
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyllid Llywodraeth Leol (Diwygiadau a Dirymiadau Canlyniadol ac Amrywiol) (Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw Rhannau 1 a 2 i rym ar 16 Tachwedd 2024.
(4) Daw Rhan 3 i rym ar 1 Ebrill 2025.
RHAN 2
2 
Ym mharagraff 5(4) o Atodlen 3 (dosrannu costau tai) i Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987, yn lleʼr diffiniad o “local non-domestic rating list” rhodder—“
 “local non-domestic rating list” means—
(a) as respects England, a list compiled and maintained under section 41(1) of the Act of 1988;
(b) as respects Wales, a list compiled and maintained under section 41ZA of the Act of 1988;”.
3 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Canolog) 1989 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(2) (amser cyflwyno hysbysiadau galw am dalu), ar ôl “section 52(5)” mewnosoder “or 52ZA(6)”.
(3) Yn rheoliad 6(1) (taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu), ar ôl “section 52(5)” mewnosoder “or 52ZA(6)”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 5(2) (cyflwyno hysbysiadau galw am dalu), ar ôl “section 41(5)” mewnosoder “or 41ZA(6)”.
(3) Yn rheoliad 6(1) (taliadau o dan hysbysiadau galw am dalu), ar ôl “section 41(5)” mewnosoder “or 41ZA(6)”.
(4) Ym mharagraff 6(1) o Ran 2 o Atodlen 1 (diweddu ac addasu rhandaliadau ardreth annomestig), ar ôl “section 41(5)” mewnosoder “or 41ZA(6)”.
5 
Yn rheoliad 6 (newid rhestrau ardrethu) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Rhif 2) 1989—
(a) daw’r ddarpariaeth bresennol yn baragraff (1);
(b) yn y paragraff hwnnw, ar ôl “billing authority” mewnosoder “in England”;
(c) ar ôl y paragraff hwnnw mewnosoder—“
(2) Where a copy of a local or central rating list has been sent to a billing authority in Wales or the Welsh Ministers under section 41ZA(6) (local lists) or 52ZA(6) (central lists) of the Act and the valuation officer alters the list before it comes into force—
(a) the officer shall inform the billing authority or the Welsh Ministers, as the case may be, and
(b) the authority or the Welsh Ministers, as the case may be, must alter the copy accordingly.”
6 

(1) Mae rheoliad 6 (prisio anheddau: cyffredinol) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Lleoliad Anheddau a’u Prisio) 1992 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff (1), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) in relation to a list compiled for a billing authority in Wales under section 22B of the Act, on the date determined under section 21(2A)(b) of the Act as the appropriate date for the list in question.”
(3) Ym mharagraff (3)(b)(v), yn lle is-baragraff (b) rhodder—“
(b) in relation to a list compiled for a billing authority in Wales under section 22B of the Act, on the date on which the list was compiled.”
(4) Ym mharagraff (5A)(a), yn lle is-baragraff (ii) rhodder—“
(ii) a valuation list compiled for a billing authority in Wales under section 22B of the Act, on the date on which the list was compiled.”
(5) Ym mharagraff (5A)(d), yn lle is-baragraff (ii) rhodder—“
(ii) in relation to a list compiled for a billing authority in Wales under section 22B of the Act, on the date on which the list was compiled.”
7 
Yn rheoliad 1(2) (dehongli) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Cynnwys Rhestrau Prisio) 1992 yn lle’r diffiniad o “list” rhodder—“
 “list” means—
(a) a valuation list compiled for a billing authority in England under section 22 of the Act;
(b) a valuation list compiled for a billing authority in Wales under sections 22, 22A or 22B of the Act.”
8 

(1) Mae Rheoliadau Cyfraniadau Ardrethu Annomestig (Cymru) 1992 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Atodlen 1 (rheolau ar gyfer cyfrifo cyfraniadau ardrethu annomestig), ym mharagraff 4(2)—
(a) yn lle “section 41(1)” rhodder “section 41ZA(1)”;
(b) yn lle “section 41(5)” rhodder “section 41ZA(6)”.
(3) Yn Rhan 1 o Atodlen 2 (rhagdybiaethau sy’n ymwneud â symiau dros dro)—
(a) ym mharagraff 2(4)—
(i) yn lle “section 41(1)” rhodder “section 41ZA(1)”;
(ii) yn lle “section 41(5)” rhodder “section 41ZA(6)”;
(b) ym mharagraff 2(5), yn lle “section 41(5)” rhodder “section 41ZA(6)”;
(c) ym mharagraff 2(6), yn lle “section 41(5)” rhodder “section 41ZA(6)”.
9 
Yn rheoliad 2(2)(b) (dehongli) o Reoliadau’r Dreth Gyngor (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 1993—
(a) yn lle “or (3)(b)” rhodder “, (3) or (3A)”;
(b) ym mharagraff (i), ar ôl “section 22B(7)” mewnosoder “or (7A)”.
10 
Yn rheoliad 1(3) (dehongli) o Reoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen Treth Gyngor) (Cymru) 1995, yn y diffiniad o “the authority’s list”, ar ôl “22B(10)” mewnosoder “or 22B(10A)(a), or kept by it electronically under section 22B(10A)(b)”.
11 

(1) Mae Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Cyllid) (Diwygiadau Amrywiol a Darpariaethau Trosiannol) 1996 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer erthygl 5 (Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) 1993).
(3) Yn erthygl 6(8) (diffiniadau yng nghyd-destun swyddogion prisio), yn lle’r geiriau o ““old billing authority”” hyd at “the 1988 Act” rhodder—“
 “old authority” has the same meaning as in the Local Government (Wales) Act 1994;
 “old billing authority” means a billing authority which is an old authority;
 “new billing authority” means a billing authority which is a new principal council;
 “new principal council” has the same meaning as in the Local Government (Wales) Act 1994;
 “valuation officer” means a valuation officer for an old billing authority;
 “new valuation officer” means a valuation officer for a new billing authority”.
(4) Hepgorer erthygl 10 (adennill cymhorthdal mewn rhai achosion).
12 
Ym mharagraff 5(4) o Atodlen 2 (dosrannu costau tai) i Reoliadau Lwfans Ceisio Gwaith 1996, yn lle’r diffiniad o “local non-domestic rating list” rhodder—“
 “local non-domestic rating list” means—
(a) as respects England, a list compiled and maintained under section 41(1) of the Act of 1988;
(b) as respects Wales, a list compiled and maintained under section 41ZA of the Act of 1988;”.
13 
Yn rheoliad 2A(2)(b)(ii)(aa) (tybiaethau rhagnodedig: prisio o 1 Ebrill 2010) o Reoliadau Prisio ar gyfer Ardrethu (Peiriannau a Pheirianwaith) (Cymru) 2000, yn lle “adrannau 41(2) a 52(2)” rhodder “adrannau 41ZA(2) a 52ZA(2)”.
14 
Ym mharagraff 6(4) o Atodlen 2 (dosrannu costau tai) i Reoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002, yn lle’r diffiniad o “local non-domestic rating list” rhodder—“
 “local non-domestic rating list” means—
(a) as respects England, a list compiled and maintained under section 41(1) of the Act of 1988;
(b) as respects Wales, a list compiled and maintained under section 41ZA of the Act of 1988;”.
15 
Ym mharagraff 7(4) o Atodlen 6 (dosrannu costau tai) i Reoliadau Lwfans Cyflogaeth a Chymorth 2008, yn lle’r diffiniad o “local non-domestic rating list” rhodder—“
 “local non-domestic rating list” means—
(a) as respects England, a list compiled and maintained under section 41(1) of the Act of 1988;
(b) as respects Wales, a list compiled and maintained under section 41ZA of the Act of 1988;”.
16 
Yn rheoliad 38(5) (swm y gosb) o Reoliadau Perfformiad Ynni Adeiladau (Cymru a Lloegr) 2012, yn lle’r diffiniad o “local non-domestic rating list” rhodder—“
 “local non-domestic rating list” means—
(a) in relation to England, a list compiled and maintained under section 41 of the Local Government Finance Act 1988;
(b) in relation to Wales, a list compiled and maintained under section 41ZA of the Local Government Finance Act 1988;”.
17 
Yn rheoliad 41(5) (tor rheoliadau mewn perthynas ag eiddo rhent preifat annomestig) o Reoliadau Effeithlonrwydd Ynni (Eiddo Rhent Preifat) (Cymru a Lloegr) 2015, yn lle’r diffiniad o “local non-domestic rating list” rhodder—“
 “local non-domestic rating list” means—
(a) in relation to England, a list maintained under section 41 of the Local Government Finance Act 1988;
(b) in relation to Wales, a list compiled and maintained under section 41ZA of the Local Government Finance Act 1988;”.
18 
Yn rheoliad 1(3) (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Darpariaethau Amrywiol) (Cymru) 2017, yn y diffiniad o “rhestr”, yn lle “adran 41 neu 41A” rhodder “adran 41ZA”.
19 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Symiau a Godir) (Cymru) 2022—
(a) yn y diffiniad o “rhestr ganolog”, yn lle “a lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 52” rhodder “a gedwir yn unol ag adran 52ZA(10)”;
(b) yn y diffiniad o “rhestr leol”, yn lle a “lunnir ac a gedwir yn unol ag adran 41” rhodder “a gedwir yn unol ag adran 41ZA(10)”.
20 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Newid Rhestrau ac Apelau) (Cymru) 2023 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli: cyffredinol)—
(a) yn y diffiniad o “rhestr ganolog”, yn lle “adrannau 52 a 54A” rhodder “adran 52ZA”;
(b) yn y diffiniad o “rhestr leol”, yn lle “adrannau 41 a 54A” rhodder “adran 41ZA”.
(3) Yn rheoliad 30(1) (hysbysu am newid), hepgorer “a adneuwyd yn ei brif swyddfa o dan adran 41(6B) o’r Ddeddf”.
21 
Yn rheoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad Gwelliannau) (Cymru) 2023—
(a) yn y diffiniad o “rhestr ganolog”, yn lle “adran 52” rhodder “adran 52ZA”;
(b) yn y diffiniad o “rhestr leol”, yn lle “adran 41” rhodder “adran 41ZA”.
22 
Mae’r offerynnau statudol a ganlyn wedi eu dirymu—
(a) Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) 1989;
(b) Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu a Rhyddhad yn ôl Disgresiwn) (Cymru) (Diwygio) 2006;
(c) Gorchymyn Rhestrau Ardrethu (Gohirio Gwneud Rhestrau) (Cymru) 2014.
RHAN 3
23 
Mae’r diwygiadau a wnaed i reoliad 3(2) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Rhestrau Lleol) 1989 gan baragraff 1(b) o Atodlen 1 i Orchymyn Llywodraeth Leol (Ardrethu Annomestig) (Diwygiadau Canlyniadol) (Lloegr) 2008 a rheoliad 2(b) o Reoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Canlyniadol a Diwygiadau Eraill etc.) (Lloegr) 2023 yn gymwys mewn perthynas â hereditamentau yng Nghymru.
24 

(1) Mae Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3(7) (cydberchnogion a chydfeddianwyr), ar y dechrau mewnosoder “In relation to England,”.
(3) Ar ôl rheoliad 3(7), mewnosoder—“
(7A) In relation to Wales, for the purposes of any time to which paragraph (2)(b) applies—
(a) the requirement in paragraph 2(2)(a) of Schedule 4ZA and paragraph 2(3) of Schedule 4ZB to the Act that the ratepayer should be a charity or trustees for a charity is met if one or more of the owners or occupiers jointly and severally liable is a charity or (as the case may be) some or all of them are trustees for a charity; and
(b) the requirement in paragraph 2(2)(b) of Schedule 4ZA and paragraph 2(8) of Schedule 4ZB to the Act that the ratepayer should be a registered club for the purposes of Chapter 9 of Part 13 of the Corporation Tax Act 2010 (community amateur sports clubs) is met if one or more of the owners or occupiers jointly and severally liable is such a club.”
25 
Yng Ngorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Addasiadau Canlyniadol a Darpariaethau Trosia()nnol) 2007, yn Atodlen 1, hepgorer paragraff 39 (addasu Atodlen 7 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988).
26 

(1) Mae Atodlen 1 i Reoliadau Ardrethu Annomestig (Hysbysiadau Galw am Dalu) (Cymru) 2017 (materion i’w cynnwys mewn hysbysiadau galw am dalu) wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn lle paragraff 3 rhodder—“
(3) Y lluosydd ardrethu annomestig a gyfrifwyd ar gyfer y flwyddyn berthnasol yn unol â pharagraff A15 neu, yn ôl y digwydd, baragraff A14 o Ran A2 o Atodlen 7 i Ddeddf 1988.”
(3) Ym mharagraff 5, yn lle “paragraff 1(1)(b)”, rhodder “paragraff 1(1)”.
27 
Yn Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2024, hepgorer rheoliad 7 (diwygio Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Casglu a Gorfodi) (Darpariaethau Amrywiol) 1990).
Mark Drakeford
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg, un o Weinidogion Cymru
4 Hydref 2024