
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaethau) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 4 Tachwedd 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o god o gyfraith sy’n ymwneud ag amgylchedd hanesyddol Cymru.
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “amrywiad drafft” (“draft variation”) yw amrywiad drafft i gytundeb partneriaeth;
 ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw—
(a) mewn perthynas â henebion cofrestredig a thir cysylltiedig yng Nghymru—
(i) cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, a
(ii) awdurdod Parc Cenedlaethol yng Nghymru;
(b) mewn perthynas â thir cysylltiedig yn Lloegr, cyngor sir neu gyngor dosbarth yn Lloegr;
 ystyr “cytundeb drafft” (“draft agreement”) yw cytundeb partneriaeth drafft;
 ystyr “cytundeb partneriaeth” (“partnership agreement”) yw cytundeb y mae Gweinidogion Cymru yn ymrwymo iddo o dan adran 25(1) o Ddeddf 2023;
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2023;
 ystyr “heneb gofrestredig” (“scheduled monument”) yw heneb sydd wedi ei chynnwys yn y gofrestr o henebion a gynhelir gan Weinidogion Cymru o dan adran 3 o Ddeddf 2023;
 ystyr “perchennog” (“owner”) yw—
(a) perchennog ar yr ystâd rydd-ddaliadol, neu
(b) tenant o dan les a roddir neu a estynir am gyfnod penodol sydd ag o leiaf 7 mlynedd yn weddill;
 mae i “tir cysylltiedig” (“associated land”) yr ystyr a roddir gan adran 25(1)(b) o Ddeddf 2023.
3 

(1) Ni chaiff Gweinidogion Cymru ymrwymo i gytundeb partneriaeth oni bai eu bod wedi cydymffurfio â pharagraffau (4) i (6).
(2) Mae paragraff (3) yn gymwys i amrywiad arfaethedig ar gytundeb partneriaeth presennol er mwyn—
(a) darparu bod y cytundeb yn ymwneud â heneb gofrestredig ychwanegol, neu
(b) estyn hyd y cytundeb.
(3) Ni chaniateir gwneud yr amrywiad oni bai—
(a) yn achos amrywiad a gynigir gan barti ac eithrio Gweinidogion Cymru, fod y parti hwnnw wedi anfon copi o’r amrywiad drafft at Weinidogion Cymru, a
(b) mewn unrhyw achos, fod Gweinidogion Cymru wedi cydymffurfio â pharagraffau (4) i (6).
(4) Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) at y canlynol—
(i) perchennog yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hi neu ag ef;
(ii) unrhyw feddiannydd ar yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig;
(iii) unrhyw awdurdod lleol y mae’r heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig yn ei ardal;
(iv) unrhyw awdurdod lleol sy’n warcheidwad ar yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig (yn rhinwedd adran 45 neu 49 o Ddeddf 2023), a
(b) gwahodd sylwadau gan y personau hynny cyn diwedd cyfnod a bennir yn y gwahoddiad.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hefyd—
(a) cyhoeddi’r wybodaeth a ganlyn drwy ddulliau electronig am o leiaf 21 o ddiwrnodau—
(i) cyfeiriad neu leoliad yr heneb gofrestredig neu’r tir cysylltiedig y mae’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft yn ymwneud â hi neu ag ef;
(ii) crynodeb o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft;
(iii) manylion ynghylch sut y caniateir cyflwyno sylwadau i Weinidogion Cymru am y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft;
(iv) y cyfnod y mae rhaid i unrhyw sylwadau ddod i law ynddo,
(b) anfon yr wybodaeth a ddisgrifir yn is-baragraff (a) at unrhyw berson y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod ganddo fuddiant yn y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft, ac eithrio person yr anfonwyd y cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft ato o dan baragraff (4), ac
(c) os gofynnir iddynt wneud hynny cyn diwedd y cyfnod ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan y paragraff hwn, anfon copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft at y person a wnaeth y cais.
(6) Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod y cyfnodau ar gyfer cyflwyno sylwadau o dan y rheoliad hwn yn gyfnodau o 21 o ddiwrnodau o leiaf gan ddechrau—
(a) yn achos paragraff (4), â’r diwrnod y caiff copi o’r cytundeb drafft neu’r amrywiad drafft (yn ôl y digwydd) ei anfon gyntaf o dan y paragraff hwnnw, a
(b) yn achos paragraff (5), â’r diwrnod y caiff yr wybodaeth a grybwyllir yn is-baragraff (a) o’r paragraff hwnnw ei chyhoeddi’n electronig am y tro cyntaf.
(7) Nid oes dim yn y rheoliad hwn nac yn rheoliad 4 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth nac anfon at unrhyw berson wybodaeth—
(a) sy’n gyfrinach fasnach,
(b) os yw ei datgelu yn debygol o niweidio buddiant masnachol unrhyw berson fel arall,
(c) y byddai ei datgelu’n gyfystyr â thor cyfrinachedd y gallai unrhyw berson ddwyn achos llys yn ei gylch, neu
(d) y gwaherddir ei datgelu gan unrhyw ddeddfiad, neu o dan unrhyw ddeddfiad, neu gan orchymyn llys.
4 
Rhaid i Weinidogion Cymru—
(a) cyhoeddi rhestr, drwy ddulliau electronig, o’r holl gytundebau partneriaethau sydd mewn effaith, a
(b) cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl ymrwymo i gytundeb partneriaeth, neu ar ôl i gytundeb presennol gael ei amrywio, ychwanegu’r cytundeb neu’r amrywiad at y rhestr.
5 
Mae Rheoliadau Henebion Cofrestredig (Cytundebau Partneriaeth Dreftadaeth) (Cymru) 2021 wedi eu dirymu.
Jane Hutt
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant, Cyfiawnder Cymdeithasol, Trefnydd a’r Prif Chwip, un o Weinidogion Cymru
9 Medi 2024