
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Trwyddedu Triniaethau Arbennig (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 29 Tachwedd 2024.
2 

(1) Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw awdurdod lleol fel y’i diffinnir gan adran 124(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “cais” (“application”) yw cais a wneir yn unol ag Atodlen 3 i’r Ddeddf ar gyfer dyroddi, adnewyddu neu amrywio trwydded triniaeth arbennig;
 ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw person sy’n gwneud cais;
 mae i “deiliad trwydded” (“licence holder”) yr ystyr a roddir yn adran 59(8)(b) o’r Ddeddf;
 mae “dirymu” (“revocation”) i’w ddehongli yn unol ag adran 68 neu adran 73 o’r Ddeddf;
 ystyr “dynodiad” (“designation”) yw pan fo awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad i unigolyn o dan adran 61(1) o’r Ddeddf;
 ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017;
 ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw’r gwrandawiad y cyfeirir ato yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen yn ôl y digwydd;
 ystyr “hysbysiad o benderfyniad” (“notice of decision”) yw hysbysiad a roddir yn unol â pharagraff 16 neu 17 o Atodlen 3 i’r Ddeddf;
 ystyr “hysbysiad o wrandawiad” (“notice of hearing”) yw’r hysbysiad a roddir i barti yn unol â rheoliad 5;
 ystyr “hysbysiad rhybuddio” (“warning notice”) yw hysbysiad a ddyroddir yn unol â pharagraff 15(3) o Atodlen 3 i’r Ddeddf;
 ystyr “parti” (“party”) yw—
(a) person y rhoddir hysbysiad o wrandawiad iddo yn unol â rheoliad 5(1), a
(b) yr awdurdod lleol sydd wedi dyroddi’r hysbysiad rhybuddio;
 ystyr “pwyllgor perthnasol” (“relevant committee”) yw pwyllgor trwyddedu y dirprwyir swyddogaethau iddo yn rhinwedd paragraff 21(1) o Atodlen 3 i’r Ddeddf neu is-bwyllgor trwyddedu y rhoddir y pŵer iddo i gyflawni swyddogaethau o’r fath drwy drefniant o dan baragraff 21(2)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf;
 ystyr “sylwadau” (“representations”) yw sylwadau a gyflwynir yn unol â pharagraff 15 o Atodlen 3 i’r Ddeddf mewn ymateb i hysbysiad rhybuddio a ddyroddir gan awdurdod lleol;
 mae i “triniaeth arbennig” (“special procedure”) yr ystyr a roddir yn adran 57 o’r Ddeddf;
 mae i “trwydded triniaeth arbennig” (“special procedure licence”) yr ystyr a roddir yn adran 59 o’r Ddeddf;
 mae i “tystysgrif gymeradwyo” (“approval certificate”) yr ystyr a roddir yn adran 70(1) o’r Ddeddf.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at adran, neu baragraff o Atodlen, yn gyfeiriad at adran o’r Ddeddf, neu at y paragraff o’r Atodlen i’r Ddeddf.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at wrandawiad pwyllgor perthnasol a gynhelir drwy ddulliau o bell yn gyfeiriad at wrandawiad a gynhelir drwy gyfrwng unrhyw gyfarpar neu gyfleuster arall sy’n galluogi personau nad ydynt yn yr un lle i siarad â’i gilydd ac i gael eu clywed gan ei gilydd (pa un a yw’r cyfarpar neu’r cyfleuster yn galluogi’r personau hynny i weld ei gilydd neu gael eu gweld gan ei gilydd ai peidio).
(4) Ac eithrio fel y darperir fel arall, mae gofyniad o dan y Rheoliadau hyn i roi hysbysiad (neu i hysbysu) yn ofyniad i roi hysbysiad ysgrifenedig.
(5) Mae dogfen y mae’n ofynnol iddi fod yn “ysgrifenedig”, neu hysbysiad y mae’n ofynnol iddo fod yn “ysgrifenedig”, yn rhinwedd y Rheoliadau hyn yn cynnwys cyfathrebiad electronig, fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000.
3 
Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i bwyllgor perthnasol mewn perthynas ag arfer ei swyddogaethau o dan Ran 4 o’r Ddeddf.
4 

(1) Pan fo’n ofynnol cynnal gwrandawiad mewn perthynas â gweithdrefn a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen, rhaid i’r pwyllgor perthnasol drefnu i’r gwrandawiad gael ei gynnal cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i unrhyw gyfnod ar gyfer sylwadau ddod i ben.
(2) Pan fo gwrandawiad i’w gynnal ar fwy nag 1 diwrnod, rhaid i’r pwyllgor perthnasol drefnu i’r gwrandawiad ddigwydd ar ddiwrnodau gwaith olynol.
5 

(1) Rhaid i bwyllgor perthnasol roi hysbysiad o unrhyw wrandawiad y mae’n ofynnol ei gynnal mewn perthynas â gweithdrefn a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen, i’r rhai a restrir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2 o’r tabl hwnnw.
(2) Rhaid i bwyllgor perthnasol sicrhau bod yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—
(a) yn rhoi manylion ynghylch dyddiad ac amser y gwrandawiad a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig,
(b) yn rhoi manylion ynghylch dyddiad, amser a lleoliad y gwrandawiad a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell,
(c) yn datgan y bydd y pwyllgor perthnasol yn rhoi ar gael y dogfennau a restrir yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 3 o’r tabl yn yr Atodlen (yn ddarostyngedig i reoliad 6(3)), a
(d) yn cael ei anfon fel ei fod yn dod i law heb fod yn hwyrach na 10 niwrnod gwaith cyn y diwrnod cyntaf y mae’r gwrandawiad i’w gynnal arno (fel y’i pennir yn yr hysbysiad).
6 

(1) Rhaid i wybodaeth ysgrifenedig sy’n esbonio’r hyn a ganlyn fynd gyda’r hysbysiad o wrandawiad—
(a) y canlyniadau y darperir ar eu cyfer o dan reoliad 12 pan fo parti—
(i) yn rhoi gwybod i’r pwyllgor perthnasol nad yw’n dymuno bod yn bresennol na chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, neu
(ii) yn methu â rhoi gwybod i’r pwyllgor perthnasol pa un a yw’r parti yn dymuno bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad,
(b) y terfyn amser erbyn pryd y mae rhaid i barti roi gwybod i’r pwyllgor perthnasol bod y parti yn dymuno bod yn bresennol yn y gwrandawiad neu ei annerch, a’r dull y mae rhaid i barti ei ddilyn i wneud hynny,
(c) y terfyn amser erbyn pryd y mae rhaid i barti roi gwybod i’r pwyllgor perthnasol bod y parti yn dymuno cael ei gynorthwyo neu ei gynrychioli gan berson arall, a’r dull y mae rhaid i barti ei ddilyn i wneud hynny,
(d) y terfyn amser erbyn pryd y mae rhaid i barti roi gwybod i’r pwyllgor perthnasol bod y parti yn dymuno gofyn am ganiatâd i alw ar dyst i roi tystiolaeth yn y gwrandawiad a rhoi gwybod iddo am y materion y mae’r parti yn dymuno i’r tyst roi tystiolaeth mewn perthynas â hwy, a’r dull y mae rhaid i barti ei ddilyn i wneud hynny,
(e) ym mha ffordd y mae rhaid i barti roi gwybod i’r pwyllgor perthnasol os yw’n dymuno tynnu unrhyw sylwadau yn ôl yn unol â rheoliad 9,
(f) y canlyniadau y darperir ar eu cyfer o dan reoliad 12 pan fo parti wedi dweud ei fod yn dymuno bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, ond yn methu â bod yn bresennol neu’n methu â chael ei gynrychioli yn y gwrandawiad,
(g) y materion y bydd yn ofynnol i’r pwyllgor perthnasol gael eglurhad yn eu cylch gan barti yn y gwrandawiad (nad yw’n gwahardd y pwyllgor perthnasol rhag ei gwneud yn ofynnol cael eglurhad pellach ynghylch materion eraill sy’n codi yn ystod y gwrandawiad),
(h) y terfyn amser erbyn pryd y mae rhaid i barti roi gwybod i’r pwyllgor perthnasol ei fod yn ystyried bod gwrandawiad yn ddiangen a’i fod yn cydsynio i’r cais, y dynodiad arfaethedig neu’r dirymiad arfaethedig gael ei benderfynu heb wrandawiad, a’r dull y mae rhaid i barti ei ddilyn i wneud hynny, ac
(i) y weithdrefn sydd i’w dilyn yn y gwrandawiad.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4), mewn perthynas â gwrandawiadau o dan y darpariaethau a restrir yng ngholofn 1 o’r tabl yn yr Atodlen, rhaid i’r dogfennau a restrir yng ngholofn 3 o’r tabl fynd gyda’r hysbysiad o wrandawiad a roddir i’r rhai a restrir yng ngholofn 2 o’r tabl.
(3) Caiff y pwyllgor perthnasol benderfynu bod unrhyw sylwadau a gyflwynwyd yn flinderus neu’n wacsaw, neu na fyddant yn dylanwadu ar ei benderfyniad.
(4) Pan fo’r pwyllgor perthnasol yn gwneud penderfyniad yn unol â pharagraff (3), rhaid iddo hysbysu’r parti a gyflwynodd y sylwadau hynny am y rhesymau dros ei benderfyniad ar yr adeg y dyroddir yr hysbysiad o wrandawiad.
7 

(1) Rhaid i barti roi hysbysiad i’r pwyllgor perthnasol, heb fod yn hwyrach na 5 niwrnod gwaith cyn y diwrnod y mae’r gwrandawiad i’w gynnal neu cyn diwrnod cyntaf y gwrandawiad, sy’n datgan—
(a) pa un a yw’n bwriadu bod yn bresennol neu gael ei gynrychioli yn y gwrandawiad;
(b) a yw’n ystyried bod gwrandawiad yn ddiangen gan ei fod yn cydsynio na chynhelir gwrandawiad.
(2) Pan fo parti yn dymuno i unrhyw berson arall (ac eithrio’r person y mae’n bwriadu iddo ei gynrychioli yn y gwrandawiad) ymddangos yn y gwrandawiad, rhaid i’r hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (1)—
(a) gofyn am ganiatâd i’r person arall hwnnw ymddangos yn y gwrandawiad,
(b) cynnwys manylion ynghylch enw’r person hwnnw, ac
(c) cynnwys disgrifiad byr o’r pwynt neu’r pwyntiau y gallai’r person hwnnw gynorthwyo’r pwyllgor perthnasol yn eu cylch.
8 

(1) Caiff pwyllgor perthnasol ar unrhyw adeg—
(a) oedi gwrandawiad tan ddyddiad penodedig, neu
(b) gohirio gwrandawiad er mwyn ei gynnal ar ddyddiad a bennir gan y pwyllgor perthnasol.
(2) Caiff pwyllgor perthnasol gymryd y camau gweithredu a bennir ym mharagraff (1) os yw’n ystyried bod hynny’n angenrheidiol—
(a) i’w alluogi i ystyried unrhyw wybodaeth neu ddogfennau a ddarperir gan unrhyw barti mewn ymateb i’r hysbysiad o wrandawiad, neu yn y gwrandawiad, neu
(b) gan roi sylw i allu unrhyw barti, person sy’n cynrychioli parti neu dyst i fod yn bresennol yn y gwrandawiad.
(3) Pan fo pwyllgor perthnasol wedi oedi gwrandawiad tan ddyddiad penodedig, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r partïon—
(a) am y dyddiad a’r amser newydd ar gyfer y gwrandawiad a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, neu
(b) am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad newydd ar gyfer y gwrandawiad a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell.
(4) Pan fo pwyllgor perthnasol wedi gohirio’r gwrandawiad er mwyn ei gynnal ar ddyddiad ychwanegol penodedig, rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r partïon—
(a) am y dyddiad ychwanegol a’r amser ar gyfer y gwrandawiad a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, neu
(b) am y dyddiad ychwanegol, yr amser a’r lleoliad ar gyfer y gwrandawiad a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell.
9 
Caiff parti sy’n dymuno tynnu unrhyw sylwadau y mae wedi eu cyflwyno yn ôl wneud hynny—
(a) drwy roi hysbysiad i’r pwyllgor perthnasol heb fod yn hwyrach na 24 awr cyn y diwrnod y mae’r gwrandawiad i’w gynnal neu cyn diwrnod cyntaf y gwrandawiad, neu
(b) ar lafar yn y gwrandawiad.
10 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), rhaid i’r gwrandawiad gael ei gynnal yn gyhoeddus.
(2) Caiff y pwyllgor perthnasol eithrio’r cyhoedd o’r gwrandawiad cyfan neu o ran ohono os yw wedi ei fodloni ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny yn holl amgylchiadau’r achos, gan roi sylw—
(a) i unrhyw annhegwch i barti sy’n debygol o ddeillio o wrandawiad cyhoeddus, a
(b) i’r angen i ddiogelu, cyn belled ag y bo’n bosibl, fuddiannau masnachol neu fuddiannau dilys eraill sydd gan barti.
(3) At ddibenion paragraff (2), caniateir trin parti ac unrhyw berson sy’n cynorthwyo neu’n cynrychioli parti fel aelod o’r cyhoedd.
11 

(1) Yn ddarostyngedig i reoliad 10 a pharagraff (9), rhaid i bwyllgor perthnasol ganiatáu i barti fod yn bresennol mewn gwrandawiad ac i gael ei gynorthwyo neu ei gynrychioli gan unrhyw berson pa un a oes gan y person hwnnw gymhwyster cyfreithiol ai peidio.
(2) Ar ddechrau’r gwrandawiad, rhaid i’r pwyllgor perthnasol—
(a) esbonio i’r partïon y weithdrefn y mae’n cynnig ei dilyn yn y gwrandawiad, a
(b) ystyried unrhyw achos pan fo parti’n gofyn o dan reoliad 7(2) am ganiatâd i berson arall ymddangos yn y gwrandawiad, ac ni chaniateir atal caniatâd o’r fath yn afresymol.
(3) Wrth gynnal gwrandawiad, rhaid i’r pwyllgor perthnasol sicrhau y rhoddir cyfle i bob parti i wneud y canlynol—
(a) annerch y pwyllgor perthnasol ar unrhyw fater sy’n berthnasol i’r hysbysiad rhybuddio neu i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ynghylch yr hysbysiad rhybuddio;
(b) galw ar dystion i roi tystiolaeth ar unrhyw fater sy’n berthnasol i’r hysbysiad rhybuddio neu i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ynghylch yr hysbysiad rhybuddio;
(c) darparu gwybodaeth bellach am unrhyw fater yr oedd yn ofynnol i’r pwyllgor perthnasol gael eglurhad yn ei gylch o dan reoliad 6(1)(g);
(d) darparu gwybodaeth am unrhyw faterion eraill a all godi yn ystod y gwrandawiad.
(4) Wrth gynnal gwrandawiad, rhaid i’r pwyllgor perthnasol hefyd—
(a) caniatáu i unrhyw barti gwestiynu unrhyw barti arall neu berson sy’n cynrychioli parti ynghylch unrhyw fater sy’n berthnasol i’r hysbysiad rhybuddio, neu i unrhyw sylwadau a gyflwynwyd ynghylch yr hysbysiad rhybuddio, pan fo’r pwyllgor perthnasol yn ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny yn yr holl amgylchiadau, a
(b) ystyried gwybodaeth ddogfennol neu wybodaeth arall a ddarparwyd i ategu’r hysbysiad rhybuddio neu sylwadau a gyflwynir gan barti—
(i) cyn y gwrandawiad, neu
(ii) yn y gwrandawiad,
gyda chydsyniad yr holl bartïon eraill sy’n bresennol yn y gwrandawiad.
(5) Os nad yw parti yn cydsynio mewn cysylltiad â pharagraff (4)(b), rhaid i’r pwyllgor perthnasol benderfynu a yw’r ddywededig wybodaeth ddogfennol neu’r ddywededig wybodaeth arall i’w hystyried.
(6) Heb ragfarnu paragraffau (3) a (4), rhaid i wrandawiad gael ei gynnal ar ffurf trafodaeth o dan arweiniad y pwyllgor perthnasol.
(7) Ni chaiff y pwyllgor perthnasol ganiatáu unrhyw groesholi oni bai ei fod yn ystyried bod croesholi yn ofynnol er mwyn iddo ystyried yn briodol yr hysbysiad rhybuddio neu sylwadau a gyflwynir gan unrhyw barti.
(8) Rhaid i’r pwyllgor perthnasol ganiatáu uchafswm cyfnod cyfartal i’r partïon arfer yr hawliau sydd ganddynt ac y darperir ar eu cyfer ym mharagraffau (3) a (4)(a).
(9) Caiff y pwyllgor perthnasol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy’n bresennol yn y gwrandawiad ac sydd, ym marn y pwyllgor, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, ymadael â’r gwrandawiad a chaiff—
(a) gwrthod caniatáu i’r person hwnnw ddychwelyd, neu
(b) caniatáu iddo ddychwelyd dim ond o dan unrhyw amodau a bennir gan y pwyllgor perthnasol.
(10) Caiff y pwyllgor perthnasol ganiatáu i berson sy’n bresennol yn y gwrandawiad ac sydd, ym marn y pwyllgor, yn ymddwyn mewn modd aflonyddgar, neu sy’n torri amodau a bennir o dan baragraff (9)(b), aros yn y gwrandawiad dim ond o dan unrhyw amodau a bennir gan y pwyllgor perthnasol.
(11) Pan fo’n ofynnol i berson ymadael â’r gwrandawiad yn unol â pharagraff (9), rhaid i’r pwyllgor perthnasol—
(a) caniatáu iddo gyflwyno yn ysgrifenedig i’r pwyllgor perthnasol, cyn diwedd y gwrandawiad, unrhyw wybodaeth y byddai wedi bod ganddo hawlogaeth i’w rhoi ar lafar pe na fyddai wedi bod yn ofynnol iddo ymadael, a
(b) ystyried yr wybodaeth honno wrth ddod i’w benderfyniad.
12 

(1) Caiff pwyllgor perthnasol fwrw ymlaen â gwrandawiad yn absenoldeb parti neu gynrychiolydd parti os yw’r parti—
(a) wedi rhoi gwybod i’r pwyllgor perthnasol nad yw’n bwriadu bod yn bresennol neu nad yw’n bwriadu cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad (ac nad yw wedi rhoi gwybod i’r pwyllgor perthnasol fel arall wedi hynny),
(b) wedi methu â rhoi gwybod i’r pwyllgor perthnasol pa un a yw’n bwriadu bod yn bresennol neu’n bwriadu cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, neu
(c) wedi ymadael â’r gwrandawiad mewn amgylchiadau sy’n galluogi’r pwyllgor perthnasol i ddod yn rhesymol i’r casgliad nad yw’r parti yn bwriadu parhau i gymryd rhan.
(2) Os yw parti wedi dweud ei fod yn bwriadu bod yn bresennol neu’n bwriadu cael ei gynrychioli yn y gwrandawiad, ond yn methu â bod yn bresennol neu’n methu â chael ei gynrychioli ynddo, caiff y pwyllgor perthnasol—
(a) gohirio’r gwrandawiad tan ddyddiad penodedig os yw’n ystyried ei bod er budd y cyhoedd, neu
(b) bwrw ymlaen â’r gwrandawiad yn absenoldeb y parti.
(3) Pan fo’r pwyllgor perthnasol yn gohirio’r gwrandawiad tan ddyddiad penodedig rhaid iddo, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol, hysbysu’r partïon—
(a) am y dyddiad a’r amser y mae’r gwrandawiad wedi cael ei ohirio iddynt a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal drwy ddulliau o bell yn unig, neu
(b) am y dyddiad, yr amser a’r lleoliad y mae’r gwrandawiad wedi cael ei ohirio iddynt a sut i gael mynediad iddo, pan fo’r gwrandawiad yn cael ei gynnal yn rhannol drwy ddulliau o bell neu pan na fo’n cael ei gynnal drwy ddulliau o bell.
(4) Pan fo’r gwrandawiad yn mynd rhagddo yn absenoldeb parti, rhaid i’r pwyllgor perthnasol ystyried yn y gwrandawiad yr hysbysiad rhybuddio neu’r sylwadau a gyflwynwyd gan y parti hwnnw.
13 
Pan fo’r partïon wedi hysbysu’r pwyllgor perthnasol o dan reoliad 6(1)(h) eu bod yn cydsynio i’r mater gael ei benderfynu heb wrandawiad, rhaid i’r pwyllgor perthnasol, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol—
(a) hysbysu’r holl bartïon bod y gwrandawiad wedi ei hepgor, a
(b) gwneud penderfyniad a dyroddi hysbysiad o benderfyniad.
14 
Rhaid i’r pwyllgor perthnasol wneud ei benderfyniad a dyroddi hysbysiad o benderfyniad cyn diwedd 5 niwrnod gwaith sy’n dechrau drannoeth diwrnod olaf y gwrandawiad.
15 

(1) Rhaid i’r pwyllgor perthnasol sicrhau bod cofnod o’r gwrandawiad yn cael ei wneud ar ffurf barhaol a dealladwy.
(2) Rhaid i’r pwyllgor perthnasol sicrhau bod unrhyw gofnod o’r fath yn cael ei gadw am 6 mlynedd, ar ôl y diwrnod y gwnaeth y pwyllgor perthnasol ei benderfyniad neu, pan fo apêl yn cael ei dwyn yn erbyn penderfyniad y pwyllgor perthnasol, ddyddiad penderfynu’r apêl.
16 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), caiff pwyllgor perthnasol ddiystyru unrhyw afreoleidd-dra sy’n deillio o fethu â chydymffurfio â darpariaeth yn y Rheoliadau hyn, neu â gweithdrefn y mae’r pwyllgor perthnasol yn penderfynu arni fel arall, pan fo’r afreoleidd-dra hwnnw yn dod i’w sylw cyn iddo wneud penderfyniad.
(2) Os yw’r pwyllgor perthnasol yn ystyried y gall unrhyw berson fod wedi cael ei ragfarnu gan unrhyw afreoleidd-dra o’r fath, rhaid iddo gymryd y camau hynny y mae’n ystyried eu bod yn angenrheidiol i unioni canlyniadau’r afreoleidd-dra, cyn iddo ddod i’w benderfyniad.
17 
Caiff pwyllgor perthnasol gywiro camgymeriadau clercol mewn unrhyw ddogfen sy’n cofnodi penderfyniad gan y pwyllgor perthnasol, neu wallau sy’n codi mewn dogfen o’r fath o ganlyniad i lithriad neu hepgoriad damweiniol.
Jeremy Miles
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
17 Medi2024
YR ATODLEN
Rheoliadau 4(1), 5(1) a (2)(c) a 6(2)


Colofn 1 Colofn 2 Colofn 3
Y weithdrefn y mae’n ofynnol i wrandawiad gael ei gynnal mewn perthynas â hi Y person y mae rhaid rhoi hysbysiad o wrandawiad iddo Y dogfennau y mae copïau ohonynt i fynd gyda’r hysbysiad o wrandawiad
Hysbysiad rhybuddio - bwriad i ddynodi unigolyn yn berson y mae’n ofynnol iddo gael trwydded triniaeth arbennig yn unol ag adran 61(1) o’r Ddeddf (1) Yr unigolyn y rhoddwyd hysbysiad iddo o dan adran 61(1) o’r Ddeddf(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y dynodiad arfaethedig (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r dynodiad arfaethedig
Hysbysiad rhybuddio - gwrthod caniatáu cais am drwydded triniaeth arbennig oherwydd nad yw’r holl feini prawf trwyddedu cymwys wedi eu bodloni yn unol ag adran 65(2) o’r Ddeddf (1) Y ceisydd(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cais
Hysbysiad rhybuddio - gwrthod caniatáu cais am drwydded triniaeth arbennig oherwydd euogfarn am drosedd berthnasol yn unol ag adran 66(6) o’r Ddeddf (1) Y ceisydd(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cais
Hysbysiad rhybuddio - gwrthod caniatáu cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig oherwydd nad yw’r holl feini prawf trwyddedu cymwys wedi eu bodloni yn unol ag adran 67 o’r Ddeddf (1) Y deiliad trwydded sydd wedi gwneud y cais i adnewyddu(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cais i adnewyddu
Hysbysiad rhybuddio - gwrthod caniatáu cais i adnewyddu trwydded triniaeth arbennig oherwydd euogfarn am drosedd berthnasol yn unol ag adran 67 o’r Ddeddf (1) Y deiliad trwydded sydd wedi gwneud y cais i adnewyddu(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cais i adnewyddu
Hysbysiad rhybuddio - bwriad i ddirymu trwydded triniaeth arbennig yn unol ag adran 68 o’r Ddeddf (1) Y deiliad trwydded(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y bwriad i ddirymu (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r bwriad i ddirymu
Hysbysiad rhybuddio - bwriad i ddirymu tystysgrif gymeradwyo yn unol ag adran 73 o’r Ddeddf (1) Deiliad tystysgrif gymeradwyo(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y bwriad i ddirymu (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r bwriad i ddirymu
Hysbysiad rhybuddio - gwrthod caniatáu cais i amrywio trwydded triniaeth arbennig yn unol â pharagraff 13(1)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf (1) Y deiliad trwydded sydd wedi gwneud y cais i amrywio(2) Unrhyw berson sydd wedi cyflwyno sylwadau ynghylch y cais i amrywio (os yw hyn yn gymwys) (1) Yr hysbysiad rhybuddio(2) Sylwadau a gyflwynwyd mewn perthynas â’r cais i amrywio