
RHAN 1
1 

(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Rheoli a Thrwyddedu Pysgota am Gocos (Ardal Benodedig) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym fel a ganlyn—
(a) mae Rhannau 1, 2 a 3 ac erthyglau 14, 15, 16 a 17 o Ran 4 o’r Gorchymyn hwn, ac Atodlen 1, Atodlen 2 a Rhannau 1 a 2 o Atodlen 3 iddo, yn dod i rym ar 10 Gorffennaf 2024;
(b) mae erthygl 18 o Ran 4 o’r Gorchymyn hwn a Rhan 3 o Atodlen 3 iddo yn dod i rym ar 16 Mehefin 2025.
2 
Yn y Gorchymyn hwn—
 ystyr “ardal benodedig” (“specified area”) yw’r ardal a ddisgrifir yn Atodlen 1 i’r Gorchymyn hwn;
 ystyr “asesiad amgylcheddol” (“environmental assessment”) yw asesiad o oblygiadau agor gwely cocos ar safle gwarchodedig o dan reoliad 63 neu reoliad 65 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ;
 ystyr “cocos” (“cockles”) yw pysgod cregyn o’r math Cerastoderma edule;
 ystyr “cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol” (“intertidal safety training course”) yw cwrs sydd â’r nod o sicrhau bod pobl sy’n ei ddilyn yn gyfarwydd â chynnal asesiadau risg, gwybodaeth am lanwau, canfod lleoliad, peryglon croesi dŵr ac ardaloedd meddal, y ddeddfwriaeth ar ddefnyddio cychod masnachol a sut i ofyn am gymorth mewn argyfwng;
 mae i “Cymru” yr un ystyr ag a roddir i “Wales” yn adran 158(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006;
 ystyr “Deddf 2009” (“the 2009 Act”) yw Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009;
 ystyr “gornifer cocos y gellir eu cynaeafu” (“harvestable surplus”) yw pwysau’r cocos byw y gellir pysgota amdanynt neu eu cymryd o’r gwely cocos heb gael effaith negyddol ar gynaliadwyedd hirdymor y gwely cocos;
 ystyr “gwely cocos” (“cockle bed”) yw ardal o dywod neu waddod mân yn yr ardal benodedig lle mae cydgasgliad o gocos yn bresennol;
 mae i “llestr” yr un ystyr ag a roddir i “vessel” yn adran 115(1) o Ddeddf 2009 ac, at ddibenion y Gorchymyn hwn, mae’n cyfeirio at lestr a ddefnyddir i gario cocos y pysgotir amdanynt neu a gymerir o wely cocos;
 mae i “manteisio ar” yr un ystyr ag a roddir i “exploitation” yn adran 153(12) o Ddeddf 2009;
 ystyr “pwysau byw” (“live weight”) yw pwysau cocos byw a ganfyddir drwy eu pwyso mewn sachau rhwyllog gweuedig heb gyfrif am bwysau’r sach rhwyllog, pa un a yw’n wlyb neu’n sych, nac am dywod neu ddeunyddiau eraill yn y sach;
 ystyr “safle gwarchodedig perthnasol” (“relevant protected site”) yw safle morol Ewropeaidd, o fewn yr ystyr a roddir i “European marine site” yn Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017, a safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, o fewn yr ystyr a roddir i “site of special scientific interest” yn Neddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981;
 ystyr “un cyfnod trwydded” (“single permit period”) yw—
(a) y cyfnod sy’n dechrau ar 1 Mehefin mewn unrhyw flwyddyn galendr tan ddiwedd 31 Mai y flwyddyn ganlynol, neu
(b) pan fo’r drwydded wedi ei dyroddi ar ôl 1 Mehefin mewn unrhyw flwyddyn galendr, y cyfnod sy’n dechrau pan fo’r drwydded wedi ei dyroddi tan ddiwedd 31 Mai y flwyddyn ganlynol.
RHAN 2
3 
Ni chaiff neb bysgota am gocos neu eu cymryd, nac yn fwriadol ganiatáu i berson arall bysgota am gocos neu eu cymryd neu ei gynorthwyo i wneud hynny—
(a) o wely cocos sydd ar gau, a
(b) ac eithrio drwy drwydded a roddir o dan Ran 3 ac i’r graddau a awdurdodir gan y drwydded honno.
4 
Mae pob gwely cocos ar gau hyd nes iddo gael ei asesu a bod Gweinidogion Cymru yn datgan ei fod ar agor o dan erthyglau 5 a 6.
5 

(1) Er mwyn penderfynu a yw’r meini prawf a nodir yn erthygl 6(a) a (b) wedi eu bodloni, rhaid i Weinidogion Cymru asesu pob gwely cocos sydd wedi ei gau o dan erthygl 4 cyn diwedd Medi 2024.
(2) O 1 Ionawr 2025, rhaid i Weinidogion Cymru asesu pob gwely cocos o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn galendr.
(3) At ddibenion y Rhan hon, ystyr y termau “asesu” ac “asesiad” yw cwblhau—
(a) arolwg stoc,
(b) cyfrif o ornifer cocos y gellir eu cynaeafu, ac
(c) os oes gornifer cocos y gellir eu cynaeafu, unrhyw asesiad amgylcheddol sy’n ofynnol.
6 
Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy ddatganiad, agor gwely cocos os yw asesiad a gynhaliwyd o dan erthygl 5 wedi dod i’r casgliad—
(a) bod gornifer cocos y gellir eu cynaeafu, a
(b) na fydd agor y gwely cocos yn ddarostyngedig i amodau ar bysgota am gocos neu gymryd cocos o’r gwely hwnnw yn cael effaith andwyol ar gyfanrwydd safle gwarchodedig perthnasol.
7 

(1) Rhaid i Weinidogion Cymru, drwy ddatganiad, gau gwely cocos sydd ar agor os oes tystiolaeth—
(a) y pysgotwyd am y gornifer cocos y gellir eu cynaeafu neu y’u cymerwyd,
(b) bod angen cau’r gwely cocos er mwyn osgoi effaith andwyol ar gyfanrwydd safle gwarchodedig perthnasol, neu
(c) bod angen cau’r gwely cocos er mwyn asesu’r risg o effaith andwyol ar gyfanrwydd safle gwarchodedig perthnasol.
(2) Rhaid i ddatganiad sy’n cau gwely cocos gynnwys y rheswm pam y’i caewyd.
RHAN 3
8 

(1) Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi trwydded at ddiben awdurdodi pysgota am gocos neu gymryd cocos o’r ardal benodedig.
(2) Caniateir dyroddi’r drwydded—
(a) i berson, a
(b) am un cyfnod trwydded.
(3) Bydd y drwydded yn galluogi’r deiliad trwydded i bysgota am gocos neu gymryd cocos o welyau cocos sydd ar agor rhwng 1 Mehefin mewn blwyddyn galendr a diwedd 31 Mai y flwyddyn ganlynol.
(4) Ni chaniateir trosglwyddo trwydded o un person i berson arall.
9 

(1) Mae pob trwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 8 yn ddarostyngedig i—
(a) yr amodau a nodir yn Atodlen 2 i’r Gorchymyn hwn, a
(b) unrhyw amodau ychwanegol sy’n ofynnol i reoleiddio pysgota am gocos neu gymryd cocos o wely cocos penodedig.
(2) Mae’r amodau ychwanegol y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)(b) fel a ganlyn—
(a) gornifer cocos y gellir eu cynaeafu sydd wedi ei ddiwygio;
(b) terfyn dalfa dyddiol;
(c) maint glanio lleiaf penodedig;
(d) dyddiadau, amseroedd neu lanwau penodedig pan na chaniateir pysgota am gocos na chymryd cocos;
(e) dulliau neu gyfarpar penodedig y caniateir eu defnyddio neu ei ddefnyddio wrth bysgota am gocos neu gymryd cocos;
(f) dull mynediad penodedig i’r ardal benodedig neu wely cocos;
(g) amodau eraill ar bysgota am gocos neu gymryd cocos sy’n ofynnol gan yr asesiad amgylcheddol o’r gwely cocos o dan erthygl 5.
(3) Caiff Gweinidogion Cymru amrywio’r amodau ychwanegol neu eu dileu o drwyddedau.
(4) Pan fo’n rhesymol ymarferol, bydd Gweinidogion Cymru yn ymgynghori â deiliaid trwydded a rhanddeiliaid perthnasol eraill cyn amrywio neu ddileu amodau ychwanegol.
(5) Rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r personau a ganlyn am benderfyniad i amrywio neu ddileu amodau ychwanegol—
(a) deiliaid trwydded, a
(b) unrhyw berson arall y maent yn ystyried ei fod yn briodol.
(6) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (5) gynnwys y rhesymau dros benderfyniad Gweinidogion Cymru.
(7) Yn yr erthygl hon—
(a) ystyr “terfyn dalfa dyddiol” yw cyfanswm pwysau byw y cocos y caniateir pysgota amdanynt neu eu cymryd bob dydd gan bob deiliad trwydded;
(b) ystyr “maint glanio lleiaf” yw unrhyw gocosen a fydd yn pasio drwy fesurydd sydd ag agoriad sgwâr o X o filimetrau o’i fesur ar draws pob ochr o’r sgwâr. “X” yw’r mesuriad a osodir mewn amodau sydd ynghlwm wrth drwydded a ddyroddir o dan erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn.
10 

(1) Caiff person wneud cais am drwydded—
(a) os yw’n 16 oed neu’n hŷn ar yr adeg pan ddyroddir y drwydded,
(b) os yw’n meddu ar dystysgrif cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol a ddyroddwyd o fewn y cyfnod blaenorol o 3 blynedd, ac
(c) os nad yw wedi ei euogfarnu o fewn y cyfnod blaenorol o 12 mis, neu’r cyfnod blaenorol o 6 mis os oedd o dan 18 oed ar ddyddiad ei euogfarnu, o drosedd berthnasol.
(2) Yn yr erthygl hon ystyr “trosedd berthnasol” yw—
(a) trosedd o dan adran 3(3) (torri gorchymyn rheoleiddio pysgodfa etc) o Ddeddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967;
(b) trosedd o dan adran 31(2) (gwrthod i feili dŵr gael mynediad, chwilio ac ymchwilio) o Ddeddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975;
(c) trosedd o dan—
(i) adran 139 (torri gorchmynion o dan adrannau 134, 134A, 134B neu 136),
(ii) adran 190 (torri gorchmynion o dan adran 189), neu
(iii) adran 292 (troseddau mewn perthynas â swyddogion gorfodaeth),
o Ddeddf 2009.
11 

(1) I wneud cais am drwydded, rhaid i berson—
(a) cyflwyno i Weinidogion Cymru gais wedi ei gwblhau ar unrhyw ffurf sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru,
(b) darparu’r dystiolaeth honno sy’n ofynnol gan Weinidogion Cymru i brofi—
(i) pwy ydyw,
(ii) ei gyfeiriad,
(iii) ei fod wedi cwblhau cwrs hyfforddiant ar ddiogelwch rhynglanwol, a
(iv) rhif yswiriant gwladol neu Gyfeirnod Unigryw y Trethdalwr,
(c) pan ddefnyddir llestr i gario cocos o wely cocos, ddarparu gwybodaeth neu ddogfennaeth sy’n ymwneud â—
(i) meistr y llestr;
(ii) y llestr, gan gynnwys rhif tystysgrif codio Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (os yw’n gymwys), a
(d) talu’r ffi drwydded flynyddol.
(2) Caniateir gwneud cais mewn cysylltiad ag un cyfnod trwydded.
12 

(1) Bydd y ffi drwydded flynyddol—
(a) i’w phennu gan Weinidogion Cymru,
(b) yn gymwys i bob trwydded, ac
(c) yn gymwys hyd yn oed pan wneir cais am drwydded a phan y’i dyroddir ran o’r ffordd drwy gyfnod trwydded.
(2) Wrth bennu’r ffi drwydded flynyddol, caiff Gweinidogion Cymru ystyried—
(a) gwariant sy’n deillio o reoli’r gwelyau cocos,
(b) gwariant sy’n deillio o unrhyw arolygon gwyddonol neu asesiadau amgylcheddol sy’n ymwneud â’r gwelyau cocos,
(c) gwariant sy’n deillio o weinyddu ceisiadau am drwyddedau,
(d) gwariant sy’n deillio o unrhyw ddadansoddiad o ffurflenni dalfa ddyddiol, ac
(e) unrhyw wariant perthnasol arall.
13 

(1) Rhaid i berson sy’n pysgota am gocos neu’n cymryd cocos ddangos copi o drwydded y person hwnnw os bydd person sydd wedi ei awdurdodi gan Weinidogion Cymru yn gofyn iddo wneud hynny.
(2) Ni chaiff person y gofynnwyd iddo ddangos trwydded o dan baragraff (1) bysgota am gocos na chymryd cocos o wely cocos hyd nes y bo wedi dangos y drwydded honno.
(3) Rhaid i berson yng nghyffiniau gwely cocos gyflawni cyfarwyddiadau rhesymol person sy’n arfer swyddogaethau o dan y Gorchymyn hwn.
(4) Ni chaiff person rwystro person sy’n cyflawni swyddogaethau o dan y Gorchymyn hwn.
RHAN 4
14 
Nid yw darpariaethau’r Gorchymyn hwn yn gymwys—
(a) i berson sy’n cymryd, â llaw, ddim mwy na 5 cilogram mewn pwysau byw o gocos mewn unrhyw un diwrnod i’w bwyta yn bersonol,
(b) i berson sy’n pysgota am gocos neu’n cymryd cocos gydag awdurdod ysgrifenedig ymlaen llaw gan Weinidogion Cymru at ddibenion gwyddonol neu at ddibenion rheoli pysgodfeydd, ac
(c) i’r graddau eu bod yn gwahardd y canlynol, yn cyfyngu arnynt neu’n ymyrryd â hwy—
(i) unrhyw hawl i bysgodfa unigol, neu
(ii) unrhyw hawl ar unrhyw ran o lan y môr, i unrhyw ran o lan y môr neu dros unrhyw ran o lan y môr a fwynheir gan berson o dan Ddeddf leol neu arbennig gan Senedd y Deyrnas Unedig, Siarter Frenhinol, llythyrau patent, neu drwy bresgripsiwn neu ddefnydd ers cyn cof.
15 

(1) Rhaid i berson sy’n pysgota am gocos neu’n cymryd cocos yn groes i’r darpariaethau yn y Gorchymyn hwn ailddodi’r cocos ar y gwely cocos y’u cymerwyd ohono yn unol â chyfarwyddiadau gan swyddog gorfodi morol.
(2) Wrth ailddodi cocos o dan baragraff (1), rhaid lledaenu’r cocos mewn haen denau a gwastad.
(3) Yn yr erthygl hon mae i “swyddog gorfodi morol” yr un ystyr ag a roddir i “marine enforcement officer” yn adran 235(1) o Ddeddf 2009.
16 

(1) Rhaid i ddatganiad, hysbysiad neu drwydded a wneir neu a ddyroddir o dan y Gorchymyn hwn gael ei wneud neu ei gwneud yn ysgrifenedig.
(2) Cyhoeddir datganiadau a hysbysiadau a wneir o dan y Gorchymyn hwn ar wefan Llywodraeth Cymru a, phan fo’n ymarferol, gosodir datganiadau mewn lleoliadau amlwg ar y gwely cocos neu gerllaw iddo.
(3) Pan fo rhaid gwneud unrhyw beth o dan y Gorchymyn hwn yn ysgrifenedig, mae hynny’n cynnwys cyfathrebiad electronig fel y diffinnir “electronic communication” yn adran 15(1) o Ddeddf Cyfathrebiadau Electronig 2000, sydd wedi ei recordio ac yn gallu cael ei atgynhyrchu o ganlyniad i hynny.
(4) Caniateir diwygio neu ddirymu datganiadau a hysbysiadau drwy ddatganiadau neu hysbysiadau dilynol.
17 

(1) Mae Rhan 1 o Atodlen 3 yn cynnwys dirymiadau a diwygiadau i is-ddeddfwriaeth.
(2) Mae Rhan 2 o Atodlen 3 yn cynnwys dirymiadau a diwygiadau i Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru ac Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor PysgodfeyddMôr De Cymru.
18 
Mae Rhan 3 o Atodlen 3 yn cynnwys dirymiadau a diwygiadau i Orchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 ac Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru mewn cysylltiad â physgodfa gocos Cilfach Tywyn.
Huw Irranca-Davies
Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
25 Mehefin 2024
ATODLEN 1
Erthygl 2
1 

(1) —Mae’r ardal benodedig o fewn y terfynau a ganlyn—
(a) llinell a dynnir tua’r dwyrain o Bwynt Ginst (cyfeirnod map SN 332079) i Bwynt Pen Tywyn (cyfeirnod map SN 357064);
(b) llinell a dynnir o:
(i) lleoliad A (cyfeirnod map SS 4280 9422) i,
(ii) lleoliad B (cyfeirnod map SS 4420 9862) i,
(iii) lleoliad C (cyfeirnod map SS 4472 9670), a
(iv) ar hyd y Penllanwau Astronomaidd i leoliad A;
(c) llinell a dynnir:
(i) yn y gorllewin, o ben Pier Pen-bre tua’r môr i bwynt mwyaf gogleddol Pwynt Whiteford, sy’n gorwedd rhwng Marc Penllanw Llanwau Cyffredin ar lannau gogleddol a deheuol yr aber yn y drefn honno;
(ii) yn y dwyrain, o ochr tua’r môr y rhan honno o Bont Reilffordd Casllwchwr sydd rhwng Marc Penllanw Llanwau Cyffredin ar y glannau gogledd-orllewinol a de-ddwyreiniol yn y drefn honno a llinell a dynnir o ben de-ddwyreiniol y rhan honno o’r bont reilffordd yn union i’r de hyd nes iddi daro Marc Penllanw Llanwau Cyffredin eto;
(iii) yn y gogledd a’r de, o Farc Penllanw Llanwau Cyffredin ar lannau gogleddol a deheuol yr aber yn y drefn honno rhwng y ffiniau gorllewinol a dwyreiniol;
(d) yr ardal islaw llinell y Penllanwau Astronomaidd a amgaeir gan linell a dynnir rhwng:
(i) pwynt A (lledred 53˚18’.87G, hydred 004˚12’.30Gn, cyfeirnod map SH 5320 8200), a
(ii) pwynt B (lledred 53˚18’.95G, hydred 004˚07’.76Gn, cyfeirnod map SH 5825 8200);
(e) llinell a dynnir rhwng y lleoliadau a ganlyn, fel y’u disgrifir:
(i) llinell syth o ledred 53˚08’.08G, hydred 004˚21’.05Gn, cyfeirnod map SH 4274 6234 i ledred 53˚08’.63G, hydred 004˚19’.02’Gn, cyfeirnod map SH 4504 6328;
(ii) ar hyd llinell y Penllanwau Astronomaidd o ledred 53˚08’.63G, hydred 004˚19’.02Gn, cyfeirnod map 4504 6328 i ledred 53˚08’.89G, hydred 004˚17’.90’Gn, cyfeirnod map 4632 6372;
(iii) llinell syth o ledred 53˚08’.89G, hydred 004˚17’.90’Gn, cyfeirnod map 4632 6372 i ledred 53˚08’.01G, hydred 004˚ 17’.85Gn, cyfeirnod map 4632 6210;
(iv) ar hyd llinell y Penllanwau Astronomaidd o ledred 53˚08’.01G, hydred 004˚17’.85’Gn, cyfeirnod map 4632 6210 i ledred 53˚07’.68G, hydred 004˚18’.55’Gn, cyfeirnod map 4552 6150;
(v) llinell syth o ledred 53˚07’.68G, hydred 004˚18’.55Gn, cyfeirnod map 4552 6150 i ledred 53˚07’.66’G, hydred 004˚19’.57’Gn, cyfeirnod map 4438 6150;
(vi) ar hyd y Penllanwau Astronomaidd o ledred 53˚07’.66G, hydred 004˚19’.57Gn, cyfeirnod map 4438 6150 i ledred 53˚08’.08G, hydred 004˚21’.05Gn, cyfeirnod map 4274 6234;
(f) llinell a dynnir rhwng y lleoliadau a ganlyn, fel y’u disgrifir:
(i) llinell syth o ledred 53˚13’.84G, hydred 004˚04’.53Gn, cyfeirnod map SH 6157 7241 i ledred 53˚15’.15G, hydred 004˚05’.17Gn, cyfeirnod map SH 6092 7486;
(ii) llinell syth o ledred 53˚15’.15G, hydred 004˚05’.17Gn, cyfeirnod map SH 6092 7486 i ledred 53˚16’.15G, hydred 003˚59’.46Gn, cyfeirnod map SH 6732 7654;
(iii) llinell syth o ledred 53˚16’.15G, hydred 003˚59’.46Gn, cyfeirnod map SH 6732 7654 i ledred 53˚15’.59G, hydred 003˚58’.81Gn, cyfeirnod map SH 6801 7548;
(iv) ar hyd llinell y Penllanwau Astronomaidd o ledred 53˚15’.59G, hydred 003˚58’.81Gn, cyfeirnod map SH 6801 7548 i ledred 53˚13’.84G, hydred 004˚04’.53Gn, cyfeirnod map SH 6157 7241.
(2) Yn yr atodlen hon ystyr y term “Penllanwau Astronomaidd” yw’r lefel uchaf o lanw y gellir rhagfynegi y bydd yn digwydd o dan amodau meteorolegol cyffredin ac unrhyw gyfuniad o amodau astronomaidd.
ATODLEN 2
Erthygl 9
1 
Mae’r amodau a ganlyn yn gymwys i bob trwydded a ddyroddir gan Weinidogion Cymru o dan erthygl 8 o’r Gorchymyn hwn.
2 
Rhaid i’r deiliad trwydded edrych ar wefan Llywodraeth Cymru bob dydd i gadarnhau bod gwely cocos ar agor cyn iddo bysgota am gocos neu gymryd cocos o’r gwely cocos hwnnw.
3 
Ni chaiff y deiliad trwydded bysgota am gocos neu eu cymryd, nac yn fwriadol ganiatáu i berson arall bysgota am gocos neu eu cymryd neu ei gynorthwyo i wneud hynny, o wely cocos rhwng hanner awr ar ôl machlud haul ar unrhyw ddiwrnod a hanner awr cyn codiad haul y diwrnod canlynol.
4 
Ni chaiff y deiliad trwydded ddefnyddio llestr sydd dros 10 metr o hyd yn ei chyfanrwydd pan gaiff ei mesur o’r blaen i’r starn, wrth bysgota am gocos neu gymryd cocos o wely cocos.
5 
Rhaid i ddeiliad trwydded hysbysu Gweinidogion Cymru os yw’r manylion sy’n ymwneud â’r llestr a nodir yn ei gais am drwydded yn newid ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod trwydded.
6 

(1) Rhaid i’r deiliad trwydded gyflwyno ffurflen dalfa ddyddiol i Weinidogion Cymru o fewn deuddydd i’r diwrnod y pysgotwyd am y cocos hynny neu y’u cymerwyd o wely cocos.
(2) Rhaid i ffurflen dalfa ddyddiol gofnodi—
(a) dyddiad pob dalfa o gocos,
(b) cyfanswm pwysau byw yr holl gocos a gasglwyd ar y dyddiad hwnnw, ac
(c) y gwely cocos y casglwyd y cocos ohono.
7 
Rhaid i’r deiliad trwydded ddidoli a golchi cocos cyn iddynt gael eu cymryd o’r gwely cocos ac, at y dibenion hyn, ystyrir bod cocosen wedi ei chymryd o wely cocos cyn gynted ag y bo wedi ei rhoi mewn cynhwysydd (gan gynnwys bagiau, sachau, a daliedyddion tebyg eraill).
8 

(1) Ni chaiff y deiliad trwydded fod â bag rhwyd yn ei feddiant nac yn ei lestr pan fydd ar wely cocos na defnyddio bag rhwyd i gasglu cocos o wely cocos.
(2) At ddibenion y paragraff hwn, ystyr “bag rhwyd” yw dyfais ystwyth a ddelir â llaw a ddefnyddir i bysgota am gocos neu gymryd cocos sydd â ffrâm galed a rhwyd eang, agored.
9 
Rhaid i’r deiliad trwydded gario ei drwydded bob amser (naill ai ar ffurf electronig neu bapur) wrth gasglu cocos o wely cocos.
ATODLEN 3
Erthyglau 17 a 18
RHAN 1
1 

(1) Mae Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y Tabl yn Atodlen 3 (Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru), dileer y rhesi sy’n ymwneud ag Is-ddeddf 21 (Gwahardd casglu Cocos gyda’r nos) ac Is-ddeddf 47 (Trwydded i Gymryd Cocos yn Aber y Tair Afon).
(3) Yn y tabl yn Atodlen 4 (Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru), dileer y rhes sy’n ymwneud ag Is-ddeddf 14 (Pysgodfa Gocos – Cau Tymhorol).
2 

(1) Mae Gorchymyn Cocos a Chregyn Gleision (Ardal Benodedig) (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn erthygl 2—
(a) hepgorer y diffiniad o “cocos” (“cockles”);
(b) hepgorer y diffiniad o “pysgod cregyn penodedig” (“specified shellfish”).
(3) Yn erthygl 3—
(a) yn lle “y pysgod cregyn penodedig” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “cregyn gleision” (gan dreiglo yn ôl yr angen);
(b) ym mharagraff (1) yn lle “bysgod cregyn penodedig” rhodder “gregyn gleision” ac yn lle “pysgod cregyn penodedig” rhodder “cregyn gleision”;
(c) ym mharagraff (2)(a), hepgorer “phum cilogram mewn pwysau byw o gocos a”.
(4) Yn erthygl 6(1)(a) yn lle “y pysgod cregyn penodedig”, rhodder “cregyn gleision” (gan dreiglo yn ôl yr angen).
(5) Yn erthygl 7, yn lle “y pysgod cregyn penodedig” ym mhob lle y mae’n digwydd, rhodder “cregyn gleision” (gan dreiglo yn ôl yr angen).
(6) Yn erthygl 8—
(a) ym mharagraff (1) yn lle “bysgod cregyn penodedig”, rhodder “gregyn gleision” ac yn lle “pysgod cregyn penodedig” rhodder “cregyn gleision”;
(b) ym mharagraff (1) yn lle “y pysgod cregyn hynny” rhodder “y cregyn gleision hynny”;
(c) ym mharagraff (2)—
(i) yn is-baragraff (a) yn lle “bysgod cregyn penodedig” rhodder “gregyn gleision” ac yn is-baragraff (ch) yn lle “y pysgod cregyn penodedig” rhodder “y cregyn gleision”;
(ii) hepgorer is-baragraff (b).
RHAN 2
3 

(1) Mae Is-ddeddfau  cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Is-ddeddf 12 (Cyfyngiadau ar Bysgota am Bysgod Cregyn Molysgaidd Dwygragennog)—
(a) hepgorer paragraff 1 b) a’r “or” ar ei ôl;
(b) ar ôl paragraff 3, mewnosoder “References in this Byelaw to bivalve molluscan shellfish do not include cockles.”
(3) Yn Is-ddeddf 13 (Cocos – Isafswm Maint), ar y diwedd mewnosoder “This Byelaw does not apply in the Specified Area defined in article 2 of and Schedule 1 to the Cockle Management and Permitting (Specified Area) (Wales) Order 2024.”
(4) Yn Is-ddeddf 13A (Cocos a Chregyn Gleision – Rheoli’r Bysgodfa)—
(a) hepgorer “cockles and” a “cockles or” ym mhob lle maent yn digwydd, gan gynnwys yn y pennawd;
(b) ym mharagraff 1, hepgorer “cockle (Cerastoderma edule) or”;
(c) ym mharagraff 2, hepgorer “cockle or”.
(5) Mae Is-ddeddf 14 (Pysgodfa Gocos – Cau Tymhorol) wedi ei dirymu.
(6) Yn Is-ddeddf 16 (Pysgodfa Pysgod Cregyn – Cau Dros Dro), ar y diwedd mewnosoder “This Byelaw does not apply in relation to cockles.”
(7) Yn Is-ddeddf 17 (Ailddodi Pysgod Cregyn), hepgorer “, and in re-depositing cockles, in accordance with this byelaw, shall spread them thinly and evenly over the beds.”
4 

(1) Mae Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Is-ddeddf 13 (Pysgod Cregyn – Meintiau Lleiaf), hepgorer paragraff c).
(3) Mae Is-ddeddf 21 (Gwahardd Casglu Cocos gyda’r Nos) wedi ei dirymu.
(4) Yn Is-ddeddf 22 (Cyfrif am Bwyso), ar y diwedd mewnosoder “This Byelaw does not apply in relation to cockles.”
(5) Yn Is-ddeddf 23 (Pysgod Cregyn – eu Hailddodi)—
(a) hepgorer “, and in re-depositing cockles (Crerastoderma edule), in accordance with this Byelaw shall spread them thinly and evenly over the beds”;
(b) ar y diwedd mewnosoder “This Byelaw does not apply in relation to cockles.”
(6) Yn Is-ddeddf 24 (Cau Pysgodfeydd Pysgod Cregyn dros dro), ar ôl paragraff ii mewnosoder “This Byelaw does not apply in relation to cockles.”
(7) Yn Is-ddeddf 40 (Pysgod Cregyn Molysgaidd Dwygragennog – Dulliau Pysgota), ar y diwedd mewnosoder “This Byelaw does not apply in relation to cockles.”
(8) Mae Is-ddeddf 47 (Trwydded i Gymryd Cocos yn Aber y Tair Afon) wedi ei dirymu.
RHAN 3
5 

(1) Mae Gorchymyn Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (Cychwyn Rhif 1, Darpariaethau Canlyniadol, Darpariaethau Trosiannol a Darpariaethau Arbed) (Cymru a Lloegr) 2010 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn y Tabl yn Atodlen 3 (Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr De Cymru), dileer y rhesi sy’n ymwneud ag Is-ddeddf 15 (Defnyddio Cerbydau ym Mhysgodfa Gocos Cilfach Tywyn), Is-ddeddf 16 (Dim Casglu Cocos ar Ddydd Sul), Is-ddeddf 17 (Trwyddedu Casglu Cocos yng Nghilfach Tywyn), Is-ddeddf 18 (Cwota Cocos Dyddiol (Cilfach Tywyn)), ac Is-ddeddf 19 (Casglu Cocos at Ddefnydd Personol – Cilfach Tywyn).
6 

(1) Mae Is-ddeddfau cyn-Bwyllgor Pysgodfeydd Môr Gogledd-orllewin Lloegr a Gogledd Cymru wedi eu diwygio fel a ganlyn.
(2) Mae Is-ddeddf 15 (Defnyddio Cerbydau ym Mhysgodfa Gocos Cilfach Tywyn) wedi ei dirymu.
(3) Mae Is-ddeddf 16 (Dim Casglu Cocos ar Ddydd Sul) wedi ei dirymu.
(4) Mae Is-ddeddf 17 (Trwyddedu Casglu Cocos yng Nghilfach Tywyn) wedi ei dirymu.
(5) Mae Is-ddeddf 18 (Cwota Cocos Dyddiol (Cilfach Tywyn)) wedi ei dirymu.
(6) Mae Is-ddeddf 19 (Casglu Cocos at Ddefnydd Personol – Cilfach Tywyn) wedi ei dirymu.