
RHAN 1
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Daliadau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau a’r Prawf Addasrwydd) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym—
(a) o ran Rhan 1, Rhan 2 a Rhan 4, ar 8 Awst 2024, a
(b) o ran Rhan 3, ar 1 Medi 2024.
(3) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
RHAN 2
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cynhorthwy ariannol perthnasol” (“relevant financial assisstance”) yw cynhorthwy ariannol o dan—
(a) adran 8 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth),
(b) cynllun oʼr fath a grybwyllir yn adran 9(7) o Ddeddf 2023 (ystyr “cynllun trydydd parti” at ddibenion pŵer i ddarparu cymorth),
(c) cynllun y taliad sylfaenol, fel yʼi diffinnir yn adran 16 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol),
(d) deddfwriaeth syʼn ymwneud ag ariannu, rheoli a monitroʼr polisi amaethyddol cyffredin, fel yʼi diffinnir yn adran 17 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud âʼr polisi amaethyddol cyffredin),
(e) deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth, fel yʼi diffinnir yn adran 18 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth),
(f) deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, fel yʼi diffinnir yn adran 19 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig), neu
(g) adran 22 o Ddeddf 2023 (pwerau Gweinidogion Cymru i roi cymorth ariannol pan fo amodau eithriadol yn y farchnad);
 mae i “daliad amaethyddol” yr ystyr a roddir i “agricultural holding” yn adran 1 o Ddeddf 1986;
 ystyr “Deddf 1986” (“the 1986 Act”) yw Deddf Daliadau Amaethyddol 1986;
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023;
 ystyr “dyletswydd statudol” (“statutory duty”) yw dyletswydd a osodir gan neu o dan—
(a) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,
(b) Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur gan Gynulliad Cymru, neu
(c) deddfwriaeth uniongyrchol a gymhathwyd;
 mae i “landlord” yr ystyr a roddir i “landlord” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986;
 mae i “penderfyniad gan drydydd parti” yr ystyr a roddir i “third party determination” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986;
 mae i “tenant” yr ystyr a roddir i “tenant” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986;
 mae i “Tribiwnlys” yr ystyr a roddir i “Tribunal” yn adran 96(1) o Ddeddf 1986.
3 

(1) Caiff tenant daliad amaethyddol atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan Ddeddf 1986.
(2) Yn y Rhan hon, cais cymwys yw cais syʼn bodloniʼr amodau a ganlyn—
(a) maeʼn gais am—
(i) cydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad oʼr fath yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth, neu
(ii) amrywiad i delerauʼr denantiaeth;
(b) maeʼn cael ei wneud at ddibenion—
(i) galluogi tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath, neu
(ii) cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant mewn cysylltiad â defnyddioʼr daliad;
(c) ni ddaethpwyd i gytundeb âʼr landlord ar y cais.
(3) Pan fo gan y tenant yr hawl i atgyfeirio cais i’w gymrodeddu o dan baragraff (1), caiff y landlord aʼr tenant yn lle hynny gytuno mewn ysgrifen i atgyfeirioʼr cais i’w benderfynu gan drydydd parti o dan Ddeddf 1986.
(4) Ni chaniateir atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan baragraff (1) oni bai bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a) rhaid iʼr tenant fod wedi talu unrhyw rent syʼn ddyledus o dan y denantiaeth y maeʼr cais yn ymwneud â hi yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb ysgrifenedig rhwng y landlord aʼr tenant iʼr gwrthwyneb;
(b) rhaid iʼr tenant fod wedi codiʼr cais gydaʼr landlord mewn ysgrifen;
(c) ni chaiff y denantiaeth fod yn destun hysbysiad ymadael dilys o dan Ran 1 o Atodlen 3 i Ddeddf 1986 nac Atodlen 5 iddi, na ellir ei herio gan y tenant mwyach o dan ddarpariaethauʼr Ddeddf honno.
(5) I wneud atgyfeiriad am gymrodeddu mewn cysylltiad â chais yn unol âʼr rheoliad hwn, rhaid iʼr tenant gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig iʼr landlord, ar ben yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (4)(b), yn gofyn am gydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth neu i amrywiad i delerauʼr denantiaeth.
(6) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (5) gynnwys y canlynol—
(a) manylion y cais syʼn cael ei wneud o dan baragraff (1);
(b) datganiad ynghylch at ba un neu ragor oʼr dibenion a ganlyn y maeʼr cais yn cael ei wneud—
(i) galluogi tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath;
(ii) cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant mewn cysylltiad â defnyddioʼr daliad;
(c) pan foʼr cais yn gais am amrywiad i delerauʼr denantiaeth—
(i) telerau newydd arfaethedig y denantiaeth, a
(ii) prawf bod yr amrywiad i delerauʼr denantiaeth y gofynnir amdano yn cynrychioliʼr newid lleiaf syʼn rhesymol angenrheidiol i alluogiʼr tenant i ofyn am y cynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am y cynhorthwy hwnnw neu i gyflawniʼr ddyletswydd statudol;
(d) pan foʼr cais yn cael ei wneud er mwyn cael mynediad at gynhorthwy ariannol perthnasol—
(i) disgrifiad oʼr gweithgareddau y cynigir eu cynnal ar y daliad os caniateir y cais ac os yw unrhyw gais am gynhorthwy ariannol perthnasol yn llwyddiannus, a
(ii) tystiolaeth i gefnogi disgwyliad rhesymol y bydd y tenant yn gymwys i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath os caniateir y cais;
(e) datganiad bod darpariaethau yn y Rheoliadau hyn y caniateir atgyfeirio ceisiadau odanynt i’w cymrodeddu, neu i’w penderfynu gan drydydd parti, os na fydd cytundeb.
(7) Caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti a benodir addasu hysbysiad y tenant wedyn o dan baragraff (5) os ywʼn angenrheidiol gwneud hynny, ac os oes cyfiawnhad dros wneud hynny, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol.
(8) O fewn y cyfnod o 2 fis ar ôl iʼr tenant roi hysbysiad syʼn bodloniʼr gofynion ym mharagraff (6), caiff y landlord gyflwyno gwrth-hysbysiad sydd—
(a) yn cydsynio iʼr cais,
(b) yn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn y gwrth-hysbysiad, neu
(c) yn gwrthod y cais.
(9) Caiff y tenant atgyfeirioʼr cais i’w gymrodeddu neu, yn ôl y digwydd, i’w benderfynu gan drydydd parti yn unol â pharagraff (3), o fewn y cyfnod o 4 mis ar ôl i hysbysiad y tenant gael ei gyflwyno—
(a) os nad ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad;
(b) os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad syʼn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt yn dderbyniol iʼr tenant;
(c) os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad yn gwrthod y cais.
4 

(1) Pan wneir atgyfeiriad at gymrodeddwr neu, yn ôl y digwydd, at drydydd parti i benderfynu cais yn unol â rheoliad 3, caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti orchymyn iʼr landlord gydymffurfio âʼr cais (naill ai yn llawn neu iʼr graddau a bennir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad) neu wneud unrhyw ddyfarniad arall neu unrhyw benderfyniad arall y maeʼr cymrodeddwr neu drydydd parti yn ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant.
(2) Fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1), caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti gynnwys unrhyw ddyfarniadau neu unrhyw benderfyniadau y maeʼn ystyried eu bod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant mewn cysylltiad ag—
(a) talu costau;
(b) pan wneir cais at ddibenion galluogiʼr tenant i ofyn am gynhorthwy ariannol perthnasol neu i wneud cais am gynhorthwy oʼr fath, amodau syʼn ymwneud â gwneud cais llwyddiannus;
(c) amodau syʼn cyfyngu ar allu tenant i wneud unrhyw atgyfeiriad dilynol am gymrodeddu neu benderfyniad gan drydydd parti o dan y Rhan hon mewn cysylltiad âʼr un cais ac mewn perthynas âʼr un denantiaeth;
(d) amodau syʼn ymwneud â materion eraill gan gynnwys yr adeg y maeʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn cymryd effaith.
(3) Ni chaiff y cymrodeddwr neu drydydd parti wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad syʼn cynnwys amrywiad i rent y daliad fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), ni chaiff y cymrodeddwr neu drydydd parti wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad syʼn daladwy iʼr landlord neuʼr tenant fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(5) Pan fo dyfarniad neu benderfyniad a wneir o dan baragraff (1) yn ei gwneud yn ofynnol i landlord roi cydsyniad neuʼn gosod amrywiad ar y denantiaeth, caiff y cymrodeddwr neu drydydd parti wneud dyfarniad neu benderfyniad bod rhaid diystyruʼr cydsyniad neuʼr amrywiad at ddibenion asesu hawliad am ddigollediad a wneir gan y landlord pan foʼr tenant yn ymadael â’r daliad pan ddawʼr denantiaeth i ben o dan adrannau 71 i 73 o Ddeddf 1986 (digollediad am ddirywiad daliad).
(6) Mae dyfarniad gan gymrodeddwr neu benderfyniad gan drydydd parti o dan y Rhan hon yn cael effaith fel pe baiʼr telerau aʼr darpariaethau a bennir ac a wneir yn y dyfarniad neu benderfyniad wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord aʼr tenant ac syʼn cael effaith (drwy amrywioʼr cytundeb a oedd mewn grym yn flaenorol mewn cysylltiad âʼr denantiaeth) fel o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neuʼr penderfyniad neu, os ywʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn darparu hynny, o unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir.
RHAN 3
5 

(1) Maeʼr Rhan hon yn gymwys pan foʼr Tribiwnlys yn penderfynu addasrwydd person i ddod yn denant daliad yn achos ceisydd penodol o dan adran 39(2), fel rhwng dau geisydd neu ragor o dan adran 39(6), neu o dan adran 53(5) o Ddeddf 1986.
(2) Wrth benderfynu cais o ran a yw person yn addas i ddod yn denant daliad o dan ddarpariaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (1), rhaid iʼr Tribiwnlys roi sylw iʼr holl faterion perthnasol gan gynnwys—
(a) gallu tebygol y person i ffermioʼr daliad yn fasnachol, gyda thir arall neu hebddo, gan ystyried yr angen am safonau uchel o gynhyrchu effeithlon a gofal am yr amgylchedd mewn perthynas â rheoliʼr daliad hwnnw;
(b) profiad, hyfforddiant a sgiliauʼr person ym meysydd amaethyddiaeth a rheoli busnes;
(c) sefyllfa ariannol y person aʼi gymeriad;
(d) natur, lleoliad ac ansawdd y daliad;
(e) telerau’r denantiaeth,
ac ar ôl rhoi sylw iʼr holl faterion perthnasol, rhaid i’r Tribiwnlys fod wedi ei fodloni, pe bai’r ceisydd wedi gwneud cais mewn cystadleuaeth agored am denantiaeth y daliad hwn, y tybir ei bod ar gael o dan Ddeddf 1986, y gellid disgwyl yn rhesymol i landlord pwyllog a pharod ystyried y ceisydd fel un o’r ymgeiswyr y byddai’n barod i roi’r denantiaeth iddo.
(3) Wrth benderfynu cais o dan baragraff (1), rhaid i’r Tribiwnlys ddiystyru—
(a) pob cynnig o ran rhent mewn perthynas â’r daliad;
(b) oedran y person sy’n gwneud cais.
6 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys i unrhyw gais i’r Tribiwnlys a wneir o dan Ran 4 o Ddeddf 1986 ar ôl 1 Medi 2024 am gyfarwyddyd yn rhoi i’r ceisydd hawlogaeth i denantiaeth daliad amaethyddol ar farwolaeth neu ymddeoliad tenant pan fo dyddiad y farwolaeth neu ddyddiad rhoi’r hysbysiad ymddeol, fel y bo’n gymwys, cyn 1 Medi 2024.
(2) Mewn perthynas ag unrhyw gais y mae’r paragraff hwn yn gymwys iddo, mae darpariaethau Deddf 1986 fel yr oeddent yn cael effaith yn union cyn 1 Medi 2024 yn parhau i fod yn gymwys.
(3) Yn y rheoliad hwn mae “cais” yn cynnwys unrhyw achos sy’n deillio o unrhyw gais o’r fath neu unrhyw gyfarwyddyd a roddir mewn unrhyw achos o’r fath.
RHAN 4
7 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd iʼw gilydd—
(a) cynnal adolygiad oʼr Rheoliadau hyn,
(b) nodi casgliadauʼr adolygiad mewn adroddiad, ac
(c) cyhoeddi’r adroddiad.
(2) Rhaid iʼr adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gael ei gyhoeddi cyn 13 Mehefin 2031.
(3) Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi ar ysbeidiau heb fod yn hwy na phum mlynedd.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2024