
1 

(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024.
(2) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 30 Mehefin 2024.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
2 

(1) Mae adran 6(1) (ystyr “corff cyhoeddus”) o’r Ddeddf wedi ei diwygio fel a ganlyn.
(2) Ar ôl paragraff (d)(ii) mewnosoder—“
(iii) Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;”.
(3) Ar ôl paragraff (d) mewnosoder—“
(da) yr awdurdodau iechyd arbennig a ganlyn a sefydlwyd o dan adran 22 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006—
(i) Iechyd a Gofal Digidol Cymru;
(ii) Addysg a Gwella Iechyd Cymru;”.
(4) Ar ôl paragraff (l) mewnosoder—“
(m) Gofal Cymdeithasol Cymru;
(n) Awdurdod Cyllid Cymru;
(o) Trafnidiaeth Cymru (sef Transport for Wales (rhif y cwmni 09476013));
(p) Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol (sef Centre for Digital Public Services Limited (rhif y cwmni 09341679));
(q) Cymwysterau Cymru.”
3 
Wrth ei gymhwyso i’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2, mae paragraff (a) o adran 9(2) (amcanion llesiant cyrff cyhoeddus eraill) o’r Ddeddf yn cael effaith fel pe bai’r canlynol wedi ei roi yn lle’r paragraff hwnnw—“
(a) heb fod yn hwyrach na 31 Mawrth 2025, a”.
4 

(1) Mae paragraff (2) yn gymwys am y cyfnod—
(a) sy’n dechrau ar 30 Mehefin 2024, a
(b) sy’n dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
(2) Mae adran 15 o’r Ddeddf yn cael effaith mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf gan reoliad 2 fel pe bai’r is-adran ganlynol wedi ei rhoi yn lle is-adran (6)—“
(6) Mae’r cyfnod y cyfeirir ato yn is-adrannau (2) a (3)—
(a) yn dechrau ar 30 Mehefin 2024, a
(b) yn dod i ben ar y dyddiad sy’n digwydd un diwrnod ac un flwyddyn cyn y dyddiad y mae’r etholiad cyffredinol arferol nesaf ar ôl Mai 2026 i’w gynnal o dan adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.”
Lesley Griffiths
Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
27 Mehefin 2024