
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 (Diwygiadau Canlyniadol) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Awst 2024.
2 

(1) Mae Deddf Diwygio Addysg 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 198 (trosglwyddiadau o dan Rannau 1 a 2), yn is-adran (6), yn lle “that Council” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.
3 

(1) Mae Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 6 (ystyr “corff cyhoeddus”), yn is-adran (1), hepgorer paragraff (k).
4 

(1) Mae Deddf Addysg 1994 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 18C (arolygu hyfforddiant athrawon yng Nghymru), yn is-adran (8), yn lle “a funding agency” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.
5 

(1) Mae Deddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn adran 28 (diwygio cyrff cyhoeddus Cymreig eraill)—
(a) yn is-adran (1)(a), hepgorer “or III”;
(b) yn is-adran (5)(b), hepgorer “or III”.
6 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Ffioedd a Dyfarniadau) (Cymru) 2007 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), hepgorer y diffiniadau o “CCAUC”, “darparwr hyfforddiant” a “Deddf 2005”.
(3) Yn rheoliad 4 (codi ffioedd), hepgorer paragraff (3)(c).
(4) Hepgorer rheoliad 6 (taliadau gan CCAUC i ddarparwyr hyfforddiant).
7 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2011 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli: cyffredinol), ym mharagraff (1), ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “authority-funded”, ar ôl “Higher Education Funding Council for Wales” mewnosoder “before 1st August 2024 or the Commission for Tertiary Education and Research on or after 1st August 2024”.
8 

(1) Mae Rheoliadau Diddymu Corfforaethau Addysg Bellach (Cyhoeddi Cynigion a Chyrff Rhagnodedig) (Cymru) 2014 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 4(1)(h), yn lle “Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “Y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
(3) Ym mharagraff 5 o Atodlen 2, yn lle “Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru” rhodder “y Comisiwn Addysg Drydyddol ac Ymchwil”.
9 

(1) Mae Rheoliadau Addysg Uwch (Cyrsiau Cymhwysol, Personau Cymhwysol a Darpariaeth Atodol) (Cymru) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Hepgorer rheoliad 6.
10 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Fyfyrwyr) (Lloegr) 2015 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Ym mharagraff 1(5) o Atodlen 2, yn lle “the Higher Education Funding Council for Wales” rhodder “the Commission for Tertiary Education and Research”.
11 

(1) Mae Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Feistr Ôl-raddedig) 2016 wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn rheoliad 2 (dehongli), ym mharagraff (1), ym mharagraff (b) o’r diffiniad o “authority-funded”, ar ôl “Higher Education Funding Council for Wales” mewnosoder “before 1st August 2024 or the Commission for Tertiary Education and Research on or after 1st August 2024”.
Lynne Neagle
Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
17 Gorffennaf 2024