
1 
Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynlluniau Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2024.
2 
Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 21 Hydref 2024.
3 

(1) Mae Rheoliadau Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 3 (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “addasiad mynegai”, ym mharagraff (a), ar ôl “enillion” mewnosoder “a’r atodiad mynegai”;
(b) yn y lle priodol mewnosoder—“
 ystyr “atodiad mynegai” (“index supplement”) yw swm o bensiwn enilledig sy’n hafal i werth yr addasiad mynegai pan fo’r newid mewn enillion wedi ei gynyddu—
(a) ar gyfer 2021, 0.2% uwchlaw’r swm a bennir yng Ngorchymyn Ailbrisio Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2021 2021;
(b) ar gyfer 2022, 0.4% uwchlaw’r swm a bennir yng Ngorchymyn Ailbrisio Pensiynau’r Gwasanaethau Cyhoeddus 2022;”;
(c) yn y diffiniad o “mynegai ailbrisio mewn-gwasanaeth”, ar y diwedd mewnosoder “ac, yn y cynllun hwn, mae’n cynnwys yr atodiad mynegai”.
4 

(1) Mae Rheoliadau Pensiynau Diffoddwyr Tân (Gwasanaeth Rhwymedïol) (Cymru) 2023 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 22(2), yn y diffiniad o “swm cynllun gwaddol”, ar ôl “adran 29(2)” mewnosoder “o DDLlPh 1999”.
(3) Yn rheoliad 23(2)(b), yn y testun Cymraeg, yn lle “a’r swm amgen” rhodder “ac mae’r swm amgen”.
(4) Yn rheoliad 29(1)(a), yn y testun Saesneg, yn lle “divorce, annulment” rhodder “divorce or annulment”.
(5) Yn rheoliad 34(2)(a)—
(a) yn y testun Cymraeg, yn lle’r coma ar ôl “rhwymedïol cyfan” rhodder cromfach agoriadol;
(b) ar ôl “reoliad 42(2)” mewnosoder cromfach gloi.
(6) Yn rheoliad 39(2), yn y testun Cymraeg, ar ôl “pe bai’r hawliau hynny” mewnosoder “wedi bod”.
(7) Yn rheoliad 41(4), yn y testun Cymraeg, yn lle “adran 89(1)” rhodder “adran 86(1)”.
(8) Yn rheoliad 46, yn is-baragraff (ii) o baragraff (2)(b) a amnewidiwyd, yn y testun Cymraeg, yn lle “nad yw’r” rhodder “bod y”.
(9) Yn rheoliad 65(4), yn y testun Cymraeg, yn lle “gwasanaeth adferadwy”, yn y ddau le y mae’n digwydd, rhodder “gwasanaeth rhwymedïol”.
5 
Yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân (Cymru) 2007, ym Mhennod 2 o Ran 11, yn rheol 5C(7), yn y testun Cymraeg, ar ôl “Pan” mewnosoder “nad”.
Cydsyniwn i wneud rheoliadau 3 a 4 o’r Rheoliadau hyn.
Jeff Smith
Anna Turley
Dau o Arglwydd Gomisiynwyr Trysorlys Ei Fawrhydi
11 Medi 2024
Jayne Bryant
Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2024