthnasol o un person i un arall fel busnes gweithredol.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymysg pethau eraill)—
(a) sy’n ei gwneud yn ofynnol i ACC gael ei hysbysu am y trosglwyddiad;
(b) i unrhyw atebolrwydd neu ddyletswydd ar ran y trosglwyddwr sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll ddod yn atebolrwydd neu’n ddyletswydd i’r trosglwyddai;
(c) i unrhyw hawlogaeth ar ran y trosglwyddwr i ollwng neu ad-dalu swm o ardoll, pa un a yw’n codi cyn y trosglwyddiad neu ar ei ôl, ddod yn hawlogaeth i’r trosglwyddai;
(d) i unrhyw beth a wnaed cyn y trosglwyddiad gan y trosglwyddwr neu mewn perthynas â’r trosglwyddwr gael ei drin at ddibenion y gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll fel pe bai wedi ei wneud gan y trosglwyddai neu mewn perthynas â’r trosglwyddai;
(e) ynglŷn â dyletswyddau i gadw cofnodion a’u storio’n ddiogel.
(3) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth sy’n gymwys yn ddarostyngedig i amodau, ac yn benodol cânt—
(a) darparu ei bod yn ofynnol cael cymeradwyaeth ACC cyn cymhwyso unrhyw ddarpariaeth a wneir o dan is-adran (2)(b) i (e) i drosglwyddwr a throsglwyddai;
(b) gwneud darpariaeth ynglŷn â gwneud ceisiadau am gymeradwyaeth a dyfarnu arnynt.
(4) Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth ar gyfer—
(a) cosbau mewn cysylltiad â methiannau i gydymffurfio â’r rheoliadau;
(b) naill ai adolygiadau neu apelau neu’r ddau.
(5) Caiff y rheoliadau ddiwygio neu gymhwyso (gydag addasiadau neu hebddynt) unrhyw ddeddfiad sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 neu’r ardoll (gan gynnwys y Ddeddf hon).
PENNOD 2
61 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau ynghylch y Ddeddf hon ac unrhyw reoliadau a wneir o dan y Ddeddf hon, ond cyn dyroddi unrhyw ganllawiau o’r fath rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn ystyried eu bod yn briodol.
(2) Rhaid i brif gyngor, wrth arfer swyddogaethau o dan Ran 3 (gan gynnwys wrth ystyried a ddylid arfer swyddogaeth o dan y Rhan honno), roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
62 
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ddiwygio’r Ddeddf hon, a Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6), fel bod y naill neu’r llall o Rannau 2 a 3 o’r Ddeddf hon, neu’r ddwy ohonynt, yn gymwys neu’n cael eu hatgynhyrchu, gydag addasiadau neu hebddynt, mewn cysylltiad â docfeydd ac angorfeydd a ddarperir ar gyfer llestrau.
63 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cynnal adolygiad o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
(b) cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar yr adolygiad.
(2) Rhaid cwblhau’r adolygiad o dan is-adran (1) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y daw Rhan 2 o’r Ddeddf hon i rym yn llawn.
(3) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a) cynnal adolygiadau dilynol o weithrediad ac effaith y Ddeddf hon, a
(b) cyhoeddi, mewn unrhyw fodd y maent yn ystyried ei fod yn briodol, adroddiad ar bob adolygiad dilynol.
(4) Rhaid cwblhau’r adolygiad cyntaf o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad ar yr adolygiad o dan is-adran (1).
(5) Rhaid cwblhau adolygiadau dilynol o dan is-adran (3) cyn diwedd y cyfnod o 5 mlynedd sy’n dechrau â’r diwrnod y cyhoeddwyd yr adroddiad blaenorol.
(6) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo ACC i gynorthwyo i gynnal adolygiad o dan yr adran hon; a rhaid i ACC gydymffurfio â chyfarwyddyd o dan yr is-adran hon.
PENNOD 3
64 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau—
(a) gwneud darpariaeth sy’n ddeilliadol neu’n atodol i unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon, neu sy’n ganlyniadol ar unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon;
(b) gwneud darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad ag unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon.
(2) Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) ddiwygio, addasu, diddymu neu ddirymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
65 

(1) Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn arferadwy drwy offeryn statudol.
(2) Mae pŵer i wneud rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pŵer—
(a) i wneud darpariaeth wahanol at ddibenion gwahanol neu ar gyfer ardaloedd gwahanol;
(b) i wneud darpariaeth ddeilliadol, darpariaeth atodol, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed.
(3) Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-adran (2)(b) yn cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, yn addasu, yn diddymu neu’n dirymu unrhyw ddeddfiad (pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir, a chan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
(4) Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys unrhyw un o’r canlynol oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad—
(a) rheoliadau o dan adran 2(5);
(b) rheoliadau o dan adran 5(2);
(c) rheoliadau o dan adran 26(1);
(d) rheoliadau o dan adran 29(5);
(e) rheoliadau o dan adran 29(6);
(f) rheoliadau o dan adran 31(6);
(g) rheoliadau o dan adran 32(2);
(h) rheoliadau o dan adran 33(3);
(i) rheoliadau o dan adran 34(1);
(j) rheoliadau o dan adran 35(8);
(k) rheoliadau o dan adran 37(3);
(l) rheoliadau o dan adran 45(5);
(m) rheoliadau o dan adran 53(1);
(n) rheoliadau o dan adran 54(2);
(o) rheoliadau o dan adran 57;
(p) rheoliadau o dan adran 59(1);
(q) rheoliadau o dan adran 60(1);
(r) rheoliadau o dan adran 62;
(s) rheoliadau o dan adran 64(1), pan fo’r rheoliadau yn diwygio, yn addasu neu’n diddymu deddfiad a gynhwysir mewn deddfwriaeth sylfaenol (gan gynnwys unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon).
(5) Mae unrhyw offeryn statudol arall sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w annilysu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru.
(6) Yn yr adran hon, ystyr “deddfwriaeth sylfaenol” yw’r canlynol—
(a) Deddf gan Senedd Cymru;
(b) Mesur gan y Cynulliad;
(c) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig.
66 

(1) Yn y Ddeddf hon—
 ystyr “ACC” (“WRA”) yw Awdurdod Cyllid Cymru;
 mae “arhosiad dros nos mewn llety ymwelwyr” (“overnight stay in visitor accommodation”) i’w ddehongli yn unol ag adran 29;
 mae “darparu” (“provide”), mewn perthynas â darparu llety ymwelwyr, i’w ddehongli yn unol ag adran 3;
 mae “darparwr llety ymwelwyr” (“visitor accommodation provider”) a “DLlY” (“VAP”) i’w dehongli yn unol ag adran 3;
 ystyr “ffurflen” (“return”) yw ffurflen o’r math a grybwyllir yn adran 36;
 ystyr “llestr” (“vessel”) yw llong, cwch, rafft, neu gyfarpar arall a adeiladwyd neu a addaswyd i arnofio ar ddŵr, ac a ddyluniwyd neu a addaswyd i bobl fyw ynddo;
 mae i “llety ymwelwyr” (“visitor accommodation”) yr ystyr a roddir gan adran 2;
 ystyr “noson” (“night”) yw cyfnod sy’n dechrau ar un diwrnod ac sy’n dod i ben ar y diwrnod nesaf;
 ystyr “partneriaeth” (“partnership”) yw—
(a) partneriaeth o fewn Deddf Partneriaeth 1890 (p. 39),
(b) partneriaeth gyfyngedig a gofrestrwyd o dan Ddeddf Partneriaethau Cyfyngedig 1907 (p. 24), neu
(c) partneriaeth neu endid tebyg ei gymeriad a ffurfiwyd o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i’r Deyrnas Unedig;
 ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru.
(2) At ddibenion y Ddeddf hon, aelodau rheoli corff anghorfforedig yw—
(a) pob aelod o’r corff anghorfforedig sy’n dal swydd llywydd, cadeirydd, trysorydd, ysgrifennydd, neu unrhyw swydd debyg;
(b) os nad oes unrhyw swydd o’r fath, pob aelod sy’n dal swydd aelod o bwyllgor sy’n rheoli materion y corff;
(c) os nad oes unrhyw swydd na phwyllgor o’r fath, pob aelod o’r corff.
(3) Pan fo’r Ddeddf hon yn gosod dyletswydd ar brif gyngor i gyhoeddi penderfyniad, adroddiad neu ddogfen arall heblaw hysbysiad, rhaid i’r penderfyniad, yr adroddiad neu’r ddogfen arall—
(a) cael ei gyhoeddi neu ei chyhoeddi—
(i) ar wefan y prif gyngor, a
(ii) mewn unrhyw fodd arall y mae’r prif gyngor yn ystyried ei fod yn briodol;
(b) cael ei roi ar gael i edrych arno, neu ei rhoi ar gael i edrych arni, (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd y prif gyngor am o leiaf 12 mis ar ôl iddo gael ei gyhoeddi neu iddi gael ei chyhoeddi gyntaf.
67 

(1) Daw’r Rhan hon, yn ddarostyngedig i is-adran (2), a Rhannau 1 a 3 (gan gynnwys Rhan 2 o Atodlen 2), i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol.
(2) Daw Rhan 2 (gan gynnwys Rhan 1 o Atodlen 2),‍ a Phennod 1 o’r Rhan hon fel y mae’n gymwys mewn perthynas â’r gofrestr o dan Ran 2, i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol.
(3) Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) wneud—
(a) darpariaeth drosiannol, darpariaeth ddarfodol neu ddarpariaeth arbed mewn cysylltiad â dyfodiad darpariaeth i rym yn rhinwedd yr is-adran honno;
(b) darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol (yn ogystal ag at ddibenion gwahanol).
68 
Caniateir cyfeirio at y Ddeddf hon fel—
(a) Deddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, neu
(b) the Visitor Accommodation (Register and Levy) Etc. (Wales) Act 2025.
ATODLEN 1
(a gyflwynir gan adran 4)
1 
Rhaid i gofnod darparwr llety ymwelwyr yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn am y darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”)—
(a) enw’r DLlY,
(b) unrhyw enw busnes a ddefnyddir gan y DLlY,
(c) cyfeiriad busnes y DLlY,
(d) datganiad ynghylch a yw’r DLlY yn unigolyn, yn bartneriaeth, yn gorff corfforedig, yn gorff anghorfforedig, neu’n fath arall o endid,
(e) os yw’r DLlY—
(i) yn gwmni sydd wedi ei gofrestru o dan Ddeddf Cwmnïau 2006 (p. 46), ei rif cwmni, neu
(ii) yn endid tramor o fewn yr ystyr a roddir i “overseas entity” yn Rhan 1 o Ddeddf Troseddau Economaidd (Tryloywder a Gorfodi) 2022 (p. 10) sydd wedi ei gofrestru o dan y Rhan honno, ei rif adnabod endid tramor, ac
(f) datganiad ynghylch a yw’r DLlY yn elusen, ac os yw’r DLlY yn elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25), ei rif elusen.
2 
Rhaid i gofnod DLlY yn y gofrestr gynnwys yr wybodaeth a ganlyn o ran pob mangre lle y mae’r DLlY yn darparu, neu’n cynnig darparu, llety ymwelwyr—
(a) enw—
(i) y fangre (os oes gan y fangre enw);
(ii) y llety ymwelwyr a ddarperir yn y fangre (os oes gan y llety enw),
(b) cyfeiriad (gan gynnwys sir neu fwrdeistref sirol) y fangre,
(c) y math o lety ymwelwyr y mae’r DLlY yn ei ddarparu, neu’n cynnig ei ddarparu, yn y fangre, a
(d) uchafswm nifer y bobl y gellir eu lletya yn y llety ymwelwyr a ddarperir yn y fangre.
3 
Pan fo ACC wedi cofrestru person o dan adran 8, neu wedi gwneud unrhyw newidiadau i gofnod person o dan adran 11—
(a) rhaid i’r cofnod ddangos bod y person wedi ei gofrestru, neu fod y cofnod wedi ei newid, o dan yr adran o dan sylw, a
(b) yn achos newid a wnaed o dan adran 11, rhaid i’r cofnod ddangos pa wybodaeth sydd o dan sylw,ond mae is-baragraffau (a) a (b) yn peidio â bod yn gymwys i gofnod os yw’r person yn darparu i ACC yr wybodaeth sy’n angenrheidiol i fodloni ACC bod y cofnod yn gyflawn ac yn gywir.
4 

(1) Nid yw gofyniad ym mharagraff 1 neu 2 i gynnwys gwybodaeth o ddisgrifiad penodol mewn cofnod yn y gofrestr yn gymwys—
(a) os nad oes gan ACC yr wybodaeth o dan sylw, neu
(b) os yw ACC yn ystyried bod yr wybodaeth o dan sylw yn anghywir neu’n debygol o fod yn anghywir.
(2) Pan fo ACC yn cynnwys gwybodaeth o fath a ddisgrifir yn is-baragraff (b) mewn cofnod, caiff ACC ddangos yn y cofnod fod ACC yn ystyried bod yr wybodaeth yn anghywir neu (yn ôl y digwydd) yn debygol o fod yn anghywir.
5 
Pan fo DLlY yn bartneriaeth neu’n gorff anghorfforedig—
(a) mae’r cyfeiriad ym mharagraff 1(a) at enw’r DLlY yn gyfeiriad at enw—
(i) pob aelod o’r bartneriaeth;
(ii) pob aelod rheoli o’r corff anghorfforedig, a
(b) rhaid i’r gofrestr (yn ychwanegol at yr wybodaeth a restrir ym mharagraff 1) gynnwys cyfeiriad—
(i) pob aelod o’r bartneriaeth;
(ii) pob aelod rheoli o’r corff anghorfforedig.
6 
At ddibenion yr Atodlen hon—
(a) cyfeiriad busnes partneriaeth yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei phrif swyddfa, a chyfeiriad busnes corff corfforedig neu gorff anghorfforedig yw cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu ei brif swyddfa;
(b) ystyr “elusen” yw elusen sydd wedi ei chofrestru o dan Ddeddf Elusennau 2011 (p. 25) neu elusen esempt (o fewn yr ystyr a roddir i “exempt charity” yn y Ddeddf honno).
ATODLEN 2
(a gyflwynir gan adrannau 27 a 42)
RHAN 1
1 
Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
2 
Yn adran 12 (prif swyddogaethau ACC), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Mae gan ACC hefyd swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00) (cofrestr o lety ymwelwyr).”
3 
Yn adran 17 (cyfrinachedd gwybodaeth warchodedig am drethdalwr), yn is-adrannau (1), (3) a (4) ac yn y pennawd, hepgorer “am drethdalwr”.
4 
Yn adran 18(1) (datgelu a ganiateir)—
(a) hepgorer “am drethdalwr”;
(b) ar ôl paragraff (j) mewnosoder—“
(k) os yw’r datgeliad yn datgelu gwybodaeth a ddaeth i law mewn cysylltiad â swyddogaethau ACC o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00), a gwneir y datgeliad—
(i) i brif gyngor mewn cysylltiad ag un o swyddogaethau’r prif gyngor, neu
(ii) i Weinidogion Cymru mewn cysylltiad â’u swyddogaethau o dan adran 2 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 (p. 51).”
5 
Yn adran 20 (y drosedd o ddatgelu gwybodaeth warchodedig am drethdalwr ar gam), yn y pennawd, hepgorer “am drethdalwr”.
6 
Yn adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru), yn lle is-adran (1) (a ddiwygir gan baragraff 26(a) o’r Atodlen hon) rhodder‍—“
(1) Rhaid i ACC dalu i Gronfa Gyfunol Cymru—
(a) symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â threthi datganoledig;
(b) symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau sy’n ymwneud â’r gofrestr o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00).”
7 
Yn adran 30 (Datganiad Treth)—
(a) yn is-adran (1), hepgorer “(“Datganiad Treth”)”;
(b) yn lle’r pennawd rhodder “Datganiad o swm yr arian a gasglwyd gan ACC”.
8 
Yn adran 31 (archwilio)—
(a) yn is-adran (1)(b), yn lle “Datganiad Treth” rhodder “datganiad a baratowyd o dan adran 30”;
(b) yn is-adran (2), yn y ddau le y mae’n digwydd, yn lle “Datganiad Treth” rhodder “datganiad”;
(c) yn is-adran (4)—
(i) yn lle “Datganiad Treth a gyflwynir o dan yr adran hon” rhodder “datganiad a gyflwynir o dan is-adran (1)(b)”;
(ii) ym mharagraff (a), yn lle “Datganiad Treth” rhodder “datganiad”.
9 
Yn adran 33 (swyddog cyfrifo), yn is-adran (3)(a), yn lle “Datganiad Treth” rhodder “datganiad a baratoir o dan adran 30”.
10 
Hepgorer adran 35 (Yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus).
11 
Yn adran 164 (talu a gorfodi), ym mharagraff (c), ar y diwedd mewnosoder “neu’r gofrestr o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00)”.
12 
Yn adran 172(6) (penderfyniadau apeliadwy), ar ôl “hysbysiad gwybodaeth” mewnosoder “neu hysbysiad o dan adran 12 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025”.
13 
Yn adran 179(2)(b) (terfyn amser ar gyfer gwneud apêl), ar ôl “arall” mewnosoder “(heblaw penderfyniad o fath a grybwyllir yn adran 172(2)(m), (n) neu (o) (penderfyniadau sy’n ymwneud â’r gofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr))”.
14 
Yn adran 182(7) (talu cosbau yn achos adolygiad neu apêl)—
(a) hepgorer y “neu” ar ôl paragraff (a);
(b) ar ôl paragraff (b) mewnosoder “, neu
(c) adran 20 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00).”
15 
Yn adran 183 (penderfynu ar adolygiadau ac apelau mewn cysylltiad â hysbysiadau gwybodaeth)—
(a) ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(3) Yn yr adran hon, mae cyfeiriad at hysbysiad gwybodaeth yn cynnwys cyfeiriad at hysbysiad o dan adran 12 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00).”;
(b) yn y pennawd, ar ôl “hysbysiadau gwybodaeth” mewnosoder “a hysbysiadau o dan adran 12 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025”.
16 
Yn adran 187B (cymhwyso i’r Goron) (fel y’i mewnosodir gan baragraff 50 o’r Atodlen hon)—
(a) yn is-adran (1), ar ôl “mewn perthynas” mewnosoder “â swyddogaethau ACC o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00), ac mewn perthynas”;
(b) yn is-adran (2), ar ôl “mewn perthynas” mewnosoder “â swyddogaethau ACC o dan Ran 2 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, ac mewn perthynas”;
(c) yn y pennawd, ar y diwedd mewnosoder “a’r gofrestr o lety ymwelwyr”.
17 
Yn adran 193 (mynegai), yn y cofnod ar gyfer “gwybodaeth warchodedig am drethdalwr” hepgorer—
(a) “am drethdalwr”;
(b) “taxpayer”.
18 
Yn adran 23 o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013 (darpariaeth gyffredinol yn ymwneud â ffioedd), yn is-adran (3)(ba), yn lle “Datganiad Treth Awdurdod Cyllid Cymru” rhodder “datganiad a baratoir gan Awdurdod Cyllid Cymru o dan adran 30 o’r Ddeddf honno”.
19 
Yn Atodlen 3 i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019, yn y pennawd o flaen y cofnod ar gyfer “Awdurdod Cyllid Cymru”, ar ôl “Trethi” mewnosoder “a chofrestru”.
RHAN 2
20 
Mae Deddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 (dccc 6) (“Deddf 2016”) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
21 
Yn lle “datganoledig” a “ddatganoledig”, ym mhob lle y maent yn digwydd yn Neddf 2016 (ac yn ddarostyngedig i’r diwygiadau eraill y darperir ar eu cyfer yn yr Atodlen hon), rhodder “a gesglir gan ACC”; ond nid yn y darpariaethau a ganlyn—
(a) adran 1(ba) (trosolwg o’r Ddeddf);
(b) adran 12(2)(b) (a ddiwygir gan baragraff 22) (prif swyddogaethau ACC);
(c) adran 18(1)(j) (datgelu a ganiateir sy’n ymwneud â threthi datganoledig yr Alban);
(d) adran 25 (a ddiwygir gan baragraff 26) (talu i Gronfa Gyfunol Cymru);
(e) adran 26(2) (a ddiwygir gan baragraff 27) (Siarter safonau a gwerthoedd);
(f) Rhan 3A (y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi);
(g) adran 117A (a fewnosodir gan baragraff 37) (dehongli a chymhwyso Rhan 5 o Ddeddf 2016 mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr);
(h) adrannau 118 i 120, a’r pennawd italig sy’n dod o’u blaenau (diwygir y darpariaethau hynny gan baragraffau 38 i 41) (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth);
(i) yn adran 122(3), yn Nhabl A1, eitem 7 (dyddiadau cosbi sy’n ymwneud â’r rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi);
(j) adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig);
(k) adran 136(5) (refeniw posibl a gollir: gwrthbwyso trethi datganoledig);
(l) yn adran 192(2) (dehongli), yn y diffiniadau o—
(i) “treth ddatganoledig”;
(ii) “trethdalwr datganoledig” (a hepgorir gan baragraff 54(a)(i));
(iii) “DTTT”;
(iv) “treth a gesglir gan ACC” (a fewnosodir gan baragraff 54(a)(ii));
(m) adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir).
22 
Yn adran 12(2) (prif swyddogaethau)—
(a) ym mharagraff (b), yn lle “threthi datganoledig i drethdalwyr datganoledig” rhodder “threthi a gesglir gan ACC i drethdalwyr”;
(b) ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(e) darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â’r ardoll ymwelwyr i brif gynghorau.”
23 
Ar ôl adran 15(1) (cyfarwyddydau cyffredinol) mewnosoder—“
(1A) Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) nad yw’n ymwneud ond â swyddogaethau ACC sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr yn ei ardal.”
24 
Yn adran 18(1) (datgelu a ganiateir), o flaen paragraff (a) mewnosoder—“
(za) os gwneir hynny at ddibenion swyddogaethau ACC, heblaw’r swyddogaethau a grybwyllir yn adran 12(2)(a) ac (e), a (3),”.
25 
Ar ôl adran 24 mewnosoder—“
24A 

(1) Rhaid i ACC, mewn perthynas â phob sir neu fwrdeistref sirol y mae’r ardoll ymwelwyr wedi ei chyflwyno ynddi, gadw cyfrif ar wahân ar gyfer enillion yr ardoll ymwelwyr a gesglir mewn cysylltiad â’r sir neu’r fwrdeistref sirol honno.
(2) Rhaid i ACC dalu enillion yr ardoll ymwelwyr a gesglir bob blwyddyn ariannol mewn cysylltiad ag ardal prif gyngor (gan gynnwys unrhyw log ar yr enillion) i’r prif gyngor hwnnw, yn ddim hwyrach nag—
(a) 30 Mehefin yn y flwyddyn ariannol ganlynol, neu
(b) unrhyw ddyddiad arall y cytunir arno rhwng ACC a’r prif gyngor.
(3) Ond, yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (5), rhaid i ACC wneud hynny ar ôl didynnu o’r enillion a dderbyniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol unrhyw symiau y mae ACC yn ystyried eu bod yn briodol o ran y costau y mae wedi mynd iddynt mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol honno mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr ar gyfer yr ardal honno.
(4) Caiff ACC hefyd, yn ddarostyngedig i reoliadau o dan is-adran (5), ddidynnu o’r enillion a dderbyniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol unrhyw symiau y mae ACC yn ystyried eu bod yn briodol o ran costau y mae ACC yn ystyried y gallai fynd iddynt ac alldaliadau y mae ACC yn ystyried y gallent ddod yn daladwy—
(a) mewn cysylltiad ag arfer ei swyddogaethau yn ystod y flwyddyn ariannol mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr ar gyfer yr ardal honno, ond
(b) ar ôl iddo dalu’r enillion ar gyfer y flwyddyn honno i’r prif gyngor.
(5) Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth bellach ynghylch didynnu symiau o ran costau, neu ddidynnu alldaliadau, gan gynnwys darpariaeth—
(a) sy’n cyfyngu ar faint o gostau neu alldaliadau y caniateir i ACC eu didynnu (gan gynnwys drwy gyfeirio at ganran o’r alldaliadau neu’r costau yr eir iddynt neu at uchafswm y caniateir ei ddidynnu, neu drwy ddulliau eraill);
(b) ynghylch sut y mae costau ac alldaliadau i’w dosrannu rhwng prif gynghorau sydd wedi cyflwyno’r ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd;
(c) sy’n pennu mathau o gost neu alldaliad y caniateir, y mae rhaid, neu na chaniateir eu didynnu.
(6) At ddibenion yr adran hon—
(a) mae cyfeiriadau at enillion yr ardoll ymwelwyr yn cynnwys unrhyw gosbau ariannol a gesglir mewn perthynas â’r ardoll;
(b) nid yw taliadau i brif gynghorau o dan is-adran (2) yn alldaliadau.”
26 
Yn adran 25 (talu derbyniadau i Gronfa Gyfunol Cymru)—
(a) yn is-adran (1), ar ôl “swyddogaethau” mewnosoder “sy’n ymwneud â threthi datganoledig”;
(b) ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(3) Rhaid i ACC dalu i Gronfa Gyfunol Cymru symiau a ddidynnir o dan adran 24A(3) neu (4), mewn cysylltiad â chostau, o enillion yr ardoll ymwelwyr.”
27 
Yn adran 26(2) (Siarter safonau a gwerthoedd)—
(a) hepgorer “datganoledig” yn y ddau le y mae’n digwydd;
(b) ar ôl “eu hasiantiaid”, yn y ddau le y mae’n digwydd, mewnosoder “, prif gynghorau”.
28 
Yn adran 27 (cynllun corfforaethol), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Cyn cyflwyno’r cynllun i’w gymeradwyo gan Weinidogion Cymru, rhaid i ACC ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr yn ei ardal ar unrhyw amcanion, unrhyw ganlyniadau neu unrhyw weithgareddau sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr.”
29 
Yn adran 29 (cyfrifon), ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(2A) Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1)(b) nad yw’n ymwneud ond â’r ardoll ymwelwyr, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll ymwelwyr yn ei ardal.”
30 
Yn adran 30 (datganiad treth), ar ôl is-adran (1) mewnosoder—“
(1A) Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1) nad yw’n ymwneud ond â’r ardoll ymwelwyr, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â phob prif gyngor sydd wedi cyflwyno, neu wedi penderfynu cyflwyno, yr ardoll yn ei ardal.”
31 
Yn adran 31 (archwilio), yn is-adran (4)(b), ar ôl “adran” mewnosoder “24A neu”.
32 
Yn adran 40 (ystyr “dyddiad ffeilio”)—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn is-adran (1);
(b) ar ôl yr is-adran honno mewnosoder—“
(2) Yn y Ddeddf hon, mae i “dyddiad ffeilio”, mewn perthynas â ffurflen ardoll ymwelwyr, yr ystyr a roddir gan adran 36 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00).”
33 
Yn adran 58 (amodau ar gyfer gwneud asesiadau ACC), ar ôl is-adran (4) mewnosoder—“
(5) At ddibenion is-adran (3)(c), ystyrir bod gwybodaeth wedi ei darparu i ACC—
(a) os yw wedi ei chynnwys mewn ffurflen dreth,
(b) os yw wedi ei chynnwys mewn unrhyw ddogfennau a gyflwynir neu unrhyw wybodaeth a ddarperir i ACC at ddibenion ymholiad i unrhyw ffurflen o’r fath, neu
(c) os yw’n wybodaeth—
(i) y gellid disgwyl yn rhesymol i ACC gasglu ei bod yn bodoli o wybodaeth sy’n dod o fewn paragraff (a) neu (b), neu
(ii) y mae’r trethdalwr neu berson sy’n gweithredu ar ran y trethdalwr yn hysbysu ACC yn ysgrifenedig ei bod yn bodoli.”
34 
Ym mhennawd Rhan 3A o Ddeddf 2016 (y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi), ar y diwedd mewnosoder “: TRETHI DATGANOLEDIG”.
35 
Yn Rhan 3A o Ddeddf 2016—
(a) yn adran 81A(1) (ystyr “y rheol gyffredinol yn erbyn osgoi trethi”), ar ôl “gwneud darpariaeth” mewnosoder “, sy’n ymwneud â threthi datganoledig,”;
(b) ar ôl “trethdalwr” a “drethdalwr”, ym mhob lle y maent yn digwydd, mewnosoder “datganoledig”.
36 
Yn adran 86 (hysbysiadau trethdalwr), yn lle is-adran (2) rhodder—“
(2) Cyn dyroddi hysbysiad trethdalwr caiff ACC (ond nid oes angen iddo, yn ddarostyngedig i adran 97(2)) wneud cais i’r tribiwnlys am gymeradwyaeth i ddyroddi’r hysbysiad.”
37 
Ar ôl adran 117 (trosolwg o Ran 5) mewnosoder—“
117A 

(1) Yn y Rhan hon—
 mae i “darparwr llety ymwelwyr” (“visitor accommodation provider”) a “DLlY” (“VAP”) yr un ystyr ag yn adran 3 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00) (gweler hefyd adran 120G, mewn perthynas â phersonau sydd wedi peidio â bod yn DLlY);
 ystyr “ffurflen ardoll ymwelwyr” (“visitor levy return”) yw ffurflen sy’n ymwneud â’r ardoll ymwelwyr (gweler adran 36 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025);
 ystyr “ffurflen treth ddatganoledig” (“devolved tax return”) yw ffurflen dreth sy’n ymwneud â threth ddatganoledig.
(2) Pan na fo darparwr llety ymwelwyr‍ wedi datgan i ACC a fydd y darparwr yn dychwelyd ffurflenni blynyddol neu ffurflenni chwarterol, mae’r darparwr i’w drin at ddibenion y Rhan hon fel darparwr sy’n dychwelyd ffurflenni blynyddol.”
38 
Yn y pennawd italig o flaen adran 118, yn lle “ffurflen dreth” rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”.
39 
Yn adran 118 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth ar y dyddiad ffeilio neu cyn hynny)—
(a) yn y pennawd, yn lle “ffurflen dreth” rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”;
(b) yn is-adran (1), yn lle “ffurflen dreth”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”.
40 
Yn adran 119 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 6 mis wedi’r dyddiad ffeilio)—
(a) yn y pennawd, yn lle “ffurflen dreth” rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”;
(b) yn is-adran (1), yn lle “ffurflen dreth”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”.
41 
Yn adran 120 (cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth o fewn 12 mis wedi’r dyddiad ffeilio)—
(a) yn y pennawd, yn lle “ffurflen dreth” rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”;
(b) yn is-adran (1), yn lle “ffurflen dreth”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “ffurflen treth ddatganoledig”;
(c) yn is-adran (2), yn lle “dychwelyd y ffurflen dreth” rhodder “dychwelyd y ffurflen treth ddatganoledig”.
42 
Ar ôl adran 120 mewnosoder—“
120A 

(1) Mae darparwr llety ymwelwyr (“DLlY”) yn agored i bwynt cosb os yw’r‍ DLlY yn methu â dychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen neu cyn hynny.
(2) Pan fo DLlY yn agored i bwynt cosb, caiff ACC ddyfarnu’r pwynt cosb drwy roi hysbysiad i’r DLlY.
(3) Rhaid rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)—
(a) os yw’r DLlY yn dychwelyd ffurflenni ardoll ymwelwyr blynyddol, cyn diwedd y cyfnod o 48 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen;
(b) os yw’r DLlY yn dychwelyd ffurflenni ardoll ymwelwyr chwarterol, cyn diwedd y cyfnod o 11 o wythnosau sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen.
(4) Caiff ACC dynnu pwynt cosb a ddyfarnwyd o dan yr adran hon yn ôl drwy roi hysbysiad i’r DLlY; a phan dynnir pwynt cosb yn ôl, mae’r DLlY i’w drin fel pe na bai erioed wedi cael y pwynt cosb.
120B 

(1) Os yw DLlY, ar ôl i bwynt cosb gael ei ddyfarnu iddo, yn cyrraedd y trothwy cosbau, mae’r DLlY yn agored i gosb o £100.
(2) Y trothwy cosbau yw—
(a) os yw’r DLlY yn dychwelyd ffurflenni blynyddol, dau bwynt cosb, a
(b) os yw’r DLlY yn dychwelyd ffurflenni chwarterol, pedwar pwynt cosb.
(3) Mae DLlY sy’n dod yn agored i gosb o dan is-adran (1) yn parhau i fod yn agored i’r gosb honno ni waeth a yw unrhyw un neu ragor o’r pwyntiau cosb a ddyfarnwyd i’r DLlY yn dod i ben wedi hynny.
120C 

(1) Mae pwynt cosb a ddyfarnwyd i DLlY mewn perthynas â methu â dychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr flynyddol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 24 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen y mae’r pwynt cosb yn ymwneud â hi.
(2) Mae pwynt cosb a ddyfarnwyd i DLlY mewn perthynas â methu â dychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr chwarterol yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â dyddiad ffeilio’r ffurflen y mae’r pwynt cosb yn ymwneud â hi.
120D 
Ni chaiff DLlY sydd ag un neu ragor o bwyntiau cosb nad ydynt wedi dod i ben newid pa mor aml y mae’n dychwelyd ffurflenni ardoll ymwelwyr (o ran hynny, gweler adran 37 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00)).
120E 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo methiant DLlY i ddychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
(2) Mae’r DLlY yn agored i gosb o £100 (ni waeth a ddyfarnwyd unrhyw bwyntiau cosb nad ydynt wedi dod i ben i’r DLlY, neu a yw’n agored i unrhyw bwyntiau cosb, mewn perthynas â’r ffurflen o dan sylw neu unrhyw ffurflen ardoll ymwelwyr arall).
120F 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo methiant DLlY i ddychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr yn parhau ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod ar ôl y dyddiad ffeilio.
(2) Mae’r DLlY yn agored i gosb (ni waeth a ddyfarnwyd unrhyw bwyntiau cosb nad ydynt wedi dod i ben i’r DLlY, neu a yw’n agored i unrhyw bwyntiau cosb, mewn perthynas â’r ffurflen sydd o dan sylw neu ag unrhyw ffurflen ardoll ymwelwyr arall).
(3) Pan fo’r DLlY, drwy fethu â dychwelyd y ffurflen ardoll ymwelwyr, yn atal yn fwriadol wybodaeth a fyddai’n galluogi neu’n cynorthwyo ACC i asesu rhwymedigaeth y DLlY i’r ardoll ymwelwyr, y gosb yw—
(a) £300, neu
(b) swm uwch, heb fod yn fwy na 95% o’r swm o ardoll ymwelwyr y byddai’r person wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen ardoll ymwelwyr wedi ei dychwelyd.
(4) Mewn unrhyw achos nad yw’n dod o fewn is-adran (3), y gosb yw’r mwyaf o’r canlynol—
(a) 5% o’r swm o ardoll ymwelwyr y byddai’r DLlY wedi bod yn agored i’w dalu pe byddai’r ffurflen ardoll ymwelwyr wedi ei dychwelyd, a
(b) £300.
120G 

(1) Yn adrannau 117A(2), 120A, 120E a 120F, mae cyfeiriadau at “darparwr llety ymwelwyr” (neu “DLlY”) yn cynnwys person sydd, yn rhinwedd adran 41 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00), yn ddarostyngedig i ofyniad i ddychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr.
(2) Yn adrannau 120B i 120D, mae cyfeiriadau at “DLlY” yn cynnwys person sydd wedi peidio â bod yn DLlY.
120H 

(1) At ddibenion adrannau 120A i 120D a 120G (wrth ei chymhwyso mewn perthynas ag adrannau 120A i 120D)—
(a) mae aelodau partneriaeth neu aelodau corff anghorfforedig arall i’w trin gyda’i gilydd fel pe baent yn berson unigol (ac yn wahanol i’r personau sy’n aelodau o’r bartneriaeth neu’r corff),
(b) mae methiant gan un neu ragor o aelodau’r bartneriaeth neu’r corff i ddychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr ar ddyddiad ffeilio’r ffurflen neu cyn hynny i’w drin fel pe bai’n fethiant gan y person unigol tybiedig y cyfeirir ato ym mharagraff (a), ac
(c) mae pethau eraill a wneir gan aelod neu mewn perthynas ag aelod o’r bartneriaeth neu’r corff (gweler adran 56(1) i (4) o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (asc 00) (“Deddf 2025”)) hefyd i’w trin fel pe baent wedi eu gwneud gan y person unigol tybiedig hwnnw neu mewn perthynas ag ef.
(2) Mae’r person unigol tybiedig y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a) i’w drin fel pe bai’n parhau i fodoli hyd yn oed os oes newid yn aelodaeth y bartneriaeth neu’r corff.
(3) Pan fo cosb, o dan adran 120B, yn cael ei hasesu ar y person unigol tybiedig y cyfeirir ato yn is-adran (1)(a)—
(a) mae pob aelod perthnasol yn agored ar y cyd ac yn unigol i’r gosb, a
(b) nid yw adran 56(5) a (6) o Ddeddf 2025 (atebolrwydd aelodau) yn gymwys.
(4) At ddibenion is-adran (3)(a)—
(a) ystyr “aelod perthnasol” yw person sydd, ar y diwrnod yr asesir y gosb—
(i) yn bartner yn y bartneriaeth, neu (yn ôl y digwydd)
(ii) yn aelod rheoli o’r corff (o fewn ystyr Deddf 2025);
(b) mae person yn aelod perthnasol hyd yn oed os nad oedd y person yn bartner yn y bartneriaeth neu’n aelod rheoli o’r corff pan aed i rwymedigaeth i un neu ragor o’r pwyntiau cosb y cododd rhwymedigaeth i’r gosb yn eu rhinwedd;
(c) mae’r aelodau perthnasol yn agored ar y cyd ac yn unigol i’r gosb hyd yn oed os nad oedd yr un ohonynt yn bartneriaid yn y bartneriaeth neu’n aelodau rheoli o’r corff pan aed i rwymedigaeth i’r pwyntiau cosb y cododd rhwymedigaeth i’r gosb yn eu rhinwedd.”.
43 
Yn adran 121(1) (gostwng cosb am fethu â dychwelyd ffurflen dreth: datgelu), yn lle “neu 120” rhodder “, 120, 120B, 120E neu 120F”.
44 
Yn adran 122 (cosb am fethu â thalu treth mewn pryd)—
(a) yn is-adran (2), ar ôl paragraff (b) mewnosoder—“
(c) mewn cysylltiad â swm o ardoll ymwelwyr, yw 5% o swm yr ardoll nas talwyd, ond—
(i) os yw 5% o swm yr ardoll nas talwyd yn llai na £100, y gosb yw £100;
(ii) os yw 5% o swm yr ardoll nas talwyd yn fwy na £5000, y gosb yw £5000.”;
(b) yn is-adran (3), yn lle “122ZA a 122A” rhodder “122ZA, 122A a 122B”;
(c) yn Nhabl A1, ar ôl eitem 2 mewnosoder—“
2A Ardoll ymwelwyr Swm sy’n daladwy o ganlyniad i ffurflen ardoll ymwelwyr. Y dyddiad sydd 30 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad ffeilio’r ffurflen ardoll ymwelwyr.”
45 
Ar ôl adran 122A (cosbau pellach am barhau i fethu â thalu treth ddatganoledig) mewnosoder—“
122B 

(1) Mae’r adran hon yn gymwys pan fo‍ person yn agored i gosb o dan adran 122 mewn cysylltiad â methu â thalu swm o ardoll ymwelwyr ar y dyddiad cosbi ar gyfer y swm hwnnw, neu cyn hynny.
(2) Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 6 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r‍ person yn agored i gosb bellach.
(3) Y gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu, ond—
(a) os yw 5% o’r swm nas talwyd yn llai na £100, y gosb yw £100;
(b) os yw 5% o’r swm nas talwyd yn fwy na £5000, y gosb yw £5000.
(4) Os yw unrhyw swm yn parhau i fod heb ei dalu ar ôl diwedd y cyfnod o 12 mis sy’n dechrau â’r diwrnod sydd 30 o ddiwrnodau cyn y dyddiad cosbi, mae’r‍ person yn agored i ail gosb bellach.
(5) Yr ail gosb bellach yw 5% o’r swm sy’n parhau i fod heb ei dalu, ond—
(a) os yw 5% o’r swm nas talwyd yn llai na £100, y gosb yw £100;
(b) os yw 5% o’r swm nas talwyd yn fwy na £5000, y gosb yw £5000.”
46 
Yn adran 126 (esgus rhesymol dros fethu â dychwelyd ffurflen dreth neu dalu treth neu swm sy’n daladwy mewn cysylltiad â chredyd treth)—
(a) yn is-adran (1), ar ôl “120” mewnosoder “, 120B, 120E neu 120F, neu (yn ôl y digwydd) i bwynt cosb o dan adran 120A,”;
(b) yn is-adran (2), yn lle “122A” rhodder “122B”.
47 
Yn adran 127 (asesu cosbau o dan Bennod 2)—
(a) yn is-adrannau (3) a (4), yn lle “neu 120” rhodder “, 120 neu 120F”;
(b) yn is-adran (5), yn lle “122ZA neu 122A” rhodder “122ZA, 122A neu 122B”;
(c) yn is-adran (6), yn lle “122ZA neu 122A” rhodder “122ZA, 122A neu 122B”.
48 
Yn adran 128(2) (terfyn amser ar gyfer asesu cosbau o dan Bennod 2)—
(a) ym mharagraff (a), ar ôl “ffurflen dreth” mewnosoder “, heblaw pan gyfyd rhwymedigaeth i’r gosb o dan adran 120B”;
(b) ar ôl paragraff (a) mewnosoder—“
(aa) yn achos rhwymedigaeth i gosb o dan adran 120B (cosb ariannol pan fo pwyntiau cosb wedi eu dyfarnu), â dyddiad ffeilio’r ffurflen y dyfarnwyd y pwynt cosb a achosodd i’r darparwr llety ymwelwyr gyrraedd y trothwy cosbau mewn perthynas â hi,”.
49 
Yn adran 172 (penderfyniadau apeliadwy)—
(a) yn is-adran (2), ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(da) penderfyniad sy’n ymwneud â phwynt cosb am fethu â dychwelyd ffurflen ardoll ymwelwyr (o fewn ystyr Rhan 5);
(db) penderfyniad i ddyroddi hysbysiad trethdalwr, neu i gynnwys gofyniad penodol mewn hysbysiad o’r fath, pan na chymeradwyodd y tribiwnlys ddyroddi’r hysbysiad;”;
(b) yn is-adran (3), ym mharagraffau (b)(i) ac (c)(i), ar ôl “trethdalwr” mewnosoder “pan gymeradwyodd y tribiwnlys ddyroddi’r hysbysiad”.
50 
Ar ôl adran 187A mewnosoder—“
187B 

(1) Mae’r Ddeddf hon, i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr, yn rhwymo’r Goron.
(2) Nid yw’r Ddeddf hon, i’r graddau y mae’n gymwys mewn perthynas â’r ardoll ymwelwyr, yn gwneud y Goron yn atebol o ran cyfraith trosedd, ond mae’n gymwys i bersonau sy’n gwasanaethu’r Goron fel y mae’n gymwys i bersonau eraill.
(3) Yn is-adrannau (1) a (2), mae cyfeiriadau at “y Ddeddf” hon yn cynnwys cyfeiriad at ddeddfiad a wneir o dan y Ddeddf hon.”
51 
Yn adran 189(2) (rheoliadau), ar ôl “18(2),” mewnosoder “24A(5),”.
52 

(1) Mae adran 190 (dyroddi hysbysiadau gan ACC) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn is-adran (1), ar ôl “darpariaeth yn” mewnosoder “Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00), yn”.
(3) Yn is-adran (6)—
(a) ym mharagraff (a)—
(i) ar ôl “corff corfforaethol,” mewnosoder “naill ai—
(i) ”;
(ii) yn lle “corff;” rhodder “corff, neu
(ii) pan fo’r ffurflen dreth ddiweddaraf a ddychwelwyd gan y corff i ACC yn cynnwys cyfeiriad yr honnir ei fod yn gyfeiriad y corff, y cyfeiriad hwnnw;”;
(b) ym mharagraff (b)—
(i) ar ôl “partneriaeth,” mewnosoder “naill ai—
(i) ”;
(ii) yn lle “bartneriaeth;” rhodder “bartneriaeth, neu
(ii) pan fo’r ffurflen dreth ddiweddaraf a ddychwelwyd gan y bartneriaeth i ACC yn cynnwys cyfeiriad yr honnir ei fod yn gyfeiriad y bartneriaeth, y cyfeiriad hwnnw;”.
53 
Yn adran 191 (rhoi hysbysiadau a dogfennau eraill i ACC)—
(a) yn is-adran (1), ar ôl “darpariaeth yn” mewnosoder “Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025, yn”;
(b) yn is-adran (3), ar ôl “Neddfau Trethi Cymru” mewnosoder “neu yn Neddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025,”.
54 
Yn adran 192 (dehongli)—
(a) yn is-adran (2)—
(i) hepgorer y diffiniad o “trethdalwr datganoledig”;
(ii) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
 “mae i “ardoll ymwelwyr” (“visitor levy”) yr un ystyr ag yn Rhan 3 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 (dsc 00);”;“
 “ystyr “prif gyngor” (“principal council”) yw cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru;”;“
 “ystyr “treth a gesglir gan ACC” (“WRA-collected tax”) yw—
(a) treth ddatganoledig, neu
(b) yr ardoll ymwelwyr;”;“
 “ystyr “trethdalwr” (“taxpayer”) yw person sy’n atebol am dalu treth a gesglir gan ACC;”;
(b) ar ôl is-adran (2) mewnosoder—“
(3) At ddibenion y Ddeddf hon, mae prif gyngor wedi penderfynu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr os yw wedi cyhoeddi hysbysiad o dan adran 48 o Ddeddf Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) 2025 yn datgan ei fod yn mynd i gyflwyno’r ardoll ymwelwyr.”
55 
Yn adran 193 (mynegai o ymadroddion a ddiffinnir), yn Nhabl 1—
(a) yn y cofnod ar gyfer “Trethdalwr datganoledig”, yn yr ail golofn, yn lle “adran 192(2)” rhodder “adran 81B(3)(c)”;
(b) yn y lleoedd priodol mewnosoder—“
Ardoll ymwelwyr (“visitor levy”) adran 192(2)”;“
Darparwr llety ymwelwyr (“visitor accommodation provider”) a DLlY (“VAP”) adran 117A(1) (a gweler hefyd adran 120G)”;“
Ffurflen ardoll ymwelwyr (“visitor levy return”) adran 117A(1)”;“
Ffurflen treth ddatganoledig (“devolved tax return”) adran 117A(1)”;“
Prif gyngor (“principal council”) adran 192(2)”;“
Prif gyngor sydd wedi penderfynu cyflwyno’r ardoll ymwelwyr (“principal council that has decided to introduce the visitor levy”) adran 192(3)”;“
Treth a gesglir gan ACC (“WRA-collected tax”) adran 192(2)”;“
Trethdalwr (“taxpayer”) adran 192(2)”.