
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Clefydau Egsotig (Cymhwyso a Diwygio Deddfiadau) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym ar 23 Medi 2024.
2 
At ddibenion Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, fel y bo’n gymwys o ran Cymru, estynnir y diffiniad o “disease” yn adran 88(1) o’r Ddeddf honno i gynnwys—
(a) y tafod glas;
(b) enseffalopathi sbyngffurf trosglwyddadwy;
(c) clwy Affricanaidd y moch, a
(d) clefyd gwaedlifol episootig.
3 

(1) Mae Gorchymyn Symud Anifeiliaid (Cyfyngiadau) (Cymru) 2003 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl erthygl 5 (datgan parth rheolaeth dros dro) mewnosoder—“
5A. 

(1) Os yw Gweinidogion Cymru yn ystyried bod clefyd yn bodoli neu wedi bodoli yn yr 56 o ddiwrnodau blaenorol ar unrhyw safle, cânt ddatgan bod ardal yn ardal heintiedig.
(2) Rhaid i ardal heintiedig a ddatgenir o dan baragraff (1) fod o’r maint y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried ei fod yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad clefydau.
(3) Rhaid i ddatganiad o dan baragraff (1) bennu un neu ragor o’r canlynol—
(a) y clefyd y mae’r ardal heintiedig yn cael ei datgan mewn perthynas ag ef;
(b) y rhywogaethau o anifeiliaid y mae’r datganiad yn ymwneud â hwy;
(c) y safleoedd o fewn yr ardal heintiedig y mae’r datganiad yn ymwneud â hwy;
(d) y mesurau bioddiogelwch y mae rhaid eu cymryd ar safleoedd o fewn yr ardal heintiedig; neu
(e) unrhyw fesurau eraill sydd i’w cymhwyso o fewn yr ardal heintiedig, neu o fewn unrhyw ran o’r ardal honno, y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad clefydau.
(4) Ni chaiff neb symud anifail sy’n perthyn i rywogaeth y mae datganiad o dan baragraff (1) yn ymwneud â hi, i ardal nac o ardal sydd wedi’i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(5) Ni chaiff neb symud anifail i safle nac o safle o fewn ardal sydd wedi’i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol.
(6) At ddibenion yr erthygl hon, bernir bod unrhyw safle sy’n rhannol y tu mewn ac yn rhannol y tu allan i ardal heintiedig o fewn yr ardal honno yn gyfan gwbl.
(7) Pan fo anifail yn teithio drwy ardal sydd wedi’i datgan yn ardal heintiedig o dan y Gorchymyn hwn, rhaid i’r anifail gael ei symud mewn cerbyd ar hyd y llwybr byrraf sydd ar gael a hynny heb gael ei ddadlwytho.
(8) Caniateir i ddatganiad a wneir o dan y Gorchymyn hwn gael ei ddiwygio, ei atal dros dro neu ei ddirymu gan Weinidogion Cymru ar unrhyw adeg.
(9) Rhaid i ddatganiad a wneir o dan y Gorchymyn hwn ac unrhyw achos o ddiwygio, atal dros dro neu ddirymu’r datganiad fod yn ysgrifenedig.”
(3) Yn lle erthygl 12 (yr awdurdod lleol i orfodi’r gorchymyn) rhodder—“
12. 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i ddarpariaethau’r Gorchymyn hwn, ac eithrio pan ddarperir yn benodol fel arall, gael eu gweithredu a’u gorfodi gan yr awdurdod lleol.
(2) Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo, mewn achosion o ddisgrifiad penodol neu mewn achos penodol, y caiff Gweinidogion Cymru gyflawni’r cyfrifoldeb am orfodi’r Gorchymyn hwn.”
4 

(1) Mae Rheoliadau’r Tafod Glas (Cymru) 2008 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2(1) (dehongli)—
(a) yn y diffiniad o “anifail”, yn lle’r geiriau “(ac at ddibenion” hyd at y diwedd rhodder “neu gamelid;”;
(b) ar ôl y diffiniad o “brechlynnau byw a wanhawyd”, mewnosoder—“
 ystyr “carcas” (“carcase”) yw carcas anifail;”;
(c) ar ôl y diffiniad o “parth rheoli”, mewnosoder—“
 ystyr “Prif Swyddog Milfeddygol” (“Chief Veterinary Officer”) yw Prif Swyddog Milfeddygol Cymru.”;
(d) ar ôl y diffiniad o “carcas”, mewnosoder—“
 ystyr “cynnyrch cenhedlol” (“germinal product”) yw embryo, ofwm neu semen anifail;”;
(e) yn y diffiniad o “mangre”, yn lle “fan neu le” rhodder “dir, adeilad neu fan neu le arall”.
(3) Yn rheoliad 2(2) (dehongli), hepgorer “drwy hysbysiad”.
(4) Yn rheoliad 7 (mangreoedd sy’n pontio parthau), ym mharagraff 4(c), yn lle “i’r parth dan gyfyngiadau” rhodder “i’r parth rheoli dros dro”.
(5) Yn lle rheoliad 9 (mangreoedd a amheuir neu fangreoedd heintiedig) rhodder—“
9. 

(1) Os amheuir neu os cadarnheir presenoldeb y tafod glas neu feirws y tafod glas mewn unrhyw fangre, caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol gyflwyno hysbysiad i’r meddiannydd neu i geidwad unrhyw anifeiliaid yn y fangre honno, yn gwahardd symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol i’r fangre neu o’r fangre ac eithrio yn unol â thrwydded.
(2) Caiff hysbysiad a gyflwynir o dan baragraff (1) osod y gofynion canlynol ar y meddiannydd neu’r ceidwad—
(a) llunio stocrestr, a gynhelir yn ddyddiol, o’r holl anifeiliaid a chynhyrchion cenhedlol yn y fangre, gan gofnodi, ar gyfer pob rhywogaeth—
(i) cyfanswm nifer yr anifeiliaid;
(ii) cyfanswm nifer y cynhyrchion cenhedlol a’r mathau ohonynt;
(iii) nifer yr anifeiliaid neu’r cynhyrchion cenhedlol y mae’r tafod glas neu feirws y tafod glas yn effeithio arnynt neu yr amheuir bod y tafod glas neu feirws y tafod glas yn effeithio arnynt;
(iv) nifer yr anifeiliaid sy’n marw neu nifer y cynhyrchion cenhedlol a ddinistrir;
(v) nifer a chyrchfan unrhyw anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol a symudir o’r fangre;
(b) cadw cofnod o’r stocrestr am ddwy flynedd o leiaf o’r dyddiad y cyflwynir yr hysbysiad;
(c) sicrhau y cedwir pob anifail dan do, neu yn unol â chyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol;
(d) gweithredu’r mesurau rheoli gwybed a bennir yn yr hysbysiad mewn cysylltiad â phob anifail yn y fangre.
(3) Rhaid i drwydded a roddir o dan baragraff (1) osod yr amodau hynny ar symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol y mae arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i atal lledaeniad feirws y tafod glas.
(4) Caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol—
(a) cyflwyno hysbysiad o dan baragraff (1) i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid yn y fangre honno os yw’r arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol yn amau bod anifeiliaid yn y fangre wedi dod i gysylltiad â feirws y tafod glas;
(b) cynnwys y mesurau hynny ym mharagraff (2) yr ystyrir eu bod yn angenrheidiol i atal lledaeniad feirws y tafod glas.”
(6) Yn rheoliad 10 (parthau rheoli dros dro)—
(a) ym mharagraff (4)—
(i) ar ôl “anifail”, mewnosoder “na chynnyrch cenhedlol”;
(ii) ar ôl “arolygydd milfeddygol”, mewnosoder “neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol”;
(b) hepgorer paragraff (5).
(7) Yn rheoliad 11 (cadarnhau bod y tafod glas mewn mangre)—
(a) daw’r testun presennol yn baragraff (1);
(b) hepgorer paragraff (b) a’r “a” o’i flaen;
(c) ym mharagraff (1) (fel y’i hailrifir), yn lle “iddo” rhodder “i’r arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol”;
(d) ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir), mewnosoder—“
(2) Caiff hysbysiad o dan baragraff (1) hysbysu’r meddiannydd (er gwaethaf rheoliad 8) nad oes angen hysbysu arolygydd milfeddygol am unrhyw achosion pellach a amheuir o’r tafod glas yn y fangre.”
(8) Yn rheoliad 12 (y mesurau pan fo presenoldeb feirws y tafod glas wedi ei gadarnhau)—
(a) ym mharagraff (1)—
(i) yn lle “rhaid i Weinidogion Cymru” rhodder “caiff Gweinidogion Cymru”;
(ii) hepgorer “ar sail epidemiolegol, daearyddol, ecolegol neu feteorolegol,”;
(b) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl “anifail” mewnosoder “na chynnyrch cenhedlol”;
(ii) ar ôl “na’i symud ohoni” mewnosoder “ac eithrio yn unol â thrwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau arolygydd milfeddygol”.
(9) Ar ôl rheoliad 12 (y mesurau pan fo presenoldeb feirws y tafod glas wedi ei gadarnhau) mewnosoder—“
12A. 

(1) Mae adran 32 o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 (sy’n ymwneud â chigydda a digolledu) yn gymwys i’r tafod glas.”
(10) Yn rheoliad 13 (cyfyngiadau mewn parthau diogelu a pharthau goruchwyliaeth)—
(a) ym mharagraff (1)(a), yn lle “rhaid i Weinidogion Cymru” rhodder “caiff Gweinidogion Cymru”;
(b) ym mharagraff (2)—
(i) yn lle “, semen, ofwm nac embryo” rhodder “na chynnyrch cenhedlol”;
(ii) yn lle “arolygydd” rhodder “arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol”;
(c) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl “anifail” mewnosoder “na chynnyrch cenhedlol”;
(ii) ar ôl “gwarchod” mewnosoder “neu barth gwyliadwriaeth”;
(iii) yn lle “arolygydd” rhodder “arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol”;
(d) ar ôl paragraff (3), mewnosoder—“
(3A) Caiff datganiad o dan baragraff (1) gynnwys gwaharddiad ar symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol i fangre neu o fangre o fewn parth, ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.”;
(e) hepgorer paragraff (4).
(11) Ar ôl rheoliad 13, mewnosoder—“
13A. 

(1) Os cadarnheir feirws y tafod glas mewn anifail neu gynnyrch cenhedlol ac os yw’r Prif Swyddog Milfeddygol yn ystyried—
(a) nad yw’r feirws yn cylchredeg; a
(b) bod budd rheoli clefydau o wneud hynny,
caiff Gweinidogion Cymru ddatgan bod ardal briodol yn barth dan gyfyngiadau.
(2) Rhaid i barth dan gyfyngiadau a ddatgenir o dan y rheoliad hwn—
(a) canolbwyntio ar leoliad yr anifail neu’r cynnyrch cenhedlol y cadarnheir feirws y tafod glas ynddo; a
(b) bod o faint a ystyrir yn angenrheidiol gan y Prif Swyddog Meddygol er mwyn atal lledaeniad feirws y tafod glas.
(3) Ni chaiff neb symud anifail na chynnyrch cenhedlol o barth dan gyfyngiadau a ddatgenir o dan y rheoliad hwn ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
13B. 

(1) Os yw Gweinidogion Cymru, ar ôl cynnal asesiad risg, yn ystyried bod camau o’r fath yn angenrheidiol i leihau’r risg bod feirws y tafod glas yn treiddio i unrhyw ran o Gymru neu fod feirws y tafod glas yn lledaenu i anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol o unrhyw ffynhonnell, caiff Gweinidogion Cymru—
(a) datgan parth atal y tafod glas ledled Cymru neu mewn unrhyw ran ohoni; a
(b) cyflwyno, neu ei gwneud yn ofynnol i arolygydd gyflwyno, hysbysiad i feddiannydd mangre neu geidwad anifeiliaid mewn mangre lle cedwir anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol a bennir yn yr hysbysiad.
(2) Caiff hysbysiad neu ddatganiad o dan baragraff (1)—
(a) gosod y mesurau hynny y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i leihau’r risg o ymlediad feirws y tafod glas i unrhyw ran o Gymru neu ledaeniad feirws y tafod glas;
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (3), gyfyngu ar symud anifeiliaid neu gynhyrchion cenhedlol—
(i) o fewn parth atal y tafod glas;neu
(ii) o fangre o fewn y parth atal y tafod glas i ardal nad yw yn y parth atal y tafod glas.
(3) Ni chaiff neb symud anifeiliaid na chynhyrchion cenhedlol o fewn nac o barth atal y tafod glas ac eithrio o dan awdurdod trwydded a roddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.
(4) Ni chaiff neb symud anifeiliaid o fewn nac o barth atal y tafod glas os yw’r anifail yn dangos arwyddion clinigol o’r tafod glas ar neu cyn y diwrnod cludo.”
(12) Yn rheoliad 14 (lladd-dai)—
(a) ym mharagraff (1), yn lle “a gludir allan o barth dan gyfyngiadau” rhodder “a symudir yn unol â’r Rheoliadau hyn”;
(b) hepgorer paragraff (3).
(13) Ar ôl rheoliad 14, mewnosoder—“
14A. 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddynodi unrhyw fangre at ddiben casglu, prosesu, trin neu storio cynhyrchion cenhedlol.
(2) Caiff dynodiad o dan y rheoliad hwn gynnwys unrhyw fesurau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn angenrheidiol i atal lledaeniad feirws y tafod glas.”
(14) Yn lle rheoliad 15 (symud anifeiliaid wedyn) rhodder—“
15. 

(1) Ar ôl symud anifail neu gynnyrch cenhedlol o fangre o fewn parth rheoli dros dro, parth gwarchod, parth gwyliadwriaeth, parth rheoli neu barth dan gyfyngiadau, caiff arolygydd milfeddygol neu arolygydd sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol, drwy hysbysiad a gyflwynir i feddiannydd mangre y mae’r anifail neu’r cynnyrch cenhedlol wedi ei symud iddi—
(a) gwahardd symud yr anifail neu’r cynnyrch cenhedlol hwnnw o’r fangre y symudwyd yr anifail neu’r cynnyrch cenhedlol iddi;
(b) gwahardd symud unrhyw anifail neu gynnyrch cenhedlol arall i’r fangre neu oddi yno;
(c) pennu’r gofynion hynny y mae arolygydd milfeddygol yn ystyried eu bod yn angenrheidiol er mwyn atal lledaeniad clefydau.
(2) Caniateir i symudiad a waherddir gan hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei awdurdodi o dan drwydded a ddyroddwyd gan arolygydd milfeddygol neu gan arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol.”
(15) Yn rheoliad 19 (defnyddio brechlynnau)—
(a) ym mharagraff (1) ar ôl “brechlynnau”, hepgorer “anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd”;
(b) ym mharagraff (2) ar ôl “gan frechlynnau”, hepgorer “anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd”;
(c) ym mharagraff (3)—
(i) ar ôl “arolygydd milfeddygol” mewnosoder “neu arolygydd neu swyddog i Weinidogion Cymru sy’n gweithredu o dan gyfarwyddyd arolygydd milfeddygol”;
(ii) ar ôl “brechlynnau”, hepgorer “anweithredol neu frechlynnau byw a wanhawyd”.
(16) Yn rheoliad 20 (pwerau arolygwyr milfeddygol, swyddogion ac arolygwyr), yn y testun Saesneg, ym mharagraff (5)(a), yn lle “isolate of” rhodder “isolate or”.
5 

(1) Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Cymru) (Digolledu) 2007 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2 (digolledu)—
(a) ym mharagraff (1), hepgorer “fel y’i cymhwysir i’r tafod glas gan erthygl 13 o Orchymyn y Tafod Glas 2003”;
(b) ym mharagraff (3), ar ôl “anifail sy’n cnoi cil” rhodder “neu gamelid”.
6 
Mae Gorchymyn y Tafod Glas (Rhif 2) (Cymru) 2007 wedi ei ddirymu, i’r graddau nad yw wedi ei ddirymu’n flaenorol.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
19 Medi 2024