
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Hybridiau Gwenith CMS) (Arbrawf Dros Dro) (Cymru) 2024 a deuant i rym ar 7 Hydref 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru yn unig.
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn peidio â chael effaith ar ddiwedd 6 Hydref 2031.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “yr arbrawf” (“the experiment”) yw’r arbrawf dros dro a drefnir yn unol â’r Rheoliadau hyn;
 ystyr “cyfranogwr” (“participant”) yw person y rhoddir trwydded iddo;
 ystyr “hybrid gwenith CMS” (“CMS wheat hybrid”) yw hybrid o’r rhywogaethau planhigion Triticum aestivum, Triticum durum neu Triticum spelta a gynhyrchir drwy anffrwythlondeb gwrywol cytoplasmig;
 mae i “marchnata” (“marketing”) yr un ystyr ag a roddir yn rheoliad 2 o Reoliadau 2012;
 ystyr “Rheoliadau 2012” (“the 2012 Regulations”) yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012;
 ystyr “trwydded” (“licence”), ac eithrio yn rheoliad 4(2)(d), yw trwydded a roddir o dan reoliad 3(3).
RHAN 2
3 

(1) Diben yr arbrawf, yn unol â rheoliad 21A(1) o Reoliadau 2012, yw ceisio gofynion eraill ar gyfer ardystio hybridiau gwenith CMS a all fod yn fwy addas na’r gofynion a bennir yn Atodlen 2 i Reoliadau 2012.
(2) Mae’r arbrawf yn para am gyfnod o saith mlynedd gan ddechrau â 7 Hydref 2024 a chan ddod i ben â 6 Hydref 2031.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru roi trwydded at ddiben cymryd rhan yn yr arbrawf i berson sy’n gwneud cais am drwydded yn unol â rheoliad 4(1) a (2).
4 

(1) Rhaid gwneud cais am drwydded yn ysgrifenedig i Weinidogion Cymru a chynnwys yr wybodaeth a bennir ym mharagraff (2).
(2) Yr wybodaeth yw—
(a) enw, rhif ffôn, cyfeiriad a chyfeiriad e-bost y ceisydd a, phan nad unigolyn yw’r ceisydd, enw’r unigolyn sydd i fod yn gyfrifol am gymryd rhan yn yr arbrawf,
(b) yr amrywogaethau o hybridiau gwenith CMS y cynigir eu defnyddio yn yr arbrawf,
(c) y rhanbarth neu’r rhanbarth arfaethedig y mae hybridiau gwenith CMS i’w tyfu ynddo, a
(d) pan fo’n ofynnol i’r ceisydd fod â thrwydded ar gyfer marchnata hadau o dan reoliad 20 o Reoliadau 2012, rif y drwydded honno.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru gynnwys, fel amod mewn trwydded, fod rhaid i gyfranogwyr ailgyflwyno’r wybodaeth a bennir ym mharagraff (2) bob blwyddyn, ynghyd ag unrhyw amodau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried eu bod yn briodol.
(4) Rhaid i’r cyfranogwr gydymffurfio ag unrhyw amodau a bennir yn y drwydded.
5 

(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (5) ac i reoliad 8, mae cyfnod dilysrwydd trwydded i gymryd rhan yn yr arbrawf yn dechrau ar y dyddiad dyroddi a bennir yn y drwydded ac yn dod i ben â 6 Hydref 2031.
(2) Os yw trwydded y cyfranogwr yn pennu cyfnod dilysrwydd byrrach, mae’r drwydded yn peidio â bod yn ddilys ar ddiwedd y dyddiad a bennir yn y drwydded.
(3) Os yw’r cyfranogwr yn bwriadu rhoi’r gorau i gymryd rhan yn yr arbrawf, rhaid iddo hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig, gan bennu’r dyddiad y bydd yn rhoi’r gorau iddi.
(4) Rhaid i’r dyddiad a bennir at ddiben paragraff (3) fod yn ddyddiad sy’n gynharach na’r dyddiad y byddai trwydded y cyfranogwr yn peidio â bod yn ddilys fel arall yn unol â pharagraff (1) neu (2).
(5) Pan fo’r cyfranogwr yn hysbysu Gweinidogion Cymru ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i gymryd rhan yn yr arbrawf, mae trwydded y cyfranogwr yn peidio â bod yn ddilys ar ddiwedd y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad y cyfeirir ato ym mharagraff (3).
6 
Mae’r Atodlen, sy’n gwneud addasiadau darfodol i gymhwyso Rheoliadau 2012 yn ystod cyfnod dilysrwydd trwydded, yn cael effaith mewn perthynas â chyfranogwr i’r graddau y mae’r ddarpariaeth yn ymwneud â hybridiau gwenith CMS a ddatblygir yn unol â’r drwydded.
7 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ar unrhyw adeg amrywio unrhyw un neu ragor o’r amodau sydd wedi eu cynnwys mewn trwydded drwy hysbysu’r cyfranogwr yn ysgrifenedig.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) nodi’r rhesymau dros yr amrywiad a’r dyddiad y mae i gael effaith.
8 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddirymu trwydded neu ei hatal dros dro drwy hysbysu’r cyfranogwr yn ysgrifenedig os ydynt wedi eu bodloni bod cyfranogwr wedi—
(a) cynnwys gwybodaeth anghywir mewn cais am drwydded o dan reoliad 4;
(b) methu â chydymffurfio ag unrhyw ofyniad neu amod a osodwyd arnynt gan neu o dan unrhyw ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag iechyd planhigion ac sy’n gymwys o ran Cymru, gan gynnwys yn benodol—
(i) rheoliad 9 neu 10,
(ii) Deddf Amrywogaethau Planhigion a Hadau 1964, neu
(iii) Rheoliadau 2012, fel y maent yn cael effaith o dan yr Atodlen;
(c) methu â chydymffurfio â gofyniad neu amod o’r drwydded.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) nodi’r rhesymau dros ddirymu’r drwydded neu ei hatal dros dro a’r dyddiad y mae i gael effaith.
(3) Yn dilyn achos o atal dros dro drwydded y cyfeirir ato ym mharagraff (1), caiff Gweinidogion Cymru, pan fyddant wedi eu bodloni ei bod yn briodol gwneud hynny, beidio ag atal dros dro y drwydded drwy hysbysu’r cyfranogwr yn ysgrifenedig am hyn, gan bennu’r dyddiad na fydd y drwydded wedi ei hatal dros dro mwyach.
RHAN 3
9 
Rhaid i gyfranogwr neu, pan nad unigolyn yw’r cyfranogwr, y person sy’n gyfrifol am gyfranogiad y cyfranogwr yn yr arbrawf, gadw cofnodion cywir ynghylch yr arbrawf mewn perthynas ag—
(a) y cydrannau rhieniol sydd wedi eu defnyddio i greu hybrid gwenith CMS,
(b) unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a bennir yn rheoliad 4(2) ers i’r cais am drwydded gael ei wneud, ac
(c) gwybodaeth sy’n ddigonol i berson rhesymol nodi—
(i) holl gyflenwyr yr hadau sydd wedi eu defnyddio i greu hybrid gwenith CMS,
(ii) unrhyw berson y mae hadau’r hybrid wedi eu cyflenwi iddo, a
(iii) y person sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw’r hybrid.
10 

(1) Rhaid i gyfranogwr neu, pan nad unigolyn yw’r cyfranogwr, y person sy’n gyfrifol am gyfranogiad y cyfranogwr yn yr arbrawf, hysbysu Gweinidogion Cymru yn ysgrifenedig am unrhyw newidiadau i’r wybodaeth a bennir yn rheoliad 4(2) ers i’r cais am drwydded gael ei wneud.
(2) Rhaid i’r hysbysiad ysgrifenedig y cyfeirir ato ym mharagraff (1) gael ei roi o fewn y cyfnod o 30 o ddiwrnodau sy’n dechrau â’r dyddiad y digwyddodd y newid, neu’r dyddiad y dylai’r cyfranogwr fod wedi dod yn ymwybodol ohono’n rhesymol.
RHAN 4
11 

(1) Caiff cyfranogwr wneud cais i Weinidogion Cymru o dan Reoliadau 2012, fel y maent yn cael effaith o dan yr Atodlen, i ardystio hadau hybrid gwenith CMS sydd wedi eu datblygu fel rhan o’r arbrawf.
(2) Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod y gofynion a bennir yn narpariaethau perthnasol Rheoliadau 2012 wedi eu bodloni, caiff Gweinidogion Cymru ardystio’r hadau hynny at ddiben rheoliad 8(a) o’r Rheoliadau hynny.
Huw Irranca-Davies
Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
11 Medi 2024
YR ATODLEN
Rheoliad 6
RHAN 1
1 
Mae Rheoliadau 2012 yn gymwys i hybridiau gwenith CMS a gynhyrchir yn unol â thrwydded, yn ddarostyngedig i’r addasiadau a bennir yn Rhan 2 o’r Atodlen hon.
2 
Yn yr Atodlen hon—
(a) mae cyfeiriadau at reoliad yn gyfeiriadau at reoliad yn Rheoliadau 2012;
(b) mae cyfeiriadau at Atodlen 2 yn gyfeiriadau at Atodlen 2 i Reoliadau 2012.
RHAN 2
3 
Mae rheoliad 3 (dehongli termau eraill) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (1)(b)—“
(ba) mae i “hybrid gwenith CMS” yr ystyr a roddir gan reoliad 2 o’r Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS;
(bb) ystyr “y Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS” yw Rheoliadau Marchnata Hadau (Hybridiau Gwenith CMS) (Arbrawf Dros Dro) (Cymru) 2024;
(bc) ystyr “trwydded CWH” yw trwydded a roddir o dan reoliad 3(3) o’r Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS;”;
(b) y canlynol wedi ei fewnosod ar ôl paragraff (2)—“
(3) Mae unrhyw gyfeiriad at reoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at baragraff yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn, y mae ei gymhwyso wedi ei addasu gan yr Atodlen i’r Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS, i’w ddarllen fel cyfeiriad at y ddarpariaeth honno fel y’i haddaswyd gan y Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS.”
4 
Mae rheoliad 10 (gofynion gor-redol ar gyfer ardystio) i’w ddarllen fel pe bai—
(a) y testun presennol wedi ei rifo’n baragraff (1);
(b) ym mharagraff (1), fel y’i rhifir gan y paragraff hwn, yn y geiriau agoriadol, “(ac eithrio yn achos hedyn o hybrid gwenith CMS)” wedi ei fewnosod ar ôl “rheoliad 5”.
(c) ar ôl paragraff (1), fel y’i rhifir gan y rheoliad hwn, y canlynol wedi ei fewnosod—“
(2) I’w ardystio fel categori (c) neu (ch) o reoliad 5, rhaid i hedyn o hybrid gwenith CMS—
(a) bod wedi ei gynhyrchu o dan drwydded CWH, a
(b) bodloni’r gofynion ar gyfer ardystio a bennir yn Atodlen 2.”
5 
Mae rheoliad 11 (gofynion manwl ar gyfer ardystio) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (3), yn y geiriau agoriadol, “ac, mewn perthynas â hybridiau gwenith CMS, y Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS” wedi ei fewnosod ar ôl “Atodlen 2”.
6 
Mae rheoliad 15 (plotiau rheoli a phrofion) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (2), “neu, mewn perthynas â hedyn o hybrid gwenith CMS, y gofynion ardystio cymwys yn Atodlen 2 a’r Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS,” wedi ei fewnosod ar ôl “phurdeb amrywogaethol”.
7 
Mae rheoliad 28 (apelau) i’w ddarllen fel pe bai, ym mharagraff (1), ar ôl is-baragraff (a), y canlynol wedi ei fewnosod—“
(aa) mewn perthynas â hedyn a ddefnyddir i greu hybrid gwenith CMS—
(i) gwrthod rhoi trwydded CWH;
(ii) amrywio’r amodau sydd ynghlwm wrth drwydded o’r fath yn unol â rheoliad 7 o’r Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS;
(iii) dirymu neu atal dros dro drwydded o’r fath yn unol â rheoliad 8 o’r Rheoliadau Hybridiau Gwenith CMS;”.
8 
Mae paragraff 15 o Atodlen 2 (gofynion cnydau a hadau) i’w ddarllen fel pe bai, ar ôl is-baragraff (2A), y canlynol wedi ei fewnosod—“
2B. 
Yn ogystal, mewn perthynas â hybridiau gwenith CMS—
(a) mae Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC i’w ddarllen fel pe bai—
(i) paragraff 5 wedi ei hepgor,
(ii) ar ôl paragraff 5a, y canlynol wedi ei fewnosod—“
5b. 
Crops to produce basic and certified seed of hybrids of Triticum aestivum, Triticum durum or Triticum spelta by means of the technique of CMS:
(a) For crops to produce hybrids of Triticum aestivum, Triticum durum or Triticum spelta by means of the technique of CMS, the minimum distance from neighbouring crops or plants of other species, or of other varieties of the same species, liable to cross-pollinate with the crop is the distance specified in column 2 of the following table, with reference to the corresponding purpose for which the crop is used specified in column 1.

Purpose for which the crop is used Minimum distance
For the production of basic seed for the CMS female component 300 m
For the production of certified seed 25 m
(b) The crop must have sufficient varietal identity and varietal purity as regards the components. In particular the percentage by number of plants which are recognisable as obviously not being true to the variety must not exceed—
(i) where the crop is used for the production of basic seed, 0.1% for the maintainer and the restorer line and 0.3% for the CMS female component;
(ii) where the crop is used for the production of certified seed, 0.3% for the restorer line and 0.6% for the CMS female component, or 0.3% for the restorer line and 1% for the CMS female component where the CMS female component is a simple hybrid.
(c) The level of male sterility of the CMS female component must be at least—
(i) where the crop is used for the production of basic seed, 99.7%, and
(ii) where the crop is used for the production of certified seed, 99 %.
(d) The requirements of paragraphs (b) and (c) must be examined in official post-control tests.
(e) Certified seed may be produced in mixed cultivation of a female male-sterile component with a male component which restores fertility.”;
(b) mae Atodiad II i Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (amodau i’w bodloni gan yr hedyn) i’w ddarllen fel pe bai—
(i) ym mharagraff 1(c), ar ôl “Hordeum vulgare”, yn yr ail le y mae’r geiriau hynny’n digwydd, y canlynol wedi ei fewnosod “, Triticum aestivum, Triticum durum and Triticum spelta”;
(ii) ym mharagraff 1(e), ar ôl “Hordeum vulgare”, mewnosoder “, Triticum aestivum, Triticum durum and Triticum spelta”.”