
RHAN 1
1 

(1) Enwʼr Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tenantiaethau Amaethyddol (Ceisiadau am Gydsyniad y Landlord neu Amrywio Telerau) (Cymru) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 8 Awst 2024.
RHAN 2
2 
Yn y Rheoliadau hyn—
 ystyr “cymorth ariannol perthnasol” (“relevant financial support”) yw cymorth ariannol o dan—
(a) adran 8 o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (pŵer Gweinidogion Cymru i ddarparu cymorth),
(b) cynllun oʼr fath a grybwyllir yn adran 9(7) o Ddeddf 2023 (ystyr “cynllun trydydd parti” at ddibenion pŵer i ddarparu cymorth),
(c) cynllun y taliad sylfaenol, fel yʼi diffinnir yn adran 16 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn llywodraethu cynllun y taliad sylfaenol),
(d) deddfwriaeth syʼn ymwneud ag ariannu, rheoli a monitroʼr polisi amaethyddol cyffredin, fel yʼi diffinnir yn adran 17 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud âʼr polisi amaethyddol cyffredin),
(e) deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth, fel yʼi diffinnir yn adran 18 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer gwenynyddiaeth),
(f) deddfwriaeth syʼn ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig, fel yʼi diffinnir yn adran 19 o Ddeddf 2023 (pŵer i addasu deddfwriaeth sy’n ymwneud â chymorth ar gyfer datblygu gwledig),
(g) adran 22 o Ddeddf 2023 (pwerau Gweinidogion Cymru i roi cynhorthwy ariannol pan fo amodau eithriadol yn y farchnad);
 mae i “daliad” yr ystyr a roddir i “holding” yn adran 38 o Ddeddf 1995;
 ystyr “Deddf 1995” (“the 1995 Act”) yw Deddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995;
 ystyr “Deddf 2023” (“the 2023 Act”) yw Deddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023;
 ystyr “dyletswydd statudol” (“statutory duty”) yw dyletswydd a osodir gan neu o dan—
(a) Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig,
(b) Deddf gan Senedd Cymru neu Fesur gan y Cynulliad, neu
(c) deddfwriaeth uniongyrchol yr UE a ddargedwir;
 mae i “landlord” yr ystyr a roddir i “landlord” yn adran 38 o Ddeddf 1995;
 mae i “tenant” yr ystyr a roddir i “tenant” yn adran 38 o Ddeddf 1995;
 mae i “tenantiaeth” yr ystyr a roddir i “tenancy” yn adran 38 o Ddeddf 1995;
 mae i “tenantiaeth busnes fferm” yr ystyr a roddir i “farm business tenancy” yn adran 1 o Ddeddf 1995.
3 

(1) Caiff tenant tenantiaeth busnes fferm atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan Ddeddf 1995.
(2) Yn y Rhan hon, cais cymwys yw cais syʼn bodloniʼr amodau a ganlyn—
(a) maeʼn cais am—
(i) cydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad oʼr fath yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth, neu
(ii) amrywiad i delerauʼr denantiaeth;
(b) maeʼn cael ei wneud at ddibenion—
(i) galluogi tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath, neu
(ii) cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant;
(c) ni ddaethpwyd i gytundeb âʼr landlord ar y cais.
(3) Ni chaniateir atgyfeirio cais cymwys i’w gymrodeddu o dan baragraff (1) oni bai bod yr amodau a ganlyn wedi eu bodloni—
(a) rhaid iʼr tenant fod wedi talu unrhyw rent syʼn ddyledus o dan y denantiaeth y maeʼr cais yn ymwneud â hi yn ddarostyngedig i unrhyw gytundeb ysgrifenedig rhwng y landlord aʼr tenant iʼr gwrthwyneb;
(b) rhaid iʼr tenant fod wedi codiʼr cais gydaʼr landlord mewn ysgrifen;
(c) ni chaiff y denantiaeth fod yn destun hysbysiad ymadael dilys o dan adrannau 5 i 7 o Ddeddf 1995 na ellir ei herio gan y tenant mwyach o dan ddarpariaethauʼr Ddeddf honno.
(4) I wneud atgyfeiriad am gymrodeddu mewn cysylltiad â chais yn unol âʼr rheoliad hwn, rhaid iʼr tenant gyflwyno hysbysiad ysgrifenedig iʼr landlord, ar ben yr hysbysiad a roddir o dan baragraff (3)(b), yn gofyn am gydsyniad y landlord i fater y mae cydsyniad yn ofynnol ar ei gyfer o dan delerauʼr denantiaeth neu i amrywiad i delerauʼr denantiaeth.
(5) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (4) gynnwys y canlynol—
(a) manylion y cais syʼn cael ei wneud o dan baragraff (1);
(b) datganiad ynghylch at ba un neu ragor oʼr dibenion a ganlyn y maeʼr cais yn cael ei wneud—
(i) galluogi tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath;
(ii) cydymffurfio â dyletswydd statudol syʼn gymwys iʼr tenant;
(c) pan foʼr cais yn gais am amrywiad i delerauʼr denantiaeth—
(i) telerau newydd arfaethedig y denantiaeth, a
(ii) prawf bod yr amrywiad i delerauʼr denantiaeth y gofynnir amdano yn cynrychioliʼr newid lleiaf syʼn rhesymol angenrheidiol i alluogiʼr tenant i ofyn am y cymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am y cymorth hwnnw neu i gyflawniʼr ddyletswydd statudol;
(d) pan foʼr cais yn cael ei wneud er mwyn cael mynediad at gymorth ariannol perthnasol—
(i) disgrifiad oʼr gweithgareddau y cynigir eu cynnal ar y daliad os caniateir y cais ac os yw unrhyw gais am gymorth ariannol perthnasol yn llwyddiannus, a
(ii) tystiolaeth i gefnogi disgwyliad rhesymol y bydd y tenant yn gymwys i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath os caniateir y cais;
(e) datganiad bod darpariaethau yn y Rheoliadau hyn y caniateir atgyfeirio ceisiadau odanynt i’w cymrodeddu os na fydd cytundeb.
(6) Caiff y cymrodeddwr a benodir addasu hysbysiad y tenant wedyn o dan baragraff (4) os ywʼn angenrheidiol gwneud hynny, ac os oes cyfiawnhad dros wneud hynny, gan ystyried yr holl amgylchiadau perthnasol.
(7) O fewn y cyfnod o 2 fis ar ôl iʼr tenant roi hysbysiad syʼn bodloniʼr gofynion ym mharagraff (5), caiff y landlord gyflwyno gwrth-hysbysiad sydd—
(a) yn cydsynio iʼr cais,
(b) yn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau a nodir yn y gwrth-hysbysiad, neu
(c) yn gwrthod y cais.
(8) Caiff y tenant atgyfeirioʼr cais i’w gymrodeddu o fewn y cyfnod o 2 fis ar ôl i hysbysiad y tenant gael ei gyflwyno—
(a) os nad ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad;
(b) os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad syʼn cydsynio iʼr cais yn ddarostyngedig i amodau nad ydynt yn dderbyniol iʼr tenant;
(c) os ywʼr landlord yn cyflwyno gwrth-hysbysiad yn gwrthod y cais.
4 

(1) Pan wneir atgyfeiriad at gymrodeddwr i benderfynu cais yn unol â rheoliad 3, caiff y cymrodeddwr orchymyn iʼr landlord gydymffurfio âʼr cais (naill ai yn llawn neu iʼr graddau a bennir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad) neu wneud unrhyw ddyfarniad arall neu unrhyw benderfyniad arall y maeʼr cymrodeddwr yn ystyried ei fod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant.
(2) Fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1), caiff y cymrodeddwr gynnwys unrhyw ddyfarniadau neu unrhyw benderfyniadau y maeʼn ystyried eu bod yn rhesymol ac yn gyfiawn rhwng y landlord aʼr tenant mewn cysylltiad ag—
(a) talu costau;
(b) pan wneir cais at ddibenion galluogiʼr tenant i ofyn am gymorth ariannol perthnasol neu i wneud cais am gymorth oʼr fath, amodau syʼn ymwneud â gwneud cais llwyddiannus;
(c) amodau syʼn cyfyngu ar allu tenant i wneud unrhyw atgyfeiriad dilynol am gymrodeddu o dan y Rhan hon mewn cysylltiad âʼr un cais ac mewn perthynas âʼr un denantiaeth;
(d) amodau syʼn ymwneud â materion eraill gan gynnwys yr adeg y maeʼr dyfarniad yn cymryd effaith.
(3) Ni chaiff y cymrodeddwr wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad syʼn cynnwys amrywiad i rent y daliad fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(4) Ni chaiff y cymrodeddwr wneud unrhyw ddyfarniad nac unrhyw benderfyniad mewn cysylltiad ag unrhyw ddigollediad syʼn daladwy iʼr landlord neuʼr tenant fel rhan o unrhyw ddyfarniad neu unrhyw benderfyniad a wneir o dan baragraff (1).
(5) Mae dyfarniad neu benderfyniad gan gymrodeddwr o dan y Rhan hon yn cael effaith fel pe baiʼr telerau aʼr darpariaethau a bennir ac a wneir yn y dyfarniad neuʼr penderfyniad wedi eu cynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig yr ymrwymwyd iddo gan y landlord aʼr tenant ac syʼn cael effaith (drwy amrywioʼr cytundeb a oedd mewn grym yn flaenorol mewn cysylltiad âʼr denantiaeth) fel o’r adeg y gwnaed y dyfarniad neuʼr penderfyniad neu, os ywʼr dyfarniad neuʼr penderfyniad yn darparu hynny, o unrhyw ddyddiad diweddarach a bennir.
RHAN 3
5 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru o bryd iʼw gilydd—
(a) cynnal adolygiad oʼr Rheoliadau hyn,
(b) nodi casgliadauʼr adolygiad mewn adroddiad, ac
(c) cyhoeddi’r adroddiad.
(2) Rhaid iʼr adroddiad cyntaf o dan y rheoliad hwn gael ei gyhoeddi cyn 13 Mehefin 2031.
(3) Rhaid i adroddiadau dilynol o dan y rheoliad hwn gael eu cyhoeddi ar ysbeidiau heb fod yn hwy na phum mlynedd.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
16 Gorffennaf 2024